Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol - Zoom
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Y Cynghorwyr Menna
Baines, Aeron M. Jones, Dafydd Owen, W.Roy Owen a Hefin Underwood. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion Cyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ar 1 Hydref, 2020 fel rhai cywir (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y Cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 1 Hydref,
2020 fel rhai cywir. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: ‘Roedd yr aelodau wedi derbyn nodyn briffio
ymlaen llaw gan y Swyddog Monitro ynglŷn ag eitem 8 – Cynllun Gostyngiadau
Treth Cyngor 2021/22 ac eitem 9 – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu
Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2021/22. (1) Datganodd y Cynghorydd Stephen Churchman
fuddiant personol yn eitem 8 ar y rhaglen – Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor
2021/22 – oherwydd ei fod yn hawlio gostyngiad
Treth Cyngor ar ei gartref, ac felly’n elwa o’r cynllun. Nid oedd yr aelod
o’r farn ei fod yn fuddiant sy’n rhagfarnu, ac ni adawodd y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem. (2) Datganodd yr aelodau canlynol fuddiant
personol yn eitem 9 ar y rhaglen – Treth Cyngor: Hawl Disgresiwn i Ganiatáu
Disgowntiau a / neu Godi Premiwm 2021/22:- ·
Y Cynghorydd Peredur Jenkins oherwydd ei fod yn
rhentu dau eiddo. ·
Y Cynghorydd Aled Wyn Jones oherwydd bod gan
berthynas iddo ail-gartref yng Ngwynedd. ·
Y Cynghorydd Linda Morgan oherwydd bod ganddi
deulu sy’n berchen ar ail gartrefi. ·
Y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts oherwydd bod
ganddo gyswllt â rhywun fydd yn cael ei effeithio gan y Premiwm. ·
Y Cynghorydd Angela Russell oherwydd ei bod yn
berchen ar ail gartref ac yn gweithio i bobl tai haf. ·
Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn oherwydd bod ganddo
gysylltiad agos â pherson sy’n talu’r Premiwm. Roedd yr aelodau
o’r farn eu bod yn fuddiannau sy’n rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod y
drafodaeth ar yr eitem. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cydymdeimlwyd â’r canlynol:- ·
Y Cynghorydd Gareth Thomas ar golli ei fam yn ddiweddar. ·
Teulu’r cyn-gynghorydd Morgan Vaughan. Cyflwynwyd
teyrnged gan y Cynghorydd Anne Lloyd Jones. ·
Teulu’r Cynghorydd Charles Wyn Jones. Cyflwynwyd teyrnged gan y
Cynghorydd Selwyn Griffiths. Nodwyd hefyd bod y
Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid
yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth. Dymunwyd yn dda i’r canlynol:- ·
Mr Dewi Pritchard
Jones ar ei ymddeoliad fel Crwner ddiwedd Tachwedd, a diolchwyd iddo am ei
waith ar hyd y blynyddoedd. ·
Elfyn Evans o
Ddolgellau, a gynt o Ddinas Mawddwy, yn rownd derfynol Pencampwriaeth Rali’r
Byd. Llongyfarchwyd y canlynol:- ·
Y Tîm Ynni yn yr
Adran Tai ac Eiddo ar ennill gwobr Brydeinig (Energy Management Awards – Public
Sector Team of the Year) – gwobr haeddiannol iawn o ystyried, nid yn unig eu
llwyddiant wrth leihau allyriadau carbon, ond hefyd eu gwaith arbennig o dda yn
y maes caffael ynni. ·
Liz Saville Roberts,
arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, ar ennill Gwobr Aelod Seneddol y Flwyddyn
gan yr elusen amrywiaeth a chynhwysiant, Sefydliad Patchwork. Nodwyd bod Aelod Seneddol Dwyfor Meirionnydd
wedi ei chydnabod am ei gwaith rhanbarthol yn hyrwyddo hawliau merched ifanc,
gan ennill gwobr ‘Aelod Seneddol Plaid Arall y Flwyddyn.’ |
|
GOHEBIAETH, CYFATHREBIADAU, NEU FUSNES ARALL Derbyn
unrhyw ohebiaeth, gyfathrebiadau neu fusnes arall a ddygir gerbron yn arbennig
gan gyfarwyddyd y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
CWESTIYNAU Ystyried
unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.9 o’r
Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw gwestiynau. |
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2021/22 PDF 275 KB Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cyllid (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.1
Parhau i weithredu Cynllun Lleol y
Cyngor am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2021 fel ag yr oedd yn ystod
2020/21. Felly, bydd yr amodau canlynol
(a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau: a) Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd rhyfel, a phensiynau
gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed gweithio fel ei gilydd. b) Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i bensiynwyr a
hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sy’n y Cynllun Rhagnodedig. c) Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith
o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y Cynllun Rhagnodedig. 1.2
Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r
Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud
mân addasiadau i’r cynllun am 2021/22, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y
cynllun. Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad
yn gofyn i’r Cyngor gadarnhau parhad y Cynllun Lleol
cyfredol ar gyfer darparu cymorth tuag at dalu’r Dreth Gyngor am y flwyddyn yn
cychwyn 1 Ebrill, 2021. PENDERFYNWYD (a) Parhau i weithredu Cynllun Lleol y Cyngor
am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2021 fel ag yr oedd yn ystod 2020/21. Felly, bydd yr amodau canlynol (i – iii isod)
ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau: (i) Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau
anabledd rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr
oed gweithio fel ei gilydd. (ii) Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o
ostyngiadau i bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sydd
yn y Cynllun Rhagnodedig. (iii) Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i
bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o
bryd yn y Cynllun Rhagnodedig. (b) Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth
Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân
addasiadau i’r cynllun am 2021/22, ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y
cynllun. |
|
TRETH CYNGOR: HAWL DISGRESIWN I GANIATAU DISGOWNTIAU A/NEU GODI PREMIWM 2021/22 PDF 346 KB Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cyllid (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod y Cyngor yn gohirio
penderfyniad ynglŷn â chaniatáu disgowntiau a chodi premiwm, gan ofyn i’r
Cabinet ystyried priodoldeb
cynyddu y lefel i hyd at 100%. Gofynnir i'r Cabinet gynnal proses ymgynghori ar y sail yma, ystyried y ffactorau perthnasol, a dod
ag argymhelliad pellach i'r Cyngor ym mis
Mawrth 2021 yn unol ag Adran 12, 12B a 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth
Leol 1992. Cofnod: Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad
yn gofyn i’r Cyngor am gadarnhad ffurfiol am 2021/22 o’r penderfyniadau
blaenorol i beidio caniatáu disgownt i ail gartrefi a pheidio caniatáu disgownt
ar eiddo gwag, ac i godi premiwm o 50% ar eiddo perthnasol o’r fath. Gan gyfeirio’n benodol at ail-gartrefi, nododd yr Aelod Cabinet:- ·
Bod y ddarpariaeth
a’r amlder o gartrefi gwyliau wedi tyfu dros y blynyddoedd diwethaf, ynghyd â’r
effeithiau cysylltiedig, yn gymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol. ·
Bod poblogrwydd
Gwynedd fel cyrchfan wyliau a’r defnydd o lety gwyliau fel buddsoddiad ariannol
yn ffactorau, a gwelwyd twf sylweddol yn ddiweddar yn y niferoedd o unedau
preswyl sy’n cael eu defnyddio fel llety gwyliau ar draws y sir gyfan. ·
Y bwriedid cyflwyno
papur ymchwil ar reoli’r defnydd o dai fel tai gwyliau i’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau ar 10 Rhagfyr, gydag argymhellion penodol i’w trafod yn y Cabinet ar
15 Rhagfyr. ·
Er y cydnabyddid na
fyddai modd gweithredu ar yr argymhellion hynny’n syth oherwydd yr angen am
ddeddfwriaeth gan Lywodraeth Cymru, roedd graddfa’r Premiwm ar eiddo yn fater
roedd gan y Cyngor llawn fodd i weithredu arno. ·
Y bu gohebiaeth
gyson a chyfarfodydd ffurfiol ac anffurfiol rhwng Cyngor Gwynedd, gweinidogion
a swyddogion Llywodraeth Cymru, i drafod ein pryderon ynglŷn â gallu
perchnogion ail-gartrefi i ddefnyddio Adran 66 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol
1988 er mwyn trosglwyddo eu heiddo o fod yn eiddo domestig, sy’n talu Treth
Cyngor, i fod yn unedau hunan-ddarparu, sy’n destun ardrethi annomestig. Nododd y Dirprwy Arweinydd:- ·
Bod yr argymhelliad yn
cynnig cadw at y sefyllfa bresennol o godi premiwm o 50% ar ail gartrefi a thai
gweigion, ond y daeth yn amlwg o drafodaethau gydag aelodau, cynigion yn y
Cyngor a galwadau cyhoeddus yn ein cymunedau, bod angen ail-ystyried y Premiwm,
gyda’r bwriad o’i gynyddu. ·
Bod y sefyllfa’n
argyfyngus yn y sir, gyda tai o’r stoc yn cael eu colli i fod yn ail-gartrefi a
phobl leol yn methu fforddio prynu tai yn eu cymunedau. ·
Bod y Cabinet a’r
aelodau wedi bod yn pwyso ar y Llywodraeth i newid y ddeddf a rhoi’r hawliau i
ni reoli ail-gartrefi. Roedd y
Llywodraeth wedi dweud nad oedd gennym dystiolaeth i gyfiawnhau hynny, ond
roedd y dystiolaeth wedi’i chyhoeddi bellach, a byddai’n cael ei thrafod yn
fuan. ·
Yn ogystal â thrafod
y papur ymchwil ar reoli’r defnydd o dai fel tai gwyliau, byddai’r Cabinet ar
15 Rhagfyr yn trafod y Cynllun Gweithredu Tai, sef cynllun uchelgeisiol a
chyffrous oedd yn buddsoddi oddeutu £77m mewn darparu tai ar gyfer pobl ifanc y
sir. · O fod yn ymwybodol o’r teimladau cryf ar y mater hwn, yr hoffai gynnig gwelliant i ddileu’r geiriau “ac yn codi premiwm o 50% ar ail gartrefi dosbarth B” yn ail bwynt bwled yr argymhelliad, gan osod y geiriau “ond yn gohirio penderfyniad ynglŷn â gosod y Premiwm a gofyn i’r Cabinet ystyried priodoldeb cynyddu y lefel i 100%. Gofynnir i’r Cabinet gynnal proses ymgynghori ar y sail yma, ystyried y ffactorau perthnasol a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
CYTUNDEB TERFYNOL AR GYNLLUN TWF GOGLEDD CYMRU PDF 530 KB Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor (ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Cymeradwyo’r
Cynllun Busnes Cyffredinol fel y ddogfen sy'n gosod
y trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd
Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo
i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru. (b) Cymeradwyo’r
darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol, ac yn benodol yn
mabwysiadu’r trefniadau ar gyfer Craffu
sydd wedi’u nodi yn “Cytundeb Llywodraethu
2: Atodiad 3” ohono fel sail ar gyfer
cwblhau’r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau’r DU a Chymru. (c) Yn
ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb Llywodraethu 2, fod Cyngor
Gwynedd yn cytuno i weithredu fel
yr Awdurdod Lletya a Chorff Atebol, ac yn llofnodi’r
llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid, drwy law y Prif Swyddog Cyllid. (ch) Cymeradwyo'r dull a
ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca sydd ei angen
mewn egwyddor i hwyluso'r llif
arian negyddol
ar gyfer y Cynllun Twf, ac yn cynnwys darpariaeth
o fewn Cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad
hwn a’r cyfraniadau
craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu
fel sydd wedi’i nodi yn
GA2 (ac ym mharagraffau 5.5
– 5.7 o’r adroddiad). (d) Dirprwyo awdurdod i’r Prif Weithredwr,
mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd, y Swyddog Monitro a’r Swyddog Adran
151, i gytuno ar fân newidiadau
i’r dogfennau gyda’r Partneriaid fel sydd angen
i gwblhau’r cytundeb. Cofnod: Cyflwynodd yr
Arweinydd adroddiad yn cyflwyno’r pecyn o ddogfennau allweddol oedd eu hangen
ar gyfer cyrraedd Cytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda
Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.
Nododd:- ·
Y byddai mabwysiadu’r argymhellion yn caniatáu
arwyddo’r Cytundeb Terfynol gyda’r ddwy Lywodraeth ar 17 Rhagfyr. ·
Y bu’n daith hir o dair blynedd o safbwynt y
Cynllun Twf ei hun, ond bod sefydlu Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru
wedi digwydd bron i wyth mlynedd yn ôl, pan ddaeth awdurdodau’r Gogledd, y
prifysgolion, y colegau a’r sector breifat at ei gilydd i gyfarch materion
datblygu’r economi ar lefel ranbarthol. ·
O gydweithio, bod y bartneriaeth yn cael ei
chydnabod yn eang fel un gadarn, ac yn esiampl o ymarfer da. ·
Bod y chwe awdurdod sy’n bartneriaid ar y Bwrdd
o sawl lliw gwleidyddol a chefndir economaidd gwahanol iawn, ond bod y chwe
Arweinydd yn gytûn mai lles pobl y Gogledd sy’n bwysig. ·
Y dymunai ddiolch i aelodau’r bartneriaeth, gan
gynnwys y prifysgolion a’r colegau a’r sector breifat, sydd wedi bod yn rhan
fawr o’r drafodaeth ac o ddatblygu’r cynlluniau. ·
Yr hoffai ddiolch hefyd i’r tîm o swyddogion dan arweiniad Alwen Williams, Cyfarwyddwr
Portffolio, a nododd fod y ffaith bod yna gystal tîm o swyddogion yn y Gogledd
yn gweithredu yn y maes datblygu’r economi yn rhoi hyder iddo y bydd modd
cyfarch y problemau mawr fydd yn ein hwynebu i’r dyfodol. ·
Fel swyddogion statudol yr
awdurdod lletya, bu Dafydd Edwards, Pennaeth Cyllid, ac Iwan Evans, Swyddog
Monitro yn allweddol yn arwain timau o swyddogion ar draws y Gogledd wrth
gyflawni’r gwaith cyllidol a chyfreithiol a llywodraethiant, ac y dymunai
ddiolch iddynt hwythau hefyd am eu cyfraniad arbennig i waith y Bwrdd. ·
Bod sefyllfa’r economi yn y
Gogledd wedi newid ers i brosiectau’r cynllun gael eu datblygu’n
wreiddiol. Roedd Covid wedi cael effaith
andwyol iawn, ac roedd dyfodol ansicr i’r economi hefyd yn sgil beth bynnag
fyddai’n deillio o Brexit. ·
Bod y Bwrdd Uchelgais yn fwy na’r Cynllun Twf,
a bwriedid edrych ar ffrydiau eraill o fuddsoddiadau ariannol o sawl
cyfeiriad. ·
Ei fod yn siomedig bod Llywodraeth San Steffan
wedi darparu llai o arian na’r cyfanswm a ofynnwyd amdano ar y cychwyn, ond
byddai arwyddo’r Cytundeb Terfynol cyn y Nadolig yn rhyddhau ffrwd o’r £240m,
gyda £16m yn cael ei dderbyn bob blwyddyn dros y pymtheng mlynedd nesaf ar
gyfer gweithredu prosiectau’r Cynllun Twf dros y 5-6 mlynedd nesaf. Croesawyd Alwen
Williams (Cyfarwyddwr Portffolio) a Sioned Williams (Pennaeth Economi a Chymuned)
i’r cyfarfod, a gwahoddwyd y Cyfarwyddwr Portffolio i roi cyflwyniad
sleidiau. Yn ystod y cyflwyniad,
manylwyd ar:- ·
Bortffolio y Cynllun Twf -
nod, maint y buddsoddiad ar gyfer y cynllun yn ei gyfanrwydd ac amcanion
gwariant. ·
Trosolwg o’r rhaglenni ·
Rhestr o Brosiectau’r Cynllun
Twf. ·
Buddion rhanbarthol Gwahoddwyd y
Pennaeth Economi a Chymuned i gyflwyno sleid ar y buddion penodol i Wynedd,
sef:- ·
Gwell cysylltiad digidol ar gyfer busnesau,
trigolion ac ymwelwyr. ·
Mynediad at gyfleusterau, offer, cefnogaeth ac
ymchwil arbenigol ar gyfer busnesau bwyd a diod Gwynedd drwy fuddsoddiad ar
safle Glynllifon. · Mynediad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2019/20 PDF 205 KB Cyflwyno
adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau
(ynghlwm). Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Dr Einir
Young, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, i’r cyfarfod i gyflwyno adroddiad
blynyddol y pwyllgor am 2019/20. Wrth gyflwyno’r adroddiad, tynnwyd sylw’n benodol at y ffaith bod y
pwyllgor wedi adrodd ers sawl blwyddyn nad oedd achosion yn dod ger eu bron, ac
felly yn dod i’r casgliad fod safonau Gwynedd yn uchel iawn. Ond, yn flynyddol yng nghyfarfod llawn y
Cyngor, roedd aelodau yn nodi fod achosion yn cael eu hanfon at yr Ombwdsmon,
ond bod y broses yn hirwyntog a’r trothwy ar gyfer ymchwiliad yn uchel, gan ei
fod yn penderfynu yn amlach na pheidio nad oedd achos i’w ateb. Roedd hyn yn siom i bobl oedd yn credu bod
ganddynt gŵyn ddilys. Eglurwyd nad oedd y Pwyllgor Safonau yn cael manylion yr achosion oedd
yn mynd gerbron yr Ombwdsmon, oherwydd, petai achos i’w ateb, byddai’n cael ei
anfon yn ôl at y pwyllgor, a byddai gwybod manylion yr achos ymlaen llaw yn
rhagfarnu’r pwyllgor. Fodd bynnag,
dymunid sicrhau’r Aelodau a’r trigolion fod cynnal safonau o’r pwys mwyaf, a
bod rhaid i bawb gymryd cyfrifoldeb dros eu hymddygiad eu hunain. Diolchodd Dr Einir
Young i’r Swyddog Monitro a’r Uwch Gyfreithiwr Corfforaethol am eu harweiniad
cyfreithiol a’u cefnogaeth drwy gydol y flwyddyn. Rhoddwyd cyfle i’r aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau
unigol:- ·
Sylwyd nad oedd yr
Ombwdsmon wedi ymdrin ag unrhyw achos eto eleni, a mynegwyd pryder bod pobl yn
teimlo bellach nad oes pwrpas mynd â’u cŵyn at yr Ombwdsmon. Nid oedd modd i neb, heblaw cadeirydd neu
glerc cyngor cymuned, droi at Unllais am gymorth, a holwyd i ble roedd pobl i
fod i fynd i gael chwarae teg. ·
Cyfeiriwyd at achos
lle bu i gynghorwyr ymddiswyddo o ganlyniad i benderfyniad yr Ombwdsmon i
beidio ymchwilio i’w cŵyn eu bod yn cael eu bwlio. ·
Nodwyd ei bod yn
hawdd cyhuddo cynghorwyr o fwlio, ac unwaith mae’r bys wedi’i bwyntio, rhaid
i’r unigolion hynny weithio’n galed iawn i amddiffyn eu hunain. Nid yw cyhuddiad o fwlio yn golygu o
reidrwydd bod bwlio’n digwydd. Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nodwyd bod rhaid gweithio o fewn y drefn
sy’n bodoli. Roedd yna dros 700 o
aelodau cynghorau cymuned a thref yng Ngwynedd a tua 63 o gynghorau, ac roedd
yna brinder capasiti o fewn y cynghorau hynny i ymdrin eu hunain â materion
sydd ddim yn cyrraedd y trothwy, yn enwedig yn y cynghorau llai. Nid oedd ateb syml i’r broblem, oni bai bod
pot o adnoddau ychwanegol ar gael i hwyluso proses wahanol. Diolchwyd i’r Dr Einir Young am ei chyflwyniad. |
|
RHYBUDD O GYNNIG Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi
wrtho dan Adran 4.20 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Paul Rowlinson yn
cynnig fel a ganlyn:- “Penderfyna’r Cyngor: (a) Ysgrifennu at Lywodraeth Cymru a gofyn iddi ddefnyddio unrhyw
bwerau sydd ganddi i liniaru unrhyw effaith andwyol ar anifeiliaid a phobl sy’n
agored i niwed a achosir gan arddangosfeydd tân gwyllt. (b) Ysgrifennu at Lywodraeth y DG a gofyn iddi gyflwyno deddfwriaeth
i osod uchafswm lefel sŵn o 90dB ar gyfer tân gwyllt a werthir i’r cyhoedd
ar gyfer arddangosfeydd preifat. (c) Gofyn i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau roi sylw o fewn ei raglen
waith i adolygu pa gamau all y Cyngor gymeryd i hyrwyddo neu annog :
Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Ysgrifennu
at Lywodraeth Cymru a gofyn iddi ddefnyddio
unrhyw bwerau sydd ganddi i
liniaru unrhyw effaith andwyol ar anifeiliaid a phobl sy’n agored
i niwed a
achosir gan arddangosfeydd tân gwyllt. (b) Ysgrifennu
at Lywodraeth y DG a gofyn iddi gyflwyno deddfwriaeth
i osod uchafswm
lefel sŵn o 90dB ar gyfer tân
gwyllt a werthir i’r cyhoedd ar
gyfer arddangosfeydd preifat. (c) Gofyn
i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau roi sylw o fewn
ei raglen waith i adolygu
pa gamau all y Cyngor gymeryd
i hyrwyddo neu annog :
Cofnod: Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y
Cynghorydd Paul Rowlinson o dan Adran 4.20 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:- “Penderfyna’r
Cyngor: (a) Ysgrifennu
at Lywodraeth Cymru a gofyn iddi ddefnyddio unrhyw bwerau sydd ganddi i liniaru
unrhyw effaith andwyol ar anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed a achosir gan
arddangosfeydd tân gwyllt. (b) Ysgrifennu
at Lywodraeth y DG a gofyn iddi gyflwyno deddfwriaeth i osod uchafswm lefel
sŵn o 90dB ar gyfer tân gwyllt a werthir i’r cyhoedd ar gyfer
arddangosfeydd preifat. (c) Gofyn
i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau roi sylw o fewn ei raglen waith i adolygu pa
gamau all y Cyngor gymeryd i hyrwyddo neu annog: ·
Fod
pob arddangosfa tân gwyllt gyhoeddus o fewn ffiniau’r sir yn cael ei hysbysebu
ymlaen llaw, o fewn ei gyffiniau gan roi cyfle i bobl gymryd rhagofalon dros eu
hanifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed. ·
Ymgyrch
i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl
sy’n agored i niwed – gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru
risgiau. ·
Cyflenwyr
lleol tanau gwyllt i werthu tân gwyllt llai swnllyd ar gyfer arddangosfeydd
cyhoeddus. ·
Pobl
i gyfyngu defnyddio tân gwyllt i gyfnod agos at ddyddiadau arbennig.” Mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan sawl aelod,
ond nodwyd bod raid cofio hefyd bod tân gwyllt yn rhan annatod o ddathliadau
crefyddol, megis Diwali, Gŵyl y Goleuni. PENDERFYNWYD mabwysiadu’r
cynnig, sef:- (a) Ysgrifennu at Lywodraeth
Cymru a gofyn iddi ddefnyddio unrhyw bwerau sydd ganddi i liniaru unrhyw
effaith andwyol ar anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed a achosir gan
arddangosfeydd tân gwyllt. (b) Ysgrifennu at Lywodraeth y DG
a gofyn iddi gyflwyno deddfwriaeth i osod uchafswm lefel sŵn o 90dB ar
gyfer tân gwyllt a werthir i’r cyhoedd ar gyfer arddangosfeydd preifat. (c) Gofyn i’r Pwyllgor Craffu
Cymunedau roi sylw o fewn ei raglen waith i adolygu pa gamau all y Cyngor
gymeryd i hyrwyddo neu annog: ·
Fod pob arddangosfa tân gwyllt
gyhoeddus o fewn ffiniau’r sir yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw, o fewn ei
gyffiniau gan roi cyfle i bobl gymryd rhagofalon dros eu hanifeiliaid a phobl
sy’n agored i niwed. ·
Ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y
cyhoedd o effaith tân gwyllt ar les anifeiliaid a phobl sy’n agored i niwed –
gan gynnwys y rhagofalon y gellir eu cymryd i liniaru risgiau. ·
Cyflenwyr lleol tanau gwyllt i
werthu tân gwyllt llai swnllyd ar gyfer arddangosfeydd cyhoeddus. ·
Pobl i gyfyngu defnyddio tân
gwyllt i gyfnod agos at ddyddiadau arbennig. |