Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Nodyn: Amser cychwyn - 2.00pm - Start time
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn
unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Craig ab Iago, Louise Hughes, Annwen Hughes,
Dewi Jones, Elwyn Jones, June Jones, Huw Wyn Jones, Nigel Pickavance a Gareth
A. Roberts |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y Cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor
a gynhaliwyd ar 9 Mai, 2024 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nodwyd bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd
wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth. Nodwyd
bod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar a dymunwyd adferiad
llwyr a buan i bob un ohonynt. Llongyfarchwyd
pawb o Wynedd a
fu’n llwyddiannus yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn yn ddiweddar, ac yn arbennig i
Lois Medi William o Benrhosgarnedd, Prifardd yr Eisteddfod. Yn ogystal, llongyfarchwyd
Medi Harris o Borth y Gest sydd wedi ei dewis i sgwad nofio Gemau Olympaidd
Paris 2024. Llongyfarchwyd yr Aelodau Seneddol a etholwyd yn yr Etholiad cyffredinol
yn ddiweddar a diolchwyd i staff y Cyngor, ac eraill a fu ynghlwm â’r holl
waith yn ystod yr Etholiad. Dymunwyd pob hwyl i Glwb Pêl-droed y Bala a Chlwb Pêl-droed Caernarfon
oedd yn chwarae yn un o gystadlaethau pêl droed Ewrop - Caernarfon am y tro
cyntaf erioed. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi. |
|
Ystyried unrhyw
gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r
Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (Cyhoeddwyd atebion
ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.) (1)
Cwestiwn Y Cynghorydd Jina Gwyrfai Pa fonitro a wneir o’r stoc tai cymdeithasol
sydd dan reolaeth yr Asiantaethau Tai ar ran Cyngor
Gwynedd i sicrhau’r defnydd mwyaf effeithiol
i’n trigolion a chymunedau? Yn benodol, pa ystadegau sydd ar gael i nodi i)
Tan-feddiant (un person mewn tŷ 3 neu 4 llofft) ii)
Gor-feddaint (teulu
(rhiant/rhieni a dau blentyn neu ragor) mewn eiddo dwy lofft gyda’r plant mewn oed I gael
llofft ei hunain oherwydd amodau cyfreithiol oed/rhyw) iii)
Absenoldeb tenant
(rhywun sy’n talu rhent ond
nad yw’n byw yn yr eiddo’n
barhaol) iv)
Cyfnewid tŷ trwy hysbysebu
am ‘houseswap’ preifat
Ateb – Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, ar
ran Aelod Cabinet Tai Yn sgil y trosglwyddiad stoc tai cymdeithasol
yn 2010, nid oes gan Gyngor Gwynedd rôl nac adnodd i fonitro perfformiad y
Cymdeithasau Tai sydd yn weithredol yn y sir. Mae’r rôl monitro cymdeithasau
tai yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth Cymru trwy’r Fframwaith Rheoleiddiol ar gyfer
Cymdeithasau Tai sydd wedi’u cofrestru yng Nghymru. Er fod gan y Cyngor gyfrifoldeb dros
weithredu’r Polisi Gosod Tai Cyffredin ac yn gyfrifol am y Gofrestr Dai ar ran
y Bartneriaeth Tai, mae’r materion a godir gan yr Aelod yn faterion gweithredol
sy’n llwyr o fewn rheolaeth y cymdeithasau tai unigol. Fodd bynnag, mae gan y
Cyngor drefniadau cadarn trwy’r Bartneriaeth Dai i hwyluso cydweithio er mwyn
cynyddu’r cyfleoedd i drigolion Gwynedd gael mynediad at dai fforddiadwy, ac
mae’r Adran Tai ac Eiddo eisoes wedi ysgrifennu yn ffurfiol at y cymdeithasau tai
i ofyn am yr wybodaeth. Cwestiwn Atodol Y
Cynghorydd Jina Gwyrfai A ydych chi’n derbyn fod y materion hyn yn
achosi loes creulon a rhwystredigaeth i’n pobl ni, yn cael effaith negyddol ar ein cymunedau ac
yn achos y ‘houseswaps’ yn niweidiol i’r yr iaith
Gymraeg? Os felly, sut gall y Cyngor, ar ôl derbyn y data priodol,
ddylanwadu/cydweithio ar y Bartneriaeth
Tai a gwella’r sefyllfa anfoddhaol bresennol,
gan sicrhau defnydd effeithiol o’n stoc tai prin? Ateb – Arweinydd y Cyngor, Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn, ar
ran Aelod Cabinet Tai Er nad yn cytuno gyda'r datganiad cyntaf gan nad oes tystiolaeth benodol ar hyn o bryd yn ôl y Gwasaneth Tai sydd yn cydfynd â sail y pryderon, nododd yr Arweinydd, ei fod yn ymwybodol bod rhwystredigaeth oherwydd bod gan y Cyngor rhestr aros hirfaith a hynny yn broblem sylweddol i Cyngor Gwynedd fel sawl Cyngor arall. Fodd bynnag, nododd bod cais wedi ei wneud i’r Partneriaid, nid yn unig yn gofyn iddynt gyflwyno’r wybodaeth sydd wedi ei gynnwys yn y cwestiwn gwereiddiol, ond hefyd i ymchwilio i mewn i'r sefyllfa i ymateb yn y ffordd mwyaf priodol ar sail y dystiolaeth. O safbwynt tanfeddianu a gorlenwi, nodwyd bod Polisi Gosod Tai Cyffredinol y Cyngor yn gosod blaenoriaethau ar gyfer dyrannu eiddo cymdeithasol yn y sir a bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CYNLLUN RHEOLI ASEDAU 2024 - 2034 PDF 227 KB Cyflwyno
adroddiad Arweinydd y Cyngor. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD Mabwysiadu’r Cynllun Asedau 2024-2034 yn unol ag argymhelliad
y Cabinet ar 11eg Mehefin 2024 ac i gynnwys:
Cofnod: Cyn cyflwyno’r
adroddiad, cymerodd Arweinydd y Cyngor y cyfle i longyfarch yr Aelod Seneddol Liz Saville Roberts ar
fuddugoliaeth sylweddol yn yr etholiad cyffredinol; ar lwyddiant gwych Llinos
Medi ar ei phenodiad yn Aelod Seneddol Môn, ac i Catrin Wager (cyn aelod
Cabinet) ar ei pherfformiad gwych yn etholaeth Aberconwy. Cyflwynwyd adroddiad gan Arweinydd y Cyngor
yn gofyn i’r Cyngor fabwysiadu Cynllun Asedau 2024-34 yn unol ag argymhelliad y
Cabinet, 11 Mehefin 2024. Eglurwyd bod y Cyngor yn derbyn grant cyfalaf gan
Lywodraeth Cymru yn flynyddol i’w ddefnyddio ar gyfer blaenoriaethau rheoli
asedau, megis adeiladau, ffyrdd, cerbydau, technoleg gwybodaeth ac offer sydd
yn hanfodol ar gyfer darparu’r gwasanaethau gorau posib i bobl Gwynedd. Yr
adroddiad felly yn rhagrybudd o’r sefyllfa ariannol - yn amlygu bwlch sylweddol
yn yr hyn sydd ei angen ar hyn sydd ar gael i’w wario gyda’r adnoddau sydd ar
gael at ddibenion cyfalaf yn annigonol ac yn debyg iawn i sefyllfa refeniw'r
Cyngor (trafodaethau ar gyllideb refeniw eisoes wedi dechrau ymysg y
Penaethiaid ac aelodau’r Cabinet i ystyried sut i weithredu o fewn cyllideb).
Er hynny, llwyddwyd i gyfarch rhai pethau elfennol a chlustnodi arian ar gyfer
prosiectau sydd wedi eu blaenoriaethu. Diolchwyd i’r Prif Weithredwr a’i dîm am
arwain ar y gwaith a chynnal proses oedd yn cynnwys ymgynghori gydag Aelodau. Cyhoeddwyd bod cadarnhad gan
Llywodraeth Cymru am gyllid ar gyfer prosiect Penrhos - yn newyddion i’w groesawu sy’n galluogi’r
bwrw ymlaen gyda chynllun gwych sydd yn ymateb i wir anghenion pobl sydd angen
gofal yn ardal Pwllheli. Cyfeiriwyd at rai
o’r cynlluniau sydd wedi eu hadnabod ynghyd a rhai cynlluniau sydd heb adnodd
ar hyn o bryd, ond y byddai’r sefyllfa yn cael ei adolygu’n barhaus. Ategodd y Prif
Weithredwr, er diffyg cyfalaf, nad oedd diffyg ymdrech i ddarparu gwasanaethau
er bod y gofynion yn uchel a’r adnodd yn isel. Amlygodd y byddai’r grant
cyfalaf craidd yn parhau ar yr un lefel - £6.6miliwn y flwyddyn, ac na fydd
modd cyflawni cymaint gyda’r adnodd craidd o ystyried lefelau chwyddiant dros y
5 mlynedd diwethaf y mae gwerth £6.6miliwn yn 2009 gyfwerth â £4.3miliwn
heddiw, sy’n lleihad o 34%. Diolchwyd am yr adroddiad. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau. Codwyd y materion a ganlyn:- Mewn ymateb i sylw am yr angen i
edrych i mewn i ffigyrau poblogaeth Gwynedd (cyhoeddiad y cyfrifiad diwethaf) o ystyried bod y swm
sydd yn cael ei ariannu gan Llywodraeth Cymru yn cael ei gyfrifo yn ôl cyfanswm
poblogaeth y Sir, nododd yr Arweinydd ei fod yn pryderu am y ffigwr poblogaeth
a bod angen edrych ar gael ystadegau mwy cadarn i’r dyfodol. Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag uwchraddio pibellau dwr i stadau tai a pham mai cyfrifoldeb y Cyngor oedd hyn, cadarnhaodd y Prif Weithredwr, oherwydd newid mewn cyfrifoldebau, nid y Cyngor fydd yn cynnal a chadw'r pibellau o hyn ymlaen, ac felly ni fydd gwariant pellach gan y Cyngor yn y maes yma a’r arian felly yn cael ei ryddhau ar gyfer gwasanaethau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2023-24 PDF 97 KB Cyflwyno
adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD DERBYN YR ADRODDIAD Cofnod: Croesawyd Mr
Eifion Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Safonau, i’r cyfarfod i gyflwyno adroddiad
blynyddol y pwyllgor am 2023/24. Nododd y Cadeirydd
mai pleser oedd cyflwyno adroddiad positif gyda’r safonau yn parhau yn uchel.
Ategodd bod y Pwyllgor wedi llwyddo i gryfhau trefniadau ar gyfer ymateb i’r
dyletswydd arweinyddion grwpiau gwleidyddol drwy gytuno a mabwysiadu meini
prawf ar gyfer mesur llwyddiant y gyfundrefn. Diolchodd i’r tri arweinydd ac
i’r Swyddog Monitro am y cydweithio positif a fu wrth wneud y gwaith a
diolchodd hefyd i Aelodau’r Pwyllgor am eu cefnogaeth drwy’r flwyddyn. Ategodd y Swyddog
Monitro bod ymateb i’r dyletswydd newydd yn ganlyniad o gydweithio da.
Pwysleisiodd yr angen i sicrhau dealltwriaeth o’r Cod Ymddygiad a bod modd
gwneud hynny drwy gynnal hyfforddiant pellach fyddai’n sicrhau bod Aelodau yn
gyfarwydd â hanfodion y Cod. Amlygodd hefyd fod sedd wag ar y Pwyllgor ac
anogodd Aelodau’r Cyngor i gyfeirio unigolion ymlaen i wneud cais. Diolchwyd i
Gadeirydd y Pwyllgor Safonau am ei waith yn ystod y flwyddyn. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2023-24 PDF 156 KB Cyflwyno
adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD DERBYN YR ADRODDIAD A NODI’R WYBODAETH Cofnod: Croesawyd Mr
Eifion Jones, cyn Is-gadeirydd y Pwyllgor i’r cyfarfod i gyflwyno adroddiad
blynyddol y pwyllgor am 2023/24 yn absenoldeb cyn Gadeirydd y Pwyllgor am y
cyfnod, Mrs Sharon Warnes. Nododd ei bod yn
bleser ganddo gyflwyno adroddiad y Cadeirydd, ar sail gofynion statudol
Llywodraeth Cymru, oedd yn amlinellu sut mae’r Pwyllgor wedi mynd ati i
ystyried y ffactorau anodd sydd wedi wynebu’r Cyngor dros y cyfnod ynghyd â
sylwadau’r Pwyllgor ar sut mae’r Cyngor wedi ymateb yn gadarn i’r risgiau
hynny. Amlygodd bod y Pwyllgor wedi cynnal eu Hunanasesiad cyntaf yn mis Ebrill
2024 a tynnwyd sylw at ganlyniadau boddhaol iawn yr hunanasesiad hwnnw. Diolchwyd i holl
Aelodau’r Pwyllgor am eu cydweithrediad ac am eu cyfraniad allweddol i waith y
Pwyllgor. Diolchwyd hefyd i’r holl swyddogion sy’n cefnogi gwaith y Pwyllgor
mewn modd trylwyr a phroffesiynol. Croesawyd y Cyng Ioan Thomas fel aelod
newydd i’r Pwyllgor a llongyfarchwyd y Cyng Paul Rowlinson, cyn aelod o’r
Pwyllgor, ar ei benodiad yn Aelod Cabinet Cyllid Dymunwyd y gorau i
Carys Edwards yn ei rôl fel Cadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2024/25 ac i Rhys
Parry fel Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer 2024/25. Diolchwyd am yr
adroddiad. Mewn ymateb i sylw
gan y Cynghorydd Eryl Jones Williams ei fod yn siomedig bod y Pwyllgor wedi cefnogi risg i’r Cyngor
gyda DoLS a’r Pwyllgor Craffu Gofal wedi bod yn erbyn
hyn ar hyd y blynyddoedd, nododd Mr Eifion Jones ei fod yn derbyn y sylw, ond
amlygodd mai gwneud argymhellion yw gwaith y Pwyllgor ac nid gwneud
penderfyniadau. PENDERFYNWYD DERBYN YR
ADRODDIAD A NODI’R WYBODAETH |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y CYFARWYDDWR STATUDOL GWASANAETHAU CYMDEITHASOL 2023-24 PDF 96 KB Cyflwyno
adroddiad y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD DERBYN YR ADRODDIAD A NODI’R WYBODAETH Cofnod: Cyflwynodd y
Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ei adroddiad blynyddol mewn
perthynas â pherfformiad y Gwasanaethau Cymdeithasol o fewn Gwynedd yn ystod
2023/24. Trafodwyd yr elfennau hynny sydd yn bwysig i unigolion, yr hyn na all
bobl fyw hebddynt a cyfeiriwyd at ymchwil a wnaed gan sefydliad PAL (Cananda) ble canfuwyd y
pum peth pwysicaf oedd yn gyffredinol i bawb. Defnyddiodd y pum maes yma
fel sylfaen i’w gyflwyniad gan drafod sut roedd y Gwasanethau
Cymdeithasol yng Ngwynedd yn ymateb i’r elfennau hynny – teulu a chyfeillion,
cartref fy hun, cael gwneud penderfyniadau, rôl sy’n cael ei werthfawrogi mewn
cymdeithas a teimlo’n ddiogel. Yn ystod ei
gyflwyniad, cafodd ffilm fer ei rhannu yn amlygu gwaith arbennig tîm y
gwasanaeth anabledd dysgu sydd yn gyfrifol am drefnu a datblygu cyfleoedd
gwaith. Roedd y ffilm yn cynnwys cyfweliadau gyda gweithwyr cefnogol ac
unigolion oedd yn derbyn cyfleodd ynghyd ag enghreifftiau o’r gwaith da sydd yn
cael ei gyflawni. Diolchodd y
Cyfarwyddwr i Marian Parry Hughes (Pennaeth y Gwasaneth
Plant) ac Aled Davies (Pennaeth y Gwasaneth Oedolion)
am eu gwaith. Diolchwyd hefyd i holl staff y gwasanethau
gan ddiolch yn arbennig i Catrin Thomas am ei gwaith gyda Cefnogi Pobl a phob
lwc iddi yn ei swydd newydd, ac i Lois Owens (Uwch Swyddog Gweithredol) am ei
gynorthwyo gyda’r gwaith o baratoi’r adroddiad. Diolchodd y
Cadeirydd i’r Cyfarwyddwr am y cyflwyniad oedd yn amlygu’r gwaith da. Ategwyd
diolchiadau’r Arweinydd gan sawl aelod arall yn ogystal, a chodwyd y materion a
ganlyn gan aelodau unigol:- ·
Bod
llythyr oedd yn gynwysedig yn yr adroddiad oedd yn diolch am waith gofalwyr yn
ysbrydoledig – diolchwyd i’r gwasaneth am eu gwaith ·
Er
y gwaith da sydd yn cael ei gyflawni, nid oedd cyfeiriad at gwynion yn yr
adroddiad ·
Bod
dymuniad gweld cynlluniau cyfleoedd gwaith anableddau dysgu yn ymestyn i
Feirionnydd (dim Arfon yn unig) ·
Bod
yr adroddiad yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol, yn onest ac yn hawdd i’w ddarllen ·
Bod
angen ‘Gwynedd Oed Gyfeillgar’ ar gyfer pob oed – angen hyrwyddo hyn ·
Bod
angen codi ymwybyddiaeth ac annog defnydd meddalwedd boardmaker ·
Bod
yr adroddiad yn un positif er bod pwysau cynyddol ar y gwasanaethau ·
Bod
angen mwy o gydweithio rhwng adrannau, ysgolion a lleoliadau gwaith i fynd i’r
afael ag ymateb i’r galw cynyddol am ddiagnosis awtistiaeth (rhestr aros o ddwy
flynedd). Goblygiadau costau i’r gwasanaeth yma felly angen cydweithio ar draws
y gwasanaethau i ddeall y sefyllfa yn well a rhannu syniadau ·
Ymestyn
diolch i waith y trydydd sector, i’r trigolion hynny yng Ngwynedd sydd yn
ofalwyr di-dâl – angen gwneud mwy i’w cefnogi ·
Bod
angen codi ymwybyddiaeth taliadau uniongyrchol fel modd o dderbyn gwasanaethau
gofal a chymorth – esiamplau da ar draws y Sir lle mae hyn wedi llwyddo Mewn
ymateb, nododd y Cyfarwyddwr Statudol:- ·
Bod
pob ymgais yn cael ei wneud i efelychu gwaith y tîm gwasaneth
anabledd dysgu yn Ne y Sir a hynny mewn ymateb i'r cynnydd yn y nifer o bobl
gydag anableddau dysgu (o 44 i 99) · Bod cyfeiriad at ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PANEL STRATEGOL DIOGELU 2023-24 PDF 103 KB Cyflwyno
adroddiad Cadeirydd y Panel Strategol Diogelu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD DERBYN YR ADRODDIAD A NODI’R WYBODAETH Cofnod: Cyflwynodd yr
Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, y Cynghorydd Menna Trenholme adroddiad
blynyddol y Panel Strategol Diogelu 2023/24 gan nodi bod yr adroddiad yn rhoi
trosolwg o’r gwaith sydd wedi digwydd gan y Panel Strategol Diogelu. Amlygodd
bod polisi newydd wedi ei gymeradwyo gan y Cabinet yn Chwefror 2024 yn dilyn
adolygiad o’r polisi blaenorol a luniwyd yn 2013. Tynnwyd sylw at bryderon yn y cynnydd
mewn cyfeiriadau plant mewn gofal ynghyd a phryder am y gwasaneth
DoLS sydd gyda nifer fawr yn aros am asesiad. Adroddwyd, er bod y panel yn
canolbwyntio ar gyfrifoldebau corfforaethol sydd yn ymwneud â materion diogelu
o fewn Gwynedd, eu bod yn cydweithio yn dda gydag asiantaethau a phartneriaid. PENDERFYNWYD DERBYN YR
ADRODDIAD A NODI’R WYBODAETH |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PENNAETH GWASANAETHAU DEMOCRATIAETH 2023-24 PDF 148 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau
Democratiaeth. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD DERBYN YR ADRODDIAD A NODI’R WYBODAETH Cofnod: Cyflwynodd y
Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth ei adroddiad blynyddol oedd yn amlinellu’r
gefnogaeth sydd ar gael i Gynghorwyr Gwynedd ynghyd â phrif weithgareddau
2023/24. Diolchodd y Pennaeth i Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau
Democratiaeth, y Cynghorydd Dewi Owen ac aelodau’r pwyllgor a’r swyddogion o
fewn y gwasanaeth sy’n rhoi’r gefnogaeth o ddydd i ddydd. Tynnwyd sylw at y bwletin wythnosol
sydd yn rhannu gwybodaeth ynghyd a’r bwriad o wella canran mynychu hyfforddiant
ymysg aelodau. Ategodd y bydd y rhaglen hyfforddiant yn canolbwyntio ar feysydd
blaenoriaeth y Cyngor, fydd yn cynnwys diogelwch a gwelliannau craffu. Nododd
hefyd bod safle mewnrwyd yr aelodau yn cael ei ddatblygu yn barhaus ac y byddai
yn cydweithio yn agos gyda Chadeirydd presennol Y Pwyllgor Gwasanethau
Democratiaeth, Y Cynghorydd Anne Lloyd Jones, i ddatblygu Newyddlen Gwasanethau Democratiaeth. PENDERFYNWYD DERBYN YR
ADRODDIAD A NODI’R WYBODAETH |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CRAFFU 2023-24 PDF 102 KB Cyflwyno Adroddiad Blynyddol Craffu. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD DERBYN YR ADRODDIAD A NODI’R
WYBODAETH Cofnod: Cyflwynwyd
Adroddiad Blynyddol y Fforwm Craffu ar gyfer 2023/24 gan y Cyng. Elin Hywel ar
ran Cadeirydd y Fforwm Craffu, y Cyng. Beth Lawton. Danfonwyd dymuniadau gorau
at y Cynghorydd Beth Lawton a diolchwyd iddi am ei harweiniad teg a chadarn yn
y maes craffu bob amser. Tynnwyd sylw at y gwaith craffu a gyflawnwyd
yn ystod 2023/24 gan roi sicrwydd annibynnol ar wahanol feysydd. Cyfeiriwyd at
esiamplau lle gwelwyd gwahaniaethau yn sgil craffu da ynghyd a gwaith
ychwanegol megis cynnal ymchwiliad craffu a grŵp tasg a gorffen a gafodd
eu cyflawni yn sgil ceisiadau gan yr Aelodau. Yn ogystal, cynhaliwyd adolygiad o’r trefniadau craffu ac adnabuwyd
camau gweithredu. Yn dilyn hyfforddiant diweddar, cydnabuwyd yr angen i greu
argymhellion clir a mesuradwy fydd yn eu tro yn sefydlu trefniadau mwy ffurfiol
er mwyn cadw golwg ar effaith craffu. Diolchwyd i’r
Swyddogion am eu cefnogaeth ac am lunio’r adroddiad yn ofalus. Diolchwyd hefyd
i’r Aelodau am eu dyfalbarhad i sicrhau craffu effeithiol, manwl a phwrpasol
yng Ngwynedd Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:- Diolchwyd i’r
Cynghorydd Beth Lawton a’r Cynghorydd Elin Hywel - gwerthfawrogwyd y gwaith a
gwblhawyd dros y flwyddyn. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â Chadeiryddiaeth Pwyllgor Addysg ac Economi a chais i
ystyried dilyniant Is-gadeirydd i Gadeirydd, nododd y swyddog monitro bod y
trefniant presennol yn unol â'r balans gwleidyddol. Mewn ymateb i
gynnig y dylid gwahodd Cadeirydd ac Is-gadeirydd (Aelodau Lleyg y Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio) i’r Fforwm Craffu, nododd y swyddog monitro, yn unol
â chanllawiau CIPFA nad oedd rôl statudol o graffu gan y Pwyllgor Llywodraethu
ac Archwilio ond ategodd bod modd cyfeirio’r cynnig i’r Pennaeth Gwasanethau Democratiaeth ei ystyried. Amlygwyd pryder
gan y Cynghorydd Richard Glyn Roberts bod adroddiad Estyn (Mehefin 2023) yn
amlygu bod gweithdrefnau mewnol yr Adran Addysg yn dderbyniol er yn amlwg, yn
dilyn achos llys cyn-bennaeth Ysgol Friars ym Mangor,
bod y sefyllfa yn dra gwahanol. Nododd bod angen ystyried trefn sydd yn herio
gwybodaeth yn hytrach na gorfod derbyn y wybodaeth gerbron yn unig. PENDERFYNIAD DERBYN YR
ADRODDIAD A NODI’R WYBODAETH |
|
YMGYNGHORIAD AR SYSTEM BLEIDLAIS SENGL DROSGLWYDDADWY AR GYFER ETHOLIADAU CYNGOR GWYNEDD PDF 117 KB Cyflwyno adroddiad
yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD CEFNOGI'R AMSERLEN
DDIWYGIEDIG AR GYFER CYNNAL YMGYNGHORIAD AR Y BLEIDLAIS SENGL DROSGLWYDDADWY AR
GYFER ETHOLIADAU CYNGOR GWYNEDD O 2027 YMLAEN Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
yr Aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol yn gofyn i’r Cyngor gefnogi amserlen
ddiwygiedig ar gyfer cynnal ymgynghoriad ar fabwysiadu sustem Pleidlais Sengl
Drosglwyddadwy (PSD) ar gyfer etholiadau Cyngor Gwynedd o 2027 ymlaen. Nodwyd
bod yr amserlen yn cael ei diwygio yn sgil cynnal etholiad cyffredinol yn y DU
ddechrau mis Gorffennaf 2024. Amlygwyd mai amhriodol fyddai cynnal ymgynghoriad
yn ystod etholiad cyffredinol ac felly gohiriwyd y broses a crëwyd amserlen
amgen ar gyfer cynnal y broses. Cyflwynwyd amserlen arfaethedig gyda bwriad o
ddechrau’r ymgynghoriad 15 Gorffennaf 2024. Rhoddwyd cyfle i’r
aelodau gyflwyno sylwadau a gofyn cwestiynau.
Codwyd y materion a ganlyn gan aelodau unigol:- Mewn ymateb i
gwestiwn sut y bydd trigolion lleol yn cael gwybodaeth am yr ymgynghoriad,
nododd y swyddog monitro y bydd gwybodaeth ar gael ar wefan y Cyngor, mewn llyfrgelloedd a gwybodaeth wedi ei rannu
ymysg Cynghorau Cymuned, Dinas a Thref Mewn ymateb i
gwestiwn os oedd asesiad effaith cydraddoldeb wedi cael ei gynnal, nododd y
swyddog monitro bod asesiad cydraddoldeb cychwynnol wedi ei gwblhau, ond y
byddai asesiad cydraddoldeb manylach wedi ei gwblhau erbyn cyflwyno’r adroddiad
terfynol i gyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn ar 24 Hydref 2024. Mewn ymateb i
gwestiwn ategol, nododd y byddai’r asesiad yn cynnwys yr effaith ar yr iaith
Gymraeg. Mewn ymateb i gais
am unrhyw ragdybiaeth o’r ardaloedd daearyddol posib fyddai’n hanfodol ar gyfer
sicrhau bod cysylltiad gyda’r cynghorydd â’r ardal, nododd y swyddog monitro,
mai’r statud yw creu ward gyda rhwng 3 a 6 aelod (gan dderbyn bod 3 aelod yn
isel mewn ardaloedd gwledig), ond nad oedd bwriad amlygu ffiniau / gosod map
oherwydd pryder y gall hynny arwain at farn fydd yn cael ei gyflwyno ar sail y
ffiniau. Ategodd bod y comisiwn wedi sefydlu rhiniog o sefydlu wardiau drwy
ystyried y nifer etholwyr mewn etholaeth - gall unrhyw ragdybiaeth o faint a
ffurf y ward fod yn gamarweiniol. Amlygwyd pryder
drwy ymuno wardiau trefol er mwyn sicrhau ffigwr poblogaeth arwain at gamreoli
gyda’r ardaloedd gwledig cyffiniol yn colli allan. A oes ystyriaeth wedi ei roi
i greu wardiau newydd yn hytrach nag ymuno wardiau? Mewn ymateb nododd y swyddog
monitro mai adolygiad cyffredinol o wardiau oedd dan sylw. PENDERFYNWYD CEFNOGI'R AMSERLEN
DDIWYGIEDIG AR GYFER CYNNAL YMGYNGHORIAD AR Y BLEIDLAIS SENGL DROSGLWYDDADWY AR
GYFER ETHOLIADAU CYNGOR GWYNEDD O 2027 YMLAEN |
|
YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG PDF 162 KB (1) Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i
rybudd o gynnig y Cynghorydd Llio Elenid Owen i gyfarfod 9 Mai, 2024 o’r Cyngor
yn galw am ymyrraeth ac ymchwiliad llawn gan Lywodraeth Cymru i’r penderfyniad
i gau Canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yn Ninas Dinlle a’r Trallwng. (2) Llythyr
gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elfed Wyn ap
Elwyn i gyfarfod 9 Mai, 2024 o’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu
Deddf Eiddo. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd er gwybodaeth 1. Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i
rybudd o gynnig y Cynghorydd Llio Elenid Owen i gyfarfod 9 Mai, 2024 o’r Cyngor
yn galw am ymyrraeth ac ymchwiliad llawn gan Lywodraeth Cymru i’r penderfyniad
i gau Canolfannau Ambiwlans Awyr Cymru yn Ninas Dinlle a’r Trallwng. 2. Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i
rybudd o gynnig y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn i gyfarfod 9 Mai, 2024 o’r
Cyngor yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu Deddf Eiddo. |