Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfodydd o’r Cyngor a
gynhaliwyd ar y dyddiadau a nodir isod fel rhai cywir: 3 Hydref,
2024 24 Hydref,
2024 (Cyfarfod Arbennig) Dogfennau ychwanegol: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiadau o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: |
|
CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD Derbyn unrhyw
gyhoeddiadau gan y Cadeirydd. Dogfennau ychwanegol: |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol
ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad. Dogfennau ychwanegol: |
|
ARWEINYDD Y CYNGOR Penodi Arweinydd
y Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penodi’r Cynghorydd Nia Jeffreys yn Arweinydd y Cyngor am
dymor y Cyngor. |
|
Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Bod y Cyngor yn gwneud dim newid i’r Premiwm Treth Cyngor ar gyfer
2025/26. Hynny yw, ar gyfer blwyddyn
ariannol 2025/26:-
|
|
CYNLLUN GOSTYNGIADAU TRETH CYNGOR 2025-26 PDF 199 KB Cyflwyno
adroddiad y Aelod Cabinet Cyllid. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Bod Cynllun Lleol
Cyngor Gwynedd am y flwyddyn yn cychwyn 1 Ebrill 2025 yn parhau fel ag yr oedd
yn ystod 2024/25. Felly, bydd yr amodau canlynol
(a – c isod) ynghylch yr elfennau disgresiwn yn parhau: a) Gweithredu diystyrwch o 100% i bensiynau anabledd
rhyfel, a phensiynau gweddwon rhyfel, ar gyfer pensiynwyr a hawlwyr oed
gweithio fel ei gilydd. b) Peidio cynyddu’r cyfnodau estynedig o ostyngiadau i
bensiynwyr a hawlwyr oed gwaith o’r pedair wythnos safonol sy’n y Cynllun
Rhagnodedig. c) Peidio cynyddu’r cyfnod ôl-ddyddio i bensiynwyr a
hawlwyr oed gwaith o’r tri mis safonol sydd wedi’i nodi ar hyn o bryd yn y
Cynllun Rhagnodedig. 2.
Lle’n briodol, dirprwyo’r grym i’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad
gyda’r Aelod Cabinet dros Gyllid, i wneud mân addasiadau i’r cynllun am 2025/26,
ar yr amod na fydd yn newid sylwedd y cynllun. |
|
ADOLYGIAD O'R CYFANSODDIAD PDF 237 KB Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Bod y Cyngor yn
mabwysiadau’r newidiadau i'r Cynllun Dirprwyo a restrir yn Atodiad 1 i’r
adroddiad. 2. Bod y Cyngor yn derbyn y
wybodaeth am newidiadau dirprwyedig i’r Cyfansoddiad yn Atodiadau 2 a 3 i’r
adroddiad. |
|
ADOLYGIAD O DDOSBARTHIADAU PLEIDLEISIO A MANNAU PLEIDLEISIO PDF 119 KB Cyflwyno
adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo canlyniadau’r adolygiad o ddosbarthiadau pleidleisio a’r
mannau pleidleisio yn etholaethau seneddol Dwyfor Meirionnydd a Bangor
Aberconwy (i’r graddau y maent o fewn Gwynedd) o fewn Gwynedd, yn dilyn cyfnod
ymgynghori. |
|
CAIS I NEWID ENW CYMUNED LLANAELHAEARN PDF 148 KB Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo newid enw Cymuned Llanaelhaearn i Trefor a Llanaelhaearn yn
unol ag adran 76 Deddf Llywodraeth Leol 1972. |
|
RHYBUDDION O GYNNIG Dogfennau ychwanegol: |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn cynnig fel a ganlyn:- Mae tŷ wedi ei gyfnewid nifer o
weithiau mewn un pentref bach mewn ward wledig yng Ngwynedd. Digwyddodd hyn yn
ystod cyfnod pan fo 12 o bobl leol (unedau teulu) yn aros am dŷ
cymdeithasol yn y pentref. Nid yw deiliaid y cartref yn dod o Gymru nac yn aros
am fwy na 12 mis. Mae polisi gosod Cyngor Gwynedd yn cael ei
danseilio bob tro mae tŷ yn cael ei gyfnewid tra bod pobl leol yn parhau
ar y rhestr aros am gyfnodau hir heb lwyddo i sicrhau cartref. Cred y cyngor hwn y dylai arfer Llywodraeth
Cymru o gyfnewid tai cymdeithasol ddod i ben ar unwaith, oni bai bod y tŷ
yn cael ei gyfnewid o fewn yr awdurdod lleol. Erfyniaf heddiw am gefnogaeth
Cyngor Gwynedd i bwyso ar Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf er mwyn digoni’r
angen am dai lleol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Er mwyn digoni’r angen am dai lleol, bod y
Cyngor yn pwyso ar Lywodraeth Cymru i newid y ddeddf er mwyn dod â’r arfer o
gyfnewid tai cymdeithasol i ben ar unwaith, oni bai bod y tŷ yn cael ei
gyfnewid o fewn yr awdurdod lleol, neu yn agos iawn at ffin y sir. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Huw Rowlands Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Huw Rowlands yn cynnig fel a ganlyn:- 1. Gofynna Cyngor Gwynedd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddyrannu cyfran deg o’r
gwariant ar reilffordd HS2
yn Lloegr i Gymru. 2. Gofynnir
hefyd i Lywodraeth
Cymru barhau i ddwyn pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas unedig er mwyn sicrhau hyn. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Gofynna Cyngor Gwynedd i
Lywodraeth y Deyrnas Unedig ddyrannu cyfran deg o’r gwariant ar reilffordd HS2
yn Lloegr i Gymru. 2.
Gofynnir hefyd i Lywodraeth Cymru barhau i ddwyn
pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas unedig er mwyn sicrhau hyn. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd June Jones Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd June Jones yn cynnig
fel a ganlyn:- Yn sgil y ddamwain erchyll fu ar lôn yr
A4085 ger pentref Garreg, Llanfrothen mis Tachwedd 2023 lle bu i bedwar o
hogiau ifanc golli eu bywydau, bod Cyngor Gwynedd yn gyrru at Adran
Trafnidiaeth Llywodraeth San Steffan yn gofyn iddynt edrych ar diweddaru’r
rheolau i gael trwydded graddedig (graduated driving license) lle na all
gyrwyr ifanc gario eu cyfoedion ifanc eraill heb bod iddynt wedi cael chwe mis
o brofiad gyrru ar ol pasio eu prawf. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Yn sgil y ddamwain erchyll fu ar lôn yr
A4085 ger pentref Garreg, Llanfrothen mis Tachwedd 2023 lle bu i bedwar o
hogiau ifanc golli eu bywydau, bod Cyngor Gwynedd yn gyrru at Adran
Trafnidiaeth Llywodraeth San Steffan yn gofyn iddynt edrych ar ddiweddaru’r
rheolau i gael trwydded graddedig (graduated driving license) lle na all gyrwyr
ifanc gario eu cyfoedion ifanc eraill heb bod iddynt wedi cael chwe mis o
brofiad gyrru ar ôl pasio eu prawf. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd John Pughe Roberts Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd John Pughe Roberts yn cynnig
fel a ganlyn:- Mae newidiadau gan
Lywodraeth Llafur San
Steffan ar dreth etifeddiaeth
amaethyddol wedi gweddnewid Cymorth Eiddo Amaethyddol (APR) fel bod pob fferm sydd
werth dros filiwn o bunnoedd bellach yn gorfod talu treth etifeddiaeth. Gyda’r diwydiant
dan bwysau difrifol a rheolwyr “hedge fund” yn chwilio
am y “carbon trade off” drwy system o ail-wylltio a phlannu coed ac felly codi gwerth tir amaethyddol.
Golyga hyn bod 100 acer o dir sydd yn cyrraedd
y trothwy neu ffermdy a bwthyn hunan ddarparu
yn werth dros filiwn o bunnoedd. Golygai hyn
bydd rhan fwyaf o ffermydd Gwynedd a Chymru yn gorfod talu symiau anferthol
o dreth gyda rhai yn mynd yn fethdalwyr neu orfod gwerthu tir a fyddai’n
golygu bod y ffermydd yn anweithredol i barhau i amaethu. Galwaf felly ar Gyngor Gwynedd i ofyn i Lywodraeth
Cymru ail ystyried eu cefnogaeth i Blaid
Lafur San Steffan a bod Llywodraeth
Cymru yn galw ar Lywodraeth
San Steffan i ail-sefydlu y
Rhyddhad Eiddo Amaethyddol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod y Cyngor yn gofyn i Lywodraeth Cymru ail ystyried eu cefnogaeth i
Blaid Lafur San Steffan a bod Llywodraeth Cymru yn galw ar Lywodraeth San
Steffan i ail-sefydlu y Rhyddhad Eiddo Amaethyddol. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elin Walker Jones Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elin Walker Jones yn cynnig
fel a ganlyn:- Bod y
Cyngor 1. Yn
nodi: - y prinder sylweddol o wasanaethau deintyddol y GIG yng Ngogledd Cymru, a bod achos cryf ar gyfer sefydlu
Ysgol Ddeintyddol ym Mangor. 2. Yn credu: - bod gwasanaethau deintyddol
yng Ngogledd Cymru mewn sefyllfa o argyfwng. Mae prinder difrifol o ddeintyddion y GIG yng Ngwynedd yn gadael llawer o gleifion, gan gynnwys
plant a phobl fregus, heb fynediad priodol
at ofal deintyddol sylfaenol. Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol
ar ein hadrannau brys yn yr ysbytai
lleol oherwydd diffyg mynediad at ddeintyddion, gan arwain at gostau ac amseroedd aros ychwanegol. Mae angen am fwy o hyfforddiant deintyddol. Yn anffodus, mae nifer
sylweddol o fyfyrwyr sy’n dymuno astudio
deintyddiaeth yn gorfod gadael Cymru oherwydd diffyg capasiti mewn ysgolion deintyddol. Gallai ysgol
ddeintyddol newydd ym Mangor chwarae
rôl allweddol wrth hyfforddi mwy o ddeintyddion yn lleol, gan gynnig
gwell siawns o gadw’r gweithlu deintyddol yn y rhanbarth a darparu gwasanaethau hanfodol yn lleol. Byddai sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor yn darparu
swyddi newydd o safon a denu buddsoddiad
i'r economi lleol, gan gefnogi
Bangor fel canolfan ragoriaeth ym maes
iechyd, ochr yn ochr â'r ysgol feddygol
newydd. Yn ogystal, gallai’r ysgol ddeintyddol ychwanegu at y ddarpariaeth o wasanaethau deintyddol Cymraeg a dwyieithog, gan wella mynediad
at ofal iechyd i gymunedau lleol sy’n siarad Cymraeg. 3. Yn galw: Galwn ar y Cyngor i gefnogi’r ymgyrch
i sefydlu Ysgol Ddeintyddol ym Mhrifysgol Bangor, i ysgrifennu at ein cynrychiolwyr etholedig yn y
Senedd i lobio Llywodraeth Cymru i ystyried yr achos
economaidd ac iechyd cyhoeddus
dros sefydlu ysgol ddeintyddol ym Mangor yn seiliedig
ar y canfyddiadau allweddol
a gyflwynwyd yn yr adroddiad Llenwi’r Bwlch. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bod y Cyngor yn
cefnogi’r ymgyrch i sefydlu Ysgol Ddeintyddol ym Mhrifysgol Bangor ac yn
ysgrifennu at ein cynrychiolwyr etholedig yn y Senedd i lobïo Llywodraeth
Cymru i ystyried yr achos economaidd a iechyd cyhoeddus dros sefydlu ysgol
ddeintyddol ym Mangor yn seiliedig ar y canfyddiadau allweddol a gyflwynwyd yn
yr adroddiad Llenwi’r Bwlch. |
|
Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rhys Tudur Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Rhys Tudur yn cynnig
fel a ganlyn:- O ystyried -
Bod
Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymgynghoriad ar amrywio Treth Trafodion Tir -
Y
byddai amrywio’r dreth yn rhoi’r cyfle i’r Cyngor daclo’r gyfradd y prynir ail
dai yn effeithiol -
Y
byddai amrywio’r dreth yn agor y drws i’r Cyngor hwn bwyso ar y Llywodraeth i
roi ei siâr theg o’r refeniw sy’n deillio o dreth tir Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru
i roi mwy o rôl i Wynedd fedru penderfynu ar amrywiaethau ar gyfer Treth
Trafodion Tir. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: O ystyried - Bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymgynghoriad ar
amrywio Treth Trafodion Tir - Y byddai amrywio’r dreth yn rhoi’r cyfle i’r Cyngor
daclo’r gyfradd y prynir ail dai yn effeithiol - Y byddai amrywio’r dreth yn agor y drws i’r Cyngor hwn
bwyso ar y Llywodraeth i roi ei siâr theg o’r refeniw sy’n deillio o dreth tir Mae’r Cyngor hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru
i roi mwy o rôl i Wynedd fedru penderfynu ar amrywiaethau ar gyfer Treth
Trafodion Tir. |
|
YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL PDF 167 KB (1) Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru mewn
ymateb i rybudd o gynnig y Cynghorydd Gwynfor Owen i Gyngor 9 Mai, 2024
ynglŷn ag amlder y trenau ar Reilffordd Arfordir y Cambrian. (2) Llythyr oddi wrth Lywodraeth y DU mewn ymateb
i rybudd o gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards i Gyngor 3 Hydref, 2024 ynglŷn
â dynodi Dydd Gŵyl Dewi yn wyliau cenedlaethol
swyddogol yng Nghymru. Dogfennau ychwanegol: |