Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Anwen Davies, Annwen Hughes, John Brynmor Hughes, Elin Hywel, Dafydd Meurig ac Angela Russell.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 232 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 5 Rhagfyr, 2024 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Datganodd y Swyddog Monitro fuddiant personol ar ran y prif swyddogion oedd yn bresennol gan fod yr adroddiad yn ymwneud â’u cyflogau.

 

‘Roedd o’r farn bod gan y swyddogion fuddiant o sylwedd, ac ynghyd â’r ddau Gyfarwyddwr Corfforaethol, y Pennaeth Cyllid, y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth, y Pennaeth Addysg, y Pennaeth Tai ac Eiddo a’r Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, fe adawodd y Swyddog Monitro'r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem, gan nad oeddent angen bod yn bresennol i gynghori.

 

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Cydymdeimlwyd â theulu’r Arglwydd Elis-Thomas a fu farw’n ddiweddar, a rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cynghorydd Dyfrig Siencyn.

 

Cydymdeimlwyd hefyd â theulu Gillian Wynne Thomas, cyn-gynorthwyydd gwleidyddol gyda’r Cyngor, a fu farw’r wythnos ddiwethaf.

 

Nodwyd y bu farw Geraint Jarman a Marged Esli yn ddiweddar, a chydymdeimlwyd â’u teuluoedd hwythau hefyd.

 

Nodwyd ymhellach bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar.

 

Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth.

 

Nodwyd bod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar a dymunwyd iddynt adferiad llwyr a buan.

 

Llongyfarchwyd y canlynol:-

·         Aneurin Môn Parry, o Wasanaeth Cynllunio’r Cyngor, ar gael ei ddewis yn Gadeirydd Institiwt Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru (RTPI) am 2025.  Nodwyd bod Aneurin wedi gweithio yn y maes Cynllunio ers 1987, a’i fod bellach yn Arweinydd Tîm Gorfodaeth (Gwasanaeth Cynllunio) o fewn yr Adran Amgylchedd.

·         Huw Elfed Roberts, Swyddog Gwasanaethau Etholiadol, ar gael ei benodi’n Gadeirydd Cangen Cymru o Gymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (AEA), sef y corff proffesiynol ar gyfer swyddogion etholiadol y DU.

·         Ysgol y Gorlan Tremadog ar ddod i’r brig efo Carol yr Ŵyl S4C eleni gyda charol a gyfansoddwyd gan Rhys ac Anest Glyn.

·         Elain Iorwerth ar ennill y Goron yn Eisteddfod Ffermwyr Ifanc Cymru yn ôl ym mis Tachwedd.

·         Mared Griffiths, Trawsfynydd, ar ennill ei chap pêl droed cyntaf i Gymru yn ddiweddar.

 

Cyfeiriwyd at ymddiswyddiad y Cynghorydd Linda Anne Jones o’r Cyngor.  A hithau’n ddiwrnod Rhyngwladol y Merched ar 8 Mawrth, nodwyd bod Linda yn enghraifft wych o ddynes fu’n arwain mewn maes sy’n draddodiadol wedi ei arwain gan ddynion.  Diolchwyd yn fawr iawn iddi am yn agos at 40 o flynyddoedd o wasanaeth, a dymunwyd y gorau iddi i’r dyfodol.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

Dim i’w nodi.

6.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 177 KB

(a)  Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.17 o’r Cyfansoddiad.

 

Cwestiwn gan Mr Ieuan Wyn (cyfeiriad wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y Cyfansoddiad).

 

Mae’n gwbl annerbyniol fod disgyblion Gwynedd o aelwydydd Cymraeg ac aelwydydd di-Gymraeg yn derbyn llai o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg nag y mae disgyblion ysgolion Cymraeg mewn cymunedau llai Cymraeg mewn rhannau eraill o’n gwlad. Mae plant a phobl ifanc, rhieni a chymunedau Gwynedd yn haeddu ysgolion gyda’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fwyaf cyflawn sy’n cael ei chynnig. Hynny fyddai’n briodol yn addysgol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol. Yn sgil y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bil addysg a bod shifft iaith yn dwysáu yn arw yn y sir, a yw Cyngor Gwynedd am gymryd y cyfle euraid a thyngedfennol hwn i ddisodli polisi iaith addysg sydd wedi dyddio a chyflwyno polisi iaith addysg uchelgeisiol, clir, a chwbl newydd i’w ysgolion?

 

(b)  Ystyried unrhyw gwestiynau gan aelodau etholedig, y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

 

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(A)      Cwestiwn gan Aelod o’r Cyhoedd

 

Cwestiwn gan Mr Ieuan Wyn (cyfeiriad wedi’i ddarparu yn unol â gofynion y Cyfansoddiad)

 

Mae’n gwbl annerbyniol fod disgyblion Gwynedd o aelwydydd Cymraeg ac aelwydydd di-gymraeg yn derbyn llai o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg nag y mae disgyblion ysgolion Cymraeg mewn cymunedau llai Cymraeg mewn rhannau eraill o’n gwlad. Mae plant a phobl ifanc, rhieni a chymunedau Gwynedd yn haeddu ysgolion gyda’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg fwyaf cyflawn sy’n cael ei chynnig.  Hynny fyddai’n briodol yn addysgol, yn ddiwylliannol ac yn gymdeithasol.  Yn sgil y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bil addysg a bod shifft iaith yn dwysáu yn arw yn y sir, a yw Cyngor Gwynedd am gymryd y cyfle euraid a thyngedfennol hwn i ddisodli polisi iaith addysg sydd wedi dyddio a chyflwyno polisi iaith addysg uchelgeisiol, clir, a chwbl newydd i’w ysgolion?

 

Ateb yr Aelod Cabinet Addysg, Y Cynghorydd Dewi Jones

 

Diolch am eich cwestiwn ac am eich diddordeb yn y maes pwysig hwn, maes sy’n bwysig i ni i gyd yn y Siambr hon rwy’n siŵr.  Hefyd, diolch yn fawr i chi am fod yn barod i ddod i drafod gyda mi ychydig wythnosau yn ôl, pan gawsom yr union drafodaeth yma.  Ydi, mae Cyngor Gwynedd am gymryd y cyfle euraid a thyngedfennol hwn i gyflwyno polisi iaith addysg uchelgeisiol, clir, a chwbl newydd i’n hysgolion.  Fel rydych chi’n ymwybodol rwy’n siŵr, ac fel mae nifer o aelodau yn y Siambr heddiw yn ymwybodol, mae gwaith sylweddol yn digwydd eisoes dan arweiniad Meirion Prys Jones o lunio polisi a fydd yn cael ei gyflwyno ar ffurf drafft i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ar y 10fed o Ebrill.  Yn dilyn hynny, bydd yna gyfleoedd i ymgynghori gyda’r cyhoedd, ac rwy’n siŵr y bydd yna ran i chi chwarae yn hynny hefyd.

 

Cwestiwn Atodol gan Mr Ieuan Wyn

 

Diolch i chi am eich ymateb cadarnhaol a chalonogol yma heddiw ar goedd y bydd y polisi newydd yn uchelgeisiol, clir, a chwbl newydd.  Gan hynny, fedrwch chi gadarnhau nad awgrymiadau a dyheadau yn unig fydd y polisi newydd, ond polisi clir a chadarn fydd yn gosod targedau clir i’r ysgolion i gynyddu’r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn amserlen a cherrig milltir pendant, a pholisi i’w weithredu’n egnïol mewn ysbryd cenhadol gydag arweiniad a chefnogaeth yr Adran Addysg o ran monitro, adolygu a chynnig cymorth ymarferol i’r ysgolion?

 

Ateb yr Aelod Cabinet Addysg, y Cynghorydd Dewi Jones

 

Gallaf eich sicrhau y bydd y polisi yn uchelgeisiol a bydd y polisi yn sicrhau ein bod ni fel sir yn chwarae ein rhan i sicrhau bod gennym ni filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

 

(B)      Cwestiynau gan Aelodau Etholedig

 

(1)     Cwestiwn Y Cynghorydd Richard Glyn Roberts

 

O ystyried bod ymdeimlad cryf yn lleol bod polisi treth gyngor ym maes tai gwag ac ail gartrefi, mewn rhai amgylchiadau, yn gosod baich trethiannol anghymesur ac annheg ar frodorion Gwynedd ac o ystyried bod canllawiau Llywodraeth  ...  view the full COFNODION text for item 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL - POLISI TAL GWEITHLU'R CYNGOR pdf eicon PDF 132 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu Polisi Tâl Gweithlu’r Cyngor ar gyfer 2025/26.

 

COFNODION:

 

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion, y Cynghorydd Ioan Thomas, adroddiad yn argymell i’r Cyngor gymeradwyo argymhelliad y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i fabwysiadu’r Polisi Tâl ar gyfer 2025/26.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Gan gyfeirio at sylwadau’r swyddogion statudol ar ddiwedd yr adroddiad, holwyd oni fyddai wedi bod yn briodol cael barn gyfreithiol a chyllidol o’r tu allan i’r awdurdod yn yr achos hwn oherwydd buddiant y Swyddog Monitro a’r Swyddog Cyllid Statudol yn y mater.  Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr nad y Swyddog Monitro a’r Swyddog Cyllid Statudol oedd wedi cyflwyno’r sylwadau yn yr achos hwn, eithr eu dirprwyon, ond y dylid bod wedi gwneud hynny’n glir yn yr adroddiad.

 

Holwyd a ddylai’r Cyngor fod yn mabwysiadu’r Polisi Tâl os oes pwynt o bryder priodoldeb.  Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr nad oedd yna bwynt o bryder priodoldeb, ac y byddai’r cofnod o’r eitem hon yn nodi’n glir mai dirprwyon y ddau swyddog statudol oedd wedi cyflwyno’r sylwadau.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu Polisi Tâl Gweithlu’r Cyngor ar gyfer 2025/26.

 

8.

ADDASIADAU I BROSIECTAU GWYNEDD OFALGAR - CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 148 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Cymeradwyo ychwanegu’r prosiect isod at y meysydd sydd i’w blaenoriaethu ar lefel strategol fel rhan o Gynllun Cyngor Gwynedd 2023 28.

 

Sicrhau bod cefnogaeth amserol a llawn i'w gael i gefnogi pobl i allu byw adref

 

I sicrhau bod modd i bobl fyw eu bywyd gorau, mae’n rhaid i ni sicrhau fod cefnogaeth prydlon a rhwydd ar gael i unigolion a’u teuluoedd.

 

Byddwn yn gweithredu cynlluniau er mwyn:

 

   Sicrhau ein bod yn cydnabod pa mor werthfawr yw gofalwyr teuluol a di-dâl drwy wneud yn siwr ein bod yn gallu eu hadnabod yn rhwydd a chynnig cefnogaeth lawn iddynt wrth ofalu.

   Lleihau ein rhestrau aros am becynnau gofal cartref newydd, gan sicrhau nad oes unrhyw un yng Ngwynedd yn aros mwy na 28 diwrnod yn dilyn asesiad gofal.

 

COFNODION:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Iechyd, Oedolion a Llesiant, y Cynghorydd Dilwyn Morgan, adroddiad yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo ychwanegu prosiect Gofal Cartref at y meysydd sydd i’w blaenoriaethu ar lefel strategol fel rhan o Gynllun Cyngor Gwynedd 2023-28.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau. 

 

Holwyd a oedd gan y Cyngor system deg a chadarn o gyfeirio cwynion i sylw’r Gwasanaeth Gofal.  Mewn ymateb, nododd y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol:-

·         Bod gan y Cyngor system ar gyfer gwrando ar gwynion a dysgu gwersi, ac ar gyfer derbyn sylwadau calonogol a chadarnhaol hefyd.

·         Bod swyddog o’r Adran Plant a swyddog o’r Adran Oedolion yn delio â chwynion a sylwadau’n benodol, ac yn adrodd yn rheolaidd i’r Cabinet a’r Pwyllgor Craffu Gofal.

·         Bod y maes hefyd wedi’i gynnwys fel rhan o’i adroddiad blynyddol i’r Cyngor, ac y byddai’n hapus i drafod ymhellach gyda’r aelod pe dymunai.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo ychwanegu’r prosiect isod at y meysydd sydd i’w blaenoriaethu ar lefel strategol fel rhan o Gynllun Cyngor Gwynedd 2023 28.

 

Sicrhau bod cefnogaeth amserol a llawn i'w gael i gefnogi pobl i allu byw adref

 

I sicrhau bod modd i bobl fyw eu bywyd gorau, mae’n rhaid i ni sicrhau fod cefnogaeth brydlon a rhwydd ar gael i unigolion a’u teuluoedd.

 

Byddwn yn gweithredu cynlluniau er mwyn:

 

   Sicrhau ein bod yn cydnabod pa mor werthfawr yw gofalwyr teuluol a di-dâl drwy wneud yn siŵr ein bod yn gallu eu hadnabod yn rhwydd a chynnig cefnogaeth lawn iddynt wrth ofalu.

   Lleihau ein rhestrau aros am becynnau gofal cartref newydd, gan sicrhau nad oes unrhyw un yng Ngwynedd yn aros mwy na 28 diwrnod yn dilyn asesiad gofal.

 

 

9.

CYLLIDEB 2025-26 pdf eicon PDF 817 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

1.   Cymeradwyo’r argymhellion a gyflwynwyd gan y Cabinet, sef:-

 

(a)  Sefydlu cyllideb o £356,815,330 ar gyfer 2025/26 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £248,389,720 a £108,425,610 o incwm o’r Dreth Cyngor (sy’n gynnydd o 8.66%).

(b)  Sefydlu rhaglen gyfalaf o £53,736,190 yn 2025/26 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor.

 

2.  Nodi fod yr Aelod Cabinet dros Gyllid, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 30 Rhagfyr 2024, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn 2025/26 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33 (5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-

 

(a) 56,842.05 yw’r swm a gyfrifwyd fel ei Sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd.

 

(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen Drethiannol Cymuned –

 

Aberdaron

      621.88

 

Llanddeiniolen

  1,904.89

Aberdyfi

    1,194.77

Llandderfel

   528.88

Abergwyngregyn

      121.90

Llanegryn

     174.80

Abermaw (Barmouth)

    1,317.52

Llanelltyd

     310.17

Arthog

      695.76

Llanengan

  2,751.39

Y Bala

      818.83

Llanfair

     362.68

Bangor

    4,244.36

Llanfihangel y Pennant

     251.76

Beddgelert

      350.40

Llanfrothen

     237.36

Betws Garmon

      146.24

Llangelynnin

     484.85

Bethesda

    1,765.16

Llangywer

     159.19

Bontnewydd

      463.21

Llanllechid

     371.67

Botwnnog

      484.06

Llanllyfni

  1,471.45

Brithdir a Llanfachreth

      474.36

Llannor

     951.51

Bryncrug

      355.42

Llanrug

  1,154.25

Buan

      244.98

Llanuwchllyn

     334.68

Caernarfon

    3,721.81

Llanwnda

     857.37

Clynnog Fawr

      489.83

Llanycil

     213.75

Corris

      319.67

Llanystumdwy

     937.44

Criccieth

    1,016.89

Maentwrog

     319.62

Dolbenmaen

      652.91

Mawddwy

     378.38

Dolgellau

    1,315.09

Nefyn

  1,696.20

Dyffryn Ardudwy

      873.94

Pennal

     238.53

Y Felinheli

    1,202.04

Penrhyndeudraeth

     838.59

Ffestiniog

    1,842.24

Pentir

  1,310.58

Y Ganllwyd

        88.00

Pistyll

     298.51

Harlech

      870.85

Porthmadog

  2,304.34

Trefor a Llanaelhaearn

      475.75

Pwllheli

  1,866.35

Llanbedr

      359.87

Talsarnau

     365.44

Llanbedrog

      882.45

Trawsfynydd

     528.93

Llanberis

      814.21

Tudweiliog

     520.39

Llandwrog

    1,083.91

Tywyn

  1,776.31

Llandygai

    1,038.17

 

Waunfawr

     595.31

 

sef y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Cyngor ar gyfer y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu fwy’n berthnasol.

 

3. Bod y symiau a ganlyn yn cael eu cyfrifo yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2025/26 yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-

                       

(a)   

£581,749,890

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf (gwariant gros).

 

(b)   

£221,986,500

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran 32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf (incwm).

 

(c)   

£359,763,390

Sef y swm sy’n cyfateb i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran 32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net).

 

     (ch)

£247,894,058

Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig a ganiateir.

 

(d)   

£1,968.07

Sef y swm yn 3(c) uchod llai’r swm yn 3(ch) uchod, y cyfan  ...  view the full Penderfyniad text for item 9.

COFNODION:

Cyn cychwyn trafod yr eitem hon, nododd y Cadeirydd, yn unol â’r Cyfansoddiad, bod rhaid i’r Pennaeth Cyllid dderbyn rhybudd o unrhyw welliant i’r gyllideb yn ysgrifenedig ymlaen llaw, a bod rhaid i’r gwelliant hwnnw arwain at gyllideb hafal, os am gael ei drafod.  Roedd holl aelodau’r Cyngor wedi’u hatgoffa o hynny'r wythnos cynt, a gan na dderbyniodd y Pennaeth Cyllid unrhyw rybudd o welliant erbyn yr amser cau dynodedig, ni fyddai modd i’r Cyngor ystyried unrhyw welliant i’r gyllideb.

 

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Huw Wyn Jones:-

·         Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei chymeradwyo ar gyfer 2025/26;

·         Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 8.66%) ynghyd â thablau yn dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i staff yr Adran Gyllid am eu holl waith yn paratoi’r gyllideb.

 

Diolchodd yr Arweinydd i’r Aelod Cabinet am ei gyflwyniad ac am wneud yr achos dros y gyllideb yn glir.  Diolchodd i’r swyddogion am arwain y Cyngor drwy’r broses, ac am eu harbenigedd a’u sgiliau.  Diolchodd hefyd i aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am eu gwaith yn craffu’r gyllideb, ac i’w chyd-gynghorwyr am fynychu’r gweithdai ar y gyllideb.  Nododd ymhellach:-

·         Bod y gyllideb yn adlewyrchu gwerthoedd y Cyngor gan ei bod yn blaenoriaethu’r bobl fwyaf bregus mewn cymdeithas drwy warchod gofal i blant a gwasanaethau cymdeithasol oedolion, clustnodi arian i geisio lleihau’r rhestrau aros am ofal a gwarchod ysgolion rhag toriadau'r flwyddyn nesaf.

·         Bod y pwysau ar y gwasanaethau yn cynyddu yn flynyddol gyda phoblogaeth y sir yn heneiddio, mwy o bobl angen gofal, mwy o blant bregus angen gofal a mwy o bobl yn ddigartref.

·         Er y cynnydd yn y galw am wasanaethau, bod rhaid i’r Cyngor osod cyllideb hafal.

·         Yn sgil dwyn pwysau ar Bwyllgor Cyllid Senedd Cymru drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, y cafwyd isafswm i’r setliad, neu byddai sefyllfa Gwynedd wedi bod hyd yn oed yn fwy dybryd.  Fodd bynnag, nid oedd hyn yn ateb tymor hir, ac er lles pobl Gwynedd, roedd yn ofynnol sicrhau cyllido teg i lywodraeth leol.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.

 

Holwyd pa mor hyderus oedd y Pennaeth Cyllid bod y gyllideb yn gadarn ac na fyddai’n rhaid i’r Cyngor wneud defnydd o falansau eto eleni.  Mewn ymateb, manylodd y Pennaeth Cyllid ar gynnwys Atodiad 10 i’r adroddiad, sef y datganiad y mae’n ofynnol iddo ei wneud fel Swyddog Cyllid Statudol ar gadernid yr amcangyfrifon yn unol ag Adran 25, Deddf Llywodraeth Leol 2003.

 

O ran yr elfen o’r cwestiwn yn ymwneud â’r defnydd o falansau, nododd y Pennaeth Cyllid y credai y byddai’r adnoddau ychwanegol a gynhwyswyd fel rhan o’r bidiau (Atodiad 2) yn mynd lawer o’r ffordd tuag at ymdrin â’r bwlch ariannol a’r gorwariant a welwyd yn 2024/25, gan ragweld na fyddai hynny’n digwydd eto'r flwyddyn nesaf.  Er hynny, ni allai warantu na fyddai yna orwariant eto yn 2025/26.

 

Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid, wedi ystyried yr  ...  view the full COFNODION text for item 9.

10.

STRATEGAETH GYFALAF 2025-26 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYCA) pdf eicon PDF 258 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 205/26.

 

COFNODION:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Cyllid, y Cynghorydd Huw Wyn Jones, adroddiad yn rhoi trosolwg lefel uchel ar y modd y mae gwariant cyfalaf, ariannu cyfalaf a gweithgaredd rheolaeth trysorlys yn cyfrannu at ddarparu gwasanaethau cyhoeddus lleol.  ‘Roedd yr adroddiad hefyd yn rhoi trosolwg o sut y rheolir risgiau cysylltiedig, a’r goblygiadau i gynaliadwyedd ariannol yn y dyfodol.

 

Wrth gyflwyno’r adroddiad, tynnwyd sylw gan yr Aelod Cabinet at baragraff 6.4 o Atodiad C i’r adroddiad ‘Ystyriaethau Amgylcheddol, Cymdeithasol a Llywodraethu (ESG)’ a ddiwygiwyd yn dilyn rhybudd o gynnig y Cynghorydd Cai Larsen i gyfarfod 3 Hydref, 2024 o’r Cyngor.  Nodwyd bod y Strategaeth yn cadarnhau bod y Cyngor yn ymrwymedig i fod yn fuddsoddwr cyfrifol gan ystyried holl ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethu wrth fuddsoddi.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Strategaeth Gyfalaf ar gyfer 205/26.

 

11.

SEFYDLU CYD-BWYLLGOR TROSOLWG A CHRAFFU CYD-BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD pdf eicon PDF 257 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Sefydlu Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyd bwyllgor Corfforedig y Gogledd gyda'r Cylch Gorchwyl sydd yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor.
  2. Cytuno bod pwerau Pwyllgorau Craffu lleol y darperir ar eu cyfer o dan Reoliadau Cyd bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 yn cael eu cadw.
  3. Cytuno y bydd cydbwysedd gwleidyddol enwebeion Cyngor Gwynedd i'r pwyllgor trosolwg a chraffu ar y cyd (CBTcH) yn adlewyrchu aelodaeth Cyngor Gwynedd yn hytrach na chyfanswm aelodaeth holl gynghorau Gogledd Cymru.
  4. Cytuno y bydd yr ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Cyd bwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael ei ddarparu gan y CBC yn unol â'r Cylch Gorchwyl.

 

COFNODION:

 

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad:-

·         yn nodi bod canllawiau statudol ac arfer presennol yn arwain tuag at chwe chyngor y Gogledd yn sefydlu model craffu trosolwg ar y cyd fel bod un corff penodol sy’n cael ei drochi yng ngwaith y Cyd-bwyllgor Corfforedig (CBC);

·         yn cyflwyno cyfres o argymhellion sy’n darparu ar gyfer trefniadau craffu ar gyfer y Cyd-bwyllgor.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.

 

Mynegwyd anfodlonrwydd bod penodi aelodau’r Cyd-bwyllgor ar sail cydbwysedd gwleidyddol y cynghorau unigol yn eithrio grwpiau llai ar draws y Gogledd rhag cyrraedd y trothwy.  Awgrymwyd hefyd y byddai Cyd-bwyllgor o 18 o aelodau (sef 3 aelod o bob cyngor, yn hytrach na 2 fel sy’n cael ei gynnig) yn rhoi gwell siawns i grwpiau llai gael sedd ar y Cyd-bwyllgor.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Y byddai’r pryder hwn yn cael ei gyfleu.

·         Nad oedd y drws wedi cau ac y byddai’n bosib’ addasu neu ddatblygu’r model ymhellach ar ôl profiad o gynnal y trefniadau.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, eglurwyd, petai argymhellion yr adroddiad yn cael eu mabwysiadu, mai’r Cyngor llawn, ym mis Mai, fyddai’n mabwysiadu dyraniad seddau'r Cyngor hwn ar y Cyd-bwyllgor fel rhan o’i adolygiad blynyddol o gydbwysedd gwleidyddol y Cyngor.  O edrych ar y rhifau a’r rhaniad gwleidyddol, a heb ragfarnu unrhyw benderfyniad, roedd yn ymddangos ar hyn o bryd y byddai yna 1 sedd i Grŵp Plaid Cymru ac 1 sedd i’r Grŵp Annibynnol.

 

Nododd yr Arweinydd, er yn cytuno â llawer o’r pwyntiau, nad oedd y drefn CBC, sy’n golygu rhanbartholi o Fôn i Wrecsam, yn ddull democrataidd o wneud penderfyniadau.  Fodd bynnag, gan fod y drefn wedi’i gorfodi arnom, roedd yn bwysig sicrhau dull o graffu gwaith y CBC a’i ddal yn atebol.

 

PENDERFYNWYD

1.         Sefydlu Cyd-bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cyd bwyllgor Corfforedig y Gogledd gyda'r Cylch Gorchwyl sydd yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor.

2.         Cytuno bod pwerau Pwyllgorau Craffu lleol y darperir ar eu cyfer o dan Reoliadau Cyd bwyllgorau Corfforedig (Cyffredinol) (Rhif 2) (Cymru) 2022 yn cael eu cadw.

3.         Cytuno y bydd cydbwysedd gwleidyddol enwebeion Cyngor Gwynedd i'r pwyllgor trosolwg a chraffu ar y cyd (CBTcH) yn adlewyrchu aelodaeth Cyngor Gwynedd yn hytrach na chyfanswm aelodaeth holl gynghorau Gogledd Cymru.

4.         Cytuno y bydd yr ysgrifenyddiaeth ar gyfer y Cyd bwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cael ei ddarparu gan y CBC yn unol â'r Cylch Gorchwyl.

 

12.

AROLYGON CYMUNEDOL O DAN DDEDDF LLYWODRAETH LEOL (DEMOCRATIAETH) (CYMRU) 2013 pdf eicon PDF 205 KB

Cyflwyno adroddiad yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwyo Cynigion Drafft dan adrannau 25 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth)(Cymru) 2013 er mwyn ymgynghori arnynt.

 

COFNODION:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol, y Cynghorydd Llio Elenid Owen, adroddiad:-

·         yn nodi y bu i’r Cyngor, ar 7 Mawrth, 2024, gymeradwyo cynnal arolygon cymunedol o dan adrannau 25 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013.

·         yn adrodd yn ôl ar ganlyniad y cyfnod ymgynghori ac ymchwilio cychwynnol ar yr arolygon cymunedol hynny; ac

·         yn gofyn i’r Cyngor gymeradwyo Cynigion Drafft ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus pellach.

 

PENDERFYNWYD cymeradwyo’r Cynigion Drafft dan adrannau 25 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth)(Cymru) 2013 er mwyn ymgynghori arnynt.

 

13.

ADDASU Y CYFANSODDIAD - PORTFFOLIOS CABINET pdf eicon PDF 95 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

COFNODION:

 

Cyflwynodd y Swyddog Monitro adroddiad yn adrodd yn ffurfiol, yn unol â Rhan 5 o’r Cyfansoddiad, bod Arweinydd y Cyngor wedi gweithredu i ail-drefnu Portffolios Aelodau’r Cabinet.

 

Gwnaed sylw gan aelod bod mwyafrif aelodau’r Cabinet yn dod o ardal Arfon, ac mai un yn unig sy’n hanu o Feirionnydd.  Nodwyd hefyd bod yr Aelodau Cabinet sy’n dod o Ddwyfor yn byw ar gyrion Arfon.  Gan hynny, holwyd sut y gellid sicrhau nad oes yna ragfarn ddiarwybod yn codi wrth wneud penderfyniadau ar sail daearyddiaeth, ac i ba raddau y gellid osgoi diffyg cydymdeimlad â chyrion y sir, sef y rhannau mwyaf gwasgarog eu poblogaeth?  Mewn ymateb, nododd y Prif Weithredwr:-

·         Nad oedd am basio barn ynglŷn â chynnwys y sylw gan mai adroddiad er gwybodaeth oedd gerbron o ran newid y Cyfansoddiad, a mater i’r Arweinydd oedd penodi ei Chabinet.

·         Fel yr un sy’n arwain staff y Cyngor, ei fod yn nodi’r sylw, ac y gallai sicrhau nad oes yna unrhyw ragfarn ddiarwybod ddaearyddol yn bodoli o safbwynt y staff.

 

Diolchodd aelod i’r 4 Aelod Cabinet oedd wedi sefyll i lawr yn gynharach yn y tymor hwn ar fater o egwyddor am eu gwasanaeth.  Nodwyd bod yr aelodau hynny wedi galw am ymchwiliad cyhoeddus ac adolygiad annibynnol ar y mater, ac y croesawid y ffaith bod hynny’n digwydd rŵan.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad.

 

14.

NEWIDIADAU CYFANSODDIAD - RHEOLAU GWEITHDREFN CONTRACT NEWYDD (ADRAN 17) pdf eicon PDF 142 KB

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Monitro.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu'r Rheolau Gweithdrefn Contract newydd (Adran 17) a ddangosir yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor.

 

COFNODION:

 

Gosododd y Swyddog Monitro y cyd-destun a chyflwynodd y Cyfreithiwr adroddiad:-

·         yn nodi bod y Ddeddf Caffael 2023 a ddaeth i rym ar 24 Chwefror, 2025 yn golygu bod rhaid i’r Cyngor adolygu a diwygio ei reolau caffael mewnol sydd wedi’u cynnwys o fewn y Rheolau Gweithdrefn Contract i adlewyrchu’r newid yn y ddeddfwriaeth er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â’r ddeddf.

·         yn gofyn i’r Cyngor newid y Cyfansoddiad drwy fabwysiadu’r Rheolau Contract newydd (Adran 17) a ddangosir yn Atodiad 1 i’r adroddiad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.

 

Croesawyd y rheoliadau a dymunwyd yn dda i bawb sy’n gweithio yn y maes Caffael.

 

Nodwyd nad oedd yna lawer o gyfeiriadau yn y Rheoliadau at sgiliau ieithyddol yn yr is-gontractio ac awgrymwyd bod cyfle euraid yn cael ei golli yma.  Derbynnid bod yna reolau contractio yn ymwneud â gwahaniaethu, ond roedd y gyfraith yn dweud bod modd blaenoriaethu mewn gwahanol amgylchiadau wrth gyflawni nod cyfreithlon fel hyrwyddo’r iaith Gymraeg.  Gan hynny, cynigiwyd gwelliant i ohirio mabwysiadu’r Rheoliadau hyd oni fydd y Pwyllgor Iaith wedi cael cyfle i graffu hyn.  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Bod hwn yn fater o gydymffurfiaeth â deddfwriaeth sydd mewn llaw bellach, a bod rhaid i’r Cyngor gael rheolau sy’n cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth yma.

·         Bod y gwelliant yn ymwneud â pholisi caffael yn hytrach na’r gyfundrefn gyfreithiol, h.y. beth mae’r Cyngor yn ei brynu yn hytrach na sut mae’r Cyngor yn ei brynu.

·         O bosib’ bod hyn yn fater i’w godi yn y Pwyllgor Iaith o ran sut mae caffael yn adlewyrchu gofynion iaith, ayb.

·         Nad oedd hyn yn cau’r drws o ran cynnal adolygiadau pellach yn y dyfodol.

 

Nododd y Prif Weithredwr fod rhwydd hynt i’r Pwyllgor Iaith edrych ar unrhyw bwnc, ond na fyddai hynny’n newid y penderfyniad.

 

Holwyd a allai’r swyddogion fod yn ffyddiog bod y polisi’n helpu i gadw’r budd yn lleol, ac ar ba lefel o dendr mae’n gorfod mynd allan ar Gwerthwch i Gymru?  Mewn ymateb, nodwyd:-

·         Mai hanfod y rheoliadau newydd yw tryloywder, a bellach bod rhaid hysbysebu gwybodaeth am dendrau islaw'r rhiniogau uchel oedd yn bodoli’n flaenorol.

·         Bod y dull o fynd at i dendro wedyn yn fater o ddewisiadau, ond fframwaith gyfreithiol ydoedd, ac roedd yna lawer mwy o ofyn ar lefel llawer is o ran ymwybyddiaeth o dendrau a phrosesau caffael hefyd.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu'r Rheolau Gweithdrefn Contract newydd (Adran 17) a ddangosir yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor.

 

15.

CALENDR PWYLLGORAU 2025-26 pdf eicon PDF 114 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2025/26 yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor.

 

COFNODION:

 

Cyflwynodd y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth galendr ar gyfer dyddiadau cyfarfodydd y Cyngor ar gyfer 2025/26.

 

Ymhellach i gynnwys yr adroddiad, nodwyd yr ymgynghorwyd hefyd â’r Awdurdod Heddlu a’r Awdurdod Tân ac Achub ar fersiwn drafft y calendr pwyllgorau.  Derbyniwyd ymateb gan Awdurdod yr Heddlu, ac roedd y swyddogion yn gweithio ar un dyddiad sy’n gwrthdaro.  Ni dderbyniwyd ymateb gan yr Awdurdod Tân ac Achub, a byddai’r swyddogion yn mynd ar ôl hynny.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Calendr Pwyllgorau ar gyfer 2025/26 yn Atodiad 1 i’r adroddiad a gyflwynwyd i’r Cyngor.

 

16.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

16a

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elwyn Edwards

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elwyn Edwards yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn i’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan i drosglwyddo’r Awdurdodaeth Gyfiawnder i’r Senedd yng Nghaerdydd.

 

Yn 2017 sefydlodd y Blaid Lafur gomisiwn i edrych ar posibilrwydd o drosglwyddo’r cyfrifoldeb am hyn yng Nghymru i Lywodraeth Cymru. Arweiniwyd y comisiwn gan yr Arglwydd Thomas o Gwmigedd, cyn brif swyddog dros Gyfiawnder yn Lloegr a Chymru.  Ei argymhelliad cadarn i’r llywodraeth oedd bod ‘gwir angen datganoli’r Gwasanaeth Cyfiawnder yng Nghymru i  Gymru gan sefydlu awdurdodaeth Gymreig ar wahân.

 

Mae gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu system Gyfiawnder eu hunain ond  mae Cymru ynghlwm wrth Loegr. Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd a deddfwriaeth ond heb awdurdod i weithredu hyn.

 

Er bod yna alw cynyddol dros greu Awdurdodaeth Gymreig ar wahân ac i ddatganoli’r pwerau i Lywodraeth Cymru ni fu unrhyw symudiad o du Llywodraethau Torïaidd na Llafur i wneud hyn.

 

Gofynnwn felly i’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan i weithredu ar argymhelliad yr Arglwydd Thomas.

 

Gan ofyn i holl gynghorau Cymru am eu cefnogaeth.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn i’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan drosglwyddo’r Awdurdodaeth Gyfiawnder i’r Senedd yng Nghaerdydd, ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru a holl gynghorau Cymru am eu cefnogaeth.

 

COFNODION:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elwyn Edwards o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn i’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan drosglwyddo’r Awdurdodaeth Gyfiawnder i’r Senedd yng Nghaerdydd, ac yn gofyn i holl gynghorau Cymru am eu cefnogaeth.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

·         Yn 2017, y sefydlodd y Blaid Lafur gomisiwn i edrych ar y posibilrwydd o drosglwyddo’r cyfrifoldeb am y Gwasanaeth Cyfiawnder yng Nghymru i Lywodraeth Cymru.  Arweiniwyd y comisiwn gan yr Arglwydd Thomas o Gwmigedd, cyn brif swyddog dros Gyfiawnder yn Lloegr a Chymru, a’i argymhelliad cadarn i’r llywodraeth oedd bod ‘gwir angen datganoli’r Gwasanaeth Cyfiawnder yng Nghymru i Gymru gan sefydlu awdurdodaeth Gymreig ar wahân.

·         Bod gan yr Alban a Gogledd Iwerddon eu system Gyfiawnder eu hunain, ond bod Cymru ynghlwm wrth Loegr, ac mai Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â deddfwriaeth, ond heb awdurdod i weithredu hyn.

·         Er bod yna alw cynyddol dros greu Awdurdodaeth Gymreig ar wahân ac i ddatganoli’r pwerau i Lywodraeth Cymru, ni fu unrhyw symudiad o du’r Llywodraethau Torïaidd na Llafur i wneud hyn.

 

Nododd y cynigydd ymhellach y dylai fod wedi cynnwys ‘a gofyn hefyd i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth’ fel rhan o’i gynnig.

 

Cynigiodd aelod arall welliant i’r perwyl hynny.  Cydsyniodd y cynigydd a’r eilydd i’r addasiad ac ni fu gwrthwynebiad i hynny o’r llawr.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig wedi’i addasu, sef:-

Mae Cyngor Gwynedd yn gofyn i’r Llywodraeth Lafur yn San Steffan drosglwyddo’r Awdurdodaeth Gyfiawnder i’r Senedd yng Nghaerdydd, ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru a holl gynghorau Cymru am eu cefnogaeth.

 

16b

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli grymoedd dros ddarlledu a’r cyfryngau i’r Senedd, ac i Lywodraeth Cymru fynd ymlaen gyda’r gwaith o baratoi a thrafod gyda San Steffan ar y ffordd orau i wireddu hyn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli grymoedd dros ddarlledu a’r cyfryngau i’r Senedd, ac i Lywodraeth Cymru fynd ymlaen gyda’r gwaith o baratoi a thrafod gyda San Steffan ar y ffordd orau i wireddu hyn.

 

COFNODION:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Mae’r Cyngor yn galw ar Lywodraeth San Steffan i ddatganoli grymoedd dros ddarlledu a’r cyfryngau i’r Senedd, ac i Lywodraeth Cymru fynd ymlaen gyda’r gwaith o baratoi a thrafod gyda San Steffan ar y ffordd orau i wireddu hyn.

 

https://ssl.gstatic.com/ui/v1/icons/mail/images/cleardot.gifGosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

·         Ei bod wedi dod yn amlwg dros y blynyddoedd diwethaf nad yw Cymru’n cael y darlun llawn pan mae’n dod i drafod y materion sy’n allweddol i ni fel Cenedl, a bod diffyg cael rheolaeth dros y cyfryngau wedi achosi penbleth i bobl y wlad wrth drafod protestiadau, argyfyngau a materion cyffredinol sy’n ein heffeithio ni fel pobl o ddydd i ddydd.

·         Bod y cyfnod clo yn ystod Cofid yn enghraifft amlwg o hyn, pan fu’r cyfryngau yn rhannu newyddion nad oedd yn berthnasol i Gymru, gan greu dryswch o ran hawl pobl i groesi ffiniau.

·         Y gwelwyd yr un hen stori hefyd wrth i faterion Cymreig gael eu trafod ar y newyddion cenedlaethol a’r papurau; materion sy’n cynnwys datganoli, protest y ffermwyr, y gofal iechyd cenedlaethol, a llu o faterion pwysig, oherwydd prin iawn ydi’r persbectif Cymreig a’r amser sy’n cael ei ddynodi i’r materion yma.

·         Ei bod yn destun siom hefyd nad yw darlledu Cymraeg wedi cael yr un cyfle i dyfu â chyfryngau mewn gwledydd tebyg, megis Catalwnia a Gwlad y Basg, sydd ag amryw o sianeli yn eu hieithoedd eu hunain, yn ogystal â sianeli dwyieithog, a sianeli yn y Sbaeneg sydd â phersbectif Catalaneg / Basgeg.

·         Heb drafodaeth lawn, glir, gyda phersbectif Cymreig ar y materion allweddol yma, ei bod yn mynd yn anodd deall beth yw’r camau nesaf i’w cymryd, a’n bod, felly, yn tueddu i droi mewn cylchoedd ar bynciau llosg heb wybod beth yw’r ffordd i’w datrys.

·         Ei bod yn bwysig bod Llywodraeth San Steffan a Llywodraeth Cymru yn dechrau trafod ar unwaith sut mae modd datganoli darlledu a’r cyfryngau, drwy edrych ar y ffordd i’w ariannu a’i wneud yn gynaliadwy.

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan aelodau eraill, a nodwyd:-

·         Y sefydlwyd sianeli teledu / radio yng Ngwlad y Basg a Chatalwnia tua’r un adeg a phan sefydlwyd S4C a Radio Cymru yma yng Nghymru.  O ran cyd-destun, roedd gan Wlad y Basg 1 sianel deledu ac 1 sianel radio ar y cychwyn, ond bellach roedd ganddynt 6 sianel deledu a 5 sianel radio.  Ar y cychwyn roedd gan Gatalwnia 1 sianel deledu ac 1 sianel radio, ond bellach roedd ganddynt 6 sianel deledu a 3 sianel radio.

·         Bod Bil Cyfryngau 2024 Llywodraeth y DU yn disodli’r angen i gynnig darpariaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, ac er i Bwyllgor Diwylliant Senedd Cymru fynegi pryder clir ynglŷn â hynny, ni chafodd y cymal ei warchod.  O ganlyniad, daeth dros 20 mlynedd o ddarlledu Cymraeg ar y sianeli masnachol, gan gynnwys Champion, Heart a Capital, i ben ar 24 Chwefror eleni,  ...  view the full COFNODION text for item 16b

17.

YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 86 KB

(1)  Llythyr gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Meryl Roberts i gyfarfod 3 Hydref, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â Thaliadau Tanwydd Gaeaf.

 

(2)  E-bost gan Sian Gwenllian, AS, mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Elin Walker Jones i gyfarfod 5 Rhagfyr, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â sefydlu Ysgol Ddeintyddiaeth ym Mangor.

 

(3)  Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Rhys Tudur i gyfarfod 5 Rhagfyr, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â Threth Trafodiadau Tir.

 

(4)  Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd John Pughe Roberts i gyfarfod 5 Rhagfyr, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â Rhyddhad Eiddo Amaethyddol.

 

(5)  Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths i gyfarfod 5 Rhagfyr, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â chyfnewid tai cymdeithasol.

 

(6)  Llythyr gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd June Jones i gyfarfod 5 Rhagfyr, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â thrwyddedau gyrru graddedig.

 

I nodi hefyd y derbyniwyd negeseuon o gefnogaeth gan Gyngor Tref Trefdraeth a Chyngor Cymuned Bethesda i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards i gyfarfod 3 Hydref, 2024 o’r Cyngor yn galw am ddynodi Dydd Gŵyl Dewi yn wyliau cenedlaethol swyddogol yng Nghymru

 

Dogfennau ychwanegol:

COFNODION:

 

Cyflwynwyd – er gwybodaeth:-

(1)       Llythyr gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Meryl Roberts i gyfarfod 3 Hydref, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â Thaliadau Tanwydd Gaeaf.

(2)       E-bost gan Sian Gwenllian, AS, mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Elin Walker Jones i gyfarfod 5 Rhagfyr, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â sefydlu Ysgol Ddeintyddiaeth ym Mangor.

(3)       Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Rhys Tudur i gyfarfod 5 Rhagfyr, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â Threth Trafodion Tir.

(4)       Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd John Pughe Roberts i gyfarfod 5 Rhagfyr, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â Rhyddhad Eiddo Amaethyddol.

(5)       Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths i gyfarfod 5 Rhagfyr, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â chyfnewid tai cymdeithasol.

(6)       Llythyr gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd June Jones i gyfarfod 5 Rhagfyr, 2024 o’r Cyngor ynglŷn â thrwyddedau gyrru graddedig.

 

Nodwyd hefyd y derbyniwyd negeseuon o gefnogaeth gan Gyngor Tref Trefdraeth a Chyngor Cymuned Bethesda i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards i gyfarfod 3 Hydref, 2024 o’r Cyngor yn galw am ddynodi Dydd Gŵyl Dewi yn wyliau cenedlaethol swyddogol yng Nghymru.

 

 

Atodiadau pdf eicon PDF 76 KB

Dogfennau ychwanegol: