Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Menna Baines, Beth Lawton, Richard Glyn Roberts a Ioan Thomas.

 

2.

COFNODION pdf eicon PDF 267 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y Cyfarfod Blynyddol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 1 Mai, 2025 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 3 Mehefin  2025 fel rhai cywir.

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cydymdeimlwyd â theulu’r Cynghorydd Rob Triggs, a fu farw yn ddiweddar, a rhoddwyd teyrnged iddo gan y Cyng. Eryl Jones-Williams.

 

Cydymdeimlwyd a theulu’r diweddar O P Huws Llanllyfni a fu am flynyddoedd yn Aelod o’r Cyngor hwn.  Rhoddwyd teyrnged iddo gan Cyng. Craig ab Iago.

 

Cydymdeimlwyd a theulu Sharon Warnes, Aelod Lleyg ar y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a fu fawr yn ddiweddar, a rhoddwyd teyrnged iddi gan yr Is-gadeirydd.

 

Nodwyd  y bu farw Annette Bryn Parri yn ddiweddar, a chydymdeimlwyd â’i theulu hithau hefyd.

 

Nodwyd ymhellach bod y Cyngor yn dymuno cofio am bawb o fewn cymunedau’r sir oedd wedi colli anwyliaid yn ddiweddar. Ymdawelodd y Cyngor fel arwydd o barch a choffadwriaeth. 

 

 

Nodwyd fod sawl aelod o’r Cyngor wedi bod yn anhwylus yn ddiweddar a dymunwyd iddynt adferiad llwyr a buan. 

 

Cyfeiriwyd at ymddeoliad dau hynod brofiadol o Dîm Rheoli’r Cyngor ar ôl treulio eu gyrfa yng Nghyngor Gwynedd. Diolchwyd i Aled Davies, Pennaeth yr Adran Oedolion a Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol y Cyngor am eu holl waith mae wedi eu cyflawni dros y deugain mlynedd diwethaf.

 

Llongyfarchwyd y canlynol:

·       Nyth (Fran wen, Bangor) sydd wedi derbyn Canmoliaeth Uchel mewn seremoni Gwobrau MacEwen RIBA, sy’n yn cydnabod adeiladau sy'n gwella bywydau pobl a'r gymuned. Canmolwyd y gwaith o drawsnewid hen eglwys Santes Fair ym Mangor i hwb diwylliannol creadigol newydd. 

·       Cynghorydd Gwilym Jones ar ddod yn daid eto, i ferch fach o’r enw Nansi.

·       Clwb Rygbi (Dynion) Caernarfon ar ennill Cwpan Adran 1 Undeb Rygbi Cymru – y clwb cyntaf o Ogledd Cymru i’w hennill.

 

Dymunwyd yn dda  i Dîm Pêl-droed Merched Cymru yng nghystadleuaeth Ewro 2025. 

 

Croesawyd y Cynghorydd Geraint Wyn Parry i’w gyfarfod cyntaf o’r Cyngor hwn fel yr Aelod dros Teigl, a diolchwyd unwaith eto i’r Cyn-gynghorydd Linda Ann Jones am ei holl waith dros y blynyddoedd.

 

Nodwyd o ganlyniad i gyhoeddiad diweddar fod Etholiad y Senedd yn cael ei gynnal ar 7 Mai, 2026, nodwyd y byddai Cyfarfod Blynyddol 2026 y Cyngor yn cael ei symud o’r dyddiad hwnnw i’r 14eg o Fai.

 

Nodwyd mai hwn oedd y cyfarfod olaf o’r Cyngor llawn y byddai Eirian Roberts (Swyddog Gwasanaethau Democratiaeth) yn ei gofnodi gan y byddai’n ymddeol ddiwedd Gorffennaf.  Diolchwyd iddi am ei gwasanaeth yn cofnodi cyfarfodydd y Cyngor dros nifer o flynyddoedd, ac yn gweithio yn ei swydd ers dros ddeugain mlynedd.

 

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

6.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 177 KB

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

(Cyhoeddwyd atebion ysgrifenedig yr Aelodau Cabinet i’r cwestiynau ymlaen llaw.)

 

(1)        Cwestiwn Y Cynghorydd Elin Hywel

 

Rwyf yn llongyfarch yn ddiffuant swyddogion am greu adnodd mor werthfawr, defnyddiol

a chlodwiw â phodlediad Mam, Dad a Magu.

 

Rwyf yn falch o glywed bod barn defnyddwyr yn cael ei gyrchu yn rheolaidd.

 

Nodir fod pryder wedi ei godi parthed priodoldeb y teitl ‘Mam, Dad a Magu’ ar sawl

achlysur.  Rwyf yn derbyn y rhesymeg fod angen cynyddu ymgysylltiad tadau.  Gwyddom

fod tadau, fel mamau, yn llwyddiannus wrth gynnal teuluoedd sydd ddim yn dilyn y

patrwm traddodiadol, heteronormatif, a gynigir yn y teitl, yn deilwng ein cefnogaeth ac i

gael eu dathlu. 

 

Serch hynny, mae’r pryder bod teitl y podlediad yn cyfleu neges heteronormatif yn parhau,

ac y gellid ei ddarllen i fod yn waharddol.  Canlyniad hyn fyddai methiant i fod yn gynhwysol

o’r amrywiaeth o deuluoedd sydd yn ein cymdeithas.

 

Nodir nad yw methiant y teitl yn adlewyrchu llwyddiant y cynnwys a gwaith caled ein

swyddogion. 

 

Mae ysgolion Gwynedd yn sôn am “y teulu” ers tro. Gwnawn hyn er mwyn sicrhau eu bod

yn gynhwysol.  A wneith Cyngor Gwynedd ddilyn yr enghraifft yma, sydd wedi ei ddangos

i fod yn effeithiol, a newid y teitl a sôn am “Magu teulu”?

 

Ateb yr Aelod Cabinet Plant a Chefnogi Teuluoedd, Y Cynghorydd Menna Trenholme.

 

Diolch am y cwestiwn, Elin, a diolch am gymryd diddordeb yng ngwaith yr Adran Plant ac yng ngwaith penodol y gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar. Rwy’n falch iawn hefyd o’r ganmoliaeth ar y gwaith da sydd yn mynd rhagddo ac mae’n braf gallu datgan bod llawer o sylw cadarnhaol ac ymateb da wedi bod i’r podlediad. Mae gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar Gwynedd yn arwain yn genedlaethol ar ddatblygu'r math hwn o bodlediad cyffrous ac mae’n hyfryd ein bod yn cael y cyfle i ddathlu hynny.

 

Yng nghyd-destun y cwestiwn, mae'n werth cadarnhau ein bod yng Nghyngor Gwynedd yn croesawu ac yn rhoi gwasanaeth i bob math o deuluoedd nid jyst rhai traddodiadol, heteronormatif, ac ein bod yn credu bod amrywiaeth a chymdeithas groesawgar yn rhan hanfodol o'r sir ac o waith y Cyngor Nid oes bwriad o gwbl i hybu syniadau heteronormatif yn y teitl, dim ond bwriad i sicrhau fod tadau yn cael eu cynnwys, yn ogystal â mamau.

 

Bu cryn drafod gyda grwpiau ffocws o ddefnyddwyr gwasanaeth ar y pynciau trafod, holl syniad y podlediad, a’r enw yn gyffredinol. Drwy hynny daeth pynciau amrywiol i’r fei, fel bronfwydo, cwsg a pharatoi plant ar gyfer yr ysgol. Un pwnc pwysig, yn ôl y grwpiau trafod hyn, oedd cysylltiad tadau gyda magu a materion iechyd meddwl tadau ac yn y blaen. Yn ogystal daethpwyd at yr enw gwreiddiol, sef “Mam a dad a magu”.

 

Codwyd mater yr enw eisoes, gan godi materion cyffelyb i’r hyn yr wyt ti’n eu codi heddiw. Yn sgil hynny, bu trafod pellach gyda grwpiau defnyddwyr a chytunwyd y byddai newid yr enw yn briodol, drwy dynnu’r “a” a’i newid o “Mam a dad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR SAFONAU 2024/25 pdf eicon PDF 101 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Safonau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynodd Cadeirydd y Pwyllgor Safonau'r adroddiad, gan ddiolchwyd am y cyfle i’w gyflwyno. Mynegodd fod y flwyddyn wedi bod yn un llwyddiannus iawn i’r pwyllgor. Diolchwyd i’r holl aelodau am gadw safonau, ac yn benodol i’r tri arweinydd gwleidyddol am weithio mor agos gyda’r Swyddog Monitro. Nodwyd diolch yn ogystal i’r cyn-arweinydd am ei waith yn ystod ei gyfnod yn y swydd.

 

Amlygwyd nad oes un achos wedi mynd o flaen y pwyllgor a gobeithir y bydd hyn yn parhau i’r flwyddyn nesaf. Tynnwyd sylw at nifer o aelodau ddim yn mynychu hyfforddiant hanfodol, a nodwyd yr angen i Aelodau weithio gyda’r arweinyddion grwpiau i gwblhau’r hyfforddiant.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Diolchwyd i’r Cadeirydd am ei waith dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad.

 

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PENNAETH DEMOCRATIAETH 2024/25 pdf eicon PDF 159 KB

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Democratiaeth.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Derbyn yr adroddiad.

 

  1. Sefydlu 8fed maes hyfforddiant craidd ar gyfer Aelodau Etholedig, sef “Trais yn Erbyn Menywod. Cam-drin Domestig a thrais rhywiol” yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth.

 

Cofnod:

 

Diolchwyd am y cyfle i gyflwyno’r adroddiad. Amlygwyd fod yr adroddiad wedi ei rhannu’n ddwy ran. Nodwyd fod y rhan gyntaf yn rhoi diweddariad ar beth sydd wedi digwydd yn y maes dros y flwyddyn, ynghyd ar newidiadau o ran staffio. Pwysleisiwyd fod y pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth wedi rhoi cryn sylw i’r maes hyfforddiant eleni, a bod yr adroddiad yn amlygu beth sydd wedi ei drafod ynghyd ac ychwanegiad pellach i’r hyfforddiant craidd.

 

Nodwyd fod lefel bodlonrwydd o waith y Tîm Democratiaeth wedi cynyddu ers llynedd, a rhoddwyd cydnabyddiaeth i waith y tîm o gefnogi dros 150 o gyfarfodydd. Eglurwyd fod gwaith helaeth wedi ei wneud er mwyn datblygu’r Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd er mwn sefydlu’r elfen ddemocratiaeth.

 

Amlygwyd blaenoriaethau am eleni, sef i ddechrau’r gwaith o baratoi ar gyfer Etholiad Mai 2027, o ran adolygu beth wnaethpwyd yn ystod etholiad 2022, ac i gyflwyno gwelliannau o ran y tymor nesaf. Tynnwyd sylw at yr angen i edrych a chreu cynllun moderneiddio’r systemau’r siambrau gan greu cynllun i’w gyflwyno fel cynllun busnes eleni.

 

Wrth drafod Hyfforddiant Aelodau, mynegwyd fod trafodaethau wedi eu cynnal yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth i gyflwyno wythfed maes craidd sef modiwr Trais yn erbyn Mercher, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Eglurwyd fod y modiwl hwn yn un mandadol i staff ac felly angen ei ehangu i aelodau.

 

Diolchwyd i staff y maes am eu gwaith caled.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Bu i Gadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ddiolch i’r Pennaeth ac i’r tîm am y gwaith maen nhw yn ei wneud, a diolchwyd i aelodau’r pwyllgor am eu gwaith. 

 

Croesawyd yr hyfforddiant Trais yn erbyn Merched, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol, gan ofyn am iddo gael ei gynnal mor fuan a bo modd.

 

Trafodwyd eitem Cwestiynau ar raglen y Cyngor, gyda rhai yn mynegi pryder am ei hyd gyda chynifer o gwestiynau i’w trafod. Penderfynwyd fod y mater hwn yn fater i’w drafod ymhellach yn y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth o ran y safbwynt cyfansoddiadol ac i edrych sut mae Cynghorau eraill yn ymdrin â’r mater. 

 

Holwyd o ran diweddaru’r siambrau a datblygiadau technegol fod angen ymestyn y ddarpariaeth a’r diweddariad tu hwnt i Gaernarfon ac i leoliadau'r Cyngor ar draws y sir.

 

PENDERFYNWYD

1.     Dderbyn yr adroddiad

2.     Sefydlu 8fed maes hyfforddiant craidd ar gyfer Aelodau Etholedig, sef “Trais yn Erbyn Menywod. Cam-drin Domestig a thrais rhywiol” yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth.

 

9.

PARTNERIAETH PENSIWN CYMRU - GWEITHREDU CYNLLUN BUSNES 'ADDAS I'R DYFODOL' pdf eicon PDF 314 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

  1. Nodi Achos busnes Partneriaeth Pensiwn Cymru Addas i’r Dyfodol (Atodiad 3, Atodiad 4 ac adran 4 o’r adroddiad)

 

  1. Cymeradwyo ffurfio endid corfforaethol sy’n berchnogaeth llwyr i Awdurdodau Gweinyddu PPC a fydd yn cael ei adnabod yn Gwmni Rheoli Buddsoddi PPC (IMCo.) a'r holl gamau eraill sy'n angenrheidiol i gyflwyno cais i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) ar gyfer awdurdodi'r cwmni gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ddewis a recriwtio Swyddogaethau Uwch Reolwyr (SMF) fel sy'n ofynnol gan yr FCA a pharatoi a chyflwyno'r cais i'r FCA. (Adran 5 o’r adroddiad)

 

  1. Cymeradwyo Cynllun Busnes a chyllideb ddiwygiedig PPC 2025/28 sy'n cynnwys costau dylunio/galluogi ar gyfer Prosiect yr Wyddfa (Atodiad 5 ac Adran 6 o’r adroddiad)

 

  1. Dirprwyo’r hawl i’r Swyddog Adran 151 mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor Pensiynau i fwrw ymlaen gyda Prosiect Wyddfa gydag Awdurdodau Gweinyddu PPC yn unol ag amserlen y Llywodraeth o fewn y gyllideb gymeradwy.

 

  1. Dirprwyo cymeradwyaeth derfynol y dogfennaeth ffurfiol derfynol sy’n ofynnol ar gyfer gweithredu’r Cwmni Rheoli Buddsoddi, a ddisgrifir fel ‘Mynd yn Fyw’ fel yr amlinellir yn Adran 7 o’r adroddiad, i’r Pwyllgor Pensiynau i roi effaith i Achos Busnes PPC Addas i’r Dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Elin Hywel, Cadeirydd y Pwyllgor Pensiynau. Eglurwyd fod yr eitem hon yn un sydd wedi ei thrafod dros y misoedd diwethaf. Diolchwyd am y swyddogion am eu gwaith diddiwedd ar y cynllun hwn. Pwysleisiwyd mai hwn, yng ngolwg y Pwyllgor, yw’r opsiwn gorau sydd yn cyrraedd yr anghenion sydd wedi ei nodi gan Lywodraeth y DU.

 

Eglurwyd mai Cyngor Gwynedd yw’r awdurdod gweinyddol ar gyfer Cronfa Bensiwn Gwynedd, a olygai ei fod yn gweinyddu pensiynau ar gyfer dros 50,000 o aelodau, bron i 50 o gyflogwyr a £3.2 biliwn o asedau. Mynegwyd fod y Gronfa Bensiwn wedi bod yn cydweithio ers 2017 gyda’r wyth gronfa Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghrymu, a hynny drwy gytundeb rhyng-awdurdod a gymeradwywyd gan y Cyngor llawn yn ôl ym Mawrth 2017, sef y pwl a sefydlwyd sef Partneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Nodwyd fod oddeutu £25biliwn o asedau dan reolaeth y Pwl, a cheir manteision drwy arbedion cost, gwella cyfleoedd buddsoddi, gwella perfformiad a chynyddu cyd-weithio a llywodraethu ar draws Cymru. Eglurwyd fod hyn wedi gweithio yn dda i Wynedd, gyda 85% o gronfa Bensiwn Gwynedd wedi ei bwlio, fod y cydweithio wedi bod yn fanteisiol iawn i’r gronfa.

 

Ers Hydref 2023, nodwyd fod y Llywodraeth wedi bod yn adolygu trefniadau buddsoddi Cynlluniau Pensiwn Llywodraeth Leol yng Nghrymu a Lloegr. Mynegwyd fod ymgyhoriad cychwynnol wedi ei gynnal, ac yn ddiweddar fod y Bil Pensiynau wedi ei gyhoeddi. Tynnwyd sylw at y model gweithredu sy’n ddisgwyliedig a fydd yn bodloni’r safonau a nodwyd.

 

Eglurwyd yr angen olaf, sef i sefydlu cwmni rheoli buddsoddiadau, sydd dan sylw heddiw. Nodwyd fod Partneriaeth Pensiwn Cymru yn bwriadu sefydlu cwmni rheoli buddsoddiadau ar wahân (‘’IM Co’’) sydd wedi ei rheoleiddio gan yr FCA yn unol â meini prawf y Llywodraeth, mae’r prosiect yma wedi ei alw yn ‘Prosiect yr Wyddfa’ gan Bartneriaeth Pensiwn Cymru.

 

Esboniwyd fod y penderfyniad i adeiladu cwmni rheoli buddsoddiadau (“IM Co”) ar gyfer Partneriaeth Pensiwn Cymru yn cynnig cyfle unigryw i sefydlu canolfan o arbenigedd mewn buddsoddiadau CPLlL yng Nghymru. Paratôdd Partneriaeth Pensiwn Cymru achos busnes cryf i’r Llywodraeth ym mis Chwefror 2025, a derbyniwyd llythyr o gefnogaeth i’r Achos Busnes yn Ebrill 2025.

 

Bydd angen cyflwyno elfennau newydd yn y strwythur llywodraethu, yn cynnwys Bwrdd Cyfranddalwyr gyda chynrychiolaeth o’r holl awdurdodau gweinyddol. Yn y tymor canolig a hir, nodwyd fod y PPC yn gobeithio darparu buddion ariannol a fydd yn uwch na chostau’r model gweithredol. Nid oes costau trosglwyddo buddsoddiadau ond amcangyfrif bydd cost y model newydd oddeutu £5-£5.5m - costau’r Gronfa ac nid y Cyngor. Nodwyd y penderfyniad.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Mynegwyd o’r ddau gynnig sydd wedi ei nodi gan Lywodraeth y DU, mai hwn yw’r opsiwn gorau. Nodwyd fod hyn yn cadw rheolaeth o fewn Cymru ac felly yn cadw’r rheolaeth o fewn Llywodraethau Lleol Cymru. Ynghyd a sicrhau fod y penderfyniadau yn sicrhau ei fod yn gwarchod buddion Cymru ynghyd a sicrhau fod y Gymraeg yn cael ei defnyddio fel iaith  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

10.

ARGYMHELLIAD PANEL CYFWELD - PENODI AELODAU LLEYG O'R PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO pdf eicon PDF 100 KB

Cyflwyno adroddiad Cadeirydd y Panel Cyfweld.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penodi Dr Peter Barnes, Mr Dewi Lewis a Mr Paul Millar-Mills fel Aelodau Lleyg o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y 5 mlynedd nesaf yn ddarostyngedig i dderbyn geirda derbyniol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Anne Lloyd Jones yn absenoldeb Cadeirydd y panel cyfweld. Mynegwyd fod angen i benodi 3 o Aelodau Lleyg i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac roedd 3 o aelodau ar y panel cyfweld - Cadeirydd y Cyngor, Yr Aelod Cabinet dros Gyllid a Chadeirydd y Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth.

 

Bu i bedwar unigolyn gael ei gyfweld, ac ar ôl ystyried yn ofalus a thrylwyr nodwyd fod tri wedi cyrraedd y meini prawf. O ganlyniad gofynnwyd i benodi Dr Peter Barnes, Mr Dewi Lewis a Mr Paul Millar-Mills fel aelodau o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y 5 mlynedd nesaf.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau.

 

Mynegwyd anfodlonrwydd o ran balans rhyw o blith yr aelodau lleyg. Nodwyd o 18 aelod yn etholedig ac yn lleyg mai dim ond 4 merch sydd ddim yn rhoi adlewyrchiad deg o gymdeithas. Gofynnwyd a oes modd gneued mwy o ymdrech i ddenu merched. Bu i’r Pennaeth Cyllid nodi nad yw’r pwyllgor, ers newid i fod a 6 aelod lleyg yn ôl yn 2022, erioed wedi cael aelodaeth leyg lawn. Pwysleisiwyd nad oes modd i’r pwyllgor reoli pwy sy’n ymgeisio i fod yn aelod lleyg, ond pwysleisiwyd fod yr adran dros y blynyddoedd wedi trio pob math o ffyrdd i ddenu aelodau, ond pwysleisiwyd ei fod wedi bod yn broses gywir a bod bob cais wedi cael sylw teg.

 

Holwyd pa fath o archwiliadau a geirda sydd ei angen wrth ymgeisio a ydi’r aelodau yn cael chwiliadau trylwyr o’i cefndir a beth maent wedi ei gyflawni. Eglurwyd fod y penodiadau yn ddarostyngeid i dderbyn tystlythyrau derbyniol a fydd yn cael ei derbyn dros yr wythnosau nesaf.

 

PENDERFYNWYD Penodi Dr Peter Barnes, Mr Dewi Lewis a Mr Paul Millar-Mills fel Aelodau Lleyg o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio am y 5 mlynedd nesaf yn ddarostyngedig i dderbyn geirda derbyniol.

 

11.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

12.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Rhys Tudur

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Rhys Tudur yn cynnig fel a ganlyn:-

 

O ystyried y shifft iaith a welwyd yng Ngwynedd o gyfrifiad i gyfrifiad, mae'r Cyngor hwn yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ac yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno ar fyrder, fesurau'n rhoi grymoedd a chyllid i awdurdodau lleol wrthweithio shifft iaith.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

O ystyried y shifft iaith a welwyd yng Ngwynedd o gyfrifiad i gyfrifiad, mae'r Cyngor hwn yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ac yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno ar fyrder, fesurau'n rhoi grymoedd a chyllid i awdurdodau lleol wrthweithio shifft iaith.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Rhys Tudur o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

O ystyried y shifft iaith a welwyd yng Ngwynedd o gyfrifiad i gyfrifiad, mae'r Cyngor hwn yn

croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ac yn galw ar y Llywodraeth i gyflwyno ar fyrder, fesurau'n rhoi grymoedd a chyllid i awdurdodau

lleol wrthweithio shifft iaith.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

·       Ei fod yn drobwynt i’r iaith fod y Llywodraeth yn awyddus i ddynodi ardaloedd ble mae’r Gymraeg yn iaith o ddydd i ddydd. 

·       Mynegwyd fod y Comisiwn Cymunedau Cymraeg wedi gwneud nifer o argymhellion, a bod ardaloedd ble mae dros 40% o bobl yn siarad Cymraeg eu bod yn cael ei nodi fel ardaloedd arwyddocaol ieithyddol. Eglurwyd y buasai Gwynedd gyfan yn cael ei nodi o dan y safon hon.

·       Pwysleiswyd y buasai ardaloedd nad oeddent yn cyrraedd y lefel canran yn gallu cael ei dynodi yn ogystal â fuasai yn rhoi statws i rai lleoliadau.

·       Y buasai'n gosod sail gyfreithio gref i’r iaith ffynnu.

·       Ardaloedd yma wedi ei nodi Gwlad y Basg sydd wedi gwneud cynnydd yn nifer yr ardaloedd yma.

·       Gwynedd gyda’r nifer uchaf o ardaloedd dynodedig gyda nifer o leoliadau gyda dros 70% yn siarad yr iaith o ddydd i ddydd, dim ond un lleoliad arall drwy Gymru tu hwnt i Wynedd.

·       Llywdoraeth wedi datgan eu cefnogaeth mewn egwyddor, ond galwyd ar y Llyowdaeth i weithredu mewn gweithredoedd cyn yr etholiad.

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan nodi’r yr angen i roi pethau ar waith ac i sicrhau fod pawb yn gallu ac yn cael y cyfle i fyw eu bywyd ac i weithio drwy’r Gymraeg.

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Mae'r Cyngor hwn yn croesawu ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ac yn  galw ar y Llywodraeth i gyflwyno ar fyrder, fesurau'n rhoi grymoedd a chyllid i awdurdodau lleol wrthweithio shifft iaith.

 

13.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Gwynfor Owen

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Gwynfor Owen yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Yn sgîl y datguddiad bod gwelliannau i’r rheilffordd rhwng Rhydychen a Chaergrawnt wedi cael eu newid o fod yn gynllun ar gyfer Lloegr i fod yn gynllun ar gyfer Lloegr a Chymru, a hefyd yn sgil yr arian pitw a gyhoeddwyd yn adolygiad gwariant Llywodraeth San Steffan o £450m dros 10 mlynedd, mae Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymru yn ei chyfanrwydd yn cael ei datganoli i Gymru ar fyrder.  Mae’r Cyngor yma o’r farn bod Gwynedd a Chymru yn colli allan yn sylweddol ar fuddsoddiad wrth fod ynghlwm i Loegr ar y materion yma.  Credwn y dylai Cymru gael yr un hawliau ag sydd gan Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Yn sgil y datguddiad bod gwelliannau i’r rheilffordd rhwng Rhydychen a Caergrawnt wedi cael eu newid o fod yn gynllun ar gyfer Lloegr i fod yn gynllun ar gyfer Lloegr a Chymru, a hefyd yn sgil yr arian pitw a gyhoeddwyd yn adolygiad gwariant Llywodraeth San Steffan o £450m dros 10 mlynedd, mae Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymru yn ei chyfanrwydd yn cael ei datganoli i Gymru ar fyrder.  Mae’r Cyngor yma o’r farn bod Gwynedd a Chymru yn colli allan yn sylweddol ar fuddsoddiad wrth fod ynghlwm i Loegr ar y materion yma.  Credwn y dylai Cymru gael yr un hawliau ag sydd gan Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Gwynfor Owen o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Yn sgil y datguddiad bod gwelliannau i’r rheilffordd rhwng Rhydychen a Caergrawnt wedi cael eu newid o fod yn gynllun ar gyfer Lloegr i fod yn gynllun ar gyfer Lloegr a Chymru, a hefyd yn sgil yr arian pitw a gyhoeddwyd yn adolygiad gwariant Llywodraeth San Steffan o £450m dros 10 mlynedd, mae Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymru yn ei chyfanrwydd yn cael ei datganoli i Gymru ar fyrder. Mae’r Cyngor yma o’r farn bod Gwynedd a Chymru yn colli allan yn sylweddol ar fuddsoddiad wrth fod ynghlwm i Loegr ar y materion yma. Credwn y dylai Cymru gael yr un hawliau ag sydd gan Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w chynnig, gan nodi:-

·       Nad oedd yn derbyn fod rheilffyrdd Cymru yn rhan o gyfundrefn rheilffyrdd Lloegr a Chymru, ac o ganlyniad yn talu am gostau diweddaru llinellau rheilffordd yn Lloegr, sy’n costio miliynau tra mae Cymru yn derbyn 0.5m dros gyfnod o 10 mlynedd.

·       Mynegwyd fod Lywodraeth San Steffan yn nodi mai hyn ofynnwyd amdano yng Nghymru gyda’r Gweinidog yn nodi y bydd yn gwella cysylltiad Cymru a Lerpwl a Manceinion

·       Pwysleiswyd fod rheilffyrdd yng Nghymru wedi cael ei danariannu ers degawdau ac am gael ei dan gyllido am y blynyddoedd i ddod.

·       Amlygwyd fod toriadau wedi taro Gwynedd gyda thoriadau i drenau Rheilffordd y Cambrian yn enghraifft amlwg.

·       Mynegwyd fod y gyfundrefn yn newid, i reilffyrdd gael ei ddatganoli, i Gymru dderbyn yr arian maent yn ddyletswydd er mwyn sicrhau'r gwelliannau sydd angen ei wneud i wneud y rheilffordd yn deilwng i’r wlad. 

 

PENDERFYNWYD mabwysiadu’r cynnig, sef:-

 

Yn sgil y datguddiad bod gwelliannau i’r rheilffordd rhwng Rhydychen a Caergrawnt wedi cael eu newid o fod yn gynllun ar gyfer Lloegr i fod yn gynllun ar gyfer Lloegr a Chymru, a hefyd yn sgil yr arian pitw a gyhoeddwyd yn adolygiad gwariant Llywodraeth San Steffan o £450m dros 10 mlynedd, mae Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynnu bod Rhwydwaith Rheilffyrdd Cymru yn ei chyfanrwydd yn cael ei datganoli i Gymru ar fyrder. Mae’r Cyngor yma o’r farn bod Gwynedd a Chymru yn colli allan yn sylweddol ar fuddsoddiad wrth fod ynghlwm i Loegr ar y materion yma. Credwn y dylai Cymru gael yr un hawliau ag sydd gan Yr Alban a Gogledd Iwerddon.

 

14.

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Jina Gwyrfai

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd dan Adran 4.19 o’r Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Jina Gwyrfai yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Wrth ystyried

a)    bod Amaeth yn un o brif ddiwydiannau Cymru, a bod canran uchel o economi Gwynedd yn gysylltiedig â’r byd amaethyddiaeth.

b)    bod sefydlogrwydd y fferm deuluol yn gyfraniad hollbwysig ac amhrisiadwy at gadw’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau Cymraeg

c)    bod y diwydiant amaeth yng Nghymru ar hyn o bryd yn gallu cyfrannu’n o lew at stoc bwyd y ‘Deyrnas Unedig’ mewn oes o ansicrwydd cynyddol, ond bod y stoc yn isel

Noda’r Cyngor, gyda thristwch mai bygythiad yw’r Ddeddf Treth Etifeddiaeth i’r uned ffermio draddodiadol, i economi y wlad ac i gefn gwlad Cymru, yn enwedig i’r ardaloedd Cymraeg.

 

(Mae’n hysbys bod o leiaf dau ffermwr wedi cyflawni hunanladdiad ers pasio’r Ddeddf a bod teuluoedd a gweithwyr a busnesau lleol cysylltiedig yn wynebu chwalfa os daw y Ddeddf i rym yn 2026.)

 

Galwaf felly ar Gyngor Gwynedd i bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu trwy:-

i)                    bwyso ar Lywodraeth San Steffan i gydnabod bod y diwydiant ffermio yn hollbwysig i strategaeth diogelwch y DU, ac i eithrio ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu bwyd o’r dreth newydd pan ddaw i rym.

ii)                  erfyn ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil i asesu effaith y Ddeddf ar economi Cymru a chymunedau Cymraeg; hefyd i weithredu mesurau lliniarol digonol er mwyn diogelu’r diwydiant amaeth sydd mor allweddol i ddyfodol cymunedau cefn gwlad ein gwlad.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

Wrth ystyried

a)    bod Amaeth yn un o brif ddiwydiannau Cymru, a bod canran uchel o economi Gwynedd yn gysylltiedig â’r byd amaethyddiaeth.

b)    bod sefydlogrwydd y fferm deuluol yn gyfraniad hollbwysig ac amhrisiadwy at gadw’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau Cymraeg

c)    bod y diwydiant amaeth yng Nghymru ar hyn o bryd yn gallu cyfrannu’n o lew at stoc bwyd y ‘Deyrnas Unedig’ mewn oes o ansicrwydd cynyddol, ond bod y stoc yn isel

Noda’r Cyngor, gyda thristwch mai bygythiad yw’r Ddeddf Treth Etifeddiaeth i’r uned ffermio draddodiadol, i economi y wlad ac i gefn gwlad Cymru, yn enwedig i’r ardaloedd Cymraeg.

(Mae’n hysbys bod o leiaf dau ffermwr wedi cyflawni hunanladdiad ers pasio’r Ddeddf a bod teuluoedd a gweithwyr a busnesau lleol cysylltiedig yn wynebu chwalfa os daw y Ddeddf i rym yn 2026.)

 

Galwaf felly ar Gyngor Gwynedd i bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu trwy:-

i)                    bwyso ar Lywodraeth San Steffan i gydnabod bod y diwydiant ffermio yn hollbwysig i strategaeth diogelwch y DU, ac i eithrio ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu bwyd o’r dreth newydd pan ddaw i rym.

erfyn ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil i asesu effaith y Ddeddf ar economi Cymru a chymunedau Cymraeg; hefyd i weithredu mesurau lliniarol digonol er mwyn diogelu’r diwydiant amaeth sydd mor allweddol i ddyfodol cymunedau cefn gwlad ein gwlad.

Cofnod:

Cyflwynwyd y rhybudd o gynnig a ganlyn gan y Cynghorydd Jina Gwyrfai o dan Adran 4.19 y Cyfansoddiad, ac fe’i eiliwyd:-

 

Wrth ystyried

a)    bod Amaeth yn un o brif ddiwydiannau Cymru, a bod canran uchel o economi Gwynedd yn gysylltiedig â’r byd amaethyddiaeth.

b)    bod sefydlogrwydd y fferm deuluol yn gyfraniad hollbwysig ac amhrisiadwy at gadw’r iaith Gymraeg yn ein cymunedau Cymraeg

c)     bod y diwydiant amaeth yng Nghymru ar hyn o bryd yn gallu cyfrannu’n o lew at stoc bwyd y ‘Deyrnas Unedig’ mewn oes o ansicrwydd cynyddol, ond bod y stoc yn isel

Noda’r Cyngor, gyda thristwch mai bygythiad yw’r Ddeddf Treth Etifeddiaeth i’r uned ffermio draddodiadol, i economi'r wlad ac i gefn gwlad Cymru, yn enwedig i’r ardaloedd Cymraeg. (Mae’n hysbys bod o leiaf dau ffermwr wedi cyflawni hunanladdiad ers pasio’r Ddeddf a bod teuluoedd a gweithwyr a busnesau lleol cysylltiedig yn wynebu chwalfa os daw'r Ddeddf i rym yn 2026.)

 

Galwaf felly ar Gyngor Gwynedd i bwyso ar Lywodraeth Cymru i weithredu trwy:-

            i.         bwyso ar Lywodraeth San Steffan i gydnabod bod y diwydiant ffermio yn hollbwysig i strategaeth diogelwch y DU, ac i eithrio ffermydd teuluol sy’n cynhyrchu bwyd o’r dreth newydd pan ddaw i rym.

           ii.         erfyn ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwil i asesu effaith y Ddeddf ar economi Cymru a chymunedau Cymraeg; hefyd i weithredu mesurau lliniarol digonol er mwyn diogelu’r diwydiant amaeth sydd mor allweddol i ddyfodol cymunedau cefn gwlad ein gwlad.

 

Gosododd yr aelod y cyd-destun i’w gynnig, gan nodi:-

·       Ateb i gynnig yn ôl ym mis Rhagfyr wedi bod yn anfoddhaol, gyda dim cynlluniau wedi cael arfaeth

·       Fod 75% ffermydd am gael eu heffeithio yn andwyol gyda’r dreth yma, ac am greu llanast llwyr.

·       Fod Arolwg Amaeth Prifysgol Aberystwyth wedi amlygu incwm gros fferm deuluol oddeutu 0.5% o werth y fferm. Ond gwerth y fferm sydd am gael ei drethu, ac felly mae’r bygythiad yn un anferthol. 

·       Amlygwyd fod buddsoddiadau wedi lleihau mewn ffermydd ers cyhoeddi’r dreth yma sy’n amlygu dim hyder yn y cynllun.

·       Problemau Iechyd Meddwl wedi cynyddu yn enwedig mewn fferiwyr hŷn, oherwydd poen meddwl enfawr o feddwl am ddyfodol eu ffermydd.

·       Cyswllt a chymunedau Cymreig yn amlwg, gyda 43% o weithwyr fferm yn siaradwyr Cymraeg dros Gymru gyda niferoedd yn uwch yng Ngwynedd. Amlygu fod y dreth yn fygythiad i’r iaith ac i ddiwylliant Cymreig mewn cymunedau.

·       Cynhyrchu bwyd yw pwrpas ffermydd a dyna pam mae wedi ei gadw allan o dreth etifeddiaeth yn hanesyddol, ond o’i gymharu â’r 80au mae canran y bwyd sy’n dod o ffermydd wedi lleihau i 54% ac o ganlyniad mae prisiau bwyd wedi cynyddu. Angen ehangu ffermydd sydd ei angen yn economaidd ac yn amgylcheddol.

 

Mynegwyd cefnogaeth i’r cynnig gan aelodau gan amlygu’r pwyntiau isod:

·       Llywodraeth ddim dirnad effaith hyn, a ddim yn gweld bod yr arian yn y tir ac nid yn y banc. Mae ffermydd ynghlwm ar pridd ac nid oed dim un alwedigaeth sydd wedi gwreiddio gymaint mewn cymunedau.

·       Eglurwyd fod y Llywodraeth yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14.

15.

YMATEBION / DIWEDDARIADAU I RYBUDDION O GYNNIG BLAENOROL pdf eicon PDF 53 KB

(1)  Llythyr gan Lywodraeth y DU mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards i gyfarfod 6 Mawrth, 2025 o’r Cyngor ynglŷn â’r Awdurdodaeth Gyfiawnder.

(2)  Llythyr gan GLlLC mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards i gyfarfod 6 Mawrth, 2025 o’r Cyngor ynglŷn â’r Awdurdodaeth Gyfiawnder.

(3)  Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Elwyn Edwards i gyfarfod 6 Mawrth, 2025 o’r Cyngor ynglŷn â’r Awdurdodaeth Gyfiawnder.

(4)  Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn i gyfarfod 6 Mawrth, 2025 o’r Cyngor ynglŷn â phwerau darlledu a’r cyfryngau.

(5)  Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Elin Hywel i gyfarfod 1 Mai, 2025 o’r Cyngor ynglŷn â diwygio lles.

(6)  Llythyr gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i Rybudd o Gynnig y Cynghorydd Gwynfor Owen i gyfarfod 1 Mai, 2025 o’r Cyngor ynglŷn â’r cynnydd yn y cyfraniadau Yswiriant Gwladol i gyflogwyr.

 

Dogfennau ychwanegol: