Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol y Cynghorydd Peter Read yn
Gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2015/16. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Penderfynwyd: Ail-ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn
Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2015/16. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cynghorwyr Alan Jones Evans, Dewi Owen, Mrs Rita Price (Eglwys Gatholig), Mr Neil Foden (Undeb Athrawon). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones fuddiant personol yn Eitem
8 – Newidiadau yn y Gwasanaethau
Anabledd Dysgu ond ni fyddai’n gadael y Siambr oni bai bod trafodaeth benodol
ynghylch anabledd dysgu yn ystod trafodaeth ar yr eitem.
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn
y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.
Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2015. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 16 Ebrill 2015. |
|
NEWIDIADAU YN Y GWASANAETHAU ANABLEDD DYSGU Aelod Cabinet: Y Cyng. Gareth
Roberts I ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet Gofal ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: (a) Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd mewn ymateb i
gyfres o gwestiynau a ofynnwyd gan y Pwyllgor Craffu yn deillio o’r newidiadau
yn y Gwasanaeth Anabledd Dysgu. (b) Adroddodd yr Aelod Cabinet bod angen trawsffurfio’r gwasanaeth uchod er
mwyn sicrhau bod unigolion ag anabledd dysgu yn cyrraedd eu potensial gan
sicrhau bod y gefnogaeth a gynigir yng Ngwynedd yn arloesol.
Yn ogystal bod angen cyflwyno newidiadau sydd yn mynd i ganfod arbedion
ond yn bwysicach yn gwella’r canlyniad ar gyfer yr unigolyn. Bydd y cyfathrebu a hyrwyddo’r newidiadau a
sicrhau cefnogaeth a dealltwriaeth unigolion a’u teuluoedd, staff a darparwyr
mewnol ac allanol yn allweddol ac yn arwain at gydweithio effeithiol tuag at
gyrraedd y nod er mwyn sicrhau gwell gwasanaethau ar gyfer anghenion unigolion. (c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol: (i)
Dylid pwyso am gadarnhad gan
Lywodraeth Cymru am gyllid i ymestyn y ddarpariaeth ar gyfer unigolion awtistig (ii)
Pwysigrwydd i hysbysebu rhieni
/ unigolion / defnyddwyr y gwasanaeth pan mai’n ofynnol i ail-drefnu
cyfarfodydd (iii)
Tra’n cefnogi’r weledigaeth i
hybu unigolion i fod yn annibynnol, pryderwyd am yr effaith ar lawr gwlad ac yn
benodol cefnogi unigolion ag anabledd dysgu sydd yn mynd i fyd
gwaith ac o ganlyniad yn colli budd-daliadau (iv)
Gofynnwyd beth mae Cyngor
Gwynedd yn mynd i wneud yn sgil bod deilydd swydd
(Gweithiwr Allweddol Awtistiaeth) wedi ymddiswyddo, i sicrhau bod yr unigolion
gydag anabledd dysgu yn cael gwasanaeth teilwng (v)
Croesawir yr adroddiad ond
nodwyd bod gwersi i’w dysgu a chyfeiriwyd at weithgareddau a gynigwyd yn flaenorol ar gyfer unigolion gydag anabledd
dysgu yn benodol yn Ysgol Botwnnog â’r feithrinfa
goed yng Nglyn Llifon a oedd yn rhoi hunanwerth ac yn fuddiol i’r unigolion. (vi)
Byddai toriadau i wasanaeth anableddau dysgu yn cael effaith andwyol i unigolion (vii)
Dylid annog pob Aelod i
dderbyn hyfforddiant ar awtistiaeth a sut i ddelio ag unigolion (viii) Nad oedd cyfeiriad at rieni / teuluoedd yn yr adroddiad a theimlwyd eu bod
yn cael eu diystyru. (ix)
Cais i gynrychiolwyr gydag
anabledd dysgu / iechyd meddwl / awtistiaeth i gwrdd â’r
Pwyllgor Craffu er mwyn clywed barn a dod i ddeall a chodi ymwybyddiaeth y
pwyllgor o’u hanghenion (x)
Pryder yn sgil newidiadau
rhwng Gwynedd / Ynys Môn, i unigolion golli allan ar wasanaethau. (ch) Ymatebodd yr Aelod Cabinet Oedolion, ac
Iechyd a’r swyddogion i’r sylwadau a wnaed gan Aelodau unigol fel a ganlyn: (a) Esboniwyd bod model “Key Ring”
yn un cenedlaethol ac yn caniatáu cefnogaeth hyd fraich gan wirfoddolwyr i
unigolion gydag anabledd dysgu a’u bod ar gael pe byddai argyfwng yn codi. Nid
oedd y cynllun yn weithredol yng Ngwynedd ond nodwyd
ymhellach bod angen i fod mwy blaengar mewn cynlluniau sydd ar gael ond rhaid
cofio nad yw pob un yn addas ar gyfer Gwynedd oherwydd natur ddaearyddol y Sir. (b) Eglurwyd o safbwynt cyllid pellach i ariannu swydd Cefnogaeth a Monitro Cymunedol, cydnabuwyd bod y sefyllfa’n anodd a ... view the full COFNODION text for item 7. |
|
YMCHWILIAD CRAFFU O'R YSBYTY I'R CARTREF RHAN 2 I ystyried adroddiad Cadeirydd yr Ymchwiliad Craffu Gofal, Y Cynghorydd Peter Read, ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: (a) Bu i’r Is-gadeirydd gadeirio’r eitem uchod er mwyn i’r Cadeirydd, Y
Cynghorydd Peter Read, gyflwyno'r
adroddiad uchod a chroesawyd Meinir Williams a Ffion Johnstone o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i’r cyfarfod i
ymateb i ymholiadau / sylwadau’r Pwyllgor Craffu. (b) Cyflwynwyd adroddiad terfynol drafft gan y Cynghorydd Peter Read, Cadeirydd
yr Ymchwiliad Craffu O’r Ysbyty i’r Cartref, a oedd yn canolbwyntio ar
drefniadau rhyddhau a throsglwyddo cleifion o’r ysbyty i’r cartref. Diolchodd y Cadeirydd am y cydweithrediad
ardderchog gyda staff y Bwrdd Iechyd ynghyd â swyddogion gwahanol Adrannau’r
Cyngor a oedd wedi ychwanegu gwerth at ganlyniadau ac argymhellion yr
Ymchwiliad. (c) Nododd y Rheolwr Aelodau – Cefnogi a Chraffu bod yr adroddiad drafft
gerbron yn ffrwyth llafur yr Ymchwiliad
Craffu a gomisiynwyd gan y Pwyllgor Craffu hwn a thynnwyd sylw at y pwyntiau
canlynol: ·
Bod natur yr adroddiad yn
wahanol i’r arferol oherwydd yn bennaf dau adroddiad ynglŷn â darpariaeth a gwaith craffu
diffygiol a ddaeth yn amlwg yn Lloegr.
Derbyniwyd arweiniad i dreialu
ffyrdd gwahanol o gynnal ymchwiliadau craffu i geisio
uchafu llais pobl sydd yn y gwasanaeth ac fe welir o’r adroddiad bod mwy o
ddadansoddi a dehongli gwahanol ddata sydd yn arwain at y prif argymhellion i’w
cyflwyno i’r Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd ac i’r Bwrdd Iechyd. ·
Ymddiheurwyd am hepgor
cyfeiriad yn yr adroddiad at ymweliad dau aelod o’r Ymchwiliad i Ganolfan Heneiddio’n Dda yng Nghricieth (ch) Croesawyd unrhyw sylwadau gan y Pwyllgor
Craffu ar y prif ganfyddiadau amlinellir yn yr adroddiad ac fe nodwyd y
pwyntiau isod: 1. Tra’n derbyn bod Gwynedd yn
perfformio’n dda ar y cyfan o ran cymhariaeth genedlaethol ar y mesurydd trosglwyddo
cleifion yn amserol o’r ysbyty i’r gymuned nodwyd bod problemau yn amlygu
yn ystod y penwythnosau. Mewn ymateb, eglurodd cynrychiolydd o’r Bwrdd Iechyd bod y penwythnosau yn
profi’n anodd o ran trosglwyddo cleifion yn ystod cyfnod yr haf oherwydd diffyg
Gweithwyr Cymdeithasol yn yr ysbyty dros y penwythnos ond ei fod wedi
gweithio’n dda yn ystod y gaeaf. Nodwyd ymhellach bod gwaith yn mynd rhagddo ar
yr uchod ond bod gan y Bwrdd Iechyd fwy o sialensiau yn ymwneud â chartrefi yn
methu derbyn cleifion yn ôl dros y penwythnosau oherwydd lefelau staffio ynghyd
â throsglwyddo cleifion i’r ysbytai cymunedol.
2. Cydnabuwyd gan gynrychiolydd y Bwrdd Iechyd bod llunio cynllun gofal yn
flaenoriaeth ganddi'r flwyddyn yma. 1. Yr angen am gydweithio gyda’r Trydydd
Sector yn enwedig yn ardaloedd Dwyfor / Meirionnydd. 2. Cytunwyd bod lle i wella o safbwynt rhyddhau
claf ar y penwythnosau. 3. Bod angen cysoni’r trefniadau a chael cynllun o safbwynt rhyddhau claf, a
phecynnau iddynt fynd adref o Ysbyty
Bronglais i Dde Gwynedd 4. O safbwynt prinder meddygon teulu a
nyrsys, mynegwyd: · anfodlonrwydd nad oedd cydymffurfiaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr o’r polisïau ysgrifenedig i’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad. Darganfuwyd bod protocol newydd lle rhyddheir y claf o’r ysbyty ac os yw’r claf angen gofal nyrsio mae’n ofynnol i’r unigolion sy’n gofalu chwilio, o fewn 5 diwrnod, ... view the full COFNODION text for item 8. |
|
DIWEDDARIAD - ADOLYGIAD STRATEGOL ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL A CHYNHWYSIAD I dderbyn adroddiad cynnydd ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: (a) Cyflwynwyd diweddariad cryno gan yr Aelod Cabinet Addysg yn deillio o’r
adolygiad yn y ddarpariaeth anghenion dysgu ychwanegol a chynhwysiad. (b) Eglurodd yr Aelod Cabinet Addysg bod cynnydd da wedi ei gyflawni gyda
chefnogaeth i’r adolygiad. Er hynny,
roedd o’r farn bod angen cyflawni mwy o waith o
safbwynt cyflwyno eglurder i’r gweithlu ynglyn â’r model. Roedd
bwriad i gyflwyno adroddiad i’r Cabinet ym mis Mehefin ond teimlwyd bod yr
amserlen yn gynamserol a bellach bwriedir cyflwyno’r adroddiad i’r Cabinet ym
mis Medi 2015. Yn y cyfamser, nodwyd bod
cyfarfod arbennig wedi ei drefnu ar 11 Mehefin 2015 gyda gwahoddiad wedi ei
estyn i aelodau’r Grŵp Tasg Anghenion Dysgu Ychwanegol (a sefydlwyd gan y
Pwyllgor Craffu Gwasanaethau) ynghyd ag aelodau Gwynedd o’r Cydbwyllgor
Anghenion Addysgol Arbennig a rhai o Aelodau’r Cabinet. Nodwyd ymhellach bod dyddiad wedi ei bennu ar
gyfer 15 Mehefin 2015 i’r Grwp Tasg Anghenion Dysgu
Ychwanegol i ystyried unrhyw sylwadau pellach y dymunent drafod yn deillio o’r
cyfarfod ar 11 Mehefin. (c) Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad Addysg
bod adolygiad y strategaeth yn amserol a bod angen rhoi sylw i’r tair elfen
isod: ·
Uwchsgilio athrawon i ddarparu ar gyfer
anghenion y disgyblion er mwyn gwneud gwahaniaeth ·
Cydweithio gyda rhieni i’w
galluogi i gynorthwyo mewn rhyw fodd ·
Cefnogi’r plant ar lawr y
dosbarth (ch) Mewn ymateb i ymholiad gan Aelod o ran
niferoedd a fynychwyd y ffeiriau gwybodaeth ac mai siomedig oedd y presenoldeb,
nodwyd bod cyfuniad o resymau am hyn. (d) O safbwynt aelodaeth y Grwp Tasg Anghenion Dysgu Ychwanegol, cymeradwywyd i’r Cynghorydd Gweno Glyn barhau yn aelod yn dilyn ei
hymadawiad diweddar o’r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau. Penderfynwyd: (a) Derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad. (b) Cymeradwyo i’r Cynghorydd Gweno Glyn
barhau yn aelod ar y Grwp Tasg
Anghenion Dysgu Ychwanegol. |
|
GWELEDIGAETH A CHYFEIRIAD GWASANAETHAU OEDOLION I'R DYFODOL Aelod Cabinet – Y Cyng.
Gareth Roberts I dderbyn adroddiad yr Aelod Cabinet Gofal ar yr uchod. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Cyflwynwyd adroddiad yr
Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd yn amlinellu gweledigaeth a chyfeiriad newydd
ar gyfer y Gwasanaeth Oedolion gan ganolbwyntio’n benodol ar faes gofal pobl
hŷn. Amlinellodd yr Aelod
Cabinet Oedolion, ac Iechyd y cefndir gan nodi bod newid enfawr i ddigwydd nid
yn unig yng Ngwynedd ond drwy Gymru
gyfan. Nododd bod newid cyfeiriad yn
hynod bwysig ac mai gyrrwr allweddol y
newidiadau ydoedd Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
ynghyd â barn pobl hŷn am y math o wasanaethau a darpariaethau maent am eu
gweld ar gyfer cyfnod eu henaint hwy.
Bydd angen cynnal gwaith cynhwysfawr gyda’r defnyddwyr ac yr un pryd ni
ellir anwybyddu’r toriadau cyllidol ac os am geisio
amddiffyn y sefyllfa bresennol golygai arbedion ariannol mewn meysydd eraill. Yn ystod y drafodaeth
ddilynol amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: (a) Trafodwyd cofrestriad deublyg yn y gorffennol ar sawl achlysur a mynegwyd
pryder ynglŷn â’r drefn bresennol gyda chleifion
yn cael eu rhyddhau o’r ysbytai i gartrefi preswyl ar gyfer gofal canolradd a’r
staff heb gymwysterau priodol i warchod anghenion y cleifion. Teimlwyd ymhellach bod hyn yn fodd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i gael cleifion
allan o’r ysbytai ynghynt. (b) Anfodlonrwydd bod unigolion sydd wedi gweithio a chyfrannu yn ariannol ar
hyd eu bywydau yn gorfod talu am ofal a rhai eraill yn ei dderbyn yn rhad ac am
ddim. (c) Bod pobl hŷn yn awyddus i fod yn annibynnol am gyn
hired â phosibl a bod eu hiechyd yn dirywio erbyn y diwedd. (d) Cytunwyd â’r sylw uchod gan ychwanegu nad oedd yr
isadeiledd yn gywir a bod unigolion yn dod at y gwasanaeth pan fyddent mewn
argyfwng. (e) Awgrymwyd y byddai o fudd i Aelodau’r Pwyllgor hwn dderbyn copi o’r Ddeddf
Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant ynghyd â hyfforddiant ar oblygiadau’r
ddeddf. (f) Bod cynnwys yr adroddiad yn ddiystyriol ac mewn rhai rhannau yn gwamalu o
safbwynt anghenion pobl hŷn (g) Tra’n cydnabod bod egwyddorion o’r weledigaeth yn wych, rhannwyd pryder ar
sut y byddir yn ei weithredu ar lawr gwlad a sut y byddir yn sicrhau
atebolrwydd (h) Tra’n cytuno bod unigolion yn awyddus i fyw yn annibynnol rhaid cydnabod
bod cyfrifoldeb ar y gwasanaeth os ydynt yn dioddef hefyd ac yn y pen draw yn
fwy costus (i) Pryder nad yw meddygon ifanc yn awyddus i weithio fel meddygon teulu yn
enwedig mewn ardaloedd gwledig. (j) Mynegwyd bod yr angen am ddarpariaeth gofal yn cynyddu ar gyfer mewnfudwyr
sy’n symud i gefn gwlad ac angen darpariaeth gofal oherwydd nad oes ganddynt
gefnogaeth deuluol yn byw yn agos (k) Bod gwasanaeth teleofal yn hanfodol i lawer o
bobl hŷn (l) Nad oedd darpariaeth gofal ysbaid digonol yn ardal Arfon a bod gwir angen
darpariaeth o’r fath ar gyfer y gofalwyr (m) Pwysigrwydd i gydweithio gyda’r trydydd sector a chyfeiriwyd at gynlluniau
megis “Cynllun Ffrindiau” sydd yn ddarpariaeth lwyddiannus Ymatebodd yr Aelod Cabinet Oedolion, ac Iechyd a’r swyddogion i’r sylwadau uchod fel a ganlyn: ... view the full COFNODION text for item 10. |