Lleoliad: Siambr Hywel Dda - Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Glynda O'Brien (01341) 424301
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Beth Lawton yn
Gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2016 – 2017 Diolchodd y
Cynghorydd Beth Lawton i’r Cynghorydd Peter Read am ei waith a’i ddiddordeb yn
y maes fel cyn cadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd i’r Pwyllgor hwn am y flwyddyn 2016/17. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Eirwyn Williams yn Is gadeirydd y Pwyllgor Craffu hwn am 2016
– 2017 |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Siân Wyn Hughes, Dewi Owen, Peter Read, Gareth A Roberts ac Ann Williams.
Neil Foden a David Healy (Swyddogion Undeb Athrawon) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cafwyd datganiad o
fuddiant personol gan y Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones, yn eitem 9 ar y rhaglen
oherwydd natur ei gwaith. Gadawodd y Cynghorydd yr ystafell yn ystod y
drafodaeth. |
|
MATERION BRYS I nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym
marn y Cadeirydd fel y gellir eu
hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod blaenorol o’r Pwyllgor
hwn a gynhaliwyd ar 17 Mawrth 2016. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd
ar 17 Mawrth 2016 |
|
ADRODDIAD CYNNYDD - YMCHWILIAD CRAFFU ALLTWEN PDF 69 KB Aelod Cabinet: Y Cynghorydd
W. Gareth Roberts I dderbyn adroddiad cynnydd ar Ymchwiliad
Craffu Alltwen. 10.00 –
10.15 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Cyflwynwyd adroddiad cynnydd yr ymchwiliad yn rhoi
diweddariad i’r Pwyllgor Craffu ar y gwaith oedd wedi ei gyflawni a’r gwaith
sydd wedi ei gynllunio. Amlygodd Cadeirydd yr Ymchwiliad, Y Cynghorydd Linda
Ann Wyn Jones bod angen ymchwilio pellach i’r maes gan mai dryslyd iawn oedd
ceisio dehongli pwyt odd yn
cael y gwasanaeth a ‘r nifer oedd yn derbyn y gwasanaeth. Awgrymwyd bod angen
mwy o amser i holi ymhellach er mwyn ceisio datrys hyn ynghyd a cheisio adborth
defnyddwyr gwasanaeth. Cynigiwyd bod angen treulio diwrnod yn Alltwen yn ceisio
mewnbwn rhai o’r defnyddwyr. b)
Amlygwyd mai tri yn unig o aelodau’r ymchwiliad
oedd yn bresennol yn y cyfarfod a gynhaliwyd mai, ac fe wnaed awgrym y dylid
fod wedi gohirio'r cyfarfod hwnnw oherwydd y nifer a fynychwyd ac oherwydd y
materion oedd yn codi yn y Pwyllgor. Mewn ymateb,
nodwyd nad oedd cworwm ar gyfer ymchwiliad craffu ac fe benderfynwyd be fyddai
tri yn mynychu byddai’r cyfarfod yn mynd yn ei flaen. Gwnaed awgrym i osod
dyddiadau i’r dyfodol fel eu bod yn nyddiaduron yr aelodau c)
Derbyniwyd y sylw bod angen ymateb cyn gleifion a
phobl sydd yn derbyn y gwasanaeth, ond amlygwyd yr angen i ystyried hyn yn
ofalus oherwydd materion cyfrinachedd a diogelu data. Awgrymwyd y gellid
casglu'r wybodaeth drwy swyddogion gweithredol sydd yn ymwneud ar’ defnyddwyr
gwasanaeth wyneb yn wyneb a heb greu pryder ymysg y defnyddwyr o gael eu holi
ar gyfer yr ymchwiliad. Mewn ymateb i gynnig bod angen treulio diwrnod yn yr ysbyty yn ceisio
adborth, awgrymwyd y byddai un person yn ddigonol ar gyfer hyn. ch) Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y sylwadau
canlynol -
Enghreifftiau o fethu cael offer -angen datrysiad.
Nodwyd bod y broses o geisio offer yn drwsgl a bod
angen cadw budd yn lleol -
Pwysig cael mewnbwn defnyddwyr gwasanaeth i’r
ymchwiliad a bod system yn ei le i sicrhau hyn -
Staff y Gwasanaeth Iechyd Cenedlaethol yn gweithio
dros 24ain awr , dros saith diwrnod yr wythnos - amlygwyd nad oes staff Gwynedd
yn rhoi'r oriau i mewn dros y penwythnos - angen cyfarch hyn -
Arafwch y Bwrdd Iechyd i ymrwymo o i rai agweddau -
dylid ymestyn allan ymhellach - ehangu’r cynllun i
ardaloedd erial -
Cais i’r ymchwiliad ystyried nodi oedran yr
unigolion sydd yn cael eu holi oherwydd amharodrwydd rhai pobl hyn i gwyno -
A oes ystyriaeth wedi ei roi i’r pwysau ychwanegol
tebygol ar y gwasanaeth petai’r
penderfyniad yw gadael Ewrop? d)
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Aelod
Cabinet ei fod yn derbyn sylwadau’r swyddogion. Amlygodd bod y cleifion yn
hoffi’r dull newydd o weithio a bod angen parhau gydag agwedd bositif. dd)
Derbyniwyd bod gwrthdaro rhwng ceisio trefn newydd
a’r hen drefn a bod rhwystredigaethau dros ei ymestyn, ond bod rhaid ceisio
datrysiad a symud ymlaen. Cytunodd gyda’r sylw bod angen mewnbwn y defnyddwyr
gwasanaeth, ond amlygodd yr angen i wneud hyn yn ystyrlon. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyllideb ar gyfer y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
YMCHWILIAD CRAFFU ADDYSG GYMRAEG PDF 221 KB Aelod Cabinet: Y Cyng. Gareth
Thomas I ystyried adroddiad cynnydd gan Aelod Cabinet Addysg ar yr
uchod. 10.15 – 11.00 a.m. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a) Cyflwynwyd
adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn adrodd ar y cynnydd a wnaed gan yr Adran
Addysg mewn ymateb i’r Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg. Atgoffwyd yr aelodau bod yr argymhellion wedi
ei llunio ar gyfer gwella cysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth addysg Cymraeg o
fewn dalgylchedd y Sir. Nododd yr Aelod
Cabinet bod trefniant yn ei le gan yr Adran Addysg ar gyfer cynnal astudiaeth
gan arbenigwr annibynnol i beth yn union a olygir wrth addysgu a dysgu
dwyieithog lle bo hynny ar waith a diffinio natur ieithyddol ysgolion uwchradd y
Sir (Argymhellion 1 a 2 o’r ymchwiliad).
Eglurwyd, er bod arbenigwr wedi ei benodi, nad oedd modd dechrau ar y gwaith
oherwydd amgylchiadau personol. Adroddwyd bod yr adran wedi ystyried penodi
arbenigwr arall, ond penderfynwyd gohirio'r gwaith hyd Fedi 2016. Amlygodd bod
y sefyllfa yma yn un anffodus, ond bellach wedi ei datrys. Dosbarthwyd cylch gorchwyl o ofynion yr astudiaeth i’r aelodau, er
gwybodaeth.. b)
Wrth gyflwyno'r cynllun gweithredu, nododd y
Swyddog Gwella Ansawdd Addysg bod angen cysoni Polisi Iaith Ysgolion y Sir a
bod edrych ar y sefyllfa Uwchradd yn greiddiol i’r astudiaeth. c)
Mynegwyd siom nad oedd ymateb i’r holl argymhellion
wedi eu cynnwys yn yr adroddiad cynnydd a gwnaed cais i’r Swyddog Gwella
Ansawdd Addysg adrodd /rhoi trosolwg sydyn ar bob un. ch) Diolchwyd i'r Swyddog Gwella
Ansawdd Addysg am y manylion. Amlygodd yr Aelod Cabinet y byddai unrhyw
argymhellion i’r dyfodol yn plethu i mewn i Gynllun Busnes yr Adran fel ffordd
o ymateb iddynt, ynghyd ac argymhellion yr Adroddiad Blynyddol - gwnaed cais
i’r Pwyllgorau Craffu edrych ar gylch Cynllun Busnes Addysg. d)
Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Cadeirydd bod yr
ymchwiliad wedi bod o werth a da oedd gweld gweithredu eisoes ar rai o’r
argymhellion. dd) Yn
ystod y drafodaeth, nodwyd yn sylwadau canlynol: ·
Yng nghyd-destun Ysgol Friars
bod angen sicrhau darpariaeth ieithyddol briodol ar gyfer y plant ·
Dylai unrhyw adroddiadau / dogfennau ychwanegol fod
wedi eu dosbarthu ymlaen llaw er mwyn craffu'r sefyllfa yn well ·
Amlygwyd mai Ymchwiliad Craffu Addysg Gymraeg
ydoedd ac nid Addysg Ddwyieithog - angen bod yn rhagweithiol i gadw'r Gymraeg
yn fyw. ·
Angen edrych ar
drefniadaeth ysgolion Bangor ar fyrder. Angen rhoi ystyriaeth i ysgolion
preifat Bangor – angen ceisio rheolaeth dros y defnydd o’r iaith yma. ·
Pam mai ysgolion sydd yn gosod eu hunain mewn
categorïau - angen cysondeb ·
Defnydd iaith tu hwnt i oriau ysgol yn anodd ei
reoli - angen mesur defnydd o’r iaith mewn cymdeithas a sicrhau anogaeth / hyfforddiant i wirfoddolwyr a hyfforddwyr ·
Angen adolygu’r
argymhellion fel targedau ‘campus’ ·
Pryder y
gallai rhai ysgolion gael eu Seisnigeiddio a phlant yn symud i ysgol gyfagos,
sydd o ganlyniad yn rhoi pwysau ychwanegol ar yr ysgolion hynny ·
Angen cefnogaeth i rieni di-Gymraeg e) Mewn ymateb i’r sylw yn ymwneud â mesur defnydd o’r iaith tu hwnt i oriau ysgol, nododd yr Aelod Cabinet bod y plant, drwy ddefnydd o’r Siarter Iaith yn adrodd eu hunain ar y defnydd o iaith ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
POLISI CLUDIANT: ADRAN OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PDF 83 KB Aelod Cabinet: Y Cyng. W. Gareth Roberts I ystyried adroddiad gan Aelod
Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant ar yr
uchod. (Copi i
ddilyn) 11.00 – 11.45 a.m. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: (Gadawodd y
Cynghorydd Linda Ann Wyn Jones yr ystafell ac ni fu yn rhan o’r drafodaeth) a)
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn
amlygu'r angen i Gyngor Gwynedd osod polisi a threfniadau cludiant newydd i’r
Adran Oedolion a Llesiant mewn ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a
Llesiant (Cymru) 2014. Amlygwyd bod y Ddeddf yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i
hybu llesiant ein dinasyddion er mwyn hybu a chefnogi annibyniaeth. Yn sgil newidiadau
yn y ddeddfwriaeth a’r hinsawdd ariannol, nododd yr Aelod Cabinet bod angen
mabwysiadu polisi cludiant teg a chynaliadwy. Amlygodd y gall newidiadau gael
effaith ar ddefnyddwyr gwasanaeth ac felly bydd ymgysylltu effeithiol gyda
rhan-ddeiliaid, gan gynnwys defnyddwyr a’u teuluoedd, yn allweddol i’r broses. Adroddwyd, wrth i
bob unigolyn gael ei asesu, bydd cludiant yn cael ei gyfarch yn y pecyn gofal -
bydd yno fel rhan o’r pecyn yn hytrach nag fel ychwanegiad. I gyfarch hyn, bydd
rhaid i bob unigolyn gael ei asesu yn ei gyfanrwydd. Cymhelliant yr ymarfer yw ymateb i’r ddeddf ac amlygwyd bod tri opsiwn
posib i’w hystyried. ·
Penderfynu peidio â
newid trefniadau. Byddai oblygiadau ariannol a diwylliannol o
ran peidio newid ein hymarfer yn y maes yma. ·
Mabwysiadu’r polisi
newydd ac ail adolygu pecynnau gofal yn benodol ar sail y polisi cludiant
newydd. ·
Mabwysiadu’r polisi
newydd ar sail pecynnau newydd, ailasesiadau ac adolygiadau blynyddol o
becynnau yn hytrach na chynnal adolygiad penodol ar faterion cludiant. Awgrymwyd nad oedd opsiwn 1 yn realistig nag yn gynaliadwy yng
nghyd-destun y sefyllfa ariannol mae’r Awdurdod yn wynebu. b)
Mewn ymateb i gwestiwn, pam bod cyfanswm cost
Iechyd Meddwl yn isel ar gyfer cyllideb 2016/2017 (£550.00), nodwyd nad oedd
neb gyda chyflyrau iechyd meddwl yn derbyn gwasanaeth ar hyn o bryd ac felly
adroddwyd mai ‘awgrym’ yn unig ydoedd. Mewn ymateb i sylw mai cynllun ydoedd i arbed arian ac nid i hybu
annibyniaeth, derbyniwyd gan yr Aelod Cabinet bod arbediad o ddeutu £38k
ynghlwm â’r broses, ond amlinellwyd mai'r bwriad oedd
cynnwys cludiant fel rhan o’r pecyn gofal. Adroddwyd bod sgôp yma i gydweithio
gyda chludiant integredig, e.e., gwell defnydd o fflyd cartrefi preswyl i symud
pobl o fewn y Sir, i hybu llesiant a chefnogi annibyniaeth c) Yn ystod y drafodaeth, nodwyd y sylwadau canlynol: ·
Angen hybu annibyniaeth
i bobl hŷn gan sicrhau bod ganddynt ryddid i adael y tŷ. ·
Angen sicrhau bod y gwasanaeth ar gyfer Gwynedd
gyfan ac
nid yn y prif ardaloedd yn unig. ·
Angen cydlynu gwell gyda gwasanaeth tacsi o’r
ysbyty. ·
O blaid gweithio yn fwy effeithiol - trefniadau
mewnol yn ymddangos yn flêr ar hyn o bryd ac felly angen ail strwythuro i
sicrhau gwell trefn a threfniadau cludiant hyblyg. ·
Angen rhoi ystyriaeth i adnoddau cludiant mewn
ysgolion. ·
Angen sicrhau bod yr
asesu yn gywir a bod y rhai hynny sydd fwyaf angen y gwasanaeth yn derbyn y
gwasanaeth. · Beth yw’r gwahaniaeth rhwng ‘asesu’ a ‘gwir angen’? Rhaid cael dealltwriaeth o wir angen yr unigolyn drwy adnabod cyfleoedd i gwrdd â’r angen hynny yn hytrach na ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |