Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd Aelodau’r Cabinet a Swyddogion i’r
cyfarfod a diolchwyd i staff sydd wedi bod yn gweithio ym mhob tywydd yn ystod
y stormydd diweddar. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw faterion yn codi o drosolwg a chraffu |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 21 A 28 IONAWR PDF 92 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 21 ar 28 Ionawr 2020 fel rhai cywir. |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Cemlyn Williams Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd
derbyn y sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori statudol ynghyd a chytuno i:
Cofnod: Cyflwynwyd gan
Cyng. Cemlyn Williams PENDERFYNIAD Penderfynwyd derbyn y sylwadau yn ystod y cyfnod ymgynghori
statudol ynghyd a chytuno i:
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ym mis Rhagfyr fod y Cabinet wedi cymeradwyo y cais i
ddechrau cyfnod o ymgynghoriad statudol ar y cynnig i gau Ysgol Llanaelhaearn
yn unol â Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Pwysleisiwyd bod
niferoedd y disgyblion wedi lleihau i 8 dros y blynyddoedd diwethaf a bod
rhagamcanion yn amlygu y bydd tebygolrwydd y bydd y niferoedd yn cwympo
ymhellach dros y 5 mlynedd nesaf a bod hyn yn anorfod yn ffactor blaenllaw. Nododd y Pennaeth
Addysg yn ystod y cyfnod ymgynghori fod 7 ymatebiad wedi ei dderbyn ynghyd ag
ymatebiad gan Estyn a trefnwyd sesiynau gyda’r disgyblion. Bu i’r Swyddog Ardal
nodi’r sylwadau a godwyd gan y disgyblion a oedd yn pwysleisio eu bod yn
tristau fod cau'r ysgol yn opsiwn a'u bod yn awyddus i fynychu Ysgol Chwilog yn
hytrach ‘nac Ysgol Bro Plennydd o ganlyniad i gysylltiadau ar ysgol yn barod.
Ategwyd fod Ysgol y Chwilog ac Ysgol Llanaelhaearn wedi bod yn gweithio yn agos
ond fod Ysgol Bro Plennydd wedi ei ddewis fel ysgol amgen gan ei bod yn nes yn
ddaearyddol. Ychwanegwyd fod modd i Ysgol Bro Plennydd ymdopi a’r nifer
ychwanegol o ddisgyblion ac o ganlyniad i hyn y bydd dalgylch yr ysgol yn cael
ei ymestyn. Ymhelaethwyd yn ogystal gan fod y disgyblion yn awyddus i fynd i
Ysgol Chwilog y byddai’r Adran yn fodlon talu costau cludiant i ddisgyblion
presennol yr ysgol fynychu’r ysgol honno os mai hynny fyddai dymuniad y rhieni
a bod modd eu cofrestru yn yr ysgol. Yn
hynny o beth tanlinellwyd y byddai hynny yn ddibynnol ar argaeledd lle yn ysgol
Chwilog, o gofio mai plant y dalgylch fyddai’n cael blaenoriaeth. Ar sail y
sefyllfa fel ag y mae hi ar hyn o bryd, ac oni bai i bethau newid yn sylweddol
ym Medi, ni ddylai hynny fod yn
broblemus. Mynegodd yr aelod
Lleol ei siom a thristwch o gau'r ysgol. Diolchwyd a mynegodd glod i’r staff am
ddarparu addysg i’r disgyblion sydd ar ôl ac i’r Llywodraethwyr am ymgeisio i
gael disgyblion yn ôl i’r ysgol. Diolchwyd yn ogystal i’r adran Addysg am roi'r
cynnig yno i gael mynd i Ysgol Chwilog yn ogystal. Sylwadau’n codi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Gwern ap Rhisiart |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd
cymeradwyo Cynllun Cyngor Gwynedd 2018/23 – Adolygiad 2020/21 i’w gyflwyno i’r
Cyngor ar y 5 Mawrth 2020 yn ddarostyngedig i’r canlynol: ¾
Ychwanegu
cymalau yn Adran Dai i nodi beth mae’r Cyngor yn ei wneud ac yn blaenoriaethau
am y flwyddyn i ddod o ran y broblem sy’n cael ei greu o ran cyflenwad yn sgil
y nifer o dai haf sydd yn y sir. ¾
Addasiadau
i drefn gwybodaeth Adran Addysg yn y Cynllun. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Penderfynwyd cymeradwyo Cynllun Cyngor
Gwynedd 2018/23 – Adolygiad 2020/21 i’w gyflwyno i’r Cyngor ar y 5 Mawrth 2020
yn ddarostyngedig i’r canlynol: ¾
Ychwanegu cymalau yn Adran Dai i nodi beth mae’r
Cyngor yn ei wneud ac yn blaenoriaethau am y flwyddyn i ddod o ran y broblem
sy’n cael ei greu o ran cyflenwad yn sgil y nifer o dai haf sydd yn y sir. ¾
Addasiadau i drefn gwybodaeth Adran Addysg yn y
Cynllun. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod Cynllun y Cyngor wedi ei fabwysiadu yn wreiddiol gan y
Cyngor Llawn yn 2018. Ychwanegwyd fod y Cynllun yn cael ei adolygu yn
flynyddol. Mynegwyd fod y Cyngor yn ceisio gwneud y Cynllun yn ddealladwy i
drigolion ac yn amlinellu prif brosiectau’r Cyngor am y flwyddyn i ddod. Tynnwyd sylw at
ddwy eitem newydd sydd wedi ei hychwanegu yn y Cynllun - Gwaith y Cynllun Newid
Hinsawdd a'r Gwasanaeth Tai ac Eiddo. Mynegwyd fod y meysydd hyn yn cyfarch
cyfrifoldebau yn y maes newid hinsawdd ac yn arddangos blaenoriaethu sylweddol
mae’r Cyngor yn ei wneud yn y Maes Tai. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Croesawyd
yr ychwanegiad o adran Tai ac Eiddo a phwysleisiwyd fod y maes yn un heriol gan
fod nifer uchel o dai'r sir yn dai haf. Ategwyd fod angen ychwanegu cymal i’r
adran yn nodi eu blaenoriaethau am y flwyddyn sydd i ddod o ran y broblem sy’n
cael ei greu o ran cyflenwad yn sgil y nifer o dai haf yn y sir. ¾
Mynegwyd
balchder fod newid hinsawdd i’w gweld yn y Cynllun ac amlygwyd yr heriau sydd
gan Ymgynghoriaeth Gwynedd i amddiffyn cymunedau. Pwysleisiwyd fod yr Adran
Priffyrdd yn ogystal yn uchafu ailgylchu, lleihau ysbwriel yn mynd i dirlenwi a
drwy gynlluniau yn ymgeisio lleihau ar wastraff yn cael ei greu. Ychwanegwyd
fod y cyfarfod Grŵp Newid Hinsawdd yn cyffwrdd pob adran ac yn edrych ar
ffyrdd i symud ymlaen. ¾
Trafodwyd
gwybodaeth yr Adran Addysg yn yr adroddiad gan nodi os yn edrych arno fel
dinesydd nad yw’r wybodaeth yn sôn llawer am waith yr ysgolion eu hunain gan
gychwyn gyda’r gwasanaeth gwella ysgolion.
Pwysleisiwyd fod angen addasu cynllun yr Adran Addysg i sicrhau
eglurdeb. ¾
Tynnwyd
sylw ar Flaenoriaeth 8 - Busnesau’n Cael Cymorth i Ffynnu gan holi os yw’r
gwaith hwn yn waith dydd i ddydd. Mynegwyd fod cefnogi busnesau yn waith dydd i
ddydd ond ei fod wedi ei uchafu oherwydd bod y dyfodol yn ansicr o ganlyniad i
Brexit. ¾
Pwysleisiwyd
fod yr adroddiad yn rhoi darlun clir o waith y Cyngor ac yn amlygu cyfeiriad
clir. ¾ Amlygwyd fod y ddogfen yn y pendraw yn cael ei greu ar gyfer y trigolion a thra ei fod yn amlygu’n glir beth yr ydym yn ei wneud i wasanaethu trigolion Gwynedd, nid yw’n amlygu’n glir drwyddo pa mor dda yr ydym yn cyflawni hynny gan fod hynny yn ymddangos yn ein Adroddiad ar Berfformiad. Mynegwyd hefyd bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Dewi Jones |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd i: a)
Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar 5 Mawrth 2020) y dylid: 1.
Sefydlu cyllideb o £261,837,750 ar gyfer 2020/21 i’w ariannu drwy
Grant Llywodraeth o £187,579,040 a £74,258,710 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda
chynnydd o 3.9%. 2.
Sefydlu rhaglen gyfalaf o £44,247,260 yn 2020/21 i’w ariannu o’r
ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. b)
Cymeradwyo symud ymlaen i weithredu’r rhestr cynlluniau arbedion
sy’n Atodiad 3, er mwyn sefydlu’r gyllideb argymhellir i’r Cyngor llawn. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Penderfynwyd i: a)
Argymell i’r Cyngor (yn ei gyfarfod ar
5 Mawrth 2020) y dylid: 1.
Sefydlu cyllideb o £261,837,750 ar
gyfer 2020/21 i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o £187,579,040 a £74,258,710 o
incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 3.9%. 2.
Sefydlu rhaglen gyfalaf o £44,247,260
yn 2020/21 i’w ariannu o’r ffynonellau a nodir yn Atodiad 4 i’r adroddiad. b)
Cymeradwyo symud ymlaen i weithredu’r
rhestr cynlluniau arbedion sy’n Atodiad 3, er mwyn sefydlu’r gyllideb
argymhellir i’r Cyngor llawn. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod y bydd gyllideb yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn yn
dechrau mis Mawrth. Esboniwyd fod y setliad drafft Gwynedd yn un o’r rhai uchaf
yng Nghymru ac yn well na’ beth oedd wedi ei rhagweld. Er hyn, mynegwyd, nid
yw’r setliad drafft yn ddigonol i gyfarch chwyddiant a galw ychwanegol ar
wasanaethau. Nodwyd y bydd y setliad yn llawn yn cael ei gyhoeddi gan y
Llywodraeth ar 25 Chwefror. Trafodwyd y gwariant refeniw gan dynnu sylw at Derfynu
Grantiau Penodol gan nodi fod y Llywodraeth yn ariannu cynlluniau drwy grantiau
ac yna yn nodi na fydd y grantiau yn parhau'r flwyddyn ganlynol ac nid yw’r
arian yn trosglwyddo i’r setliad chwaith. O ganlyniad nodwyd fod angen i’r
Cyngor ddarparu’r arian. Tynnwyd sylw at y bidiau oedd i’w gweld o dan y pennawd
Pwysau ar Wasanaethau gan nodi diolch i’r Prif Weithredwr am ei waith yn mynd
drwy’r holl fidiau. Mynegwyd fod y gyllideb yn nodi y bydd addasiadau
cytundebau torfol i staff yn cael ei ddiddymu eleni yn gyfan gwbl. Nodwyd fod y
Gronfa Bensiwn wedi derbyn dychweliadau gwell na’r disgwyl dros y blynyddoedd
diwethaf ac o ganlyniad ni fydd angen i’r Cyngor ychwanegu cymaint mewn i’r
gronfa'r flwyddyn nesaf. Esboniwyd fod
cynlluniau arbedion wedi eu trafod yn Pwyllgorau cCaffu dros y misoedd diwethaf
a phwysleisiwyd fod nifer ohonynt yn gynhennus. Mynegwyd yn dilyn y
trafodaethau hyn fod y nifer o gynlluniau arbedion wedi lleihau. Tynnwyd sylw
at y tabl a oedd yn nodi sefydlu’r gyllideb a oedd yn amlygu anghenion gwario'r
Cyngor a bod y bwlch ariannol yn cael ei gyfarch drwy godi’r dreth Cyngor 3.9%.
Ychwanegwyd gyda’r dyfodol mor aneglur ar hyn o bryd nad oedd angen edrych
ymhellach nac eleni ac argymhellwyd i’r adroddiad gael ei thrafod yn y Cyngor
Llawn. Ychwanegodd y
Pennaeth Cyllid fod cynlluniau i falensau wrth gefn gael eu defnyddio er mwyn
rheoli risg pe bai'r setliad is nag yr un sydd wedi ei gyhoeddi. Mynegwyd na
fydd angen ei defnyddio’r balansau eleni. Pwysleisiwyd fod y dyfodol a llawer o
ansicrwydd ac yr angen am gyllideb gan y Canghellor. Mynegwyd y bydd yr adran
yn dod yn ôl i’r Cabinet ym mis Mai neu Mehefin er mwyn trafod cyllideb am
2021/22 a bydd modd defnyddio’r balansau wrth gefn os bydd angen. Er hyn,
mynegodd, fod y gyllideb yn gytbwys a bod yr arbedion sydd wedi eu cynnig yn
rhai fydd a lleiaf o ardrawiad a’r trigolion. Sylwadau’n codi ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Dafydd L Edwards |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng / Cllr Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd
cyfrannu £200,000 o’r Gronfa Drawsffurfio i ariannu 2 swydd llawn amser (Ym
Mhwllheli a Porthmadog) a dwy swydd 7 awr yr wythnos (Yn Nhywyn a Chaernarfon)
i barhau i gynnal Cynllun Gwasanaeth Cefnogi Dementia Go yn y Gymuned hyd
Mawrth 2022. Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNIAD Penderfynwyd cyfrannu £200,000 o’r Gronfa Drawsffurfio i ariannu 2 swydd
llawn amser (Ym Mhwllheli a Porthmadog) a dwy swydd 7 awr yr wythnos (Yn Nhywyn
a Chaernarfon) i barhau i gynnal Cynllun Gwasanaeth Cefnogi Dementia Go yn y
Gymuned hyd Mawrth 2022. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod cynnydd yn y galw am gefnogaeth i rai sy’n dioddef a
dementia. Mynegwyd fod yr arian hwn ar gyfer cyfnod dros dro o ddwy flynedd er
mwyn ariannu cynllun Dementia Go. Pwysleisiwyd yn dilyn y ddwy flynedd y
gobeithir y bydd y gwaith yma yn dod yn waith pob dydd yr adran ond er mwyn
sicrhau hyn fod angen gwneud gwaith ymchwil a chasglu tystiolaeth i fesur
effaith y Cynllun. Ychwanegodd Rheolwr
Rhaglen Dementia Go fod y cynllun yn un sydd yn cynnal gweithgareddau ar draws
Gwynedd gydag oddeutu 110 o bobl yn rhan o’r gweithgareddau yn wythnosol.
Amlygwyd fod bod yn actif yn amlwg yn rhan ganolog o’r gwaith i sicrhau balans
a chryfder ond fod cefnogaeth hefyd yn rhan allweddol. Mynegwyd fod y
gweithgareddau yn gyfle i bobl ddod at ei gilydd mewn lleoliad cyfforddus yn eu
cymuned. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Ategwyd
balchder o weld y cynllun yn gweithio i gael adroddiad gan y Gwasanaeth
Dadansoddeg ac Ymchwil er mwyn gwerthusiad llawn. Ychwanegwyd fod budd mawr o’r
cynllun a bod effaith amlwg i ofalwyr ac unigolion. ¾
Pwysleisiwyd
fod cefnogaeth i’r cynllun a bod aelodau yn hynod ffyddiog y bydd tystiolaeth
gadarn yn amlygu ei effaith. Tynnwyd sylw at y meysydd fydd yn gweld effaith yn
y dyfodol a oedd yn cynnwys y Maes Iechyd ynghyd â gwasanaethau gofal. Holwyd
os yw’r Bwrdd Iechyd yn barod i gyfrannu, nodwyd eu bod yn gefnogol o’r
cynllun. Ychwanegwyd drwy gasglu tystiolaeth y bydd modd pwysleisio’r buddiannau
i’r Maes Iechyd. Awdur: Aled Davies |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau allan
y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitem ganlynol gan
ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinir ym
maragraff 14 ac 16 o Atodiad 12A o Deddf Llywodraeth Leol 1972 Gofynnir i gadw’r eitem yn eithriedig o dan
yr adran isod: 14.10.2 Gwybodaeth Eithriedig – Disgresiwn i
Wahardd y Cyhoedd (a) Ceir gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd
pryd bynnag y bo’n debygol, oherwydd natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur
y trafodion, y byddai gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei ddatgelu. Mae budd
cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn
agored ynglŷn â defnydd adnoddau
cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig.
Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol
cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglyn a materion
ariannol cyrff eraill a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth
fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cyngor. Byddai hyn yn groes i’r budd
cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y rhesymau yma mae’r
Swyddog Monitro yn fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Penderfynwyd y
dylid cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr
eitem ganlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir
ym mharagraff 14 ac 16 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gofynnwyd i gadw’r eitem yn eithriedig o dan yr adran isod: 14.10.2 Gwybodaeth Eithriedig – Disgresiwn i Wahardd y Cyhoedd (a) Ceir gwahardd y cyhoedd o gyfarfodydd pryd bynnag y bo’n debygol,
oherwydd natur y busnes sydd i’w drafod, neu natur y trafodion, y byddai
gwybodaeth gyfrinachol yn cael ei ddatgelu. Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig
mewn bod yn agored ynglŷn â
defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er
gwarchod buddiannau ariannol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth fasnachol
heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn
benodol ynglŷn â materion ariannol cyrff eraill a thrafodaethau
cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn
gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r
cyrff a’r Cyngor. Byddai hyn yn groes
i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau . Am y
rhesymau yma mae’r Swyddog Monitro yn fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd
cyhoeddus. |
|
CYMDEITHAS DAI PWYLEG Cyflwynwyd gan: Cyng/Cllr Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd i:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNIAD Penderfynwyd i:
TRAFODAETH Trafodwyd yr
adroddiad. Awdur: Arwel Wyn Owen |