Lleoliad: Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom
Cyswllt: Annes Siôn 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cyng. Nia Jeffreys a’r Cyng. Menna Jones. Croesawyd yr
Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fudiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 27 MEDI A 7 HYDREF 2022 PDF 263 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion ar gyfer y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar y 27 Medi a 7 Hydref 2022 fel rhai cywir. |
|
PREMIWM TRETH CYNGOR AR AIL GARTREFI AC EIDDO GWAG HIRDYMORPREMIWM TRETH CYNGOR PDF 660 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Argymell i’r Cyngor llawn ar 1 Rhagfyr 2022 mai’r canlynol
yw’r opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi
ac Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2023/24: ·
Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ar
ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol
1992 (h.y. dim newid). ·
Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt ac
yn CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. cynyddu o 100% i 150%). ·
Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM disgownt i
gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O 100% ar
gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid). Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Argymell i’r
Cyngor llawn ar 1 Rhagfyr 2022 mai’r canlynol yw’r opsiwn a ffafrir o safbwynt
lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer
blwyddyn ariannol 2023/24: ·
Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM
disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid
Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid). ·
Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM
disgownt ac yn CODI PREMIWM O 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran
12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. cynyddu o 100% i 150%). ·
Fod Cyngor Gwynedd yn caniatáu DIM
disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn CODI PREMIWM O
100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o
Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid). TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi
fod
yr adroddiad yn gam yn y drefn llywodraethu
wrth i’r Cyngor symud ymlaen i wneud penderfyniad ar sut i ymateb i newidiadau deddfwriaethol
diweddar o safbwynt y Premiwm Treth Cyngor. Pwysleisiwyd
nad oedd unrhyw benderfyniad ar raddfa’r Premiwm ar ben ei hun yn datrys y
broblem y sefyllfa ddifrifol a niferoedd ail gartrefi o fewn ardaloedd yng
Ngwynedd. Eglurwyd fod y defnydd o’r broses gynllunio a sicrhau trwyddedu ail
gartrefi yn llawer mwy perthnasol. Croesawyd ymateb diwedd Llywodraeth Cymru
gan amlygu mai dyfalbarhad wrth lobio a chyflwyno tystiolaeth y Cyngor sydd
wedi sicrhau gweithredu. Esboniwyd fod
Deddf Tai (Cymru) 2014 wedi ychwanegu adrannau
newydd i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mynegwyd
fod y cymalau
newydd yn caniatáu i awdurdodau bilio Cymru i godi
Treth Cyngor ychwanegol ar ddosbarthiadau penodol
o eiddo. Eglurwyd mai’r sefyllfa diofyn yn Neddf 1992 yw rhoi disgownt o 50%
i’r eiddo os nad yw’r Cyngor yn gwneud
penderfyniad
pob blwyddyn i’w ariannu o goffrau’r Cyngor. Mynegwyd fod gan y Cyngor hawl dewisol
ers sawl blwyddyn i beidio rhoi disgownt
i’r eiddo yma, ac ers 2017 yr hawl i godi
premiwm. Amlygwyd fod y
Cyngor wedi codi premiwm o 50% ar ail gartrefi ac eiddo gwag hir dymor rhwng
Ebrill 2018 a Mawrth 2021, ac yna 100% ers 1 Ebrill 2021. Esboniwyd ar yr
achlysuron ble cyflwynwyd y Premiwm a’i gynyddu fod gwaith sylweddol wedi ei
wneud i asesu’r sefyllfa ynghyd a chynnal ymgynghoriadau cyhoeddus ac
Asesiad Effaith Cydraddoldeb. Mynegwyd fod Adrannau 12A a 12B o Ddeddf
1992 wedi eu newid eto yn
ddiweddar a bydd y newidiadau yn weithredol o 1af Ebrill 2023. Nodwyd fod y
newidiadau hyn wedi eu gwneud yn ei wneud yw cynyddu lefel y Premiwm gall
awdurdodau lleol ei godi. Eglurwyd y bydd modd codi hyd at 300%. Bu i’r Pennaeth Adran dywysu drwy ganlyniadau’r Ymgynghoriad Cyhoeddus. Eglurwyd fod y Cabinet wedi cytuno ddiwedd Medi i gomisiynu Ymgynghoriad Cyhoeddus i dderbyn barn y cyhoedd ar sut dylai’r Cyngor ymateb i’r ddeddf. Lansiwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Dewi A Morgan |
|
MABWYSIADU CYNLLUN GWELLA HAWLIAU TRAMWY PDF 250 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Mabwysiadu y Cynllun Gwella Hawliau Tramwy. Dirprwyo’r hawl i
Bennaeth Adran Amgylchedd i wneud addasiadau ansylweddol i’r ddogfen cyn ei
chyhoeddi. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig PENDERFYNIAD Mabwysiadu y
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy. Dirprwyo’r
hawl i Bennaeth Adran Amgylchedd i wneud addasiadau ansylweddol i’r ddogfen cyn
ei chyhoeddi. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi’r penderfyniad. Eglurwyd fod Deddf Cefn Gwlad a Hawliau
Tramwy 2000 yn amlygu dyletswydd ar y Cyngor i fod yn cyhoeddi ac yn adolygu
Cynllun Gwella Hawliau Tramwy. Ychwanegwyd fod y cynllun hwn yn cael ei
ddefnyddio fel arf i wella'r rhwydwaith yn ogystal. Mynegwyd fod y Cynllun wedi
bod ar dipyn o daith cyn cyrraedd y Cabinet a oedd yn cynnwys Pwyllgor Craffu
yn ôl yn 2021, ymgynghoriad cyhoeddus am 3 mis dros gyfnod yr haf cyn adrodd yn
ôl i’r Pwyllgor Craffu ym mis Hydref i drafod canlyniadau’r ymgynghoriad
cyhoeddus. Atebwyd fod man addasiadau wedi ei gwneud i’r Cynllun yn dilyn y
Pwyllgor Craffu. Nodwyd mai
gofyn sydd yma i fabwysiadu’r Cynllun ac i roi hawl i’r Pennaeth Adran wneud
man addasiadau ieithyddol cyn i’r ddogfen gael ei chyhoeddi. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Diolchwyd am yr adroddiad a codwyd
pryder am y newid i roi hawl i farchogaeth ar bob llwybr cyhoeddus. Holwyd am
sut y bydd asesiadau risg yn cael ei gwneud yn benodol ar lwybrau sydd ar ochor
ffordd. Nodwyd fod yr addasiad wedi ei wneud o ganlyniad i anghysondeb ar draws
y sir ac fod gofyn rhesymol wedi bod i gael ei ddefnyddio gan geffylau,
eglurwyd y bydd asesiadau risg yn cael eu cynnal a bod yr addasiad yn benodol
ar gyfer llwybrau oddi wrth y ffordd fawr. ·
Holwyd am y broses o adnabod Llwybrau
Llesiant y sir gan nad yw Bala wedi’i gynnwys. Eglurwyd fod amodau penodol i’w
gweld sydd yn cael ei
gwrio gan Lywodraeth Cymru o ran Llwybrau Llesiant ac
yn
ffafrio canolfannau ble mae’r boblogaeth yn gweithio yn yr ardal ac angen
ffordd amgen o gyrraedd y gwaith. Mynegwyd o ganlyniad fod angen bosib adolygu
hyn er mwyn cynnwys cymunedau fwy gwledig. Awdur: Dafydd Wyn Williams |
|
GWEDD 4 RHAGLEN FUDDSODDI MEWN PANELI SOLAR PDF 407 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ap Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Bwrw ‘mlaen i
fuddsoddi £2.8m yn y pedwerydd wedd o’r cynllun paneli PV cynhyrchu trydan gan
arwain at arbediad refeniw blynyddol. Ariannu’r buddsoddiad cyfalaf o gronfeydd y Cyngor gan
arwain at arbedion refeniw parhaol yn syth fel cyfraniad i’n cynllun arbedion /
toriadau. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago PENDERFYNIAD Bwrw
‘mlaen i fuddsoddi £2.8m yn y bedwaredd wedd o’r cynllun paneli PV cynhyrchu
trydan gan arwain at arbediad refeniw blynyddol. Ariannu’r
buddsoddiad cyfalaf o gronfeydd y Cyngor gan arwain at arbedion refeniw parhaol
yn syth fel cyfraniad i’n cynllun arbedion / toriadau. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod y Cyngor yn arwain yng Nghymru ac o bosib Prydain am y
camau mae’n ei wneud i leihau ôl troed carbon. Eglurwyd fod camau yn cael ei
gwneud ar draws y Cyngor i wneud y newidiadau pwysig yma er mwyn edrych ar ôl
yr amgylchedd ac yn ogystal er mwyn arbed arian. Mynegodd y
Rheolwr Ynni a Gwasanaethau Masnachol mai dyma bedwaredd wedd y Cynllun Solar
sydd wedi bod yn gynllun hynod lwyddiannus. Eglurwyd fod gwedd 3 wedi dod i ben
o ganlyniad i newid gan y Llywodraeth ond o ganlyniad i leihad mewn costau
paneli solar a chynnydd mewn costau ynni mae hyn wedi arwain at greu gwedd 4.
Pwysleisiwyd fod y Cynllun wedi ei sefydlu ar gostau ynni heddiw, ac felly os
costau ynni yn parhau i godi mae’n amlygu fod yr achos busnes ar ei gyfer yn
aeddfed. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Diolchwyd am yr adroddiad,
a holwyd os mai gwedd 4 fydd y cam olaf. Eglurwyd mai dyma fydd y cam olaf o
safbwynt adeiladau’r Cyngor ond fod opsiynau pellach yn bodoli yn dilyn hyn
megis Ffermydd Solar. ·
Amlygwyd fod y cynllun hwn yn un sydd yn
lleihau carbon ac yn cynorthwyo’r Cyngor
gyda cyfarch y bwlch ariannol. Mynegwyd fod gofyn yma i ddefnyddio cronfeydd
wrth gefn y Cyngor i’w ariannu fod bod modd derbyn yr arbedion ariannol o
ganlyniad i’r Cynllun yn syth. Awdur: David Mark Lewis |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL 2021 - HUNANASESIAD CYNGOR GWYNEDD (DRAFFT) 2021/22 PDF 297 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siecyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Hunanasesiad Cyngor Gwynedd (Drafft) 2021/22 gan dderbyn argymhellion a wnaethpwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fod yn ei fabwysiadu. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Cymeradwywyd
Hunanasesiad Cyngor Gwynedd (Drafft) 2021/22 gan dderbyn argymhellion a
wnaethpwyd gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ac argymell i’r Cyngor
Llawn ei fod yn ei fabwysiadu. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi mai dyma’r Hunanasesiad cyntaf i’r Cyngor ei wneud sydd yn
edrych yn ôl ar 2021/22. Eglurwyd fod gofyn statudol newydd o dan Ddeddf
Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn nodi’r angen i’w greu a’i
gyhoeddi yn flynyddol. Ychwanegwyd fod yr hunanasesiad yn tynnu ar dipyn o
ffynonellau gwybodaeth a thystiolaeth a bod nifer o’r wybodaeth wedi ei
gyhoeddi yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol ac yn Adroddiad Blynyddol
Gwasanaethau Cymdeithasol. Pwysleisiwyd er mwyn cadw’r adroddiad yn gryno fod
cyfeiriad at y dogfennau yma. Nodwyd fod y
ddeddf yn nodi disgwyliad i gyflwyno drafft o’r Hunanasesiad i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio er mwyn derbyn sylwadau. Mynegwyd fod hyn wedi
digwydd wythnos diwethaf ac fod un sylw wedi ei dderbyn sef yr angen i gyfeirio
ar yr hyfforddiant sydd ar gael i Gynghorwyd o dan
Cynllunio Corfforaethol er mwyn adnabod y gwaith da sy’n digwydd o fewn y
Cyngor. Eglurwyd mai
dyma’r tro cyntaf i gyflwyno’r Hunanasesiad ac mae ymdrech wedi ei wneud i’w
gadw yn gryno ac yn ddarllenadwy. Esboniwyd fod trefniadau yn parhau i
ddatblygu o ran ei baratoi ac fod trefniadau i’r dyfodol i’w gyfuno gyda
threfniadau herio perfformiad ac i’w gynnwys yn Adroddiad Perfformiad Blynyddol
y Cyngor. Ychwanegodd y
Swyddog Monitro fod hon yn drefn newydd ac fod gofyn statudol i fynd i
ymgynghoriad ar y drefn ond fod hynny i ddod. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Mynegwyd fod y bwriad i’w gyfuno â’r
Adroddiad Perfformiad Blynyddol yn gyfle
i ychwanegu haen arall o lywodraethant
o fewn y Cyngor. Fod Cynllun y Cyngor yn dangos beth mae’r Cyngor am ei wneud,
Adroddiad Perfformiad yn nodi beth sydd wedi ei wneud ac fod hwn fel haen
yn
y canol yn amlygu pa mor dda mae’r Cyngor wneud
gwneud y gwaith. Awdur: Dewi Wyn Jones |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd y Cynllun Deisebau ac argymell i’r Cyngor Llawn
ei fabwysiadu. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dyfrig
Siencyn PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y
Cynllun Deisebau ac argymell i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adroddiad yn gofyn i gymeradwyo’r Cynllun Deisebau
a'i argymell i’r Cyngor Llawn nesaf i’w fabwysiadu. Eglurwyd fod gofyniad
statudol yn Neddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau 2021 i’r Cyngor fod yn
mabwysiadu Cynllun Deisebau. Mynegwyd fod y Cynllun yn nodi sut y bydd y Cyngor
yn ymdrin â deisebau pan yn eu derbyn. Nodwyd fod
deiseb yn ffordd y gall unigolion, grŵp cymunedol a sefydliadau godi
materion sy’n peri pryder iddynt a rhoi cyfle i Gynghorwyr ystyried yr angen am
newid. Ychwanegwyd fod y cynllun yn gosod camau ar sut i gyflwyno deiseb a’r
hyn y gellir ei ddisgwyl fel ymateb a’r camau fydd yn cael ei wneud gan y
Cyngor. Pwysleisiwyd fod rhai achosion megis ail strwythuro ysgolion yn dilyn
gofynion cyfreithiol a statudol am ymgynghori a chyfnodau ymateb statudol a ni
fydd deiseb yn cael ei dderbyn tu allan i’r trefniadau hyn. Amlygwyd fod y
Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth wedi trafod y Cynllun
wythnos diwethaf, a derbyniwyd sylwadau ac mae man addasiadau wedi eu gwneud
i’r Cynllun yn dilyn y trafodaethau yma. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Holwyd os yn derbyn y ddeiseb bod modd
cael ei drafod gan Aelod Cabinet, y Cabinet neu Cyngor Llawn a holwyd pwy sy’n
dewis lefel y penderfyniad. Eglurwyd ei fod yn ddibynnol ar natur y ddeiseb ac
ei fod yn dilyn trywydd synhwyrol. ·
Cwestiynwyd os yw’r cynllun yn wahanol i
beth sydd yn digwydd yn bresennol Eglurwyd fod y Cynllun hwn yn ffurfioli'r
trefniadau ac yn codi ymwybyddiaeth trigolion. ·
Nodwyd fod yn braf gweld y Cabinet yn
gallu ymlacio wrth drafod gofynion y Ddeddf ac fod hyn o ganlyniad i drefniadau
llywodraethu
cadarn
iawn
sydd
i’w weld mewn nifer o dimau sydd yn gweithio yn y cefndir ar
draws y Cyngor. Awdur: Annes Sion |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL BWRDD PARTNERIAETH RHANBARTHOL GOGLEDD CYMRU 2021/22 PDF 124 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad a nodi
y gwaith a'r cynnydd a wnaed yn 2021/2022 yn y meysydd gwaith sy'n cael
eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd
Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan PENDERFYNIAD Derbyn yr
adroddiad a nodi'r gwaith a'r cynnydd a wnaed yn 2021/2022 yn y meysydd gwaith
sy'n cael eu dwyn ymlaen yn rhanbarthol trwy Fwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
Gogledd Cymru. TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi fod hon yn adroddiad Blynyddol
ar gyfer y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru. Esboniwyd fod yr
adroddiad yn amlygu gwaith y bwrdd ar gyfer 2021/22 ac wedi ei lunio
a’i ysgrifennu i fodloni canllawiau’r Llywodraeth. Eglurwyd fod y bwrdd wedi ei
sefydlu yn ôl yn 2014, er mwyn cydymffurfio a rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau
Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2015. Tynnodd y
Pennaeth Cydweithio Rhanbarthol sylw at y prif bwyntiau a’r gwaith allweddol
sydd yn cael ei wneud yn y rhanbarth. Eglurwyd mai rôl y Bwrdd yw i ddod a phartneriaid
at ei gilydd er mwyn integreiddio gwasanaethau pan yn bosib. Mynegwyd fod y
system lywodraethu yn un gymhleth ond mai’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yw’r
prif fwrdd ac mae’n gyfrifol am rhoi cyfeiriad clir i weithio mewn partneriaeth
ar draws y rhanbarth ynghyd a sicrhau fod gwaith yn cael ei gyflawni. Esboniwyd
fod y bwrdd yn adrodd i Fwrdd Arweinwyr y Gogledd. Amlygwyd fod 2
brif raglen i’w gweld yn gan y Bwrdd yn 2021/22 sef Cronfa Gofal Integredig a
Rhaglen Trawsnewid. Eglurwyd fod y gronfa Gofal Integredig wedi ei sefydlu yn
ôl yn 2014, ac wedi galluogi’r rhanbarth i weithio gyda’i gilydd i gynorthwyo
pobl hyn ag anghenion cymhleth, plant ag anghenion cymhleth, gofalwyr a phlant
mewn gofal neu mewn peryg o fynd i ofal. Nodwyd fod y rhaglen Trawsnewid wedi
ei sefydlu yn Ebrill 2018 gyda’r pwrpas o wella gwasanaethau a oedd i gychwyn
yn gynllun 3 blynedd, ond y bu iddo ymestyn o ganlyniad i’r pandemig. Esboniwyd fod
y ddwy raglen wedi dod i ben yn 2021/22 ac fod rhaglen newydd bellach ers
Ebrill 2022, sef Cronfa Integreiddio
Rhanbarthol. O ganlyniad mae’r adroddiad yn rhoi crynodeb o waith y ddwy brif raglen
ynghyd a prif bwyntiau a godwyd o’r gwerthusiad a oedd yn
cynnwys y cyfleoedd i ddatblygu cynlluniau a gwella perthynas rhwng partneriaid.
Mynegwyd fod arian wedi bod yn broblem gan fod y gyllideb wedi bod am flwyddyn
unig ac felly yn ei gwneud yn anodd i gynllunio ymhellach. Mynegwyd fod y
tîm wedi bod yn gweithio yn ogystal ar greu Asesiad Anghenion Poblogaeth a oedd
yn cynorthwyo’r rhanbarth i ddatblygu blaenoriaethau ac i awdurdodau lleol allu
cynllunio yn lleol. Nodwyd i’r dyfodol fod y Pwyllgor yn awyddus i adeiladu ar waith
eleni ac i gynllunio ar gyfer y 5 i 10 mlynedd nesaf. Ychwanegodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol dros Wasanaethau Cymdeithasol fod yr adroddiad hwn yn
edrych yn benodol ar ddiwedd cyfnod Morwena Edwards yn ei swydd. Nodwyd fod yr
adroddiad yn amlygu ei fod yn faes llawer ehangach na gofal yn unig gydag
elfennau i’w gweld yn y maes Tai ac
Addysg. Amlygwyd fod dylanwad y Bwrdd yn holl bwysig wrth symud ymlaen. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth · Nodwyd balchder ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. Awdur: Dylan Owen |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT PDF 396 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: amlinellu beth
sydd wedi digwydd yn erbyn addewidion Cynllun y Cyngor, adrodd ar berfformiad
yr adran ynghyd a’r sefyllfa ariannol. Mynegwyd balchder fod yna gynnydd wedi
ei wneud er gwaethaf yr heriau oedd yn wynebu’r adran a’r mwyafrif o’r rhain o
ganlyniad i anawsterau capasiti
o fewn yr adran. Diolchwyd I'r adran am eu hymroddiad i'r maes a’r unigolion
maent yn ei gefnogi, ac ar y cyfan ei fod yn fodlon a pherfformiad yr adran. Nodwyd fod
nifer o’r materion sydd wedi eu codi yn yr adroddiad perfformiad hefyd wedi eu
hamlygu fel rhan o’r archwiliad diweddar a gafwyd gan Arolygaeth Gofal Cymru.
Eglurwyd y bydd adroddiad pellach am yr archwiliad yn dod i'r Pwyllgor Craffu
Gofal cyn hir. Tywyswyd drwy
brosiectau Cynllun y Cyngor a oedd yn cynnwys safle Penrhos sydd yn gynllun ar
y cyd gyda’r Adran Dai ac Eiddo ynghyd â’r cynnydd mewn gwlâu dementia yn y sir
a’r pryder am unedau gwag o ganlyniad i ddiffyg staffio. Amlygwyd mai un o brif
anawsterau yr adran yw recriwtio a chadw staff ac esboniwyd fod hyn yn fater
sydd yn cael ei drafod yn gorfforaethol o fewn y Cyngor ynghyd ac yn
rhanbarthol ac yn genedlaethol. O ran
perfformiad yr adran nodwyd fod camau breision wedi eu gwneud i sicrhau mesurau
cywir. Tynnwyd sylw at nifer ar y rhestrau am ofal cartref gan nodi fod yn
nifer yn parhau i gynyddu ac fod hyn o ganlyniad i ddiffyg capasiti
o ran staffio. Esboniwyd fod yr adroddiad diwethaf yn amlygu rhwystredigaeth
gyda mesurydd yn y Gwasanaeth Iechyd Meddwl gan fod staff y timau integredig yn
parhau i ddefnyddio ffeiliau papur. Mynegwyd fod gwaith wedi ei wneud i ddod o
hyd i fesurydd dros dro i'r gwasanaeth hwn. O ran y
sefyllfa ariannol, nodwyd fod rhagolygon ariannol fel rhan o
adolygiad diwedd Awst yn rhagamcanu
gorwariant
o
£1.9miliwn gan yr Adran erbyn
diwedd y flwyddyn ariannol
hon. Eglurwyd fod yr adran yn cyflwyno bidiau er mwyn gallu
parhau
gyda gwasanaethau statudol neu newidiadau deddfwriaethol. Mynegwyd
fod yr adran ar hyn o bryd yn edrych ar ffyrdd i gyflawni rhai gwasanaethau
mewn ffordd wahanol a drwy hyn cyflawni arbedion. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Nodwyd fod heriau staffio i'w gweld ar
draws y Cyngor a hynny oherwydd methu recriwtio ac nid oherwydd diffyg
ariannol. Pwysleisiwyd nad oes ateb hawdd i'r broblem ac fod hyn o ganlyniad i
benderfyniadau ar lefel Brydeinig. Eglurwyd fod yr adran yn edrych ar beth mae
siroedd eraill yn ei wneud er mwyn sicrhau gwasanaethau a gwneud defnydd gorau o’r
gefnogaeth sydd ar gael. ·
Eglurwyd fod £1.9miliwn o orwariant yn
cael ei ragweld ac fod £1m arall o arbedion nad ydynt wedi eu cwblhau
yn
ogystal â hynny,
heb edrych ar arbedion y flwyddyn nesaf. Nodwyd fod cyfarfod gyda’r adran yn
cael ei gynnal yn fuan i edrych ar y sefyllfa hynod heriol yma. · Nodwyd fod pryder am allu’r adran i fesur perfformiad ond fod mesurau bellach yn cael eu datblygu. Eglurwyd fod peth ffordd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. Awdur: Aled Davies |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD AELOD CABINET DROS BLANT A CEFNOGI TEULUOEDD PDF 318 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Elin Walker Jones PENDERFYNIAD Derbyniwyd a
nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei fod yn rhoi diweddariad ar waith yr adran gan amlinellu
beth sydd wedi digwydd yn erbyn addewidion Cynllun y Cyngor, adrodd ar
berfformiad yr adran ynghyd a’r sefyllfa ariannol. Diolchwyd i staff yr adran
am eu hymroddiad i blant a phobl ifanc yn sir. Eglurwyd fod
prosiectau blaenoriaeth yn parhau i symud yn eu blaen er fod staff wedi eu
dargyfeirio i gefnogi unigolion o’r Wcrain. Eglurwyd fod y blaenoriaethau yn
cyd-fynd a prif risgiau’r adran a nodwyd fod cynnydd yn cael ei wneud yn erbyn
y prosiectau hyn. Tywyswyd drwy’r prosiectau a oedd yn cynnwys nodi fod
Strategaeth Cadw Teuluoedd gyda’i Gilydd wedi derbyn cadarnhad o ran ei ariannu
ac yn gallu symud ymlaen gyda’r gwaith. Mynegwyd fod yr adran wedi llwyddo i
recriwtio i swyddi yn y tîm cyfeiriadau er mwyn ymateb i'r cynnydd sydd wedi
bod mewn galwadau a rhestrau aros. O ran y
Cynllun Cefnogi Pobl nodwyd fod gwaith yn parhau ond bellach yn canolbwyntio ar
yr argyfwng costau byw. Amlygwyd gwaith y Cynllun a oedd yn cynnwys, ymestyn y
rhwydwaith hybiau a chyfres o ddigwyddiadau galw heibio. Nodwyd fod capasiti
gweithlu yn broblem o fewn yr adran hon yn ogystal, ac fod gwaith diweddar wedi
ei wneud gydag ymgynghorydd annibynnol ond nad oedd canlyniad i'w gweld eto.
Eglurwyd fod newid wedi bod yn natur yr achosion sydd yn cyrraedd yr adran
gydag anghenion plant yn dwysáu ac o ganlyniad angen pecynnau gofal fwy
cymhleth. Eglurwyd fod
rhagolygon yn amlygu y fod yr adran yn debygol o orwario o oddeutu £88,000.
Mynegwyd fod yr adran wedi rhoi cais am dros £1m o fidiau er mwyn cwrdd â
phwysau ychwanegol ac i gyflawni cynlluniau blaenoriaeth. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Holwyd o ran y Cynllun Cefnogi Pobl beth
yw’r ymateb sydd wedi ei dderbyn gan y cyhoedd. Eglurwyd ei fod wedi bod yn
amrywiol gyda llawer yn gwerthfawrogi'r cymorth sydd ar gael. Awdur: Marian Parry Hughes |