Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd
unrhyw ymddiheuriad. Croesawyd yr
Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFODYDD A GYNHALIWYD AR 22 TACHWEDD A 13 RHAGFYR 2022 PDF 317 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 22 Tachwedd a 13 Rhagfyr 2022 fel rhai cywir. |
|
CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN Y DG - TREFNIADAU LLYWODRAETHU A GWEITHREDU PDF 152 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.1 Cytunwyd bod Cyngor Gwynedd yn ymgymryd â’r rôl
‘awdurdod arweiniol’ ar gyfer gweithredu Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng
Ngogledd Cymru ar ran chwe sir y Gogledd. 1.2. Cytunwyd i’r trefniadau llywodraethu rhanbarthol ar
gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngogledd Cymru fel a’u hamlinellir yn
yr adroddiad. 1.3. Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - mewn
ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif
Weithredwr – i sefydlu cytundeb cyfreithiol rhyng-awdurdod ac amodau ariannu
gyda siroedd eraill Gogledd Cymru i warchod buddiannau Cyngor Gwynedd. 1.4. Cytunwyd i'r trefniadau llywodraethu lleol ar gyfer
Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngwynedd fel a’u hamlinellir yn yr
adroddiad. 1.5. Awdurdodwyd sefydlu Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin
Gwynedd i gynnwys Arweinydd ac Is Arweinydd y Cyngor, Aelod Cabinet Cyllid,
Prif Weithredwr, Pennaeth Economi a Chymuned, Pennaeth Cyllid a'r Pennaeth
Gwasanaeth Cyfreithiol, ynghyd â´r hawl i benodi dirprwy ar y Panel, i
gadarnhau pa gynlluniau fydd yn cael eu dewis i dderbyn arian ar sail y meini
prawf nodir yn adrannau 3.30 a 3.31 yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Pennaeth Economi a Chymuned. PENDERFYNIAD 1. Cytunwyd
bod
Cyngor Gwynedd yn ymgymryd â’r rôl ‘awdurdod arweiniol’ ar gyfer gweithredu
Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng Ngogledd Cymru ar ran chwe sir y Gogledd. 2. Cytunwyd
i’r trefniadau llywodraethu rhanbarthol ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG
yng Ngogledd Cymru fel a’u hamlinellir yn yr adroddiad. 3. Awdurdodwyd
y
Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid,
Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr – i sefydlu cytundeb
cyfreithiol rhyng-awdurdod
ac amodau ariannu gyda siroedd eraill Gogledd Cymru i warchod buddiannau Cyngor
Gwynedd. 4. Cytunwyd
i'r trefniadau llywodraethu lleol ar gyfer Cronfa Ffyniant Cyffredin y DG yng
Ngwynedd fel a’u hamlinellir yn yr adroddiad. 5. Awdurdodwyd
sefydlu Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd i gynnwys Arweinydd ac Is
Arweinydd y Cyngor, Aelod Cabinet Cyllid, Prif Weithredwr, Pennaeth Economi a
Chymuned, Pennaeth Cyllid a'r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol,
ynghyd â´r hawl i benodi dirprwy ar y Panel, i gadarnhau
pa gynlluniau fydd yn cael eu dewis i dderbyn arian ar sail y meini prawf nodir
yn adrannau 3.30 a 3.31 yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi bod Cynllun Buddsoddi
Rhanbarthol Gogledd Cymru wedi ei gadarnhau
a’i ddilysu gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr
2022. Eglurwyd y bydd arian yn cael ei dderbyn i’r rhanbarth fel lwmp swm ac
nid i Awdurdodau Lleol yn unigol. O ganlyniad
bydd
angen corff arweiniol i arwain ar y cynllun yn y rhanbarth. Nodwyd bod
llythyr memorandwm Cyd-ddealltwriaeth eisoes wedi
ei
dderbyn ac yn cynnig arian hyd at fis Mawrth
2025. Eglurwyd bod cryn dipyn o waith angen ei wneud er mwyn rhoi’r trefniadau
yn eu lle. Manylwyd ar rolau Cyngor Gwynedd yn ymwneud â rheoli’r gronfa gan
nodi y bydd tair swyddogaeth gan Gyngor Gwynedd sy’n cael eu nodi yn yr
adroddiad. Amlinellwyd y gwahaniaeth yn y rôl Sirol a’r rôl ranbarthol gan nodi
bod y gwaith Sirol yn cynnwys asesu a chefnogi ceisiadau a’r gwaith rhanbarthol
yn ymwneud â phrosiectau
traws-sirol a’u hwyluso ynghyd a chyfrifoldebau eraill. Amlinellwyd y
trefniadau a ragwelir ar gyfer y rhanbarth a’r bwriad o sefydlu tîm o 5 o
swyddogion ar gyfer ymgymryd â’r gwaith a soniwyd am y costau megis costau
cyfreithiol a chyfathrebu. Awgrymwyd trefn o ran strwythur llywodraethu ar yr
ochr ranbarthol. Yn ogystal awgrymwyd adnodd i gyflawni’r gwaith yn Sirol a’r
bwriad o sefydlu Grŵp Ymgynghorol Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd yn
ogystal â Phanel fydd yn ystyried argymhellion y Grŵp Ymgynghorol. Rhedwyd drwy’r
camau o ran ymgeisio a gobeithir gallu agor y gronfa a chychwyn derbyn
ceisiadau erbyn diwedd Ionawr. Amlygwyd fod yr amserlen yn dynn iawn ar gyfer
cyflawni’r gwaith ar ran y rhanbarth a bod sawl proses yn rhedeg yn gyfochrog. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth · Gwnaethpwyd ychwanegiad i bwynt 5 o’r argymhelliad. Cytunwyd i ychwanegu “a’r hawl i benodi dirprwy ar y Panel” fel rhan o’r penderfyniad rhag ofn i’r gofyn amlygu yn y dyfodol. ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Sioned E. Williams and Dylan Griffiths |
|
CYLLIDEB REFENIW 2022/23 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2022 PDF 146 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Derbyniwyd
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2022 o’r Gyllideb Refeniw, ac
ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran /
gwasanaeth. ·
Cymeradwywyd
trosglwyddiad o £3.188 miliwn o danwariant ar gyllidebau Corfforaethol i Gronfa
Strategaeth Ariannol y Cyngor. ·
Argymhellwyd
mai'r drefn o ran defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol fydd
defnyddio: -
yn gyntaf,
Balansau Ysgolion i gyllido'r costau ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon,
cymhorthyddion, staff gweinyddol a thrydan sydd uwchlaw lefel y gyllideb yn yr
ysgolion. -
yn ail,
defnyddio’r Gronfa Premiwm Treth Cyngor i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes
Digartrefedd. -
yn olaf,
defnyddio'r gronfa trefniadau adfer yn sgil Covid a sefydlwyd i gyllido heriau
ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD ·
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad
diwedd Tachwedd 2022 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol
ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth. ·
Cymeradwywyd trosglwyddiad o £3.188
miliwn o danwariant ar gyllidebau Corfforaethol i Gronfa Strategaeth Ariannol y
Cyngor. ·
Argymhellwyd mai'r drefn o ran
defnyddio'r cronfeydd i gyllido'r bwlch ariannol fydd defnyddio: ·
yn gyntaf, Balansau
Ysgolion i gyllido'r costau ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymhorthyddion,
staff gweinyddol a thrydan sydd uwchlaw lefel y gyllideb yn yr ysgolion. ·
yn ail, defnyddio’r Gronfa Premiwm Treth
Cyngor i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y maes Digartrefedd. ·
yn olaf, defnyddio'r gronfa trefniadau
adfer yn sgil Covid
a sefydlwyd i gyllido heriau ariannol cysylltiedig sy'n wynebu'r Cyngor. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad sy’n manylu ar
yr
adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2022/23 a’r rhagolygon tuag
at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd bod
rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd yr Adrannau Oedolion, Iechyd a Llesiant,
Plant a Theuluoedd, Addysg, Economi a Chymuned, Priffyrdd a Bwrdeistrefol a
Thai ac Eiddo yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn. Ychwanegwyd bod gorwariant
sylweddol gan bump o’r chwe Adran sydd yn
gorwario, tra bod gweddill Adrannau’r
Cyngor yn gweithredu o fewn eu cyllideb. Nodwyd o ran Covid,
er nad yw’r effaith mor sylweddol yn 2022/23 o’i gymharu â’r ddwy flynedd
flaenorol, mae costau ychwanegol, colledion incwm a llithriad ar gynlluniau
arbedion yn parhau mewn rhai meysydd. Ychwanegwyd
bod hefyd oediad mewn gwireddu arbedion sydd wedi cyfrannu tuag at rai Adrannau
yn gorwario. Tynnwyd sylw at y prif feysydd ble mae gwahaniaethau
sylweddol. Rhagwelir gorwariant o dros £2.2 miliwn eleni yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a hynny yn gyfuniad o nifer o ffactorau
gan gynnwys methiant i wireddu gwerth £930,000 o arbedion. Amlygwyd eleni bod
pwysau ar lety cefnogol a phecynnau taliadau uniongyrchol yng Ngwasanaethau
Pobl Hŷn tra bod staffio uwchlaw lefel y gyllideb a diffyg incwm yn
faterion yng Ngwasanaethau Gofal Cymunedol. Manylwyd ar y gorwariant o £1.6 miliwn sy’n cael ei ragweld gan yr Adran Addysg sydd o ganlyniad i effaith cost ychwanegol chwyddiant cyflogau athrawon, cymhorthyddion a staff gweinyddol £1,031,000 uwchlaw’r gyllideb eleni. Rhagwelir hefyd bod effaith prisiau trydan uwch ar yr ysgolion am y chwe mis o Hydref 2022 ymlaen yn £614,000. Mynegwyd ei bod yn briodol i ddefnyddio balansau ysgolion i gyllido'r pwysau ychwanegol eleni o ystyried fod yr ysgolion eisoes wedi elwa o bron i filiwn o arbedion ynni yn deillio o Covid a'r cyfnodau clo cysylltiedig. Tynnwyd sylw at broblemau gorwariant yn y maes Gwastraff ac Ailgylchu a’r trafferthion mae’r Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol yn ei gael i wireddu arbedion gwerth £608,000. Nodwyd hefyd bod Byw’n Iach yn gorwario oherwydd prisiau trydan uwch a gan fod sgil effaith covid yn parhau yn 2022/23 ac yn amharu ar allu Cwmni Byw’n Iach i gynhyrchu incwm. Cyfeiriwyd at y pwysau yn y maes Digartrefedd oherwydd goblygiadau’r ddeddfwriaeth newydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
TROSOLWG ARBEDION - ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 576 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd y wybodaeth yn yr adroddiad a nodwyd y cynnydd
tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2022/23 a blynyddoedd blaenorol. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Derbyniwyd y
wybodaeth yn yr adroddiad a nodwyd y cynnydd tuag at wireddu cynlluniau
arbedion 2022/23 a blynyddoedd blaenorol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad sy’n crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Eglurwyd ers 2015/16 bod
gwerth £35.4 miliwm o arbedion wedi eu cymeradwyo i’w
gwireddu ar gyfer y cyfnod 2015/16 - 2022/23. Amlygwyd
bod cyfanswm o £33.5 miliwn o’r arbedion
yma wedi eu gwireddu ers 2015/16, sydd yn 95% o’r swm gofynnol dros y cyfnod. Edrychwyd ar y
flwyddyn ariannol gyfredol gan fynegi bod 22% o arbedion 2022/23
eisoes wedi eu gwireddu a 2% pellach ar drac i gyflawni’n amserol. Cyfeiriwyd
at yr Adrannau sydd efo’r gwerth uchaf o ran cynlluniau sydd eto i’w cyflawni
sef yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant. I gloi soniwyd
am werth yr arbedion sydd eisoes wedi eu cymeradwyo ar gyfer 2023/24 ymlaen gan
nodi bod cynlluniau arbedion a thoriadau ychwanegol ar gyfer 2023/24 eisoes dan
ystyriaeth gan y Cyngor. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Mynegwyd bod rhaid cofio bod gwireddu’r
arbedion yn golygu effaith uniongyrchol ar drigolion y Sir o ganlyniad i safon
rhai gwasanaethau yn gostwng. Eglurwyd ei bod yn bwysig cyflawni’r arbedion ond
eu bod yn deillio o bolisïau llymder y Llywodraeth ac nid o ddewis
Cyngor Gwynedd. ·
Cyfeiriwyd hefyd ar yr effaith yr holl
arbedion dros y blynyddoedd ar staff y Cyngor. ·
Credwyd bod angen gwneud rhywfaint o
arbedion yn flynyddol er mwyn bod yn effeithlon sy’n ran o egwyddorion Ffordd
Gwynedd ond bod gorfod gwireddu gymaint o arbedion dros yr
holl flynyddoedd
wedi
bod yn
anodd. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
RHAGLEN GYFALAF 2022/23 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2022 PDF 448 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd
Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2022) o’r rhaglen gyfalaf. ·
Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn
rhan 4 o’r adroddiad, sef: -
cynnydd o £30,000 mewn defnydd o fenthyca -
cynnydd o £2,947,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau -
cynnydd o £101,000 mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf -
cynnydd o £20,000 mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw -
cynnydd o £1,167,000 mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD ·
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad
diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2022) o’r rhaglen gyfalaf. ·
Cymeradwywyd ariannu addasedig a
gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef: ·
cynnydd o £30,000 mewn defnydd o fenthyca ·
cynnydd o £2,947,000 mewn defnydd o
grantiau a chyfraniadau ·
cynnydd o £101,000 mewn defnydd o
dderbyniadau cyfalaf ·
cynnydd o £20,000 mewn defnydd o
gyfraniadau refeniw ·
cynnydd o £1,167,000 mewn defnydd o
gronfeydd adnewyddu ac eraill TRAFODAETH Cyflwynwyd
yr adroddiad gan nodi mai prif ddiben yr adroddiad oedd i gyflwyno’r rhaglen
gyfalaf ddiwygiedig a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu perthnasol. Mynegwyd
fod yr adroddiad yn nodi dadansoddiad fesul Adran
o’r rhaglen gyfalaf o £140.6 miliwn am gyfnod o dair blynedd o 2022/23 -
2024/25. Cyfeiriwyd
at y ffynonellau i
ariannu’r
cynnydd
net sydd
oddeutu
£4.3 miliwn
ers
yr
adolygiad
diwethaf.
Mynegwyd fod
gan y Cyngor gynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi
oddeutu £53 miliwn eleni, gyda £20 miliwn wedi’i ariannu drwy grantiau penodol. Eglurwyd bod
effaith ariannol diweddar yn parhau ar y rhaglen gyfalaf gyda 40% o’r gyllideb
wedi ei gwario hyd at ddiwedd Tachwedd eleni, o’i gymharu â 37% dros yr un
cyfnod flwyddyn yn ôl; 31% ddwy flynedd yn ôl a 51% yn 2019/20 cyn amhariad Covid. Nodwyd fod £28.7 miliwn o wariant
arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2022/23 i 2023/24 a 2024/25 gyda’r prif
gynlluniau yn cynnwys £11.4 miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai, £5.5 miliwn
Cynlluniau Ysgolion a £4.1 miliwn Adnewyddu Cerbydau. Tynnwyd sylw
at y grantiau ychwanegol y llwyddodd y Cyngor i’w
denu ers yr
adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys £2
miliwn Grant Cymunedau Dysgu Cynaliadwy, £0.9 miliwn Grant Cyfalaf Anghenion
Dysgu Ychwanegol a £0.4
miliwn Grant Llywodraeth Cymru tuag at Gynllunio Gwledig (Gwella Mynediad). Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Nodwyd bod y maes yn ddyrys Awdur: Ffion Madog Evans |
|
CYNLLUN FFLYD WERDD 2023-29 PDF 236 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Berwyn Parry Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadwyd y Cynllun Fflyd Werdd 2023-28 (a weler yn
Atodiad 1) a cytunwyd: ·
bod Adrannau'r Cyngor ddim i brynu, adnewyddu,
neu waredu unrhyw gerbyd cyn yn gyntaf trafod ei anghenion gyda'r Rheolwr
Fflyd, a chael ei gydsyniad; ·
bod angen creu system pŵl corfforaethol yn
lle rhai Adrannol; ·
bod y Rheolwr Fflyd i arwain ar y gwaith o
chwynnu’r stoc bresennol o gerbydau’r Cyngor, a chreu strwythur cerbydau i bob
Adran. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Berwyn Parry
Jones PENDERFYNIAD Mabwysiadwyd y
Cynllun Fflyd Werdd 2023-28 (a weler yn Atodiad 1) a cytunwyd: ·
bod Adrannau'r Cyngor ddim i brynu,
adnewyddu, neu waredu unrhyw gerbyd cyn yn gyntaf trafod ei anghenion gyda'r
Rheolwr Fflyd, a chael ei gydsyniad; ·
bod angen creu system pŵl
corfforaethol yn lle rhai Adrannol; ·
bod y Rheolwr Fflyd i arwain ar y gwaith
o chwynnu’r stoc bresennol o gerbydau’r Cyngor, a chreu strwythur cerbydau i
bob Adran. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan gyfeirio nôl at gyhoeddiad y Cyngor o Argyfwng Newid Hinsawdd ym
mis Mawrth 2019 a arweiniodd at gyhoeddi Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur gan
y Cabinet ym mis Mawrth 2022 oedd yn gosod targed y bydd y Cyngor yn garbon
sero net erbyn 2023. Nodwyd bod y Cynllun Fflyd Werdd yn
cynnwys nifer o brosiectau sy’n mynd ati i helpu i wireddu’r amcan
yma
drwy leihau allyriadau carbon sydd yn deillio o ddefnydd Fflyd y Cyngor. Nodwyd
bod cost yn gysylltiedig â hyn ond byddai cost uwch o lawer yn deillio o wneud
dim. Cyflwynwyd y
Cynllun hwn ar weledigaeth y Gwasanaeth Fflyd i’r Bwrdd Newid Hinsawdd a Natur
ym mis Tachwedd 2022 a chytunwyd y byddai’r Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r
Cabinet am gymeradwyaeth. Adroddwyd bod cryn waith i’w gyflawni a gall unrhyw
oedi amharu ar y rhaglen waith o gyrraedd y nod. Amlygwyd rhai
agweddau o’r Cynllun gan y Pennaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol. Cyfeiriwyd
at y
targedau sydd wedi eu
gosod gan Lywodraeth Cymru a’r gofyn i edrych ar newid
y
drefn o ran sut mae’r Cyngor yn prynu cerbydau. Erbyn
2030 mae
disgwyliad
bod unrhyw gerbyd bychain mae’r
Cyngor yn ei brynu efo
allyriadau isel. Soniwyd am
faint Fflyd y Cyngor sydd yn cynnwys o gwmpas 550 o gerbydau ar draws y Sir
sy’n
cwmpasu ystod eang o wahanol gerbydau. Cyfeiriwyd at y camau fydd yn cael eu
dilyn gan y Gwasanaeth sy’n cynnwys
gwaith chwynnu o ran adolygu cerbydau a herio os
oes gwir angen y cerbyd yn y lle cyntaf. Yna bydd gwaith arloesol yn dilyn o
ail edrych ar y dechnoleg sydd ar gael ac yna'r gwaith adnewyddu fydd yn
cynnwys gosod allan y cyfeiriad y mae’r Cyngor yn dymuno ei ddilyn efo’r
Cynllun Fflyd. Nodwyd bod y
rhaglen o ran sut fydd y Gwasanaeth yn gweithio wedi ei osod yn yr adroddiad.
Cyfeiriwyd at ddatblygiadau eraill sydd yn digwydd ynglŷn â threialu yn
ogystal â datblygiadau ar y cyd fel y Cynllun Defnydd
Hydrogen sydd yn cael ei arwain gan Gyngor Sir Fflint ar gyfer cerbydau
trymion. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Nid oedd sylwadau oni bai am ddymuno’r
gorau i’r Adran a’r Gwasanaeth Fflyd a mynegwyd ei fod yn waith pwysig o ran
ymdrechion y Cyngor i ostwng allyriadau. Awdur: Steffan Jones |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ystyriwyd y sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad statudol a
gynhaliwyd ar gynyddu capasiti Ysgol Chwilog ynghyd
â’r ymatebion i’r sylwadau hynny, a phenderfynwyd: ·
Cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol a chynnal
cyfnod gwrthwynebu, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i ehangu safle’r ysgol a fyddai’n cynyddu capasiti Ysgol Chwilog i 95 o 1 Medi 2023, sef cynnydd o
dros 25% o’r capasiti presennol.
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Beca Brown PENDERFYNIAD Ystyriwyd y
sylwadau a dderbyniwyd yn ystod yr ymgynghoriad statudol a gynhaliwyd ar
gynyddu capasiti
Ysgol Chwilog ynghyd â’r ymatebion i’r sylwadau hynny, a phenderfynwyd: ·
Cymeradwyo cyhoeddi rhybudd statudol a
chynnal cyfnod gwrthwynebu, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a
Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig i ehangu safle’r ysgol a
fyddai’n cynyddu capasiti
Ysgol Chwilog i 95 o 1 Medi 2023, sef cynnydd o dros 25% o’r capasiti
presennol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad positif hwn sydd yn ystyried yr ymatebion a dderbyniwyd i’r
ymgynghoriad statudol i gynyddu capasiti
Ysgol Chwilog i 95 sydd yn gynnydd o dros 25%. Nodwyd mai arian o grant cyfalaf
y Gymraeg yw hon ac mae ymgais yma i geisio cyfarch rhai o anghenion y
cymunedau rheini sydd â dros 70% o’r bobl yn siarad Cymraeg. Mynegwyd bod
cefnogaeth glir i’w weld wrth ystyried
ymatebion yr ymgynghoriad a bod plant yr ardal hefyd yn credu y bydd yn gam
positif i Ysgol Chwilog. Credwyd bod yr adroddiad yn dangos dyhead yr Adran
Addysg i gefnogi Cymraeg holl blant y Sir ac yn benodol i gryfhau'r iaith
Gymraeg yn ardal Chwilog. Nodwyd heblaw
am y gefnogaeth bod ambell i sylw wedi
eu derbyn am faterion fel neuadd
yr Ysgol ac yr ystafell athrawon sy’n dangos bod rhai wedi dal ar y cyfle yn
ystod yr ymgynghorid i gyfleu negeseuon eraill. Nid oedd
sylwadau pellach
dim ond cefnogaeth gan y Cabinet. Awdur: Gwern ap Rhisiart |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID PDF 417 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD Derbyniwyd a
nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad oedd yn adrodd ar yr hyn sydd wedi digwydd yn y maes Cyllid dros y
misoedd diwethaf. Nodwyd bod perfformiad da yn
yr Adran gyda chynnydd boddhaol yn cael ei wneud ar y prosiect blaenoriaeth
perthnasol o fewn Cynllun y Cyngor. Cyfeiriwyd at
amryw o wasanaethau megis y Gwasanaeth Archwilio Mewnol a'r Gwasanaeth
Budd-daliadau. Nodwyd bod y Gwasanaeth Budd-daliadau yn parhau i berfformio yn
erbyn ei fesurau cyflawni craidd ond bod cyfartaledd yr amser y cymerir i
brosesu cais budd-dal newydd wedi cynyddu o 20.7 diwrnod ym
mis
Tachwedd 2021 i 24.1 diwrnod ar gyfer mis Tachwedd 2022. Eglurwyd bod hyn yn
gyfuniad o swyddi gwag a salwch yn ogystal â chynnydd yn y gwaith yn sgil
taliadau tanwydd gaeaf. Adroddwyd bod brwdfrydedd o fewn y Gwasanaeth a’u bod
yn cymryd rhan mewn dau gynllun corfforaethol sef Cynllun Datblygu’r Gweithlu
a’r Cynllun Meithrin Talent. Nodwyd bod yr
un problemau staffio yn bodoli o fewn Gwasanaethau eraill megis y Gwasanaeth
Trethi ble mae recriwtio a chadw staff yn broblem gynyddol. Amlygwyd
rhwystredigaeth o fewn y Gwasanaethau Cyllid a Chyfrifeg ynghylch derbyn
anfonebau yn amserol gan weddill Adrannau’r Cyngor er mwyn eu prosesu. Credwyd
bod cyfrifoldeb ar yr holl Aelodau Cabinet i geisio sicrhau bod yr Adrannau yn
anfon anfonebau heb oedi. Nodwyd bod y
Gwasanaeth TG wedi bod yn llwyddiannus gyda’u hymdrechion diweddar i lenwi
swyddi gwag yn dilyn cyfnod o fethu penodi. Mynegwyd dymuniad i fwy o adborth
gael ei roi i’r Gwasanaeth Cefnogol TG ar draws holl Adrannau’r Cyngor. Soniwyd
bod yr adborth sy’n cael ei dderbyn ar y cyfan yn bositif iawn ond prin yw’r
adborth hwn. I gloi cyfeiriwyd at y Gwasanaeth TG Dysgu Digidol sydd yn
wasanaeth newydd gyda chryn dipyn o waith wedi ei gyflawni hyd yn hyn. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Soniwyd am y llythyr diweddar gafodd ei
dderbyn gan y Gweinidog Julie James
ynglŷn â’r cynllun taliad tanwydd gaeaf Llywodraeth Cymru. Roedd y llythyr
yn nodi
bod 72% o’r taliadau wedi
eu talu ar gyfartaledd ar draws Cymru ond bod Gwynedd wedi talu 95% ac yn
parhau i chwilio am y 5% arall i dalu sydd yn glod mawr i waith yr Adran.
Gofynnwyd i’r Pennaeth Cyllid gyfleu'r clod hwn i’r Gwasanaeth. ·
Nodwyd bod yr Adran wedi bod yn chwilio
am ffyrdd gwahanol o wneud y gwaith hwn drwy ddefnyddio’r Swyddfa Bost sydd
wedi bod yn llwyddiannus iawn. Awdur: Dewi Aeron Morgan |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET ADDYSG PDF 558 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Beca Brown PENDERFYNIAD Derbyniwyd a
nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan fynegi balchder ym mherfformiad yr Adran a’r gwaith da sy’n
digwydd o fewn Ysgolion Gwynedd. Cyfeiriwyd at yr Ysgol newydd fydd yn cael ei
hadeiladu yng Nghriccieth
er mwyn gwella’r amgylchedd ddysgu a
sicrhau’r adnodd gorau i’r disgyblion a’r balchder sy’n bodoli o ganlyniad i’r
datblygiad. Eglurwyd bod oedi wedi bod dros y flwyddyn ddiwethaf
wrth gyflwyno’r weledigaeth newydd ar gyfer addysg ôl-16 ond bellach fod yr
Adran mewn sefyllfa i allu bwrw mlaen efo’r prosiect hwn. Soniwyd am y prosiect
Cyflwr ac Addasrwydd oedd wedi profi heriau ar brydiau. Serch hyn adroddwyd bod
y buddsoddiad yng nghyflwr ac addasrwydd Ysgol Bethel, Ysgol Glan y Môr ac
Ysgol Cymerau wedi ei gwblhau yn ystod y flwyddyn gyda gwaith yn parhau ar
safleoedd Ysgolion eraill ar draws y Sir. Adroddwyd bod
y cyfnod Covid
wedi amlygu bregusrwydd
plant yn y grŵp oedran 0-5 a 16-24 a bellach bod gagendor lles a
chyrhaeddiad yn un o brif flaenoriaethau’r Adran Addysg. Adroddwyd bod
anghysondeb ar draws y Sir o ran ystod ac argaeledd gwasanaethau yn y sector
blynyddoedd cynnar; bydd
grŵp prosiect yn cytuno ar ffrydiau gwaith penodol ac wedi blaenoriaethu
cynnal asesiad. Mynegwyd
balchder yn y cwricwlwm newydd i Gymru gan gyfeirio at y sylw cyhoeddus
dderbyniodd rhai agweddau o’r cwricwlwm megis y cwricwlwm Addysg Cyd-berthynas
a Rhywioldeb. Cymerwyd y cyfle i fynegi gwerthfawrogiad o broffesiynoldeb,
cefnogaeth ac ymrwymiad yr Ysgolion a mynegwyd pob ffydd yn y Penaethiaid a’r
athrawon i fedru dehongli a chyfleu'r cod hwn
yn addas i oedran a datblygiad pob plentyn. Cyfeiriwyd at
y Gyfundrefn Addysg Drochi sy’n weledigaeth newydd gan nodi bod cefnogaeth y
gyfundrefn drochi ar gael i bob Ysgol yn y Sir. Soniwyd am waith cyffrous ac
arloesol sydd wedi digwydd yng Ngwynedd fel y cynllun trochi newydd gafodd ei
ysgrifennu a’i ddatblygu yng Ngwynedd a fydd yn cael ei rannu yn genedlaethol.
Adroddwyd ar y drefn categoreiddio ysgolion ddaeth i rym ym mis Medi 2022 gan
nodi y bydd yr Adran Addysg yn gweithio gyda phob Ysgol sydd yn disgyn i
gategori 3 yn y Sir er mwyn sicrhau cynnydd priodol. I glo mynegwyd
diolch i’r Adran Addysg ac yn arbennig i’r athrawon a holl staff yr Ysgolion
yng Ngwynedd am eu gwaith diflino mewn cyfnod heriol i sicrhau’r addysg gorau i
blant y Sir gan ofalu am eu hiechyd, diogelwch a’u lles a chyflawni ystod
anferth o waith. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ·
Dymunwyd longyfarch yr Adran am eu
gwaith i uchafu lles plant a phobl ifanc ar draws y Sir. ·
Holiwyd am y Gwasanaeth GwE ac os fydd y
Cabinet yn debygol o dderbyn adborth o berfformiad GwE. Mynegwyd bod cyfeiriad
at GwE yn yr adroddiad ond bod GwE yn rhan o eitem flynyddol yr Adran Addysg yn
y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ac adroddir ar eu perfformiad yn y Pwyllgor
hwnnw. · Ychwanegwyd bod bwriad dros ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. Awdur: Garem Jackson |
|
BLAEN RAGLEN Y CABINET PDF 289 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn
y papurau i’r cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd y
Blaen Raglen er gwybodaeth PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r
cyfarfod. |