Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Annes Sion 01286 679490
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. Diolchwyd i staff rheng flaen am eu gwaith yn ystod y tywydd
garw. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 RHAGFYR 2023 PDF 163 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr
2023 fel rhai cywir. |
|
CYLLIDEB REFENIW 2023/24 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2023 PDF 622 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1) Derbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2023 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried
y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth. 2) Nodi
bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant,
Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC eleni. 3) Cymeradwyo
trosglwyddiad o £4,241k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa
Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD 1) Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd
2023 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed
cyllidebau pob adran / gwasanaeth. 2) Nodi bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd,
Peirianneg ac YGC eleni. 3) Cymeradwyo trosglwyddiad o £4,241k o danwariant ar
gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad
gan nodi fod yr adolygiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb
refeniw’r Cyngor am 2023/24, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn
ariannol. Eglurwyd fod yr adolygiad yn awgrymu y bydd pob un o’r deg adran yn
gorwario erbyn diwedd y flwyddyn. Ychwanegwyd y bydd gorwariant sylweddol gan
yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd a’r Adran
Briffyrdd, Peirianneg ac Ymgyhgoriaeth Gwynedd. Nodwyd fod yr adran yn rhagweld
y bydd bwlch ariannol o £8.1m ac mae hynny i’w gymharu â £9.1m a nodwyd yn yr
adolygiad ym mis Awst. Eglurwyd fod y sefyllfa filiwn yn well ond fod hyn o
ganlyniad i ddefnydd o gronfeydd un-tro er mwyn helpu’r sefyllfa o fewn
adrannau. Amlygwyd y prif faterion
fel a ganlyn: Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant - Nodwyd fod rhagolygon diweddaraf yn awgrymu £5.4m o orwariant, sydd
yn gyfuniad o nifer o ffactorau megis nifer o achosion newydd a chostus, costau
staffio uwch a lefelau salwch a chyfraddau oriau digyswllt yn uchel. Mynegwyd fod gwaith a gomisiynwyd gan y Prif
Weithredwr bellach ar y gweill er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a
chreu rhaglen glir i ymateb. Adran Plant a Theuluoedd
– eglurwyd fod sefyllfa ariannol wedi gwaethygu’n sylweddol ers adolygiad Awst,
ac mae hyn o ganlyniad i gynnydd mewn costau pecynnau all-sirol. Nodwyd fod yr
adran yn rhagweld gorwariant o £1.3m. Adran Addysg – Nodwyd
fod pwysau cynyddol ar y gyllideb cludiant
gyda gorwariant o £1.15m yn cael ei ragweld. Eglurwyd fod adolygiad
strategol i geisio rheoli’r cynnydd ac i geisio lleihau’r gorwariant. Byw’n Iach - mynegwyd
fod Cofid wedi cael effaith ar Gwmni’n Byw’n Iach a nodwyd fod y gefnogaeth
ariannol yn parhau eleni a’r swm gofynnol wedi lleihau eleni i £350mil. Adran Priffyrdd,
Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd – rhagwelir gorwariant o £780mil gan yr
adran, nodwyd fod hyn o ganlyniad leihad yn y gwaith sydd yn cael ei gomisiynu
sydd wedi cael effaith negyddol ar incwm gwasanaethau priffyrdd. Nodwyd fod
colledion incwm cynnal tiroedd a thoiledau cyhoeddus hefyd yn ffactorau. Adran Amgylchedd -
nodwyd fod y tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac
ailgylchu yn parhau, eglurwyd fodd cylchdeithiau ychwanegol wedi arwain at
orwariant costau cyflogaeth a chostau fflyd. Adran Tai ac Eiddo –
Eglurwyd fod tueddiad o bwysau sylweddol
ar wasanaethau llety dros dro yn parhau i fod yn ddwys iawn, ac eleni dyrannwyd
£3m o bremiwm treth Cyngor ynghyd a dyraniad un tro £1.2m o ddarpariaeth Covid corfforaethol i
gyfarch y costau ychwanegol. Corfforaethol -Nodwyd fod rhagdybiaeth ddarbodus wrth osod cyllideb ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 737 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu
cynlluniau arbedion 2023/24 a blynyddoedd blaenorol. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu
cynlluniau arbedion 2023/24 a blynyddoedd blaenorol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn
crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Nodwyd er mwyn cau bwlch ariannol eleni
roedd angen gweithredu gwerth £7.6m o arbedion
yn ystod 2023/24. Roedd yn gyfuniad o bron i filiwn oedd wedi ei
gymeradwyo yn flaenorol, arbedion ar gyfer Ysgolion o £1.1m, £3m ar gyfer
adrannau’r Cyngor a £2.4m pellach drwy adolygu polisi ad-dalu dyled cyfalaf y
Cyngor. Amlygwyd dros y blynyddoedd diwethaf gwelwyd trafferthion i wireddu
arbedion mewn rhai meysydd hyn amlycaf yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
ac yn y maes Gwastraff. Mynegwyd y bu i werth £2m o gynlluniau oedd a risgiau
sylweddol i gyflawni eu dileu fel rhan o Adolygiad Diwedd Awst. Eglurwyd fod 98% o’r Cynlluniau o 2015/16 hyd at y flwyddyn ariannol
2023/24 bellach wedi ei gwireddu sef £33.7m o’r £34.3m. O’r cynlluniau newydd
yn y flwyddyn ariannol gyfredol nodwyd fod 81% wedi ei gwireddu a 6% pellach ar
drac i’w gyflawni’n amserol. Eglurwyd fod ychydig o oediad i wireddu gwerth
£694k o gynlluniau arbedion, ond nid yw’r Adrannau yn rhagweld problem i’w
gwireddu. Pwysleisiwyd fod mwyafrif o’r swm yma yn cynnwys arbedion o £539k gan
ysgolion gan eu bod yn gweithio i flwyddyn academaidd ac felly y bydd
gwireddu’n llithro i’r flwyddyn ariannol nesaf. Pwysleisiwyd fod £39m o arbedion wedi eu gwireddu o’r £41m gofynnol dros
y cyfnod. Rhagwelir y bydd 1% ychwanegol wedi ei wireddu erbyn diwedd y
flwyddyn ariannol. Bu i’r Pennaeth Cyllid amlygu’r sylwadau a’r pwyntiau a godwyd yn y
Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel a ganlyn. Holwyd sut mae dewis rhwng
priodoldeb ariannol a chyflawni dyletswydd statudol, a beth fuasai angen ei
wneud unwaith fo arian yn dod i ben. Esboniwyd ei bod yn allweddol fod y cyngor
yn gwneud popeth i sicrhau na fydd yn cyrraedd y pwynt yma. Nodwyd fod angen
gwneud yn siŵr fod y Cyngor yn sicrhau gwerth am arian ac yn gwneud y
defnydd gorau o bob punt. Mynegwyd fod
methiant i wneud hyn yn arwain at angen i wneud datganiad s114, a bod angen
gwneud popeth i osgoi cyrraedd y pwynt yma. Cydnabuwyd fod pryder am ddiffyg
adnoddau i gyflawni’r pethau ond mai hyn yw’r realiti ar hyn o bryd. Nodwyd fod cais i wneud gwaith modelu er mwyn rhagweld y galw yn y
dyfodol, ac eglurwyd fod y Tîm Ymchwil a Gwybodaeth yn flaengar iawn yn y maes
hwn. Amlygwyd fod yr aelodau yn nodi ei bod yn prysur gyrraedd y pwynt ble mae
angen ail-edrych ar y ffordd mae’r Cyngor yn cyflawni gwasanaethau. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth · Nodwyd yng nghanol y naratif o doriadau a phwysau cynyddol ar staff, tynnwyd sylw at yr angen i feddwl ar yr effaith mae’n cael ar y staff. Mynegwyd mai prif faes gwariant y Cyngor yw cyflogi staff ac mae torri yn ôl yn mynd i arwain at fwy ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
RHAGLEN GYFALAF 2023/34 - ADOYLGIAD DIWEDD TACHWEDD PDF 1 MB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Derbyn yr adroddiad
ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2023) o’r rhaglen gyfalaf. ·
Cymeradwyo’r ariannu
addasedig a gyflwynir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad, sef: - cynnydd o £3,576,000
mewn defnydd o fenthyca - cynnydd o £2,373,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau - cynnydd o £317,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw - cynnydd
o £1,038,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas PENDERFYNIAD ·
Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd
(sefyllfa 30 Tachwedd 2023) o’r rhaglen gyfalaf. ·
Cymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn
rhan 3.2.3 o’r adroddiad, sef: - cynnydd o £3,576,000 mewn defnydd o fenthyca -
cynnydd o £2,373,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau - cynnydd o
£317,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw - cynnydd o £1,038,000 mewn defnydd
o gronfeydd adnewyddu ac eraill. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mae prif ddiben yr
adroddiad oedd cyflwyno’r rhaglen ddiwygiedig a chymeradwy’r ffynonellau
ariannu perthnasol. Eglurwyd mai’r prif gasgliadau yw bod y Cyngor a
chynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £86.8m yn 2023/24 ar gynlluniau
cyfalaf, gyda £41.5m wedi’i ariannu trwy grantiau penodol. Mynegwyd fod effaith heriau ariannol diweddar yn parhau ar y
rhaglen gyfalaf, gyda £23.2m sef 27% o’r gyllideb wedi ei wario hyd at ddiwedd
Tachwedd eleni, o’i gymharu â 40% dros yr un cyfnod flwyddyn yn ôl. Nodwyd fod
£27.4m ychwanegol o wariant arfaethedig wedi’i ail broffilio o 2023/24 i
2024/25 a 2025/26. Tynnwyd sylw i rai o’r cynlluniau a oedd yn cynnwys £12.2m
Cynlluniau Ysgolion, £11m Cynlluniau Strategaeth Tai, £3.9m Cynlluniau Risgiau
Arfordirol ac Atal Llifogydd. Amlygwyd fod y
Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn denu grantiau ychwanegol ers yr adolygiad
diwethaf a oedd yn cynnwys £661k Grant Cyfalaf Economi Gylchol, £550k Grantiau
at Gae Synthetig Cymunedol 3G ar safle Ysgol Syr Hugh Owen. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Mynegwyd gan fod gymaint o boeni am y cynlluniau
refeniw mae’r rhaglen gyfalaf yn aml yn cael ei anghofio. Eglurwyd y bydd
cynllun asedau deg mlynedd y Cyngor am gael ei osod dros y misoedd nesaf, ac
amlygwyd fod gofynion pob gwasanaeth yn dod i gyfanswm o £82m gyda’r arian
cyfalaf yn £38m ac felly bydd angen torri yn ôl ar wariant. ·
Nodwyd fod cyfran gwario eleni yn 27% sydd yn is
na’r llynedd a gofynnwyd beth oedd rheswm dros hyn. Eglurwyd fod hyn o
ganlyniad i broffilio gwael a rhai cynlluniau addysg heb symud ymlaen. Awdur: Ffion Madog Evans |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG PDF 200 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan longyfarch Gwern ap Rhisiart ar
ei rôl newydd fel Pennaeth yr Adran Addysg. Atgoffwyd fod y gyfundrefn wedi
derbyn adroddiad Estyn cadarnhaol a gyhoeddwyd fis Medi'r llynedd a oedd yn
tystio i waith caled y gyfundrefn a diolchwyd i bawb am eu gwaith. Amlygwyd fod yr adran wedi bod yn gweithredu ar gynlluniau o
fewn Cynllun y Cyngor y newydd ond ei bod yn ddyddiau cynnal gan ei bod yn
gynllun newydd. Amlygwyd rhai meysydd fel a ganlyn. O ran cynllun Trawsnewid
Addysg Blynyddoedd Cynnar nodwyd fod comisiynydd allanol wedi’i gomisiynu a bod
cynllun gwaith drafft wedi ei greu. Mynegwyd y bydd hyn yn lleihau anghysondeb
o ran cynnig ar draws y sir. Eglurwyd fod y Cyngor o flaen amserlen y
Llywodraeth o ran cinio am ddim, a bod y gwaith uwchraddio wedi ei wneud
bellach o fewn ysgolion. Ychwanegwyd fod gwaith hyrwyddo angen ei wneud yn
benodol mewn rhai ysgolion ble mae cyfradd nifer y plant yn elwa yn is. Mynegwyd yn y maes moderneiddio addysg balchder fod modd
arallgyfeirio arian er mwyn buddsoddi yn Ysgol Hirael a Ysgol Tryfan ym Mangor,
gan fod costau adeiladu wedi cynyddu cymaint. Ategwyd o ran Llesiant Plant a
Pobl ifanc a Cost Gyrru Plant i’r Ysgol fod holiadur wedi ei rannu a fydd yn
adnabod gwir gost anfon plant i’r ysgol a fydd yn amlygu costau amlwg meis
gwisg ysgol ynghyd a chodi sylwi i gostau mwy cuddiedig. O ran cynllun Trochi, diolchwyd i staff am eu gwaith ac i’r
plant am eu holl ymdrechion a bod gwir angen dathlu’r nifer o siaradwyr Cymraeg
newydd mae’r gwasanaeth yn ei greu. Mynegwyd fod gwaith hyfforddiant yn parhau
o fewn ysgolion a bod rhai ysgolion uwchradd mewn peilot Llywodraeth Cymru a
Say Something in Welsh a bod hyn yn amlygu fod yr adran yn ceisio am bob cyfle
sy’n codi i sicrhau defnydd o’r Gymraeg. O ddydd i ddydd amlygwyd fod lefel presenoldeb yn parhau i
fod yn broblem, ond ei fod i’w weld yn lleol, cenedlaethol ac yn rhyngwladol yn
dilyn Covid. Nodwyd fod y rhesymau yn gymhleth ond fod llawer o waith yn cael
ei wneud. Mynegwyd tristwch fod y Cabinet wedi gwneud y penderfyniad i gau
Ysgol Felinwda ond diolchwyd i’r staff am eu holl waith a dymuno yn dda i’r
plant wrth drosglwyddo i’r ddwy ysgol gyfagos. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Ychwanegodd y Pennaeth Addysg fod yr adroddiad
yn amlygu llawer o newyddion da ond fod yr adran yn wynebu heriau ond ei fod yn
edrych ymlaen at symud ymlaen i weithio yn agos nid yn unig gyda staff yr adran
ond gydag ysgolion yn ogystal. ·
Amlygwyd fod gwaith Athro ddim yn swydd hawdd a
diolchwyd yn fawr i holl athrawon a staff ysgolion am eu gwaith ac am eu
cyfraniad yn trosglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf. · Holwyd am sut mae’r gyfundrefn drochi yn cael gwerthuso. Y bwriad yw ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. Awdur: Gwern ap Rhisiart |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID PDF 280 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod perfformiad yr adran yn gyffredinol
dda dros y misoedd diwethaf, ac wedi gwneud cynnydd boddhaol ar y prosiectau
blaenoriaeth perthnasol. Amlygwyd prif faterion sy’n deillio o berfformiad yr
adran gan gynnwys yr eitemau isod. O ran Gwasanaeth TG - Cefnogol nodwyd fod y gwasanaeth wedi bod yn
llwyddiannus wrth lenwi swyddi gwag allweddol. Amlygwyd fod dros 3,453 o
geisiadau am gymorth TG yn ystod Hydref a Thachwedd 2023, gyda 93% wedi eu
hagor a’u cau yn ystod y cyfnod. Wrth edrych ar Wasanaeth TG - Isadeiledd
nodwyd fod argaeledd y Rhwydwaith Craidd a’r Systemau Critigol wedi bod yn 100%
yn ystod y cyfnod a ni chafwyd digwyddiad seibir na thoriad gwasanaeth difrifol
chwaith. Wrth edrych ar wasanaethau cyllid amlygwyd y prosiectau fel a ganlyn. O ran
Gwasanaeth Incwm nodwyd fod yr adroddiad yn parhau i roi sylw i gynnydd yr
achosion mae’r gwasanaeth yn eu cyfeirio at y Gwasanaeth Cyfreithiol er mwyn
sicrhau bod cydweithio effeithiol rhwng y ddwy uned. Amlygwyd fod Gwasanaeth
Budd-daliadau yn perfformio’n gyson dda a diolchwyd i’r Rheolwr a’r holl staff
y gwasanaeth am sicrhau fod pobl fwyaf bregus Gwynedd yn derbyn y cymorth
ariannol maent yn gymwys iddo. Mynegwyd fod y gwasanaeth Cyflogau wedi bod yn
ymateb yn amserol i’r cytundeb tal ar gyfer 2023/24 ac wedi sicrhau fod cynnydd
ac ôl-dâl wedi cael ei dalu i staff yn ystod mis Tachwedd. Amlygwyd pryder ar
fethiant rhai gwasanaethau i hysbysu’r Gwasanaeth Cyflogau’n amserol o unrhyw
newid mewn sefyllfa unigolyn er mwyn gallu gweithredu ar amser. Mae llawer o waith wedi ei wneud i gynnal adolygiad Ffordd Gwynedd ar y
gwasanaeth Trethi, ac mae gwelliannau
clir bellach wedi dod i’r amlwg yn sgil ymrwymiad y Rheolwr a’r tîm cyfan i
wneud y gwaith. Tynnwyd sylw at y cynlluniau arbedion gan nodi fod pob cynllun
oni bai am un wedi ei gyflawni ar gyfer cynlluniau 2015/16 – 2022/23. Nodwyd
nad yw’r adran yn rhagweld y bydd y cynllun – Denu incwm ychwanegol drwy
Asiantaeth Casglu Mewnol yn gwireddu’r targed arbedion o £35k felly mae’r adran
yn edrych am gynllun amgen. Nodwyd fod cyfanswm arbedion 2023/24 ar gyfer yr
Adran Gyllid yw £294,060 dros 7 cynllun. Eglurwyd fod gwerth £19,820 o
gynlluniau eisoes wedi gwireddu ac mae 3 cynllun arall a cyfanswm o £138,670 ar
drac i gyflawni’n amserlen. Amlygwyd fod 2 gynllun gwerth £135,570 yn llithro. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ·
Tynnwyd sylw at y Gwasanaeth Budd-daliadau gan nodi
fod yr adran yn gyson dda ond fod angen annog pobl Gwynedd i ddefnyddio’r
gwasanaeth i sicrhau eu bod yn cael y cymorth ariannol sydd ar gael iddynt. Awdur: Dewi Aeron Morgan |
|
BLAEN RAGLEN Y CABINET PDF 72 KB Cyflwynwyd gan: Cllr. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y
papurau i’r cyfarfod. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod. TRAFODAETH Dim i'w nodi. |