Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem | |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni
dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. Croesawyd yr
Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater
yn codi o drosolwg a chraffu. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 25 EBRILL PDF 294 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 25 Ebrill 2023 fel rhai cywir. |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwywyd y Model Llywodraethu
yn Atodiad 1 ar gyfer paratoi y Cynllun Datblygu Lleol i’w cynnwys yn y
Cytundeb Cyflawni Drafft. Cytunwyd i sefydlu Gweithgor
Polisi Cynllunio 15 aelod gyda’r Cylch Gorchwyl (Atodiad 2) i gefnogi’r gwaith
o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth
Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i
wneud addasiadau ieithyddol a man gywiriadau golygyddol i’r Cylch Gorchwyl. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y Model Llywodraethu
yn Atodiad 1 ar gyfer paratoi y Cynllun Datblygu Lleol i’w cynnwys yn y
Cytundeb Cyflawni Drafft. Cytunwyd i sefydlu Gweithgor
Polisi Cynllunio 15 aelod gyda’r Cylch Gorchwyl (Atodiad 2) i gefnogi’r gwaith
o baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd. Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth
Adran Amgylchedd mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i
wneud addasiadau ieithyddol a man gywiriadau golygyddol i’r Cylch Gorchwyl. TRAFODAETH Adroddwyd ar yr
angen i sefydlu trefniant llywodraethu newydd ar gyfer paratoi Cynllun Datblygu
Lleol Newydd a materion polisi cynllunio ar gyfer Awdurdod Cynllunio Cyngor
Gwynedd, yn dilyn penderfyniadau i ddirwyn trefniadau cyd weithio ffurfiol gyda
Chyngor Sir Ynys Môn i ben. Eglurwyd bod y
broses o sefydlu’r Cynllun Datblygu Lleol newydd yn ran o swyddogaeth ar y cyd
rhwng y Cabinet a’r Cyngor Llawn. Nodwyd bod y broses hon yn waith dros gyfnod
o oddeutu pedair blynedd a bod angen i fonitro’r Cynllun Datblygu Lleol,
paratoi canllawiau Cynllun Atodol yn ogystal â gwaith polisi cynllunio
cyffredinol. Nodwyd pwysigrwydd bod yr holl aelodau yn cymryd perchnogaeth dros
ddatblygiadau’r gwaith hwn. Awgrymwyd sefydlu
Gweithgor Polisi Cynllunio gydag aelodaeth o 15 Aelod Cyngor Gwynedd, yn
seiliedig ar ddyraniad gwleidyddol, er mwyn cefnogi’r broses o greu a chynnal y
Cynllun Datblygu Lleol. Nodwyd mai rhai o brif swyddogaethau’r cylch gorchwyl
fyddai: ·
Darparu barn ac arweiniad
ar ddogfennau drafft y Gwasanaeth Polisi Cynllunio yn ogystal â dogfennau
drafft y Canllawiau Cynllunio Atodol, cyn i’r gwasanaeth gwneud trefniadau am
adborth gyhoeddus. ·
Darparu barn ac arweiniad
ar sylwadau a dderbynnir gan y cyhoedd ac unrhyw grŵp neu fforwm
budd-ddeiliaid yn ystod cyfnodau cyfranogiad cyhoeddus neu ymgynghoriadau
eraill ym mhrosesau’r Cynllun Datblygu Lleol a’r Canllawiau Cynllunio Atodol. ·
Darparu barn ac arweiniad
ar Adroddiad Monitro Blynyddol y Cynllun Datblygu Lleol ac unrhyw ddogfen sy’n
cael ei baratoi fel rhan o’r broses o adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol. Cadarnhawyd bod gan
Y Cabinet, Y Cyngor Llawn a’r Pwyllgor Craffu Cymunedau rôl oddi fewn y
prosesau hyn a rhannwyd amserlen o’r broses. Cadarnhawyd bod gofyniad statudol
i’r broses hyn gael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn dwywaith o fewn y cyfnod o
bedair blynedd. Ymhelaethwyd bod swyddogion y Gwasanaeth wedi amserlennu i’r
diweddariadau cael eu cyflwyno i’r Cyngor Llawn bedair gwaith oddi fewn y
cyfnod hwn, er mwyn cyd fynd gyda chamau allweddol ac i sicrhau bod yr
Aelodau’n perchnogi’r broses ddatblygu. Nodwyd bydd holl
aelodau’r Cyngor yn derbyn sesiynau codi ymwybyddiaeth drwy gydol y broses pan
fu’n amserol i wneud hynny. Adroddwyd byddai’r
broses llywodraethol hyn yn adlewyrchiad o’r trefniant blaenorol ar y cyd gyda
Cyngor Sir Ynys Môn. Ymhelaethwyd bod nifer helaeth o awdurdodau lleol eraill
yn defnyddio trefniant tebyg i’r hyn a argymhellwyd yn yr adroddiad. Awdur: Gareth Jones (Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dafydd Meurig Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Cymeradwywyd Papur Cyfiawnhau Cyflwyno
Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Atodiad 1. 2.
Cymeradwywyd gwneud Cyfarwyddyd Erthygl 4 sydd
ddim yn dod i rym yn uniongyrchol ond wedi 12 mis (Atodiad 2) ar gyfer Ardal
Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd er mwyn diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir
ar gyfer y defnyddiau canlynol: a.
Newid defnydd o C3 (prif gartref) i C5 (ail
gartel) neu C6 (llety gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol; b.
Newid defnydd o C5 (ail gartref) i C6 (llety
gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol; c.
Newid defnydd o C6 (llety gwyliau tymor byr) i
C5 (ail gartref) a defnyddiau cymysg penodol. 3.
Cytunwyd bydd rhybudd o’r Cyfarwyddyd Erthygl 4
ar y ffurf yn Atodiad 3 i’w gyhoeddi a chyflwyno yn unol a’r gofynion (gan
dderbyn nad yw yn ymarferol i gyflwyno yn unigol i bob perchennog a meddiannwr
o fewn yr ardal oherwydd ei maint) am gyfnod o ddim llai na chwe wythnos er
caniatáu i’r cyhoedd gyflwyno ymatebion i’r bwriad. 4.
Cytunwyd i dderbyn adroddiad pellach i ystyried
unrhyw ymatebion a dderbyniwyd (yn dilyn y cyfnod ymgysylltu) er mwyn gwneud y
penderfyniad i gadarnhau y Cyfarwyddyd Erthygl 4. 5.
Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd
mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud addasiadau
golygyddol i’r rhybudd cyn ei gyhoeddi. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd
Meurig. PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwywyd Papur Cyfiawnhau Cyflwyno
Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn Atodiad 1. 2.
Cymeradwywyd gwneud Cyfarwyddyd Erthygl 4 sydd
ddim yn dod i rym yn uniongyrchol ond wedi 12 mis (Atodiad 2) ar gyfer Ardal
Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd er mwyn diddymu’r hawliau datblygu a ganiateir
ar gyfer y defnyddiau canlynol: a.
Newid defnydd o C3 (prif gartref) i C5 (ail
gartel) neu C6 (llety gwyliau tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol; b.
Newid defnydd o C5 (ail gartref) i C6 (llety gwyliau
tymor byr) a defnyddiau cymysg penodol; c.
Newid defnydd o C6 (llety gwyliau tymor byr) i
C5 (ail gartref) a defnyddiau cymysg penodol. 3.
Cytunwyd bydd rhybudd o’r
Cyfarwyddyd Erthygl 4 ar y ffurf yn Atodiad 3 i’w gyhoeddi a chyflwyno yn unol
â’r gofynion (gan dderbyn nad yw yn ymarferol i gyflwyno yn unigol i bob
perchennog a meddiannwr o fewn yr ardal oherwydd ei maint) am gyfnod o ddim
llai na chwe wythnos er caniatáu i’r cyhoedd gyflwyno ymatebion i’r bwriad. 4.
Cytunwyd i dderbyn adroddiad pellach i ystyried
unrhyw ymatebion a dderbyniwyd (yn dilyn y cyfnod ymgysylltu) er mwyn gwneud y
penderfyniad i gadarnhau y Cyfarwyddyd Erthygl 4. 5.
Dirprwywyd hawl i’r Pennaeth Adran Amgylchedd
mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol i wneud addasiadau
golygyddol i’r rhybudd cyn ei gyhoeddi. TRAFODAETH Adroddwyd nad oedd modd, yn hanesyddol, i reoli os oedd cartref yn cael ei
drosi i’w ddefnyddio fel ail gartref neu llety gwyliau hunangynhaliol. Eglurwyd
bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno dosbarthiadau defnydd newydd (C5 – ail
gartref ac C6 – llety gwyliau tymor byr), ond nid oes gofyniad presennol am
ganiatâd cynllunio cyn newid dosbarth defnydd ar gartref. Eglurwyd byddai cyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4 yn galluogi Awdurdod
Cynllunio Lleol Gwynedd i osod gofyniad am ganiatâd cynllunio cyn i berchnogion
allu diwygio ddosbarth defnydd eu cartref. Pwysleisiwyd nad oes gofyniad am
ganiatâd cynllunio os yw’r perchennog yn bwriadu diwygio dosbarth defnydd eu
cartref o C5 neu C6 yn ôl i brif gartref (dosbarth defnydd C3), oni bai fod
cais gwreiddiol wedi cael ei gyflwyno i’r Awdurdod ar gyfer defnydd C5 neu C6
yn flaenorol. Pwysleisiwyd mai prif fwriad y Cyngor wrth gyflwyno Cyfarwyddyd Erthygl 4
ond i gael rheolaeth dros newid dosbarthiadau defnydd, nid i atal datblygiadau
rhag mynd yn eu blaen. Darparwyd trosolwg o Bapur Cyfiawnhau Cyflwyno Cyfarwyddyd Erthyl 4 gan
nodi’r prif bwyntiau canlynol: ·
Dadansoddwyd y sefyllfa bresennol gan fanylu ar sut
mae’r defnydd o dai gwyliau wedi datblygu dros y bedair mlynedd ddiwethaf. o
Adroddwyd bod cynnydd yn niferoedd lletyau gwyliau
dros y cyfnod hwn. Nodwyd hefyd bod lleihad yn nifer o dai sy’n talu premiwm
ail gartrefi. · Cadarnhawyd bod 7509 o dai (12% o’r stoc dai) yn ail gartrefi neu lety gwyliau. Ystyriwyd bod posibilrwydd i’r ffigwr hwn fod yn eithaf ceidwadol oherwydd bod Arolwg Stoc Gwelyau a gwblhawyd gan y Cyngor yn 2019, ar y cyd gyda gwybodaeth gan Croeso Cymru, yn awgrymu bod darpariaeth o lety gwyliau yn unig yn 3700-4500 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Gareth Jones (Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
YMATEB I YMGYNGHORIAD LLYWODRAETH CYMRU - CYNIGION AR GYFER BIL ADDYSG GYMRAEG PDF 374 KB Cyflwynwyd gan: Cyng.Beca Brown Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd ymateb y Cyngor i’r
ymgynghoriad Papur Gwyn – Cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg, Llywodraeth
Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad
Papur Gwyn – Cynigion ar gyfer Bil Addysg Gymraeg, Llywodraeth Cymru. TRAFODAETH Eglurwyd
bod y Bil Addysg Gymraeg hon yn cynnig sylfaen i ddarparu addysg Gymraeg i bob
plentyn yng Nghymru. Nodwyd byddai hyn cynyddu niferoedd o siaradwyr Cymraeg
hyderus ac yn normaleiddio’r Gymraeg mewn ysgolion. Nodwyd bod Gwynedd eisoes wedi llwyddo i
normaleiddio’r Gymraeg drwy gynnig addysg Gymraeg i holl blant y Sir, ac wedi
datblygu system addysg drochi lwyddiannus er mwyn sicrhau bod pawb yn gallu ymdoddi
i’r awyrgylch Gymreig hon. Eglurwyd bod dyhead Cyngor Gwynedd yn aml yn uwch na’r gofynion statudol
sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru ac mae hynny’n gosod sail i
awdurdodau eraill i ymroddi i’r iaith. Ymfalchïwyd bod y
Bil hwn yn arwain awdurdodau eraill i gyfeiriad cyffelyb â Gwynedd oherwydd
bydd cynnig addysg Gymraeg i bawb yn gwaredu problemau anghyfartaledd
ieithyddol a diffyg cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg. Awdur: Debbie A W Jones (Pennaeth Cynorthwyol Addysg: Gwasanaethau Corfforaethol) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
CYFRIFON TERFYNOL 2022/23 - ALLDRO REFENIW PDF 240 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas. PENDERFYNIAD 1.1 Nodwyd
sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2022/23. 1.2 Cymeradwywyd symiau i’w cario ‘mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig”
o’r talfyriad yn Atodiad 1), sef:
1.3 Cymeradwywyd
argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn
Atodiad 2): ·
Yn yr Adran Addysg, fod £1,304k o gostau
ychwanegol chwyddiant trydan a chyflogau cymorthyddion
a staff gweinyddol yn yr ysgolion sydd uwchlaw’r
gyllideb yn cael eu cyllido o falansau’r ysgolion
unigol. ·
Yn yr Adran Tai ac Eiddo fod £2,482k o’r Gronfa
Premiwm Treth Cyngor yn cael ei ddefnyddio i gyllido’r pwysau ychwanegol yn y
maes Digartrefedd. ·
Cymorth ariannol o £550k i’r Adran Economi a
Chymuned gan fod sgil effaith Covid wedi amharu ar
lefelau incwm Cwmni Byw’n Iach. ·
Yr adrannau canlynol sydd yn gorwario i dderbyn
cymorth ariannol un-tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ‘mlaen
gan yr Adran i £100k: a.
£3,785k – Oedolion, Iechyd a Llesiant b.
£2,434k – Priffyrdd a Bwrdeistrefol ·
Ar gyllidebau Corfforaethol: a.
Defnyddio (£2,851k) o’r tanwariant net
Corfforaethol i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2022/23. b.
Fod (£3,899k) yn ymwneud â chostau cyfalaf yn
cael ei neilltuo i gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf c.
Gyda gweddill y tanwariant net o (£952k) ar
gyllidebau Corfforaethol yn cael ei drosglwyddo i’r Gronfa Trawsffurfio i
gyllideb blaenoriaethau’r Cyngor. 1.4 Cymeradwyo’r
trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn
dilyn adroddiad o’r cronfeydd, gan gynaeafu (£3,918k) o gronfeydd a’i
ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn
2022/23. TRAFODAETH Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar wariant y
Cyngor yn y flwyddyn ariannol 2022/23 yn ogystal â’r sefyllfa alldro tanwariant
neu orwariant. Cadarnhawyd bod gorwariant gan 7 adran ar
ddiwedd y flwyddyn ariannol 2022/23. Ymhelaethwyd mod nifer o ffactorau wedi
cyfrannu at hyn gan gynnwys prisiau ynni cynyddol, methiannau i wireddu arbedion
a chwyddiant cyflogau. Manylwyd a’r gorwariant amlycaf mewn 5 adran: · Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant – eglurwyd bod £3.9 miliwn o orwariant oherwydd costau
staffio’r adran a’r defnydd o staff asiantaeth. Yn ogystal roedd pwysau ar lety
cefnogol a phecynnau taliadau uniongyrchol yng Ngwasanaethau pobl Hŷn.
Cadarnhawyd bod yr adran wedi profi trafferthion i wireddu arbedion. · Adran Addysg - eglurwyd bod £1.2 o orwariant yn dilyn chwyddiant yng
nghostau staffio cymorthyddion a staff gweinyddol yn
ogystal â phrisiau trydan uwch. Er hyn, cadarnhawyd bod yr adran wedi gallu
defnyddio arian a gynilwyd o gyfnodau clo Covid i
gynorthwyo gyda’r pwysau ariannol. · Adran Economi a Chymuned / Byw’n Iach – Cadarnhawyd bod Byw’n Iach wedi bod yn profi sgil-effeithiau’r pandemig drwy gydol y flwyddyn ariannol 2022/23. Atgoffwyd y bu i’r cwmni dderbyn £1.4 miliwn gan Llywodraeth Cymru yn y flwyddyn 2021/22 ac mae’r Cyngor wedi ymestyn y cyfnod sicrwydd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. Awdur: Ffion Madog Evans (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
RHAGLEN GYFALAF 2022/23 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2023) PDF 252 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Derbynwyd
yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2023) o’r
rhaglen gyfalaf. 2. Nodwyd
gwariant o £37,131,000 ar y rhaglen gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol
2022/23, fydd yn cael ei gynnwys yn y datganiadau ariannol statudol ar gyfer
2022/23. 3. Cymeradwyo’r
ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad, sef: ·
£68,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau ·
£30,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf ·
£701,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw ·
£797,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan
Thomas. PENDERFYNIAD 1.
Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y
flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2023) o’r rhaglen gyfalaf. 2.
Nodwyd gwariant o £37,131,000 ar y rhaglen
gyfalaf yn ystod y flwyddyn ariannol 2022/23, fydd yn cael ei gynnwys yn y
datganiadau ariannol statudol ar gyfer 2022/23. 3.
Cymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn
rhan 4 o’r adroddiad, sef: ·
£68,000 cynnydd mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau ·
£30,000 cynnydd mewn defnydd o dderbyniadau
cyfalaf ·
£701,000 cynnydd mewn defnydd o gyfraniadau
refeniw ·
£797,000 cynnydd mewn defnydd o gronfeydd
adnewyddu ac eraill TRAFODAETH Eglurwyd mai prif ddiben yr adroddiad oedd
cyflwyno rhaglen gyfalaf diwygiedig (sefyllfa 31 Mawrth 2023) a gofynnwyd i’r
Cabinet cymeradwyo ffynonellau ariannu perthnasol. Rhannwyd dadansoddiad fesul
Adran o’r rhaglen gyfalaf £142.2 miliwm am y tair blynedd 2022/23 - 2024/25. Manylwyd ar ffynonellau i ariannu’r cynnydd net
sydd oddeutu £1.6 miliwn ers yr adolygiad diwethaf. Casglwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i wario £37.1
miliwn yn 2022/23 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £17.1 miliwn ohono (46%) wedi ei
ariannu drwy grantiau penodol. Nodwyd bod effaith heriau ariannol diweddar yn
parhau ar y rhaglen gyfalaf a gwelwyd bod £17 miliwn pellach o wariant
arfaethedig, yn ychwanegol i’r £41 miliwn adroddwyd arno mewn adolygiadau
blaenorol wedi’i ail-broffilio o 2022/23 i 2023/24. Eglurwyd fod Rhaglen Gyfalaf
2023/24 wedi cael ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn ym mis Mawrth fel rhan o’r
Gyllideb flynyddol. Mae’r rhaglen yn cynnwys nifer o gynlluniau yn y maes
Tai, yn ogystal â datblygiadau y maes Addysg megis Ysgol Uwchradd Bangor ac Ysgol Treferthyr.
Yn ychwanegol i hynny, mae gwariant cyfalaf wedi llithro o 2022/23 i 2023/24
(fel amlinellir yn Atodiad 3) gan gynnwys: · £11.8 miliwn –
Cynlluniau Strategaeth Tai a Digartrefedd · £9.3 miliwn –
Cynlluniau Ysgolion (Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill) · £5.4 miliwn –
Adnewyddu Cerbydau · £5.2 miliwn –
Cynlluniau Grantiau a Thai · £3.5 miliwn –
Cynllun Hwb Iechyd a Gofal Penygroes. Eglurwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i dderbyn
grantiau ychwanegol ers yr adolygiad diwethaf, gan gynnwys: · £2.2 miliwn – Grant
Cynnal a Chadw Ysgolion 2022/23 · £0.3 miliwn –
Grantiau gan Lywodraeth Cymru a’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol tuag at gynllun
amddiffyn yr arfordir ym Mhorthdinllaen · £0.2 miliwn –
Grantiau Dechrau’n Deg a Gofal Plant gan Lywodraeth Cymru. · £0.2 miliwn – Grant
Cronfa Integreiddio Rhanbarthol. Awdur: Ffion Madog Evans (Pennaeth Cyllid Cynorthwyol) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADOLYGIAD O GYNLLUN GWEITHREDU TAI CYNGOR GWYNEDD PDF 770 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Cymeradwywyd ychwanegiadau cyllidol i brosiectau
unigol o fewn y Cynllun Gweithredu Tai fel y nodir yn y tabl ym mharagraff 6.4
o’r Adroddiad. 2.
Cymeradwywyd addasiad i’r achos busnes
gwreiddiol ar gyfer benthyca er mwyn prynu tai i’w gosod i drigolion lleol, a
gymeradwywyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror, 2021, drwy wneud
defnydd o £5.6m o’r Premiwm Treth Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab
Iago. PENDERFYNIAD 1.
Cymeradwywyd ychwanegiadau cyllidol i brosiectau
unigol o fewn y Cynllun Gweithredu Tai fel y nodir yn y tabl ym mharagraff 6.4
o’r Adroddiad. 2.
Cymeradwywyd addasiad i’r achos busnes
gwreiddiol ar gyfer benthyca er mwyn prynu tai i’w gosod i drigolion lleol, a
gymeradwywyd gan y Cabinet yn ei gyfarfod ar 16 Chwefror, 2021, drwy wneud
defnydd o £5.6m o’r Premiwm Treth Cyngor. TRAFODAETH Adroddwyd i’r aelodau bod argyfwng digartrefedd
yng Nghymru ar hyn o bryd. Manylwyd ar nifer o ffigyrau i amlinellu’r sefyllfa,
gan gynnwys: · Bod 657 o bobl
digartref yng Ngwynedd ar hyn o bryd a dros 7,000 o blant yn byw mewn tlodi. · Bod 3000 o bobl
Gwynedd ar restr aros ar gyfer tai cymdeithasol · Bod pris tai, ar
gyfartaledd, wyth gwaith yn fwy na’r cyflog arferol. Eglurwyd bod y Cyngor yn ymwybodol o’r argyfwng
hwn a rhannwyd fideo i gyflwyno pum agwedd allweddol o’r Cynllun Gweithredu
Tai, sef: 1.
Mynd i’r afael â digartrefedd. 2.
Adeiladu tai newydd. 3.
Prynu tai. 4.
Dod â thai gwag yn ôl i ddefnydd 5.
Sicrhau bod tai Gwynedd yn
ecogyfeillgar. Adroddwyd bod y Cynllun Gweithredu Tai
gwreiddiol yn seiliedig ar ganran premiwm treth cyngor o 50%. Atgoffwyd yr
aelodau bod y premiwm wedi cael ei gynyddu i 100% gan greu oddeutu £20 miliwn o
gyllid ychwanegol ar gyfer cynlluniau tai a digartrefedd, dros hyd y cynllun. Nodwyd bod y Cynllun Gweithredu Tai mewn
bodolaeth ers dwy flynedd ac hyd yma wedi gallu cwblhau bron i 600 o unedau
drwy amrywiol brosiectau, sydd am greu bydd i dros 4000 o bobl Gwynedd.
Ymhelaethwyd bod 313 o unedau ychwanegol i hynny ar y gweill ar hyn o bryd. Eglurwyd bod £34 miliwn o arian wedi ei ddyrannu
i amrywiol brosiectau ar gyfer y flwyddyn ariannol 2023/24. Cadarnhawyd bod 8 tŷ wedi cael ei brynu fel
rhan o gynllun Prynu i Osod, gyda’r potensial i 32 o bobl elwa o’r tai hyn.
Ymhelaethwyd bod nifer o dai eraill yn y broses o gael eu prynu ar hyn o bryd.
Datganwyd hefyd bod 15 cais wedi cael ei gymeradwyo fel rhan o’r cynllun Prynu
Cartref, ers iddo lawnsio ym Medi 2022. Adroddwyd bod y cynllun Tai Gwag wedi llwyddo i
ddychwelyd 104 o dai yn ôl i ddefnydd ar draws Gwynedd ac mae’r adran hefyd
wedi llwyddo i adeiladu 173 o dai cymdeithasol, gydag 88 o dai newydd yn cael
eu hadeiladu ar hyn o bryd. Ymhelaethwyd bod arian wedi cael ei glustnodi er
mwyn adeiladu 113 o dai cymdeithasol pellach o fewn y flwyddyn ariannol hon. Ymfalchïwyd bod yr adran yn helpu i gefnogi 40 o
bobl o fewn y Sir ar hyn o bryd, drwy gydweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol
Betsi Cadwaladr i sefydlu darpariaeth cefnogol i unigolion sydd mewn perygl o
fod yn ddigartref oherwydd materion iechyd meddwl, i barhau yn eu cartref. Esboniwyd bod costau adeiladu, llafur a deunyddiau, wedi cynyddu llawer ers i’r Cynllun Gweithredu Tai gwreiddiol gael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. Awdur: Carys Fôn Williams (Pennaeth Adran Tai ac Eiddo) |
||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
ADDASIADAU I'R CYFANSODDIAD CYNLLUN DIRPRWYO: ADRODDIAD SWYDDOG MONITRO PDF 308 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd yr addasiadau i
Adran 13 (3) o’r Cyfansoddiad Cynllun Dirprwyo Swyddogion a ddangosir yn
Atodiad 1. Cofnod: Cymeradwywyd yr addasiadau i
Adran 13 (3) o’r Cyfansoddiad Cynllun Dirprwyo Swyddogion a ddangosir yn
Atodiad 1. TRAFODAETH Adroddwyd bod dyfodiad cronfeydd grantiau newydd
megis Cronfa Ffyniant Cyffredin (SPF) a chronfa ARFOR wedi amlygu’r angen i
ddiwygio’r hawliau dirprwyedig i bennaeth Adran Economi a Chymuned er mwyn
prosesu ceisiadau yn effeithiol. Nodwyd bod y cronfeydd newydd hyn wedi arwain at
yr angen i brosesu ceisiadau o symiau uwch, yn ogystal a bod mwy o drosiant
ceisiadau i’w delio â nhw. Argymhellwyd i ddiwygio’r Adran hon o’r Cyfansoddiad
ac eglurwyd bod natur rhai o’r cronfeydd yn dibynnu ar drosiant cyflym iawn i
brosesu ceisiadau, ac felly mae’r newidiadau hyn yn angenrheidiol. Awdur: Iwan Evans (Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol - Swyddog Monitro) |