Lleoliad: Hybrid Meeting - Siambr Hywel Dda, Council Offices, Caernarfon, LL55 1SH and on Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd yr Aelodau Cabinet a’r Swyddogion i’r cyfarfod gan
yr Arweinydd. Tynnwyd sylw bod mis Ebrill yn Fis Deall Awtistiaeth y Byd.
Mynegwyd balchder bod gwaith gwych yn cael ei wneud yn y maes hwn o fewn y
Cyngor, fel amlygwyd mewn cyfarfod o’r Pwyllgor Craffu Gofal yn ddiweddar. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Eitem 8: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan Y
Cynghorydd Nia Jeffreys (Arweinydd y Cyngor) oherwydd ei bod wedi gwneud cais i
fod yn riant maeth gyda Maethu Cymru Gwynedd. Nodwyd ei fod yn fuddiant sy’n
rhagfarnu ac fe adawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 11 MAWRTH Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 11 Mawrth
2025 fel rhai cywir. |
|
DARPARIAETH CYNHWYSIAD GWYNEDD Cyflwynwyd gan: Cyng. Dewi Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: 1.
Mabwysiadu yr Opsiwn o greu Uned Gyfeirio
Disgyblion Cofrestredig Portffolio (Aml Safle). 2.
Derbyn y cynllun ariannu a gyflwynwyd yn yr
adroddiad gan ddirprwyo’r amserlen gweithredu a gwireddu y cynllun i’r Pennaeth
Addysg mewn ymgynghoriad â’r Aelod Cabinet Addysg. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Adroddwyd bod sicrhau’r gefnogaeth a’r ddarpariaeth gorau ar
gyfer plant sydd â phroblemau ymddygiadol yn un o flaenoriaethau’r Adran
Addysg. Eglurwyd bod yr Adroddiad yn manylu ar drefniadau
darpariaeth cynhwysiad presennol yng Ngwynedd. Nodwyd bod strategaeth
gynhwysiad uchelgeisiol wedi cael ei gyflwyno ar gyfer ailstrwythuro’r
ddarpariaeth yn 2012 ond ei bod bellach yn amserol i ddiwygio’r ddarpariaeth
unwaith eto er mwyn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer ymateb i anghenion
disgyblion yn effeithiol yn y byd sydd ohoni. Atgoffwyd bod y gwasanaeth Cynhwysiad wedi cael ei sefydlu
er mwyn cyfarch argymhelliad arfarniad allanol yn 2017. Cadarnhawyd bod y
gwasanaeth wedi esblygu yn gyson er mwyn sicrhau ei fod yn cyfarch anghenion
perthnasol a datblygu arfer dda. Cyflwynwyd y bwriad o sefydlu Uned Gyfeirio Disgyblion
Portffolio (aml safle) ar gyfer darparu cefnogaeth i blant sydd â phroblemau
ymddygiad ac ymgysylltu sylweddol. Adroddwyd y dymunir i’r Uned fod yn addas ar
gyfer cefnogi plant o bob oed gydag ystod amrywiol o anghenion, gan y byddai’n
addas ar gyfer unrhyw ddisgybl sydd yn canfod y profiad o fod mewn ysgol prif
lif yn heriol ac anaddas i’w anghenion. Ymhelaethwyd bod cynllun i’r Uned wedi
cael ei ddatblygu er mwyn amlygu strwythur llywodraethiant
gadarn, amcanion a rolau penodol sydd angen eu cyflawni. Tynnwyd sylw bod yr angen am yr Uned hon wedi cael ei amlygu
o fewn gwaith bwrdd prosiect penaethiaid Gwynedd a oedd yn ymchwilio i
ddarpariaethau mewn Awdurdodau Lleol eraill, yn dilyn derbyn adroddiad gan
Estyn yn ddiweddar. Cadarnhawyd bod datblygu’r Uned hwn wedi cael ei wneud mewn
cydweithrediad â phenaethiaid Gwynedd, gan sicrhau bod galw am y ddarpariaeth
benodol hon. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
Awdur: Ffion Edwards Ellis (Pennaeth Cynorthwyol Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynwysiad, Yr Adran Addysg) |
|
CRONFA FFYNIANT GYFFREDIN 2025/26 YNG NGWYNEDD Mae Atodiad 1 ar wahân ar gyfer Aelodau’r Cabinet n unig. Mae’r Atodiad yn eithriedig o dan Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae cynnwys yr eitem yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol a
masnachol sensitif am nifer o brosiectau. Mae hyn yn berthnasol i nifer o
sefydliadau. Cyflwynwyd gan: Cyng. Medwyn Hughes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1. Cytuno
i barhad trefn llywodraethu ranbarthol Cronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) y Deyrnas Gyfunol ar gyfer y flwyddyn bontio
2025/26 gan awdurdodi’r Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r
Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr - i
gadarnhau’r trefniadau 2. Cytuno
i barhau trefniadau llywodraethu lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas
Gyfunol yng Ngwynedd ar gyfer y flwyddyn bontio 2025/26. 3. Cytuno
bod pob cynllun yng Ngwynedd yn derbyn arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin
wireddu dwy egwyddor, sef: a. Bod
ymdrech fwriadol i sicrhau fod arian SPF a’r budd yn deillio ohono yn elwa
cymunedau a thrigolion ym mhob rhan o Wynedd. b. Bod
ymdrech fwriadol i annog gweithgareddau (a sefydliadau) nad ydynt wedi derbyn
arian yn flaenorol gael mynediad i gymorth) 4. Cytuno
i esblygu ac addasu gweithgareddau o ymhlith prosiectau presennol a’u hymestyn
ar gyfer y flwyddyn drosiannol, yn unol ag egwyddor Llywodraeth y Deyrnas
Gyfunol bod cyllid 2025/26 y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn estyniad o’r cyfnod
2022/24 i 2024/25 sy’n pontio i drefn ariannu newydd. 5. Gofyn
i’r Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin rhoi ystyriaeth fanwl i’r cynlluniau unigol
sydd dan ystyriaeth ar gyfer dyraniad Gwynedd o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin,
gan gyflwyno argymhelliad yn ôl i’r Cabinet ar y dyraniadau unigol. 6. O
fewn y gyllideb £7,900,000, cytunwyd i barhad pedair cronfa (gyda chyfanswm
cyllideb cychwynnol oddeutu £2.29 miliwn) i ddosbarthu symiau llai o arian
Cronfa Ffyniant Gyffredin i fentrau a chymunedau’r sir gan awdurdodi parhad
tair cronfa dan reolaeth Cyngor Gwynedd. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. R. Medwyn Hughes PENDERFYNIAD 1. Cytuno
i barhad trefn llywodraethu ranbarthol Cronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) y Deyrnas Gyfunol ar gyfer y flwyddyn bontio
2025/26 gan awdurdodi’r Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r
Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr - i
gadarnhau’r trefniadau 2. Cytuno
i barhau trefniadau llywodraethu lleol Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas
Gyfunol yng Ngwynedd ar gyfer y flwyddyn bontio 2025/26. 3. Cytuno
bod pob cynllun yng Ngwynedd yn derbyn arian o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin
wireddu dwy egwyddor, sef: a. Bod
ymdrech fwriadol i sicrhau fod arian SPF a’r budd yn deillio ohono yn elwa
cymunedau a thrigolion ym mhob rhan o Wynedd. b. Bod
ymdrech fwriadol i annog gweithgareddau (a sefydliadau) nad ydynt wedi derbyn
arian yn flaenorol gael mynediad i gymorth) 4. Cytuno
i esblygu ac addasu gweithgareddau o ymhlith prosiectau presennol a’u hymestyn
ar gyfer y flwyddyn drosiannol, yn unol ag egwyddor Llywodraeth y Deyrnas
Gyfunol bod cyllid 2025/26 y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn estyniad o’r cyfnod
2022/24 i 2024/25 sy’n pontio i drefn ariannu newydd. 5. Gofyn
i’r Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin rhoi ystyriaeth fanwl i’r cynlluniau unigol
sydd dan ystyriaeth ar gyfer dyraniad Gwynedd o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin,
gan gyflwyno argymhelliad yn ôl i’r Cabinet ar y dyraniadau unigol. 6. O
fewn y gyllideb £7,900,000, cytunwyd i barhad pedair cronfa (gyda chyfanswm
cyllideb cychwynnol oddeutu £2.29 miliwn) i ddosbarthu symiau llai o arian
Cronfa Ffyniant Gyffredin i fentrau a chymunedau’r sir gan awdurdodi parhad
tair cronfa dan reolaeth Cyngor Gwynedd. TRAFODAETH Atgoffwyd bod Cronfa
Ffyniant Gyffredin (SPF) yn arian a ddarperir gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol
ers 2022, i hyrwyddo cynlluniau er lles yr economi a chymunedau. Ymhelaethwyd
mai Cyngor Gwynedd yw’r Awdurdod Arweiniol ar gyfer Gogledd Cymru ac yn arwain
ar nifer o brosiectau. Adroddwyd bod £23.6 miliwn wedi cael ei ddyrannu ar
gyfer ariannu 40 o gynlluniau o dan gyllideb y Gronfa hon yng Ngwynedd. Eglurwyd bod diwedd Mawrth 2025 yn dynodi pryd roedd y
Gronfa hon yn dod i ben wrth i Lywodraeth y DG lunio’r cynllun cychwynnol. Fodd
bynnag, cyhoeddodd y Llywodraeth ym mis Hydref 2024, eu bwriad i ymestyn y
Gronfa am flwyddyn bontio (2025/26) er mwyn caniatáu amser i ddiwygio’r drefn
ariannu o Ebrill 2026. Nodwyd bod yr arian a ddarparwyd o fewn y Gronfa yn llai
na’r blynyddoedd diwethaf gyda phwysau ar Awdurdodau Lleol i sicrhau ei fod
wedi cael ei wario erbyn diwedd y flwyddyn ariannol gyfredol. Cadarnhawyd bod gwaith o
werthuso y prosiectau sydd wedi cael eu hariannu hyd yma ar y gweill ar hyn o
bryd, gan bod gyllideb y Gronfa yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn ariannol
gyfredol. Tynnwyd sylw bod yr amserlen i ddefnyddio’r arian a ddarparwyd o’r Gronfa yn dynn iawn ac mae’r Adran yn datblygu cynlluniau er mwyn ymdrechu i sicrhau bod cynlluniau yn cael eu gwireddu yn amserol. Pwysleisiwyd bod pob ymdrech yn cael ei wneud er mwyn sicrhau bod y defnydd gorau o’r arian yn cael ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Dylan Griffiths (Rheolwr Gwasanaeth Datblygu'r Economi, Adran Economi a Chymuned) |
|
CYNNIG MAETHU I OFALWYR MAETHU CYMRU GWYNEDD Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Caniatáu gostyngiad o 50% (25% i Ofalwyr Maeth egwyl
fer) ym miliau Treth Cyngor prif breswylfa gofalwyr maeth sy’n gofrestredig i’r
Cyngor, cyn ystyried unrhyw ddisgowntiau, eithriadau a/neu Ostyngiad Treth
Cyngor y maent eisoes yn deilwng iddynt. 2.
Cynnid tocyn parcio blynyddol am ddim. 3.
Defnydd diderfyn o ganolfannau hamdden. 4.
Mabwysiadu polisi Maethu Cyfeillgar i ofalwyr
maeth Maethu Cymru Gwynedd sy’n gyflogedig i’r Cyngor. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Adroddwyd bod y gefnogaeth a ddarperir gan rieni maeth yn
allweddol i’r Cyngor gan eu bod hefyd yn lleddfu baich ar wasanaethau eraill.
Gobeithiwyd bydd cynnig y buddiannau a drafodwyd o fewn yr Adroddiad yn denu
gofalwyr maeth newydd yn ogystal â rhoi cefnogaeth a dangos gwerthfawrogiad i
rieni maeth presennol y Cyngor. Datganwyd bod 190 o blant wedi eu lleoli mewn darpariaeth
gofal maeth ar hyn o bryd yng Ngwynedd. Eglurwyd bod 30 o’r plant hynny mewn
lleoliad maethu a ddarperir gan y sector annibynnol ac mae’r holl blant eraill
yn derbyn gofal gan ofalwyr maeth Maethu Cymru Gwynedd. Eglurwyd y golyga hyn
bod 85% o blant sydd yn derbyn gofal maeth yn derbyn y gefnogaeth hynny drwy
ofalwyr maeth Maethu Cymru Gwynedd. Nodwyd bod rhai o’r buddion a gynigiwyd
i ofalwyr maeth o fewn y pecyn cefnogaeth a gyflwynwyd yn yr adroddiad, yn
arwain at oblygiadau ariannol i’r Cyngor. Fodd bynnag, ystyriwyd bod y
goblygiadau hyn yn sylweddol llai na chostau lleoliadau maethu’r sector
annibynnol, a all fod yn gost o hyd at £989 yr wythnos, ar gyfer un plentyn.
Amlygwyd yr angen i ddarparu pecyn cefnogaeth gystadleuol i ddenu gofalwyr
maeth o’r newydd, oherwydd y buddion a gynigir drwy’r sector annibynnol. Cadarnhad bod y Cynnig Maethu arfaethedig ar gyfer gofalwyr
maeth Maethu Cymru Gwynedd yn cynnwys: ·
Gostyngiad Treth Cyngor ·
Tocyn Parcio Blynyddol ·
Defnydd diderfyn o ganolfannau hamdden ·
Polisi Cefnogaeth i Faethu Tynnwyd sylw bod ymchwil a wnaed gan Gymdeithas Cyfarwyddwyr
Gwasanaethau Cymdeithasol ym mis Ionawr 2022 yn amlygu bod plant sy’n byw gyda
Gofalwyr Maeth yn eu hardal eu hunain yn fwy tebygol o ffynnu yn ogystal â
chynnal cysylltiadau pwysig. Pwysleisiwyd ei bod yn allweddol bod awdurdodau
lleol yn gwneud pob ymdrech i sicrhau lleoliadau maethu lleol i blant, gan
gadarnhau bod rhieni maeth yn rhan allweddol o’r ddarpariaeth hynny. Cydnabuwyd ei fod yn her i ddenu unigolion i fod yn ofalwyr
maeth gan ymhelaethu nad oes digon o ofalwyr maeth yng Ngwynedd i gyd-fynd â’r
galw am gefnogaeth, fel y cadarnhawyd oddi fewn Strategaeth Comisiynu
Lleoliadau Gwynedd (diweddariad 2024). Nodwyd bod ffigyrau Rhwydwaith Maethu yn
amcanu bod angen denu 550 yn fwy o aelwydydd gofal maeth yn flynyddol yng
Nghymru er mwyn cyfarch y galw am gefnogaeth. Eglurwyd y bwriedir cynnig y buddion a gyflwynwyd yn y pecyn
cefnogaeth o 1 Ebrill 2025, gan sicrhau y bydd anfonebau Treth Cyngor
diwygiedig yn cael eu hanfon i’r unigolion perthnasol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
Awdur: Aled Gibbard (Pennaeth Cynorthwyol Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd) |
|
SIARTER RHIANTA CORFFORAETHOL Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cymeradwyo mabwysiadu’r Siarter Rhianta Corfforaethol a
gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme PENDERFYNIAD Cymeradwyo mabwysiadu’r Siarter Rhianta
Corfforaethol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. TRAFODAETH Eglurwyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno ‘Siarter Rhianta Corfforaethol – Addewid Cymru’ ym mis Medi 2023.
Ychwanegwyd bod gofyn i awdurdodau lleol fabwysiadu’r Siarter er mwyn dangos
ymrwymiad i hyrwyddo hawliau a chyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc sydd â
phrofiad o fod mewn gofal. Tynnwyd bod y Siarter yn cynnwys egwyddorion ac addewidion
sy’n cyd-fynd â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, gan
nodi’r angen i lynnu atynt wrth ddarparu gwasanaethau
i blant a phobl ifanc sydd yn, neu wedi, derbyn gofal yr Awdurdod. Cadarnhawyd mai’r egwyddorion a gyflwynwyd yn y Siarter yw:
Ymhelaethwyd bod 9 addewid wedi cael eu cyflwyno o fewn y
Siarter, er mwyn sicrhau bod yr egwyddorion hyn yn cael eu cyflawni. Nodwyd byddai mabwysiadu’r Siarter yn cryfhau trefniadau’r
Cyngor gan fynegi balchder bod blaenoriaethau Siarter Rhianta
Corfforaethol y Cyngor yn cydblethu’n dda gyda’r egwyddorion ac addewidion hyn. Adroddwyd bydd gweithrediad y Siarter yn cael ei archwilio
gan Banel Rhiantu Corfforaethol y Cyngor. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
Awdur: Aled Gibbard (Pennaeth Cynorthwyol Adnoddau, Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd) |
|
ADRODDIAD PERFFORMAD YR AELOD CABINET DROS ECONOMI A CHYMUNED Cyflwynwyd gan: Cyng. Medwyn Hughes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. R. Medwyn Hughes PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Adroddwyd bod yr Adran wedi llwyddo i wireddu cynnydd mewn
nifer fawr o brosiectau blaenoriaeth Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 y mae’r
Adran yn gyfrifol amdanynt sef:
Amlygwyd rhai o brif risgiau’r Adran, gan fanylu ar
ansicrwydd am ddyfodol cyllidebau Rhaglen ARFOR, Cronfa Ffyniant Bro ac SPF.
Nodwyd gall hyn gael effaith ar allu’r Adran i wireddu’r pedwar prosiect
blaenoriaeth yma yn amserol. Tynnwyd sylw penodol at raglen ARFOR gan bod gwerthusiad o’r
rhaglen yn dangos buddion clir i fusnesau a chymunedau, ei fod yn hyrwyddo’r
defnydd a gwelededd y Gymraeg ac yn amlygu cyfleoedd gwaith i bobl ifanc o fewn
y rhanbarth. Mynegwyd siomedigaeth bod dyfodol y rhaglen yn parhau i fod yn
ansicr, gan nad oes ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru i’w ariannu yn 2025/26. Diweddarwyd bod cytundeb i adeiladu 10 uned busnes ar waith
ym Minffordd, gyda bwriad o gychwyn ar y broses adeiladu yn ail chwarter 2025. Mynegwyd pryder bod niferoedd disgyblion Gwynedd sydd yn
cael gwersi nofio yng nghanolfannau Byw’n Iach yn parhau i ostwng. Atgoffwyd
bod 85% o blant Cyfnod Allweddol 2 yn derbyn gwersi nofio yno cyn y Pandemig,
gan nodi bod y ffigwr hwn wedi gostwng i 54% erbyn diwedd Haf 2024. Datganwyd
pryder mai’r ysgolion gyda’r lefelau uchaf o ddifreintedd yn y Sir sydd gyda’r
lefelau isaf o sgiliau nofio. Cadarnhawyd bod y pryder hwn wedi cael ei rannu
gyda’r ysgolion, yn dilyn trafodaethau gyda’r Aelod Cabinet Addysg. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
Awdur: Sioned E. Williams (Pennaeth Adran Economi a Chymuned) |
|
ADRODDIAD PERFFORMAD YR AELOD CABINET DROS TAI AC EIDDO Cyflwynwyd gan: Cyng. Paul Rowlinson Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Paul Rowlinson PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. TRAFODAETH Darparwyd diweddariad ar brosiectau Cynllun y Cyngor y mae’r
Adran yn gyfrifol amdanynt. Mynegwyd balchder bod cynnydd sylweddol i’r
prosiectau hyn, gyda mesurau herio perfformiad boddhaol, ers adrodd i’r Cabinet
yn flaenorol. Nodwyd pryder am lwyth gwaith y Tîm Digartrefedd gan egluro
bod oddeutu 1000 o aelwydydd yn cofrestru eu hunain yn ddigartref pob blwyddyn.
Pwysleisiwyd bod gan y Cyngor gynlluniau ar waith er mwyn ymdrechu i fynd i’r
afael â’r sefyllfa heriol hon, gan gynnwys tair datblygiad newydd sydd ar gael
i bobl sydd yn cyflwyno’n ddigartref. Mynegwyd balchder bod y data diweddaraf yn nodi bod llai o
ddibyniaeth ar lety annibynnol argyfwng brys (megis cwmnïau gwely a brecwast) o
fewn y flwyddyn 2024/25. Gobeithir bydd y ffigyrau hyn yn parhau i ostwng i’r
dyfodol wrth i adeilad Mona, Caernarfon ac 137 Stryd Fawr Bangor gael eu
datblygu. Tynnwyd bod galw mawr am dai yng Ngwynedd ac nid oes digon o
dai i ymdopi gyda’r gofyn. Fodd bynnag, nodwyd bod yr Adran yn ymdrechu i
gyfarch yr anghenion a godir o fewn y Cynllun Gweithredu Tai. Manylwyd ar
brosiectau cefnogi Adeiladu Tai Cymdeithasol, Tŷ Gwynedd, Prynu i Osod a
chynlluniau Cartrefi Gwag. Rhannwyd enghraifft drwy fanylu ar ddatblygiad
Tŷ Gwynedd Maes Twnti, Morfa Nefyn sydd wedi
derbyn caniatâd cynllunio ar gyfer codi 9 o gartrefi. Ymhelaethwyd bod y gwaith
benodi contractwr i ymgymryd â’r gwaith eisoes ar y gweill gan obeithio bydd
tendr yn cael ei gyhoeddi yn fuan. Mynegwyd balchder bod y Cyngor wedi llwyddo i dderbyn grant
gwerth £13miliwn ar gyfer rhaglen Adeiladu Tai Cymdeithasol yn ddiweddar, gan
ymfalchïo bod gwaith y Cyngor yn sicrhau bod modd denu grantiau o’r math yma.
Fodd bynnag, mae gwrthwynebiadau i geisiadau cynllunio yn peri risg i
weithrediad y rhaglen. Datganwyd bod 97% o dai cymdeithasol yn cael eu gosod i bobl
sydd gyda cysylltiad i Wynedd, gyda canran uchel yn cael eu gosod i bobl gyda
cysylltiad i’r gymuned ble mae’r tai wedi eu lleoli. Diweddarwyd bod dau ddatblygiad Tŷ Gwynedd ar waith ym
Mangor a Llandygai, gan rannu gobeithion bydd mwy o brosiectau’r cynllun yn
cael eu datblygu mewn ardaloedd eraill o’r Sir yn y dyfodol. Adroddwyd bod ymdrin â’r argyfwng costau ynni a thlodi
tanwydd yn un o brif flaenoriaethau’r Adran. Ymhelaethwyd bod y Gwasanaeth Ynni
wedi ei sefydlu o fewn y Cynllun Gweithredu Tai er mwyn cydweithio gyda
partneriaid i hyrwyddo a hwyluso cynlluniau arbed ynni, grantiau a
budd-daliadau yn ogystal â sicrhau bod cymaint o bobl â phosib yn manteisio ar
y cymorth sydd ar gael. Cadarnhawyd bod y Gwasanaeth yn brysur iawn, gyda 661 o
bobl yn derbyn cyngor dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu mewn digwyddiadau, yn ystod
mis Tachwedd a Rhagfyr 2024. Cadarnhawyd bod materion herio perfformiad yn derbyn
ystyriaeth gyson. Datganwyd bod adolygiadau diweddaraf yr Adran yn rhagweld bydd £303,000 o danwariant yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Ymhelaethwyd bod yr Adran yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11. Awdur: Carys Fon Williams (Pennaeth Adran Tai ac Eiddo) |
|
CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD Bydd y Cadeirydd yn cynnig
y dylid cau allan y wasg a’r
cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod
y drafodath ar yr eitemau canlynol gan ei
bd yn debygol y datgelir Gwybodaeth eithreidig fel y’i diffyinnir
ym Mharagraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth
y gallai honiad ynghylch braint broffesiynol gyfreithiol gael ei gynnal
yn ei chylch
mew nachos cyfreithiol. Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglyn a materion sydd o ddiddordeb cyhoeddus megis y Cyfarwyddyd Erthygl 4. Fodd bynnag mae
braint gyfretihiol yn cynrychioli hawl sylfaenol sydd a budd cyhoeddus
cryf o’i amgylch. Wrth wynebu her gyfreithiol i benderfyniad
mae’n ofynnol i’r Cabinet gael myneidad at gyngor cyfreithiol di lyffethair ac agored ar gynnal ac
ymateb i achos yn yr un modd a unrhwy barti
arall. Ni ellir sicrhau hyn o fewn
fforwm gyhoeddus. Byddai hyn yn
groes i’r budd cyhoeddus sydd yn ynghlwm
a sicrhau y canlyniad gorau i’r Cyngor. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn
ystod y drafodaeth ar Eitem 12 gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth
eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 16 o Atodiad 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth y gallai honiad ynghylch braint broffesiynol
gyfreithiol gael ei gynnal yn ei chylch mewn achos cyfreithiol. Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored
ynglŷn â materion sydd o ddiddordeb cyhoeddus megis y Cyfarwyddyd Erthygl
4. Fodd bynnag mae braint gyfreithiol yn cynrychioli hawl sylfaenol sydd â budd
cyhoeddus cryf o’i amgylch. Wrth wynebu her gyfreithiol i benderfyniad mae’n
ofynnol i’r Cabinet gael mynediad at gyngor cyfreithiol dilyffethair ac agored
ar gynnal ac ymateb i achos yn yr un modd ac unrhyw barti arall. Ni ellir
sicrhau hyn o fewn fforwm cyhoeddus. Byddai hyn yn groes i'r budd cyhoeddus sydd
ynghlwm a sicrhau'r canlyniad gorau i’r Cyngor. |
|
DIWEDDARIAD YN DILYN DYFARNIAD YR UCHEL LYS MEWN PERTHYNAS Â CHADARNHAU'R CYFARWYDDYD ERTHYGL 4 Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Nodi penderfyniad caniatâd yr Uchel Lys
ynglŷn â’r Cyfarwyddyd Erthygl 4 ynglŷn â’r wybodaeth bellach a
ddarperir. 2.
Gan ystyried cynnwys yr adroddiad a’r atodiadau
cadarnhau cefnogaeth i Opsiwn 3 i barhau i amddiffyn yr achos. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago. PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Trafodwyd yr adroddiad Awdur: Gareth Jones (Pennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd) |