Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Craig ab Iago. Croesawyd yr Aelodau
Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd datganiad o fuddiant
personol ar gyfer Eitem 8 gan y Pennaeth Cyllid am fod ei wraig yn brif
lyfrgellydd mewn awdurdod lleol arall. Nid oedd y buddiant hwn yn un oedd yn
rhagfarnu felly ni adawodd y cyfarfod. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Nid oedd unrhyw
fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 14 CHWEFROR Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd
cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 14 Chwefror 2023 fel rhai cywir. |
|
CYNLLUN FFORDD GWYNEDD 2023-28 Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd mabwysiadu’r Cynllun am y pum mlynedd nesaf
(Atodiad 1) sydd yn adeiladu ar ddatblygiad y diwylliant gwaith o fewn y
Cyngor. COFNODION: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.
PENDERFYNIAD Cymeradwywyd mabwysiadu’r Cynllun
am y pum mlynedd nesaf (Atodiad 1) sydd yn adeiladu ar ddatblygiad y diwylliant
gwaith o fewn y Cyngor. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan egluro mai “Ffordd Gwynedd” yw cyfeiriad at y ffordd o weithio
sydd wedi ei fabwysiadu oddi fewn i’r Cyngor er mwyn rhoi pobl Gwynedd yn
ganolog i bopeth. Nodwyd ei fod yn weithredol bellach ers 2015 pan mabwysiadwyd
y Cynllun yn wreiddiol a bod y Prif Weithredwr blaenorol wedi bod yn bencampwr
Ffordd Gwynedd. Ychwanegwyd bod y Prif Weithredwr presennol hefyd yn dymuno
datblygu Ffordd Gwynedd ymhellach. Nodwyd ei bod yn daith i geisio gwireddu’r diwylliant hwn a cydnabuwyd
bod y cyfnod Cofid wedi arafu’r cynnydd a wnaed. Diolchwyd i’r Prif Weithredwr
a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol, Geraint Owen, am eu harweiniad a’u brwdfrydedd. Eglurodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod yr adolygiad diweddaraf o
Gynllun Ffordd Gwynedd wedi ei gynnal yn 2019 ble cymeradwywyd y Cynllun
presennol. Credwyd ei bod yn amserol i ddiweddaru, addasu a gwella’r Cynllun. Adroddwyd bod
Adrannau’r Cyngor wedi cynnal hunanasesiad o’u cynnydd fel sail i’r adolygiad
diweddaraf a bod yr hunanasesiadau yma wedi cael eu herio gan weithgor o
aelodau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Nodwyd bod y casgliadau a’r
argymhellion wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi ym mis
Hydref 2022. I gloi, cyflwynwyd
Cynllun arfaethedig ar gyfer y pum mlynedd nesaf sydd yn crynhoi'r hyn sydd
wedi ei gyflawni hyd yma ac yn adnabod y prif faterion ar gyfer y cyfnod
2023-28. Mynegwyd bod 9 is-ffrwd gwaith wedi eu cyflwyno yn y Cynllun sydd i’w
gweld yn atodiad 1 o’r Adroddiad. Cyfleodd y Prif
Weithredwr ei ddiolchiadau i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am arwain ar y gwaith
yma yn ogystal â’r gweithgor. Ychwanegwyd bod y Cynllun yn adlewyrchu ar wersi
a rhwystrau’r gorffennol gan barhau efo’r egwyddor sylfaenol o geisio dod o hyd
i ffyrdd gwell o ddarparu'r hyn mae pobl Gwynedd ei angen. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth ¾ Gofynnwyd sut
mae’r Cynllun hwn yn cyd-fynd â chydraddoldeb ac yn sicrhau tegwch i bobl
Gwynedd sydd yn ganolog i ddiwylliant y Cyngor. ¾ Mewn ymateb nodwyd bod popeth sydd wedi ei gynnwys yng Nghynllun Ffordd
Gwynedd wedi ei ystyried yng nghyd-destun cydraddoldeb. Nodwyd mai un o
flaenoriaethau gwella penodol y Cyngor yw Merched Mewn Arweinyddiaeth sydd yn
rhan bwysig o’r Cynllun hwn. Nodwyd bod cydraddoldeb ac Iaith yn prif ffrydio
trwy holl weithgaredd y Cynllun ac yn rhan o ddiwylliant y Cyngor sydd wedi
datblygu dros nifer o flynyddoedd. Mynegwyd balchder o allu cefnogi a hyrwyddo
hyn. ¾ Mynegodd un o’r Aelodau Cabinet ei fod wedi bod yn rhan o weithgor nifer o
flynyddoedd yn ôl oedd yn edrych ar Ffordd Gwynedd a'i fod yn credu’n gryf yn y
ffordd yma o weithio. Ategwyd bod angen edrych ar bopeth drwy lygaid pobl
Gwynedd. ¾ Croesawyd edrych
ar brosesau byr a gwneud gwelliannau iddynt. ¾ Holwyd am weithio’n drawsadrannol neu gyda phartneriaid allanol gan wneud sylw y gall hyn fod yn drwsgl o ... view the full COFNODION text for item 6. Awdur: Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol |
|
PROSIECT ADDYSG ÔL-16 ARFON Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatawyd i waith pellach gyda rhanddeiliaid sy’n ffurfio
Consortiwm Addysg ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn gael ei wneud er mwyn datblygu
modelau posib ar gyfer addysg ôl-16 yn Arfon sy’n deillio o’r ymgysylltu
anffurfiol a gynhaliwyd ar addysg ôl-16 yn Arfon yn nhymor yr Hydref 2020. COFNODION: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown PENDERFYNIAD Caniatawyd i waith pellach gyda
rhanddeiliaid sy’n ffurfio Consortiwm Addysg ôl-16 Gwynedd ac Ynys Môn gael ei
wneud er mwyn datblygu modelau posib ar gyfer addysg ôl-16 yn Arfon sy’n
deillio o’r ymgysylltu anffurfiol a gynhaliwyd ar addysg ôl-16 yn Arfon yn
nhymor yr Hydref 2020. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad oedd yn gofyn am ganiatâd y Cabinet i wneud gwaith
pellach gyda rhanddeiliaid sy’n ffurfio Consortiwm Addysg ôl-16 Gwynedd ac Ynys
Môn er mwyn datblygu modelau posib ar gyfer addysg ôl-16 yn Arfon. Gofynnwyd i ail afael yn y trafodaethau a gynhaliwyd yn nhymor yr Hydref,
2020 a’u cwmpasu i themâu. Nodwyd y byddai profiadau’r pandemig yn debygol o
lywio rhai ymgynghoriadau a bellach bod ystyriaethau newydd i’w cysidro o
ystyried bod cyfnod wedi bod ers y trafodaethau gwreiddiol. Cynigiwyd i ail
afael yn y gwaith er mwyn dod i gasgliad i fedru cynnig yr addysg a’r profiadau
gorau i bobl ifanc y Sir. Ychwanegodd bod y mater hwn wedi bod dan ystyriaeth ers tro. Adroddwyd bod
ymgynghori da wedi digwydd efo’r Ysgolion cyn y pandemig ond bod cyfnod y
pandemig wedi newid pethau e.e. drwy ddarganfod ffyrdd gwahanol o addysgu.
Credwyd ei bod yn amserol ail afael yn y trafodaethau a rhoi cyfeiriad i
Ysgolion y Sir. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Cyfeiriwyd at y sylwadau a dderbyniwyd o’r ymgynghori oedd yn nodi bod
teithio’n bell yn cael effaith negyddol ar addysg dysgwyr ôl-16 yn ogystal â’r
amgylchedd. Gofynnwyd a yw pethau wedi newid ers y cyfnod Cofid ac os yw pob
opsiwn yn parhau i gael eu hystyried. ¾ Mewn ymateb nodwyd
bod y darlun wedi newid ers y pandemig e.e. bod y dysgu o bell a ddigwyddodd yn
ystod y cyfnod hwn wedi ehangu ar bosibiliadau. Cadarnhawyd y bydd pob opsiwn
yn cael ystyriaeth ond tybiwyd mai rhywbeth yn y canol o ran cryfhau’r
gyfundrefn fyddai pobl yn dymuno ei weld. ¾ Mynegwyd bod y Cabinet wedi unioni un peth trwy ddiddymu’r tocyn teithio
ôl-16. Bellach credwyd bod y dewis wedi ei ehangu i’r plant a’r bobl ifanc drwy
eu galluogi i roi ystyriaeth i ddarpariaethau sydd fwy priodol i’w hanghenion
yn hytrach na’u cyfyngu i leoliad penodol. ¾ Gofynnwyd a oedd cynlluniau i edrych ar y ddarpariaeth Addysg ôl-16 yn Nwyfor a Meirionnydd. Adroddwyd nad oes darpariaeth
chweched dosbarth yn bodoli yn y rhannau hyn o’r Sir a bod llawer o ganlyniad
yn teithio o Ddwyfor i ardal Arfon. Credwyd bod angen
edrych ar y ddarpariaeth ar draws y Sir. ¾ Mewn ymateb nodwyd
mai’r cam cyntaf yw edrych ar ardal Arfon gan mai yno mae’r chweched dosbarth
yn bodoli. Adroddwyd bod bwriad yn y dyfodol i edrych yn ehangach ar draws y
Sir er mwyn cyrraedd y nod o unioni’r gyfundrefn ar draws Gwynedd. ¾ Croesawyd ail edrych ar y ddarpariaeth a credwyd bod edrych ar y syniadau i gyd yn berthnasol. Holwyd os bydd ystyriaethau i ddemograffeg gan fod llai o gyllid i’r Ysgolion cynradd. ... view the full COFNODION text for item 7. Awdur: Garem Jackson, Pennaeth Addysg |
|
CYNGOR GWYNEDD YN AWDURDOD ARWEINIOL AR GYFER LMS CYMRU (SYSTEM RHEOLI LLYFRGELL) Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatawyd i Gyngor
Gwynedd weithredu fel yr Awdurdod Arweiniol ar gyfer LMS Cymru sy’n golygu: ·
Bod Uned Caffael
Cyngor Gwynedd yn ymgymryd â’r broses gaffael ar gyfer LMS newydd sy’n golygu
caffael system ar fframwaith nid yn unig i Gonsortiwm Llyfrgelloedd gogledd
Cymru ond i Awdurdodau Llyfrgell Cymru sy’n awyddus i fod yn aelodau o
Gonsortiwm LMS Cymru am gyfnod y cytundeb a fydd yn para am 7 mlynedd o
2023/2024. ·
Bod y trefniant
LMS Cymru yn seiliedig ar Gytundeb Consortiwm a fydd yn ymrwymo pob aelod i
dalu eu cyfran lawn o’r costau, ac unrhyw gostau potensial megis costau
diswyddo, am hyd y cytundeb consortiwm newydd. ·
Fel rhan o’r
Cytundeb Consortiwm, i gyflogi Uned Cefnogaeth LMS wedi ei staffio gan 3
swyddog llawn amser (lleoliad niwtral) am hyd y cytundeb. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia
Jeffreys PENDERFYNIAD Caniatawyd i Gyngor Gwynedd weithredu fel yr
Awdurdod Arweiniol ar gyfer LMS Cymru sy’n golygu:
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan ategu bod y Cyngor yn gofyn i gael gweithredu mewn rôl arweiniol
unwaith eto ond y tro hwn ar draws Gymru. Mynegwyd balchder yng ngwaith y
Pennaeth Economi a Chymuned a’r Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd a’u bod yn
barod i arwain ar y gwaith LMS Cymru. Nododd y Pennaeth
Economi a Chymuned bod cydweithio agos wedi bod yn digwydd efo Llyfrgelloedd ar
draws Gogledd Cymru yn ogystal â gwaith o gynllunio system newydd. Cadarnhawyd
y byddai yn fwy effeithiol i bob un Sir weithio oddi ar un system. Ategwyd bod yr Adran
yn gofyn am yr hawl i roi eu hunain ymlaen yn ffurfiol i fod yn gorff arweiniol
ar gyfer LMS Cymru ac o ganlyniad yn gofyn am drefn ffurfiol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Mynegwyd ei bod yn braf
gweld Cyngor Gwynedd yn arwain unwaith eto gan gadarnhau y bydd y system newydd
yn cael ei gweithredu ar draws Cymru gyfan. ¾
Tybiwyd o ran adnoddau bod
gweddill yr Awdurdodau Lleol ar draws Cymru yn cyfrannu. ¾
Cadarnhawyd bod hyn yn
gywir; er na fydd yn golygu arian ychwanegol i Gyngor Gwynedd ni fydd costau
ychwanegol i’r Cyngor ychwaith. Ychwanegwyd y bydd y drefn newydd yn fwy
effeithiol yn y pen draw i Awdurdodau Lleol. ¾
Diolchwyd am yr adroddiad
gan nodi ei bod yn dda i weld Cyngor Gwynedd yn flaengar ar draws Cymru. ¾
Anfonwyd dymuniadau gorau’r
Cabinet tuag at y Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd. Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned a Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd |
|
LLYFRGELLOEDD LLAWN BYWYD - CYNLLUN LLYFRGELLOEDD GWYNEDD 2023-2028 Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Cynllun Gwasanaeth Llyfrgell Gwynedd –
Llyfrgelloedd Llawn Bywyd 2023-2028. COFNODION: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD Cymeradwywyd Cynllun Gwasanaeth Llyfrgell
Gwynedd – Llyfrgelloedd Llawn Bywyd 2023-2028. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn
bleser ei gyflwyno ac argymhellwyd i bawb ddarllen y strategaeth glir sydd yn
dangos gwaith a rolau'r Llyfrgelloedd. Ategwyd bod y Llyfrgelloedd yn chwarae
rhan bwysig ym mywydau plant y Sir ac adlewyrchwyd ar y ddarpariaeth i blant.
Ychwanegwyd, yn dilyn ymweliad diweddar i Lyfrgell Porthmadog, bod
darpariaethau ehangach yn bodoli oddi fewn i’r Llyfrgelloedd fel gemau a
darpariaethau Technolegol a’i bod yn braf gweld y Cynllun yn ei wirionedd. Cyfeiriwyd at yr ystadegau yn y Cynllun
Llyfrgell 2023-28 gan adrodd bod bron i 30,000 o bobl yn aelodau o Lyfrgelloedd
Gwynedd. Dosbarthwyd dros 1,500 o becynnau nwyddau mislif ail-ddefnyddiadwy am ddim drwy’r llyfrgelloedd; credwyd bod hyn
yn dangos y gwahaniaeth o ran llesiant i fywydau pobl Gwynedd sy’n cael ei
gyflawni gan y Llyfrgelloedd. Adroddwyd ar y sylwadau gafodd eu derbyn
gan ddefnyddwyr gwasanaeth sydd wedi eu cynnwys ar dudalennau 5 a 6 o’r Cynllun
Llyfrgell 2023-28, sydd yn dangos pwysigrwydd y gwasanaeth i bobl Gwynedd.
Nodwyd bod y Llyfrgelloedd yn esblygu ac yn newid drwy fenthyg nwyddau ac yn
darparu cyngor i drigolion y Sir. Mynegwyd balchder yn y strategaeth sydd yn
sicrhau bod y gwasanaeth yn datblygu ac yn darparu er lles pobl Gwynedd. Ychwanegodd y Pennaeth Economi a Chymuned ei bod yn
ofynnol ar y Cyngor o dan Safonau Llyfrgell Gyhoeddus Cymru i fod yn cyhoeddi
Cynllun ar gyfer Llyfrgelloedd. Adroddwyd bod strategaeth Mwy na Llyfrau yn
arfer bodoli ond bod y Cynllun hwn yn mynd gam ymhellach ac yn torri’r myth o
Lyfrgelloedd fel llefydd distaw. Nodwyd bod y Cynllun yn dangos bod
Llyfrgelloedd yn lefydd llawn bywyd ac yn amlygu’r datblygiadau diweddar a’r
amrywiaeth o fewn y Llyfrgelloedd. Pwysleisiwyd bod darllen yn parhau i fod yn
bwysig yn y Cynllun yn ogystal â materion iechyd a lles, yr Iaith Gymraeg,
derbyn gwybodaeth a’r elfen ddigidol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Credwyd bod llawer yn gweld y Llyfrgelloedd fel man cysurus a chynnes i
fynd yn ystod y cyfnodau o dywydd oer yn ogystal â lle i gymdeithasu a darllen. ¾ Croesawyd yr adroddiad. Gwnaethpwyd sylw bod y gair “Llyfrgell” bellach
ddim yn cyfleu’r ddarpariaeth, y bwrlwm na’r brwdfrydedd sy’n bodoli o’u
cwmpas. ¾ Holiwyd os yw’r Llyfrgelloedd yng Ngwynedd yn darparu adnoddau PECS, adnodd
gweledol ar gyfer plant awtistig neu sydd efo anghenion dysgu ychwanegol. ¾ Cadarnhawyd bod
gwasanaeth argraffu ar gael yn y Llyfrgelloedd ond byddai’n rhaid gwirio
ynghylch yr adnoddau PECS ac y byddai’r Adran yn adrodd yn ôl i’r Aelod
Cabinet. ¾ Broliwyd gwaith y
Pennaeth Economi a Chymuned a’r Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd gan nodi eu
bod yn esiampl o weithredu egwyddorion Ffordd Gwynedd ac wedi gwthio’r
gwasanaeth Llyfrgelloedd yn ei flaen. Dymunwyd eu llongyfarch ar y gwaith. Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned a Nia Gruffydd, Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd |
|
RHAGLEN CEFNOGI LLESIANT POBL Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.1. Cymeradwywyd i orffen sefydlu Hybiau Cefnogi Pobl yn yr
13 ardal adfywio. 1.2. Caniatawyd comisiynu Gwasanaeth Cefnogi Llesiant Pobl i roi help llaw
i drigolion gyda’u hanghenion llesiant yn yr hwb a’r ardal. COFNODION: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys PENDERFYNIAD 1.1. Cymeradwywyd i orffen
sefydlu Hybiau Cefnogi Pobl yn yr 13 ardal adfywio. 1.2. Caniatawyd comisiynu Gwasanaeth Cefnogi
Llesiant Pobl i roi help llaw i drigolion gyda’u hanghenion llesiant yn yr hwb
a’r ardal. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod y Pennaeth
Cynorthwyol Cefnogi Teulu yn allweddol i’r gwaith yma ac y byddai yn egluro mwy
am yr hybiau a'r gwaith sy’n digwydd. Nodwyd bod y Rhaglen Cefnogi Llesiant
Pobl yn esiampl o waith traws adrannol ar draws y Cyngor am ei fod wedi deillio
o waith sawl gwasanaeth yn ogystal ag asiantaethau neu fudiadau allanol fel
Cyngor ar Bopeth. Darparwyd crynodeb o waith a siwrne'r Rhaglen
Cefnogi Llesiant Pobl gan y Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Teulu. Adroddwyd bod
yr adroddiad hwn yn cyfeirio yn benodol at y rhwydwaith o hybiau sydd wedi eu
lleoli mewn Cymunedau. Eglurwyd bod yr hybiau yn ceisio dod a gwasanaethau’r
Cyngor a’i bartneriaid yn agosach at drigolion Gwynedd. Nodwyd erbyn hyn bod 11
o’r hybiau yn weithredol ar draws y Sir a bod nifer fawr o’r anghenion sy’n dod
drwy ddrysau’r hybiau yn ymwneud â’r argyfwng costau byw yn ogystal â materion
budd-daliadau, treth cyngor, mynediad i dalebau tanwydd a chyngor ar
ddigartrefedd. Ategwyd nad yw pawb yn ymwneud â’r hybiau a bod
gwaith i’w wneud gyda rhai o’r trigolion er mwyn eu cynorthwyo i ail gysylltu
efo’r rhwydweithiau yn lleol. Ychwanegwyd bod awydd i symud ymlaen i
gomisiynu’r gwasanaeth newydd a gorffen y gwaith o sefydlu’r Hybiau Cefnogi
Pobl yn yr 13 ardal adfywio er mwy cyd-fynd â’r fframwaith adfywio. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Credwyd bod yr hybiau yn hynod boblogaidd, rhoddwyd enghraifft o bobl yn
ciwio yn Nolgellau i weld y Swyddog Ynni. Teimlwyd ei bod yn rhwydd cael
mynediad at y gwasanaeth a canmolwyd y gwaith sydd wedi digwydd ar sefydlu’r
hybiau cymunedol. ¾ Credwyd bod yr
hybiau yn gwneud mynediad at wasanaethau’r Cyngor yn rhwyddach gan sicrhau bod
pobl yn y gymuned yn cael y wybodaeth a’r gefnogaeth maent ei angen. ¾ Diolchwyd am yr adroddiad gan groesawu’r Rhaglen, yn enwedig o ystyried yr
heriau sydd yn wynebu trigolion yn y gymuned yn sgil yr argyfwng costau byw. ¾ Broliwyd y cyfeiriad at gefnogi grwpiau cymunedol i sefydlu Hybiau Cefnogi
Pobl a’r ymwybyddiaeth leol sydd ynghlwm a hyn, croesawyd ymestyn y math yma o
ddarpariaeth. ¾ Gwnaethpwyd sylw ei bod yn bwysig cofio am y plant a’r bobl ifanc yn y
cymunedau a cheisio eu denu a’u cynnwys gan gofio am eu hanghenion. Credwyd y
gallai’r Hybiau helpu efo darparu rhywle i’r plant a’r bobl ifanc gyfarfod ar
ôl Ysgol. ¾ Mynegwyd balchder yn y cyd-weithio gyda rhanddeiliaid eraill a bod hyn yn gam ymlaen. Tynnwyd sylw at frolio diweddar gan asiantaeth allanol ar waith yr Adran Gyllid yn benodol yn ymwneud â’r gwaith Treth Cyngor a’n cydweithio efo trigolion y Sir. Diolchwyd i’r Pennaeth Cyllid a’r Swyddogion am eu gwaith. Ategwyd bod y ganmoliaeth i’r Adran Gyllid yn uchel ... view the full COFNODION text for item 10. Awdur: Catrin Thomas, Pennaeth Cynorthwyol Cefnogi Teuluoedd |