Lleoliad: Cyfarfod Aml-Leoliad - Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH ac ar Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan Dafydd Gibbard (Prif Weithredwr), y Cynghorydd Craig ab Iago
ac Aled Davies (Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant). Croesawyd yr
Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: COFNODION: YSGOL FELINWNDA Eglurodd y Cynghorydd Beca Brown na fydd yr
adroddiad Ysgol Felinwnda oedd wedi ei gynnwys fel
Eitem 8 ar y Rhaglen yn cael ei gyflwyno. Nodwyd bod materion pellach i’w
hystyried a theimlad yn y gymuned bod diffyg trafodaeth ac ymgysylltu wedi bod
rhwng y Cyngor â’r cymunedau lleol. Penderfynwyd felly gohirio’r eitem er mwyn
galluogi ymgysylltu pellach cyn dod â’r eitem yn ôl i’r Cabinet yn y dyfodol.
Cadarnhawyd na fydd trafodaeth ar yr eitem heddiw. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Nid oedd unrhyw
fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 7 MAWRTH Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd
cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 7 Mawrth 2023 fel rhai cywir. |
|
ACHOS BUSNES CARTREF GOFAL PENYBERTH, PENRHOS Mae
Atodiad B a C ar wahân ar gyfer Aelodau’r Cabinet yn unig. Mae’r
ddau atodiad yn eithriedig o dan Baragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf
Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion
ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y
wybodaeth hynny) Mae cynnwys yr
eitem yn cynnwys gwybodaeth masnachol sensitif am elfennau ariannol y prosiect.
Mae hyn yn berthnasol i nifer o gartrefi preswyl a nyrsio y sector annibynnol
yn benodol Atodiad B a C. Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd Achos Busnes Strategol yn Atodiad A. Awdurdodwyd y Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant i
gyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol Strategol i Lywodraeth Cymru i geisio am
£14.6miliwn o arian Cronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal
Cymdeithasol (IRCF) i greu datblygiad partneriaeth sector gyhoeddus ar safle
Penyberth, Penrhos, mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi
Cadwaladr (BIPBC) a symud ymlaen i ddatblygu Achos Busnes Amlinellol. COFNODION: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan.
PENDERFYNIAD Cymeradwywyd
Achos Busnes Strategol yn Atodiad A. Awdurdodwyd y
Pennaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant i gyflwyno’r Achos Busnes Amlinellol
Strategol i Lywodraeth Cymru i geisio am £14.6miliwn o arian Cronfa Gyfalaf
Integreiddio ac Ail-gydbwyso Iechyd a Gofal Cymdeithasol (IRCF) i greu
datblygiad partneriaeth sector gyhoeddus ar safle Penyberth,
Penrhos, mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC)
a symud ymlaen i ddatblygu Achos Busnes Amlinellol. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr
adroddiad gan ategu bod atodiadau B a C yn atodiadau eithriedig i sylw’r
Aelodau Cabinet yn unig. Darparwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan nodi
bod Cyngor Gwynedd eisoes yn ddarparwr gofal preswyl ar gyfer trigolion y Sir
ac ar hyn o bryd yn darparu 50% o’r ddarpariaeth breswyl i bobl hŷn gyda’r
sector annibynnol yn darparu’r gweddill. Ategwyd bod hyn yn rhan bwysig o
gyfrifoldeb y Cyngor tuag at drigolion fwyaf bregus y Sir. Ychwanegwyd bod holl
ddarpariaeth cartrefi nyrsio'r Sir yn cael ei ddarparu gan y sector annibynnol
ar hyn o bryd. Nodwyd bod barn y Llywodraeth o ran yr angen i allanoli
darpariaethau yn Genedlaethol wedi newid yn ddiweddar fel sydd wedi ei nodi yn
y Papur Gwyn ar Ail-gydbwyso Gofal a Chymorth. Yma nodir y buddion o gael
marchnad fwy cytbwys. Eglurwyd bod prinder
o welyau preswyl yn Ardal Llŷn ac Eifionydd ers i Gartref Penrhos gau
ddechrau Rhagfyr 2020 ac ategwyd nad oes darpariaeth o welyau nyrsio yn ardal
Llŷn. Nodwyd y bydd y Bartneriaeth hon yn anelu i gynnig cartref gofal
gyda nyrsio, i’w adeiladu ar safle Penyberth, Penrhos
er mwyn darparu 32 o welyau preswyl a dementia, ynghyd â 25 o welyau nyrsio
gyda 15 o’r rheini yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer gofal nyrsio dementia. Soniwyd
am yr heriau enfawr o ran recriwtio a chadw staff yn y maes. Nodwyd y bydd y
prosiect yma yn edrych ar arferion gwahanol er mwyn sicrhau staff o ansawdd
uchel yn ardal Llŷn. Nododd yr Uwch
Ymarferydd Prosiectau bod yr adroddiad yn grynodeb gweithredol o’r achos busnes
sy’n cynnwys yr angen am y newid a bod y Cynllun yn cyd-fynd â sawl Strategaeth
gan y Llywodraeth. Nodwyd bod y weledigaeth wedi ei chynnwys yn yr adroddiad ar
gyfer y safle yn ogystal â beth yw amcanion buddsoddi’r Cyngor. Ychwanegodd y
Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol bod y cynllun Penrhos yn ei
gyfanrwydd yn un cyffrous ac arbennig. Nodwyd bod y ddarpariaeth nyrsio yn
cyfarch yr angen lleol, yn enwedig y ddarpariaeth dementia gan fod diffyg
darpariaeth o’r fath yn yr ardal yn ogystal â phrinder drwy’r Sir. Ategwyd ei
fod yn gynllun blaengar gan y tybiwyd nad oes Cyngor Sir arall drwy Gymru yn
rhedeg cartref nyrsio a bod hyn yn cael ei wneud law yn llaw efo’r Bwrdd
Iechyd. Cymerwyd y cyfle i ddiolch am y cydweithio efo Bwrdd
Iechyd Betsi Cadwaladr sydd wedi
llwyr ymrwymo fel partner allweddol yn ogystal â Chymdeithas Dai Clwyd Alyn. Sylwadau’n
codi o’r drafodaeth Awdur: Aled Davies, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant |
|
BIDIAU UN-TRO 2023-24 Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Cymeradwywyd y bidiau un-tro o £2,119,300 ar gyfer 2023/24
sydd i’w cyllido o’r gronfa Trawsffurfio. Cymeradwywyd y bid cyfalaf gwerth £447,000 sydd i’w hariannu
o gyllid cyfalaf. COFNODION: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Cyfarwyddwr Corfforaethol, Geraint Owen. PENDERFYNIAD Cymeradwywyd y bidiau un-tro o £2,119,300 ar
gyfer 2023/24 sydd i’w cyllido o’r gronfa Trawsffurfio. Cymeradwywyd y bid cyfalaf gwerth £447,000
sydd i’w hariannu o gyllid cyfalaf. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan egluro bod y bidiau un-tro ar gael i wireddu
gwaith unwaith ac am byth neu am gyfnod penodol ac yn ychwanegol i’r bidiau
refeniw a chyfalaf parhaol. Nodwyd bod cynnig i gyllido'r hyn a nodwyd yn yr
adroddiad o’r gronfa trawsffurfio ar wahân i’r cais am yr Amlosgfa. Nodwyd y
byddai’r gwaith o uwchraddio ac adnewyddu’r amlosgydd
yn Amlosgfa Bangor yn cael ei ariannu o gyllideb cyfalaf. Tynnwyd sylw’r Aelodau at yr atodiadau sy’n rhestru a manylu’r bidiau ac
ategwyd y penderfyniad a geisir. Ni dderbyniwyd sylwadau pellach. Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown Dogfennau ychwanegol:
Awdur: Garem P. Jackson, Pennaeth Addysg a Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Cynorthwyol: Cynradd |
|
STRATEGAETH IAITH GWYNEDD 2023 Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Rhoddwyd sêl bendith i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y
Strategaeth Iaith ddrafft. Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, mewn ymgynghoriad a’r aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, i baratoi a chynnal y broses ymgynghori. COFNODION: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Menna Jones PENDERFYNIAD Rhoddwyd sêl bendith i gynnal ymgynghoriad
cyhoeddus ar y Strategaeth Iaith ddrafft. Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol, mewn ymgynghoriad â’r aelod Cabinet Cefnogaeth Gorfforaethol, i
baratoi a chynnal y broses ymgynghori. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod y
Strategaeth ddrafft yma yn ddilyniant i’r un bresennol sydd yn adlewyrchu ymrwymiad y Cyngor i hybu a hyrwyddo’r
Iaith ar draws y Sir ac yn bodloni gofynion statudol Safonau’r Gymraeg. Nodwyd
mai’r weledigaeth yw creu Strategaeth gynhwysol ar gyfer y 10 mlynedd nesaf
fydd yn cynyddu defnydd o’r Gymraeg mewn gwahanol gyd-destunau yng Ngwynedd. Adroddwyd bod y Cyngor yn gweithredu cynlluniau
mewn nifer o feysydd sydd yn cael effaith ar y gymuned â’r Gymraeg neu sydd yn
ceisio cynnal a hyrwyddo’r Gymraeg. Rhestrwyd y cynlluniau hyn sydd yn cynnwys
Cynllun Strategol y Gymraeg mewn Addysg, Cynllun Gweithredu Tai Gwynedd,
Cynllun Datblygu Lleol, Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy a Chynlluniau Adfywio
Ardal Ni. Ychwanegwyd bod prif bwyslais y ddogfen ymgynghori ar adnabod y
cyfleoedd newydd sydd ar gael. Cyfeiriwyd at gynnwys y Strategaeth sydd
yn cyfeirio at y meysydd gweithredu a nodwyd yn yr adroddiad megis cynyddu
nifer siaradwyr a chynyddu defnydd o'r Iaith mewn gwahanol sefydliadau. Ychwanegwyd y bydd y Strategaeth yn
cael ei hadolygu yn rheolaidd a manylwyd ar y camau nesaf o fynd i gyfnod o
ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau mis Ebrill, yn ddibynnol ar sêl bendith y
Cabinet. Ategwyd bod derbyn barn trigolion Gwynedd ar y cyfleoedd newydd sydd
ar gael i hyrwyddo’r Gymraeg yn holl bwysig. Nodwyd y bydd dadansoddiad o
ganlyniadau’r ymgynghoriad yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Iaith ym mis
Mehefin er mwyn derbyn eu sylwadau a’u mewnbwn ar y strategaeth derfynol fydd
yn dychwelyd i’r Cabinet yn yr Hydref. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Diolchwyd i’r tîm
Iaith am eu gwaith a dymunwyd pob lwc efo’r ymgynghoriad. ¾ Ategwyd bod y
Gymraeg a hyrwyddo’r Gymraeg yn un o brif flaenoriaethau’r Cyngor. ¾ Mynegwyd balchder
bod Gwynedd unwaith eto yn arwain ar y Gymraeg a bod y syniadau a gyflwynwyd
yma yn rhai blaengar. ¾ Credwyd bod y
Strategaeth ddrafft yn gosod gweledigaeth glir i gynyddu nifer siaradwyr a
defnydd yr Iaith a bod hyn yn rhywbeth i fod yn falch ohono. ¾ Diolchwyd i’r
Swyddogion oedd yn bresennol am eu gwaith a’u harbenigedd yn y maes. Awdur: Ian Jones, Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, Llywela Haf Owain, Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu a Gwenllian Williams, Ymgynghorydd Iaith |
|
ECONOMI CYLCHOL GWYNEDD Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Cytunwyd i Gyngor Gwynedd arwain ar gais grant a rhaglen i ddatblygu
cynlluniau blaengar yn y maes gwaith economi cylchol. ·
Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned a’r
Pennaeth Cyllid i dderbyn cynnig grant Economi Gylchol gan Lywodraeth Cymru a
sefydlu trefniadau priodol ar gyfer cyflawni’r rhaglen yng Ngwynedd. ·
Cytunwyd i gytundebau partneriaethol cael ei rhoi mewn lle i bob partner
sy’n amlinellu gweithdrefnau i'r prosiectau unigol. COFNODION: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia
Jeffreys PENDERFYNIAD
TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan ategu bod angen
cymeradwyaeth y Cabinet i dderbyn grant gan Lywodraeth Cymru o’u cronfa Economi
Cylchol sy’n ymrwymiad o bron i £6 miliwn. Nodwyd bod hyn o ganlyniad i dros
dair mlynedd o waith gan yr Adran Economi a Chymuned i ddatblygu’r Economi
Cylchol yng Ngwynedd a pharatoi cais i’w gyflwyno i Lywodraeth Cymru i ariannu
pecyn o gynlluniau. Diolchwyd i Swyddogion yr Adran am eu gwaith. Manylwyd ar rai o’r cynlluniau sy’n cynnwys
datblygu Llyfrgell y Pethau mewn partneriaeth gyda Gwasanaeth Llyfrgelloedd y
Cyngor a Datblygu Sied Werdd i Antur Waunfawr i gynyddu ailgylchu ac ail-greu.
Nodwyd bod Antur Waunfawr bellach yn casglu 11 tunnell o ddillad yr wythnos ar
draws y Sir sy’n golygu llai o wastraff a mwy o gymorth i drigolion efo costau byw.
Bydd cyfleoedd cyflogi hefyd yn deillio o hyn yn ogystal ag ehangu’r gwaith ail
ddefnyddio ac ail bwrpasu deunyddiau megis dodrefn. Nodwyd bod y Cynllun hwn yn un arloesol ac yn
cyfrannu tuag at flaenoriaethau Cynllun y Cyngor megis cefnogi’r Rhaglen
Cefnogi Pobl, y Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur yn ogystal â chydweithio
efo’r Adran Economi a Chymuned a’r Adran Amgylchedd. Mynegodd y Rheolwr Rhanbarthol ARFOR bod
cydweithio agos iawn efo Llywodraeth Cymru wedi digwydd dros y blynyddoedd
diwethaf. Ategwyd bod y Cynllun yn adeiladu ar waith a chynlluniau llai cafodd
eu creu yn y gorffennol ac yn gyfle i’w datblygu ar raddfa fwy. Nodwyd bod
Llywodraeth Cymru yn edrych i greu 80 o hybiau ail ddefnyddio ac ail greu yng
Nghymru a gall y Cyngor bellach gyfrannu at 27 o’r rheini yng Ngwynedd. Nodwyd
ei fod yn gyfle i roi Gwynedd ar y blaen yn y maes yma a chyfle i weithio efo
partneriaid y drydydd sector gan eu galluogi i ddatblygu ymhellach. Nodwyd bod nifer o brosiectau o’r newydd ac ar
draws ardaloedd a chymunedau’r Sir. Credwyd ei fod yn gyfle i wneud gwahaniaeth
yn y maes a gweithio’n agos efo Llywodraeth Cymru ar y blaenoriaethau hyn dros
y ddwy flynedd nesaf. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾
Croesawyd buddsoddiad o’r
maint yma a mynegwyd cefnogaeth lwyr i’r Cynllun. ¾
Ategwyd pwysigrwydd
egwyddorion yr Economi Gylchol megis hybu trwsio, benthyg ac ail ddefnyddio fel
rhan normal o fywyd. ¾
Dymunwyd gweld ail fframio
pellach ar ddeunydd ail lawr neu bethau sydd wedi cael eu hailgylchu a’u bod
nhw ddim yn cael ei gweld fel pethau eilradd, yn enwedig yn sgil yr argyfwng
costau byw. ¾ Credwyd bod llawer o bethau cyffrous i’w gweld yn yr adroddiad a chydnabuwyd pwysigrwydd newid ymddygiad ... view the full COFNODION text for item 10. Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned ac Anwen Davies, Rheolwr Rhanbarthol ARFOR |
|
Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cefnogwyd ymateb Cyngor Gwynedd i ymgynghoriad Croeso Cymru
ar sefydlu cynllun trwyddedu statudol yng Nghymru ar gyfer llety gwyliau. COFNODION: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn PENDERFYNIAD Cefnogwyd ymateb Cyngor Gwynedd i
ymgynghoriad Croeso Cymru ar sefydlu cynllun trwyddedu statudol yng Nghymru ar
gyfer llety gwyliau TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod Llywodraeth Cymru wedi
cyhoeddi ymgynghoriad ar sefydlu cynllun trwyddedu statudol i ddarparwyr llety
ymwelwyr yng Nghymru nol ym mis Rhagfyr 2022. Nodwyd bod yr ymgynghoriad yn
ceisio adborth ar yr opsiynau posibl ar gyfer cyflwyno cynllun trwyddedu
statudol ar gyfer pob math o lety ymwelwyr a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol cael
trwydded, gyda'r nod o godi safonau yn y diwydiant Twristiaeth. Nodwyd bod yr uchod yn fater gafodd sylw yn yr
adolygiad Tai a Thai Haf ac un o’r argymhellion bryd hynny oedd bod angen gwell
rheolaeth yn sgil rheoleiddio gosodiadau llety yng Ngwynedd ac drwy Gymru. Mynegwyd bod cynnig
yma i reoleiddio'r holl sector llety yng Nghymru a nodwyd bod copi o’r holiadur
ynghlwm â’r adroddiad oedd yn gofyn am farn e.e. a ddylai’r Cynllun fod yn un Cenedlaethol.
Eglurwyd bod yr adborth eisoes wedi ei gyflwyno i Croeso Cymru er mwyn cyd-fynd
a’r dyddiad cau. Ategwyd bod y Cyngor yn cefnogi’r egwyddor o
sefydlu trefn trwyddedu statudol ond y bydd y Cynllun yn un sylweddol i’w
weithredu a bydd angen adnoddau a buddsoddiad pellach gan Lywodraeth Cymru i’w
weinyddu. Pwysleisiwyd hefyd y dylai’r Cynllun fod yn un Cenedlaethol ac wedi ei
symleiddio er mwyn cael system hyblyg. Ychwanegwyd bod canran o’r Sector
Breifat wedi datgan pryder ynglŷn â’r Cynllun yn sgil Cofid, yr ystyriaethau argyfwng costau byw a’r pwysau
ariannol sy’n bodoli ar fusnesau sy’n ategu’r angen i gael system mor syml ag
sy’n bosib. I gloi nodwyd bod y Cyngor yn cefnogi’r
ymyrraeth yma sydd yn rhan o becyn ehangach gan Lywodraeth Cymru i daclo’r maes
rheolaeth Tai, gweddnewid y gyfundrefn cynllunio yn y maes a chyflwyno treth
twristiaeth. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth ¾ Mynegwyd cefnogaeth i’r ymateb gan nodi bod yr ymateb yn cyfleu teimlad y
Cyngor. ¾ Credwyd bydd y
drefn yma yn help i gadw golwg ar y sefydliadau sydd yn cynnig llety gwyliau. ¾ Nodwyd ei fod yn
aneglur i ba raddfa gall y Cyngor reoli niferoedd sefydliadau drwy drefn
trwyddedu ond yn hytrach gall y Cyngor reoli ansawdd a diogelwch y sefydliadau
hyn sydd yn holl bwysig. ¾ Ategwyd nad diben y gyfundrefn yma yw gosod terfyn ar niferoedd ond yn
hytrach codi safon Iechyd a Diogelwch y sefydliadau ar lefel Genedlaethol a
chreu cysondeb er mwyn sicrhau diogelwch ymwelwyr. ¾ Cytunwyd bod
sicrhau safon yn greiddiol ond pryderwyd am gapasiti
a’r angen am gymorth ariannol er mwyn gwireddu hyn. ¾ Mynegwyd bod Trefi yn dibynnu ar y sector Twristiaeth a darparwyr llety ymwelwyr
a’u bod yn rhan bwysig o’r economi. Credwyd bod yr ymateb yma yn cyd-fynd â
strategaeth Economi Ymweld Cynaliadwy’r Cyngor gan fod sicrhau safonau yn
bwysig. ¾ Cyfeiriwyd at gynllun tebyg iawn sy’n bodoli yng Ngogledd Iwerddon ar hyn y bryd a chredwyd bod dirwy drom os yw rhywun yn gosod ... view the full COFNODION text for item 11. Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned, Sian Pennant Jones, Rheolwr Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau a Gareth Jones, Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd |