Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Diolchwyd i’r Cyng. Ioan Thomas am ei waith fel y Cyn-aelod Cabinet Cyllid a chroesawyd y Cyng. Paul Rowlinson i’w gyfarfod cyntaf fel yr Aelod Cabinet Cyllid newydd.

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Cyng. Nia Jeffreys ac Geraint Owen (Cyfarwyddwr Corfforaethol).

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 12 MAWRTH 2024 pdf eicon PDF 137 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 12 Mawrth 2024 fel rhai cywir.

 

6.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION A GWELLA GWASANAETH 2023/24 pdf eicon PDF 365 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr adroddiad a chynnigwyd sylwadau ac awgrymiadau perthnasol am berfformiad y Cyngor o ran ymdrin â chwynion yn briodol ac yn amserol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr adroddiad a chynnigwyd sylwadau ac awgrymiadau perthnasol am berfformiad y Cyngor o ran ymdrin â chwynion yn briodol ac yn amserol.

 

TRAFODAETH

 

Atgoffwyd yr Aelodau o drefn adrodd ar ystadegau cwynion i’r Cabinet ddwywaith y flwyddyn yn unol â Pholisi Pryderon a Chwynion. Cadarnhawyd bod trefn statudol ar wahân i ddefnyddwyr gwasanaethau cymdeithasol ac ysgolion. Manylwyd bod ystadegau byw o’r cwynion a dderbynnir ar gael ar ofyn i’r Cabinet a phenaethiaid adran.

 

Pwysleisiwyd bod adrannau yn annog defnyddwyr gwasanaeth i gwyno pan mae problemau yn codi er mwyn lleddfu rhwystredigaethau a sicrhau gwell ansawdd gwasanaethau i’r dyfodol. Cadarnhawyd bod y Swyddog Gwella Gwasanaeth yn ail-ymweld â chwynion yn fisol, gan bwysleisio mai dim ond 3 cwyn byw sydd wedi cyrraedd ble nad oes datrysiad wedi ei ganfod hyd yma. Manylwyd bod y cwynion hyn wedi cyrraedd ers 20 diwrnod a’r targed cyffredinol i ddatrys cwynion yw 7 diwrnod. Ymfalchïwyd bod lefelau cwynion ar gyfer y gwasanaeth gwastraff wedi gostwng cryn dipyn dros y cyfnod 2023-24.

 

Cydnabuwyd bod yna le i wella gweithdrefnau gan bwysleisio bod Siarter Gofal Cwsmer yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd er mwyn amlygu’r gofal cwsmer priodol i’n defnyddwyr ac ymateb i bryderon trigolion.

 

Adroddwyd bod trefniadau mewn lle os oes tueddiadau o gwynion yn codi mewn gwasanaethau. Cadarnhawyd bod gan y Swyddog Gwella Gwasanaeth berthynas da gyda swyddogion ac yn tynnu eu sylw pan mae nifer o gwynion yn codi am yr un rheswm o fewn yr un gwasanaeth. Nodwyd bydd y gwasanaeth yn cael ei annog i ail-ystyried eu trefniadau gan nodi bod materion hanesyddol sydd heb gael eu datrys yn cael eu hamlygu i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol a’r Prif Weithredwr pan yn briodol. Sicrhawyd nad oes cwynion yn cael eu cau oni bai bod datrysiad neu eglurhad clir wedi cael ei ddarparu i’r defnyddiwr.

 

Awdur: Ian Jones Pennaeth Adran Cefnogaeth Gorfforaethol

7.

CYFRIFON TERFYNOL 2023/24 - ALLDRO REFENIW pdf eicon PDF 743 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Paul Rowlinson

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ac ystyriwyd y sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2023/24:

 

 

Colofn A

Colofn B   Colofn C

Colofn Ch

 

Gor /

(Tan)

Wariant Gros

2023/24

Addasiadau a Argymhellir

Gor/ (Tan) Wariant

Addasedig

2023/24

 

£ '000 

£'000

£'000

£ '000 

 

Oedolion, Iechyd a Llesiant

3,906

(3,806)

0

100

Plant a Theuluoedd

2,611

(2,511)

0

100

Addysg

0

0

0

0

Economi a Chymuned

308

0

(308)

0

Priffyrdd, Peirianneg ac YGC

687

(587)

0

100

Amgylchedd

1,237

(1,137)

0

100

Tai ac Eiddo

255

(155)

0

100

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(11)

0

0

(11)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(10)

0

0

(10)

Cyllid 

(7)

0

0

(7)

 

 

Nodwyd bod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, Adran Amgylchedd a’r Adran Tai ac Eiddo eleni (Gweler colofn A yn y tabl uchod). Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2):

 

Yr adrannau sydd yn gorwario i dderbyn cymorth ariannol un tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ymlaen gan yr Adran i £100k (Gweler colofn B yn y tabl uchod).

 

Cadarnhawyd darparu cymorth ariannol o £308k uwchlaw’r taliad cytundebol i Gwmni Byw’n Iach (Gweler colofn C yn y tabl uchod).

 

Ar gyllidebau Corfforaethol:

-      Defnyddio’r balans o £4,402k sydd ar ôl yn y Gronfa Covid i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2023/24.

-      Defnyddio (£2,091k) o’r tanwariant ar gyllidebau Corfforaethol i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2023/24.

-      Gweddill y tanwariant (£495k) ar gyllidebau Corfforaethol i’w drosglwyddo i’r Gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol.

 

Cymeradwywyd symiau i’w cario ymlaen (y golofn ‘Gor/(Tan) Wariant Addasedig’ yn colofn CH uchod ac yn Atodiad 1.

 

Cymeradwywyd trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd:

-      Cynaeafu (£1,703k) o gronfeydd a’i ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2023/24.

-      Defnyddio £2,975k i gyllido bidiau un tro 2024/25 yn dilyn dad ymrwymo £1,113k o’r Gronfa Trawsffurfio a throsglwyddo £1,862k o’r Gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Paul Rowlinson

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ac ystyriwyd y sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2023/24:

 

 

 

 

 

Colofn A

Colofn B Colofn C

Colofn Ch

 

Gor /

(Tan)

Wariant Gros

2023/24

Addasiadau a Argymhellir

Gor/ (Tan) Wariant

Addasedig

2023/24

 

£ '000 

£'000

£'000

£ '000 

 

Oedolion, Iechyd a Llesiant

3,906

(3,806)

0

100

Plant a Theuluoedd

2,611

(2,511)

0

100

Addysg

0

0

0

0

Economi a Chymuned

308

0

(308)

0

Priffyrdd, Peirianneg ac YGC

687

(587)

0

100

Amgylchedd

1,237

(1,137)

0

100

Tai ac Eiddo

255

(155)

0

100

Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol

(11)

0

0

(11)

Cefnogaeth Gorfforaethol

(10)

0

0

(10)

Cyllid 

(7)

0

0

(7)

 

Nodwyd bod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, Adran Amgylchedd a’r Adran Tai ac Eiddo eleni (Gweler colofn A yn y tabl uchod). Cymeradwyo’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2):

 

Yr adrannau sydd yn gorwario i dderbyn cymorth ariannol un tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ymlaen gan yr Adran i £100k (Gweler colofn B yn y tabl uchod).

 

Cadarnhawyd darparu cymorth ariannol o £308k uwchlaw’r taliad cytundebol i Gwmni Byw’n Iach (Gweler colofn C yn y tabl uchod).

 

Ar gyllidebau Corfforaethol:

-      Defnyddio’r balans o £4,402k sydd ar ôl yn y Gronfa Covid i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2023/24.

-      Defnyddio (£2,091k) o’r tanwariant ar gyllidebau Corfforaethol i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2023/24.

-      Gweddill y tanwariant (£495k) ar gyllidebau Corfforaethol i’w drosglwyddo i’r Gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol.

 

Cymeradwywyd symiau i’w cario ymlaen (y golofn ‘Gor/(Tan) Wariant Addasedig’ yn colofn CH uchod ac yn Atodiad 1.

 

Cymeradwywyd trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad o’r cronfeydd:

-      Cynaeafu (£1,703k) o gronfeydd a’i ddefnyddio yn ei gyfanrwydd i gynorthwyo’r adrannau sydd wedi gorwario yn 2023/24.

-      Defnyddio £2,975k i gyllido bidiau un tro 2024/25 yn dilyn dad ymrwymo £1,113k o’r Gronfa Trawsffurfio a throsglwyddo £1,862k o’r Gronfa Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod gorwariant o oddeutu £9 miliwn ymhlith adrannau’r Cyngor o fewn y flwyddyn ariannol 2023-24. Darparwyd diweddariad ar sefyllfa’r holl adrannau’n unigol gan dynnu sylw at y prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol megis:

 

·       Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant -  Nodwyd bod rhagolygon mis Tachwedd 2023 yn amcangyfrif gorwariant o £5.4 miliwn o fewn yr Adran. Cadarnhawyd mai gwir orwariant yr Adran ar ddiwedd y flwyddyn ariannol oedd £3.9 miliwn yn dilyn derbyn grantiau ac incwm ychwanegol. Ymhelaethwyd bod £1.8 miliwn o’r gorwariant oherwydd y pwysau cynyddol a chostus llety cefnogol yn y Gwasanaeth Anabledd Dysgu ond pwysleisiwyd bod bid ariannol o £1.6 miliwn wedi cael ei gyflwyno gan yr Adran ar gyfer blwyddyn ariannol 2024-25 i ymdrechu i gyfarch yr her hon. Cyfeiriwyd hefyd at heriau lefelau salwch, cyfraddau oriau gwaith digyswllt a chostau staffio sy’n arwain at orwariant yn y maes Gofal Cartref ond pwysleisiwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Ffion Madog Evans: Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau

8.

RHAGLEN GYFALAF 2023/24 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2024) pdf eicon PDF 962 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Paul Rowlinson

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2024) o’r rhaglen gyfalaf.

 

Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad, sef:

-      Cynnydd o £2,189,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-      Cynnydd o £132,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-      Cynnydd o £645,00 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-      Cynnydd o £87,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Paul Rowlinson

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa 31 Mawrth 2024) o’r rhaglen gyfalaf.

 

Cymeradwywyd ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad, sef:

-      Cynnydd o £2,189,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau

-      Cynnydd o £132,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf

-      Cynnydd o £645,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw

-      Cynnydd o £87,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan gyfeirio at Raglen Gyfalaf 2023/24 i 2025/26 gwerth £189 miliwn yn ogystal â dadansoddiad fesul Adran. Cadarnhawyd bod cynnydd o £3,053k yn y gyllideb ar gyfer y rhaglen gyfalaf hon ers adolygiad Tachwedd 2023.

 

Eglurwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i wario £57 miliwn ar gynlluniau cyfalaf yn ystod y flwyddyn 2023/24. Ymhelaethwyd bod 58% o’r gwariant hwn wedi ei ariannu drwy grantiau penodol. Er hyn, cydnabuwyd y gellir gweld effaith heriau ariannol diweddar ar y rhaglen gyfalaf.

 

Adroddwyd bod £34 miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig wedi ei ail-broffilio o 2023/24 i flynyddoedd 2024/25 a 2025/26. Esboniwyd bod y newid hwn wedi cael ei gynllunio wrth i rai o brif gynlluniau’r Cyngor lithro ers y gyllideb wreiddiol, megis:

 

·       £16 miliwn – Cynlluniau Strategaeth Tai

·       £14.6 miliwn – Cynlluniau Ysgolion (Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac eraill)

·       £6.4 miliwn – Cynlluniau Cronfa Ffyniant Gyffredin

·       £5.7 miliwn – Adnewyddu Cerbydau ac offer

·       £4.1 miliwn - Cynlluniau Rheoli Carbon a Phaneli Solar

·       £3.8 miliwn – Cynlluniau Cronfa Ffyniant Bro

 

Ymfalchïwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i ddenu nifer o grantiau ychwanegol ers yr adolygiad diweddaraf ym mis Tachwedd 2023. Cyfeiriwyd at y grantiau isod fel y rhai mwyaf a gyflwynwyd i’r Cyngor ers yr adolygiad:

 

·       £1,755k – Grant tuag at y cynllun i ddatgarboneiddio gwres o fewn y Cyngor.

·       £1,100k – Grant cyfalaf Dechrau’n Deg a Gofal Plant gan Lywodraeth Cymru.

·       £659k – Grant Llywodraeth Cymru tuag at bryniant eiddo i gwrdd â gofynion yn y maes Digartrefedd.

·       £392k – Grant Isadeiledd Sbwriel gan Lywodraeth Cymru.

·       £358k – Grant Cynnal a Chadw Ysgolion 2023/24 gan Lywodraeth Cymru.

 

Eglurwyd ei bod bellach yn ofynnol i’r Cyngor rannu gwybodaeth am Ddangosyddion Darbodus clyfar o 2023/24 ymlaen a thynnwyd sylw at y wybodaeth honno o fewn yr adroddiad.

 

Tynnwyd sylw bod lefelau cyfalaf ar ei lawr ers nifer o flynyddoedd gan nad yw’n tyfu gyda chwyddiant. Nodwyd y gall hyn ymddangos fel her i’r dyfodol.

 

Diolchwyd i’r Adran Gyllid am yr adroddiad a’u gwaith o gynllunio a gwarchod buddiannau’r Cyngor.

 

Awdur: Ffion Madog Evans: Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau

9.

CYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG pdf eicon PDF 238 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Paul Rowlinson

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2025-26 – 2027/28.

 

Comisiynu’r Prif Weithredwr i sefydlu ac arwain ar ystod o fesurau a phecynnau gwaith, fel amlinellir yn rhan 4.6 o’r adroddiad, i ragbaratoi ar gyfer cyfarch y bwlch sylweddol yn ein cyllideb dros y tair mlynedd nesaf.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Paul Rowlinson.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd Cynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor ar gyfer y cyfnod 2025-26 – 2027/28.

 

Comisiynu’r Prif Weithredwr i sefydlu ac arwain ar ystod o fesurau a phecynnau gwaith, fel amlinellir yn rhan 4.6 o’r adroddiad, i ragbaratoi ar gyfer cyfarch y bwlch sylweddol yn ein cyllideb dros y tair mlynedd nesaf.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet yn sgil yr heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor, i rhagweithio er mwyn cynllunio i ddelio â’r wasgfa ariannol.

 

Eglurwyd nad yw canfod toriadau ar gyllideb a gwasanaethau’r Cyngor yn broses newydd gan fod toriadau wedi cael ei gyflwyno yn flynyddol ers 18 mlynedd. Ymfalchïwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i gynnal gwasanaethau er lleihad yng nghyllidebau adrannau ond cydnabuwyd yr angen i ddod a rhai gwasanaethau i ben yn y dyfodol.

 

Cadarnhawyd bod y gyllideb ar gyfer eleni wedi ei gosod a rhagwelir diffyg sylweddol yn incwm y Cyngor erbyn 2027/28 ac felly mae gwaith yn mynd rhagddo i ymdrechu i lenwi’r bwlch drwy gynllun ffeithiol. Pwysleisiwyd bod y rhagdybiaethau yn seiliedig ar sail gwybodaeth y blynyddoedd diwethaf ac ei fod yn gynllun cychwynnol i fynd i’r afael â chyllideb y tymor canolig.

 

Cyfeiriwyd ar grynodeb o’r cynllun gan nodi ei fod yn manylu ar ffactorau hysbys sy’n effeithio ar sefyllfa ariannol y Cyngor yn ystod y tymor canolig (rhwng 2025/26 hyd at ddiwedd 2027/28). Manylwyd y rhagwelir chwyddiant ar gyflogau staff y Cyngor yn ogystal â phrisiau nwyddau, yn ogystal â chynnydd ardollau yn cael effaith ar gyllideb y Cyngor o fewn y cyfnod hwn. Er hyn, pwysleisiwyd nad oes cytundeb i gynyddu cyflogau gyda’r undebau ar hyn o bryd. Pwysleisiwyd hefyd nad oes ystyriaeth fanwl wedi ei roi i addasu lefelau treth Cyngor, a byddai unrhyw addasiad angen cymeradwyaeth y Cyngor Llawn. Nodwyd bod swyddogion wedi rhagweld cynnydd o 5% o fewn y cynllun er mwyn cyfarch y risg hwn i’r gyllideb er y tybir bydd y cynnydd i gyflogau yn is na’r gyfradd hynny.

 

Esboniwyd fod y gyfradd chwyddiant a ddefnyddir yn y Cynllun yn seiliedig ar ragolwg Banc Lloegr a chyngor gan gwmni Arlingclose, sef ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor. Nodwyd bod swyddogion wedi selio cyfradd chwyddiant rhagdybiaethol i 2% ar gyfer nifer o flynyddoedd y tymor canol er mwyn cynllunio i gyfarch y bwlch hwnnw. Cydnabuwyd bod galw blynyddol am gyllideb ychwanegol uwchlaw chwyddiant mewn rhai meysydd a rhagwelir bydd angen £3 miliwn y flwyddyn er mwyn ymdrin â’r galw hwn. Pwysleisiwyd mai darpariaeth darbodus yw hyn, nid targed gwariant a bydd unrhyw fid ariannol yn derbyn ystyriaeth ofalus.

 

Adroddwyd bod y Cynllun yn amcangyfrif bwlch ariannol o £36,200k (cyn ystyried unrhyw gynnydd Treth Cyngor ac arbedion sydd eisoes wedi eu hadnabod) yn ystod y tymor canol yn seiliedig ar ragdybiaethau ac amcanion. Cadarnhawyd y gobeithir cyflwyno amrywiol opsiynau ar gamau nesaf i’r dyfodol a nodwyd yr angen i ganfod cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau ac addasu lefelau treth Cyngor. Gofynnwyd am ganiatâd y Cabinet i ymchwilio i wasanaethau’r holl adrannau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Dewi Morgan: Pennaeth Cyllid Dafydd Gibbard: Prif Weithredwr

10.

TROSGLWYDDIAD ARIANNOL AR GYFER CYNLLUN CARTREFI GRŴP BYCHAN pdf eicon PDF 134 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Elin Walker Jones

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD

 

Awdurdodwyd trosglwyddiad ariannol parhaol o £454,580 o gyllideb lleoliadau preswyl allsirol ar gyfer cyllido darpariaeth mewnol fel rhan o ddatblygu cynllun Cartrefi Grŵp Bychain.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Elin Walker Jones

 

PENDERFYNIAD

 

Awdurdodwyd trosglwyddiad ariannol parhaol o £454,580 o gyllideb lleoliadau preswyl all-sirol ar gyfer cyllido darpariaeth mewnol fel rhan o ddatblygu cynllun Cartrefi Grŵp Bychain.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd ei fod yn ddyletswydd ar y Cyngor i ddarparu lleoliadau preswyl digonol i blant mewn gofal. Esboniwyd bod gweithdrefnau ariannol y Cyngor yn caniatáu trosglwyddo arian rhwng penawdau yng nghyllideb adran. Er hyn, pwysleisiwyd bod angen caniatâd y Cabinet ar gyfer trosglwyddo swm uwch na £200,000. Manylwyd bod angen hysbysu swyddi parhaol ar gyfer llwyddo i dderbyn cofrestriad y cartrefi gyda CIW (Care Inspectorate Wales). Nodwyd bod angen cyllid parhaol er mwyn llwyddo i wneud hyn.

 

Adroddwyd bod datblygu darpariaeth preswyl drwy Gynllun Cartrefi Grŵp Bychain yn flaenoriaeth yng Nghynllun y Cyngor 2023-28. Nodwyd hefyd bod Strategaeth Lleoli ar gyfer Plant Mewn Gofal yn cyfarch yr ystod o ddarpariaeth lleoliadau sydd ei angen i gyflawni dyletswyddau statudol gan fanylu bod 80% o leoliadau maethu Gwynedd yn cael eu darparu drwy ddarpariaeth fewnol.

 

Cydnabuwyd nad oes darpariaeth breswyl ar gyfer plant mewn gofal ym meddiant Cyngor Gwynedd ar hyn o bryd a bod yr holl leoliadau a ddefnyddir gan y Cyngor yn dod gan ddarparwyr allanol, gyda 92% ohonynt yn ddarparwyr preifat. Manylwyd bod 76% o leoliadau preswyl cyfredol tu allan i Wynedd, gyda 46% o’r rheini yng Ngogledd Cymru a 30% y tu allan i Gymru. Eglurwyd bod y galw am leoliadau preswyl yn genedlaethol yn uchel ac nid yw’r cyflenwad presennol yn cyfarch y galw.

 

Esboniwyd bod gwariant y Cyngor ar leoliadau preswyl all-sirol yn £6 miliwn o fewn y flwyddyn ariannol 2023-24. Cydnabuwyd bod hyn yn sylweddol uwch na’r gyllideb o £5.53 miliwn. Nodwyd bod y dasg o gyllido lleoliadau preswyl all-sirol yn gallu bod yn anrhagweladwy oherwydd bod y gost yn amrywio rhwng lleoliadau. Pwysleisiwyd bod cyllideb lleoliadau preswyl all-sirol yn cynrychioli 50% o’r holl gyllideb ar gyfer lleoliadau plant mewn gofal.

 

Cadarnhawyd byddai datblygu’r cynllun a gyflwynwyd o fewn yr adroddiad yn gyfle i arbed costau, tra’n sicrhau bod plant mewn lleoliadau preswyl yn cael aros yn lleol, bod yn rhan o’r gymuned a derbyn addysg o fewn y Sir. Manylwyd mai cost gyfartalog blynyddol lleoliad preswyl yw £330k. Nodwyd wrth osod cyllideb o £454,580 mae arbediad blynyddol posibl o tua £215k fesul Cartref Grŵp Bychan gyda 2 blentyn mewn lleoliad. Cadarnhawyd na fydd gwariant llawn o’r gyllideb eleni gan fod arian grant o £255k wedi ei sicrhau drwy’r Gronfa Integredig Rhanbarthol.

 

Awdur: Aled Gibbard: Pennaeth Cynorthwyol Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd - Adnoddau Marian Parry Hughes: Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd

11.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS TAI AC EIDDO pdf eicon PDF 14 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw at brosiectau sydd yn rhan o Gynllun Cyngor Gwynedd 2023-2028.

 

Adroddwyd bod 885 o gyflwyniadau digartref wedi cyrraedd yr Adran rhwng Ebrill 2023 a Mawrth 2024, gan ymhelaethu bod nifer yr unigolion a theuluoedd mewn llety argyfwng hefyd yn parhau i fod yn uchel. Nodwyd bod bron i 250 o aelwydydd wedi eu lleoli mewn lletyau dros dro ar draws y Sir. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn parhau i weithio’n ddiflino i gynnig datrysiadau i’r sefyllfa hon drwy nifer o brosiectau a ffrydiau gwaith.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran yn anelu i godi o leiaf 83 o unedau llety â chefnogaeth i unigolion mewn lleoliadau ar draws y Sir, yn unol â’r Cynllun Gweithredu Tai. Tynnwyd sylw at ddatblygiad Dôl Sadler yn Nolgellau sydd wedi derbyn adborth cadarnhaol yn ddiweddar. Manylwyd bod cynlluniau unedau llety presennol yn cynnwys lleoliadau ym Mangor, Pwllheli a Chaernarfon.

 

Tynnwyd sylw at gynllun yr Adran i annog landlordiaid preifat i lesu ei heiddo i’r Cyngor am gyfnod o 5-25 mlynedd tra’n gwarantu rhent iddynt am y cyfnod. Nodwyd bod yr adran wedi llwyddo i ddenu grant o dros £2.7 miliwn i ddatblygu’r pecynnau hyn, ac yn anelu i ddod â 100 o dai ar y Cynllun yn y deng mlynedd nesaf. Cadarnhawyd bod 14 eiddo bellach ar y cynllun sydd wedi galluogi’r Adran i helpu 22 o bobl i rentu tŷ. Ymhelaethwyd bod 11 eiddo arall yn cael eu hasesu ar hyn o bryd a bod yr Adran yn parhau i ymateb i fynegiannau o ddiddordeb.

 

Ymfalchïwyd bod yr Adran wedi penodi dau swyddog ar gyfer cynorthwyo gyda chefnogaeth i unigolion gyda phroblemau iechyd meddwl er mwyn osgoi sefyllfaoedd ble mae unigolion bregus yn colli eu tenantiaeth. Manylwyd bod y swyddogion wedi llwyddo i helpu dros 100 o bobl dros y flwyddyn a hanner diwethaf ac yn cefnogi 40 o bobl ychwanegol ar hyn o bryd.

 

Cydnabuwyd bod argyfwng tai yng Ngwynedd ar hyn o bryd a phwysleisiwyd bod cynyddu’r cyflenwad o dai i bobl leol yn flaenoriaeth i’r Cyngor. Manylwyd bod 278 o dai cymdeithasol gan gadarnhau bod 260 o unedau ychwanegol ar y gweill ar hyn o bryd. Tynnwyd sylw at gynllun Tŷ Gwynedd sef datblygiad o 33 o dai canolraddol a fydd ar gael i’w prynu neu rentu.

 

Adroddwyd bod yr Adran ar drac i gyflawni’r nifer o bryniannau a osodwyd fel uchelgais cynllun Prynu i Osod ar gyfer 2023-24, gan fod 21 o dai wedi eu prynu gyda 5 ychwanegol yn agos i’w cwblhau.

 

Diweddarwyd bod yr Adran bellach wedi dosbarthu 4102 o dalebau ynni er mwyn darparu cymorth i bobl gyda costau ynni cynyddol a thlodi tanwydd. Manylwyd bod cyfanswm cost y talebau hyn yn £167,820 ac wedi mynd yn uniongyrchol i helpu pobl Gwynedd.

 

Nodwyd bod yr Adran yn wyneb her pan yn ceisio cysylltu gyda chwmnïau cyfleustodau yn enwedig mewn cysylltiad gyda chwmnïau atgyweirio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

Awdur: Carys Fôn Williams: Pennaeth Adran Tai ac Eiddo

12.

BLAENRAGLEN WAITH Y CABINET pdf eicon PDF 127 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadwyd Blaenraglen waith y Cabinet ar gyfer cyfarfodydd a gynhelir rhwng 14 Mai 2024 a 5 Tachwedd 2024.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Mabwysiadwyd Blaenraglen waith y Cabinet ar gyfer cyfarfodydd a gynhelir rhwng 14 Mai 2024 a 5 Tachwedd 2024.

 

TRAFODAETH

 

Ystyriwyd yr eitemau a nodwyd ar gyfer cyfarfodydd y Cabinet rhwng 14 Mai 2024 a 5 Tachwedd 2024.

 

13.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD pdf eicon PDF 129 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r Cyngor. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau yma rwy’n fodlon fod y mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau allan y wasg a’r cyhoedd o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar gweddill Eitem 7 ac Eitem 9 gan ei bod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym Mharagraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 - Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny).

 

Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir, fodd bynnag, fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus, fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei chyhoeddi. Mae’r adroddiadau yn benodol ynglŷn â materion ariannol a busnes ynghyd â thrafodaethau cysylltiedig. Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cynghorau ac yn tanseilio hyder rhai eraill sydd yn ymwneud â’r Cytundeb Twf i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau'r allbwn cyfansawdd gorau.

 

14.

HUNANIAITH: MENTER IAITH GWYNEDD

(Dogfennaeth i Aelodau Cabinet yn unig)

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd bod Menter Iaith Gwynedd Cyf yn cyflwyno cais grant Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg ar gyfer 2025/26, yn hytrach na Chyngor Gwynedd a throsglwyddo staff presennol i weithio i Fenter Iaith Gwynedd ar 1 Ebrill 2025.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid i gytuno ar amodau a chwblhau cytundeb gyda Menter Iaith Gwynedd Cyf yn unol â’r adroddiad ac yn darparu’r indemniadau a nodwyd ym mharagraff 3.4.6 o’r adroddiad ar gyfer costau staff.

 

Darparwyd grant o £61,000 i Fenter Iaith Gwynedd ar gyfer gwireddu rhai elfennau o strategaeth iaith Cyngor Gwynedd a chyfrannu tuag at gostau staff 2025-2026.

 

Cytunwyd i ddarparu gwarant ar gyfer Cytundeb Mynediad i Gronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer Menter Iaith Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd bod Menter Iaith Gwynedd Cyf yn cyflwyno cais grant Hybu a Hyrwyddo’r Gymraeg ar gyfer 2025/26, yn hytrach na Chyngor Gwynedd a throsglwyddo staff presennol i weithio i Fenter Iaith Gwynedd ar 1 Ebrill 2025.

 

Dirprwywyd yr hawl i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol mewn ymgynghoriad â’r Pennaeth Gwasanaethau Cyfreithiol a’r Pennaeth Cyllid i gytuno ar amodau a chwblhau cytundeb gyda Menter Iaith Gwynedd Cyf yn unol â’r adroddiad ac yn darparu’r indemniadau a nodwyd ym mharagraff 3.4.6 o’r adroddiad ar gyfer costau staff.

 

Darparwyd grant o £61,000 i Fenter Iaith Gwynedd ar gyfer gwireddu rhai elfennau o strategaeth iaith Cyngor Gwynedd a chyfrannu tuag at gostau staff 2025-2026.

 

Cytunwyd i ddarparu gwarant ar gyfer Cytundeb Mynediad i Gronfa Bensiwn Gwynedd ar gyfer Menter Iaith Gwynedd.

 

TRAFODAETH

 

Trafodwyd yr adroddiad

 

Awdur: Llywela Owain: Uwch Ymgynghorydd Iaith a Chraffu