Lleoliad: Hybrid - Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, LL55 1SH ac ar Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd yr Aelodau Cabinet a’r
Swyddogion i’r cyfarfod gan Ddirprwy Arweinydd y Cyngor. Diolchwyd i holl staff y Cyngor am
eu gwaith caled i sicrhau bod trigolion Gwynedd yn ddiogel yn dilyn tywydd
gwael diweddar. Tynnwyd sylw at ddiwrnod ymgyrch
fyd eang y Rhuban Gwyn (25 Tachwedd), sydd yn gweithio i stopio trais yn erbyn
merched a genethod. Cadarnhawyd y bu i
Gyngor Gwynedd dderbyn achrediad ym mis Mai 2022, yn gydnabyddiaeth o
ymdrechion oddi fewn y sefydliad i wneud gwahaniaeth gwirioneddol. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a
chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 15 HYDREF Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a
gynhaliwyd ar 15 Hydref 2024 fel rhai cywir. |
|
PREMIWM TRETH CYNGOR Cyflwynwyd gan: Cyng. Paul Rowlinson Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Argymell i’r Cyngor Llawn, mai’r canlynol yw’r
opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac
Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26: ·
Bod Cyngor Gwynedd yn
caniatáu dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn unol ag Adran 12 o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (hy. Dim newid). ·
Bod Cyngor Gwynedd yn
caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 150% ar ail gartrefi dosbarth B, yn
unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid). ·
Bod Cyngor Gwynedd, yn caniatáu dim disgownt i
gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6 mis neu fwy ac yn codi premiwm o 100% ar
gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12 mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf
Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y. dim newid). Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Paul Rowlinson. PENDERFYNIAD Argymell i’r Cyngor Llawn, mai’r canlynol yw’r
opsiwn a ffafrir o safbwynt lefel y Premiwm ar Dreth Cyngor Ail Gartrefi ac
Anheddau Gwag Hirdymor ar gyfer blwyddyn ariannol 2025/26: · Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu dim disgownt ar ail gartrefi dosbarth A, yn
unol ag Adran 12 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (hy. Dim newid). · Bod Cyngor Gwynedd yn caniatáu dim disgownt ac yn codi premiwm o 150% ar
ail gartrefi dosbarth B, yn unol ag Adran 12B o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol
1992 (h.y. dim newid). · Bod
Cyngor Gwynedd, yn caniatáu dim disgownt i gartrefi sydd wedi bod yn wag am 6
mis neu fwy ac yn codi premiwm o 100% ar gartrefi sydd wedi bod yn wag am 12
mis neu fwy, yn unol ag Adran 12A o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (h.y.
dim newid). TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan gadarnhau bod
angen gwneud penderfyniad ar lefelau premiwm Treth Cyngor ar gyfer ail gartrefi
ac anheddau gwag yn flynyddol mewn cyfarfod o’r Cyngor Llawn. Atgoffwyd bod y
lefelau Premiwm ar hyn o bryd yn 150% ar gyfer ail gartrefi ac yn 100% ar gyfer
anheddau sy’n wag ers 6 mis neu fwy (hirdymor). Eglurwyd bod lefelau’r premiwm
yn cynyddu’n awtomatig os oes cynnydd i osodiad Treth Cyngor. Cynigwyd argymell i’r lefelau premiwm ar
gyfer ail gartrefi ac anheddau gwag barhau ar yr un lefelau ar gyfer y flwyddyn
nesaf. Eglurwyd yr angen i
ddilyn canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, gan gadarnhau bod
canllawiau newydd wedi cael eu cyflwyno ers i lefelau’r premiwm gael ei
benderfynu gan y Cyngor Llawn y llynedd. Manylwyd bod y canllawiau diweddaraf
yn nodi bod gan Awdurdodau Lleol bŵer i gynyddu premiwm anheddau gwag er
mwyn annog perchnogion i ddod a’r anheddau hyn yn ôl i ddefnydd yn ogystal â
chynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy sydd ar gael a gwneud cymunedau yn fwy
cynaliadwy. Adroddwyd bod y
canllawiau diweddaraf a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn nodi dylid ystyried
nifer o ffactorau wrth benderfynu ar lefelau premiwm Treth Cyngor ar gyfer ail
gartrefi ac anheddau gwag. Manylwyd bod y rhain yn cynnwys: ·
Nifer a chanrannau’r eiddo gwag hirdymor ac ail gartrefi yn yr ardal leol. ·
Lleoliadau’r adeiladau ·
Effaith ar brisiau tai a fforddiadwyedd ·
Yr economi leol ·
Diwydiant twristiaeth ·
Gwasanaethau cyhoeddus ·
Y gymuned leol ·
Yr iaith Gymraeg Adroddwyd bod y Cyngor yn ystyried nifer o
fesurau eraill er mwyn sicrhau bod mwy o dai ar gael i drigolion a dod ag eiddo
gwag yn ôl i ddefnydd. Cadarnhawyd y cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus cyn cyflwyno premiwm Treth Cyngor ar ail gartrefi ac anheddau gwag am y tro cyntaf, ac hefyd cyn i’r premiwm cael ei godi dros 100%. Sicrhawyd bod y Cyngor wedi gweithredu ar y gofyniad hwn gan atgoffa y bu i’r ymgynghoriad diweddaraf gael ei gynnal wrth godi premiwm Treth Cyngor ail gartrefi i 150%, nol yn 2022. Nodwyd bod y canllawiau diweddaraf yn nodi nad oes angen cynnal ymgynghoriad pellach os yw’r Cyngor ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Dewi Aeron Morgan, Pennaeth Cyllid |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS DAI AC EIDDO Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Craig ab Iago. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan gadarnhau bod argyfwng
tai yn parhau yng Ngwynedd ac yn genedlaethol. Ymfalchïwyd mai Cyngor Gwynedd yw’r unig awdurdod yng
Nghymru sydd wedi lleihau niferoedd digartrefedd a chostau llety argyfwng gwely
a brecwast eleni. Adroddwyd bod hyn yn cadarnhau polisïau a gweithdrefnau
cadarn yr Adran. Ymhelaethwyd bod yr Adran wedi cynnal ‘Wythnos Ymwybyddiaeth
Ddigartrefedd’ yn ddiweddar er mwyn addysgu a thynnu sylw am y pwnc hwn, gan
nodi bod yr ymateb i’r ymgyrch wedi bod yn gadarnhaol. Mynegwyd balchder bod Dôl Sadler,
safle unedau llety gyda chefnogaeth i unigolion digartref, lleoliad cyntaf o
gynllun ehangach yng Ngwynedd, wedi cyrraedd rhestr fer gwobr ‘Best Supported Housing Development: Rural/Suburban’ gan Inside Housing yn ddiweddar.
Roedd cannoedd o enwebiadau wedi cael ei gyflwyno ar gyfer y wobr ac roedd yr
Adran yn falch iawn o gyrraedd y rhestr fer. Ymhelaethwyd bod prosiectau eraill ar y gweill i fynd
i’r afael a’r argyfwng digartrefedd, megis 137 Stryd Fawr, Bangor. Cadarnhawyd
bod y prosiect hwn yn esiampl dda o’r gefnogaeth sydd ar gael i unrhyw un sydd
yn profi digartrefedd a gobeithir cael mwy o leoliadau tebyg i’r dyfodol. Cadarnhawyd bod dros 317 o dai cymdeithasol bellach
wedi cael eu hadeiladu ers dechrau’r Cynllun Gweithredu Tai presennol.
Ymhelaethwyd bod hyn wedi bod yn gymorth i gartrefu 840 o drigolion Gwynedd.
Adroddwyd bod dros 220 o dai ar y gweill dros y flwyddyn nesaf. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: · Tynnwyd sylw bod y ffigyrau o ddarparu gwasanaeth Teleofal
wedi gostwng yn ddiweddar a gofynnwyd a oes cyfle yn codi i gydweithio’n fwy
effeithiol gyda’r tîm sydd yn darparu’r gwasanaeth. o
Mewn ymateb i’r sylw, cydnabuwyd bod y ffigyrau hyn
wedi gostwng yn ddiweddar oherwydd bod swyddogion yn datblygu fersiwn digidol
o’r gwasanaeth yn hytrach nag analog. Oherwydd hyn, nodwyd bod angen iddynt
ymweld â phob tŷ sydd yn defnyddio’r gwasanaeth er mwyn ei uwchraddio.
Cydnabuwyd bod hyn wedi rhoi llwyth gwaith ychwanegol ar y gwasanaeth ac wedi
arwain at gwymp mewn niferoedd sydd yn derbyn cefnogaeth Teleofal
am y tro cyntaf. Cadarnhawyd bod y gwaith hwn yn mynd yn ei flaen yn dda a
gobeithir bydd pob defnyddiwr y gwasanaeth gyda’r fersiwn digidol erbyn diwedd
Mawrth 2025. · Cadarnhawyd bod y broses Craffu yn bwysig iawn i weithrediad y Cyngor, gan
nodi bod yr Adran wedi derbyn adborth cadarnhaol am y Cynllun Gweithredu Tai
gan y Pwyllgor Craffu Gofal. o
Ymhelaethwyd bod yr Adran
hefyd wedi bod yn mynychu Pwyllgor Craffu Gofal ar gyfer trafod y Polisi Gosod
a materion eraill gan nodi eu bod yn sesiynau adeiladol iawn. Ychwanegwyd bod
sesiwn Craffu diweddar wedi cael ei gynnal gyda’r Adran a chynrychiolwyr o’r
Asiantaethau Tai a'i fod yn gyfle gwerthfawr iawn i rannu llawer o wybodaeth. · Cyfeiriwyd at y Pecynnau cefnogaeth sydd ar gael i landlordiaid preifat fel rhan o Gynllun Lesu Cymru, gan apelio at landlordiaid Meirionnydd i ddod i gyswllt ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. Awdur: Carys Fon Williams, Pennaeth Tai ac Eiddo |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET ECONOMI A CHYMUNED Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Bennaeth Adran Economi a Chymuned PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan atgoffa bod yr Adran yn
gyfrifol am dri chynllun o fewn Cynllun y Cyngor. Adroddwyd bod risg cyffredin
i’w weld ym mhob un o’r cynlluniau hynny, sef bod eu prif ffynhonnell ariannu
yn dod i ben ar ddiwedd Mawrth 2025. Eglurwyd bod diweddariadau wedi cael eu cadarnhau ers
cyflwyno’r adroddiad ysgrifenedig hwn i’r Cabinet. Diweddarwyd cyllid cynllun ‘Levelling up’ y Llywodraeth wedi
cael ei ymestyn hyd at Fawrth 2027. Ymhelaethwyd bod yr Adran yn disgwyl
cadarnhad bydd cyllid SPF (Cronfa Ffyniant Gyffredin) yn cael ei ymestyn am
flwyddyn ychwanegol, gyda chadarnhad swyddogol ar ei ffordd yn fuan. Cydnabuwyd bod ansicrwydd cyllidol yn parhau gyda
rhai cronfeydd megis cronfa ARFOR. Nodwyd y disgwylir derbyn mwy o wybodaeth am
y gyllideb hon yn dilyn cyhoeddiad cyllideb Llywodraeth Cymru o fewn yr
wythnosau nesaf. Manylwyd ar brosiect Adfywio Cymunedau a Chanol Trefi
gan nodi bod cynnydd i ddatblygiad y prosiect yn dilyn cyllideb SPF. Eglurwyd
bod 22 o brosiectau mentrau a sefydliadau lleol yn cael eu gweithredu o fewn y
prosiect. Cadarnhaodd bod cyllideb o £1.8miliwn yn cael ei ddefnyddio ar hyn o
bryd er mwyn datblygu’r prosiectau hyn hyd at Fawrth 2025. Adroddwyd bod
Cynllun Creu Lleoedd wedi cael ei ddatblygu ar gyfer Pwllheli, Porthmadog a’r
Bala, gyda chynllun yn cael ei baratoi ar gyfer Dolgellau. Ymhelaethwyd bod
arian cynllun Traws Newid Trefi ychwanegol wedi cael ei gadarnhau ar gyfer
gwella Canolfan Bro Tegid, Y Bala a Chynllun y Tŵr, Pwllheli. Cadarnhawyd bod Achos Amlinellol Strategol Cynllun
Hwb Iechyd a Lles Bangor wedi ei gymeradwyo gan Fwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr
gan nodi bod cais am gyfraniad ariannol Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei
gyflwyno. Tynnwyd sylw at brosiect ‘Creu’r amgylchiadau gorau
posib yng Ngwynedd i fusnesau a mentrau cymunedol ffynnu, a chefnogi pobl
Gwynedd mewn i waith’. Eglurwyd bod cyllideb o £1.4 miliwn a ariannwyd gan SPF
wedi cael ei ddyrannu i Gronfeydd Datblygu Busnes, gyda 45 o fusnesau Gwynedd
wedi derbyn cynigion o gymorth hyd yma. Diolchwyd i’r Cynghorydd Dyfrig Siencyn am ei waith
blaengar er mwyn sicrhau cyllideb ARFOR i Awdurdodau gorllewinol Cymru, gyda’r
gobaith bydd yr arian yn parhau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.
Ymhelaethwyd ei fod hefyd wedi bod yn gwneud gwaith arweiniol o fewn cynllun
Cais Twf Gogledd Cymru, gan roi sylw arbennig i gynlluniau Rhaglen Ddigidol,
Ynni, Twristiaeth, Bwyd-Amaeth a Thir ac Eiddo. Cyfeiriwyd at ‘Wythnos Busnes Gwynedd’ a gynhaliwyd ym
mis Hydref. Eglurwyd ei fod yn wythnos lwyddiannus iawn gyda nifer o fusnesau
yn cymryd rhan mewn digwyddiadau yn Nolgellau, Bangor a Phwllheli.
Cadarnhawyd bydd newyddlen benodol yn cael ei rannu gyda holl Gynghorwyr
Gwynedd gyda manylion pellach am y digwyddiadau a’r adborth a dderbyniwyd gan
fusnesau Gwynedd. Diolchwyd i wasanaeth Gwaith Gwynedd am eu cefnogaeth eleni, gan eu bod wedi sicrhau swydd ar gyfer 203 o drigolion Gwynedd yn ystod 2024/25 hyd yma. Ymhelaethwyd bod 8 o ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Sioned E. Williams, Pennaeth Economi a Chymuned |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS WASANAETHAU CORFFORAETHOL A CHYFREITHIOL Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad ar yr Adran Gwasanaethau
Corfforaethol gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol: Cadarnhawyd bod yr Adran yn arwain ar 6 o brosiectau
o fewn gwahanol feysydd blaenoriaeth Cynllun y Cyngor 2023-28. Adroddwyd bod pumed gyfres o raglen ddatblygol
‘Merched Mewn Arweinyddiaeth’ ar y gweill ar hyn o bryd. Ymfalchïwyd bod
diddordeb gan ferched o bob adran i gymryd rhan yn y rhaglen. Mynegwyd balchder
bod y ffigwr o ferched mewn swyddi rheolaethol yn 41%, sydd yn gynnydd o 11%
ers sefydlu’r prosiect. Cadarnhawyd bod data ar gynnydd ac mae effaith y
prosiect yn cael ei ddiweddaru yn gyson. Cynhaliwyd peilot cyflwyno ffurflenni cais swyddi yn
ddienw eleni. Nodwyd i fabwysiadu’r peilot yn hir dymor ar gyfer swyddi o ricyn
‘Arweinydd Tîm’ ac uwch, yn dilyn adborth cadarnhaol gan reolwyr sydd wedi
penodi staff yn ystod cyfnod y cynllun. Eglurwyd ei fod yn ddull safonol o
ystyried ceisiadau a chadarnhawyd bydd y trefniadau yn cael eu hadolygu pob 6
mis. Atgoffwyd bod Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2024-28
wedi cael ei fabwysiadu fel rhan o brosiect ‘Sicrhau Tegwch i Bawb’. Eglurwyd
bod gwahanol wasanaethau o fewn y Cyngor yn cydweithio er mwyn rheoli amrywiol
agweddau o’r cynllun. Mynegwyd balchder bod gwaith wedi ei wneud er mwyn
datblygu cerrig milltir fanwl ar gyfer yr holl feysydd, gyda phob un ar draw
i’w cwblhau’n amserol eleni. Ymhellach, nodwyd bod hyfforddiant ar
ddyletswyddau rheolwyr yn y maes cydraddoldeb yn y broses o gael ei greu, gyda
gwybodaeth benodol ar sut i gynnal asesiadau effaith cydraddoldeb. Pwysleisiwyd
bod gan benaethiaid fynediad at wybodaeth sydd yn rhoi darlun byw o niferoedd
staff sydd wedi cwblhau’r hyfforddiant craidd ar gydraddoldeb. Mynegwyd balchder bod dros 300 o geisiadau ymysg y
cynllun prentisiaid eleni, gan nodi fod hyn oddeutu dwywaith nifer yr ymgeiswyr
o’r llynedd. Cadarnhawyd bod 15 prentis newydd a 5 hyfforddai proffesiynol
newydd wedi eu penodi. Eglurwyd y golyga hyn bod y Cyngor yn cyflogi 51 o
brentisiaid a hyfforddeion proffesiynol ar gytundebau llawn amser ar hyn o bryd
Ymfalchïwyd bod 8 prentis a 2 hyfforddai proffesiynol wedi cwblhau eu
cymwysterau ac wedi derbyn swyddi llawn amser gyda’r Cyngor yn ddiweddar. Tynnwyd
sylw hefyd at 4 person ychwanegol sydd wedi cael eu cyflogi drwy’r Pŵl
Talent. Tynnwyd sylw penodol at y Gwasanaeth Ymchwil a Gwybodaeth
gan ddiolch iddynt am eu gwaith manwl i asesu effaith Premiwm Treth Cyngor yn
ddiweddar. Ymhelaethwyd eu bod hefyd wedi derbyn cydnabyddiaeth yn ddiweddar am
eu hadolygiad o wasanaethau gofal pobl hŷn i’r dyfodol yng Ngwynedd drwy
gynllun Llechen Lân, gan fod y gwaith wedi cyrraedd rhestr fer mewn digwyddiad
cenedlaethol ym maes ymchwil, gyda’r canlyniad i’w gyhoeddi yn fuan. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Llongyfarchwyd yr adran ar
lwyddiant cynllun ‘Merched Mewn Arweinyddiaeth’ a phrentisiaid. ·
Cyfeiriwyd at gynllun
‘Cadw’r Budd yn Lleol’ gan ofyn am wybodaeth bellach ar ddatblygiad y cynllun. o Eglurwyd bod y cynllun yn ymdrechu i sicrhau bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. Awdur: Ian Jones, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Iwan Evans, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol |
|
ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS OEDOLION, IECHYD A LLESIANT Cyflwynwyd gan: Cyng. Dilwyn Morgan Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan ddiolch i holl weithwyr gofal
sydd yn gweithio i gefnogi pobl fregus drwy gydol y flwyddyn ac yn enwedig yng
nghanol y tywydd garw diweddar. Cadarnhawyd bod y gwaith o uwchraddio cartrefi gofal
yn y Bermo a Dolgellau. Yn yr un modd, ymfalchïwyd
bod y gwaith yn Hafod Mawddach. Cadarnhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn
canfod unigolion addas i ddefnyddio’r offer sydd ar gael yn y Bermo a Hafod Mawddach ar hyn o bryd. Mynegwyd balchder bod
y gofal Dementia arbenigol angenrheidiol bellach ar gael i ddioddefwyr yn Hafod
Mawddach yn dilyn cyfnod heriol. Cydnabuwyd bod gallu’r Cyngor i weithredu fel
landlord yn Nhŷ Meurig, sydd yn darparu llety i unigolion sydd yn derbyn
cefnogaeth yr Adran, wedi bod yn heriol yn y gorffennol. Er hyn, cadarnhawyd
bod y Cyngor wedi derbyn cadarnhad bod modd gweithredu fel landlord a darparu
tenantiaeth gan sicrhau mwy o reolaeth dros y ddarpariaeth i ddatblygiadau
cyffelyb. Ymhelaethwyd bod yr Adran wedi cydweithio gyda’r Adran Tai ac Eiddo
er mwyn dylunio’r adeilad yn y gobaith o dderbyn caniatâd cynllunio pan yn amserol. Eglurwyd bod llithriad bychan yn yr amserlen ar
gyfer datblygu tŷ a chefnogaeth ble roedd bwriad iddo fod yn barod erbyn
diwedd y flwyddyn ariannol bresennol. Fydd bynnag, cadarnhawyd bod yr Adran yn
ymdrechu i sicrhau bod y tŷ hwn ym Mhwllheli yn
barod cyn Haf 2025. Ymhelaethwyd bod ail dŷ, ym Mhenrhyndeudraeth
yn debygol o fod yn barod erbyn gwanwyn 2025. Adroddwyd bod y gwaith tendro ar gyfer datblygu
Canolfan Dolfeurig wedi cael ei gynnal yn ddiweddar
ond bod y cynigion a ddaeth i law yn sylweddol uwch na’r arian a ymrwymwyd o
fewn Cynllun y Cyngor. Ymhelaethwyd bod yr adran wedi bod yn cynnal
trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru am y posibilrwydd o ariannu’r bwlch yng
nghostau’r cynllun a phwysleisiwyd bydd penderfyniad yn cael ei gyhoeddi’n fuan
iawn, er mwyn gallu cychwyn ar ddatblygu’r safle. Ymfalchïwyd bod Cydlynydd Llwybr Gyrfa Anabledd Dysgu
wedi cael ei phenodi ac mae gwaith o hyrwyddo cyfleoedd gwaith a chefnogi
unigolion i waith cyflogedig yn mynd rhagddo. Eglurwyd bod y canran o oriau gofal cartref sydd heb
eu diwallu ar ei isaf ers blwyddyn, gyda 84 o unigolion yn aros am ofal
cartref. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn cynnal trafodaeth gyda phartneriaid yn
genedlaethol er mwyn sicrhau bod llai o bobl yn gorfod aros am wasanaeth gofal
cartref yn y dyfodol. Tynnwyd sylw at y Gwasanaeth Pobl Hŷn,
Anableddau Corfforol a Synhwyraidd gan gydnabod bod rhestr aros ar gyfer derbyn
asesiad gofal yn parhau i gynyddu. Esboniwyd bod yr her fwyaf yn ymwneud â
diffyg capasiti therapyddion galwedigaethol.
Pwysleisiwyd bod yr Adran yn ymwybodol ar yr heriau hyn gan geisio sicrhau bod
adnoddau a swyddogion yn cael eu targedu’n effeithiol er mwyn datrys rhai o’r
problemau sy’n codi. Nodwyd bod cynnydd i’w weld yn y canran o oedolion sy’n derbyn taliadau uniongyrchol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. Awdur: Aled Davies, Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant |