Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting

Cyswllt: Sioned Mai Jones  01286 679665

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd pawb i’r cyfarfod gan nodi ei bod bellach yn hanner ffordd drwy 2025, a bod y chwe mis diwethaf wedi bod yn heriol ond fod balchder o lwyddiannau’r Cyngor.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

 

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

 

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 10 MEHEFIN 2025 pdf eicon PDF 109 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 10 Mehefin 2025 fel rhai cywir. 

 

6.

ADRODDIAD CHWARTEROL - CADEIRYDD Y BWRDD RHAGLEN CYNLLUN YMATEB pdf eicon PDF 134 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cymerwyd y cyfle, cyn i’r Athro Sally Holland, fel Cadeirydd Annibynnol y Bwrdd roi ei hadroddiad, i gydnabod a diolch i’r dioddefwyr a goroeswyr am eu dewrder gan amlygu mai nhw sydd ar flaen meddyliau’r Bwrdd wrth yrru’r gwaith hwn ymlaen. Nodwyd fod y Cynllun Ymateb wedi ei fabwysiadu yn ôl ym mis Ionawr er mwyn coladu holl gefnogaeth, adolygiadau, archwiliadau a ffrydiau gwaith yn ymwneud â’r ymateb i’r troseddau. Tynnwyd sylw at amcanion y cynllun ymateb a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025. Yn fuan wedi i’r cynllun gael ei fabwysiadu bu i aelodau annibynnol gael eu penodi i’r Bwrdd a bod yr adroddiad hwn yn adrodd ar gynnydd y gwaith sy’n cael ei wneud ynghyd a’r gwaith sy’n parhau angen ei gwblhau. 

 

Cyflwynodd yr Athro Sally Holland ei adroddiad gan atgoffa’r Cabinet fod y Cynllun Ymateb wedi dod i’r amlwg yn dilyn toriad mewn ymddiriedaeth ac ymddygiad troseddol pennaeth amlwg a gyflogwyd gan Gyngor Gwynedd. Nodwyd fod cam drin o’r natur hwn yn aml yn cynnwys un yn defnyddio ei bŵer dros eraill, ac yn yr achos hwn a oedd yn cynnwys oedran, rhyw a statws. Mynegwyd ei bod yn hanfodol fod y Cyngor yn archwilio ei holl systemau a’i ffordd o weithio i sicrhau ac atal ymddygiad o’r math hwn i ddigwydd eto, a bod diwylliant o fod yn effro a herio yn ei le. Amlygwyd fod newid mewn diwylliant am fod yn llawer yn anoddach i’w mesur na phrosesau a pholisïau.

 

Esboniwyd fod gan y Bwrdd ddwy rôl sef i gynghori ac i graffu ar gynnydd a datblygiadau’r Bwrdd Cynllun Ymateb. Eglurwyd fod y Bwrdd yn cynnwys Uwch Swyddogion, Aelodau Cabinet ac Aelodau Annibynnol. Mynegwyd fod y Cadeirydd yn cyfarfod a’r aelodau annibynnol ar wahân unwaith pob chwarter er mwyn derbyn eu barn. Amlygwyd fod y Bwrdd Ymateb wedi’i ysgrifennu cyn i’r bwrdd gael ei benodi ac yn eu cyfarfod cyntaf eglurwyd fod y Bwrdd wedi adolygu’r dulliau ymateb ynghyd a’r amcanion gan ychwanegu’r amcan pwysig o atebolrwydd, er mwyn bod yn dryloyw a mesur effaith unrhyw newidiadau. Nodwyd o ganlyniad fod mesuriadau ychwanegol wedi’u cynnwys. Mynegwyd y bydd y Bwrdd yno gystal yn tynnu sylw at unrhyw fater Cenedlaethol yn ogystal megis sut mae byrddau llywodraethu cefnogi a hyfforddi.

 

Nodwyd fod cynnydd cyson wedi ei weld ers mis Mawrth, ond fod rhan helaeth o’r rhain am gymryd amser i gael effaith. Pwysleisiwyd ei bod yn hawdd iawn i newid polisïau ond fod newid ffordd o weithio am gymryd amser. Amlygwyd fod gwaith wedi ei wneud i ddechau’r broses o gynnal ymweliadau blynyddol er mwyn monitro diogelu ym mhob ysgol yn y sir a bod cefnogaeth wedi ei roi’i arweinyddiaeth a bwrdd llywodraethu Ysgol Friars.

 

Eglurwyd fod cynnwys y cynllun ei hun wedi ei newid yn dilyn cyngor gan y Bwrdd, a bellach fod mwy o gynlluniau i dderbyn llais bobl ifanc am eu hyder mewn diogelu wedi ei gynnwys ynghyd ac argymhellion  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Dafydd Gibbard, Chief Executive

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL - FFORDD GWYNEDD 2024/25 pdf eicon PDF 171 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod Ffordd Gwynedd yn un o’r blaenoriaethau sydd i’w gweld yng Nghynllun y Cyngor. Mynegwyd fod yr adroddiad blynyddol yn adrodd ar gynnydd yn y cynllun, ac i godi ymwybyddiaeth o’r datblygiadau sydd i’w gweld yn y naw ffrwd gwaith.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod Ffordd Gwynedd yn ffordd o weithio, yn feddylfryd, amgylchedd gweithio a diwylliant i gyflawni a herio perfformiad. Mynegwyd fod adroddiad blynyddol wedi ei gynnwys yn y Cynllun Ffordd Gwynedd er mwyn mesur cynnydd, ag eglurwyd mai dyma’r ail i gael ei gyflwyno.

 

Esboniwyd fod y mesuryddion ym mhob gwasanaeth yn dangos arwydd clir o lefel y llwyddiant o roi pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth maent yn ei wneud. Nodwyd fod yr adroddiad hwn yn ychwanegu sicrwydd fod y sylfaen a chefnogaeth yn cael ei roi i roi'r gwasanaeth gorau i bobl Gwynedd. Amlygwyd fod rhai man newidiadau i’r drefn llywodraethu ynghyd a chynnig y prif lwyddiannau a oedd yn cynnwys dyfodiad rhaglen ddatblygu rheolwyr, fframwaith dysgu a datblygu newydd ynghyd â hyfforddiant Ffordd Gwynedd ar ei newydd wedd.

 

Pwysleisiwyd ei bod yn allweddol fod staff yn clywed am ymrwymiad arweinyddiaeth y Cyngor - yn Aelodau ac Uwch Swyddogion - i’r ffordd yma o weithio. Nodwyd fod parhad cynllun Prentisiaethau, Cynllun Yfory, Siarter a Safonau Cynllun Gofal Cwsmer yn gamau pwysig er mwyn gwireddu’r weledigaeth i sicrhau’r gwasanaeth gorau i bobl Gwynedd.

 

Er hyn, nodwyd nad yw’r diwylliant Ffordd Gwynedd ddim wedi gwreiddio ym mhob man a bod anghysondeb i’w gweld dros y Cyngor. Mynegwyd fod hyn yn flaenoriaeth dros y cyfnod nesaf. Amlygwyd fod llawer o ganmoliaeth wedi ei nodi yn y gyfres ddiweddaraf o’r Pwyllgorau Craffu ond fod beirniadaeth am y methiant i ateb ymholiadau yn rhai gwasanaethau yn amserol. Mynegwyd yn ogystal fod angen edrych ymhellach ar y gweithlu yn y tymor hir i sicrhau lefel o staff. Ond nodwyd ei fod yn grediniol fod ymrwymiad i Ffordd Gwynedd a’i ddiwylliant gwaith i’w weld am y tymor hir.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

·       Cymerwyd y cyfle i ddiolch i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol am dros 40 mlynedd o wasanaeth i’r Cyngor cyn ei ymddeoliad.

·       Holwyd o ran y pocedi o wasanaethau sydd heb fabwysiadu Ffordd Gwynedd, holwyd os oedd y tîm Arweinyddiaeth wedi ymrwymo i’r ffordd yma o weithio a gofynnwyd a oedd yn hyderus fod y gwaith am barhau. Mynegodd y Cyfarwydd ei fod yn gwbl hyderus fod arweinyddiaeth y Cyngor yn ymrwymedig ond nad yw hyn bob tro yn golygu ei fod wedi ei wreiddio ym mhob man.

·       Mynegwyd fod llawer o sôn am rwystredigaeth ond ei fod yn symud ymlaen i’r cyfeiriad cywir, ond holwyd beth oedd yr heriau mwyaf a’r camau sydd angen ei wneud dros dair blynedd olaf y cynllun. Nodwyd mai trosglwyddo’r sylfaeni cadarn i weithrediad cyson yw’r flaenoriaeth.

·       Amlygwyd llithriad mewn dwy ffrwd gwaith - o ran denu staff a dilyniant i swyddi allweddol, a gofynnwyd oes camau pendant i symud  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Geraint Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol

8.

CYNLLUN GOFAL CWSMER pdf eicon PDF 98 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Llio Elenid Owen

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Cynllun Gofal Cwsmer.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y Cynllun Gofal Cwsmer

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y cyswllt a chwsmer yn un o ffrydiau gwaith blaenoriaeth cynllun Ffordd Gwynedd o fewn Cynllun y  Cyngor. Amlygwyd fod cynllun yn cael ei gyflwyno yn dilyn gwaith ymchwil ymgysylltu ac ymgynghori gyda thrigolion a staff. Mynegwyd fod y cynllun gyda dwy elfen amlwg sef y Siarter Gofal Cwsmer a Safonau. Eglurwyd fod y Siarter yn amlinellu beth mae cwsmer yn disgwyl gan y Cyngor ac ymddygiadau mae’r Cyngor yn ei ddisgwyl gan gwsmer, a bod y Safonau yn gosod amser ymateb clir felly fod y cwsmer a staff yn ymwybodol o’r disgwyliadau.

 

Tynnwyd sylw at y gwahaniaeth barn a amlygwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori a oedd yn cynnwys rhai yn falch o weld amser clir o ran ymateb ac eraill yn codi pryderon am y gallu ymarferol i gadw at y safonau. Mynegwyd fod gwahaniaeth barn yn ogystal at rai yn nodi’r angen am safonau uwch ar gyfer aelodau etholedig. Nodwyd gobaith y bydd gosod safonau clir yn annog rheolwyr i gynnal adolygiadau gwasanaeth er mwyn adnabod heriau ac i ddod o hyd i ffordd i’w diddymu drwy edrych o bosib ar gyfleodd newydd megis AI.

 

Nodwyd fod trafodaeth wedi bod ar y gair cwsmer, a rhai yn awyddus i’w newid i drigolyn ond ar ôl meddwl nid oedd yn addas gan fod y Cyngor yn gwasanaethu tu hwnt i “bobl Gwynedd” megis busnesau. Mynegwyd fod Asesiad Cydraddoldeb wedi ei wneud i sicrhau fod y cynllun yn diwallu anghenion, cefnogi pobl fregus ac yn oed cyfeillgar. Nodwyd y camau fydd i ymgysylltu a thrigolion, i sefydlu hyfforddiant newydd i sicrhau fod rheolwyr a staff yn ymwybodol o’r safonau disgwyliedig. 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Tynnwyd sylw at y gwahaniaeth barn am y cymal “derbyn yr ateb terfynol a pharchu’r penderfyniad” a oedd wedi codi yn y cyflwyniad, gan holi pam ei fod wedi parhau yn y penderfyniad. Mynegwyd ei fod deg deud ei fod yn dod o ogwydd staff, a'i fod ddim ond yn deg fod y cwsmer yn cael herio yn ogystal. Eglurwyd er bod y cymal i mewn nad yw’n golygu nad oes modd herio, ond mae pwynt yn dod ble mae’n rhaid derbyn yr ateb terfynol ac i’r achwynydd fynd ymlaen i drefn gwynion yr Ombwdsmon os ddim yn dod i gytundeb. Nodwyd ei fod wedi ei gynnwys fel pwynt o linell glir.

·       Holwyd sut bydd y cynllun yn cynnwys pobl sy ddim cynnwys technoleg neu gydag anableddau. Mynegwyd fod y Cynllun ar gyfer pawb, a bod camau er mwyn i bawb allu cysylltu drwy dechnoleg, trefniadau ffon, Siop Gwynedd, ac amlygwyd y bydd yr hyfforddiant i Reolwyr ac Arweinyddion Tîm ar sut i ddylunio gwasanaethau i neud yn siŵr eu bod yn cyfarch pob cwsmer o fewn cymuned.

 

Awdur: Catrin Love, Pennaeth Cynorthwyol Adran Gwasanaethau Corfforaethol

9.

ADRODDIAD BLYNYDDOL PANEL STRATEGOL DIOGELU pdf eicon PDF 59 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Menna Trenholme

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad yn adrodd ar waith y Panel.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Menna Trenholme. 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad yn adrodd ar waith y Panel.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod yn amlygu sut mae’r Cyngor yn cyflawni ei ddyletswyddau diogelu statudol. Mynegwyd drwy’r panel ac archwiliadau allanol ei fod yn sicrhau fod trefniadau diogelu yn gadarn ar draws y Cyngor. Amlygwyd fod cynnydd sylweddol mewn cyfeiriadau i’r adran Blant gan nodi fod yr achosion yn fwy cymhleth nac erioed, a nodwyd fod digwyddiad difrifol yn Ysgol Friars. Mynegwyd fod cyfeiriadau yn y maes Oedolion wedi gweld cynnydd graddol yn ogystal, ac eto fod yr achosion yn fwy cymhleth. Eglurwyd fod sefyllfa DOLs yn parhau yn heriol ond fod buddsoddiad ac adnoddau ychwanegol ar waith.

 

Nodwyd yn ystod y flwyddyn fod camau wedi ei wneud i gryfhau diogelwch mewn ysgolion, gyda’r mwyafrif o ysgolion yn cydymffurfio gyda chanrannau uchel wedi mynychu’r hyfforddiant i staff a llywodraethwyr. Mynegwyd fod cynnydd o 30% yn nifer y plant sy’n derbyn hyfforddiant adref, ond fod cyswllt cyson gyda mwyafrif o’r teuluoedd.

 

Eglurwyd fod y Cyngor yn parhau i fod codi ymwybyddiaeth o’r maes Trais yn y Cartref, a'u bod yn gweithio yn rhagweithiol drwy hyfforddiant, partneriaethau aml-asiantaeth ac adolygiadau achos. Nodwyd cynnydd mewn nifer achosion stelcian ac aflonyddu, ond ei fod wedi arwain at gyd-weithio gyda’r Heddlu i ddatblygu proffil i ddysgu yn well. Mynegwyd lleihad mewn ymddygiadau gwrthgymdeithasol, ond amlygwyd fod pryder mewn caethwasiaeth fodern yn parhau.

 

Amlygwyd blaenoriaethau'r flwyddyn i ddod fel nodwyd isod

·       Deall a dysgu gwersi ddaw o Adolygiadau Ymarfer a edrydd yn ystod y flwyddyn.

·       Adolygiadau Ymarfer a gyhoeddir yn ystod y flwyddyn ar waith.

·       Cwblhau archwiliad mewnol ar ymwybyddiaeth a dealltwriaeth gweithlu’r Cyngor o systemau diogelu a sut mae cyfeirio.

·       Sicrhau bod gweithlu’r Cyngor wedi cwblhau’r cyrsiau hyfforddiant mandadol a statudol ym maes diogelu.

·       Hyrwyddo’r Polisi Diogelu diwygiedig ymysg holl staff y Cyngor.

·       Sicrhau bod y Personau Dynodedig yn deall eu rôl ac yn ei gymryd o ddifri.

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol fod pawb mewn risg i fod yn fregus gan fod modd i sefyllfaoedd newid dros nos. Amlygwyd egwyddorion sylfaenol y maes a oedd y cynnwys grymuso unigolion i sicrhau eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau lle yn bosib, diogelu a bod holl staff y Cyngor yn ymwybodol o’i chyfrifoldeb i sicrhau cymunedau diogel ac atebolrwydd. Mynegwyd fod yr egwyddor o atebolrwydd wedi ei amlygu yn adroddiad cyntaf y Cabinet hwn.

 

Mynegwyd fod yr adroddiad Amddiffyn Plant yn fwy iawn, a'u bod yn barod am yr adroddiad ac i ymatebion i unrhyw argymhellion fydd yn dod ohono.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Nodwyd fod yr adroddiad yn mynd i fanylder am ddiogelu Oedolion, ond nad yw’n faes gwaeth cyfarwydd i nifer o bobl, felly gofynnwyd am ychydig o fanylder. Mynegwyd fod cefnogaeth ar gael i unigolion, a'u bod yn ymyrryd pan nad oes gan unigolion y capasiti i wneud penderfyniad er lles eu diogelwch.  Nodwyd yr angen i weld mwy o gyfeiriadau er mwyn sicrhau diogelwch pobl a bod cymunedau yn ymwybodol o’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Dylan Owen, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol

10.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION A GWELLA GWASANAETH 2024-25 pdf eicon PDF 643 KB

Cyflwynwyd gan: Cllr. Llio Elenid Owen

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Llio Elenid Owen.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr adroddiad.  

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adroddiad blynyddol wedi bod yn cyhoeddi llythyr yr Ombwdsmon yn ogystal, ond amlygwyd nad oedd y llythyr wedi cyrraedd eto. Mynegwyd fod nifer y cwynion wedi gostwng ond fod nifer cwynion sydd wedi mynd at yr Ombwdsmon wedi cynyddu. Eglurwyd cyn covid fod nifer y cwynion wedi lleihau ond fod cynnydd wedi bod yn gyson ers hynny. Amlygwyd fod amser ymateb, ac nid cydnabod y gwyn, ar gyfartaledd yn 17 diwrnod. Nodwyd fod gwaith yn parhau i gryfhau cyd weithio ac i newid meddylfryd fod cwynion yn ffordd o wella gwasanaeth. Tynnwyd sylw yn ogystal at y wal lwyddiannau sydd yn amlygu’r gwaith da mae gwasanaethau yn ei wneud.

 

Nododd Pennaeth Cynorthwyol Gwasanaethau Corfforaethol fod yr adroddiad yma yn plethu i mewn i’r Cynllun Gofal Cwsmer gan mai diffyg ymateb yw un o’r prif gwynion sydd yn cyrraedd y Cyngor.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Holwyd beth oedd y rheswm dros y cynnydd mewn cwynion yn mynd at yr Ombwdsmon, eglurwyd fod y cynnydd oherwydd bod mwy o ddealltwriaeth o’r drefn cwynion.

 

Awdur: Ian Jones, Pennaeth Adran Gwasanaethau Corfforaethol