Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Am-Leoliad / Hybrid Meeting

Cyswllt: Gwen Alaw Roberts  E-bost: Gwenalawroberts@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 10 CHWEFROR pdf eicon PDF 164 KB

Dogfennau ychwanegol:

6.

CYFIAWNDER TRWY EIN DEWRDER: CYNLLUN YMATEB CYNGOR GWYNEDD pdf eicon PDF 257 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd a mabwysiadwyd y Cynllun Ymateb ar ei newydd wedd (Atodiad 1).

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd a mabwysiadwyd y Cynllun Ymateb ar ei newydd wedd (Atodiad 1).

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad a chymerwyd y cyfle i gydnabod dewrder y dioddefwyr, a phwysleisiwyd eu bod ar flaen meddyliau pob un wrth drafod y pwnc anodd hwn.

 

Rhoddwyd cefndir yr adroddiad a datganwyd bod y Cynllun yn fyw ac wedi esblygu dros amser, yn enwedig ers cyhoeddi’r adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder.

 

Cyfeiriwyd at addewid y Cyngor i weithredu holl argymhellion yr adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, gan nodi y bu i’r Cynllun Ymateb gael ei ail-lunio er mwyn cyfarch yr holl argymhellion hyn. Esboniwyd y dilyna’r Cynllun 7 Ffrwd Gwaith, a hynny i gyd-fynd â phrif themâu’r adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder.

 

Cadarnhawyd bod y Cynllun Ymateb hwn, ar ei newydd wedd, wedi’i gyflwyno gerbron y Pwyllgor Craffu Gofal, y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a’r Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi. Amlygwyd y caiff argymhellion y Pwyllgorau hyn eu cynnwys yn atodiad 3 y pecyn.

Yn ogystal, bu’r Cynllun Ymateb gerbron y Cyngor Llawn fis diwethaf er mwyn sicrhau bod pob cynghorydd o fewn y Cyngor wedi cael cyfle i roi eu mewnbwn, ac i gynnig unrhyw awgrymiadau pellach i gryfhau’r Cynllun. Gan ddiolch i’r holl aelodau a fu’n rhan o hynny, sicrhawyd bod holl sylwadau’r aelodau wedi eu hystyried cyn cyflwyno’r Cynllun i’r cyfarfod hwn o’r Cabinet.

 

Amlygwyd gan y Prif Weithredwr bod ymateb i’r hyn a digwyddodd yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth i’r Cyngor, a chaiff phob ymdrech ei rhoi i sicrhau’r Cynllun Ymateb gorau posib. Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb, gan adnabod fod y Cyngor yn ffodus o gael y mewnbwn hwn gan y Cadeirydd, a’r holl asiantaethau a sefydliadau sy’n eistedd ar y Bwrdd hwn.

Cadarnhawyd mai’r camau nesaf fydd i barhau gyda’r cyflawni sy’n mynd rhagddo, a chydnabuwyd y cynnydd calonogol sy’n parhau i gael ei wneud.

Datganwyd bod naratif y Cynllun yn esbonio’r hyn a fydd yn cael ei wneud gan y Cyngor i gyflawni o dan yr holl feysydd a’u hadnabu.

Tynnwyd sylw at y fersiwn gryno o’r Cynllun Ymateb sydd yn y pecyn, gan nodi ei fod yn ymateb i sylwadau o fewn pwyllgorau am yr angen i grynhoi'r hyn sydd wedi ei wneud, a’r hyn sy’n parhau i gael ei wneud gan y Cyngor mewn ymateb.

Cyfeiriwyd at ddwy ddogfen bellach sydd wrthi’n cael eu datblygu, a hynny er mwyn sicrhau bod y wybodaeth yn gallu cael ei weld a’i ddeall gan bawb o fewn ein cymdeithas.

Datganwyd bod adnoddau wedi eu rhoi o fewn cyllideb y Cyngor i gyflawni’r gwelliannau sydd wedi eu hadnabod, gan dynnu sylw at y maes Llais y Plentyn yn benodol.

Croesawyd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Gofal i’r cyfarfod i gyflwyno argymhellion y pwyllgor i’r Cabinet. Mynegwyd balchder bod y galw am gyfarfod arbennig o’r Cyngor Llawn wedi ei gyfarch. Aethpwyd drwy argymhellion y Pwyllgor, sydd wedi eu cynnwys yn atodiad 3 yn y pecyn, gan  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr

7.

ADRODDIAD CHWARTEROL - CADEIRYDD Y BWRDD RHAGLEN CYNLLUN YMATEB pdf eicon PDF 135 KB

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad gerbron sef y trydydd adroddiad chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad gerbron sef y trydydd adroddiad chwarterol gan Gadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb.

 

TRAFODAETH

 

Eglurwyd mai’r dyma drydydd adroddiad chwarterol Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb, a’i bwrpas yw diweddaru’r Cabinet ar gynnydd rhaglen waith a gweithrediad y Bwrdd Ymateb.

Adnabuwyd bod yr adroddiad yn codi ymwybyddiaeth o’r datblygiadau, yr hyn sydd wedi ei gyflawni, a’r hyn sy’n parhau angen ei gyflawni gan y Bwrdd.

 

Croesawyd Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb i’r cyfarfod. Datgelwyd bod y Bwrdd bellach yn cyfarfod bob dau fis er mwyn rhoi mwy o amser i swyddogion weithio ar y Cynllun rhwng cyfarfodydd. Yn dilyn cyhoeddi’r adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, amlygwyd bod y Bwrdd wedi cytuno i gyhoeddi ei bapurau er mwyn cynyddu tryloywder y gwaith. Adnabuwyd bod y Bwrdd wedi symud i gyfnod mwy strategol.

 

Amlygwyd bod y dioddefwyr a’r goroeswyr yn parhau i fod ar flaen meddylia’r Bwrdd, ac ychwanegwyd bod y Bwrdd hefyd yn parhau i gynnig cymorth a chraffu i Gyngor Gwynedd. 

Tynnwyd sylw at yr ymgysylltiad rhagorol â’r Bwrdd gan ei aelodau a’i arsylwyr allanol, gyda phresenoldeb llawn ym mhob cyfarfod. Soniwyd am y cyfarfodydd a gaiff eu cynnal gan y Cadeirydd gyda phartneriaid allweddol, arsylwyr allanol, ac aelodau’r Cabinet i nodi’r wybodaeth sy’n deillio o’r Bwrdd.

Cadarnhawyd bod y Cadeirydd y Bwrdd yn parhau i dderbyn gwybodaeth a chefnogaeth dda gan swyddogion ac Aelodau Cabinet Cyngor Gwynedd.

 

Trafodwyd y datblygiadau allweddol a wnaed yn y chwarter diwethaf, gan dynnu sylw at y cynnydd cyson o fewn nifer o feysydd allweddol, er enghraifft datblygu a monitro diogelu mewn ysgolion, a chynnwys plant a phobl ifanc wrth ddatblygu polisïau.

Ymfalchïwyd bod pennaeth newydd Ysgol Friars wedi ei phenodi’n barhaol, gan nodi ei bod hefyd yn aelod o’r Bwrdd.

 

Amlygwyd balchder o weld mwy o uwch swyddogion y Cyngor yn dod yn rhan o arweinyddiaeth y Cynllun Ymateb, a mwy o adnoddau yn cael eu rhoi i faes diogelu o fewn y Cyngor.

 

Adroddwyd bod mesurau effaith newydd ar gyfer y Cynllun Ymateb diwygiedig bellach wedi eu cytuno, ac mae’r Bwrdd yn dechrau derbyn adroddiadau ar y rhain.

Wrth fanylu ar gamau nesaf y Bwrdd, datganwyd bod dau adolygiad ar y gweill ar lefel genedlaethol a fydd yn cael effaith ar y gwaith hwn. Datganwyd y bydd mwy o graffu ar y Cynllun Ymateb o fewn Gyngor Gwynedd, ac amlygwyd bod llawer mwy o waith i’w wneud i adfer ymddiriedaeth pobl Gwynedd.

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Cyfeiriwyd at yr hanes o fwlio ehangach yn Ysgol Friars a holwyd a yw bwlio fel hyn yn cael ei adnabod fel mater o bryder. Nodwyd bod ymddygiad fel hyn yn gyffredin mewn nifer o droseddwyr, felly ei fod yn cael ei nodi o fewn hyfforddiant ‘grooming’. Gobeithiwyd y bydd yr hyfforddiant newydd yn adnabod ac yn tynnu sylw at yr ymddygiadau nodweddiadol hyn. Esboniwyd y gellid codi pryder am yr ymddygiadau hyn drwy’r systemau o fewn y Cyngor, ac os nad  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Yr Athro Sally Holland, Cadeirydd y Bwrdd Rhaglen Cynllun Ymateb

8.

CYNLLUN CYNGOR GWYNEDD 2023-28 - ADOLYGIAD 2026/27 pdf eicon PDF 284 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad fel cofnod o’r newidiadau technegol hyd yn hyn yn yr adolygiad o Gynllun y Cyngor gan ofyn am waith golygyddol pellach cyn cyflwyno’r adolygiad yn ei ffurf derfynol i’r Cyngor Llawn.

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad fel cofnod o’r newidiadau technegol hyd yn hyn yn yr adolygiad o Gynllun y Cyngor gan ofyn am waith golygyddol pellach cyn cyflwyno’r adolygiad yn ei ffurf derfynol i’r Cyngor Llawn.

 

TRAFODAETH

 

Adnabuwyd mai Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28 yw datganiad cyhoeddus y Cyngor o’r hyn a fwriedir ei gyflawni er budd pobl y Sir. Datganwyd bod newid i’r penderfyniad a geisir o’r hyn a gaiff ei nodi yn yr adroddiad.

 

Amlygwyd bod dwy sesiwn weithdy wedi’u cynnal ar gyfer yr aelodau Cabinet, a sesiynau pellach wedi’u cynnal ar gyfer yr aelodau Etholedig a’r Tîm Rheoli Corfforaethol i dderbyn eu mewnbwn ar addasiadau i’r Cynllun.

 

Esboniwyd bod yr addasiadau arfaethedig i’r Cynllun i’w gweld yn Atodiad 1. Ymhelaethwyd ar rai o’r addasiadau hyn, gan ddatgan bod adran newydd o fewn y Cynllun i gydnabod gwaith y Cynllun Ymateb, ac y cynigir maes blaenoriaeth newydd, sef Gwynedd Gyfartal.

 

Symudwyd ymlaen i drafod y camau nesaf o ran mabwysiadu’r Cynllun, datblygu cerrig milltir ar gyfer dwy flynedd olaf y Cynllun, ac yna ceisio sefydlu beth yw’r gwir effaith ar bobl Gwynedd. Crybwyllwyd y bydd gofyn i adrannau roi mwy o bwyslais ar amlinellu’r effaith y caiff y prosiectau ar drigolion y Sir wrth adrodd ar berfformiad. 

 

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Tynnwyd sylw at y prosiect Merched mewn Arweinyddiaeth, gan ddatgan bod y nifer o ferched o fewn yr uwch dîm wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau’r prosiect. Gobeithiwyd y bydd posib ehangu hyn i gynnwys grwpiau eraill o gymdeithas a gaiff eu tangynrychioli mewn rolau arweinyddiaeth. 

·       Edrychwyd ymlaen at weld prosiectau yn datblygu o fewn y maes blaenoriaeth newydd.

·       Diolchwyd i bawb a fu’n rhan o’r gweithdai, gan dynnu sylw at y ffaith fod nifer o’r addasiadau a enwir yn yr adroddiad yn ganlyniad o’r cyflawni sydd wedi mynd rhagddo mewn nifer o feysydd dros y flwyddyn.

·       Eglurwyd bod y Cynllun cyfredol yn arwydd o gynllunio strategol cryf, a bod yr adroddiad yn gofnod o’r addasiadau technegol a wnaethpwyd. Nodwyd y bydd cyfle i ymhelaethu ar yr esboniadau cyn mynd gerbron y Cyngor Llawn maes o law. Mynegwyd balchder o weld materion newydd yn cael eu cynnwys o fewn y Cynllun yn ogystal.

·       Datganwyd balchder bod nifer o bobl dros 55 oed wedi ymateb i’r holiadur ymgysylltu. Ar y llaw arall, pryderwyd mai nifer fach o bobl ifanc sydd wedi ymateb i’r holiadur, gan gynnig y dylid ystyried sut i gyfathrebu â phobl ifanc er mwyn gallu derbyn eu mewnbwn. Mewn ymateb, cyfeiriwyd at y Fforwm Ieuenctid fel modd o sicrhau fod lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu clywed a’u cynnwys mewn penderfyniadau ar draws y Cyngor. Soniwyd bod y data o’r ymgysylltu hwn wedi dyddio gan na chynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar yr adolygiad. Amlygwyd bod modd targedu grwpiau penodol o’r boblogaeth wrth ymgysylltu, a bod bwriad i barhau â hynny wrth fynd ymlaen.

 

Awdur: Catrin Thomas, Cyfarwyddwr Corfforaethol Dewi Wyn Jones, Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor

9.

BIDIAU UN TRO 2026/27 pdf eicon PDF 193 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y bidiau un-tro o £2,870,280 ar gyfer 2026/27 sydd i’w cyllido o’r gronfa Trawsffurfio.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y bidiau un-tro o £2,870,280 ar gyfer 2026/27 sydd i’w cyllido o’r gronfa Trawsffurfio.

 

TRAFODAETH

 

Adroddwyd bod y bidiau a restrir yn yr adroddiad i’w cyllido o’r gronfa trawsffurfio.

 

Aethpwyd ymlaen i nodi mai arian dros dro yw hwn er mwyn ymateb i faterion dros dro, sydd ddim angen eu cyllido’n barhaol drwy’r gyllideb refeniw. Ymhelaethwyd ar rai o’r bidiau a gaiff eu nodi yn yr adroddiad.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Croesawyd yr adroddiad gan nodi bod y setliad gwell na’r disgwyl a gafwyd eleni wedi galluogi i faterion sydd ddim yn allweddol gael eu cynnwys yn y bidiau yn ogystal, am y tro cyntaf ers cyfnod hir.

 

 

Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr

10.

TREFNIADAU DIRPRWYO CYFRIFOLDEBAU GWARIANT pdf eicon PDF 139 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Craig ab Iago

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Bod y Cabinet yn cymeradwyo newid yr hawl i ddirprwyo gwariant y gronfa cynllun hinsawdd oddi wrth y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd ac aelodau’r Bwrdd Hinsawdd a Natur, i’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb arweiniol ar y portffolio hinsawdd a natur, mewn ymgynghoriad aelodau’r Bwrdd Hinsawdd a Natur a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Cyfarwyddwr Arweiniol y Bwrdd Hinsawdd a Natur).

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Craig ab Iago.

 

PENDERFYNIAD

 

Bod y Cabinet yn cymeradwyo newid yr hawl i ddirprwyo gwariant y gronfa cynllun hinsawdd oddi wrth y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â’r Arweinydd ac aelodau’r Bwrdd Hinsawdd a Natur, i’r Aelod Cabinet â chyfrifoldeb arweiniol ar y portffolio hinsawdd a natur, mewn ymgynghoriad aelodau’r Bwrdd Hinsawdd a Natur a’r Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol (Cyfarwyddwr Arweiniol y Bwrdd Hinsawdd a Natur).

 

 

TRAFODAETH

 

Nodwyd mai mater gweithredol yn unig yw’r hyn dan sylw. Datganwyd bod cwestiwn wedi ei godi am y mater hwn gan aelod o’r cyhoedd, gan holi sut yr oedd y penderfyniadau hyn yn cael eu dirprwyo. Datgelwyd bod hyn wedi bod yn rhan o’r ystyriaeth mewn perthynas â thrafod y ffordd orau ymlaen.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Diolchwyd i aelodau’r Bwrdd Hinsawdd a Natur am eu gwaith allweddol i  weithredu’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur, a sicrhau y caiff penderfyniadau gwariant eu gwneud yn unol â blaenoriaethau’r Cyngor. 

 

Awdur: Dylan Owen, Cyfarwyddwr Corfforaethol Gwasanaethau Cymdeithasol

11.

CRONFA TWF LLEOL Y DG YNG NGHYMRU: TREFNIADAU LLYWODRAETHU A GWEITHREDU 2026/27 pdf eicon PDF 190 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. R Medwyn Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Fod Cyngor Gwynedd yn parhau i fod yn awdurdod lleol arweiniol i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yng ngogledd Cymru hyd at ddiwedd y rhaglen (30 Medi 2026) a chwblhau ei weinyddiaeth (01 Ionawr 2027).

 

Fod Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd yn parhau hyd at ddyddiad diwedd diwygiedig y Gronfa; gyda’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Aelod Cabinet Cyllid a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol ynghyd â’r Prif Weithredwr, Pennaeth Economi a Chymuned, Pennaeth Cyllid a'r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol (neu eu cynrychiolwyr) yn aelodau.

 

Fod Cyngor Gwynedd yn cytuno i fod yn awdurdod lleol arweiniol gogledd Cymru ar gyfer Cronfa Twf Lleol y DG yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn gyntaf y rhaglen (2026/27).

 

Fod Cyngor Gwynedd yn cytuno i barhau gyda threfniadau llywodraethu rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Cyffredin i berwyl y Gronfa Twf Lleol ar gyfer y flwyddyn gyntaf (2026/27) gan gyflwyno cynllun yn amlinellu’r bwriad i Lywodraeth Cymru.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr yn ddarostyngedig i 1.6 isod  i gytuno a chwblhau cytundebau gyda’r llywodraeth (au) er gweithredu y swyddogaeth arweiniol.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr i sefydlu cytundebau cyfreithiol rhyng-awdurdod ac amodau ariannu gyda siroedd eraill Gogledd Cymru i warchod buddiannau Cyngor Gwynedd.

 

Fod Cyngor Gwynedd yn cytuno i barhau’r trefniadau llywodraethu lleol i berwyl y Gronfa Twf Lleol yng Ngwynedd fel a’u hamlinellir yn yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. R Medwyn Hughes.

 

 

PENDERFYNIAD

 

Fod Cyngor Gwynedd yn parhau i fod yn awdurdod lleol arweiniol i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin yng ngogledd Cymru hyd at ddiwedd y rhaglen (30 Medi 2026) a chwblhau ei weinyddiaeth (01 Ionawr 2027).

 

Fod Panel Cronfa Ffyniant Gyffredin Gwynedd yn parhau hyd at ddyddiad diwedd diwygiedig y Gronfa; gyda’r Aelod Cabinet Economi a Chymuned, Aelod Cabinet Cyllid a’r Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol a Chyfreithiol ynghyd â’r Prif Weithredwr, Pennaeth Economi a Chymuned, Pennaeth Cyllid a'r Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol (neu eu cynrychiolwyr) yn aelodau.

 

Fod Cyngor Gwynedd yn cytuno i fod yn awdurdod lleol arweiniol gogledd Cymru ar gyfer Cronfa Twf Lleol y DG yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn gyntaf y rhaglen (2026/27).

 

Fod Cyngor Gwynedd yn cytuno i barhau gyda threfniadau llywodraethu rhanbarthol y Gronfa Ffyniant Cyffredin i berwyl y Gronfa Twf Lleol ar gyfer y flwyddyn gyntaf (2026/27) gan gyflwyno cynllun yn amlinellu’r bwriad i Lywodraeth Cymru.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr yn ddarostyngedig i 1.6 isod  i gytuno a chwblhau cytundebau gyda’r llywodraeth (au) er gweithredu y swyddogaeth arweiniol.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned - mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid, Pennaeth Gwasanaeth Cyfreithiol a’r Prif Weithredwr i sefydlu cytundebau cyfreithiol rhyng-awdurdod ac amodau ariannu gyda siroedd eraill Gogledd Cymru i warchod buddiannau Cyngor Gwynedd.

 

Fod Cyngor Gwynedd yn cytuno i barhau’r trefniadau llywodraethu lleol i berwyl y Gronfa Twf Lleol yng Ngwynedd fel a’u hamlinellir yn yr adroddiad.

 

 

TRAFODAETH

 

Tynnwyd sylw at y ddau fater dan sylw, sef sicrhau trefniadau i ddod a’r Gronfa Ffyniant Gyffredin (SPF) i ben, ac i sefydlu trefniadau newydd ar gyfer blwyddyn gyntaf y Gronfa Twf Lleol sy’n cymryd ei le.

 

Adroddwyd bod Llywodraeth y DG wedi ymestyn cyfnod y Gronfa Ffyniant Gyffredin am 6 mis ac mae gofyn i Gyngor Gwynedd barhau i fod yn awdurdod lleol arweiniol i’r rhaglen dros yr estyniad hwn. Nodwyd y bydd ei olynydd, Y Gronfa Twf Lleol, yn weithredol o 1 Ebrill 2026.

 

Soniwyd bod Gwynedd wedi derbyn £8.19 miliwn drwy law'r Gronfa Ffyniant Gyffredin eleni. Datganwyd bod Llywodraeth y DG wedi cyhoeddi y byddent yn caniatáu gweithgaredd wedi ei ariannu gan y Gronfa Ffyniant Gyffredin i barhau hyd at 30 Medi 2026 ond heb unrhyw arian ychwanegol.

 

Adnabuwyd y bydd llai o arian yn cael ei dderbyn o dan y Gronfa Twf Lleol. Aethpwyd ymlaen i dynnu sylw at y ffaith y bydd o 70% o’r arian o’r Gronfa Twf Lleol yn dod ar ffurf cyfalaf, a 30% ohono’n dod ar ffurf refeniw. Amlygwyd bod hyn yn dra gwahanol i’r drefn gyfredol a’i fod yn debygol o gael dylanwad mawr, o ystyried bod llai o arian yn ogystal.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Holwyd am eglurder o ran effaith derbyn canran uwch o arian ffurf cyfalaf, a chanran is ar ffurf refeniw. Esboniwyd mai symudiad i ffwrdd oddi wrth brosiectau sy’n darparu cefnogaeth i bobl a busnesau, gan gynnig  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

Awdur: Sioned Williams, Pennaeth Economi a Cymuned (Uwch Swyddog Cyfrifol, Cronfa Ffyniant Gyffredin Gogledd Cymru) Dylan Griffiths, Rheolwr, Gwasanaeth Datblygu’r Economi (Rheolwr (Rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin Gogledd Cymru)

12.

MABWYSIADU STRATEGAETH DATBLYGU ECONOMAIDD NEWYDD I WYNEDD pdf eicon PDF 179 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. R Medwyn Hughes

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd cynnwys ‘Economi sy’n Gweithio i Bawb: Gwynedd 2035’ fel sydd

wedi ei gyflwyno yn Atodiad 1

 

Cytunwyd i argymell mabwysiadau ‘Economi sy’n Gweithio i Bawb: Gwynedd 2035’ i

gyfarfod llawn Cyngor Gwynedd.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned gwblhau unrhyw fan addasiadau

sy’n angenrheidiol a chytuno ar ddyluniad y Strategaeth mewn ymgynghoriad â’r

Aelod Cabinet.

 

Cytunwyd i sefydlu ‘Fforwm Economi Gwynedd’ ar y sail amlinellir yn adrannau 4.19

i 4.24 yr adroddiad.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. R Medwyn Hughes.

 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd cynnwys ‘Economi sy’n Gweithio i Bawb: Gwynedd 2035’ fel sydd

wedi ei gyflwyno yn Atodiad 1

 

Cytunwyd i argymell mabwysiadau ‘Economi sy’n Gweithio i Bawb: Gwynedd 2035’ i

gyfarfod llawn Cyngor Gwynedd.

 

Awdurdodwyd y Pennaeth Economi a Chymuned gwblhau unrhyw fan addasiadau

sy’n angenrheidiol a chytuno ar ddyluniad y Strategaeth mewn ymgynghoriad â’r

Aelod Cabinet.

 

Cytunwyd i sefydlu ‘Fforwm Economi Gwynedd’ ar y sail amlinellir yn adrannau 4.19

i 4.24 yr adroddiad.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyfeiriwyd at Adran 4 o Gyfansoddiad Cyngor Gwynedd sy’n nodi fod strategaeth datblygu economaidd yn rhan o’r Fframwaith Polisi, a’i bod yn ofynnol i’r Cyngor Llawn ei gymeradwyo drwy law argymhelliad gan y Cabinet. Pwysleisiwyd bod y Strategaeth wedi’i blaen graffu yn ogystal.

Crybwyllwyd bod ffurf y Strategaeth yn dilyn trefn resymegol i dywys y darllenwr o’r achos dros weithredu, i’r blaenoriaethau ac yna ymlaen i sut y bwriedir gweithredu a mesur llwyddiant.

 

Adroddwyd am weledigaeth y Strategaeth, a soniwyd am y themâu o fewn y Strategaeth, sef Mentergarwch, Pobl, a Lle.

 

Croesawyd Cadeirydd y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i’r cyfarfod er mwyn cyflwyno argymhellion y pwyllgor i’r Cabinet. Nodwyd ganddo fod y pwyllgor yn croesawu’r gwaith o geisio gosod cyfeiriad strategol tymor hir i Wynedd, mewn cyfnod economaidd heriol. Mynegwyd pryder gan y Pwyllgor ynglŷn â’r ansicrwydd cynyddol o ran grantiau, a goblygiadau posib hynny i ardaloedd gwledig a difreintiedig y Sir. Nodwyd bod aelodau o’r Pwyllgor yn awyddus i weld mwy o bwyslais ar ddatblygiad economaidd yng ngorllewin a de’r Sir, er mwyn sicrhau y caiff cyfleoedd a buddsoddiad eu dosbarthu’n deg yn ddaearyddol. Pwysleisiwyd gan y Pwyllgor bwysigrwydd sicrhau trefniadau monitro cynnydd clir yn erbyn y Strategaeth, gan gynnwys gallu dangos dros amser pa swyddi a gaiff eu gwneud neu eu diogelu, ac effaith y buddsoddiad ar gymunedau Gwynedd.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

·       Adnabuwyd bod nifer o fusnesau lleol yng Ngwynedd yn cyflogi llai na 10 o bobl, a holwyd am y gefnogaeth a gynigir i’r busnesau hynny. Mewn ymateb, cadarnhawyd bod rhan helaeth o’r grantiau o becynnau cymorth diweddar wedi mynd i fusnesau bach. Cyfeiriwyd at yr ansicrwydd o ran dyfodol pecynnau cymorth, ond mynegwyd sicrwydd pe bai cyfle i ddod a phecyn cymorth ymlaen o dan y Strategaeth hon, y bydd wedi’i deilwra i geisio cefnogi busnesau a mentrau bach sy’n cyflogi ar draws y Sir.

·       Ymfalchïwyd yn y Strategaeth gan edrych ymlaen at ei weld yn datblygu.

·       Nodwyd bod fframwaith gwerthuso a monitro wedi’i datblygu sy’n cyd-fynd â’r Strategaeth. Amlygwyd bod hyn yn cynnig cyfres o ganlyniadau ac allbynnau sydd eisiau eu cyflawni drwy’r prosiectau, a fydd yn cynnig modd i fesur pa gynigion sydd wir yn gwneud gwahaniaeth. Yn ogystal, cyfeiriwyd at Fforwm Economi Gwynedd a fydd yn cynorthwyo gyda llywio a chyflawni’r Strategaeth.

 

Awdur: Dylan Griffiths Rheolwr, Gwasanaeth Datblygu’r Economi Nia Bowden Rheolwr Rhaglen Cefnogi Busnes, Gwasanaeth Datblygu’r Economi

13.

BLAEN RAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 71 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Nia Jeffreys

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys.

 

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

TRAFODAETH

 

Datganwyd bod y Flaen Raglen i’w gweld yn y pecyn er gwybodaeth.