Lleoliad: Cyfarfod Hybrid / Hybrid Meeting
Cyswllt: Gwen Alaw Roberts E-bost: Gwenalawroberts@gwynedd.llyw.cymru
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd pawb i’r cyfarfod y chymerwyd y cyfle i gydnabod
buddugoliaeth Plaid Cymru yn Etholiad y Senedd yn gynharach y mis hwn.
Llongyfarchwyd y Prif Weinidog ar ei benodiad, ynghyd â chyn-aelodau o’r Cyngor
hwn sydd wedi eu hethol yn ogystal. Diolchwyd i Dîm Etholiadau’r Cyngor, a’r holl staff a fu’n
ymwneud â’r Etholiad am eu gwaith. Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriad. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu. |
|
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 10 MAWRTH Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 10 Mawrth
2026 fel rhai cywir. |
|
|
YSGOL NEBO - ADRODDIAD YMGYNGHORI Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ystyriwyd cynnwys yr
adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol (Adroddiad Ymgynghori) ar y
cynnig i gau Ysgol Nebo ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol
Llanllyfni o 1 Ionawr 2027 ymlaen, a chymeradwywyd cyhoeddi hysbysiad statudol
ar y cynnig, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones. PENDERFYNIAD Ystyriwyd cynnwys yr
adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad statudol (Adroddiad Ymgynghori) ar y
cynnig i gau Ysgol Nebo ar 31 Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol
Llanllyfni o 1 Ionawr 2027 ymlaen, a chymeradwywyd cyhoeddi hysbysiad statudol
ar y cynnig, yn unol â gofynion Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth
Ysgolion (Cymru) 2013. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan ddatgan ei fod yn nodi canlyniad
proses hir, drylwyr ac emosiynol iawn. Diolchwyd i’r rheiny sydd wedi cymryd
rhan yn yr ymgynghoriad. Cyfeiriwyd at bwysigrwydd ysgolion gwledig i gymunedau
Gwynedd, ond nodwyd bod cyfrifoldeb yn ogystal i ystyried realiti’r sefyllfa yn
onest. Aethpwyd ymlaen i dynnu sylw at y gostyngiad sylweddol yn nifer y plant
sydd yng Ngwynedd, gan amlygu bod y gostyngiad hwn hefyd yn wir ar draws y
wlad. Ategwyd yr effaith y caiff hyn ar gynaliadwyedd ysgolion o fewn y Sir.
Esboniwyd bod nifer o resymau am y lleihad mewn genedigaethau, gan grybwyll
materion sy’n ymwneud ag ail gartrefi, diffyg swyddi da mewn ardaloedd gwledig
a’r argyfwng costau byw parhaus. Wrth gyfeirio at Ysgol Nebo’n
benodol, cydnabuwyd yr heriau addysgol, ariannol a gweithredol sy’n deillio o’r
niferoedd isel o ddisgyblion. Pwysleisiwyd nad yw hyn yn adlewyrchiad o safon
gwaith y staff nac ar ymrwymiad y gymuned. Amlygwyd natur gynhennus ac anodd
penderfyniad o’r natur hwn, ond datganwyd yr angen i sicrhau’r cyfleoedd
addysgol gorau posib i blant Gwynedd a diogelu dyfodol addysg yn y sir. Pe bai’r Cabinet yn cytuno i symud ymlaen â’r broses, bydd
cyfnod gwrthwynebu ffurfiol o 28 diwrnod cyn y daw’r mater yn ôl gerbron y
Cabinet. Sicrhawyd y bydd camau’n cael eu cymryd i wneud y trosglwyddiad yn
ofalus a chefnogol i’r plant, a chymuned ehangach yr Ysgol. Croesawyd Aelod Lleol Ward Clynnog i’r cyfarfod. Diolchwyd
i’r gymuned, y staff a’r Corff Llywodraethol am y ffordd adeiladol a pharchus y
maent wedi delio â’r sefyllfa anodd hon. Cydnabuwyd y niferoedd isel yn yr
Ysgol a’r costau uchel sy’n wynebu’r Cyngor, ond pryderwyd bod y drafodaeth
ynglŷn â dyfodol yr Ysgol wedi bod yn gul ac yn canolbwyntio ar rifau yn
unig. Credwyd bod y cynnig gafodd ei gyflwyno gan y Corff Llywodraethol, sef
datblygu Nebo fel darpariaeth fwy meithringar ar gyfer plant gydag anghenion
cymdeithasol, emosiynol a llesiant, wedi haeddu mwy o ystyriaeth. Yn sgil y
pwysau cynyddol sydd ar wasanaethau plant ac oedolion, cynigiwyd gan yr Aelod
Lleol y dylid ystyried ysgolion fel Nebo fel rhan o ymyrraeth gynnar ac atal.
Yn ogystal, pryderwyd am effaith cau’r Ysgol ar y Gymraeg yn y gymuned. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: · Holwyd a oes ymgynghori wedi cymryd lle gyda phlant yr Ysgol ac os yw llais y plentyn wedi’i ystyried yma. Sicrhawyd bod rhaid i lais y plentyn gael ei glywed fel rhan o’r broses statudol a datganwyd bod hwylusydd annibynnol wedi’i gomisiynu er mwyn cwblhau’r gwaith hwn. Nodwyd bod rhaid pwyso a mesur y farn sydd wedi’i roi gan blant yn erbyn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg |
|
|
YSGOL BALADEULYN - ADRODDIAD YMGYNGHORI Cyflwynwyd gan: Cyng Dewi Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Ystyriwyd cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad
statudol (Adroddiad Ymgynghori) ar y cynnig i gau Ysgol Baladeulyn ar 31
Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlaen,
a chymeradwywyd cyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig, yn unol â gofynion
Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dewi Jones. PENDERFYNIAD Ystyriwyd cynnwys yr adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad
statudol (Adroddiad Ymgynghori) ar y cynnig i gau Ysgol Baladeulyn ar 31
Rhagfyr 2026 a darparu lle i ddysgwyr yn Ysgol Talysarn o 1 Ionawr 2027 ymlaen,
a chymeradwywyd cyhoeddi hysbysiad statudol ar y cynnig, yn unol â gofynion
Adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013. TRAFODAETH Diolchwyd i’r holl gymuned am eu cyfraniad at y broses
ymgynghori. Nodwyd bod y Cabinet yn parchu ac yn cydnabod faint y mae’r
Ysgol yn ei olygu i bobl yr ardal. Aethpwyd ymlaen i adrodd ar y newid yn nemograffeg y Sir,
gyda’r nifer o enedigaethau wedi gostwng yn sylweddol yn y blynyddoedd
diwethaf. Golyga hyn fod llai o blant nawr yn byw yng Ngwynedd. Adnabuwyd y
caiff hyn effaith uniongyrchol ar gynaliadwyedd ysgolion y Sir, a chyfeiriwyd
at yr angen i ail edrych ar drefniadaeth addysg er mwyn sicrhau darpariaeth
gynaliadwy. Pwysleisiwyd bod ysgolion bach yn aml yn ysgolion cryf gyda
chymunedau angerddol iawn o’u cwmpas, ond nodwyd bod heriau addysgol, ariannol
a gweithredol wrth gynnal ysgol gyda niferoedd isel iawn am gyfnod hir.
Derbyniwyd bod y penderfyniad gerbron yn anodd, ond bod rhaid meddwl am
ddyfodol addysg y Sir gyfan. Pe bai’r Cabinet yn cytuno i symud ymlaen â’r broses, bydd
cyfnod gwrthwynebu ffurfiol o 28 diwrnod cyn y daw’r mater yn ôl gerbron y
Cabinet. Sicrhawyd y bydd camau’n cael eu cymryd i wneud y trosglwyddiad yn
gefnogol a pharchus i’r plant, a chymuned ehangach yr Ysgol. Croesawyd Aelod Lleol Ward Llanllyfni i’r cyfarfod.
Diolchwyd i swyddogion yr Adran Addysg, yr Aelod Cabinet, a chymuned yr Ysgol
yn Nantlle. Cydnabuwyd nad yw’r niferoedd o blant sy’n mynychu Ysgol Baladeulyn
yn gynaliadwy, ond credwyd mai’r ffordd
ymlaen fyddai ffederaleiddio’r Ysgol gydag Ysgol Talysarn ac ychwanegu ardal
arbenigol ar gyfer plant ag anghenion dysgu arbenigol. Pryderwyd am yr effaith
a fyddai cau Ysgol Baladeulyn yn ei gael ar ddefnydd cymdeithasol y Gymraeg yn
y gymuned, ac effaith posib hyn ar y farchnad dai yn y pentref. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth:
Awdur: Gwern ap Rhisiart, Pennaeth Addysg |
|
|
COMISIYNU YMCHWILIADAU Cyflwynwyd gan: Cyng Nia Jeffreys Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfyniwyd: a) Comisiynu y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad ag
Arweinydd y Cyngor a ble’n berthnasol y Swyddog
Monitro i fwrw ymlaen a’r ymchwiliadau ac adolygiadau pellach a nodir yn rhan 4
o’r adroddiad hwn yn dilyn cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder gan
gynnwys : (a) Cytuno y cylch gorchwyl a’r camau gweithredol, (b) Adnabod a phenodi ymchwilydd annibynnol allanol lle bo’r
gofyn (c) Trefnu i dderbyn adroddiadau terfynol a chymryd camau
i’w cyflwyno i’r pwyllgorau a fforymau perthnasol b) I awdurdodi’r Prif Weithredwr i barhau i gyfathrebu gyda
chyrff a phartneriaid perthnasol eraill ynglŷn â pha gamau ac ymchwiliadau
y maent hwy yn eu cynnal a’r gwersi a ddysgwyd allasai fod o fudd i'r Cyngor c) I awdurdodi’r Prif Weithredwr i ddargyfeirio adnoddau
staff i gefnogi ymchwilwyr annibynnol i gwblhau’r gwaith ch) I awdurdodi’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r
Pennaeth Cyllid ac Aelod Cabinet Cyllid, i flaenoriaethu a chymeradwyo
dyraniadau o’r gronfa a sefydlwyd drwy’r drefn Bidiau Un tro 2026-27 i
ariannu’r ymchwiliadau. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Nia Jeffreys. PENDERFYNIAD Penderfynwyd: a) Comisiynu y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad ag
Arweinydd y Cyngor a ble’n berthnasol y Swyddog
Monitro i fwrw ymlaen a’r ymchwiliadau ac adolygiadau pellach a nodir yn rhan 4
o’r adroddiad hwn yn dilyn cyhoeddi adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder gan
gynnwys : (a) Cytuno y cylch gorchwyl a’r camau gweithredol, (b) Adnabod a phenodi ymchwilydd annibynnol allanol lle bo’r
gofyn (c) Trefnu i dderbyn adroddiadau terfynol a chymryd camau
i’w cyflwyno i’r pwyllgorau a fforymau perthnasol b) I awdurdodi’r Prif Weithredwr i barhau i gyfathrebu gyda
chyrff a phartneriaid perthnasol eraill ynglŷn â pha gamau ac ymchwiliadau
y maent hwy yn eu cynnal a’r gwersi a ddysgwyd allasai fod o fudd i'r Cyngor c) I awdurdodi’r Prif Weithredwr i ddargyfeirio adnoddau
staff i gefnogi ymchwilwyr annibynnol i gwblhau’r gwaith ch) I awdurdodi’r Prif Weithredwr, mewn ymgynghoriad â’r
Pennaeth Cyllid ac Aelod Cabinet Cyllid, i flaenoriaethu a chymeradwyo
dyraniadau o’r gronfa a sefydlwyd drwy’r drefn Bidiau Un tro 2026-27 i
ariannu’r ymchwiliadau. TRAFODAETH Amlygwyd bod y Cyngor yn derbyn yr Adroddiad Cyfiawnder Trwy
Ein Dewrder yn llawn, a bod bwriad i weithredu ar bob argymhelliad yn yr
Adroddiad. Diolchwyd i’r dioddefwyr am eu dewrder ac ymddiheurwyd am
fethiannau’r Cyngor. Pwysleisiwyd bod y dioddefwyr ar flaenau meddyliau pob un
wrth drafod y pwnc hwn. Nodwyd mai pwrpas comisiynu’r gwaith hwn yw ychwanegu at
negeseuon Adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, ac i edrych ar rai pynciau yn
fanylach. Esboniwyd bod nifer o ystyriaethau wedi eu gwneud yma megis effaith
ar y dioddefwyr, y gwersi a ddysgwyd, a’r hyn y gall y Cyngor ei gyflawni. Cyfeiriwyd at y nifer o ymchwiliadau a restrir sydd eisoes
ar waith neu sydd wedi eu cwblhau. Cadarnhawyd bod yr ymchwiliadau hyn wedi
adnabod gwersi i’w dysgu. Amlygwyd yr angen i ddeall popeth sydd wedi digwydd
yn iawn er mwyn gallu gwella, a phwysigrwydd bod y Cyngor yn gorffen cynnal pob
ymchwiliad sydd o fewn ei rym. Datganwyd bod yr adolygiad i drefniadau llywodraethiant
y Cyngor yn ystyried y cyfleoedd a gollwyd, yr argymhellion a gaiff eu nodi yn
adroddiad Cyfiawnder Trwy Ein Dewrder, ac yn sefydlu a oes gwersi llywodraethiant i’w dysgu. Aethpwyd ymlaen i drafod yr adolygiad diwylliant, gan nodi y
bydd yn cynnwys tynnu at ei gilydd materion diwylliant gwaith drwy nifer o
ffynonellau. Ychwanegwyd y bydd hyn yn
tynnu ar nifer o wybodaeth sydd gan y Cyngor yn barod. Bwriedir cwblhau’r
gwaith hwn mewn dwy ran, a phwysleisiwyd pwysigrwydd derbyn mewnbwn gan Aelodau
Etholedig cyfredol a’r rheiny a gaiff eu hethol yn yr etholiadau lleol yn 2027,
staff a rhanddeiliaid eraill. Wrth gyfeirio at Effeithiolrwydd y Gyfundrefn Llywodraethu
Ysgolion, amlygwyd nad yw’r drefn bresennol o ran rhaniad cyfrifoldebau
statudol wastad yn glir. Soniwyd bod y Cyngor wedi cael mewnbwn i adolygiad o
drefniadau llywodraethu ysgolion Llywodraeth Cymru. Tra mae’r Cyngor yn disgwyl
am ganlyniad yr adolygiad hwnnw, adnabuwyd y bydd yn edrych ar ei drefniadau
mewnol a’r gyfundrefn llywodraethu ysgolion bresennol. Adroddwyd bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. Awdur: Dafydd Gibbard, Prif Weithredwr |
|
|
DYRANNU INCWM O'R PREMIWM AIL GARTREFI A THAI GWAG AR GYFER 2026/27 Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd: Dyrannu’r incwm
ychwanegol o’r premiwm ar eiddo gwag ac ail-gartrefi i’r meysydd blaenoriaeth a
nodir yn Rhan 4 isod. Comisiynu gwaith
pellach i lunio cynigion ar gyfer y defnydd o'r arian premiwm ychwanegol o
£914k sydd yn berthnasol i 2025/26 a'r swm o £4k sydd weddill heb ei ddyrannu
yn yr adroddiad yma. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones. PENDERFYNIAD Penderfynwyd: Dyrannu’r incwm ychwanegol o’r premiwm ar eiddo gwag ac ail
gartrefi i’r meysydd blaenoriaeth a nodir yn Rhan 4 isod. Comisiynu gwaith pellach i lunio cynigion ar gyfer y defnydd
o'r arian premiwm ychwanegol o £914k sydd yn berthnasol i 2025/26 a'r swm o £4k
sydd weddill heb ei ddyrannu yn yr adroddiad yma. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn ofynnol ar
gynghorau i bennu defnydd o’r premiwm yn unol â’r Canllawiau Statudol Treth
Gyngor ar dai gwag ac ail gartrefi. Adroddwyd bod y Cyngor wedi dilyn yr egwyddor hon wrth
ddyrannu i ddibenion a meysydd penodol; aliniad â’r canllawiau statudol ar
ddefnyddio incwm premiwm ac aliniad â’r amcanion a nodir yng Nghynllun y
Cyngor. Aethpwyd ymlaen i restru nifer o ystyriaethau sydd hefyd
angen eu gwneud wrth ystyried y dyraniad. Mae'r rhain yn cynnwys nifer uwch o
ymholiadau am y premiwm, newidiadau deddfwriaethol pellach i’r gyfundrefn
drethi yn 2026-27 all arwain at fwy o ymholiadau / apeliadau, nifer ac amser
apeliadau i’r Swyddfa Brisio yn rhoi pwysau ar drigolion ac ar weinyddiaeth y
Gwasanaeth Trethi, a bod y rhybudd i derfynu grant tai gwag Llywodraeth Cymru o
Fedi 2026 yn golygu nad oes ffrwd incwm ar gyfer gwireddu targedau tai gwag y
Cynllun Gweithredu Tai. Amlygwyd yr angen i glustnodi’r incwm ychwanegol i sy’n
deillio o gynyddu’r Premiwm ar Eiddo Gwag a chasglu incwm premiwm oedd uwchlaw’r amcangyfrifon yn 2024/25, i feysydd blaenoriaeth.
Argymhellwyd gwerth £1.2 miliwn i’w ddyrannu, sydd wedi’i
fanylu yn yr adroddiad, gan nodi fod hyn yn £1.14 miliwn ar sail barhaol a £79
o filoedd ar sail un-tro. Sylwadau sy’n codi o’r drafodaeth: ·
Croesawyd yr adroddiad a phwysleisiwyd
pwysigrwydd y Gronfa Gymunedol gan ei fod yn galluogi’r Cyngor i gefnogi
cymunedau. ·
Mynegwyd balchder bod colofn ar effaith wedi’i
ychwanegu at yr adroddiad, sy’n rhoi cyfle i fesur effaith yr arian hwn ar
gymunedau a phobl Gwynedd. Awdur: Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid |
|
|
CYFRIFON TERFYNOL 2025/26 - ALLDRO REFENIW Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ac ystyried y sefyllfa ariannol derfynol
adrannau’r Cyngor am 2025/26:
Gan nodi bod gwariant sylweddol uwchlaw’r
gyllideb gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd a’r
Adran Amgylchedd yn 2025/26 (Gweler colofn A yn y tabl uchod). Cymeradwywyd y
trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2) – · Yr adrannau sydd yn gorwario i dderbyn
cymorth ariannol un tro gan gyfyngu lefel y gorwariant sydd i’w gario ymlaen
gan yr Adran i £100k (Gweler colofn B yn y tabl uchod). · Cadarnhau'r cymorth ariannol o £269k uwchlaw’r taliad cytundebol i Gwmni Byw’n Iach (Gweler
colofn C yn y tabl uchod). · Cyllido’r gorwariant o £1.256 miliwn yn y
maes Gwastraff trwy ddefnyddio £786k o'r Gronfa Adennill Enillion Cyfrannol
Parc Adfer a £470k o'r Gronfa Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am ddeunydd
pecynnu (Gweler colofn CH yn y tabl uchod). · Dyrannu bid ariannol o hyd at £800k i’r Adran
Tai ac Eiddo i gyllido’r pwysau ar y gwasanaeth llety argyfwng yn 2026/27. · Ar gyllidebau Corfforaethol: - defnyddio (£2.8 miliwn) o’r tanwariant ar gyllidebau corfforaethol i
gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2025/26. - y gweddill o (£3.174 miliwn) sydd ei angen i gyllido’r holl ofynion i
gael ei gyllido o Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor. – y tanwariant o (£914k) ar Bremiwm Treth Cyngor yn cael ei drosglwyddo
i gronfa Premiwm Treth Cyngor gyda'i ddefnydd i'w benderfynu gan y Cabinet. Cymeradwywyd y symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan)
Wariant Addasedig” yng ngholofn D uchod ac yng ngholofn D Atodiad 1). Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol o'r Gronfa Cefnogi
Strategaeth Ariannol y Cyngor fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad
o’r cronfeydd: - £6.6 miliwn yn cael ei symud i falansau cyffredinol y Cyngor - £1.5 miliwn yn cael ei symud i gronfa Diogelu
Adeiladau. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones. PENDERFYNIAD PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad ac ystyried y sefyllfa ariannol derfynol
adrannau’r Cyngor am 2025/26:
Gan nodi bod gwariant sylweddol uwchlaw’r
gyllideb gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd a’r
Adran Amgylchedd yn 2025/26 (Gweler colofn A yn y tabl uchod). Cymeradwywyd y
trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn Atodiad 2) – · Yr
adrannau sydd yn gorwario i dderbyn cymorth ariannol un tro gan gyfyngu lefel y
gorwariant sydd i’w gario ymlaen gan yr Adran i £100k (Gweler colofn B yn y
tabl uchod). ·
Cadarnhau'r cymorth ariannol o £269k uwchlaw’r taliad
cytundebol i Gwmni Byw’n Iach (Gweler colofn C yn y tabl uchod). ·
Cyllido’r gorwariant o £1.256 miliwn yn y maes Gwastraff trwy ddefnyddio £786k
o'r Gronfa Adennill Enillion Cyfrannol Parc Adfer a £470k o'r Gronfa
Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr am ddeunydd pecynnu (Gweler colofn CH yn y
tabl uchod). ·
Dyrannu bid ariannol o hyd at £800k i’r Adran Tai ac Eiddo i gyllido’r pwysau
ar y gwasanaeth llety argyfwng yn 2026/27. · Ar
gyllidebau Corfforaethol: - defnyddio (£2.8 miliwn) o’r tanwariant ar gyllidebau
corfforaethol i gynorthwyo'r adrannau sydd wedi gorwario yn 2025/26. - y gweddill o (£3.174 miliwn) sydd ei angen i gyllido’r
holl ofynion i gael ei gyllido o Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor. – y tanwariant o (£914k) ar Bremiwm Treth Cyngor yn cael ei
drosglwyddo i gronfa Premiwm Treth Cyngor gyda'i ddefnydd i'w benderfynu gan y
Cabinet. Cymeradwywyd y symiau i’w cario ’mlaen (y golofn “Gor/(Tan)
Wariant Addasedig” yng ngholofn D uchod ac yng ngholofn D Atodiad 1). Cymeradwywyd y trosglwyddiadau ariannol o'r Gronfa Cefnogi
Strategaeth Ariannol y Cyngor fel yr amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad
o’r cronfeydd: - £6.6 miliwn yn cael
ei symud i falansau cyffredinol y Cyngor - £1.5 miliwn yn cael
ei symud i gronfa Diogelu Adeiladau. TRAFODAETH Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi y caiff talfyriad o
sefyllfa derfynol yr holl adrannau yn Atodiad 1 o’r adroddiad. Manylwyd ar gynnwys Atodiad 2 gan adrodd rhai o’r prif
bwyntiau. Nodwyd bod gwariant yn y meysydd lleoliadau all-sirol plant,
gwastraff, gofal preswyl a gofal cartref wedi parhau i fod yn uwch na’r
gyllideb a ddyrannwyd iddynt. Amlygwyd bod y tanwariant ar gyllidebau
corfforaethol yn cynorthwyo i leddfu'r sefyllfa ariannol ar gyfer y Cyngor yn
ei gyfanrwydd. Ychwanegwyd y bydd angen defnyddio £3.2 miliwn o’r Gronfa
Strategaeth Ariannol i fantoli sefyllfa o ddiffyg ariannol yr adrannau. Datganwyd bod diffyg cyllidebol yr Adran Oedolion, Iechyd a
Llesant wedi lleihau i £1.4 miliwn, gan adnabod bod y pwysau ar y gwasanaethau
darparu yn gyfrifol am ran helaeth o’r pwysau adrannol. Wrth gyfeirio at yr Adran Plant a Theuluoedd, esboniwyd y bu cynnydd o 11 o leoliadau all-sirol gan gynnwys achosion eithriadol o leoliadau heb gofrestriad. Ategwyd bod hyn yn fwy costus ac wedi arwain at gynnydd yn y diffyg cyllidebol adrannol i £3.4 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn ariannol. Yn ogystal, soniwyd bod pwysau cynyddol ar gyllideb y Gwasanaeth Ôl-16 ac ar gefnogaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. Awdur: Dewi Morgan, Pennaeth Cyllid |
|
|
RHAGLEN GYFALAF 2025/26 - ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2026) Cyflwynwyd gan: Cyng Huw Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa
31 Mawrth 2026) o’r rhaglen gyfalaf. Cymeradwywyd yr addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf a
gymeradwywyd ar 6 Mawrth 2025 ac a addaswyd ar 11 Tachwedd 2025 a’r 20 Ionawr
2026 o safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r
adroddiad), sef: - cynnydd o £35,000 mewn defnydd o fenthyca - cynnydd o £14,058,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau - cynnydd o £485,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf - cynnydd o £1,313,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw - lleihad o £2,493,000 mewn defnydd o’r gronfa cyfalaf - lleihad o £667,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac
eraill. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Huw Wyn Jones. PENDERFYNIAD Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd y flwyddyn (sefyllfa
31 Mawrth 2026) o’r rhaglen gyfalaf. Cymeradwywyd yr addasiadau canlynol i’r Gyllideb Gyfalaf a
gymeradwywyd ar 6 Mawrth 2025 ac a addaswyd ar 11 Tachwedd 2025 a’r 20 Ionawr
2026 o safbwynt dulliau ariannu’r rhaglen (fel nodir yn rhan 3.2.3 o’r
adroddiad), sef: - cynnydd o £35,000 mewn defnydd o fenthyca - cynnydd o £14,058,000 mewn defnydd o grantiau a
chyfraniadau - cynnydd o £485,000 mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf - cynnydd o £1,313,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw - lleihad o £2,493,000 mewn defnydd o’r gronfa cyfalaf - lleihad o £667,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac
eraill. TRAFODAETH Eglurwyd bod yr adroddiad yn cynnwys dadansoddiad fesul
Adran o’r rhaglen gyfalaf £164.9 miliwn am y 3 blynedd rhwng 2025/26 – 2027/28.
Ychwanegwyd bod yr adroddiad yn manylu ar y ffynonellau i ariannu’r cynnydd net
sydd oddeutu £12.7 miliwn ers yr adolygiad diwethaf. Adroddwyd mai’r prif gasgliadau yw bod y Cyngor wedi llwyddo
i wario £83.8miliwn yn 2025/26 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £52.7miliwn (63%)
ohono wedi’i ariannu trwy grantiau penodol. Amlygwyd bod £21.9miliwn ychwanegol
o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2025/26 i 2026/27 a 2027/28. Aethpwyd ymlaen i restru’r prif gynlluniau sydd wedi llithro
ers y gyllideb wreiddiol. Tynnwyd sylw at y rhestr o’r grantiau ychwanegol y llwyddodd
y Cyngor eu denu ers yr adolygiad diwethaf, sy’n cynnwys: • £3.2 miliwn
– Grant Rhaglen Gyfalaf Llety Trosiannol (TACP) gan Lywodraeth Cymru. • £2.4 miliwn
– Grant ychwanegol Cynnal a Chadw Ysgolion 2025/26. • £2.3 miliwn
– Grant Cyfalaf Cyffredinol Ychwanegol gan Lywodraeth Cymru. • £1.8 miliwn
– Grant gan Lywodraeth Cymru tuag at Hwb
Cymunedol Anabledd Dysgu, Canolfan Dolfeurig. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: ·
Amlygwyd amryw o faterion cadarnhaol sy’n
deillio o’r adroddiad, gan gynnwys y gwerth sylweddol o grantiau ychwanegol
mae’r Cyngor wedi llwyddo i’w denu. Tynnwyd sylw at y gwaith helaeth sy’n mynd
rhagddo o fewn adrannau’r Cyngor er mwyn llunio’r ceisiadau am y grantiau dan
sylw. Dechreuodd y cyfarfod am 1:00yh a daeth i ben am 3:45yh Awdur: Ffion Madog Evans, Pennaeth Cyllid Cynorthwyol |