Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Annes Sion  01286 679490

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Croesawyd yr Aelodau Cabinet a Swyddogion i’r cyfarfod.

 

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

Diolchwyd i staff rheng flaen am eu gwaith yn ystod y tywydd garw. 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater brys.

4.

MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a chraffu.

5.

COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 19 RHAGFYR 2023 pdf eicon PDF 163 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a gynhaliwyd ar 19 Rhagfyr 2023 fel rhai cywir.

6.

CYLLIDEB REFENIW 2023/24 - ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2023 pdf eicon PDF 622 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

1)    Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2023 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

2)    Nodi bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC eleni.

3)    Cymeradwyo trosglwyddiad o £4,241k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

1)    Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd 2023 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth.

2)    Nodi bod rhagolygon gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC eleni.

3)    Cymeradwyo trosglwyddiad o £4,241k o danwariant ar gyllidebau corfforaethol i Gronfa Cefnogi Strategaeth Ariannol y Cyngor.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adolygiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2023/24, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Eglurwyd fod yr adolygiad yn awgrymu y bydd pob un o’r deg adran yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn. Ychwanegwyd y bydd gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd a’r Adran Briffyrdd, Peirianneg ac Ymgyhgoriaeth Gwynedd.

 

Nodwyd fod yr adran yn rhagweld y bydd bwlch ariannol o £8.1m ac mae hynny i’w gymharu â £9.1m a nodwyd yn yr adolygiad ym mis Awst. Eglurwyd fod y sefyllfa filiwn yn well ond fod hyn o ganlyniad i ddefnydd o gronfeydd un-tro er mwyn helpu’r sefyllfa o fewn adrannau.

 

Amlygwyd y prif faterion fel a ganlyn:

Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant - Nodwyd fod rhagolygon diweddaraf yn awgrymu £5.4m o orwariant, sydd yn gyfuniad o nifer o ffactorau megis nifer o achosion newydd a chostus, costau staffio uwch a lefelau salwch a chyfraddau oriau digyswllt yn uchel.  Mynegwyd fod gwaith a gomisiynwyd gan y Prif Weithredwr bellach ar y gweill er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a chreu rhaglen glir i ymateb.

 

Adran Plant a Theuluoedd – eglurwyd fod sefyllfa ariannol wedi gwaethygu’n sylweddol ers adolygiad Awst, ac mae hyn o ganlyniad i gynnydd mewn costau pecynnau all-sirol. Nodwyd fod yr adran yn rhagweld gorwariant o £1.3m.

 

Adran Addysg – Nodwyd fod pwysau cynyddol ar y gyllideb cludiant  gyda gorwariant o £1.15m yn cael ei ragweld. Eglurwyd fod adolygiad strategol i geisio rheoli’r cynnydd ac i geisio lleihau’r gorwariant.

 

Byw’n Iach - mynegwyd fod Cofid wedi cael effaith ar Gwmni’n Byw’n Iach a nodwyd fod y gefnogaeth ariannol yn parhau eleni a’r swm gofynnol wedi lleihau eleni i £350mil.

 

Adran Priffyrdd, Peirianneg ac Ymgynghoriaeth Gwynedd – rhagwelir gorwariant o £780mil gan yr adran, nodwyd fod hyn o ganlyniad leihad yn y gwaith sydd yn cael ei gomisiynu sydd wedi cael effaith negyddol ar incwm gwasanaethau priffyrdd. Nodwyd fod colledion incwm cynnal tiroedd a thoiledau cyhoeddus hefyd yn ffactorau.

 

Adran Amgylchedd - nodwyd fod y tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau, eglurwyd fodd cylchdeithiau ychwanegol wedi arwain at orwariant costau cyflogaeth a chostau fflyd.

 

Adran Tai ac Eiddo – Eglurwyd fod tueddiad o bwysau  sylweddol ar wasanaethau llety dros dro yn parhau i fod yn ddwys iawn, ac eleni dyrannwyd £3m o bremiwm treth Cyngor ynghyd a dyraniad un tro  £1.2m o ddarpariaeth Covid corfforaethol i gyfarch y costau ychwanegol.

 

Corfforaethol -Nodwyd fod rhagdybiaeth ddarbodus wrth osod cyllideb  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

Awdur: Ffion Madog Evans

7.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 737 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2023/24 a blynyddoedd blaenorol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas.

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyn y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2023/24 a blynyddoedd blaenorol.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei bod yn crynhoi sefyllfa arbedion y Cyngor. Nodwyd er mwyn cau bwlch ariannol eleni roedd angen gweithredu gwerth £7.6m o arbedion  yn ystod 2023/24. Roedd yn gyfuniad o bron i filiwn oedd wedi ei gymeradwyo yn flaenorol, arbedion ar gyfer Ysgolion o £1.1m, £3m ar gyfer adrannau’r Cyngor a £2.4m pellach drwy adolygu polisi ad-dalu dyled cyfalaf y Cyngor.

 

Amlygwyd dros y blynyddoedd diwethaf gwelwyd trafferthion i wireddu arbedion mewn rhai meysydd hyn amlycaf yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant ac yn y maes Gwastraff. Mynegwyd y bu i werth £2m o gynlluniau oedd a risgiau sylweddol i gyflawni eu dileu fel rhan o Adolygiad Diwedd Awst.

 

Eglurwyd fod 98% o’r Cynlluniau o 2015/16 hyd at y flwyddyn ariannol 2023/24 bellach wedi ei gwireddu sef £33.7m o’r £34.3m. O’r cynlluniau newydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol nodwyd fod 81% wedi ei gwireddu a 6% pellach ar drac i’w gyflawni’n amserol. Eglurwyd fod ychydig o oediad i wireddu gwerth £694k o gynlluniau arbedion, ond nid yw’r Adrannau yn rhagweld problem i’w gwireddu. Pwysleisiwyd fod mwyafrif o’r swm yma yn cynnwys arbedion o £539k gan ysgolion gan eu bod yn gweithio i flwyddyn academaidd ac felly y bydd gwireddu’n llithro i’r flwyddyn ariannol nesaf.

 

Pwysleisiwyd fod £39m o arbedion wedi eu gwireddu o’r £41m gofynnol dros y cyfnod. Rhagwelir y bydd 1% ychwanegol wedi ei wireddu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol.

 

Bu i’r Pennaeth Cyllid amlygu’r sylwadau a’r pwyntiau a godwyd yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel a ganlyn. Holwyd sut mae dewis rhwng priodoldeb ariannol a chyflawni dyletswydd statudol, a beth fuasai angen ei wneud unwaith fo arian yn dod i ben. Esboniwyd ei bod yn allweddol fod y cyngor yn gwneud popeth i sicrhau na fydd yn cyrraedd y pwynt yma. Nodwyd fod angen gwneud yn siŵr fod y Cyngor yn sicrhau gwerth am arian ac yn gwneud y defnydd gorau  o bob punt. Mynegwyd fod methiant i wneud hyn yn arwain at angen i wneud datganiad s114, a bod angen gwneud popeth i osgoi cyrraedd y pwynt yma. Cydnabuwyd fod pryder am ddiffyg adnoddau i gyflawni’r pethau ond mai hyn yw’r realiti ar hyn o bryd.

 

Nodwyd fod cais i wneud gwaith modelu er mwyn rhagweld y galw yn y dyfodol, ac eglurwyd fod y Tîm Ymchwil a Gwybodaeth yn flaengar iawn yn y maes hwn. Amlygwyd fod yr aelodau yn nodi ei bod yn prysur gyrraedd y pwynt ble mae angen ail-edrych ar y ffordd mae’r Cyngor yn cyflawni gwasanaethau.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Nodwyd yng nghanol y naratif o doriadau a phwysau cynyddol ar staff, tynnwyd sylw at yr angen i feddwl ar yr effaith mae’n cael ar y staff. Mynegwyd mai prif faes gwariant y Cyngor yw cyflogi staff ac mae torri yn ôl yn mynd i arwain at fwy  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

Awdur: Ffion Madog Evans

8.

RHAGLEN GYFALAF 2023/34 - ADOYLGIAD DIWEDD TACHWEDD pdf eicon PDF 1 MB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

·         Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2023) o’r rhaglen gyfalaf.

·         Cymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad, sef: - cynnydd o £3,576,000 mewn defnydd o fenthyca - cynnydd o £2,373,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau - cynnydd o £317,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw - cynnydd o £1,038,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas

 

PENDERFYNIAD

 

·         Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Tachwedd (sefyllfa 30 Tachwedd 2023) o’r rhaglen gyfalaf.

·         Cymeradwyo’r ariannu addasedig a gyflwynir yn rhan 3.2.3 o’r adroddiad, sef: - cynnydd o £3,576,000 mewn defnydd o fenthyca - cynnydd o £2,373,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau - cynnydd o £317,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw - cynnydd o £1,038,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill.

 

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mae prif ddiben yr adroddiad oedd cyflwyno’r rhaglen ddiwygiedig a chymeradwy’r ffynonellau ariannu perthnasol. Eglurwyd mai’r prif gasgliadau yw bod y Cyngor a chynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi tua £86.8m yn 2023/24 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £41.5m wedi’i ariannu trwy grantiau penodol.

 

Mynegwyd fod effaith heriau ariannol diweddar yn parhau ar y rhaglen gyfalaf, gyda £23.2m sef 27% o’r gyllideb wedi ei wario hyd at ddiwedd Tachwedd eleni, o’i gymharu â 40% dros yr un cyfnod flwyddyn yn ôl. Nodwyd fod £27.4m ychwanegol o wariant arfaethedig wedi’i ail broffilio o 2023/24 i 2024/25 a 2025/26. Tynnwyd sylw i rai o’r cynlluniau a oedd yn cynnwys £12.2m Cynlluniau Ysgolion, £11m Cynlluniau Strategaeth Tai, £3.9m Cynlluniau Risgiau Arfordirol ac Atal Llifogydd.

 

Amlygwyd fod y Cyngor wedi bod yn llwyddiannus yn denu grantiau ychwanegol ers yr adolygiad diwethaf a oedd yn cynnwys £661k Grant Cyfalaf Economi Gylchol, £550k Grantiau at Gae Synthetig Cymunedol 3G ar safle Ysgol Syr Hugh Owen.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Mynegwyd gan fod gymaint o boeni am y cynlluniau refeniw mae’r rhaglen gyfalaf yn aml yn cael ei anghofio. Eglurwyd y bydd cynllun asedau deg mlynedd y Cyngor am gael ei osod dros y misoedd nesaf, ac amlygwyd fod gofynion pob gwasanaeth yn dod i gyfanswm o £82m gyda’r arian cyfalaf yn £38m ac felly bydd angen torri yn ôl ar wariant.

·         Nodwyd fod cyfran gwario eleni yn 27% sydd yn is na’r llynedd a gofynnwyd beth oedd rheswm dros hyn. Eglurwyd fod hyn o ganlyniad i broffilio gwael a rhai cynlluniau addysg heb symud ymlaen.

 

 

Awdur: Ffion Madog Evans

9.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS ADDYSG pdf eicon PDF 200 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Beca Brown

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Beca Brown

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan longyfarch Gwern ap Rhisiart ar ei rôl newydd fel Pennaeth yr Adran Addysg. Atgoffwyd fod y gyfundrefn wedi derbyn adroddiad Estyn cadarnhaol a gyhoeddwyd fis Medi'r llynedd a oedd yn tystio i waith caled y gyfundrefn a diolchwyd i bawb am eu gwaith.

 

Amlygwyd fod yr adran wedi bod yn gweithredu ar gynlluniau o fewn Cynllun y Cyngor y newydd ond ei bod yn ddyddiau cynnal gan ei bod yn gynllun newydd. Amlygwyd rhai meysydd fel a ganlyn. O ran cynllun Trawsnewid Addysg Blynyddoedd Cynnar nodwyd fod comisiynydd allanol wedi’i gomisiynu a bod cynllun gwaith drafft wedi ei greu. Mynegwyd y bydd hyn yn lleihau anghysondeb o ran cynnig ar draws y sir. Eglurwyd fod y Cyngor o flaen amserlen y Llywodraeth o ran cinio am ddim, a bod y gwaith uwchraddio wedi ei wneud bellach o fewn ysgolion. Ychwanegwyd fod gwaith hyrwyddo angen ei wneud yn benodol mewn rhai ysgolion ble mae cyfradd nifer y plant yn elwa yn is. 

 

Mynegwyd yn y maes moderneiddio addysg balchder fod modd arallgyfeirio arian er mwyn buddsoddi yn Ysgol Hirael a Ysgol Tryfan ym Mangor, gan fod costau adeiladu wedi cynyddu cymaint. Ategwyd o ran Llesiant Plant a Pobl ifanc a Cost Gyrru Plant i’r Ysgol fod holiadur wedi ei rannu a fydd yn adnabod gwir gost anfon plant i’r ysgol a fydd yn amlygu costau amlwg meis gwisg ysgol ynghyd a chodi sylwi i gostau mwy cuddiedig.

 

O ran cynllun Trochi, diolchwyd i staff am eu gwaith ac i’r plant am eu holl ymdrechion a bod gwir angen dathlu’r nifer o siaradwyr Cymraeg newydd mae’r gwasanaeth yn ei greu. Mynegwyd fod gwaith hyfforddiant yn parhau o fewn ysgolion a bod rhai ysgolion uwchradd mewn peilot Llywodraeth Cymru a Say Something in Welsh a bod hyn yn amlygu fod yr adran yn ceisio am bob cyfle sy’n codi i sicrhau defnydd o’r Gymraeg.

 

O ddydd i ddydd amlygwyd fod lefel presenoldeb yn parhau i fod yn broblem, ond ei fod i’w weld yn lleol, cenedlaethol ac yn rhyngwladol yn dilyn Covid. Nodwyd fod y rhesymau yn gymhleth ond fod llawer o waith yn cael ei wneud. Mynegwyd tristwch fod y Cabinet wedi gwneud y penderfyniad i gau Ysgol Felinwda ond diolchwyd i’r staff am eu holl waith a dymuno yn dda i’r plant wrth drosglwyddo i’r ddwy ysgol gyfagos.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Ychwanegodd y Pennaeth Addysg fod yr adroddiad yn amlygu llawer o newyddion da ond fod yr adran yn wynebu heriau ond ei fod yn edrych ymlaen at symud ymlaen i weithio yn agos nid yn unig gyda staff yr adran ond gydag ysgolion yn ogystal.

·         Amlygwyd fod gwaith Athro ddim yn swydd hawdd a diolchwyd yn fawr i holl athrawon a staff ysgolion am eu gwaith ac am eu cyfraniad yn trosglwyddo’r Gymraeg i’r genhedlaeth nesaf.

·         Holwyd am sut mae’r gyfundrefn drochi yn cael gwerthuso. Y bwriad yw  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.

Awdur: Gwern ap Rhisiart

10.

ADRODDIAD PERFFORMIAD YR AELOD CABINET DROS GYLLID pdf eicon PDF 280 KB

Cyflwynwyd gan: Cyng. Ioan Thomas

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Ioan Thomas. 

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad.

 

TRAFODAETH 

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod perfformiad yr adran yn gyffredinol dda dros y misoedd diwethaf, ac wedi gwneud cynnydd boddhaol ar y prosiectau blaenoriaeth perthnasol. Amlygwyd prif faterion sy’n deillio o berfformiad yr adran gan gynnwys yr eitemau isod.

 

O ran Gwasanaeth TG - Cefnogol nodwyd fod y gwasanaeth wedi bod yn llwyddiannus wrth lenwi swyddi gwag allweddol. Amlygwyd fod dros 3,453 o geisiadau am gymorth TG yn ystod Hydref a Thachwedd 2023, gyda 93% wedi eu hagor a’u cau yn ystod y cyfnod. Wrth edrych ar Wasanaeth TG - Isadeiledd nodwyd fod argaeledd y Rhwydwaith Craidd a’r Systemau Critigol wedi bod yn 100% yn ystod y cyfnod a ni chafwyd digwyddiad seibir na thoriad gwasanaeth difrifol chwaith.

 

Wrth edrych ar wasanaethau cyllid amlygwyd y prosiectau fel a ganlyn. O ran Gwasanaeth Incwm nodwyd fod yr adroddiad yn parhau i roi sylw i gynnydd yr achosion mae’r gwasanaeth yn eu cyfeirio at y Gwasanaeth Cyfreithiol er mwyn sicrhau bod cydweithio effeithiol rhwng y ddwy uned. Amlygwyd fod Gwasanaeth Budd-daliadau yn perfformio’n gyson dda a diolchwyd i’r Rheolwr a’r holl staff y gwasanaeth am sicrhau fod pobl fwyaf bregus Gwynedd yn derbyn y cymorth ariannol maent yn gymwys iddo. Mynegwyd fod y gwasanaeth Cyflogau wedi bod yn ymateb yn amserol i’r cytundeb tal ar gyfer 2023/24 ac wedi sicrhau fod cynnydd ac ôl-dâl wedi cael ei dalu i staff yn ystod mis Tachwedd. Amlygwyd pryder ar fethiant rhai gwasanaethau i hysbysu’r Gwasanaeth Cyflogau’n amserol o unrhyw newid mewn sefyllfa unigolyn er mwyn gallu gweithredu ar amser.

 

Mae llawer o waith wedi ei wneud i gynnal adolygiad Ffordd Gwynedd ar y gwasanaeth Trethi, ac mae  gwelliannau clir bellach wedi dod i’r amlwg yn sgil ymrwymiad y Rheolwr a’r tîm cyfan i wneud y gwaith. Tynnwyd sylw at y cynlluniau arbedion gan nodi fod pob cynllun oni bai am un wedi ei gyflawni ar gyfer cynlluniau 2015/16 – 2022/23. Nodwyd nad yw’r adran yn rhagweld y bydd y cynllun – Denu incwm ychwanegol drwy Asiantaeth Casglu Mewnol yn gwireddu’r targed arbedion o £35k felly mae’r adran yn edrych am gynllun amgen. Nodwyd fod cyfanswm arbedion 2023/24 ar gyfer yr Adran Gyllid yw £294,060 dros 7 cynllun. Eglurwyd fod gwerth £19,820 o gynlluniau eisoes wedi gwireddu ac mae 3 cynllun arall a cyfanswm o £138,670 ar drac i gyflawni’n amserlen. Amlygwyd fod 2 gynllun gwerth £135,570 yn llithro.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

·         Tynnwyd sylw at y Gwasanaeth Budd-daliadau gan nodi fod yr adran yn gyson dda ond fod angen annog pobl Gwynedd i ddefnyddio’r gwasanaeth i sicrhau eu bod yn cael y cymorth ariannol sydd ar gael iddynt.

 

Awdur: Dewi Aeron Morgan

11.

BLAEN RAGLEN Y CABINET pdf eicon PDF 72 KB

Cyflwynwyd gan: Cllr. Dyfrig Siencyn

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd y Flaen raglen a gynhwyswyd yn y papurau i’r cyfarfod.

 

TRAFODAETH

 

Dim i'w nodi.