Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion
protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Datganodd yr
aelodau canlynol eu bod yn aelod lleol
mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y
Cynghorydd Huw Wyn Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 (C22/0662/11/LL) ar y rhaglen ·
Y
Cynghorydd Craig ab Iago (nad oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C22/0570/22/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Kim Jones (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C22/0676/15/LL) ar y rhaglen Amlygodd y Swyddog
Monitro fod gan y Cynghorydd Medwyn Hughes
(Aelod Lleol mewn perthynas â chais 5.1 ar y rhaglen) fuddiant
personol ar yr eitem a’i fod
wedi ei gynghori
i beidio cymryd rhan yn
y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: |
|
Cais Rhif C22/0662/11/LL Ysgol Hillgrove, Ffordd Ffriddoedd, Bangor, Gwynedd, LL57 2TW Newid defnydd o cyn-ysgol (Defnydd Dosbarth
D1) i hostel (Defnydd Dosbarth C2) sy'n cynnig cefnogaeth byw i breswylwyr gan
gynnwys estyniad a gwaith adeiladu cysylltiedig. AELODAU LLEOL:
Cynghorydd Huw Wyn Jones a’r Cynghorydd R Medwyn Hughes Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: - Rhoi cyfle i swyddogion asesu
sylwadau hwyr a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd ac addasu’r adroddiad yn unol â
hynny - Cynnal ymweliad safle i asesu addasrwydd yr ardal at ddefnydd y
cais Cofnod: Ysgol Hillgrove, Ffordd Ffriddoedd, Bangor Gwynedd, LL57 2TW Newid
defnydd o cyn-ysgol (Defnydd Dosbarth D1) i hostel (Defnydd Dosbarth C2) sy'n
cynnig cefnogaeth byw i breswylwyr gan gynnwys estyniad a gwaith adeiladu
cysylltiedig. Tynnwyd sylw
at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod gwybodaeth ychwanegol wedi cael
ei gyflwyno gan yr ymgeisydd ac awgrymwyd i’r Aelodau ohirio trafod y cais fel
bod modd i’r swyddogion Cynllunio gael cyfle i ymateb i’r sylwadau ac addasu’r
adroddiad yn unol â hynny. Awgrymwyd hefyd y byddai’n fuddiol i’r Aelodau
ymweld â’r safle i asesu addasrwydd yr ardal at ddefnydd y cais. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd gohirio’r penderfyniad PENDERFYNWYD: gohirio Rhesymau: - Rhoi
cyfle i swyddogion asesu sylwadau hwyr a dderbyniwyd gan yr ymgeisydd ac
addasu’r adroddiad yn unol â hynny - Cynnal
ymweliad safle i asesu addasrwydd yr ardal at ddefnydd y cais |
|
Cais Rhif C22/0570/22/LL Lock Up, Uned Storio, Penygroes, LL54 6DB Adeiladu uned storio tri llawr gyda bloc
swyddfa a llawr 'mezzanine', a cysylltiad i'r adeilad presennol. AELOD LLEOL: Cynghorydd Craig ab Iago Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu
gydag amodau -
Cofnod: Lock Up, Self
Storage, Penygroes, LL54 6DB Adeiladu uned storio tri llawr gyda bloc swyddfa a llawr 'mezzanine' a chysylltiad i'r adeilad presennol. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer
adeiladu sied storio tri llawr gyda bloc swyddfa a llawr mezzanine,
gyda estyniad ochr i gysylltu’r adeilad bwriadedig
i’r adeilad cyfochrog presennol. Byddai’r adeilad bwriadedig
yn cael ei rhannu i 2 rhan - prif adeilad 3 llawr ar gyfer storio a’r ail ran
yn sylweddol llai ar gyfer cegin fach, ystafell ymweld a swyddfa ar y llawr
cyntaf. Byddai'r adeilad yn mesur 34 medr mewn hyd, 15.5 medr mewn lled a 11
medr mewn uchder. Adroddwyd
bod Polisi PCYFF3 yn datgan y bydd
cynigion yn cael eu caniatáu, gan gynnwys estyniadau a newidiadau i
adeiladau a strwythurau presennol, os ydynt yn cydymffurfio a nifer o feini
prawf sy’n cynnwys bod y cynnig yn ychwanegu neu yn gwella cymeriad y safle, yr
adeilad neu’r ardal o ran y gosodiad, yr ymddangosiad, y raddfa, yr uchder, y
mas a’r driniaeth i’r drychiadau; ei fod yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn
y dirwedd leol. Amlygwyd
fod y bwriad yn golygu codi adeilad sylweddol ei faint ac uchder ar gyrion
gorllewinol ystâd ddiwydiannol ar safle rhwng dau adeilad ac ar bwys clawdd
terfyn gyda chefnffordd gyfochrog. Eglurwyd bod y cynlluniau a gyflwynwyd
gyda’r cais yn dangos y byddai’r adeilad yn sylweddol uwch na’r adeiladau
gerllaw a’r clawdd terfyn ac felly yn creu nodwedd uchel, amlwg ac anghydnaws
o’r gefnffordd a niwed i fwynderau gweledol yr ardal. Derbyniwyd
bod elfennau o’r adeiladau presennol
gerllaw yn weladwy o ffordd osgoi Penygroes, ond byddai uchder a graddfa'r
adeilad bwriadedig yn sefyll allan fel nodwedd
anghyson yn y patrwm datblygu ac yn tynnu sylw, ac yn ychwanegu yn sylweddol at
nodweddion dynol sy’n weladwy o’r ffordd honno. Er bod y safle yn ffurfio rhan
o ystâd ddiwydiannol amlygwyd bod y safle yn ffinio gyda chefn gwlad agored lle
mae’r dirwedd yn llawer mwy sensitif i newid.
Nodwyd
bod yr adeiladau presennol oherwydd eu maint, uchder a graddfa yn cael eu
cysgodi i raddau gan glawdd a llystyfiant presennol, er hynny, y llystyfiant yn
bennaf yn blanhigion collddail a’r adeilad felly yn llawer mwy amlwg yn y
gaeaf. Yng
nghyd-destun materion yn ymwneud a’r Iaith Gymraeg, nodwyd na ofynnwyd i'r
ymgeisydd baratoi a chyflwyno datganiad o'r fath oherwydd na fyddai’n newid
barn y Gwasanaeth Cynllunio o ran yr effaith gweledol. Er hynny, heb asesiad
priodol nid oedd yn bosib asesu effaith y bwriad ar yr iaith. Wedi pwyso a mesur y bwriad yng nghyd-destun y polisïau perthnasol, ni ystyriwyd ei fod yn dderbyniol i’w ganiatáu. Ystyriwyd y byddai'r adeilad oherwydd ei raddfa a maint yn ychwanegiad anghydnaws ac y byddai'n cael effaith negyddol sylweddol ar edrychiad a chymeriad yr ardal (yn groes i Bolisi PCYFF2, PCYFF3, PCYFF4 a PS 19). Y bwriad hefyd yn groes i bolisi PS 1 o fewn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C22/0676/15/LL Maes Parcio, Y Glyn, Llanberis, LL55 4EL Ail-wynebu ac ail-drefnu meysydd parcio y Glyn
gan gynnwys creu llwybr cerdded hygyrch gydag arwyneb tarmac a gosod wyneb
system celloedd graean o fewn yr ardaloedd parcio. AELOD LLEOL: Cynghorydd Kim Jones Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r
hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig ar dderbyn
sylwadau cadarnhaol oddi wrth Gyfoeth Naturiol Cymru a'r Uned Goed ynghylch
gwybodaeth bellach a gyflwynwyd mewn ymateb i'w sylwadau cychwynnol:
1. Amser 2.
Cydymffurfio gyda’r cynlluniau 3. Amodau priffyrdd 4. Rhaid gweithredu’n unol ag argymhellion yr Asesiad o
Effeithiau Ecolegol 5. Rhaid gweithredu’n unol ag
argymhellion yr Asesiad Coedyddiaeth 6. Unrhyw amodau Bioamrywiaeth
/ Coedyddiaeth eraill angenrheidiol Nodiadau 1.
Dŵr
Cymru 2.
Cyfoeth
Naturiol Cymru 3.
Uned
Draenio Tir Cofnod: Maes
Parcio, Y Glyn, Llanberis, LL55 4EL Ail-wynebu ac
ail-drefnu meysydd parcio Y Glyn gan gynnwys creu llwybr cerdded hygyrch gydag
arwyneb tarmac a gosod wyneb system celloedd graean o fewn yr ardaloedd parcio. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau
hwyr a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd i ail-drefnu'r tri maes parcio presennol sydd
wedi eu lleoli yn ardal Y Glyn ar lan
Llyn Padarn, Llanberis. Bydd yr aildrefnu yn gwelliannau i'r meysydd parcio yn
unig – nid oes bwriad newid defnydd y tir a bydd y meysydd parcio yn parhau o
dan reolaeth y Cyngor Sir. Bydd y gwaith yn cynnwys: ·
Ardal maes Parcio Rhif 1: 52 x bae parcio car, 3 x bae parcio
anabl & 9 x bae parcio ‘camper van’. Bydd yr ardal hon hefyd yn cynnwys ardal ar gyfer
glanhau canŵ/offer gyda waliau uchel o'i amgylch, ffynnon ddŵr yfed,
cysgodfa ar gyfer cadw hyd at 10 o feics gyda tho gwyrdd a chladin coed a thri
phwynt gwefru EV ar gyfer ceir trydanol. ·
Ardal maes Parcio Rhif 2: 57 x bae parcio car, 1 x bae parcio
trelar & 13 x bae parcio ‘camper van’. ·
Ardal maes Parcio Rhif 3: 20 x bae parcio car, 2 x bae parcio
anabl & 4 x bae parcio ‘camper van’. Ategwyd y
bydd y llwybr troed yn cael ei orffen gyda tharmac a bydd y lon a'r baeau
parcio newydd i gyd yn cael eu gorffen gyda gridiau
cellog wedi eu llenwi gyda cherrig mân gyda cherrig lliw llwyd golau yn cael eu
defnyddio yn y baeau parcio a charreg lliw llwyd tywyll yn ardal y lon er mwyn
creu cyferbynnedd gweledol. Nodwyd bod
Polisi Strategol PS 5 : Datblygu Cynaliadwy’n ymrwymo’r Awdurdod Cynllunio i
gefnogi datblygiadau ble gellid dangos eu bod yn gyson ag egwyddorion
datblygiad cynaliadwy. Mae'r polisi hwnnw'n rhoi blaenoriaeth i ddefnyddio tir
a ddefnyddiwyd o'r blaen ac i hyrwyddo safonau dylunio o ansawdd uchel sy'n
gwneud cyfraniad cadarnhaol i'r ardal leol; Bydd y cynllun hwn yn cynnig cyfle
i wella ansawdd yr adnodd parcio sydd ar gael yn y lleoliad hwn ac yn sicrhau
bod y tair ardal yn cael eu tacluso a'u gosod yn fwy trefnus er budd defnyddwyr
a rheolaeth hir dymor y safle. Yng
nghyd-destun materion priffyrdd nodwyd nad oedd gan yr Uned Trafnidiaeth unrhyw
wrthwynebiad i'r cynlluniau o safbwynt diogelwch y briffordd ac fe ystyriwyd
bod y trefniant parcio'n dderbyniol. Byddai'r gysgodfa’n beics yn annog y
defnydd o ddull trafnidiaeth gynaliadwy tra byddai gosod llwybr llawr caled yn
hwyluso mynediad ar gyfer y rheiny sydd â phroblemau symudedd. Yng nghyd -destun bioamrywiaeth a choed nodwyd bod y safle o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ac fe gyflwynwyd Gwerthusiad Ecolegol Cychwynnol a daeth hwnnw i'r casgliad ei bod yn annhebygol y byddai'r cynllun arfaethedig yn arwain at effeithiau gweddilliol sylweddol ar nodweddion ecolegol pwysig yn y tymor hir pe bai'r holl fesurau lliniaru a digolledu a gynigiwyd yn cael eu dilyn. Yn ogystal ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |