Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Cai Larsen a Gareth Roberts.

 

Croesawyd Miriam Williams (Cyfreithiwr) i’r cyfarfod.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)            Datganodd yr aelod canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

Y Cynghorydd Gruffydd Williams  (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C23/0543/43/LL) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn fab i’r ymgeisydd

 

Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais.

 

b)            Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·           Y Cynghorydd Jina Gwyrfai (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C23/0543/43/LL) ar y rhaglen

·           Y Cynghorydd Gareth Morris Tudor Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C23/0201/08/LL) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 389 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11 Medi 2023 fel rhai cywir.

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

 

6.

Cais Rhif C23/0541/11/MG Maes Berea, Bangor, LL57 4TQ pdf eicon PDF 327 KB

Materion a gadwyd yn ôl yn sgil derbyn caniatâd cynllunio amlinellol C18/0365/11/AM ar gyfer 9 tŷ newydd gyda modurdai integredig gan gynnwys manylion gosodiad, graddfa, ymddangosiad, mynediad a thirlunio.

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Gareth Roberts

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau

           

1.    Oriau gwaith adeiladu

2.    Graddfa mynedfa i fannau parcio i’w gytuno o flaen llaw yn unol ag amod 4 o’r caniatâd cynllunio amlinellol

 

Cofnod:

Materion a gadwyd yn ôl yn sgil derbyn caniatâd cynllunio amlinellol C18/0365/11/AM ar gyfer 9 newydd gyda modurdai integredig gan gynnwys manylion gosodiad, graddfa, ymddangosiad, mynediad a thirlunio.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu fod y cais yn gais materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 9 tŷ tri llawr gyda modurdai integredig mewn ardal anheddol o Ganolfan Isranbarthol Bangor fel y’i diffinnir gan Gynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn (CDLl). Rhoddwyd caniatâd i ddatblygu'r safle yn wreiddiol yn 2018 (C18/0365/11/AM) ac roedd y materion a gadwyd yn ôl yn cynnwys tirlunio, ymddangosiad, mynediad, cynllun a maint.

 

Eglurwyd bod  yr egwyddor o ddatblygu 9 tŷ ar y safle o’r maint a natur a gynigiwyd eisoes wedi ei dderbyn trwy’r caniatâd amlinellol ac felly ni roddwyd ystyriaeth bellach i’r egwyddor hwnnw. Nodwyd bod cytundeb 106 mewn lle i sicrhau bydd 7 uned ar gyfer y farchnad agored a 2 yn dai fforddiadwy gyda’r unedau yn parhau i gydymffurfio â gofynion Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy o ran maint.

 

Ategwyd bod y cynlluniau manwl a gyflwynwyd yn gwbl gyson gyda’r cynlluniau mynegol a gyflwynwyd gyda’r cais amlinellol; y safle wedi ei leoli o fewn ardal drefol gymysg gyda thai cyfagos o ddyluniad, cynllun a maint tebyg i’r hyn a gynigiwyd.

 

Ystyriwyd fod y bwriad yn dilyn patrwm datblygedig y tai presennol agosaf o fewn stad Maes Berea a bod eu hymddangosiad, yn briodol wrth ystyried eu cyd-destun adeiledig.  Byddai’r manylion a gyflwynwyd yn cynnig parhad rhesymegol i’r stad tai presennol ac fellr’ cynigion ar gyfer tirlunio, ymddangosiad, mynediad, cynllun a maint ar gyfer y datblygiad yn dderbyniol, ac na fyddant yn amharu ar gymeriad ac edrychiad yr ardal.

 

b)    Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu’r cais

 

            PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau

           

            1.         Oriau gwaith adeiladu

            2.         Graddfa mynedfa i fannau parcio i’w gytuno o flaen llaw yn unol ag amod 4   o’r caniatâd cynllunio amlinellol

 

 

7.

Cais Rhif C23/0543/43/LL Parc Carafanau Gwynus, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6LY pdf eicon PDF 417 KB

Cais llawn i uwchraddio Parc Carafanau presennol trwy leoli pum caban newydd, cadw'r ffordd fynediad dros dro a chreu cae chwarae

 

Aelod Lleol: Cynghorydd Jina Gwyrfai

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu yn groes i'r argymhelliad

 

Amodau:

 

  • 5 mlynedd
  • Yn unol â’r cynlluniau
  • Defnydd gwyliau yn unig
  • Cadarnhau nifer unedau ar y safle yn ei gyfanrwydd
  • Cyflwyno manylion ynglŷn â’r man chwarae neu waith cysylltiol iddo
  • Bod y bwnd yn cael ei adeiladu cyn y gwaith ail-leoli
  • Materion archeolegol

 

Cofnod:

Cais llawn i uwchraddio Parc Carafanau presennol trwy leoli pum caban newydd, cadw'r ffordd fynediad dros dro a chreu cae chwarae

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02-10-23

 

a)    Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar gyfer uwchraddio ac ymestyn safle carafanau presennol. Eglurwyd bod y cais yn cynnwys bwriad i ail-leoli pum caban gwyliau o fewn safle a nodir fel cae 470 (Cwrs Golff) ynghyd a chadw ffordd fynediad a ganiatawyd yn wreiddiol am gyfnod dros dro ar gyfer gwasanaethu’r unedau ychwanegol, ynghyd a chreu cae chwarae. Bu cwrs golff ar y lleoliad yn y gorffennol, ond yn amlwg bod y defnydd yma bellach wedi dirwyn i ben. Rhoddwyd caniatâd yn 2015 i ail-leoli 5 uned sefydlog neu gaban i leoliad ar ran o ble fyddai’r cwrs golff (Cae 470) tra roedd 5 arall i’w hail-leoli i ran arall o’r safle sef cae 471.

 

Er eglurder byddai’r bwriad yn golygu lleoli’r cyfan o’r cabanau gyda’i gilydd ar gae 470 yn lle’r caniatâd a roddwyd i leoli pump ar gae 470 a phump arall ar gae 471. Tybiwyd y byddai’r cabanau gwyliau arfaethedig yn mesur yr un peth a’r hyn a ganiatawyd eisoes.Yn ogystal bwriedir codi clawdd pridd newydd ar hyd terfyn gogleddol a gorllewinol cae 470.

 

Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal ddiarffordd a chymharol fynyddig yng nghefn gwlad agored o fewn Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE) a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Mae’r adeilad preswyl, sef Gwynus, a leolir ar ran o’r safle yn adeilad rhestredig gradd II. Ceir mynedfa tuag at y safle oddi ar y ffordd gyhoeddus agosaf ar hyd ffordd ddi-ddosbarth sydd yn gwyro i’r gogledd cyn cyrraedd y safle ei hun ac yna ar hyd ffordd fynediad preifat; y  ffordd ddi-ddosbarth hefyd wedi ei ddynodi fel llwybr cyhoeddus. Nodwyd bod y safle yn gweithredu ac wedi hen sefydlu fel parc carafanau.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod perthynas agos i’r ymgeisydd yn aelod etholedig o’r Cyngor.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad adroddwyd mai’r prif bolisi perthnasol oedd TWR 3 a pherthynas y safle a'i leoliad  o fewn yr AHNE.  Nodwyd bod rhan 3 o’r polisi yn derbyn y gellid caniatáu estyniadau bychain i arwynebedd safleoedd sefydlog a / neu ail-leoli unedau o leoliadau amlwg i leoliadau llai amlwg yn ddarostyngedig i gydymffurfio gyda chyfres o feini prawf sy’n cynnwys fod bwriad yn cynnig gwelliannau sylweddol a pharhaol i ddyluniad, gosodiad ac edrychiad y safle a’i le yn y dirwedd o’i amgylch.

 

Ystyriwyd na fyddai’r ardal newydd yma yn estyniad bychan i arwynebedd y safle carafanau presennol ac ni welwyd rheswm digonol pam fod angen ail-leoli’r 5 uned sefydlog ychwanegol i gae 470 pan mae cynllun blaenorol wedi ei ganiatáu yn dangos y byddai’n bosibl eu lleoli ar gae 471 sydd o fewn y safle presennol ac sydd eisoes wedi ei ddatblygu.  Er derbyn dyhead yr ymgeisydd i wella’r safle, ni ellid  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C23/0293/42/LL Arosfa, Edern, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YU pdf eicon PDF 431 KB

Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol a chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol

Aelod Lleol: Cynghorydd Gareth Tudor Morris Jones

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais  

 

Amodau

 

1.         Amser

2.         Yn unol â’r cynlluniau

3.         Cytuno deunyddiau gan gynnwys llechi to

4.         Cyfyngu hawliau datblygiadau a ganiateir a ffenestri

5.         Rheoli’r math o ffenestr/gwydr a osodir

6.         Tirlunio

7.         Gwelliannau Bioamrywiaeth

8.         Cynllun rheoli adeiladu

9.         Cyfyngu defnydd yr adeilad preswyl yn unig ac nid ar gyfer ail dŷ neu lety gwyliau

 

Cofnod:

Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol a chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02-10-23

 

a)            Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu fod y cais wedi ei drafod eisoes mewn cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd  Medi 11eg 2023 lle penderfynwyd gohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle fel bod modd i’r Aelodau gael cyfle i weld y safle yng nghyd-destun ei leoliad a’i effaith ar fwynderau trigolion cyfagos.

 

Adroddwyd mai cais llawn ydoedd i ddymchwel strwythurau presennol ac adeiladu tŷ annedd deulawr newydd ar wahân gyda gwaith cysylltiol.  Saif y safle oddi fewn i’r ffin ddatblygu ac oddi fewn Ardal Tirwedd Arbennig Gorllewin Llŷn a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Nodwyd bod y cais wedi ei ddiwygio ddwywaith o’i gyflwyniad gwreiddiol mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd ac yn dilyn trafodaethau gyda swyddogion.  Derbyniwyd cynllun diwygiedig pellach ar y 14.09.2023 sydd yn symud y tŷ newydd oddeutu 2m ymhellach i’r de-ddwyrain yn unol â chais yr aelod lleol.

Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor Cynllunio am benderfyniad ar gais yr aelod lleol oherwydd pryder am faint y tŷ arfaethedig ynghyd a’i agosatrwydd at dai eraill.

Eglurwyd bod y safle dan sylw wedi ei ddatblygu yn barod ac felly yn cael ei ystyried fel tir llwyd ac wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu pentref Edern. Roedd y bwriad felly yn bodloni gofynion cyffredinol polisïau PS 5, PCYFF 1 a PS17 o Gynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLI). Yn bresennol mae’r safle yn cynnwys siediau diwydiannol o fath sydd yn eithaf syml eu dyluniad sy’n eistedd yn ddisylw o fewn y llain.

 

Cydnabuwyd y byddai’r tŷ arfaethedig yn fwy o ran maint na’r adeiladau presennol, ond mewn ymateb i bryderon a amlygwyd diwygiwyd yr adeilad o’r hyn a gyflwynwyd yn wreiddiol gyda’r  tŷ newydd wedi ei leoli o fewn rhan y safle sydd o fewn y ffin ddatblygu. Er bod  hyn yn golygu ei fod yn agosach i ffin ogleddol y safle nac y byddai petai wedi ei wthio ymhellach i mewn i’r safle, ni ystyriwyd fod ei leoliad o fewn y safle yn afresymol. Adroddwyd bod uchder crib to’r sied uchaf bresennol yn 3.3m a byddai uchder crib y to arfaethedig yn 5.8m sydd fymryn yn is nag uchder crib yr eiddo cyfochrog i’r gorllewin. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’n sefyll allan fel nodwedd cwbl anghydnaws yn y rhan yma o’r pentref nac yn gwbl groes i’r patrwm datblygu cyffredinol a welir yno. Ni ystyriwyd y byddai’r tŷ newydd arfaethedig yn effeithio i raddau cwbl annerbyniol ar gymeriad ac ymddangosiad y safle na’r ardal o gwmpas o ran ei ymddangosiad, graddfa, uchder na mas. Gyda phresenoldeb coed a pherthi aeddfed o fewn y safle sy’n rhoi gorchudd priodol i’r safle, ni ystyriwyd y byddai’r adeilad yn dominyddu edrychiadau tuag at y safle o fannau amlwg cyhoeddus na dynodiadau tirweddu.

 

Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, amlygwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.