Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a)
Datganodd
yr aelodau canlynol fuddiant personol, yn yr
eitem ganlynol am y rheswm a nodir: · Y Cynghorydd
Owain Williams yn eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0903/33/LL) oherwydd ei
fod yn berchen Parc Carafanau llai na 6 milltir o’r safle. · Y Cynghorydd
Gruffydd Williams yn
eitem 5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0903/33/LL) oherwydd ei
fod yn fab i berchennog Parc Carafanau llai na 6 milltir o’r safle. Roedd yr aelodau o’r
farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawsant y Siambr yn ystod
y drafodaeth ar y cais b)
Datganodd yr aelod canlynol ei bod yn aelod
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Elin
Walker Jones (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.3 a 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C19/0002/11/LL a C20/0083/11/DT. Roedd
yr Aelod yn datgan buddiant
mewn perthynas â chais (C19/0002/11/LL) gan ei bod yn Llywodraethwr
yn Ysgol Tryfan ac yn teimlo
y byddai’r datblygiad hwn yn effeithio
ar fuddiannau Ysgol Tryfan. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 02/03/20 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr
2il o Fawrth 2020 fel rhai cywir, yn
ddarostyngedig i nodi bod y Cynghorydd Louise
Hughes a’r Cynghorydd
Dilwyn Lloyd yn bresennol yn y cyfarfod. Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â phenderfyniad
un o’r ceisiadau oedd trefnu ymweliad
safle, mynegodd yr Uwch Gyfreithiwr
nad yw’n ymarferol cynnal ymweliadau yn ystod y cyfnod covid, ac felly yn anorfod, bydd oediad
sylweddol os yw’r Pwyllgor yn
ymweld â safle. Amlygwyd y byddai hyn yn gallu
arwain at risgiau o ran apêl a rhesymoldeb unrhyw benderfyniad yn debygol o ddod
dan y chwydd wydr. Os yw
penderfyniad yn afresymol, mi all arwain at gostau. Gwnaed cais i’r Pwyllgor,
cyn galw am ymweliad, i amlygu
pa wybodaeth ychwanegol sydd ei angen. Ategodd y Rheolwr Cynllunio y byddai Swyddogion yr Adran Cynllunio
yn ystyried y posibilrwydd o wneud defnydd o dechnoleg er mwyn cyfarch
unrhyw faterion e.e. darparu lluniau
neu fideo ychwanegol i gyfarch
y cais am wybodaeth bellach. Os byddai’r
Pwyllgor o’r farn na
all gwybodaeth ychwanegol gael ei ddarparu
yn y modd uchod, byddai angen
rhoi rhesymau eglur a byddai'r rhain yn cael
eu cofnodi. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
CAIS RHIF C19/0903/33/LL Plas yng Ngheidio, Ceidio, Pwllheli PDF 234 KB Cais i ddiwygio amodau 4 (tymor), 7 (cyflwyno a cytuno
manylion podiau) a 8 (cytuno manylion storio) ynghlwm â chaniatad cynllunio
C14/1218/33/LL AELOD LLEOL: Cynghorydd Anwen Davies Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Gwrthod – rhesymau 1. Byddai’r bwriad yn gyfystyr a chreu
safle llety gwersylla amgen parhaol o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ac felly yn groes i faen
prawf 1 o Bolisi TWR 3 CDLL. 2. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn gwneud dim i gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig yr Ardal Tirwedd Arbennig a fod y bwriad felly yn groes i ofynion Polisi PCYFF 4 ac AMG 2 CDLL. Cofnod: Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd Cyflwynwyd y cais
i Bwyllgor gan fod y safle o fewn perchnogaeth aelod o’r Cyngor. a)
Ymhelaethodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer diwygio amodau
4 (cyfyngu tymor lleoli), 7 (cyflwyno a chytuno manylion podiau) a 8 (cytuno
manylion storio) sydd ynghlwm a chaniatâd cynllunio C14/1218/33/LL. Eglurwyd
bod caniatâd cynllunio C14/1218/33/LL yn rhoi caniatâd cynllunio amodol ar gyfer
newid defnydd cae i greu safle carafanau teithiol ar gyfer 11 carafán deithiol
a 2 ‘pod’ campio ynghyd ac adeiladu bloc toiledau. O’r wybodaeth a
gyflwynwyd fel rhan o’r cais gerbron nodwyd y byddai cyfnod meddiannu’r podiau
rhwng 1 Mawrth a 31 Hydref ond fod bwriad i’r podiau yn aros ar y safle ond
ddim yn cael eu gosod/meddiannu yn ystod gweddill y flwyddyn. Ni chyflwynwyd
manylion y podiau, na’r safle ar gyfer eu storio yn unol â manylion amodau 7 ac
8 a roddwyd ar y caniatâd cynllunio hwnnw ym Mawrth 2015. Pan roddwyd caniatâd
cynllunio amodol ar gyfer y podiau dan sylw yn 2015, roedd hyn ar y
ddealltwriaeth fod y podiau yn rhai symudol ac y byddai yn bosib eu symud i ac
o’r safle heb unrhyw rwystr. Er gwaethaf yr amodau clir a roddwyd ar y caniatâd
gwreiddiol i gytuno manylion y podiau a manylion storio ni
wnaethpwyd hyn. Tynnwyd sylw hefyd at yr amod sydd yn datgan yn glir nad oes carafanau teithiol na phodiau i gael eu storio ar y
safle rhwng 1 Tachwedd a 28 Chwefror y flwyddyn ganlynol. Amlygwyd bod y cais yn datgan fod y podiau sydd ar y
safle yn rhai a allai gael ei gwanhau neu eu difrodi
wrth eu symud ar ddiwedd neu gychwyn y tymor ynghyd a'r bwriad i leoli’r podiau
ar y safle trwy gydol y flwyddyn. Gan nad oes bwriad
i’w symud o’r safle yn ystod misoedd y gaeaf ystyriwyd y cais o dan Bolisi TWR
3 o’r CDLl sy’n ymwneud gyda safleoedd carafanau sefydlog a siale a llety
gwersylla amgen parhaol. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli yng nghefn gwlad
agored y tu allan i unrhyw ffin datblygu a gydnabyddir
yn y cynllun datblygu mabwysiedig, ac o fewn Ardal Tirwedd Arbennig. Mae hefyd wedi ei leoli oddi fewn i Dirwedd o
Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol. Oherwydd ei leoliad o fewn Ardal Tirwedd Arbennig, mae Polisi TWR 3 o’r
CDLl yn datgan y gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd llety gwersylla amgen
parhaol newydd oddi fewn ardaloedd o’r fath. Ni
ystyriwyd y byddai caniatáu safle podiau parhaol ar y safle yma yn gymorth i
gynnal, gwella nag adfer cymeriad yr Ardal Tirwedd Arbennig. Er bod y podiau
dan sylw wedi eu lleoli ger adeiladau presennol byddai datblygiad parhaol o’r
natur hwn yn debygol o achosi niwed i ansawdd gweledol y dirwedd ac ystyriwyd fod y bwriad felly yn groes i ofynion Bolisi PCYFF
4 a Pholisi AMG 2 o’r CDLL. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd gwrthod y cais c) Yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
CAIS RHIF C19/1123/40/LL Warws Hufenfa De Arfon, Y Ffor, Pwllheli PDF 219 KB Newid defnydd rhan o adeilad i ffurfio modurdy a safle MOT AELOD LLEOL: Cynghorydd Peter Read Dolen
i'r dogfennau perthnasol Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Caniatáu. Amodau 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol gyda’r cynlluniau. 3. Cyfyngu defnydd o’r uned i ddosbarth defnydd B2. Cofnod: Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor
gan fod tad yr ymgeisydd yn
Aelod Etholedig. a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd i newid defnydd rhan
o adeilad i ffurfio modurdy a safle MOT. Eglurwyd bod y bwriad yn cynnwys gosod
offer perthnasol i redeg y modurdy y tu mewn i’r
adeilad ac nad
oedd bwriad i wneud unrhyw
addasiadau allanol. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli
o fewn ffin ddatblygu Y Ffôr ac wedi ei ddynodi
fel safle cyflogaeth i’w warchod yn Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn. Ategwyd bod y safle yn ffurfio rhan
o ystâd ddiwydiannol bresennol ble ceir
amrywiol ddiwydiannau ar hyn o bryd,
gyda rhai tai annedd yng
nghyffiniau’r ystâd ddiwydiannol. Amlygwyd bod y bwriad ar gyfer
newid defnydd rhan o’r adeilad
i fod yn
fodurdy atgyweirio ceir a chanolfan MOT sydd yn ddosbarth
defnydd B2. Ni ystyriwyd y byddai newid defnydd
rhan o’r adeilad i fodurdy
yn cael effaith
andwyol ar fwynderau’r gymdogaeth leol o gofio fod y safle eisoes yn
cael ei ddefnyddio
ar gyfer defnydd cyflogaeth / diwydiant. Ystyriwyd fod y defnydd arfaethedig yn dderbyniol ac na fyddai
yn amharu ar fwynderau, cymeriad
neu edrychiad y safle na'r ardal
o'i gwmpas a'i fod yn
cyd-fynd gyda nodweddion y polisïau perthnasol. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu
y cais yn unol â’r argymhelliad. c)
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol
gan aelodau: ·
Croesau cais sydd yn cynnig cyflogaeth ·
Croesau
cais sydd yn gwneud y defnydd
gorau o adeilad o fewn ystâd ddiwydiannol ·
Defnydd da o hen adeilad ·
Derbyn yr angen i arall gyfeirio yn yr hinsawdd
sydd ohoni ·
Er
yn croesawu y cais, pwysig peidio
diystyru anghenion y ffatri laeth i’r
dyfodol PENDERFYNWYD
caniatáu y cais 1. Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2. Unol gyda’r cynlluniau. 3. Cyfyngu defnydd o’r uned i
ddosbarth defnydd B2. |
|
CAIS RHIF C20/0002/11/LL Tir ger Ysgol Friars, Bangor PDF 540 KB Gwaith peirianyddol er mwyn gwella caeau chwarae presennol gan
ddefnyddio pridd o safle gyfochrog Ysgol Y Garnedd AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol; • Cychwyn y
datblygiad o fewn 5 mlynedd • Rhybudd 14
diwrnod o gychwyn a gorffen y gwaith • Gosod pridd yn unol â chanllawiau
adfer Llywodraeth Cymru yn MTAN1: Agregau
• Darpariaeth ôl-ofal am gyfnod o 5
mlynedd wedi hadu’r safle i gynnwys darpariaeth ar gyfer casglu cerrig, dadansoddiad cemegol, draeniad
y tir, amseriad y gwaith ac unrhyw waith adferol, • Cydymffurfio
gyda chynlluniau a manylion y cais, • Ni chaniateir defnyddio unrhyw offer
ar y safle oni bai bod systemau atal llwch digonol ar eu cyfer wedi ei osod i
atal llwch rhag cael ei ollwng. • Oriau gweithredu rhwng 08.00 - 18.00,
dydd Llun i ddydd Gwener, 08.00 - 13.00 ar y Sadwrn a dim gweithio ar y Sul neu
wyliau Banc, • Rhaid gohirio unrhyw waith ar y safle
a hysbysu’r Gwasanaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd ar unwaith, pe deuir ar
draws unrhyw achlysur o gyflwr daear anarferol yn ystod datblygiad, • Oriau gweithredu’r offer didoli
gwastraff rhwng 08.00 - 18.00, dydd Llun i ddydd Gwener, 08.00 - 13.00 ar y
Sadwrn a dim gweithio ar y Sul neu wyliau Banc, • Nodyn i’r Ymgeisydd i gynnwys sylwadau
Uned Ddwr ac Amgylchedd ar y cais, i gynghori’r datblygwr i gysylltu â hwy yn
sgil yr angen am Ganiatâd Cwrs Dwr Arferol ar gyfer unrhyw waith a allai
effeithio ar lif cwrs dŵr yn barhaol neu dros dro, • Nodyn i’r ymgeisydd fod y cais wedi’i
asesu’n unol â saith nod cynaliadwyedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol
(Cymru) 2015. • Sicrhau fod rhaid i'r oll goed sydd wedi'u amgáu o fewn y Parth Eithrio Adeiladu gael eu gwarchod rhag gweithrediadau adeiladu trwy gydol y datblygiad yn unol â BS5837: 2012 ac o dan oruchwyliaeth arbenigwr coed y prosiect. Cofnod: Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr - tynnwyd sylw at yr amod coed ychwanegol. a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan egluro bod y cais yn un ar gyfer creu
dau lecyn chwarae gwastad ar dir Ysgol Friars gan ddefnyddio deunyddiau pridd
sy’n deillio o brosiect adeiladu Ysgol Y Garnedd. Fel rhan o'r datblygiad ac i wneud yn iawn am
golli ardal chwarae, y bwriad yw gwella rhan o gae chwaraeon Ysgol Friars drwy
godi lefel y tir a chreu dau lwyfandir gwastad gyda darpariaeth draeniad tir
ychwanegol. Eglurwyd
bod yr Asesiad
Cynllunio Gwastraff sydd wedi’i gyflwyno gyda’r cais yn cadarnhau fod y gwaith
o greu’r llwyfandir cyntaf wedi cychwyn yr un pryd â gwaith paratoi prosiect
Ysgol Y Garnedd, rhwng Ebrill a Mai 2019. Rhagwelir byddai’r gwaith sydd yn
weddill i greu’r ail lwyfandir a gosod yr uwchbridd dros y cyfan o’r safle yn
cael ei gwblhau cyn diwedd Mai 2020. Mae’r
cyfan o’r uwchbridd wedi’i bentyrru eisoes at ffin ogleddol y safle a bwriedir
symud gweddill o’r deunyddiau o Ysgol y Garnedd yn syth i faes chwarae Friars
heb ei gludo ar y briffordd gyhoeddus. Er bod sylwadau cychwynnol Gwasanaeth
Trafnidiaeth Cyngor Gwynedd yn awgrymu cytundeb traffig anghyffredin, amlygwyd
eu bod bellach ar ddeall na fydd y
datblygiad arfaethedig yn cael effaith andwyol ar unrhyw ffordd, neu ffordd
arfaethedig gan i’r cyfan o’r deunydd ar gyfer y prosiect gael ei leoli ar yr
un daliad tir a safle’r cais. Yr unig argymhelliad yw cynnwys amod priodol i
gyfyngu oriau’r gweithgareddau cludo fel nad ydynt yn gwrthdaro gydag oriau
agor a chau’r ysgol - amlygwyd bod yr ymgeisydd eisoes wedi cynnig gweithio o fewn
yr oriau sydd wedi’u gosod o dan amod Cynllunio ar ddatblygiad Ysgol Y Garnedd.
Nodwyd nad oedd tystiolaeth y bydd yr hynny o waith sydd yn weddill ar y
safle’n peri niwed i drigolion yr ardal na chwaith i ddefnyddwyr y llwybr
cyhoeddus cyfagos b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais c)
Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Y gwaith angen ei weithredu ·
Rhestr helaeth o amodau felly angen sicrhau bod y
datblygwr yn cadw atynt ch) Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â nodyn ‘ni dderbyniwyd ymateb’ yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus, nodwyd bod hyn yn
golygu nad oedd unrhyw lythyr wedi ei dderbyn
- yn gwrthwynebu nac ychwaith yn cefnogi. PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Cynorthwyol i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig
i’r amodau canlynol; ·
Cychwyn
y datblygiad o fewn 5 mlynedd ·
Rhybudd
14 diwrnod o gychwyn a gorffen y gwaith ·
Gosod
pridd yn unol â chanllawiau adfer Llywodraeth Cymru yn MTAN1: Agregau ·
Darpariaeth
ôl-ofal am gyfnod o 5 mlynedd wedi hadu’r safle i gynnwys darpariaeth ar
gyfer casglu
cerrig, dadansoddiad cemegol, draeniad y tir, amseriad y gwaith ac unrhyw waith
adferol, ·
Cydymffurfio
gyda chynlluniau a manylion y cais, · Ni chaniateir defnyddio unrhyw offer ar y safle oni bai bod systemau atal llwch digonol ar eu cyfer wedi ei osod i atal llwch ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
CAIS RHIF C20/0083/11/DT 33 Bryn Eithinog, Bangor, Gwynedd PDF 245 KB Cais ar gyfer codi estyniad deulawr blaen a cefn ac ychwanegu ffenestri
yn y to (dyluniad diwygiedig i'r hyn a wrthodwyd o dan cais C19/1135/11/LL) AELOD LLEOL: Cynghorydd Elin Walker Jones Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo’r hawl
i Bennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r
cais yn ddarostyngedig
i'r amodau isod: 1. 5 mlynedd. 2. Yn unol gyda
chynlluniau. 3. Dŵr Cymru. 4. Llechi. 5. Deunyddiau. 6. Diddymu hawliau Datblygiad Caniataëdig Cyffredinol ar gyfer unrhyw
ffenestri/ffenestri gromen newydd. 7. Rhaid i’r modurdy / lleoedd parcio ceir fod ar gael ar gyfer parcio cerbydau modur bob amser. Cofnod: Aelod Lleol wedi galw’r cais i’r
Pwyllgor a)
Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais diwygiedig
ydoedd i'r hyn a wrthodwyd o dan gais cynllunio
cyfeirnod C19/1135/11/LL ar
gyfer creu ystafell wely ychwanegol
o fewn gwagle'r to drwy godi estyniad
ffenestr gromen. Bwriedir codi estyniad uwchben
y modurdy presennol ar du blaen yr
eiddo, a chodi estyniad unllawr i gefn yr
eiddo. Mae’r safle yn cael
ei wasanaethu gan fynedfa ddwbl
oddi ar ffordd
sirol ddi-ddosbarth cyfagos (Bryn Eithinog) gyda llecynnau parcio ar gyfer
o leiaf 3 cerbyd o fewn y cwrtil blaen.
Ystyriwyd fod
yr estyniadau yn dderbyniol ar
sail eu graddfa, gosodiad a dyluniad ac na fyddent
yn arwain at greu strwythurau anghydnaws yn y rhan yma o'r
strydlun. Adroddwyd bod nifer o estyniadau amrywiol eraill o amgylch y safle. Ystyriwyd fod y bwriad yn
cydymffurfio gyda gofynion meini prawf polisi PCYFF 3 o'r CDLl. Nid oes unrhyw ffenestri
ychwanegol yn cael eu gosod
yn ochr yr
estyniad blaen ac yn yr estyniad
cefn, bydd ffenestri yn cael
eu gosod ar y llawr daear
gyda dwy ffenestr ar y llawr
cyntaf yn cael eu colli. Oherwydd y pellteroedd rhwng yr agoriadau bwriedig
a’u gosodiad o’u cymharu gydag
eiddo preswyl eraill ni
ystyriwyd y bydd unrhyw or-edrych na cholli preifatrwydd
annerbyniol yn digwydd i breswylwyr
cyfagos. Amlygwyd fel rhan o’r
cais, yr unig newidiadau i’r hyn a ganiatawyd
eisoes ac sydd angen caniatâd cynllunio ffurfiol yw lleihau uchder
yr estyniad cefn. O ganlyniad i hyn, mae’r
bwriad yn golygu creu estyniad
cefn sy’n llai swmpus ac uchder ac sydd felly yn welliant o safbwynt
ei effaith weledol ar y strydlun.
Tynnwyd sylw
at y gwagle yn y to sydd yn addas
ar gyfer 5ed ystafell wely. Pwysleisiwyd nad
oedd angen caniatâd cynllunio i drosi’r atig
i stafell wely. Adroddwyd bod
Cyngor Dinas Bangor wedi datgan pryder
y byddai’r bwriad yn cael effaith
ar ddiogelwch y ffordd gyhoeddus sydd yn arwain
at ysgolion yn yr ardal ac sydd
yn boblogaidd gyda cherddwyr. Byddai mwy o geir
ar y safle / tu allan
i’r safle yn rhoi pwysau
ychwanegol ar isadeiledd yr ardal.
Fel rhan o’r cais
fe ymgynghorwyd
gyda’r Uned Drafnidiaeth. Nodwyd na
fyddai'r bwriad yn cael effaith
andwyol ar safonau parcio na diogelwch ffyrdd
cyhoeddus. Mae'r eiddo presennol
yn cydymffurfio gyda'r gofynion parcio arferol ar gyfer tai
gyda 4 ystafell wely neu fwy
drwy ddarparu 2 llecyn parcio a modurdy. Wrth ystyried yr holl
faterion cynllunio perthnasol gan gynnwys polisïau a chanllawiau lleol a chenedlaethol a’r hanes cynllunio cysylltiedig, ystyriwyd y cais yn dderbyniol
ar sail egwyddor, dyluniad, graddfa, deunyddiau ffurf adeiladu leol, gosodiad, materion priffyrdd a mwynderau preswyl a’i fod
yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau
a chanllawiau lleol a chenedlaethol perthnasol. b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |