Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Eirwyn Williams a Gruffydd Williams ynghyd ac Aelodau Lleol y Cynghorwyr Rheinallt Puw a Glyn Daniels Estynnwyd cydymdeimlad dwys at y Cynghorydd Anne Lloyd Jones oedd wedi colli ei
mam yn ddiweddar Anfonwyd dymuniadau gorau at wellhad buan i’r
Cynghorydd Eirwyn Williams oedd wedi derbyn
llawdriniaeth yn ddiweddar Llongyfarchwyd y Cyfreithiwr Rhun ap
Gareth ar ei benodiad yn Bennaeth
Cyfreithiol yng Nghyngor Sir Bwrdeistrefol Conwy.
Diolchwyd iddo am ei gyngor a’i
gefnogaeth i’r Pwyllgor Cynllunio a dymunwyd y gorau iddo yn ei
swydd newydd. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL Dogfennau ychwanegol: COFNODION: a)
Y Cynghorydd Eric M Jones yn eitem 5.1 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0811/14/LL) oherwydd ei fab oedd yn berchen
yr eiddo Y Cynghorydd Berwyn P Jones yn eitem 5.4 ar
y rhaglen, (cais cynllunio rhif
C20/0538/03/LL) oherwydd ei
fod yn aelod
o Fwrdd Adra Roedd yr Aelodau o’r farn ei fod
yn fuddiant a oedd yn
rhagfarnu a gadawsant y cyfarfod yn ystod
y drafodaeth ar y ceisiadau. b)
Datganodd yr aelodau canlynol ei bod yn aelodau
lleol mewn perthynas â’r eitemau a nodir: Y Cynghorydd Ioan Thomas ( nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.1 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0811/14/LL) Y Cynghorydd Menna Baines (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem
5.3 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C20/0804/25/LL) c) Amlygodd y Cyfreithiwr
bod yr Aelodau wedi derbyn e-bost gan
unigolyn yn ymwneud a chais 5.3. Roedd yr ebost
yn rhannu gwybodaeth sensitif am gefndir y cais. Awgrymwyd i’r Aelodau fod yn ofalus
i beidio cyfeirio at y wybodaeth yn ystod y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 7fed o Ragfyr 2020 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar yr 7fed o Ragfyr
2020 fel rhai cywir yn ddarostyngedig
bod disgrifiad cais 5.3 Tir Gyferbyn Maes
Bleddyn, Bethesda yn nodi ‘Darparu 30 o unedau preswyl fforddiadwy’ ac nid ‘codi 30 tŷ yn cynnwys 15 tŷ
fforddiadwy’. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Dogfennau ychwanegol: COFNODION: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C20/0811/14/LL - Llanw, 6 Lôn Sydney, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1ET PDF 289 KB Cais i ymestyn balconi presennol ar flaen yr
eiddo AELOD LLEOL: Cynghorydd Ioan Thomas Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu y cais Amodau: 1.
Unol a’r cynlluniau Nodyn Dwr Cymru COFNODION: Cais i ymestyn balconi
presennol ar flaen yr eiddo a) Eglurodd y Rheolwr
Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai
cais ydoedd i ymestyn y balconi
presennol oddeutu 2m o gwmpas edrychiad blaen ac ochr yr
eiddo o gwmpas yr ystafell fwyta
a’r lolfa bresennol. Nodwyd y byddai’r balconi o wneuthuriad ffrâm ddur gyda phaneli
gwydr a llawr o fordiau pren. Ategwyd
bod yr eiddo yn dŷ
unllawr ac wedi ei leoli ar
lethr ar gyffordd o fewn ardal breswyl o fewn Tref Caernarfon. Mae ffordd gyhoeddus yn amgylchynu
3 ochr yr eiddo. Amlygwyd bod y cais yn cael
ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio
oherwydd bod yr ymgeisydd yn perthyn
i Aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio. Ystyriwyd fod y bwriad yn
gweddu i’r safle ac i’r annedd
o ran maint a dyluniad ac
felly yn cydymffurfio a gofynion polisïau PCYFF 2, 3 a
PS5. Ni
ystyriwyd y byddai’n cael effaith sylweddol
fwy ar unrhyw
eiddo cyfagos na chael
effaith andwyol sylweddol fwy ar
fwynderau’r ardal. Y bwriad felly yn cydymffurfio a gofynion y polisïau lleol a chenedlaethol. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr
Aelod Lleol y pwyntiau canlynol: ·
Mai
cais ydoedd i ymestyn balconi ac mai’r prif ystyriaethau fyddai i eraill
golli preifatrwydd o ganlyniad i or-edrych – mynegwyd na fyddai gor-edrych
ar eiddo cyfagos o’r eiddo
yma ·
Bod
golygfa dros y Fenai o’r eiddo ac felly priodol fyddai manteisio ar hynny ·
Yn
gefnogol i’r argymhelliad ·
Bod
angen eglurder ar y nodyn Dwr Cymru c) Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â nodyn Dwr Cymru, nodwyd
mai ‘nodyn’ oedd yma ac nid
‘amod’ ac mai nodyn cyffredinol ydoedd i godi
ymwybyddiaeth yr ymgeisydd ch) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais PENDERFYNWYD
Caniatáu y cais Amodau: 1. Unol a’r cynlluniau Nodyn Dwr Cymru |
|
Cais Rhif C20/0018/13/LL - Tir ger Llain Y Pebyll, Bethesda, LL57 3NQ PDF 457 KB Codi 7 annedd breswyl ar
gyfer yr henoed ynghyd a llecynnau parcio a man troi AELOD LLEOL: Cynghorydd Rheinallt Puw Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i Bennaeth Cynorthwyol
Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais
yn ddarostyngedig i'r amodau isod:- 1.
5 mlynedd. 2.
Yn unol â’r cynlluniau. 3.
Llechi naturiol i’r toeau. 4.
Cytuno gydag
edrychiadau allanol y tai gan gynnwys
y paneli solar. 5.
Tynnu hawliau datblygiadau
a ganiateir o’r anheddau preswyl. 6.
Amodau Priffyrdd yn ymwneud a darparu llecynnau parcio, ffordd y stad a
llwybrau troed cysylltiedig. 7.
Cyflwyno rhaglen o waith
archeolegol i’w gytuno gyda’r ACLL cyn i unrhyw
waith ddechrau ar y safle. 8.
Rhaid cyflwyno adroddiad
manwl ar y gwaith archeolegol, yn unol ag
amod 7 i'w gytuno yn ysgrifenedig
gan yr Awdurdod
Cynllunio Lleol o fewn 6 mis o gwblhau’r
gwaith archeolegol. 9.
Amodau’r Uned Bioamrywiaeth
yn ymwneud a dim llystyfiant, coed na llwyni
i’w clirio yn ystod y tymor
nythu (1 Mawrth i 31 Awst); cyn
i unrhyw waith ddechrau dylid cyflwyno cynllun i’w gymeradwyo
gan yr ACLL i sicrhau na
fydd ymlusgiaid yn cael eu
niweidio yn ystod y gwaith adeiladu a bydd rhaid i’r cynllun
hwn gael ei weithredu i
lwyr foddhad yr ACLL; cyn i
unrhyw waith ddechrau dylid cyflwyno Cynllun gwelliannau a Lliniaru Bioamrywiaeth i’w gytuno gyda’r ACLL a cyn i unrhyw
waith ddechrau ar y safle rhaid
cyflwyno Cynllun Difa Planhigion Ymledol Di-Cynhenid i’w gytuno gyda’r
ACLL. 10.
Amod cydymffurfio gyda
mesurau lliniaru o fewn y ddogfen Adroddiad Gwerthuso Ecolegol Rhagarweiniol. 11.
Amod cydymffurfio ac argymhellion
a mesurau lliniaru sydd wedi eu
cynnwys yn yr Adroddiad Coed. 12.
Amod Uned Gwarchod
y Cyhoedd parthed ymgymryd ag archwiliad
halogiad safle. 13.
Amodau Llywodraeth Cymru
parthed lleiniau gwelededd, draenio ac ail-wynebu’r pafin ger y safle. 14.
Sicrhau/cytuno
gyda chynllun tai fforddiadwy 15.
bod yr
unedau yn fforddiadwy ar gyfer trigolion 55+ mewn oed Nodiadau
COFNODION: Codi 7 annedd breswyl ar
gyfer yr henoed ynghyd a llecynnau parcio a man troi a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai cais
llawn ydoedd gyda sawl elfen i’r cais:- ·
Darparu 5 byngalo 2 lofft ynghyd a 2 fflat 1
llofft rhent cymdeithasol fforddiadwy ar gyfer yr henoed. ·
Darparu llecynnau parcio a mynediad newydd oddi ar y gefnffordd i
wasanaethu'r byngalos ar lain rhif 3 a 4. ·
Bydd gweddill yr anheddau yn cael eu gwasanaethu oddi ar y fynedfa a'r
rhodfa bresennol sy'n gwasanaethu Stad Llain y Pebyll. ·
Darparu llecynnau/gerddi amwynder preifat o fewn y safle. ·
Darparu isadeiledd gan gynnwys storfeydd biniau/ailgylchu ar gyfer pob
annedd. Adroddwyd bod y safle wedi ei leoli tu allan
ond yn gyfochrog gyda ffin datblygu Bethesda fel y'i cynhwysir yn y Cynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn, 2017(CDLL). Er bod datblygiadau ar
gyfer unedau fforddiadwy ac unedau marchnad agored wedi eu caniatáu’n
ddiweddar ym Methesda nid yw'r angen lleol am dai newydd yn benodol i'r henoed
wedi ei gwrdd. Eglurwyd bod y cais wedi bod yn destun trafodaethau rhwng Tai Gogledd
Cymru ( y datblygwr) ac Uned Strategol Tai’r Cyngor. O
ganlyniad penderfynwyd ei gynnwys ar y rhestr cynlluniau wrth gefn yn y Cynllun
Rhaglen Trosglwyddo i dderbyn arian grant yn
ddarostyngedig ar dderbyn caniatâd cynllunio a phenodi contractwr. O ystyried fod y
bwriad yn ymateb i angen cydnabyddedig ac yn darparu cymysgedd briodol o
unedau, ystyriwyd fod y bwriad yn gyfle i ddatblygu cynllun o ansawdd gan
ddiwallu anghenion cydnabyddedig ac felly, yn unol â gofynion Polisi. Ar sail asesiad mwynderau gweledol ystyriwyd bod y bwriad i ddatblygu
stad fechan o dai newydd yn dderbyniol ac y byddai
gosodiad, graddfa, dyluniad a deunyddiau'r tai yn dderbyniol o ystyried yr hyn
sydd o'i amgylch. Ni ystyriwyd unrhyw bryderon yng nghyd -destun mwynderau
cyffredinol a phreswyl, bioamrywiaeth na materion
archeolegol. Ategwyd bod y bwriad yn cynnwys ymestyn y ffordd stad fabwysiedig
bresennol i mewn i Stad Llain y Pebyll er mwyn gwasanaethu'r byngalos
arfaethedig ar leiniau rhif 5, 6 a 7 yn unig gyda mannau parcio cysylltiedig.
Nodwyd y byddai’r byngalo a'r tŷ deulawr ar leiniau 1, 2, 3 a 4 yn cael eu gwasanaethu yn uniongyrchol oddi ar y
gefnffordd gyfagos. Nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth na’r Uned Cefnffyrdd
unrhyw wrthwynebiad i'r cais ar sail creu mynediad o ffordd stad bresennol
Llain y Pebyll nag o’r gefnffordd gyfagos. Yn dilyn derbyn sylwadau cychwynnol yr Uned Iaith cyflwynwyd Datganiad
Iaith Gymraeg gyda’r cais ac yn seiliedig ar gynnwys y Datganiad roedd yr Uned
yn cytuno gyda chynnwys y ddogfen sy’n cadarnhau mai effaith gadarnhaol caiff y
datblygiad ar yr Iaith Gymraeg ym Methesda. Ar sail yr asesiad a gwblhawyd ni ystyriwyd fod
y bwriad yn groes i bolisïau lleol na chenedlaethol ac nad oedd unrhyw fater
cynllunio perthnasol yn gorbwyso'r ystyriaethau polisi. I'r perwyl hwn
ystyriwyd fod y bwriad yn dderbyniol yn ddarostyngedig ar gynnwys amodau
priodol. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais |
|
Cais Rhif C20/0804/25/LL - 8, Llys Castan Ffordd Y Parc, Parc Menai, Bangor, Gwynedd PDF 468 KB Newid defnydd uned
wag o swyddfa Dosbarth Defnydd B1 i ddeintyddfa
Dosbarth Defnydd D1 (ail-gyflwyniad o'r cais a wrthodwyd o dan gyfeirnod C20/0351/25/LL) AELOD LLEOL: Cynghorydd
Menna Baines Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Caniatáu yn groes
i’r argymhelliad Amodau: 1.
dechrau’r datblygiad o fewn
5 mlynedd 2.
cario’r datblygiad allan
yn unol gyda’r
cynlluniau a gyflwynwyd 3.
amod i sicrhau fod defnydd
yr adeilad yn mynd yn
ol i’w ddefnydd
gwreiddiol os daw defnydd y ddeintyddfa i ben yn y dyfodol. COFNODION: Newid defnydd uned wag o
swyddfa Dosbarth Defnydd B1 i ddeintyddfa Dosbarth Defnydd D1 (ail-gyflwyniad
o'r cais a wrthodwyd o dan gyfeirnod C20/0351/25/LL) a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais gan nodi mai ail-gyflwyniad ydoedd o gais
a wrthodwyd ym Mehefin, 2020 ar gyfer newid defnydd o swyddfa (Dosbarth Defnydd
B1) i ddeintyddfa (Dosbarth Defnydd D1) o fewn uned wag yn Llys Castan, Parc
Menai. Wrth
ystyried egwyddor y defnydd arfaethedig amlygwyd y dylid sicrhau fod y bwriad
yn cydymffurfio a’r holl feini prawf a gynhwysir ym Mholisi ISA 2 (cyfleusterau
cymunedol) o’r CDLL. I bwrpas y polisi, cadarnhawyd fod cyfleusterau cymunedol
yn cynnwys ‘cyfleusterau a ddefnyddir gan gymunedau lleol at ddibenion iechyd…
ac unrhyw gyfleuster arall sy’n cyflawni’r rôl o wasanaethu’r gymuned’. Adroddwyd
bod Polisi PS13 a Pholisi CYF1 o'r CDLL yn nodi y gwarchodir y safle a’r uned
ar gyfer defnydd cyflogaeth yn Nefnydd Dosbarth B1. Yn unol â
Pholisi CYF5 (defnyddiau amgen o Safleoedd Cyflogaeth bresennol) adroddwyd mai
mewn achosion arbennig yn unig y caniateir cynigion i ryddhau tir yn Nosbarth
Defnydd B1, B2 neu B8 ar safleoedd cyflogaeth bresennol sydd wedi eu gwarchod
yn unol â Pholisi CYF1 ar gyfer defnydd amgen a dim ond ble gellid cwrdd gydag
un neu fwy o feini prawf y polisi: ·
“Yn yr achos fod y safle yn wag ei fod yn annhebygol o
gael ei ddefnyddio yn y tymor byr a chanolig ar gyfer defnydd gwreiddiol neu
ddefnydd y warchodaeth, neu; ·
Mae yna orddarpariaeth o safleoedd cyflogaeth o fewn y
cyffiniau, neu; ·
Mae’r defnydd cyflogaeth bresennol yn cael effaith
niweidiol ar fwynderau a’r amgylchedd, neu; ·
Ni fyddai’r datblygiad yn cael effaith niweidiol ar
ddefnydd cyflogaeth safleoedd cyfagos, neu; ·
Nid oes yna safle amgen arall ar gyfer y defnydd
bwriedir, neu; ·
Os yw’r safle yn cael ei ddefnyddio ar gyfer defnydd
tymor byr (dros dro), bod yna fesurau adfer priodol mewn lle sydd i foddhad yr
Awdurdod Cynllunio Lleol.” Amlygwyd
bod gwybodaeth fanwl a helaeth wedi ei gyflwyno gan yr ymgeisydd i gefnogi’r
cais oedd yn cynnwys Datganiad
Cynllunio, yn ogystal â Datganiad Cynllunio gan yr asiant, Datganiad Prawf
Dilyniannol ynghyd a Dogfen Tystiolaeth Hygyrchedd y Safleoedd yn
amlygu’r sylwadau isod: ·
Mae cymuned Penrhosgarnedd yn agosach i safle’r cais
nag eiddo deintyddion eraill ym Mangor. ·
Mae cymuned Parc Menai yn agosach i safle’r cais nag
eiddo deintyddion eraill ym Mangor. ·
Mae staff/cymuned Ysbyty Gwynedd yn agosach i safle’r
cais nag eiddo deintyddion eraill ym Mangor. ·
Mae gwasanaeth bws rheolaidd gan gwmnïau amrywiol yn
gwasanaethu busnesau eraill ym Mharc Menai. ·
Mae rhwydwaith beics presennol ynghyd a llwybrau cyhoeddus yn gwasanaethu Parc Menai. ·
Mae’r safle yn hygyrch yn ddaearyddol i ddefnyddwyr
lleol a rhanbarthol sy’n defnyddio’r A55. · Nodir bod y rhan helaeth o gleifion y cyfleuster presennol yn defnyddio car (gyda nifer ohonynt yn gleifion oedrannus a fyddai’n anghyfleus neu yn amhosibl defnyddio cludiant cyhoeddus). Ni fyddai’r sefyllfa yma yn newid gyda’r safle newydd hwn ym Mharc Menai. Os rhywbeth, fyddai’n agosach i nifer helaeth o gleifion sy’n defnyddio’r cyfleuster ... view the full COFNODION text for item 8. |
|
Cais Rhif C20/0538/03/LL - Ffordd Wynne, Blaenau Ffestiniog, LL41 3DW PDF 351 KB Dymchwel adeilad presennol ac adeiladu 6 tŷ preswyl newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd Glyn Daniels Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo’r hawl Bennaeth
Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau
cytundeb o dan Adran 106 er mwyn
trosglwyddo’r unedau i gymdeithas dai
ac i’r amodau canlynol: 1.
5 mlynedd. 2.
Yn unol â’r cynlluniau. 3.
Llechi fel deunydd toi 4.
Samplau o’r deunyddiau
a’r lliwiau ar gyfer yr
adeiladau i’w cytuno gyda’r
ACLL. 5.
Amodau Priffyrdd ar gyfer parcio/mynedfa. 6.
Tirlunio meddal a chaled. 7.
Cyfyngu ar oriau gweithio i 08:00 - 18:00 yn yr wythnos,
08:00 - 12:00 ar ddydd Sadwrn a dim o gwbl yn ystod y Sul
a Gwyliau Banc. 8.
Cytuno manylion parthed
enw Cymraeg ar gyfer y datblygiad
ynghyd ac arwyddion sy’n hysbysu ac yn hyrwyddo’r datblygiad
o fewn ac oddi allan y safle.
9.
Tynnu hawliau datblygu
cyffredinol yr holl unedau. 10.
Cyflwyno Datganiad Dull Adeiladu
gan gynnwys gwaith dymchwel a threfniadau gwaith yn ystod adeiladu
i’w gytuno gyda’r ACLL. 11.
Sicrhau / cytuno ar gynllun tai fforddiadwy (safonol) Nodyn: SUDS Dwr Cymru COFNODION: Dymchwel adeilad presennol ac adeiladu 6 tŷ preswyl newydd Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr. a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais llawn
ydoedd ar gyfer dymchwel adeilad gwag presennol
a chodi 6 tŷ preswyl newydd. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli
o fewn ffin datblygu Blaenau Ffestiniog ac yn safle a ddefnyddiwyd
yn flaenorol fel Canolfan Iechyd
Amlbwrpas, ond sydd bellach yn
wag ers i’r adnodd gael ei
ail leoli i’r Ganolfan Iechyd newydd gerllaw. Amlygwyd bod sawl elfen i’r cais:- ·
Darparu
4 tŷ 3 llofft (5
person) ynghyd a 2 dŷ
2 lofft (4 person) ·
Darparu
isadeiledd i gynnwys ardaloedd gwanhad/cadw dŵr
o fewn y safle, storfeydd biniau/ail-gylchu a sied ar
gyfer pob tŷ, 12 llecyn parcio ar gyfer
defnyddwyr/preswylwyr y tai newydd, codi
ffens bren ar hyd ochrau
a chefn y safle. ·
Darparu
gerddi unigol i bob tŷ i
gefn y safle. ·
Bwriedir
dymchwel yr adeilad presennol a lleoli'r tai newydd
fwy neu lai
ar yr un ôl troed, maent
i’w gosod fesul 3 tŷ pâr gydag edrychiadau
allanol i gynnwys to llechi a’r waliau allanol
i fod yn
gymysgedd o rendr a chladin llechi. Adroddwyd bod y bwriad yn golygu
darparu 6 uned breswyl ac yn unol
â gofynion Polisi TAI 15 dylai o leiaf 10% o’r unedau fod
yn fforddiadwy. Cadarnhawyd bod Adra yn gysylltiedig gyda’r datblygiad a’u bwriad yw
gosod y 6 uned ar lefelau rhent
tai cymdeithasol. Ategwyd bod Adra yn y broses o wneud cais i’r cynllun
gael ei
gynnwys ar y rhaglen grant yng Ngwynedd gyda bwriad
o brynu’r tai gan y datblygwr ar lefelau
ACG am unedau fforddiadwy. Fel byddai’n arferol
gyda chais ble nad Landlord Cymdeithasol Cofrestredig fel Adra yw’r ymgeisydd, ond yn nodi
diddordeb i ddatblygu’r safle, ystyriwyd yn rhesymol i lunio
cytundeb 106 er mwyn sicrhau fod
y datblygiad yn cael ei drosglwyddo
i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig gan sicrhau rheolaeth a fforddiadwyedd i’r dyfodol. Nid oedd unrhyw wrthwynebiadau
ar sail mwynderau gweledol, cyffredinol, preswyl na
thrafnidiaeth. Ni ystyriwyd
fod y bwriad yn groes i
bolisïau lleol na chenedlaethol
ac nad oes unrhyw fater cynllunio
perthnasol yn gorbwyso’r ystyriaethau polisi. Ystyriwyd y bwriad yn dderbyniol
yn ddarostyngedig i gynnwys amodau
priodol. a) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais b) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau: ·
Bod yr ardal
yn addas ar gyfer y bwriad ·
Bod angen lleol am dai ·
Bod dros 100 o dai haf ym
Mlaenau Ffestiniog ac felly croesawu’r cais am dai i bobl
leol. PENDERFYNWYD:
Dirprwyo’r hawl Bennaeth
Cynorthwyol Adran yr Amgylchedd i
ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r ymgeisydd gwblhau
cytundeb o dan Adran 106 er mwyn
trosglwyddo’r unedau i gymdeithas dai
ac i’r amodau canlynol: 1.
5 mlynedd. 2.
Yn unol â’r cynlluniau. 3. Llechi fel ... view the full COFNODION text for item 9. |