Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL CADEIRYDD

I ethol Cadeirydd ar gyfer 2024/25

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

ETHOL Y CYNGHORYDD ELWYN EDWARDS YN GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2024/25

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD: ETHOL Y CYNGHORYDD ELWYN EDWARDS YN GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2024/25

 

Diolchodd y Cadeirydd i’r Cynghorydd Edgar Owen am ei waith fel Cadeirydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

 

Croesawyd y Cynghorydd John Pughe i’w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Cynllunio.

 

 

2.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

ETHOL Y CYNGHORYDD HUW ROWLANDS YN IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2024/25

Cofnod:

PENDERFYNWYD: ETHOL Y CYNGHORYDD HUW ROWLANDS YN IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2024/25

 

3.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Louise Hughes a John Pughe Roberts

 

4.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)         Datganodd yr aelod canlynol ei fod yn aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

·         Y Cynghorydd Gareth Morris Jones  (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.2 (C24/0131/42/DT) ar y rhaglen

 

5.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Cyfreithiol fyddai’n cyhoeddi canlyniadau’r pleidleisiau ar y ceisiadau

6.

COFNODION pdf eicon PDF 213 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22ain o Ebrill 2024 fel rhai cywir.

 

7.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau

 

8.

Cais Rhif C23/0938/41/LL Capel Rhoslan, Rhoslan, Criccieth, Gwynedd, LL52 0NW pdf eicon PDF 252 KB

Gosodiad diwygiedig ar gyfer adeiladu annedd newydd, yn cynnwys parcio a gwaith trin carthion

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

  1. Nid oes angen wedi ei brofi ar gyfer codi annedd newydd yng nghefn gwlad agored ac felly nid yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau PCYFF 1 a PS17 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2017 ynghyd â pharagraffau 4.2.37 - 38 o Bolisi Cynllun Cymru a rhan 4.3 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6: Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy sy’n sicrhau mai dim ond mewn amgylchiadau penodol ac eithriadol y gellir caniatáu tai newydd yng nghefn gwlad agored.  

 

  1. Fe fyddai’r datblygiad hwn yn niweidiol i’r dirwedd gan achosi ymlediad trefol i safle tir glas yng nghefn gwlad agored. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn ychwanegu at neu wella cymeriad ac ymddangosiad y safle ac ni fyddai'n integreiddio gyda'r hyn sydd o'i gwmpas. Mae'r cais felly'n groes i ofynion Polisi PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.

 

Cofnod:

Gosodiad diwygiedig ar gyfer adeiladu annedd newydd, yn cynnwys parcio a gwaith trin carthion

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys manylion draenio tir  - o dderbyn y sylwadau hyn, roedd y trydydd rheswm gwrthod, oedd wedi ei nodi yn yr adroddiad, yn cael ei ddileu.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi annedd unllawr newydd ar lecyn o dir ger Capel Rhoslan. Roedd y safle yn cael ei ystyried fel un yng nghefn gwlad agored, tu allan i unrhyw ffin datblygu ac i ffwrdd o bentref clwstwr fel y diffinnir yn y CDLl.

 

Nodwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

Eglurwyd nad oedd polisi TAI 6, sydd yn caniatáu tai newydd fforddiadwy mewn clystyrau, yn berthnasol oherwydd pellter y safle i ffwrdd o’r pentref. Adroddwyd mai dim ond tai newydd sydd yn mewnlenwi rhwng adeiladau neu’n union gyferbyn a chwrtil adeilad fyddai’n cael eu caniatáu gan y polisi yma a gyda safle’r cais wedi ei leoli ymhell o’r clwstwr tai agosaf, nid yw’r polisi felly’n gefnogol i gais o’r fath.

 

O ganlyniad, adroddwyd mai polisi PCYFF1 oedd yn berthnasol yma; yn caniatáu datblygiadau newydd yng nghefn gwald agored pan fydd tystiolaeth o gyfiawnhad dros hynny. Eglurwyd hefyd bod PS17 Strategaeth Aneddleoedd yn cadarnhau mai datblygiadau tai sy’n cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn Cyngor Technegol 6, yn unig fydd yn cael eu caniatáu yng nghefn gwlad agored gyda chefnogaeth i ddatblygiadau megis tai amaethyddol neu dai sydd ynghlwm a menter weledig.

 

Tynnwyd sylw at y wybodaeth o fewn y Datganiad Dylunio a Mynediad oedd yn nodi bod yr ymgeisydd yn gweithio yn y fyddin ac yn dymuno codi , ger ei rieni sy’n trigo yng Nghapel Rhoslan. Er yn ymddangos fod yr ymgeisydd yn berson lleol, wedi ei eni a’i fagu yn yr ardal, ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth fod angen presennol am , nac angen  am fforddiadwy. Nid yw’r safle yn cael ei ystyried yn addas fel safle eithrio gweledig oherwydd ei leoliad i ffwrdd o’r clwstwr ac nid oedd daliad amaethyddol ar y tir nac unrhyw gyfiawnhad amaethyddol neu fenter wledig wedi ei brofi. O ganlyniad, adroddwyd nad oedd un polisi o fewn y CDLl na pholisi cenedlaethol yn gefnogol i gais o’r fath.

 

Yng nghyd-destun mwynderau gweledol, er bod dyluniad y wedi ei addasu ers y gwrthodiad blaenorol, byddai caniatáu y cais yn golygu datblygiad newydd ar dir gwyrdd yng nghefn gwlad agored fyddai’n arwain at ymlediad trefol mewn ffordd sydd yn weledol o’r ffordd ac o lwybrau cyhoeddus cyfagos. Ystyriwyd felly bod y bwriad yn groes i ofynion Polisi CYFF 3 y CDLl.

 

Wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol a rhoi ystyriaeth lawn i ymatebion yr ymgynghoriadau a’r gwrthwynebiadau a ddaeth  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C24/0131/42/DT Hafan Lôn Bridin, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BY pdf eicon PDF 181 KB

Gwaith allanol gan gynnwys adfer ac ymestyn ardal teras/patio, codi wal newydd ynghyd ag amrywiol addasiadau eraill

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndirol perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:

 

1.         Amser

2.         Cydymffurfio gyda chynlluniau

3.         Cynllun tirlunio

4.         Manylion gorffeniadau/deunyddiau

5.         Gwaredu planhigion ymledol

6.         Cytuno/rhwystro ardaloedd gwaith

Cofnod:

Gwaith allanol gan gynnwys adfer ac ymestyn ardal teras/patio, codi wal newydd ynghyd ag amrywiol addasiadau eraill

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr  - yn dilyn ail ymgynghoriad derbyniwyd sylwadau pellach gan yr aelod lleol a’r Cyngor Cymuned.

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd  i gynnal gwaith allanol ynghlwm ac eiddo preswyl. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli y tu allan i ffin ddatblygu Morfa Nefyn ac yn rhan o glwstwr o adeiladau preswyl eraill sydd yn ymylu gyda’r traeth gerllaw. Nid yw’r safle o fewn ardal dynodiad AHNE Llŷn ond gorweddir o fewn Tirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli.

 

Cyflwynwyd y cais i bwyllgor ar gais yr aelod lleol.

 

Eglurwyd bod y cynnig wedi ei ddiwygio o’i gyflwyniad gwreiddiol mewn ymateb i bryderon a’r cynnig bellach yn golygu:

·         Creu wal flaen trwy ddefnyddio caergewyll wedi eu llenwi gyda cherrig fyddai hefyd yn cynnwys gofod mewnol i’w ddefnyddio fel storfa

·         Gwella ac ymestyn y teras/ardal allanol presennol uwchben y wal uchod a chynnwys triniaeth ffin newydd ar ffurf cyfres o bostiau pren gyda weiren rhyngddynt (mae’r elfen yma wedi ei newid o’r cyflwyniad gwreiddiol a oedd yn gynnwys triniaeth ffin gwydr)

·         Codi lefel llawr o flaen yr eiddo trwy a chreu wal garreg isel i wahaniaethu rhwng tir mae’r perchnogion yn dymuno cadw’n breifat ac ardal sydd yn cydredeg gyda wal y môr lle maent yn hapus i’r cyhoedd parhau i ddefnyddio fel llwybr tramwy pan fod angen. (Pwysleisiwyd nad oedd y llwybr yn lwybr cyhoeddus ffurfiol, ond yn lwybr sydd wedi ei ddefnyddio yn hanesyddol gan y cyhoedd yn enwedig ar adegau pan fydd llanw uchel).

 

Ategwyd, drwy ddefnyddio amodau i gytuno ar ddeunyddiau a gorffeniadau, roedd yr Awdurdod Cynllunio o’r farn nad oedd y bwriad yn groes i’r polisïau dylunio na i’r polisïau hynny sy’n gwarchod mwynderau preswyl a gweledol.

 

Er pryder am y bwriad, nodwyd bod y tir sydd yn destun y cais, o fewn cwrtil eiddo preswyl, lle mae gan y perchennog yr hawl i atgyweirio lefelau'r patios presennol a chodi ffensys heb yr angen am hawl Cynllunio, ac nad oedd rheolaeth dros y lliwiau a math o ddeunyddiau sydd i’w defnyddio. Ategwyd mai ar gyfer y gwaith peirianyddol a newid lefelau sydd angen hawl, ond bod yn  bwysig cadw mewn cof be all yr ymgeisydd wneud heb hawl. Amlygwyd bod yr ymgeisydd hefyd wedi bod yn fwy na pharod i drafod a chytuno ar orffeniadau ac wedi cymryd sylw o’r pryderon oedd wedi codi trwy ddiwygio’r cais. Er hynny, fel unrhyw gais cynllunio, atgoffwyd yr Aelodau bod y penderfyniad yn gorfod bod yn un rhesymol yn enwedig pan fod modd cytuno ar faterion trwy amodau. 

 

Adroddwyd bod yr eiddo yn rhan o glwstwr o dai cyfochrog sydd yn rhannol oddi fewn i ran o ddynodiad Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9.