Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd John Pughe

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

·       Y Cynghorydd Cai Larsen (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C25/0462/02/LL) ar y rhaglen

·       Y Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.4 (C25/0311/30/AC) ar y rhaglen

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Monitro fyddai’n cyhoeddi canlyniad pleidleisiau’r ceisiadau.

4.

COFNODION pdf eicon PDF 230 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 8fed o Ragfyr 2025 fel rhai cywir yn ddarostyngedig i nodi bod y Swyddog Monitro wedi ymateb i sylw gan y Cynghorydd Gareth Williams (eitem 5.1 C25/0418/30/LL) am fanylion ymweliad safle, gan nodi, er bod yr Aelod wedi cael gwybod am yr ymweliad safle, nad oedd yr amser wedi ei rannu.

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i’w datblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

6.

Cais Rhif C25/0428/14/LL Mona, 4 Stryd Fawr, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1RN pdf eicon PDF 267 KB

Newid defnydd swyddfeydd i 5 fflat preswyl, yn cynnwys estyniad ar y cefn. Gosod pwmp gwres ffynhonnell aer a gosod drws i storfa gwastraff.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Cai Larsen

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Caniatáu gydag amodau 

 

1.       5 mlynedd.

2.       Unol a chynlluniau.

3.       Cytuno manylion unedau pwmp gwres ffynhonnell

4.       Defnydd C3 yn unig

5.       Amod Tai Fforddiadwy

6.       Gwelliannau Bioamrywiaeth

7.       Oriau gwaith

8.       Rhaid i’r 3 ffenestr llawr cyntaf yn yr estyniad bwriedig fod wedi eu cymylu

         

Nodyn Bioamrywiaeth

Nodyn Llythyr Cyfoeth Naturiol Cymru

 

Cofnod:

Newid defnydd swyddfeydd i 5 fflat preswyl, yn cynnwys estyniad ar y cefn. Gosod pwmp gwres ffynhonnell aer a gosod drws i storfa gwastraff.

 

a)          Amlygodd y Rheolwr Cynllunio y gohiriwyd y cais ym Mhwyllgor Cynllunio Rhagfyr 2025 er mwyn derbyn mwy o wybodaeth a thystiolaeth o’r angen am yr unedau yn unol â gofynion polisi TAI 8. Cyfeiriwyd at ddatganiad pellach oedd wedi ei gyflwyno yn egluro’r cynllun gan yr ymgeisydd, ynghyd a sylwadau Uned Strategol Tai oedd yn cadarnhau’r angen am unedau fforddiadwy.

 

Eglurwyd bod yr adeilad yn un o faint sylweddol wedi ei leoli ar gornel y stryd fawr o fewn ffin datblygu Tref Caernarfon ac Ardal Cadwraeth Safle Treftadaeth y Byd. Nid oedd bwriad newid edrychiad blaen nac ochr yr adeilad sy’n amlwg o’r stryd fawr. 

 

Cydnabuwyd bod yr ymgeisydd yn bwriadu defnyddio’r unedau fel math penodol o lety ar gyfer sicrhau unedau addas a diogel ar gyfer pobl sydd ar hyn o bryd yn byw mewn llety argyfwng anaddas o fewn Caernarfon yn barod; byddai’r bwriad gydag amod tai fforddiadwy yn sicrhau hyblygrwydd ar gyfer diwallu anghenion llety parhaol trigolion yr ardal i’r dyfodol.  Nodwyd fod yr holl unedau yn cael eu cynnig fel unedau fforddiadwy gyda’u maint yn unol â safonau Llywodraeth Cymru (WDQR / WHQS) ar gyfer unedau fforddiadwy. Cyfeiriwyd at sylwadau Uned Strategol Tai oedd yn cadarnhau fod y bwriad yn cyfarch angen wedi ei brofi am unedau 1 a 2 ystafell wely i bobl drwy Wynedd sydd yn dymuno byw yng Nghaernarfon. O ganlyniad, ystyriwyd fod y bwriad yn cynnwys cyfiawnhad am y cynnig o ran y math, nifer a maint o unedau a gynigir ac yn cydymffurfio gyda gofynion polisi TAI 8  o ran cymysgedd tai, ynghyd â gofynion o fewn polisi TAI 15 yn ddarostyngedig i amod unedau fforddiadwy i sicrhau fod y bwriad yn paratoi unedau fforddiadwy am byth. Cadarnhawyd bod capasiti digonol o fewn cyflenwad dangosol Caernarfon ar gyfer y datblygiad yma ar hyn o bryd.

 

Byddai’r gwaith addasu yn cynnwys newidiadau mewnol, ac adeiladu estyniad 3 llawr o fewn iard gefn yr eiddo ac felly  ni fyddai’n effeithio ar edrychiad na chymeriad yr adeilad sy’n amlwg i’r cyhoedd na chael  effaith weledol andwyol ar Safle Treftadaeth y Byd na’r Ardal Gadwraeth. Byddai’r gwaith yn cynnwys gosod ffenestri llawr daear a ffenestri llawr cyntaf ar gyfer ystafelloedd gwely cefn a chadarnhawyd y byddai’r ffenestri llawr cyntaf i’w gosod gyda gwydr wedi eu cymylu - bydd modd gosod amod cynllunio er mwyn sicrhau hyn. Nodwyd hefyd fod bwriad gosod amod cynllunio ar gyfer cyflwyno manylion a lleoliad y pwmp gwres ffynhonnell aer. O ganlyniad, ystyriwyd na fyddai’r bwriad yn cael effaith andwyol sylweddol ar drigolion cyfagos.

 

Yng nghyd-destun materion trafnidiaeth a mynediad, nodwyd bod yr eiddo wedi ei leoli yng nghanol y Dref ble mae gofodau parcio cerbydau ar y strydoedd ac o fewn meysydd parcio cyhoeddus. O ran materion bioamrywiaeth cyfeiriwyd at y gwelliannau oedd wedi eu cynnig ac adroddwyd bod y datganiad iaith a gyflwynwyd yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C25/0266/18/LL Tir yn Tyddyn Forgan, Llanddeiniolen, Caernarfon, LL55 3AN pdf eicon PDF 286 KB

Caniatâd cynllunio dros dro am gyfnod o 40 mlynedd i godi System Storio Ynni (ESS), ynghyd â seilwaith cysylltiedig, mynediad i’r safle, tirlunio a gwaith atodol ar dir yn Tyddyn Forgan, Llanddeiniolen, Caernarfon, LL55 3AN

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones a’r Cynghorydd Menna Baines

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

1.                         5 mlynedd.

2.                         Yn unol â’r cynlluniau/manylion a gyflwynwyd gyda’r cais.

3.                         Cydymffurfio â’r cynllun tirweddu ynghyd a gwaith cynnal a chadw i’r dyfodol.

4.                         Cydymffurfiaeth gydag argymhellion y dogfennau Asesiad Effaith Ecolegol, Asesiad Effaith Coedyddiaeth, Nodyn Technegol Ecolegol a’r Datganiad Seilwaith Gwyrdd.

5.                         Cydymffurfiaeth gyda’r Asesiad Canlyniadau Llifogydd. 

6.                         Cyfyngu amseroedd adeiladu

7.                         Gosod uchafswm ar gyfer allyriadau sŵn

8.                         Cytuno ar fesurau monitro sŵn

9.                         Amod i sicrhau camau priodol os darganfyddir llygredd annisgwyl.

10.                     Cytuno gyda gorffeniadau allanol y strwythurau.

11.                     Sicrhau enw Cymraeg ac arwyddion dwyieithog gyda’r flaenoriaeth i’r Gymraeg.

12.                     Cytuno rhaglen waith Archeolegol

13.                     Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Adeiladu Amgylcheddol diwygiedig (i gynnwys rheolaeth o’r cyswllt gyda chyfarpar SP Manweb)

14.                     Cyflwyno Cynllun Rheolaeth Tirwedd ac Ecoleg ddiwygiedig i gymryd i ystyriaeth sylwadau’r Uned Bioamrywiaeth

15.                     Rhaid adfer y safle i’w gyflwr a gytunir gyda’r Awdurdod Cynllunio wedi i’r cyfnod gweithredol y datblygiad ddod i ben

 

Nodiadau:    

Uned Dŵr ac Amgylchedd

Cyfoeth Naturiol Cymru

Gwasanaeth Cynllunio Archeolegol Gwynedd

Dŵr Cymru

SP Manweb

 

Cofnod:

Caniatâd cynllunio dros dro am gyfnod o 40 mlynedd i godi System Storio Ynni (ESS), ynghyd â seilwaith cysylltiedig, mynediad i’r safle, tirlunio a gwaith atodol ar dir yn Tyddyn Forgan, Llanddeiniolen, Caernarfon, LL55 3AN.

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 12-01-26

 

a)    Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio bod y math o system yn storio ynni dros ben o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy pan fo galw isel am drydan yna mae'n rhyddhau'r trydan fel mae’r galw yn codi.

 

Gyda’r Aelodau Lleol yn methu a bod yn bresennol, cyflwynodd y Swyddog ymatebion a dderbyniwyd ganddynt drwy e-bost;

 

Cyng. Menna Baines:

 

Mae rhan fechan o’r datblygiad yn fy ward i gan fod is-orsaf drydan Pentir o fewn ei ffiniau. Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i’r nod o fod yn garbon sero net erbyn 2030 ac mae’n ymddangos i mi fod y cynllun hwn yn gydnaws efo’r nod a’r egwyddor honno, a hynny am y byddai’n ffurfio rhan o rwydwaith cefnogol y gellid ei ddefnyddio yn ôl yr angen wrth reoli’r cyflenwad o ynni adnewyddol. Rwyf yn nodi pryderon a godwyd am ‘orddatblygiad’ o gynlluniau o’r fath yn yr ardal ond mae’n ymddangos bod lleoli’r datblygiad penodol yma ger yr is-orsaf yn ffordd o fanteisio ar y seilwaith sydd yno’n barod yn hytrach na chreu galw am fwy o geblau neu waith trwm pellach. O’r safbwynt hwnnw mae’r lleoliad yn gwneud synnwyr. O ran yr effaith weledol, mae’n ymddangos na fydd effaith rhy fawr, yn enwedig o gofio bod cyfarpar yr is-orsaf yno’n barod, a hefyd o ystyried mai dim ond yn rhannol y bydd y datblygiad i’w weld wrth i’r gwaith plannu arfaethedig aeddfedu dros amser gan sgrinio’r safle yn well. Rwyf hefyd yn nodi pryderon eraill a godwyd, yn enwedig y rhai am golli bioamrywiaeth ac am beryglu rhan o’r dreftadaeth archeolegol, ond rydw i’n derbyn bod amodau cadarn ynghlwm â’r argymhelliad o ganiatáu’r datblygiad. O sicrhau bod y datblygiad yn cadw at yr amodau hyn a’r rhai eraill sy’n cael eu rhestru, nid oes gennyf wrthwynebiad i’r cais”.

 

Cyng. Elwyn Jones:

 

“Hoffwn ddatgan fy ngwrthwynebiad i’r cais ynghyd a gwrthwynebiad Cyngor Cymuned Pentir anfonais fel Clerc y Cyngor hwnnw i’r Adran Gynllunio fis Ebrill diwethaf.

 

Bu i’r Cwmni yma ein cyfarfod yn rhithiol yng Nghyfarfod Cyngor Cymuned Llanddeiniolen wrth iddynt geisio ein darbwyllo bod y system yma yn fanteisiol i’r Grid Cenedlaethol i ddiwallu diffygion y grid. Wrth eu holi ynghyn diogelwch, sŵn, cyflogaeth, a pham na fyddai'r Grid Cenedlaethol eu hunain yn buddsoddi mewn cyfarpar tebyg ni chafwyd ateb o unrhyw fath dim ond waffl. Nid oedd ganddynt ateb ynglŷn â’r ffordd roeddynt wedi ymgynghori gan iddynt ymffrostio dosbarthu rhai cannoedd o bamffledi gwybodaeth er nad oedd neb yn y cymunedau agosaf wedi derbyn unrhyw wybodaeth. Hawdd yw datgan wedyn nad oes gwrthwynebiad trigolion lleol.

 

‘Rwyf yn falch mai argymhelliad i wrthod mae swyddogion Gwynedd wedi ei ddatgan ar gyfer C25/0277/18/LL    Land South of B4547 Seion / Pentir LL55  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C25/0277/18/LL Tir i'r De o'r B4547 Seion / Pentir, Llanddeiniolen, LL55 3AN pdf eicon PDF 219 KB

Datblygiad arfaethedig o system storio ynni batri, seilwaith cysylltiedig, mynediad a thirlunio

 

AELODAU LLEOL: Cynghorydd Sasha Williams a’r Cynghorydd Gwion Emyr

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

Rheswm:

 

1.       Fe fyddai’r datblygiad hwn yn niweidiol i’r dirwedd gan y byddai’n cyflwyno elfen ddiwydiannol ei naws i safle tir glas agored mewn lleoliad amlwg a fyddai ei weld o fewn golygfeydd nodedig o Barc Cenedlaethol Eryri. Mae’r cais felly’n groes i bolisïau ISA 1, ADN 3, PCYFF 1, PCYFF 2 a PCYFF 4 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn fel y maent yn ymwneud â sicrhau bod datblygiadau yn gweddu i’w lleoliad.

 

Cofnod:

Datblygiad arfaethedig o system storio ynni batri, seilwaith cysylltiedig, mynediad a thirlunio

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 12-01-26

 

a)    Amlygodd y Rheolwr Cynllunio bod cynlluniau fel hyn yn storio ynni dros ben o ddatblygiadau ynni adnewyddadwy a’r grid pan fo galw isel am drydan, gan ryddhau'r trydan yn ddiweddarach pan fo galw ac felly yn helpu darparu diogelwch cyflenwad ynni.

 

Eglurwyd bod y safle yn cynnwys 1.95ha o dir pori garw wedi ei leoli gyferbyn ag is-orsaf drydan presennol Pentir mewn cefn gwlad agored y tu allan i unrhyw ffin datblygu, ac o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dinorwig; y tir wedi’i ddosbarthu’n 3a a 5 yn y Map Dosbarthiadau Tir Amaethyddol rhagfynegol ar gyfer Cymru.

 

Mynegwyd bod yr ymgeisydd wedi egluro bod y cynnig ar gyfer caniatâd cynllunio dros dro, am gyfnod o 40 mlynedd, ac yn dilyn y cyfnod hwnnw bydd y cyfarpar yn cael ei dynnu o’r safle a’r tir yn cael ei adfer i’w gyflwr presennol. Cadarnhawyd bod yr ymgeisydd wedi ymgymryd ag ymgynghoriad cyn cyflwyno cais gan fod y bwriad yn ddatblygiad  dros 1ha ac felly’n cael ei ddiffinio fel un mawr gan Lywodraeth Cymru.

 

Cafodd y datblygiad ei sgrinio ar gyfer Asesiad Effaith Amgylcheddol ac effaith debygol y cynnig ar yr amgylchedd, ac wedi defnyddio’r meini prawf penodol, ni ystyriwyd bod effaith y datblygiad ar yr amgylchedd yn annigonol i gyfiawnhau cyflwyno datganiad amgylcheddol gyda’r cais.

 

Wrth asesu effaith weledol y bwriad, ac er cydnabod bod proses rhesymegol wedi digwydd wrth ddewis y safle, nodwyd fod y safle wedi ei wahanu o’r is orsaf gan briffordd sylweddol ac nad oedd sgrinio presennol arwyddocaol i’r lleoliad. Mynegwyd pryder y gall y datblygiad fod yn niweidiol i harddwch naturiol yr ardal, yn enwedig wrth edrych dros y safle o’r gogledd orllewin, lle byddai’r safle yn tynnu oddi ar y golygfeydd o Barc Cenedlaethol Eryri.  Cyflwynwyd Asesiad Effaith Tirwedd a Gweledol gyda’r cais yn cynnwys asesiad o’r effaith weledol o sawl cyfeiriad. Roedd casgliadau'r gwaith hwnnw, er yn nodi byddai rhai effeithiau lleol arwyddocaol, mai effaith cyfyngedig niweidiol bychan byddai’r datblygiad yn ei gael ar y dirwedd yn gyffredinol.  Yn ogystal â’r sgrinio presennol a gynigiwyd gan ffurfiant y tir a thyfiant,  byddai’r datblygiad yn cynnwys nodweddion tirweddu, megis rhes o goed, a fydd yn helpu gydag integreiddio’r datblygiad i'r dirwedd o’i amgylch. Yn ogystal, cyfeiriwyd at y nodweddion datblygedig presennol, oedd yn cynnwys y peilonau sydd yn union gerllaw, a fyddai’n lleihau ei effaith ar y dirwedd. Nodwyd hefyd y byddai’r datblygiad yn effeithio ar ardal gyfyngedig yn unig ac fe fyddai’n wirdroadwy.

 

Nodwyd bod y safle o fewn Ardal Cymeriad Tirwedd 4 - Caernarfon - Arfordir a Llwyfandir o fewn Strategaeth Tirwedd Gwynedd (2012) a bod y Strategaeth hynny yn nodi y dylai pob cynnig datblygu yn yr ardal barchu natur y patrwm a manylion cyfansoddiad hanesyddol y tirlun. Gyda’r safle hefyd o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol, ni ystyriwyd bod ymestyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

Cais Rhif C25/0311/30/AC Bodernabwy, Aberdaron, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8BH pdf eicon PDF 246 KB

Cais adran 73 i newid amod 7 ar ganiatâd C24/0011/30/AM i gytuno ar osodiad newydd fel y dangosir ar gynllun rhif 3196:24:8 ynghyd a newid amodau 5 a 10 ar ganiatâd C24/0011/30/AM i gytuno manylion tirlunio ac edrychiad yn unol gyda cynlluniau rhif 3196:24:8 a 3196:24:7.

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Cofnod:

Cais adran 73 i newid amod 7 ar ganiatâd C24/0011/30/AM i gytuno ar osodiad newydd fel y dangosir ar gynllun rhif 3196:24:8 ynghyd a newid amodau 5 a 10 ar ganiatâd C24/0011/30/AM i gytuno manylion tirlunio ac edrychiad yn unol gyda chynlluniau rhif 3196:24:8 a 3196:24:7.

 

a)             Amlygodd y Pennaeth Cynorthwyol bod cais wedi dod i law gan asiant yr ymgeisydd yn gofyn am ohiriad fel bod modd cael mwy o amser i gyflwyno gwybodaeth ychwanegol. Ategodd bod y cais am ohiriad yn un rhesymol.

 

b)             Cynigiwyd ac eiliwyd gohirio’r cais

 

Rheswm: Rhoi cyfle i’r asiant gyflwyno gwybodaeth ychwanegol er mwyn datrys rhai elfennau technegol o’r cais.

 

PENDERFYNWYD

 

Gohirio’r cais er mwyn rhoi cyfle i’r asiant gyflwyno gwybodaeth ychwanegol er mwyn datrys rhai elfennau technegol o’r cais (erbyn cyfarfod 23/03/26)