Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH

Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878  E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. 

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

a)     Datganodd yr Aelodau canlynol eu bod yn Aelodau Lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir:

 

Y Cynghorydd Rhys Tudur (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 (C25/0710/41/LL) ar y rhaglen

 

Y Cynghorydd Gareth Williams (nad oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C26/0216/30/LL) ar y rhaglen

 

Y Cynghorydd Elwyn Edwards (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C25/0273/04/LL) ar y rhaglen

 

b)     Amlygodd y Cadeirydd bod Aelodau’r Pwyllgor a’r Swyddogion Cynllunio wedi derbyn llythyr gan ymgeisydd cais 5.1 (C25/0710/41/LL) ar y rhaglen

 

 

3.

MATERION BRYS

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 242 KB

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 13eg o Orffennaf 2026 fel rhai cywir

 

5.

CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO

Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i’w datblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau.

6.

Cais Rhif C25/0710/41/LL Cae ger Brynhyfryd / Cae Capel, Chwilog, LL53 6SF pdf eicon PDF 343 KB

Codi 20 o dai fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau o'r B4354 ynghŷd â gwaith cysylltiedig

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Dirprwyo’r hawl i’r Pennaeth Amgylchedd ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i gytundeb 106 neu gytundeb unochrog ar gyfer cyfraniad addysgol a chyfarpar chwarae ar lecyn agored ynghyd a’r amodau canlynol :

 

1.       Amser

2.       Datblygiad yn cydymffurfio gyda chynlluniau a gymeradwywyd

3.       Rhaid cyflwyno a chytuno ar raglen ddarparu tai fforddiadwy

4.       Rhaid cytuno’r deunyddiau allanol gan gynnwys y llechi to

5.       Tynnu’r Hawliau Datblygu a Ganiateir

6.       Amod Dŵr Cymru/Draenio

7.       Amodau Priffyrdd

8.       Amodau Bioamrywiaeth/CNC

9.       Cynllun Rheolaeth Adeiladu

10.     Rhoi enw Cymraeg i’r stad a’r tai unigol.

11.     Cyfyngu’r defnydd i ddosbarth defnydd C3 yn unig

12.     Cwblhau tirlunio

 

Nodyn: Trwydded Ystlumod

 

Cofnod:

Codi 20 o dai fforddiadwy, creu mynedfa newydd i gerbydau o'r B4354 ynghyd â gwaith cysylltiedig

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)           Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn oedd yma i godi 20 fforddiadwy ynghyd a chreu mynedfa gerbydol newydd ynghyd a datblygiadau cysylltiedig. Adroddwyd bod y safle bellach wedi ei ddiwygio ac wedi ei leoli yn ei gyfanrwydd o fewn safle sydd wedi ei ddynodi yn benodol ar gyfer datblygiad tai T64 o fewn ffin ddatblygu Chwilog, gyda’r nifer tai a gynigiwyd wedi lleihau o 25 i 20 i alluogi hyn.

 

Eglurwyd bod plotiau rhifau 16-19 (2 3 gwely, 1 2 wely ac un byngalo 2 wely) o’r cynllun gwreiddiol wedi eu dileu, a bod plotiau 24 - 25 wedi ei amnewid o ddau fflat 1 gwely i 1 2 wely. Nid oedd y bwriad yn darparu unedau y tu allan i’r ffin ddatblygu; yn darparu 100% o dai fforddiadwy gyda chymysgedd o ran deiliadaeth. Roedd y cynllun arfaethedig yn cynnwys darparu man agored cyhoeddus ac ardal draenio gynaliadwy.

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod y cais wedi ei gyflwyno i Bwyllgor Cynllunio 27ain o Ebrill 2026, lle penderfynwyd gwrthod y cais ar sail un rheswm sef ei fod yn groes i Polisi TAI 16 Safleoedd Eithrio o’r CDLl oherwydd nad oedd posib dangos angen am y tir eithrio hyd nes bod y safle dynodedig T64 wedi ei ddatblygu, ac felly cyfeiriwyd y cais i gyfnod cnoi cil. Ers hynny, cafodd y cais ei ddiwygio yn benodol mewn ymateb i’r rheswm gwrthod uchod. Amlygwyd bod nifer o ddogfennau a chynlluniau diwygiedig wedi eu cyflwyno er mwyn adlewyrchu’r newid, gyda chyfnod o ail-ymgynghori llawn, gan gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus, wedi cymryd lle. Gyda’r bwriad wedi ei ddiwygio mewn ymateb i wrthwynebiad y Pwyllgor Cynllunio, roedd y cais yn cael ei ail-gyflwyno am benderfyniad ar sail y diwygiadau.

 

Cyfeiriwyd at ymatebion yr ail ymgynghoriad ac at y niferoedd hynny oedd â chysylltiad 5 mlynedd gyda Gwynedd ac  yn dymuno byw yn Chwilog, ynghyd a diweddariad i ffigyrau angen Gwynedd gyfan sy’n cadarnhau bod 2103 o bobl ar gofrestr Opsiynau Tai am Eiddo cymdeithasol gyda chysylltiad 5 mlynedd gyda Gwynedd ac 882 ar gofrestr Tai Teg. Cadarnhawyd bod yr Adroddiad Anghenion Tai wedi ei gwblhau gan yr Hwylusydd Tai Gwledig ac wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais.

 

Nodwyd y byddai’r bwriad yn cynnig 100% o dai fforddiadwy gyda statws pentref Chwilog yn y CDLl yn golygu mai unedau fforddiadwy ar gyfer gwasanaethu angen fforddiadwy Gwynedd yn ei gyfarwydd oedd yn ddisgwyliedig (fel yn achosion safleoedd cyffelyb eraill sydd wedi eu dynodi drwy’r Sir). Ategwyd bod yr angen wedi ei brofi a bod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion polisïau TAI 3, TAI 8 a TAI 15 o'r CDLl. Pwysleisiwyd nad oedd y bwriad yn cynnwys darparu tai y tu allan i’r ffin ddatblygu  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

Cais Rhif C26/0216/30/LL Parc Carafanau, Tir Glyn, Uwchmynydd, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8DA pdf eicon PDF 345 KB

Cais llawn i newid defnydd cae amaethyddol i gynnwys 10 llain carafán teithiol tymhorol yn ychwanegol i'r prif safle ynghyd a chodi adeilad toiledau/cawodydd, gwelliannau tirlunio meddal, creu mynedfa/allanfa bwriedig a gosod offer trin

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Williams

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

Dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i wrthod – rhesymau:

 

1.    Ni fyddai'r datblygiad hwn wedi ei leoli o fewn lleoliad anymwthiol fyddai wedi'i guddio'n llwyr gan nodweddion presennol y dirwedd a’r cynnig tirlunio, fe fyddai’n niweidiol i ansawdd y dirwedd ac ni fyddai’n integreiddio'n briodol gyda’i leoliad mewn cefn gwlad agored. Ni fyddai'r bwriad ychwaith yn ychwanegu at gynnal, gwella neu adfer cymeriad cydnabyddedig Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn. Fe ystyrir felly fod y bwriad yn groes i ofynion Polisïau TWR 5, PCYFF 4 ac AMG 1 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn.

2. Nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais cynllunio i alluogi’r Awdurdod Cynllunio Lleol fel yr awdurdod cymwys o dan Reoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd), i wneud asesiad priodol o oblygiadau'r prosiect ar gyfer Ardal Cadwraeth Arbennig Pen Llŷn a’r Sarnau. Nid yw’r cynnig felly’n dangos y byddai’r bwriad yn gwarchod na gwella’r amgylchedd naturiol ac felly mae’r cais yn groes i ofynion Polisi PS 19 a AMG 5 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026. 

3. Ni chyflwynwyd tystiolaeth ddigonol fel rhan o’r cais cynllunio i ddangos fod ystyriaeth lawn wedi ei roi i’r effaith o golli tir amaethyddol gorau a mwyaf aml bwrpas. Ystyrir felly fod y cais yn groes i ofynion maen prawf 6 Polisi PS 6 Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 ynghyd a’r cyngor a roddir ym mharagraffau 3.58 a 3.59 Polisi Cynllunio Cymru. 

 

 

4.  Mae’r bwriad fel y cyflwynwyd yn golygu defnyddio mynedfa israddol a defnydd o ail fynedfa heb ei gyfyngu. Ystyrir fod y bwriad yn annerbyniol ac yn groes i ofynion polisi TRA 4 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 sy’n cadarnhau y gwrthodir cynigion a fyddai’n peri niwed annerbyniol i weithrediad diogel ac effeithlon y briffordd.

5. Nid oes datganiad draenio wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais, ac felly nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno er mwyn sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion rhan 7 o NCT 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol (2025) o ran darparu system draenio gynaliadwy.

6.  Mae’r safle wedi ei leoli yn rhannol o fewn Parth Llifogydd 2 a 3 ar gyfer dwr wyneb a chyrsiau dwr bychain fel y nodir gan y ‘Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio’. Nid oes Asesiad o Ganlyniad Llifogydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ac mae’r cais yn golygu darparu datblygiad newydd bregus iawn ar lefel llawr gwaelod ac felly nid yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion paragraffau 6.1, 10.19 na 10.20 o Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol (2025) sy’n sicrhau nad yw datblygiadau bregus iawn yn cael eu lleoli o fewn parthau llifogydd ble byddai’n achosi risg i fywyd.

 

Cofnod:

Cais llawn i newid defnydd cae amaethyddol i gynnwys 10 llain carafán deithiol dymhorol yn ychwanegol i'r prif safle ynghyd a chodi adeilad toiledau/cawodydd, gwelliannau tirlunio meddal, creu mynedfa/allanfa bwriedig a gosod offer trin.

 

a)           Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd yn ymwneud ag ymestyn safle carafanau presennol i dir amaethyddol gerllaw. Eglurwyd bod caniatâd cynllunio ar gyfer safle ar wahân i 39 carafanau teithiol ar gaeau i’r gogledd a’r gogledd ddwyrain o safle’r cais ynghyd â llecyn i’r gogledd o safle’r cais presennol wedi ei ganiatáu o dan gyfeirnod C16/0878/30/LL i storio hyd at 15 o garafanau teithiol trwy gydol y flwyddyn; gweddill y safle yn cynnwys adeiladau amaethyddol, adeiladau allanol a dau dŷ preswyl. 

 

Nodwyd bod y safle cyfan wedi ei leoli yng nghefn gwlad agored ac o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE) Llŷn, ac oddi fewn i Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli, ac yn rhannol o fewn Parth Llifogydd 2/3 (Dŵr Wyneb a Chyrsiau Dŵr Bach) fel y dangosir yn y Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio. Gwasanaethir y safle gan ffordd di ddosbarth sy’n rhedeg yn gyfochrog a’r fferm a’r safle carafanau presennol.  Byddai safle’r datblygiad yn rhannol oddi mewn i safle bywyd gwyllt Porth Meudwy.

 

Tynnwyd sylw bod gwrychoedd sefydledig ar rai o ymylon y safle yn arbennig felly'r ffin orllewinol gyda’r ffordd gyhoeddus. Disgrifiwyd y tir ble lleolir y datblygiad yn dir amaethyddol presennol sydd wedi ei gynnwys o fewn dosbarth 3a yn ôl mapiau Llywodraeth Cymru sy’n golygu bod tiroedd 3a ynghyd a thiroedd dosbarth 1 a 3 yn cael eu nodi fel y tiroedd amaethyddol gorau a mwyaf amlbwrpas. Yn yr achos yma, fe’i nodir fel “tir amaethyddol o ansawdd da i gymedrol”.

 

Cyflwynwyd y  cais i Bwyllgor gan fod y safle yn fwy o ran maint na’r hyn a ellid ei benderfynu trwy’r drefn ddirprwyedig. Ategwyd bod y bwriad wedi bod yn destun cais cynllunio o dan gyfeirnod C24/0413/30/LL, ond bu i’r ymgeisydd dynnu’n cais yn ôl  cyn iddo gyrraedd Pwyllgor Cynllunio 30.09.2024.

 

Adroddwyd bod bwriad creu lleiniau ffurfiol ychwanegol i safle presennol ar gyfer 10 carafán deithiol dymhorol ynghyd a chodi adeilad toiledau/cawodydd, gwelliannau tirlunio meddal, creu mynedfa/allanfa bwriedig a gosod offer trin. Byddai tirlunio ar ffurf plannu coedlan fechan wrth ochr isaf yr ail fynedfa i’r cae yn rhan ddeheuol y safle tra byddai gwrych newydd i’w blannu tu cefn i’r adeilad toiled arfaethedig. Amlygwyd bod y gwrych presennol ar hyd ffin y cae gyda’r ffordd gyhoeddus gyfochrog, a’r bwriad fydd rheoli’r gwrych yma a chreu ardal o wair hir rhwng y gwrych a lleoliad y 10 llain newydd o fewn y cae.

 

Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad, nodwyd bod Polisi TWR 5 y CDLl yn gofyn i unrhyw ddatblygiad carafanau teithiol gydweddu’n briodol gyda’r dirwedd mewn modd nad ydyw’n peri niwed i’w hansawdd gweledol. Byddai’r datblygiad yn anorfod yn niweidiol i’r tirlun o fewn yr AHNE, a hynny yn cael ei gefnogi gan sylwadau’r Uned AHNE.

 

Er yn cydnabod  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

Cais Rhif C25/0273/04/LL Gwesty Pale Hall, Llandderfel, Y Bala, Gwynedd, LL23 7PS pdf eicon PDF 379 KB

Codi 8 o gytiau bugail, gosod cynhwysydd dŵr budr a suddfan dŵr a seilwaith i wasanaethu’r cytiau bugail

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Edwards

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: Gwrthod

 

  1. Byddai’r bwriad yn creu safle llety gwersylla amgen parhaol newydd o fewn Ardal Tirwedd Arbennig ac felly yn groes i bwynt 1 o bolisi TWR 3 a PCYFF 1 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (2011-2026) sy'n diogelu'r Ardal Tirwedd Arbennig rhag y math yma o ddatblygiad.

 

  1. Mae’r prawf o effaith tebygol sylweddol yn awgrymu y gall fod yna effaith sylweddol ar rinweddau ACA Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid o ganlyniad i’r gwaith trin carthion newydd a fwriedir a’r agosatrwydd at yr ACA. Golygai hyn fod angen Asesiad Priodol, ond nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais er mwyn i’r Awdurdod Cynllunio Lleol allu cwblhau Asesiad Priodol yn yr achos yma yn unol â gofynion yr Awdurdod o dan Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017. Cesglir felly na ellir cael unrhyw sicrwydd na fydd y bwriad yn cael effaith sylweddol neu andwyol ar yr ACA oherwydd y diffyg gwybodaeth, ac felly nid yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 na gofynion polisïau PS19 ac AMG 5 o’r CDLl na phennod 6 o’r PCC sy’n ymdrin â seilwaith gwyrdd, budd net i fioamrywiaeth, yr amddiffyniad a roddir i Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a choed a choetiroedd.

 

  1. Mae’r safle wedi ei leoli yn rhannol o fewn Parth Llifogydd 2 a 3 ar gyfer dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain fel y nodir gan y ‘Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio’. Nid oes Asesiad o Ganlyniad Llifogydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais ac mae’r cais yn golygu darparu datblygiad newydd bregus iawn ar lefel llawr gwaelod ac felly nid yw’r bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion paragraffau 6.1, 10.19 na 10.20 o Nodyn Cyngor Technegol 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol (2025) sy’n sicrhau nad yw datblygiadau bregus iawn yn cael eu lleoli o fewn parthau llifogydd ble byddai’n achosi risg i fywyd.

 

  1. Nid oes datganiad draenio wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais, ac felly nid oes gwybodaeth ddigonol wedi ei gyflwyno er mwyn sicrhau fod y bwriad yn cydymffurfio gyda gofynion rhan 7 o NCT 15: Datblygu, llifogydd ac erydu arfordirol (2025) o ran darparu system draenio gynaliadwy.

 

Cofnod:

Codi 8 o gytiau bugail, gosod cynhwysydd dŵr budr a suddfan dŵr a seilwaith i    wasanaethu’r cytiau bugail

 

Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr

 

a)     Amlygodd yr Uwch Swyddog Cynllunio bod bwriad codi 8 o gytiau bugail fel rhan o fusnes Gwesty Palé Hall. Gostyngwyd y nifer cytiau bugail o’r cynnig gwreiddiol o 10 i 8 yn dilyn diwygiadau i’r cais.

 

Byddai tri cwt bugail wedi eu lleoli mewn rhan ogleddol o’r safle yn agosach at y gwesty, gyda phump arall wedi eu lleoli ymhellach i’r de-orllewin o amgylch llyn bach presennol. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn tiroedd Gwesty Palé Hall, tŷ gwledig Fictoraidd rhestredig Gradd II*, sydd oddeutu 1km o Landderfel a thua 5.5km o’r Bala; y safle tu allan i unrhyw ffin ddatblygu ac felly o fewn cefn gwlad agored.

 

O ran cyfyngiadau cynllunio perthnasol, lleoli’r y safle o fewn Tirwedd Hanesyddol Dyffryn Afon Dyfrdwy ac Ardal Tirwedd Arbennig Cefnwlad y Bala; o fewn dalgylch Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid; yn agos at Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig SoDdGA) Afon Dyfrdwy, yn rhannol o fewn Safle Bywyd Gwyllt Wern Dywyll ac mae'r safle cyfan o fewn Gorchymyn Cadw Coed Parcdir Palé Hall; rhan o’r safle hefyd o fewn Parthau Llifogydd 2 a 3 ar gyfer dŵr wyneb a chyrsiau dŵr bychain ar Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio.

 

Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod y safle yn fwy o ran maint na’r hyn y gellid ei benderfynu trwy drefn ddirprwyedig.

 

Yng nghyd-destun asesiad o’r ystyriaethau cynllunio perthnasol nodwyd  bod y bwriad, o greu safle llety gwersylla amgen parhaol newydd o fewn Ardal Tirwedd Arbennig, wedi cael ei ystyried o dan Bolisi TWR 3 y CDLl. Nodwyd bod maen prawf 1 Polisi TWR 3 yn datgan y gwrthodir cynigion ar gyfer safleoedd newydd o'r fath mewn Ardaloedd Tirwedd Arbennig, ac felly ystyriwyd bod y cynnig yn sylfaenol groes i’r polisi ac i ofynion Polisi PCYFF 1.

 

Cyfeiriwyd at bryderon Cyfoeth Naturiol Cymru ynghylch yr effaith bosibl ar ACA Afon Dyfrdwy a Llyn Tegid. Er bod gwybodaeth wedi ei gyflwyno ynglŷn â'r trefniadau draenio budr, nid oedd yr ymgeisydd wedi darparu tystiolaeth hydroddaeareg nac Asesiad Risg Dŵr Daear, yn unol â'r gofyn. O ganlyniad, ni ellid diystyru effaith andwyol ar yr ACA ac nid oedd gwybodaeth ddigonol wedi ei dderbyn fel bod yr Awdurdod yn gallu cwblhau Asesiad priodol.

 

Yng nghyd-destun materion llifogydd a draenio, er bod y safle wedi ei leoli'n rhannol o fewn Parthau Llifogydd 2 a 3, nid oedd Asesiad o Ganlyniad Llifogydd wedi ei gyflwyno fel rhan o’r cais. Gyda’r cynnig yn cynnwys datblygiad sy’n cael ei ystyried yn ddatblygiad bregus iawn, ystyriwyd ei fod yn groes i ofynion perthnasol NCT 15: Datblygu, Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Yn ogystal, nid oedd Datganiad Draenio wedi ei gyflwyno i ddangos sut y bydd dŵr wyneb yn cael ei reoli ar y safle ac felly nid oedd gwybodaeth ddigonol i amlygu cydymffurfiaeth â  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.