Lleoliad: Siambr Dafydd Orwig, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon, Gwynedd. LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol Dogfennau ychwanegol: Cofnod: (a) Datganodd y Cynghorydd Catrin Wager fuddiant personol, yn eitem 5.2 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/0903/16/LL) oherwydd ei bod yn ffrindiau gyda’r ymgeisydd Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a oedd yn rhagfarnu a gadawodd y
Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau a nodir. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Dewi Wyn Roberts,
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.1 ar y rhaglen,
(cais cynllunio rhif C17/1024/39/LL); ·
Y Cynghorydd Dafydd Owen, (nad
oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C17/0903/16/LL); ·
Y Cynghorydd Eirwyn Williams,
(oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitemau 5.3 ar y rhaglen, (cais
cynllunio rhif C17/0912/35/AM); ·
Y Cynghorydd Stephen
Churchman, (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.6 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1077/36/LL). ·
Y Cynghorydd Huw G W
Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor
Cynllunio hwn), yn eitem 5.8 ar y rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1124/11/LL). ·
Y Cynghorydd John Brynmor
Hughes (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.9 ar y
rhaglen, (cais cynllunio rhif C17/1144/39/LL). Ymneilltuodd yr
Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y ceisiadau dan sylw ac
ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau
sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 18.12.17 fel rhai cywir Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 18 Rhagfyr 2017, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd
y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn
perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C17/1024/39/LL - The Shanty, Pen Bennar, Abersoch, Pwllheli. PDF 289 KB Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le AELOD LLEOL: Cynghorydd
Dewi Wyn Roberts Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel tŷ
presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le. Tynnwyd sylw at y
sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd, oedd yn cynnwys ymateb
Cyd-Bwyllgor AHNE. a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi bod y cais wedi ei gyflwyno i’r
Pwyllgor Cynllunio a gynhaliwyd ar 18/12/2017 pryd y
penderfynwyd gohirio ystyriaeth o’r cais er mwyn cael barn Cyd-Bwyllgor
Ymgynghorol Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn (AHNE) Ymhelaethwyd
bod y cais yn ail gyflwyniad o gais a wrthodwyd gan y Pwyllgor Cynllunio ar 25
Medi 2017. Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi diwygio'r bwriad drwy leihau maint y tŷ
bwriededig fel ymateb i bryderon y
Pwyllgor ynghyd a rhesymau gwrthod y cais blaenorol. Mynegwyd bod gosodiad mewnol yr adeilad wedi
ei ddiwygio er mwyn lleihau arwynebedd yr adeilad 25%. Cyflwynwyd cynlluniau manwl ynghyd â lluniau
ffotograffig yn dangos y tŷ a’r terasau allanol yn ymestyn yn ôl i ddilyn
proffil y safle. Awgrymwyd na fyddai’r adeilad yn creu datblygiad ymwthiol yn y
tirlun ac er bod edrychiad y tŷ yn wahanol, ni ystyriwyd y byddai yn cael
effaith niweidiol sylweddol ar y tirlun.
Atgoffwyd yr Aelodau bod y safle wedi ei leoli ar benrhyn Abersoch, y tu
mewn i ffin datblygu'r pentref ac oddi fewn i’r AHNE. Amlygwyd bod y
bwriad yn golygu dymchwel y tŷ presennol ar y safle a chodi tŷ newydd
mwy yn ei le. Nodwyd bod polisïau lleol a chenedlaethol yn gefnogol i
ail-ddefnyddio tir a ddefnyddiwyd o’r blaen ac ystyriwyd bod y bwriad yn cwrdd
gyda gofynion polisi TAI 13 CDLl sydd yn ymwneud yn benodol gyda dymchwel a
chodi tŷ newydd o fewn ffin pentref. Gyda thŷ eisoes yn bodoli ar y safle nid yw’r bwriad yn golygu creu uned(au)
preswyl newydd ac oherwydd hynny, ni fyddai’r datblygiad yn ychwanegu at y stoc tai. Cafwyd
cadarnhad gan Swyddog Cadwraeth y Cyngor nad oedd yr adeilad
presennol o werth hanesyddol na phensaernïol sylweddol ac nad oedd yn
cyfiawnhau statws rhestredig. Adroddwyd bod llawer o wahanol ddyluniadau i dai’r ardal ac nad oedd un
patrwm adeiladu nodweddiadol. Gydag edrychiad fyddai yn weladwy o’r môr,
ystyriwyd fod dyluniad y bwriad o edrych arno o’r môr yn gweddu gyda’r safle
oherwydd ei fod yn dilyn siâp, gosodiad a phroffil y safle. Eglurwyd bod y
dyluniad, er yn fodern, o raddfa a deunyddiau a fyddai’n gweddu i’r safle ac yn
addas i’w leoliad a’i gyd-destun. Nodwyd nad oedd gwrthwynebiad gan yr Uned
AHNE i’r bwriad, fodd bynnag roedd y Cyd-Bwyllgor wedi datgan byddai’r bwriad
yn ddatblygiad ar safle amlwg gydag ôl troed sylweddol fwy na’r tŷ
presennol. Nododd y Cyd -Bwyllgor hefyd y byddai’r datblygiad yn ymwthiol. Yng nghyd-destun y polisïau perthnasol a dadleuon y gwrthwynebwyr,
ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol i’w ganiatáu gyda lleoliad, dwysedd, a’r
cynnydd mewn maint yn rhesymol ac yn welliant i safle agored o’r fath. Gyda
thŷ eisoes yn bodoli ar y safle ni fyddai newid arwyddocaol i’r tirlun,
nac effaith sylweddol arwyddocaol ar fwynderau trigolion cyfagos. b) Gwrthwynebwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C17/0903/16/LL - Carreg y Fedwen, Sling, Tregarth, Bangor PDF 339 KB Creu canolfan ymchwil a menter iachad acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad newydd, creu meysydd parcio a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i gais dynnwyd yn ol - C16/1158/16/LL) AELOD LLEOL: Cynghorydd Dafydd Owen Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Creu canolfan
ymchwil a menter iachâd acwstig cysegredig gan gynnwys codi pedwar adeilad
newydd, creu meysydd parcio a chodi wal ffin 2.3m o uchder (cais diwygiedig i
gais a dynnwyd yn ôl - C16/1158/16/LL) Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais.
Nodwyd bod yr ymgeisydd wed amlygu bod disgrifiad y bwriad ychydig yn wahanol
i’r hyn yr oedd yn ei ystyried yn gywir. Amlygwyd felly bod geiriad y bwriad yn
cael ei ddiwygio i, ‘Creu Canolfan ymchwil sydd yn cynnwys codi pedwar
adeilad newydd…’ Ategwyd bod y cynlluniau yn gywir a disgrifiad o’r bwriad
yn yr adroddiad yn gywir, ond y disgrifiad ffurfiol ychydig yn anghywir. Adroddwyd mai cais ydoedd i greu canolfan ymchwil newydd fydd yn
ymchwilio i’r defnydd o sŵn ar gyfer iachâd corfforol a meddyliol. Nodwyd y byddai’r safle’n cynnwys prif
adeilad acwstig ar ffurf gromen wedi ei gysylltu trwy goridor ag adeilad
mynediad a fyddai’n cynnwys man croesawu a swyddfa. Byddai tri adeilad cromen
arall, llai wedi eu llunio i gyseinio gyda thonfeddi sŵn penodol. Eglurwyd bod y cais yn un ar gyfer menter wledig fechan newydd a fyddai’n
cynnig cyfleoedd gyflogaeth i rhwng 2 a 5 o bobl. Byddai hefyd yn cynnig cyfle
i arallgyfeirio’r economi leol cefn-gwlad ac yn fodd o ddefnyddio safle a
ddefnyddiwyd yn y gorffennol at ddibenion busnes. Ystyriwyd bod egwyddor y
cynnig yn cwrdd gydag amcanion Polisi PS13. Gyda safle’r cais mewn lleoliad ynysig mewn coedwig gymysg adroddwyd y
byddai’r adeiladau, oherwydd eu maint a’u deunyddiau, yn gweddu i’w safle ac yn
guddiedig o welfannau pell. Ystyriwyd
bod y sgrinio a gynhigir gan ffurfiant y tir a thyfiant presennol yn
ddigonol i guddio'r safle yn foddhaol. Ni ddisgwyliwyd y byddai unrhyw niwed
arwyddocaol i ansawdd byw trigolion cyfagos o’r lefel isel hyn o weithgarwch ac
oherwydd y pellter o unrhyw anheddau eraill, ni ystyriwyd y byddai unrhyw niwed
arwyddocaol yn deillio o’r safle o safbwynt materion megis goredrych neu
gysgodi. Ystyriwyd bod y cynnig o natur a graddfa y datblygiad yn dderbyniol ar
gyfer y lleoliad. Mewn ymateb i bryderon
gan drigolion lleol ynghylch effaith posibl y sŵn a gynhyrchir gan
weithgareddau’r cyfleuster, mynegwyd bod Gwarchod y Cyhoedd wedi cadarnhau nad
oedd ganddynt wrthwynebiad i’r fenter fechan ond yn cynnig amodau priodol. Adroddwyd nad oedd y bwriad yn groes i unrhyw
bolisi cynllunio perthnasol o fewn y CDLl a bod y datblygiad a gynigiwyd yn
ddefnydd priodol o’r safle. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd
yr ymgeisydd y cais y pwyntiau canlynol:- ·
Bod yr adeilad
yn un cynaliadwy wedi ei adeiladu a llaw ·
Byddai’r fenter
yn canolbwyntio ar ymchwil acwstig wedi'i ysbrydoli gan ddulliau arfaethedig
sy'n ganolog i adfer anaf i'r ymennydd ·
Creu 2-5 swydd -
trafodaethau cychwynnol â Phrifysgol Bangor, Hull a chanolfannau ymchwil eraill
ynglŷn â doethuriaeth mewn ymchwil arloesol ·
Cynyddu
cyflogaeth gynaliadwy leol mewn adeiladwaith trwy gynnig prentisiaeth neu
gynlluniau tebyg · Byddai effaith weledol isel i’r datblygiad; yn gweddu’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C17/0912/35/AM - Station Bakery, Stryd Fawr, Criccieth, Gwynedd PDF 237 KB Ail gyflwyniad o gais a ganiatawyd o dan C12/0476/35/AM ar gyfer dymchwel adeiladau presennol a chodi 7 uned preswyl AELOD LLEOL: Cynghorydd Eirwyn Williams Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ail gyflwyniad o
gais a ganiatawyd o dan C12/0476/35/AM ar gyfer dymchwel adeiladau presennol a
chodi 7 uned breswyl a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi
mai ail gyflwyniad ydoedd o gais oherwydd bod y caniatâd blaenorol wedi dod i
ben. Amlygwyd mai cais amlinellol oedd dan sylw yn cynnwys manylion mynedfa,
llunwedd a graddfa yn unig. Pwysleisiwyd mai egwyddor y datblygiad oedd dan
ystyriaeth ac nid manylion llawn. Adroddwyd
bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu Criccieth ac o fewn ardal lle
ceir cymysgedd o unedau masnachol a thai preifat. Nodwyd mai'r bwriad yw codi 7
uned breswyl gyda chadarnhad bod yr ymgeisydd yn fodlon cynnig 2 o’r unedau hyn
fel unedau fforddiadwy. Byddai 2 uned yma yn destun cytundeb 106 i sicrhau eu
bod yn fforddiadwy yn y dyfodol. Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn ddefnydd da o’r safle. Nid oedd yn
debygol o achosi effaith andwyol ar fwynderau’r ardal leol nac unrhyw eiddo
cyfagos. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod
lleol (a oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nad oedd ganddo
wrthwynebiad i’r cais nac i’r argymhelliad c)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais ch) Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chais yn cael ei gyflwyno ar ôl
pum mlynedd gan fod amser y cais blaenorol wedi dod i ben, amlygwyd nad oedd
hawliau gorfodaeth i orfodi ymgeiswyr i weithredu. d) Mewn ymateb i sylw gan yr Uned Bioamrywiaeth y dylai’r tai hyn
gynnwys ‘swift bricks’ amlygywd mai brics ar gyfer annog adar i nythu byddai'r
rhain. PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i ganiatáu yn ddarostyngedig i gwblhau cytundeb 106 i glymu
2 o’r 7 eiddo ar gyfer tai fforddiadwy ac amodau perthnasol yn ymwneud â: 1.
Amser 2.
Materion a gadwyd yn ôl 3.
Llechi 4.
Dŵr Cymru 5.
Priffyrdd/parcio 6.
Amser gweithio wrth ddatblygu’r safle 7.
Ffenestri 8.
Tynnu hawliau a ganiateir yn ôl o’r unedau fforddiadwy 9.
Lefelau llawr gorffenedig 10.
Trin ffiniau/tirweddu |
|
Dymchwel adeiladau diwydiannol a chodi 2 estyniad i adeilad diwydiannol a newidiadau cysylltiedig i adeilad presennol ynghyd a chodi un adeilad ar wahan ar gyfer storio a phrosesu
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Kevin M Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel adeiladau
diwydiannol a chodi 2 estyniad i adeilad diwydiannol a newidiadau cysylltiedig i
adeilad presennol ynghyd a chodi un adeilad ar wahân ar gyfer storio a phrosesu a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod y cais ar gyfer gwella adeiladau ffatri DMM yn Llanberis er mwyn
galluogi’r cwmni i ddarparu gwell cyfleusterau, cymhwyso peirannau newydd a
gwella’r prosesau cynhyrchu presennol.
Eglurwyd bod sawl elfen i’r cynllun: ·
Dymchwel
strwythurau presennol sydd wedi eu cysylltu i’r prif adeilad mewn dau leoliad ·
Codi dau estyniad newydd ar gefn y
prif adeilad i gymryd lle’r strwythurau fydd yn cael u dymchwel ·
Tynnu
cynhwysyddion storio o’r safle ·
Codi adeilad
newydd ar gyfer storio a phrosesu . Gyda’r datblygiad wedi ei leoli o fewn ystâd ddiwydiannol, ategwyd bod ei
faint yn dderbyniol ac oherwydd ei
natur, ni ystyriwyd y byddai effaith niweidiol arwyddocaol ar fwynderau preifat
nac ar fwynderau’r gymdogaeth yn gyffredinol. Nodwyd bod y bwriad yn ddatblygiad economaidd addas i’r ardal. b)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y
pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
bod cwmni yn cyflogi nifer o bobl ·
bod y datblygiad wedi ei leoli
o fewn ystâd ddiwydiannol PENDERFYNWYD Caniatáu Amodau : 1. 5 mlynedd, 2. Datblygiad yn
cydymffurfio gyda'r cynlluniau a gymeradwywyd 3. Amod tir llygredig 4. Amod Dŵr Cymru |
|
Cais Rhif C17/1090/45/LL - Partington Marine Boatyard, Yr Harbwr, Pwllheli, PDF 256 KB Dymchwel ardal dan do storio cychod a gweithdy presennol yn dilyn difrod storm ac adeiladu gweithdy a storfa gychod newydd AELOD LLEOL: Cynghorydd Hefin Underwood Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dymchwel
ardal dan do storio cychod a gweithdy presennol yn dilyn difrod storm ac
adeiladu gweithdy a storfa gychod newydd. a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio
ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd i adeiladu gweithdy a storfa gychod
newydd yn lle gweithdy a storfa a ddifrodwyd mewn storm ddiweddar. Eglurwyd gan
fod yr adeilad oedd ar y safle mewn cyflwr strwythurol peryglus roedd yr
adeilad hwnnw eisoes wedi ei ddymchwel. Nodwyd
bod y safle o fewn ffin datblygu Pwllheli ac oddi fewn Tirwedd o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol wedi ei leoli yn ardal harbwr allanol Pwllheli lle gwelir
nifer o iardiau cychod a gweithdai. Amlygwyd bod y cais wedi ei gyflwyno at
sylw'r Pwyllgor gan ei fod yn disgyn i’r categori datblygiad diwydiannol,
masnachol neu adwerthu dros 500m2. Ystyriwyd
bod y defnydd, y dyluniad a’r deunyddiau arfaethedig yn dderbyniol ac na
fyddant yn amharu ar fwynderau, cymeriad nac edrychiad y safle na’r ardal o’i
gwmpas. b)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais PENDERFYNWYD Caniatáu – amodau: 1.
Cychwyn o fewn 5 mlynedd. 2.
Datblygiad i gydymffurfio gyda'r cynlluniau a gyflwynwyd. 3.
Cytuno union liwiau’r deunyddiau allanol. 4.
Dim dŵr wyneb a / neu ddraeniad tir i gysylltu i’r garthffos
gyhoeddus. |
|
Cais Rhif C17/1077/36/LL - Tir ger Ty'n Ffrwd, Pentrefelin, Criccieth PDF 239 KB Cais ol-weithredol i gadw mynedfa gerbydol AELOD LLEOL: Cynghorydd Stephen Churchman Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais
ôl-weithredol i gadw mynedfa gerbydol a)
Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog
Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi
bod y cais yn gais llawn ôl-weithredol ar
gyfer cadw mynedfa gerbydol. Adroddwyd bod y fynedfa oddi ar ffordd ddosbarth
1, yr A497 ym Mhentrefelin. Ni ystyriwyd bod y bwriad o greu’r fynedfa yn cael effaith andwyol ar
fwynderau gweledol yr ardal. Amlygwyd bod nifer o’r gwrthwynebwyr wedi lleisio
pryderon yn ymwneud â diogelwch ffyrdd, fodd bynnag nid oedd yr Uned
Drafnidiaeth wedi codi unrhyw bryderon fyddai yn deillio o’r datblygiad.
Atgoffwyd mai mynedfa ar gyfer cynnal a
chadw tir amaethyddol oedd dan sylw gyda dwysedd defnydd isel. Nodwyd bod y
fynedfa yn debyg iawn i fynedfeydd cyffelyb gerllaw Amlygwyd pe byddai unrhyw geisiadau
cynllunio am ddatblygiadau pellach yn y dyfodol yna byddai’r ceisiadau
cynllunio hynny yn cael eu hystyried ar eu haeddiant eu hunain. Ystyriwyd bod y
safle yn addas ar gyfer cael mynedfa amaethyddol ac nad oedd goblygiadau i’r
bwriad o ran diogelwch ffyrdd. Ni ystyriwyd ychwaith y byddai’r bwriad o
ystyried ei raddfa a’i leoliad yn debygol o amharu’n andwyol ar fwynderau
trigolion cyfagos. b)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd asiant yr
ymgeisydd y pwyntiau canlynol:- ·
Yr ymgeisydd angen edrych ar
ôl y tir ac i wneud hynny rhaid cael mynediad achlysurol ato c)
Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr aelod
lleol ( oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:- ·
Bod y cais yn ymddangos yn
amlwg a syml, ond bod angen ystyried y cais yn fanylach ·
Bod y fynedfa wedi ei leoli ar
ddarn o’r ffordd sydd â thro ·
Bod y fynedfa yn agos iawn at
gyffordd eithaf prysur yn y pentref a safle bws. Ymddengys y rhain yn
gymhlethdodau ar ddarn bach o ffordd ·
Derbyn bod y giât yn debyg i
eraill yn yr ardal, ond eto, problemau yn codi gyda diogelwch ·
Ni ellir agor y giât allan gan
y byddai yn agor i’r ffordd ac ar draws y llwybr cyhoeddus ·
Ni ellir agor yn llawn i mewn
i’r tir oherwydd agosatrwydd at yr afon
- nid yw felly yn ymarferol ·
Pryderon mwyaf trigolion y
pentref yw diogelwch ffyrdd - byddai’r
fynedfa yn ychwanegu at y pryderon hynny ch) Mewn ymateb i sylwadau am y pryderon diogelwch ffyrdd, amlygodd Swyddog Rheolaeth Datblygu Trafnidiaeth nad yw maint y llecyn tir yn ddigonol ar gyfer peiriannau
amaethyddol mawr ac felly bod y cais wedi ei ystyried ar gyfer peiriannau llai
megis cerbyd 4x4. Pwysleisiwyd mai defnydd achlysurol fyddai yn cael ei wneud
o’r fynedfa ac nad oedd yn gwrthwynebu’r cais. Nid oedd rheswm i osod y giât yn
nol d)
Cynigiwyd
ac eiliwyd i ganiatáu y cais dd) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Beth
yw maint y llecyn tir – a yw yn dir amaethyddol o fewn y ffin datblygu? ·
A
yw’r llecyn wedi ei gofrestru fel tir amaethyddol? · A yw hwn yn gais ar gyfer gosod mynedfa ar gyfer y dyfodol? ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
Cais cynllunio llawn ar gyfer codi pump byngalo ar osod cymdeithasol a deuddeg tŷ ar osod cymdeithasol, a newidiadau i'r fynedfa a ffordd fynediad bresennol AELOD LLEOL: Cynghorydd Rheinallt Puw Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais cynllunio
llawn ar gyfer codi pum byngalo ar osod cymdeithasol a deuddeg tŷ ar osod
cymdeithasol, a newidiadau i'r fynedfa a ffordd fynediad presennol a)
Cyfeiriodd y Rheolwr Cynllunio at
y ffurflen sylwadau hwyr gan amlygu bod y Gwasanaeth Cynllunio wedi derbyn
cyngor gan Lywodraeth Cymru (Adran yr Economi a’r Seilwaith) yn mynegi na ellid
caniatáu y cais cynllunio gan nad oedd yr ymgeisydd wedi cyflwyno gwybodaeth
ddigonol (ar sail cyflwyno cais Departure from Standard i Lywodraeth
Cymru) parthed y gwaith sydd angen ei
wneud i’r gyffordd rhwng yr A5 a Ffordd y Stesion. b)
Cynigiwyd ac eiliwyd i ohirio y
cais PENDERFYNWYD
gohirio |
|
Cais Rhif C17/1124/11/LL - Marketing Suite, Y Bae, Beach Road, Bangor PDF 236 KB Diwygio amod 2 ar ganiatad cynllunio C16/0229/11/LL er mwyn parhau i leoli'r caban marchnata dros dro am ddwy flynedd ychwanegol AELOD LLEOL: Cynghorydd Huw G Wyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diwygio amod 2 ar ganiatâd
cynllunio C16/0229/11/LL er
mwyn parhau i leoli'r caban
marchnata dros dro am ddwy flynedd
ychwanegol Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer diwygio
amod ar ganiatâd cynllunio blaenorol (C16/0299/11/LL) er mwyn ymestyn cyfnod
lleoli adeilad marchnata dros dro am ddwy flynedd ychwanegol. Eglurwyd bod dau
gais estyniad amser eisoes wedi'i ganiatáu gyda’r diweddaraf gyda chaniatâd hyd
31/03/18. Amlygwyd bod yr adeilad yn cael ei ddefnyddio fel canolfan gwerthu
tai yn gysylltiedig â’r datblygiad preswyl Y Bae ym Mangor. Nodwyd bod y datblygiad tai wedi ei gwblhau ond bod dwy uned
yn parhau ar y farchnad. Y gobaith yw cael estyniad amser o ddwy flynedd
ychwanegol hyd nes bydd yr unedau i gyd wedi eu gwerthu. Adroddwyd bod y caban wedi ei leoli o fewn ffin
datblygu Bangor ac o faint a lleoliad rhesymol. Ni ystyriwyd fod y caban, na’i ddefnydd achlysurol yn cael effaith andwyol
sylweddol ar fwynderau’r preswylwyr cyfagos. (b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr ymgeisydd
y pwyntiau canlynol:- ·
Mai pwrpas yr adeilad yw
cynorthwyo gyda’r elfen marchnata a gwerthiant unedau Rhan 1 o’r datblygiad ·
Bod dwy uned yn parhau ar
werth ·
Yr adeilad yn addas i bwrpas
ac yn cael ei ddefnyddio i gyfarfod gyda phrynwyr posib ·
Nid yw yn creu effaith weledol
andwyol ·
Bydd unrhyw sylwadau neu
drafodaeth ar rhan 2 o’r datblygiad yn cael ei drin fel cais ar wahân (c) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
nododd yr aelod lleol (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), y pwyntiau canlynol:- ·
Nad yw’r caban marchnata yn
cael ei ddefnyddio ·
Amheuaeth ei fod wedi bod ar
gau ers 2 fis ·
Bod y ddwy uned sy’n parhau ar
werth yn cael eu gwerthu drwy arwerthwyr tai lleol ·
Bod trigolion lleol yn amau
mai at ddefnydd rhan 2 o’r datblygiad yn Y Bae yw’r cais am ymestyniad amser i’r caban ·
Mae’r adeilad yn ddiangen -
nid oes pwrpas iddo bellach ch) Cynigiwyd ac eiliwyd i wrthod
y cais yn groes i’r argymhelliad
gan nad oedd
pwrpas iddo. d) Yn
ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol: ·
Os mai dwy uned sydd yn parhau
ar werth, pam bod angen cyfnod o ddwy flynedd ychwanegol ·
A
fyddai modd ystyried cyfnod llai? ·
Beth petai'r cwmni yn apelio’r
penderfyniad? dd) Mewn ymateb i’r sylw am gyfnod
llai, adroddwyd bod y caban marchnata gyda chaniatâd cynllunio hyd ddiwedd
Mawrth 2018. Petai dim caniatâd pellach, byddai’r adeilad yn cael ei symud. Os
na fydda’r adeilad yn cael ei symud yna byddai camau gorfodaeth yn cael eu
cymryd. Yng nghyd-destun apêl, nodwyd y byddai hawl gan y cwmni apelio’r
penderfyniad. Nodwyd mai'r angen yw'r pryder amlycaf. e)
Cynigiwyd ac eiliwyd cwtogi'r cyfnod i 6 mis o Fawrth 2018 ymlaen f) Amlygodd y Cyfreithiwr bod angen i’r cynigydd gwreiddiol ystyried y cynnig newydd, a phetai yn ei dderbyn yna byddai ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
Cais Rhif - C17/1144/39/LL - Ty Hir Caravan Park, Mynytho, Pwllheli PDF 232 KB Gosod dwy garafan sefydlog ychwanegol i gynyddu niferoedd o 17 i 19 a chodi clawdd pridd AELOD LLEOL: Cynghorydd
John B Hughes Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Gosod dwy garafán sefydlog
ychwanegol i gynyddu niferoedd o 17 i 19 a chodi clawdd
pridd a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio
ar gefndir y cais, gan nodi mai cais ydoedd ar gyfer gosod dwy garafán
sefydlog ychwanegol ar y safle ynghyd
â thirlunio ychwanegol fyddai’n golygu adeiladu clawdd ac atgyfnerthu tyfiant presennol. Amlygywd bod dau gais cyffelyb eisoes
wedi eu gwrthod
yn ystod 2017. Nodwyd bod y safle sefydlog presennol gyda chaniatâd cynllunio ar gyfer
17 uned. Ceir hefyd gae
i garafanau teithiol yn Tŷ
Hir a awdurdodwyd
trwy gais tystysgrif defnydd cyfreithlon yn 2013. Nodwyd bod y safle sydd o fewn Ardal
o Dirwedd Arbennig a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol ac yn cael ei
gyflwyno i Bwyllgor ar gais yr
aelod lleol. Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad eglurwyd mai'r prif bolisi
i’w ystyried wrth asesu egwyddor
y datblygiad oedd polisi TWR 3 - rhan 3. Ategwyd bod y polisi yma yn
gallu caniatáu estyniadau bychain i arwynebedd y safle a / neu ail-leoli unedau o leoliadau amlwg i leoliadau llai
amlwg yn ddarostyngedig i gydymffurfio gyda meini prawf penodol. Un o’r meini prawf
yw nad yw’r
gwelliannau yn cynyddu nifer y carafanau sefydlog neu’r unedau chalet ar y safle, oni
bai, mewn amgylchiadau eithriadol, bydd y cynigion yn golygu ail-leoli
parciau presennol sydd wedi eu
lleoli o fewn yr Ardal Rheoli
Newid Arfordirol. Nid yw’r polisi yn
caniatáu cynyddu nifer y carafanau sefydlog ar safleoedd
oddi mewn i’r AHNE na’r Ardaloedd
Tirwedd Arbennig. Nodwyd bod y cais dan sylw
yn un i
gynyddu’r niferoedd o unedau ar y safle
drwy ychwanegu dwy uned. Nid oedd y bwriad yn
cydymffurfio gyda gofynion Polisi TWR 3 o safbwynt safleoedd oddi fewn i’r
Ardal Tirwedd Arbennig. Cydnabuwyd bod y datblygiad yn dangos
peth gwelliant i gyfleusterau’r safle sefydlog presennol a’r tirlunio
ychwanegol yn gwella gwedd ac amgylchedd y safle. Er hynny, tynnwyd
sylw at baragraffau 5.3. a 5.4 yr adroddiad ac amlygwyd na fyddai
unrhyw gynllun tirlunio na gwelliannau
na amnewid unedau teithiol am rai statig yn dod
dros y ffaith nad yw’r Polisi
yn caniatáu cynyddu niferoedd carafanau ar safleoedd
o fewn Ardal Tirwedd Arbennig. b)
Yn manteisio ar yr hawl
i siarad nododd yr ymgeisydd
y pwyntiau canlynol:- ·
Dwy uned statig ychwanegol yn
unig yw’r gofyn ·
Cydnabod cynnwys y polisïau ac
adroddiad ond bod posib gwirioneddol i addasu’r cais i gyd-fynd a’r polisi ·
Ychwanegwyd dwy garafán statig
yn 2014, ond penderfynwyd peidio a chynyddu ymhellach - ni wyddent ar y pryd y
byddi’r Cynllun Datblygu Lleol yn rhwystro cynnydd pellach mewn niferoedd ·
Diffyg efallai gan y
swyddogion o rannu gwybodaeth am y newidiadau ·
Byddai’r ddwy uned ychwanegol wedu ei lleoli mewn safle diamlwg
·
Derbyn y posibilrwydd bod modd
ail leoli'r unedau statig i waelod y safle neu gyfnewid statig gyda theithiol ·
Busnes lleol yn ymateb i’r
galw ·
Gwneud y mwyaf o dwrisitiaeth er mwyn sicrahu
ffyniant llwyddianus cefn gwlad c) Yn manteisio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13. |