Lleoliad: Siambr y Cyngor, Swyddfeydd y Cyngor, Cae Penarlâg, Dolgellau, LL40 2YB. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elin Walker Jones, Dilwyn Lloyd ac Owain Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw
ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi
materion protocol.
Cofnod: (a) Datganodd yr Uwch Gyfreithiwr fuddiant personol, yn eitem 5.1 ar y
rhaglen (cais cynllunio rhif C19/0014/19/LL), oherwydd bod perthynas agos iddo
yn byw gyferbyn â’r safle. Roedd y swyddog o’r farn ei fod yn fuddiant a
oedd yn rhagfarnu a gadawodd y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y cais. (b) Datganodd yr aelodau canlynol eu bod yn aelodau lleol mewn perthynas â’r
eitemau a nodir: ·
Y Cynghorydd Eric M
Jones (oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.4 ar y rhaglen, (cais cynllunio C19/0355/17/LL) ·
Y Cynghorydd Peter
Garlick (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn 5.1 ar y rhaglen,
(cais cynllunio C19/0014/19/LL) Ymneilltuodd yr Aelodau i ochr arall y Siambr yn ystod y drafodaeth ar y
ceisiadau dan sylw ac ni fu iddynt bleidleisio ar y materion hynny. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 20fed o
Fai 2019 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod
blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 20 Mai 2019, fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad
Pennaeth Adran Amgylchedd. Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac
ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau. PENDERFYNWYD |
|
Cais Rhif C19/0014/19/LL Tir ger Lon Cefnwerthyd, Bontnewydd, Caernarfon PDF 194 KB Cais llawn i godi 29 uned preswyl ynghyd a thirlunio, parcio, creu mynedfa newydd ag ardal cyhoeddus agored AELOD LLEOL:
Cynghorydd Peter Garlick Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i godi 29 uned
breswyl ynghyd a thirlunio, parcio, creu mynedfa newydd ag ardal gyhoeddus
agored Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a dderbyniwyd (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio
ar gefndir y cais gan atgoffa’r aelodau fod y cais wedi ei ohirio ym Mhwyllgor
29.4.19 er mwyn derbyn rhagor o wybodaeth / cynlluniau diwygiedig fyddai’n
cyfarch pryderon y Pwyllgor. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn ffin datblygu pentref
Bontnewydd ac wedi ei ddynodi yn benodol fel safle ar gyfer codi tai newydd yng
Nghynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn (CDLL). Er gwybodaeth, rhoddwyd caniatâd blaenorol ar gyfer
codi 26 tŷ ar y safle ac fe
ystyriwyd fod cychwyn materol wedi digwydd i’r caniatâd hwn oedd yn golygu ei
fod yn parhau yn ‘fyw’ gyda hawl cyfreithiol yn bodoli ar gyfer codi 26 tŷ
newydd ar y safle. Erbyn hyn mae’n gais llawn ar gyfer 29 tŷ newydd. Adroddodd y Rheolwr
Cynllunio bod holl fanylion y cais wedi ei gynnwys yn yr adroddiad ond
cyfeiriwyd yn benodol at ymatebion i bryderon oedd wedi eu codi gan yr aelodau
yn ystod y Pwyllgor blaenorol yn ogystal a phryderon oedd wedi eu codi gan
berchennog tŷ cyfagos. Cyfeirwyd hefyd at y sylwadau hwyr oedd wedi eu derbyn.
Un o’r pryderon hynny oedd gosodiad plotiau 14, 15 ac 16 gyda chais i’r
ymgeisydd ystyried newidiadau addas i’r rhan yma o’r safle er mwyn lleihau’r
effaith niweidiol ar fwynderau eiddo cyfochrog (Tywyn) ar sail gor-edrych yn
bennaf. Mewn ymateb i’r pryderon hyn derbyniwyd cynlluniau diwygiedig parthed y
tri eiddo arfaethedig ac adroddwyd
bod yr ymgeisydd wedi datgan ei
fod wedi trafod y diwygiadau gyda pherchennog yr eiddo. Amlygwyd bod y cynllun
diwygiedig yn dangos y pellteroedd a’r ffiniau rhwng y tai ac adeilad Tywyn a’r
llinell gwelededd yn deillio o ffenestri cefn plotiau 14, 15 ac 16 tuag at
Tywyn. Amlygwyd ac eglurwyd y newidiadau i ddyluniad y tai ar y plotiau yma er
mwyn lleihau y nifer o agoriadau ar loriau cyntaf y tai er mwyn goresgyn pryderon.
Ystyriwyd fod y diwygiadau yn gwneud y datblygiad yn fwy derbyniol ac yn
cyfarch pryderon y cymydog a’r Pwyllgor o safbwynt effaith ar fwynderau’r eiddo
cyfochrog. Nodwyd bod y swyddogion
cynllunio wedi ail ymgynghori ynglŷn â’r diwygiadau gyda’r cymydog, ac fe
gyfeiriwyd at ei sylwadau yn y ffurflen sylwadau hwyr. Amlygwyd nad oedd y
cymydog yn fodlon gyda’r addasiadau ac yn parhau i fynegi pryderon ynglŷn
â goredrych. Roedd y swyddogion o’r farn na ellid ystyried unrhyw sail resymol a fyddai’n cyfiawnhau
unrhyw bryderon pellach am effaith annerbyniol ar fwynderau’r eiddo cyfochrog o
ganlyniad i ddyluniad diwygiedig a lleoliad plotiau 14, 15 ac 16. Mewn ymateb i bryderon llifogydd yn lleol ac effaith posib y datblygiad ar y gymdogaeth o gofio fod yr ardal wedi dioddef effaith llifogydd yn y gorffennol, rhoddwyd ystyriaeth drylwyr i’r elfen yma er mwyn asesu yn llawn unrhyw effaith posib. Amlygwyd nad oedd unrhyw ran o safle’r cais ei hun ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.1 |
|
Cais Rhif C19/0279/22/LL Tir ger Tal y Maes Mawr, Nebo, Caernarfon PDF 177 KB Cais llawn i osod 4 pabell 'saffari', 1 adeilad 'sauna'
ynghyd â gwaith cysylltiol AELOD LLEOL:
Cynghorydd Craig ab Iago Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais llawn i osod 4 pabell
'saffari', 1 adeilad 'sauna' ynghyd â gwaith cysylltiol Tynnwyd sylw at y ffurflen
sylwadau hwyr a dderbyniwyd (a)
Nododd y Rheolwr
Cynllunio bod asiant ar ran yr ymgeisydd wedi gwneud cais i ohirio’r drafodaeth
er mwyn caniatáu i’r ymgeisydd gyflwyno cynlluniau diwygiedig a gwybodaeth
ychwanegol mewn ymateb i’r pryderon a nodwyd yn yr adroddiad. Er hynny, nid
oedd y swyddogion yn gweld yr angen i ohirio, nad oedd ‘pre-app’ wedi bod ac y
byddai modd ail gyflwyno cais o’r newydd yn y dyfodol ac ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar
gefndir y cais. Nodwyd mai cais llawn ydoedd i osod 4 pabell saffari, codi
adeilad cysylltiol i’w ddefnyddio fel ‘sauna’ ynghyd â gwaith cysylltiol eraill
fyddai yn cynnwys creu ffordd fynediad, llecynnau parcio, llwybrau mynediad,
tirlunio, cysylltiad gwasanaethau a gosod gwaith trin carthffosiaeth. Ategwyd bod y safle wedi ei
leoli ynghanol caeau amaethyddol y tu allan i unrhyw
ffin datblygu ddiffiniedig yng nghefn gwlad agored o fewn Ardal o Dirwedd
Arbennig a Thirlun o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Dyffryn Nantlle. Nodwyd
bod mynediad tuag at y safle yn arwain trwy gwrtil preswyl yr ymgeisydd ar hyd
ffordd fynediad preifat presennol sydd yn cefnu gyda thŷ preswyl ar wahân. Amlygwyd bod yr ymgeisydd,
wrth gyflwyno’r cais wedi nodi yn y Datganiad Cynllunio mai polisi TWR 5 o’r
Cynllun Datblygu Lleol oedd wedi cael ystyriaeth gan na fyddai’r pebyll yn
barhaol am mai cysylltiad cyfyngedig fyddai gyda’r tir. Roedd y swyddogion
cynllunio o’r farn mai polisi TWR 3 oedd yn fwyaf perthnasol gan fod elfennau
mwy parhaol yn cael eu cynnig fel rhan o’r datblygiad. Ategwyd nad oedd gwybodaeth glir na chyfeiriad digonol wedi ei
gyflwyno am yr hyn y bwriedir ei wneud gyda’r llwyfannau pren a beth fyddai’r
camau tebygol i’w diogelu ar neu i’r ddaear. Ystyriwyd fod y bwriad i osod cysylltiadau trydan a dŵr i’r pebyll
unigol, creu ffordd fynediad, codi adeilad sauna (er ei faint bychan), llwybrau
a lleiniau caled a gosod cyfres o oleuadau yn creu elfennau parhaol yn ogystal
â gormodedd o fannau caled yn groes i Bolisi TWR 5. Mae rhan o baragraff 6.3.85
o eglurhad polisi TWR 5 yn nodi “Dim ond cyfleusterau sylfaenol ar gyfer
cysgu, eistedd a bwyta y dylent eu darparu, ac ni ddylid gosod gwasanaethau dŵr
neu ddarpariaeth draenio ar gyfer toiledau, cawodydd ac ymolchi ynddynt. Mae
hyn yn sicrhau nad yw’r strwythurau yn dod yn ddigon
parhaol i gynyddu lefel yr effaith ar y dirwedd neu effaith adfer y safle pe
bai angen symud y strwythurau”. Ni
fyddai’n rhesymol nac yn ymarferol i osod cysylltiadau trydan, dŵr a
charthffosiaeth ar ddechrau tymor gwyliau ac yna eu codi ar ddiwedd y tymor.
Gyda'r elfennau hyn yn sefydlog neu’n barhaol, ni
ellid cytuno gyda barn yr asiant mai Polisi TWR 5 yw’r polisi perthnasol ar
gyfer ystyried y bwriad yma. Rhoddwyd ystyriaeth i ofynion perthnasol polisi TWR 3 sydd yn datgan “gwrthodir cynigion i ddatblygu safleoedd carafanau sefydlog newydd (h.y. carafán sengl neu ddwbl), ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.2 |
|
Diwygiad ansylweddol i ganiatad rhif C13/0288/03/LL er mwyn adeiladu estyniad llai gyda gorffeniad rendr gwyn yn lle carreg naturiol fel y caniatawyd AELOD LLEOL:
Cynghorydd Annwen Daniels Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Diwygiad ansylweddol
i ganiatâd rhif C13/0288/03/LL er mwyn adeiladu estyniad
llai gyda gorffeniad rendr gwyn yn lle carreg naturiol
fel y caniatawyd (a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir
y cais gan nodi bod y cais yn cael ei
gyflwyno gerbron y Pwyllgor
Cynllunio oherwydd bod gwraig yr ymgeisydd
yn Gynghorydd. Amlygwyd bod y bwriad yn dderbyniol ac yn cwrdd â gofynion
perthnasol y polisïau lleol a chenedlaethol. (b)
Cynigiwyd ac eiliwyd caniatáu y cais yn unol ar
argymhelliad PENDERFYNWYD
caniatáu y cais 1. 5 mlynedd. 2. Yn unol â’r cynlluniau. |
|
Cais Rhif C19/0355/17/LL 7, Beddgwenan Estate, Llandwrog PDF 93 KB Cais ar gyfer addasu’r to ar flaen yr eiddo er mwyn creu estyniad i'r tŷ presennol AELOD LLEOL:
Cynghorydd Eric Merfyn Jones Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cais ar gyfer addasu’r to
ar flaen yr eiddo er mwyn creu estyniad i'r tŷ presennol (a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais
gan nodi mai cais ydoedd
ar gyfer ymestyn y tŷ deulawr presennol yn y cefn ac yn
y blaen. Byddai’r estyniad yn golygu ailwampio mewnol gan symud ystafell wely
bresennol i ofod yr estyniad newydd a chreu ystafell ymolchi ble roedd yr
ystafell wely yn ogystal ag ychwanegu at faint ystafell wely bresennol ar y
llawr cyntaf ynghyd ac ymestyn cyntedd presennol ar y llawr daear. Eglurwyd bod y cais
wedi ei ail gyflwyno o ganlyniad i wrthod cais
blaenorol am yr un bwriad ac mai’r
Aelod Lleol oedd yn cyflwyno’r
cais i Bwyllgor
gan ei fod
o’r farn bod angen asesiad pellach
ar y cynlluniau. Amlygwyd bod yr ymgeisydd wedi gwrthod cyfaddawdu a bod y swyddogion cynllunio, er yn ystyried
bod y bwriad yn dderbyniol, yn awgrymu y byddai modd gwella’r dyluniad
gan nad
oedd graddfa’r cynllun dan sylw
yn addas. Ystyriwyd bod yr estyniad yn creu
nodwedd ddominyddol, bendrwm ac estron ar yr eiddo,
na fyddai’n
gwella cymeriad na pharchu ei
gyd-destun safle o fewn yr ystâd.
Ategwyd y byddai hyn yn groes
i bolisi PCYFF 3 o’r Cynllun Datblygu
Lleol Eglurwyd bod yr
eiddo wedi ei leoli o fewn
un o’r lleiniau
pellaf oddi wrth y fynedfa i mewn i’r
stad, gyda’i osodiad er hynny,
yn weladwy o’r fynediad. Er
mai barn y swyddogion yw y byddai’r estyniad
yn annerbyniol o agwedd weledol ni ystyriwyd
y byddai yn cael effaith andwyol
sylweddol ar fwynderau’r cymdogion nac yn achosi
aflonyddwch annerbyniol arnynt. O safbwynt yr agwedd yma,
ni ystyriwyd
y byddai’n groes i ofynion perthnasol
polisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol. (b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad
darllenodd yr Aelod Lleol lythyr
ar ran yr ymgeisydd oedd yn methu a bod yn bresennol:- Nodwyd, ·
bod angen codi uchder
y to er mwyn goresgyn diffyg uchder yn yr
ystafell ymolchi. ·
bod nifer o’r tai yn
y stad ynteu wedi eu haddasu
gan y datblygwr gwreiddiol neu wedi eu haddasu
ar ôl newid
dwylo. ·
codi lefel y to sydd dan sylw ac nad
oedd unrhyw ymgais i ymestyn ·
prin fyddai’r newid i’w weld. ·
er i’r swyddogion wrthod y cais, amlygwyd nad oedd
gwrthwynebiad cyhoeddus i’r bwriad. Gwnaed
y prif bwyntiau canlynol gan yr
aelod lleol (oedd yn aelod
o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):- ·
Bod nifer o’r tai yn y stad wedi
cael eu haddasu
ac er i’r ymgeisydd gynllunio addasiadau tai rhif 11 ac 12 roedd yn difaru
nad oedd wedi addasu ei
dŷ yn gynharach ·
Bod llythyrau wedi ei derbyn yn
cefnogi’r cais ·
Bod y stad yn daclus ·
Nad oedd y bwriad yn
groes i PCYFF 2 o’r Cynllun Datblygu
Lleol (c) Cynigiwyd ac eiliwyd i ganiatáu y cais yn groes i’r argymhelliad oherwydd ystyriwyd bod y dyluniad yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.4 |