Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Cai Larsen a Gareth Roberts. Croesawyd Miriam
Williams (Cyfreithiwr) i’r cyfarfod. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd
yr aelod canlynol ei fod gyda buddiant mewn perthynas â’r eitem a nodir: Y Cynghorydd Gruffydd Williams (oedd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn),
yn eitem 5.2 (C23/0543/43/LL) ar y rhaglen oherwydd ei fod yn fab i’r
ymgeisydd Roedd yr Aelod o’r farn ei fod yn fuddiant a
oedd yn rhagfarnu a gadawodd y cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar y cais. b)
Datganodd yr aelodau canlynol
eu bod yn aelodau lleol mewn
perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd
Jina Gwyrfai (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.2 (C23/0543/43/LL) ar y rhaglen ·
Y Cynghorydd
Gareth Morris Tudor Jones (oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 (C23/0201/08/LL) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 11 Medi 2023 fel rhai cywir.
|
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i
gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
Cais Rhif C23/0541/11/MG Maes Berea, Bangor, LL57 4TQ PDF 327 KB Materion a gadwyd yn ôl yn sgil derbyn caniatâd cynllunio
amlinellol C18/0365/11/AM ar gyfer 9 tŷ newydd gyda modurdai
integredig gan gynnwys manylion gosodiad, graddfa, ymddangosiad, mynediad
a thirlunio. Aelod Lleol: Cynghorydd Gareth Roberts Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu
gydag amodau 1.
Oriau
gwaith adeiladu 2.
Graddfa
mynedfa i fannau parcio i’w gytuno o flaen llaw yn unol ag amod 4 o’r caniatâd
cynllunio amlinellol Cofnod: Materion a gadwyd yn ôl yn sgil
derbyn caniatâd cynllunio amlinellol
C18/0365/11/AM ar gyfer 9 tŷ newydd gyda modurdai integredig
gan gynnwys manylion gosodiad, graddfa, ymddangosiad, mynediad a thirlunio. Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr a)
Amlygodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu fod y cais yn gais
materion a gadwyd yn ôl ar gyfer codi 9 tŷ tri llawr gyda modurdai
integredig mewn ardal anheddol o Ganolfan Isranbarthol Bangor fel y’i diffinnir
gan Gynllun Datblygu Lleol ar y cyd Gwynedd a Môn (CDLl).
Rhoddwyd caniatâd i ddatblygu'r safle yn wreiddiol yn 2018 (C18/0365/11/AM) ac
roedd y materion a gadwyd yn ôl yn cynnwys tirlunio, ymddangosiad, mynediad,
cynllun a maint. Eglurwyd bod yr egwyddor o ddatblygu 9 tŷ ar y safle
o’r maint a natur a gynigiwyd eisoes wedi ei dderbyn
trwy’r caniatâd amlinellol ac felly ni roddwyd ystyriaeth bellach i’r egwyddor
hwnnw. Nodwyd bod cytundeb 106 mewn lle i sicrhau bydd 7 uned ar gyfer y
farchnad agored a 2 yn dai fforddiadwy gyda’r unedau yn parhau i gydymffurfio â
gofynion Canllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy o ran maint. Ategwyd bod y
cynlluniau manwl a gyflwynwyd yn gwbl gyson gyda’r cynlluniau mynegol a
gyflwynwyd gyda’r cais amlinellol; y safle wedi ei leoli o fewn ardal drefol
gymysg gyda thai cyfagos o ddyluniad, cynllun a maint tebyg i’r hyn a gynigiwyd. Ystyriwyd fod y bwriad
yn dilyn patrwm datblygedig y tai presennol agosaf o fewn stad Maes Berea a bod eu hymddangosiad, yn briodol wrth ystyried eu
cyd-destun adeiledig. Byddai’r manylion
a gyflwynwyd yn cynnig parhad rhesymegol i’r stad tai presennol ac fellr’ cynigion ar gyfer tirlunio, ymddangosiad,
mynediad, cynllun a maint ar gyfer y datblygiad yn dderbyniol, ac
na fyddant yn amharu ar gymeriad ac edrychiad yr ardal. b) Cynigiwyd
ac eiliwyd caniatáu’r cais PENDERFYNWYD: Caniatáu gydag amodau 1. Oriau
gwaith adeiladu 2. Graddfa mynedfa i fannau parcio i’w
gytuno o flaen llaw yn unol ag amod 4
o’r caniatâd cynllunio amlinellol |
|
Cais Rhif C23/0543/43/LL Parc Carafanau Gwynus, Llithfaen, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6LY PDF 417 KB Cais llawn i uwchraddio Parc Carafanau presennol
trwy leoli pum caban newydd, cadw'r ffordd fynediad dros dro a chreu cae
chwarae Aelod Lleol: Cynghorydd Jina Gwyrfai Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Caniatáu yn groes i'r argymhelliad Amodau:
Cofnod: Cais llawn i uwchraddio Parc Carafanau
presennol trwy leoli pum caban newydd, cadw'r ffordd fynediad dros dro a chreu
cae chwarae Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr Roedd rhai o’r Aelodau
wedi ymweld â’r safle 02-10-23 a)
Amlygodd Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu mai cais llawn ydoedd ar
gyfer uwchraddio ac ymestyn safle carafanau presennol. Eglurwyd bod y cais yn
cynnwys bwriad i ail-leoli pum caban gwyliau o fewn safle a nodir fel cae 470
(Cwrs Golff) ynghyd a chadw ffordd fynediad a ganiatawyd yn wreiddiol am gyfnod
dros dro ar gyfer gwasanaethu’r unedau ychwanegol, ynghyd a chreu cae chwarae.
Bu cwrs golff ar y lleoliad yn y gorffennol, ond yn amlwg bod y defnydd yma
bellach wedi dirwyn i ben. Rhoddwyd caniatâd yn 2015 i ail-leoli 5 uned
sefydlog neu gaban i leoliad ar ran o ble fyddai’r
cwrs golff (Cae 470) tra roedd 5 arall i’w hail-leoli i ran arall o’r safle sef
cae 471. Er eglurder byddai’r bwriad yn golygu lleoli’r cyfan o’r cabanau
gyda’i gilydd ar gae 470 yn lle’r caniatâd a roddwyd i leoli pump ar gae 470 a
phump arall ar gae 471. Tybiwyd y byddai’r cabanau gwyliau arfaethedig yn mesur
yr un peth a’r hyn a ganiatawyd eisoes.Yn ogystal
bwriedir codi clawdd pridd newydd ar hyd terfyn gogleddol a gorllewinol cae
470. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli mewn ardal ddiarffordd a
chymharol fynyddig yng nghefn gwlad agored o fewn Ardal o Harddwch Naturiol
Eithriadol Llŷn (AHNE) a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol
Llŷn ac Enlli. Mae’r adeilad preswyl, sef Gwynus, a leolir ar ran o’r
safle yn adeilad rhestredig gradd II. Ceir mynedfa tuag at y safle oddi ar y
ffordd gyhoeddus agosaf ar hyd ffordd ddi-ddosbarth sydd yn gwyro i’r gogledd
cyn cyrraedd y safle ei hun ac yna ar hyd ffordd fynediad preifat; y ffordd ddi-ddosbarth hefyd wedi ei ddynodi
fel llwybr cyhoeddus. Nodwyd bod y safle yn gweithredu ac wedi hen sefydlu fel
parc carafanau. Cyflwynwyd y cais i Bwyllgor gan fod perthynas agos i’r ymgeisydd
yn aelod etholedig o’r Cyngor. Yng
nghyd-destun egwyddor y datblygiad adroddwyd mai’r prif bolisi perthnasol oedd
TWR 3 a pherthynas y safle a'i leoliad o
fewn yr AHNE. Nodwyd bod rhan 3 o’r
polisi yn derbyn y gellid caniatáu estyniadau bychain i arwynebedd safleoedd
sefydlog a / neu ail-leoli unedau o leoliadau amlwg i leoliadau llai amlwg yn
ddarostyngedig i gydymffurfio gyda chyfres o feini prawf sy’n cynnwys fod
bwriad yn cynnig gwelliannau sylweddol a pharhaol i ddyluniad, gosodiad ac
edrychiad y safle a’i le yn y dirwedd o’i amgylch. Ystyriwyd na fyddai’r ardal newydd yma yn estyniad bychan i arwynebedd y safle carafanau presennol ac ni welwyd rheswm digonol pam fod angen ail-leoli’r 5 uned sefydlog ychwanegol i gae 470 pan mae cynllun blaenorol wedi ei ganiatáu yn dangos y byddai’n bosibl eu lleoli ar gae 471 sydd o fewn y safle presennol ac sydd eisoes wedi ei ddatblygu. Er derbyn dyhead yr ymgeisydd i wella’r safle, ni ellid ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
Cais Rhif C23/0293/42/LL Arosfa, Edern, Pwllheli, Gwynedd, LL53 8YU PDF 431 KB Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol a
chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol Aelod Lleol: Cynghorydd Gareth Tudor Morris Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Dirprwyo’r hawl i’r
Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais Amodau 1. Amser 2. Yn
unol â’r cynlluniau 3. Cytuno deunyddiau gan
gynnwys llechi to 4. Cyfyngu hawliau
datblygiadau a ganiateir a ffenestri 5. Rheoli’r math o
ffenestr/gwydr a osodir 6. Tirlunio 7. Gwelliannau
Bioamrywiaeth 8. Cynllun rheoli adeiladu 9. Cyfyngu
defnydd yr adeilad preswyl yn unig ac nid ar gyfer ail dŷ neu lety gwyliau Cofnod: Cais llawn i ddymchwel strwythurau presennol
a chodi tŷ newydd gyda gwaith cysylltiol Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr Roedd rhai o’r Aelodau wedi ymweld â’r safle 02-10-23 a)
Amlygodd yr Arweinydd Tîm Rheolaeth Datblygu fod y cais wedi ei drafod eisoes mewn
cyfarfod o’r pwyllgor a gynhaliwyd Medi
11eg 2023 lle penderfynwyd gohirio’r penderfyniad er mwyn cynnal ymweliad safle
fel bod modd i’r Aelodau gael cyfle i weld y safle yng nghyd-destun ei leoliad
a’i effaith ar fwynderau trigolion cyfagos. Adroddwyd mai cais llawn ydoedd i
ddymchwel strwythurau presennol ac adeiladu tŷ annedd deulawr newydd ar
wahân gyda gwaith cysylltiol. Saif y
safle oddi fewn i’r ffin ddatblygu ac oddi fewn Ardal Tirwedd Arbennig
Gorllewin Llŷn a Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac
Enlli. Nodwyd bod y cais wedi ei ddiwygio ddwywaith o’i gyflwyniad gwreiddiol
mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd ac yn dilyn trafodaethau gyda
swyddogion. Derbyniwyd cynllun
diwygiedig pellach ar y 14.09.2023 sydd yn symud y tŷ newydd oddeutu 2m
ymhellach i’r de-ddwyrain yn unol â chais yr aelod lleol. Cyflwynwyd y cais i’r pwyllgor
Cynllunio am benderfyniad ar gais yr aelod lleol oherwydd pryder am faint y
tŷ arfaethedig ynghyd a’i agosatrwydd at dai eraill. Eglurwyd bod y
safle dan sylw wedi ei ddatblygu yn barod ac felly yn cael ei ystyried fel tir
llwyd ac wedi ei leoli o fewn ffin ddatblygu pentref Edern. Roedd y bwriad
felly yn bodloni gofynion cyffredinol polisïau PS 5, PCYFF 1 a PS17 o Gynllun
Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn
(CDLI). Yn bresennol mae’r safle yn cynnwys siediau
diwydiannol o fath sydd yn eithaf syml eu dyluniad sy’n eistedd yn ddisylw o
fewn y llain. Cydnabuwyd y
byddai’r tŷ arfaethedig yn fwy o ran maint na’r adeiladau presennol, ond
mewn ymateb i bryderon a amlygwyd diwygiwyd yr adeilad o’r hyn a gyflwynwyd yn
wreiddiol gyda’r tŷ newydd wedi ei
leoli o fewn rhan y safle sydd o fewn y ffin ddatblygu. Er bod hyn yn golygu ei fod yn agosach i ffin
ogleddol y safle nac y byddai petai wedi ei wthio ymhellach i mewn i’r safle,
ni ystyriwyd fod ei leoliad o fewn y safle yn afresymol. Adroddwyd bod
uchder crib to’r sied uchaf bresennol yn 3.3m a byddai uchder crib y to
arfaethedig yn 5.8m sydd fymryn yn is nag uchder crib yr eiddo cyfochrog i’r
gorllewin. O ganlyniad, ni ystyriwyd y byddai’n sefyll allan fel nodwedd cwbl
anghydnaws yn y rhan yma o’r pentref nac yn gwbl groes i’r patrwm datblygu
cyffredinol a welir yno. Ni ystyriwyd y byddai’r tŷ newydd arfaethedig yn
effeithio i raddau cwbl annerbyniol ar gymeriad ac ymddangosiad y safle na’r
ardal o gwmpas o ran ei ymddangosiad, graddfa, uchder na mas. Gyda phresenoldeb
coed a pherthi aeddfed o fewn y safle sy’n rhoi gorchudd priodol i’r safle, ni
ystyriwyd y byddai’r adeilad yn dominyddu edrychiadau tuag at y safle o fannau
amlwg cyhoeddus na dynodiadau tirweddu. Yng nghyd-destun mwynderau cyffredinol a phreswyl, amlygwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |