Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2024/25 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: PENDERFYNWYD:
ETHOL Y CYNGHORYDD ELWYN EDWARDS YN GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2024/25 Diolchodd y Cadeirydd i’r
Cynghorydd Edgar Owen am ei waith fel Cadeirydd dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Croesawyd
y Cynghorydd John Pughe i’w gyfarfod cyntaf o’r Pwyllgor Cynllunio. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ETHOL Y CYNGHORYDD HUW ROWLANDS YN IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2024/25 Cofnod: PENDERFYNWYD:
ETHOL Y CYNGHORYDD HUW ROWLANDS YN IS-GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2024/25 |
|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y
Cynghorwyr Louise Hughes a John Pughe Roberts |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd yr aelod canlynol ei fod yn
aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y
Cynghorydd Gareth Morris Jones (oedd yn
aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 7.2 (C24/0131/42/DT) ar y rhaglen |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r
Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol, mai’r Swyddog Cyfreithiol fyddai’n cyhoeddi
canlyniadau’r pleidleisiau ar y ceisiadau |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22ain o Ebrill 2024 fel rhai cywir. |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Cyflwyno adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau
canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i
gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac agweddau o’r polisïau |
|
Cais Rhif C23/0938/41/LL Capel Rhoslan, Rhoslan, Criccieth, Gwynedd, LL52 0NW PDF 252 KB Gosodiad diwygiedig ar gyfer adeiladu annedd
newydd, yn cynnwys parcio a gwaith trin carthion AELOD LLEOL: Cynghorydd Rhys Tudur Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Gwrthod
Cofnod: Gosodiad
diwygiedig ar gyfer adeiladu annedd newydd, yn cynnwys parcio a gwaith trin
carthion Tynnwyd sylw at y ffurflen sylwadau hwyr oedd yn cynnwys manylion draenio tir - o dderbyn y sylwadau hyn, roedd
y trydydd rheswm gwrthod, oedd wedi
ei nodi yn yr adroddiad, yn cael
ei ddileu. a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd
ar gyfer codi tŷ annedd
unllawr newydd ar lecyn o dir
ger Capel Rhoslan. Roedd y safle yn cael
ei ystyried fel un yng nghefn
gwlad agored, tu allan i
unrhyw ffin datblygu ac i ffwrdd
o bentref clwstwr fel y diffinnir yn y CDLl. Nodwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno
i’r Pwyllgor ar gais yr aelod
lleol. Eglurwyd nad oedd polisi TAI 6, sydd yn caniatáu tai newydd fforddiadwy mewn clystyrau, yn berthnasol oherwydd
pellter y safle i ffwrdd o’r
pentref. Adroddwyd mai dim ond tai newydd sydd yn
mewnlenwi rhwng adeiladau neu’n union gyferbyn a chwrtil adeilad fyddai’n cael eu caniatáu
gan y polisi yma a gyda safle’r
cais wedi ei leoli ymhell
o’r clwstwr tai agosaf, nid yw’r
polisi felly’n gefnogol i gais
o’r fath. O ganlyniad, adroddwyd mai polisi PCYFF1 oedd yn berthnasol
yma; yn caniatáu
datblygiadau newydd yng nghefn gwald
agored pan fydd tystiolaeth o gyfiawnhad dros hynny. Eglurwyd
hefyd bod PS17 Strategaeth Aneddleoedd yn cadarnhau mai datblygiadau
tai sy’n cydymffurfio â Pholisi Cynllunio Cymru a Nodyn
Cyngor Technegol 6, yn unig fydd yn
cael eu caniatáu
yng nghefn gwlad agored gyda
chefnogaeth i ddatblygiadau megis tai amaethyddol neu dai sydd ynghlwm a menter weledig. Tynnwyd sylw at y wybodaeth
o fewn y Datganiad Dylunio a Mynediad oedd yn nodi bod yr ymgeisydd yn gweithio
yn y fyddin ac yn dymuno codi
tŷ, ger ei rieni sy’n trigo yng Nghapel Rhoslan.
Er yn ymddangos fod yr ymgeisydd yn berson lleol,
wedi ei eni
a’i fagu yn yr ardal, ni
chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth fod angen presennol am dŷ, nac angen am dŷ fforddiadwy. Nid yw’r safle yn
cael ei ystyried
yn addas fel safle eithrio gweledig
oherwydd ei leoliad i ffwrdd
o’r clwstwr ac nid oedd daliad
amaethyddol ar y tir nac unrhyw
gyfiawnhad amaethyddol neu fenter wledig wedi
ei brofi. O ganlyniad, adroddwyd nad oedd un polisi
o fewn y CDLl na pholisi cenedlaethol
yn gefnogol i gais o’r
fath. Yng nghyd-destun mwynderau
gweledol, er bod dyluniad y
tŷ wedi ei addasu ers
y gwrthodiad blaenorol, byddai caniatáu y cais yn golygu
datblygiad newydd ar dir gwyrdd
yng nghefn gwlad agored fyddai’n
arwain at ymlediad trefol mewn ffordd
sydd yn weledol
o’r ffordd ac o lwybrau cyhoeddus cyfagos. Ystyriwyd felly bod y bwriad yn groes
i ofynion Polisi CYFF 3 y CDLl. Wedi pwyso a mesur y bwriad yn erbyn gofynion y polisïau perthnasol a rhoi ystyriaeth lawn i ymatebion yr ymgynghoriadau a’r gwrthwynebiadau a ddaeth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
Cais Rhif C24/0131/42/DT Hafan Lôn Bridin, Morfa Nefyn, Pwllheli, Gwynedd, LL53 6BY PDF 181 KB Gwaith allanol gan gynnwys adfer ac
ymestyn ardal teras/patio, codi wal newydd ynghyd ag amrywiol addasiadau eraill AELOD LLEOL: Cynghorydd Gareth Morris
Jones Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Dirprwyo’r hawl
i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r amodau
canlynol: 1. Amser 2. Cydymffurfio gyda chynlluniau 3. Cynllun tirlunio 4. Manylion gorffeniadau/deunyddiau 5. Gwaredu planhigion ymledol 6. Cytuno/rhwystro
ardaloedd gwaith Cofnod: Gwaith allanol gan gynnwys adfer ac
ymestyn ardal teras/patio, codi wal newydd ynghyd ag amrywiol addasiadau eraill Tynnwyd sylw at y
ffurflen sylwadau hwyr - yn dilyn ail
ymgynghoriad derbyniwyd sylwadau pellach gan yr aelod lleol a’r Cyngor Cymuned. a) Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn
ydoedd i gynnal gwaith
allanol ynghlwm ac eiddo preswyl. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli
y tu allan i ffin ddatblygu
Morfa Nefyn ac yn rhan o glwstwr o adeiladau preswyl eraill sydd yn
ymylu gyda’r traeth gerllaw. Nid yw’r safle
o fewn ardal dynodiad AHNE Llŷn ond gorweddir o fewn Tirlun o Ddiddordeb
Hanesyddol Eithriadol Llŷn ac Enlli. Cyflwynwyd y cais i bwyllgor ar gais
yr aelod lleol. Eglurwyd bod y cynnig wedi ei
ddiwygio o’i gyflwyniad gwreiddiol mewn ymateb i
bryderon a’r cynnig bellach yn golygu: ·
Creu wal flaen trwy ddefnyddio caergewyll wedi eu llenwi gyda
cherrig fyddai hefyd yn cynnwys
gofod mewnol i’w ddefnyddio fel storfa ·
Gwella ac ymestyn y teras/ardal
allanol presennol uwchben y wal uchod
a chynnwys triniaeth ffin newydd ar
ffurf cyfres o bostiau pren gyda
weiren rhyngddynt (mae’r elfen yma
wedi ei newid
o’r cyflwyniad gwreiddiol a oedd
yn gynnwys triniaeth ffin gwydr) ·
Codi lefel llawr o flaen
yr eiddo trwy a chreu wal garreg
isel i wahaniaethu
rhwng tir mae’r perchnogion yn dymuno cadw’n
breifat ac ardal sydd yn cydredeg
gyda wal y môr lle maent
yn hapus i’r cyhoedd parhau i ddefnyddio fel
llwybr tramwy pan fod angen. (Pwysleisiwyd
nad oedd y llwybr yn lwybr
cyhoeddus ffurfiol, ond yn lwybr
sydd wedi ei ddefnyddio yn
hanesyddol gan y cyhoedd yn enwedig
ar adegau pan fydd llanw uchel). Ategwyd, drwy ddefnyddio amodau i gytuno
ar ddeunyddiau a gorffeniadau, roedd yr Awdurdod Cynllunio o’r farn nad oedd
y bwriad yn groes i’r polisïau
dylunio na i’r polisïau hynny
sy’n gwarchod mwynderau preswyl a gweledol. Er pryder
am y bwriad, nodwyd bod y tir sydd yn
destun y cais, o fewn cwrtil eiddo
preswyl, lle mae gan y perchennog
yr hawl i atgyweirio lefelau'r patios presennol a chodi ffensys heb yr angen am hawl Cynllunio, ac nad oedd rheolaeth
dros y lliwiau a math o ddeunyddiau sydd i’w defnyddio. Ategwyd mai ar
gyfer y gwaith peirianyddol a newid lefelau sydd angen
hawl, ond bod yn bwysig cadw mewn cof
be all yr ymgeisydd wneud heb hawl. Amlygwyd
bod yr ymgeisydd hefyd wedi bod yn fwy
na pharod i drafod a chytuno
ar orffeniadau ac wedi cymryd sylw
o’r pryderon oedd wedi codi
trwy ddiwygio’r cais. Er hynny, fel unrhyw gais
cynllunio, atgoffwyd yr
Aelodau bod y penderfyniad yn
gorfod bod yn un rhesymol yn enwedig
pan fod modd cytuno ar faterion
trwy amodau. Adroddwyd bod yr eiddo yn rhan o glwstwr o dai cyfochrog sydd yn rhannol oddi fewn i ran o ddynodiad Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ( ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |