Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679 878 E-bost: lowrihafevans@gwynedd.llyw.cymru
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Elin Hywel, Huw Rowlands, Anne Lloyd Jones,
Gareth Coj Parry a John Pughe |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL A MATERION PROTOCOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol ac i nodi materion protocol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: a)
Datganodd yr aelod canlynol
ei fod yn
aelod lleol mewn perthynas â’r eitem a nodir: ·
Y Cynghorydd Elwyn Jones (nad oedd yn aelod o’r
Pwyllgor Cynllunio hwn), yn eitem 5.3 – cais rhif C24/0346/45/LL ar y rhaglen b)
Datganodd y swyddog canlynol fuddiant mewn perthynas
â’r eitem a nodir: ·
Iwan Evans (Swyddog Monitro), yn eitem 5.1 cais rhif
C24/0074/11/LL a 5.2 cais rhif C24/0075/11/CR ar
y rhaglen, gan mai perthynas agos oedd pensaer y cynlluniau |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Fel mater o drefn, adroddwyd, gyda’r Cadeirydd yn ymuno yn rhithiol,
mai’r Swyddog Cyfreithiol fyddai’n cyhoeddi canlyniadau’r pleidleisiau ar y
ceisiadau. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21ain o Hydref
2024 fel rhai cywir |
|
CEISIADAU AM GANIATÂD CYNLLUNIO Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Rhoddodd y
Pwyllgor ystyriaeth i’r ceisiadau canlynol i ddatblygu. Ymhelaethwyd ar
fanylion y ceisiadau ac ymatebwyd i gwestiynau mewn perthynas â’r cynlluniau ac
agweddau o’r polisïau. |
|
Cais Rhif C24/0074/11/LL Ysgol Annibynol Bangor, Ffordd Gwynedd, Bangor, LL57 1DT Newid defnydd a trosi adeilad yn 9
uned byw AELODAU LLEOL: Cynghorydd Dylan
Fernley a’r Cynghorydd Nigel Pickavance Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r
amodau canlynol :- 1. 5
mlynedd 2. Unol
a’r cynlluniau. 3. Amod Cyfoeth Naturiol Cymru parthed llifogydd – cau’r
mynediad llawr daear isaf. 4. Manylion
unrhyw awyrdyllau a ffliwiau i’w gytuno o flaen llaw 5. Amodau
Dwr Cymru sy’n ymwneud a diogelu’r carthffosydd. 6. Cytuno manylion enwau Cymraeg ar gyfer y datblygiad ynghyd ac
arwyddion sy'n hysbysu ac yn hyrwyddo 'r datblygiad 7. Cyfyngu’r
defnydd i anheddau o fewn dosbarth defnydd C3. Cofnod: a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais llawn ydoedd ar gyfer newid defnydd cyn ysgol yn naw
uned breswyl hunangynhaliol fyddai’n cynnwys dwy uned fforddiadwy. Nodwyd nad oedd
bwriad gwneud unrhyw waith addasu allanol - yr adeilad yn adeilad 4-llawr
trawiadol o fewn cwrtil annibynnol sydd
hefyd yn adeilad rhestredig gradd II. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn
y ffin datblygu, yng nghanol dinas Bangor ac o fewn ardal cadwraeth. O safbwynt egwyddor y
datblygiad, nodwyd bod polisi TAI 9 yn caniatáu isrannu eiddo presennol i
fflatiau hunangynhaliol. Ystyriwyd fod y bwriad yn cwrdd gyda meini prawf y
polisi gan nad oedd angen newid allanol i’r adeilad. O ganlyniad, nid oedd
pryder o safbwynt effaith ar osodiad yr adeilad rhestredig na’r ardal
cadwraeth, ac ystyriwyd na fyddai yn debygol o gael effaith andwyol ar
fwynderau o ystyried ei leoliad yng nghanol y ddinas. Nodwyd bod y safle yn
eistedd o fewn cwrtil eu hun, gyda digonedd o le parcio; y safle’n hygyrch ac
yn agos i drafnidiaeth gyhoeddus. O ystyried ffigyrau tai
Bangor, adroddwyd bod y ddarpariaeth ddisgwyliedig yn cael ei gyfarch trwy’r
safleoedd yn y banc tir, ond bod yr angen yn parhau am ragor o dai yn yr haen
prif ganolfannau. Ystyriwyd bod y bwriad yn dderbyniol o safbwynt angen a nodwyd
bod bwriad gosod amod i sicrhau defnydd C3 prif gartref yn unig a rhwystro
defnydd ail gartref neu llety gwyliau tymor byr. Byddai darparu dwy uned
fforddiadwy yn cwrdd gyda pholisi tai 15, a gellid sicrhau hynny drwy osod amod
cynllunio priodol. Derbyniwyd Datganiad Iaith
Gymraeg gyda’r Uned Iaith yn amlygu nad oedd y datganiad yn dod i gasgliad
pendant o’r risg / effaith ieithyddol y datblygiad. Er hynny, ni dderbyniwyd
unrhyw dystiolaeth yn dangos y byddai’r datblygiad yn debygol o fod yn niweidiol
i’r iaith, ac o ystyried bod y bwriad yn cynnwys dwy uned fforddiadwy, ni
ystyriwyd ei fod yn gwbl groes i bolisi PS1. Ategwyd bod modd gosod amod i
sicrhau enw Cymraeg i’r datblygiad i gwrdd yn llawn gyda pholisi PS1. Yng nghyd-destun
bioamrywiaeth, nodwyd bod datganiad seilwaith gwyrdd yn cynnig mesurau i wella
bioamrywiaeth wedi ei gyflwyno gyda’r cais ac os byddai’r caniatâd yn cynnwys
amodau sydd yn sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r wybodaeth ecolegol yna byddai hyn
yn lleihau pryderon. Yng nghyd-destun materion llifogydd a draenio, tynnwyd sylw at y trafodaethau gyda Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a hynny oherwydd diffyg gwybodaeth am y perygl o lifogydd ar y safle. Eglurwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn Parth A, sy’n gysylltiedig gyda’r NCT presennol, sy’n golygu nad yw defnydd preswyl yn y lleoliad yma yn groes i bolisi. Er hynny, amlygwyd bod Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio, sydd yn cynnwys gwybodaeth mwy diweddar, yn nodi bod y safle yn rhannol o fewn Parth Llifogydd 2/3 Afonydd, sef yn yr achos yma, ardal y maes parcio sydd i gefn yr adeilad. Ategwyd bod Map Llifogydd ar gyfer Cynllunio yn ystyriaeth faterol ac felly oherwydd y risg, ystyriwyd bod ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
Cais Rhif C24/0075/11/CR Ysgol Annibynol Bangor, Ffordd Gwynedd, Bangor, LL57 1DT Addasiadau
mewnol i drosi'r adeilad yn 9 uned byw AELODAU LLEOL: Cynghorydd Dylan Fernley a‘r Cynghorydd Nigel
Pickavance Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFNWYD: Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r
amodau canlynol :- 1. 5
mlynedd 2. Unol
a’r cynlluniau. 3. Cofnod
ffotograffig. 4. Manylion
unrhyw fents a ffliw’s i’w
gytuno o flaen llaw 5. Manylion
gwydriad eilradd i’w gytuno o flaen llaw. 6. Unrhyw ffenestr amnewidir i’w fod yn unol a’r presennol Cofnod: a)
Amlygodd
y Rheolwr Cynllunio mai cais ydoedd am ganiatâd adeilad rhestredig i drosi
adeilad yn 9 uned breswyl hunangynhaliol. Eglurwyd nad oedd egwyddor o newid
defnydd yr adeilad yn berthnasol i’r cais na phenderfyniad cais C24/0074/11/LL
(newid defnydd a throsi adeilad Ysgol Annibynnol Bangor, Ffordd Gwynedd, Bangor
yn 9 uned byw). Roedd gofyn i’r Pwyllgor ystyried y newidiadau ffisegol i’r
adeilad yn unig yn unol â Nodyn Cyngor Technegol 24: Yr Amgylchedd Hanesyddol
a’r angen i asesu materion penodol ar gyfer y math yma o gais. Adroddwyd bod y gwaith addasu
yn bennaf yn ymwneud gydag agoriadau newydd o fewn rhai waliau presennol a
chodi waliau newydd mewnol. Ategwyd bod bwriad ynysu’r waliau yn fewnol ac y
byddai dau ddrws allanol yn cael eu cau o’r tu mewn i warchod yr adeilad rhag
llifogydd. Ni fydd unrhyw newidiadau allanol. Bydd grisiau mewnol yr adeilad yn
cael eu cadw, gydag ail set llai addurniadol o risiau yn cael eu cau i fyny.
Nodwyd bod dau o grwpiau amwynder wedi datgan pryder am y grisiau ac wedi gofyn
am fwy o fanylion a chadarnhad am y gwaith. Derbyniwyd cadarnhad gan yr Asiant
y byddai’r grisiau yn aros fel ag y maent ac yn cael eu gwarchod. Gyda’r holl unedau
newydd yn cynnwys cegin a baddon newydd amlygwyd yr angen i osod sustem awyru o
fewn yr adeilad drwy’r gwasanaethau newydd ac allan drwy’r simneiau presennol,
sydd i'w groesawu gan na fydd difrod i’r adeilad. Ategwyd bod bwriad gosod gwydriad
eilradd drwy’r adeilad, oedd eto i’w groesawu gan y byddai’n golygu cadw ac
adfer y ffenestri gwreiddiol – y manylion i’w cytuno drwy amodau. Eglurwyd bod y bwriad
yn un sensitif gyda’r ychydig gwaith mewnol yn parchu’r gosodiad ac yn gwarchod
y prif nodweddion. Bydd rhan helaeth o’r gwaith o’r fath y bydd modd ei dynnu
yn y dyfodol (os bydd angen) – bydd hyn yn sicrhau na fydd unrhyw niwed parhaol
i’r adeilad. O ganlyniad, ystyriwyd
bod y bwriad yn cwrdd gyda gofynion polisïau lleol a chenedlaethol. Ategwyd bod
yr adroddiad wedi ei baratoi gan Uwch Swyddog Cadwraeth Cyngor Gwynedd sydd â
hawl dirprwyedig i benderfynu ceisiadau am ganiatâd adeilad rhestredig. Golygai
hyn, pe byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor, ni fydd angen
cyfeirio’r cais i CADW. b) Cynigwyd ac eiliwyd
caniatáu y cais c) Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y sylwadau
canlynol gan yr Aelodau: ·
Er mai’r maes parcio yw
ardal risg y llifogydd, bod drws cefn ar lawr daear isaf yr eiddo sydd yn agor
allan i’r maes parcio i’w gau yn barhaol o’r tu mewn fel mater atal llifogydd –
a yw hyn yn rhesymol? ·
Bod
angen sicrhau amod i warchod y ffenestri lliw PENDERFYNWYD Caniatáu’r cais yn ddarostyngedig i’r
amodau canlynol :- 1. 5 mlynedd 2. Unol a’r cynlluniau. 3. Cofnod ffotograffig. 4. Manylion unrhyw fents
a ffliw’s i’w gytuno o flaen llaw 5. Manylion gwydriad eilradd i’w gytuno
o flaen llaw. 6. Unrhyw ffenestr amnewidir i’w fod yn
unol a’r presennol |
|
Cais Rhif C23/0463/18/LL Plas Coch, Penisarwaun, Caernarfon, Gwynedd, LL55 3PW Cais ol weithredol i drosi adeilad allanol i lety
gwyliau. AELOD LLEOL: Cynghorydd Elwyn Jones Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFNWYD: Gwrthod yn
groes i’r argymhelliad. Rheswm: Y cais yn groes i
bolisi PCYFF 3 oherwydd byddai’r datblygiad yn cael effaith andwyol ar
fwynderau preswyl a byddai’r ffenestri talcen yn achosi gor-edrych ac effaith
ymwthiol. Cofnod: a)
Amlygodd y Rheolwr Cynllunio mai cais ôl weithredol i
drosi adeilad allanol i lety gwyliau hunangynhaliol oedd dan sylw – yr adeilad gwreiddiol
yn adeilad allanol oedd yn cael ei ddefnyddio fel defnydd atodol i eiddo Plas
Coch. Gohiriwyd penderfyniad ar y cais yn mhwyllgor Ionawr 2024 er mwyn rhoi
cyfle i’r ymgeisydd ymateb i’r sylwadau ynglŷn a lleihau gor-edrych ar dai cyfagos a rhoi cyfle iddo gyflwyno
gwybodaeth am fesurau lliniaru a chynllun rheoli’r uned gwyliau, fyddai’n
lleddfu pryderon cymdogion. Cyfeiriwyd at y wybodaeth a ddaeth i law yn y
ffurflen sylwadau hwyr ynghyd a llun yn dangos bod llenni wedi cael eu gosod yn
ddiweddar iawn ar y ffenest fawr. Derbyniwyd copi o reolau ar gyfer yr uned
wyliau oedd yn gofyn i westeion beidio a defnyddio’r twba poeth ar ôl 9yh ac i
gadw sŵn i’r lleiafswm ar ôl 10yh. Nid ydynt yn caniatáu partïon gan
gynnwys rhai iar a stag nac yn caniatáu ymwelwyr oedd
heb gofrestru i aros yn y llety. Yng nghyd-destun egwyddor y datblygiad,
nodwyd mai Polisi TWR 2 oedd y polisi perthnasol. O safbwynt y CDLl er bod y safle yng nghefn gwlad agored mae’r Polisi yn
caniatáu llety gwyliau hunangynhaliol newydd yng nghefn gwald ar safleoedd a
ddatblygwyd o’r blaen. Eglurwyd, gan fod y safle o fewn cwrtil tŷ preswyl
roedd yn cydymffurfio gyda diffiniad y CDLl a Pholisi
Cynllunio Cymru o dir a ddatblygwyd o’r blaen. Adroddwyd y dylai ceisiadau o’r
fath gael eu cefnogi gan adroddiad strwythurol ond gan fod y gwaith eisoes wedi
ei gwblhau, ystyriwyd nad oedd gwerth gofyn am adroddiad bellach. Amlygwyd bod
sylwadau a dderbyniwyd yn codi pryder am ansawdd y gwaith a bod yr Uned
Rheolaeth Adeiladu yn ymwybodol o’r sefyllfa ac yn gallu gweithredu pe byddai
angen. Elfen allweddol arall o Bolisi
TWR 2 yw asesu gormodedd o lety gwyliau hunangynhaliol - yn yr achos yma, nid oedd tystiolaeth o
ormodedd yn y rhan yma o’r Sir ac nid oedd y bwriad yn golygu colled o stoc tai
parhaol. Yng nghyd-destun mwynderau gweledol,
derbyniwyd sylwadau yn nodi pryderon nad oedd y Uned Gwyliau yn gweddu gyda’r
dirwedd a bod y deunyddiau gwreiddiol wedi cael eu gwaredu a’u disodli gan
ddeunyddiau mwy modern. Mewn ymateb, er nad yw’r deunyddiau gwreiddiol wedi eu
cadw, ni ystyriwyd fod y defnyddiau a ddefnyddiwyd yn annerbyniol ac nid
oeddynt yn effeithio ar gymeriad yr ardal yn ddigon sylweddol i greu effaith
negyddol ar y dirwedd. Cyfeiriwyd at bryderon a dderbyniwyd oedd yn nodi bod y newid yn yr adeilad yn creu effaith weledol negyddol, er nad oedd y cynlluniau yn dangos newid sylweddol mewn siâp na maint i'r adeilad gwreiddiol gydag uchder yr adeilad yn eistedd yn gyfforddus wrth ochor tŷ Plas Coch. Derbyniwyd bod newid sylweddol wedi bod i dalcen yr adeilad gyda gwydr wedi ei osod ar hyd yr edrychiad. Er hynny, ystyriwyd nad oedd yr edrychiad yn wynebu’n uniongyrchol at dai cyfagos ac nid oedd yn sylweddol nodweddiadol o’r ffordd. Ategwyd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |