Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Dafydd Meurig Mewn ymateb i sylw bod dwy sedd wag gan Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor,
nodwyd bod y gwaith o hysbysebu’r seddi yn mynd yn ei flaen gyda hysbyseb
barhaus ar wefan y Cyngor. Nodwyd mai anodd yw cael pobl i ddangos diddordeb a
bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r Swyddog Monitro a’r Gwasanaeth
Democratiaeth i geisio syniadau am ysgogiad diddordeb. Derbyniwyd bod y
sefyllfa yn un pryderus ac yn creu diffyg balans yn aelodaeth y Pwyllgor. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w nodi |
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w nodi |
|
Cofnod: Derbyniodd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 28
Tachwedd 2024 fel rhai cywir |
|
GWEITHREDU PENDERFYNIADAU Y PWYLLGOR I ystyried
yr adroddiad a chynnig sylwadau Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Derbyn
cynnwys yr adroddiad ·
Archwiliad
Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth - cais am adroddiad yn nodi Trefniadau’r Cyngor i ymdrin â
materion Rhyddid Gwybodaeth Nodyn: Gwastraff ac Ailgylchu – adolygiad WRAP i’w rannu gyda’r
Aelodau Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i
benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau
gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn
rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r
eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau. PENDERFYNWYD ·
Derbyn
cynnwys yr adroddiad ·
Archwiliad
Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth - cais am adroddiad yn nodi Trefniadau’r Cyngor i ymdrin â
materion Rhyddid Gwybodaeth Nodyn: Gwastraff ac Ailgylchu –
adolygiad WRAP i’w rannu gyda’r Aelodau |
|
CYLLIDEB REFENIW 2024/25 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2024 I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet a sylwebu fel bo angen. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: ·
Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor
a’i adrannau ·
Cytuno
gyda’r argymhellion i’r Cabinet: Nodyn:
·
Gwaith
sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i gael gwell dealltwriaeth o
orwariant gan yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant - cais i’r Cabinet herio beth
yw amserlen y gwaith yma – angen sicrwydd bod y gwaith yma yn ei le i osod
cyllideb ·
Gwaith
sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i egluro manylder y darlun yng
ngofal Plant, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i
ymateb. – angen cyflwyno dadansoddiad manylach o’r
gwaith i’r Pwyllgor ·
Cais am
wybodaeth ar sut mae rhagolygon ariannol Gwynedd yn cymharu gyda Chynghorau
eraill ·
Gwybodaeth
am incwm uwch gan y gwasanaeth profedigaeth marwolaethau, diffyg incwm parcio a
manylion ‘pres y pen’ i’w rannu’n uniongyrchol gyda’r Cyng. Angela Russell Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o
gyllideb refeniw’r Cyngor am 2024/25, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn
ariannol. Gofynnwyd i’r Pwyllgor
graffu’r wybodaeth a chynnig sylwadau cyn cyflwyno am gymeradwyaeth y
Cabinet 21 Ionawr 2025. Cyfeiriwyd
ar dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau gan adrodd, yn dilyn
adolygiad ddiwedd
Tachwedd ar orwariant bod 83% ohono yn y
maes gofal oedolion a phlant, ond y
rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd pump o’r adrannau yn gorwario erbyn
diwedd y flwyddyn, gyda gorwariant sylweddol ar gyfer yr Adran Oedolion, Iechyd
a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r
Adran Amgylchedd. Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau: ·
Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i
gael gwell dealltwriaeth o orwariant gan yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant -
beth yw amserlen y gwaith a pryd fydd y wybodaeth yn cael ei rannu? ·
Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan
y Prif Weithredwr i egluro manylder y darlun ym maes gofal plant - angen
cyflwyno’r wybodaeth i’r Pwyllgor ·
Bod mwy o alw am wasanaethau -
a’i buddsoddiad annigonol sydd yma ynteu orwariant? Bod Cynghorau ar draws
Cymru yn yr un sefyllfa. Sut mae Gwynedd yn cymharu gyda Chynghorau eraill? ·
Er yn ffodus o gronfeydd wrth
gefn y Cyngor, nid yw hyn yn gallu cynnal y sefyllfa - cyfrifoldeb ar
Benaethiaid i ‘fyw o fewn’ y gyllideb ·
Gwendidau gweinyddiaeth i ofal cartref – a yw’r sefyllfa
wedi gwella? ·
Cyfeiriad at seibiant gwario
canol blwyddyn - a yw hyn yn annheg os byddai rhywun angen gwasanaeth? ·
A oes cynlluniau tymor hir i
feysydd incwm y Cyngor yn hytrach na thymor byr / canolig? A yw’r trothwy incwm
yn rhy uchel ac o ganlyniad yn amlygu bod y gwasanaeth yn aneffeithiol ar
bapur? Faint yn llai e.e., yw incwm parcio yng Ngwynedd? ·
Prinder gweithwyr - a yw
cytundebau 16 awr yn cronni’r sefyllfa? Wrth ystyried amodau gwaith gofalwyr yn
gyffredinol a oes ystyriaeth i ail gyflwyno tâl chwyddedig? ·
Ffigyrau sensws Gwynedd – nifer
marwolaethau yn uchel – beth yw effaith hyn? – cais
am fanylion pres y pen ac incwm
uwch y gwasanaeth profedigaeth marwolaethau ·
A oes mewnbwn i leoliadau all sirol i blant gan y Bwrdd
Iechyd? Er
bod gwaith eisoes wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i edrych ar sefyllfa
ariannol yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, gwahoddwyd Dylan Owen
(Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) ac Aled Davies (Pennaeth Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant) i’r cyfarfod i roi cyd-destun ac eglurhad llawnach
ar benawdau cyllideb yr Adran gan fanylu ar sefyllfa gyllidol heriol yr Adran. Wrth ymateb i sylw ynglŷn â mewnbwn y gwasanaeth iechyd i leoliadau allsirol, nodwyd nad mater iechyd oedd yma, ond diffyg darpariaeth cartrefi / llety i blant mewn angen. Eglurwyd nad oes darpariaeth ddigonol yng Ngwynedd ac felly bod rhaid chwilio am lety diogel tu allan i’r Sir. Ategwyd bod y galw am leoliadau preswyl yn genedlaethol yn uchel ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
RHAGLEN GYFALAF 2024/25 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2024 I nodi’r sefyllfa ac unrhyw risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor, craffu penderfyniadau i’r Cabinet, a sylwebu fel bo’ angen. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng
nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid. Prif
ddiben yr adroddiad oedd cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig (sefyllfa diwedd
Tachwedd 2024) a gofyn i’r Pwyllgor ystyried y ffynonellau ariannu perthnasol a
chraffu argymhellion i’r Cabinet (21-01-25). Cyfeiriwyd
at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £175.1 miliwn am y 3 blynedd
2024/25 – 2026/27 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar gael i ariannu’r cynnydd net
sydd oddeutu £5.4 miliwn ers y gyllideb wreiddiol. Ategodd
y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, ·
Bod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi £102.7miliwn
yn 2024/25 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £51.1miliwn (50%) ohono wedi’i ariannu
trwy grantiau penodol. ·
Bod £19.7 miliwn ychwanegol o
wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2024/25 i 2025/26 a 2026/27. Y prif
gynlluniau sydd wedi llithro ers y gyllideb wreiddiol yn cynnwys £9.7 miliwn
Cynlluniau Cronfa Ffyniant Bro, £7.9 miliwn Cynlluniau Ysgolion (Cymunedau
Dysgu Cynaliadwy ac Eraill), £5.8 miliwn Adnewyddu Cerbydau ac Offer, £2.7
miliwn Cynlluniau Ysgogi’r Economi ac Unedau Diwydiannol, £2.5 miliwn
Cynlluniau Rheoli Carbon a Phaneli Solar a £2.4 miliwn Cynllun Hwb Iechyd a
Gofal Penygroes Tynnwyd sylw’r
Aelodau at y rhestr grantiau ychwanegol y llwyddodd y Cyngor eu denu ers yr
adolygiad diwethaf oedd yn cynnwys £1,626 mil – Addasiad Grant Cronfa Ffyniant
Bro, £725 mil – Grant gan Lywodraeth Cymru tuag at Cynllun Prom
y Gogledd, Abermaw, £710 mil – Grant Cyfalaf Gofal Plant gan Lywodraeth
Cymru a £406 mil – Grant gan Sefydliad
Pêl Droed Cymru tuag at ddau gynllun Caeau Pêl Droed Cyfeiriwyd at y Dangosyddion Darbodus Cyfalaf y
Cyngor gan nodi bod gofyn newydd ar y Cyngor i adrodd ar y Cod Darbodus gan
GIGFA. Nodwyd bod y Cyngor wedi cydymffurfio gyda’r polisi ar fenthyca at
ddibenion cyfalaf. Diolchwyd
am yr adroddiad Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ail broffilio
a chostau cynyddol debygol i brosiectau ac os yw’r Cyngor yn ail ystyried y
prosiect ynteu holi am gynnydd yn y grant, nodwyd mai swm penodol yw grant fel
arfer ac felly bydd y costau yn cael eu hystyried wrth ail broffilio. PENDERFYNWYD: Derbyn
yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y
Cyngor |
|
TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION Derbyn yr wybodaeth ac ystyried y risgiau cyffredinol sy’n deillio o lithriadau yn yr arbedion Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Derbyn
y wybodaeth gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau cyffredinol sydd yn deillio o
lithriadau yn yr arbedion ·
Cefnogi
fod y Cabinet yn cymeradwyo dileu un cynllun arbedion gwerth £146,910
perthnasol i 2025/26 yn y maes gwastraff yn yr Adran Amgylchedd, gan
ddefnyddio’r ddarpariaeth a osodwyd o’r neilltu yn y gyllideb er mwyn gwneud
hynny. ·
Diolch i
bawb oedd yn gysylltiedig â’r adroddiad - gwaith heriol iawn wedi ei gyflwyno
mewn modd dealladwy Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn
gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y
Trosolwg Arbedion, ystyried argymhellion i’r Cabinet (22-01-2025) a sylwebu fel
bo’ angen. Eglurwyd, bod £42 miliwn o arbedion wedi eu gwireddu, sef 90% o’r
£46.6 miliwn gofynnol dros y cyfnod a gwerthfawrogwyd y gwaith gan staff y
Cyngor i wireddu hyn. Nododd, er mwyn cau'r bwlch ariannol, roedd rhaid
gweithredu gwerth £5.6 miliwn o arbedion yn ystod 2024/25 oedd yn gyfuniad o £3.6 miliwn oedd wedi ei
gymeradwyo yn Chwefror 2023 ac arbedion newydd gwerth £2 filiwn a gymeradwywyd
yn Chwefror 2024. Cyfeiriwyd at grynhoad cyrhaeddiad arbedion pob
Adran yn seiliedig ar adolygiad Tachwedd 2024 (cyfanswm o £12miliwn) a
chyhoeddwyd bod dros £8 miliwn (67%) o’r cynlluniau hyn eisoes wedi eu gwiredd
gyda 6% ar drac i gyflawni’n llawn ac amserol. Ategwyd bod risgiau i wireddu’r
arbedion yn amlwg mewn rhai meysydd gyda’r prif rai yn yr Adran Oedolion,
Iechyd a Llesiant a’r Adran Amgylchedd. Adroddwyd, yn dilyn adolygiad diweddar gan y Prif Weithredwr o
gynlluniau arbedion yn y maes gwastraff gan yr Adran Amgylchedd, daethpwyd i’r
canlyniad fod angen uno tri cynllun arbedion yn y maes gwastraff masnachol,
dileu un cynllun casglu clytiau gwerth £147 mil a bod cynlluniau amgen yn cael
eu cynnig ar gyfer gwerth £300k o gynllun gwastraff £400k. Bydd hyn yn cael ei argymell i’r Cabinet i’w
gymeradwyo. Ategodd y Pennaeth
Cyllid Cynorthwyol, ym Mhwyllgor mis Hydref, gwnaed cais i lunio tabl oedd yn
gwahaniaethu rhwng y sefyllfa hanesyddol a’r sefyllfa ddiweddaraf fel bod bodd
adnabod risgiau i’r sefyllfa gyfredol. Nodwyd bod y cais wedi ei weithredu gyda
gwybodaeth am gynlluniau hanesyddol sydd wedi eu gwireddu mewn un tabl a thabl
arall yn rhoi sylw i’r arbedion hanesyddol sydd eto i’w gwireddu Tynnwyd sylw at
gynlluniau arbedion newydd fesul Adran
ar gyfer 2025/26 ymlaen – gan nodi bod y cynlluniau hyn eisoes dan ystyriaeth y
Cyngor yn destun adroddiad pellach i’r Pwyllgor. Diolchwyd
am yr adroddiad. Yn
ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau: ·
Yn croesawu bod y cynnig o gyflwyno gwybodaeth am y
arbedion hanesyddol wedi ei weithredu – trosolwg o’r sefyllfa yn gliriach ·
Croesawu bod 67% o gynlluniau arbedion effeithlonrwydd
2024/25 wedi eu gwireddu ·
Bod yr arbedion ‘hawsaf’ wedi eu gwireddu – yr arbedion
sydd angen eu gwireddu yn y dyfodol agos yn anodd ac felly angen sicrhau bod
ystyriaeth yn cael ei roi i osod amserlen briodol ar gyfer gweithredu a rhoi
cyfle i adrannau gynllunio’n well i’r tymor hir ·
Diolch i bawb a fu’n gysylltiedig ar adroddiad – gwaith
heriol iawn wedi ei gyflwyno mewn modd dealladwy PENDERFYNWYD: ·
Derbyn y wybodaeth gan nodi’r sefyllfa
a’r risgiau cyffredinol sydd yn deillio o lithriadau yn yr arbedion ·
Cefnogi fod y Cabinet yn cymeradwyo
dileu un cynllun arbedion gwerth £146,910 perthnasol i 2025/26 yn y maes
gwastraff yn yr Adran Amgylchedd, gan ddefnyddio’r ddarpariaeth a osodwyd o’r
neilltu yn y gyllideb er mwyn gwneud hynny. · Diolch i bawb oedd yn gysylltiedig â’r adroddiad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar adroddiad(au) sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar gan Archwilio Cymru – ‘Cynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol’ ac ‘Adolygiad o Gynaliadwyedd Ariannol – Cyngor Gwynedd’ Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Derbyn
yr adroddiad Cenedlaethol a Lleol ·
Derbyn
ymateb y Cyngor i’r argymhellion Nodyn: · Yn dilyn derbyn cefnogaeth a chanllawiau CIPFA, Rhaglen
Waith yr ymateb i’w chyflwyno i’r Pwyllgor erbyn Mawrth 2026 · Adroddiadau Perfformiad fydd yn cael eu cyflwyno i
Bwyllgorau Craffu i arddangos bod y gofynion statudol yn cael eu cyfarch Cofnod: Croesawyd Alan Hughes a Dewi Wyn Jones (Rheolwr
Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor) i’r cyfarfod Nodwyd bod yr adroddiadau ‘Cynaliadwyedd Ariannol Llywodraeth Leol’ (Adroddiad
Cenedlaethol ac Adroddiad Lleol - Cyngor Gwynedd) yn ymateb i ddatganiad ‘bod
sefyllfa ariannol llywodraeth leol yn anghyliadwy
dros y tymor canolig oni chymerir camau gweithredu’. Dros Haf 2024, bu i
Archwilio Cymru fwrw golwg ar gynaliadwyedd pob Cyngor yng Nghymru gan
ganolbwyntio ar y strategaethau i ategu cynaliadwyedd ariannol hirdymor
cynghorau, ystyried dealltwriaeth Cynghorau am eu sefyllfa ariannol ac edrych
ar drefniadau adrodd Cynghorau i ategu goruchwyliaeth reolaidd ar eu
cynaliadwyedd ariannol. Eglurwyd
bod yr adroddiad cenedlaethol yn darparu peth cyd-destun ar gyfer yr heriau
ariannol a wynebir gan Gynghorau ac yn crynhoi canfyddiadau allweddol y gwaith
yn genedlaethol ac yn lleol. Wrth gyfeirio at brif negeseuon yr adroddiad lleol
nodwyd cynnydd sylweddol yn nifer o Adrannau Cyngor Gwynedd sydd yn gorwario,
ac er bod y Cyngor wedi dechrau datblygu dull strategol i sefydlu trefniadau i
asesu effaith gwasanaethau ar drigolion y Sir, nid yw wedi gweithredu
strategaeth hirdymor i gefnogi cynaliadwyedd ariannol. Ategwyd bod defnydd
cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn sylweddol a bod angen ystyried os yw’r sefyllfa
sefydlog gyda chyllidebau dan bwysau. Tynnwyd
sylw at yr argymhelliad i fynd i’r afael a’r weithredu strategaeth ariannol
hirdymor ac at ffurflen ymateb y Cyngor i’r adolygiad. Nododd y Pennaeth Cyllid, bod y Cyngor yn ystyried
y modd gorau o wario o fewn y gyllideb drwy geisio sicrhau parhad gwasanaeth i
drigolion y Sir. Cyfeiriwyd at amcanion Cynllun Llechen Lân fel enghraifft,
sydd yn gynllun tymor hir ac yn fodd o ddarganfod beth yw gwir gost ac
ymarferoldeb darparu gwasanaethau. Derbyniwyd bod bwriad ystyried ymarferiadau
tebyg, ymateb i gyfleoedd a gwella effeithlonrwydd. Ategodd, er bod cronfeydd
ariannol y Cyngor yn edrych yn iach, derbyniodd efallai nad oedd golwg digon strategol
ar eu defnydd gyda gwaith adolygu angen ei wneud i ystyried os yw’r cronfeydd
yn ymateb i’r galw ynteu yn bodoli oherwydd materion hanesyddol. Diolchwyd
am yr adroddiad Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyflawni
gwasanaethau statudol gyda llwyddiant / methiant o fewn y gyllideb yn cael ei
amlygu drwy ffigyrau, ac na fyddai llwyddiant / methiant cyflawni cyfrifoldebau
statudol yn dod i’r amlwg hyd nes bydd y gwasanaeth yn wynebu her o fethu
cyflawni, a fyddai modd rhestru holl gyfrifoldebau statudol y Cyngor wrth osod
cyllideb, nodwyd bod y gyllideb yn cael ei gosod drwy flaenoriaethu'r hyn sydd
angen ei wario ar ddarparu gwasanaethau statudol. Ategwyd, yng nghyd-destun yr
her o fethu cyflawni, bydd adroddiadau perfformiad pob adran yn cael eu
cyflwyno i’r Pwyllgorau Craffu perthnasol ac y byddai modd arddangos bod y
gofynion statudol yn cael eu cyfarch yn yr adroddiad hwn. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â dyddiad cwblhau camau gweithredu i weithredu strategaeth ariannol hirdymor ac os yw Mawrth 2025 yn ddyddiad rhesymol, nodwyd, yn dilyn cefnogaeth a chanllawiau gan CIPFA, bydd gwaith o ddechrau llunio rhaglen waith ar gyfer y strategaeth yn dechrau canol Mawrth 2025, gyda bwriad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR I ystyried
y flaenraglen Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn y
Rhaglen waith ar gyfer Chwefror 2025 – Ionawr 2026 Cais i
ychwanegu: ·
Rhaglen
Datblygu'r Pwyllgor ·
Blaenraglen Archwilio Mewnol ·
Blaenoriaethau Archwiliadau –
dilyniant i argymhellion ·
Mwy o wybodaeth am Ffordd Gwynedd ·
Dilyniant i wybodaeth ar sefyllfa
ariannol Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd
·
Angen
cynnal sgwrs rhwng yr adrannau perthnasol i drafod effaith gwrthod cynlluniau
tai fforddiadwy ar ysgolion Gwynedd i’r dyfodol Cofnod: Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer
cyfarfodydd y Pwyllgor hyd Ionawr 2026 PENDERFYNWYD: Derbyn y Rhaglen waith ar gyfer Chwefror 2025 – Ionawr 2026 Cais i ychwanegu: ·
Rhaglen Datblygu'r Pwyllgor ·
Blaenraglen Archwilio Mewnol ·
Blaenoriaethau Archwiliadau –
dilyniant i argymhellion ·
Mwy o wybodaeth am Ffordd Gwynedd ·
Dilyniant i wybodaeth ar sefyllfa
ariannol Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd
·
Angen cynnal sgwrs rhwng yr
adrannau perthnasol i drafod effaith gwrthod cynlluniau tai fforddiadwy ar
ysgolion Gwynedd i’r dyfodol |