Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Huw Rowlands, Meryl Roberts, a Richard Glyn Roberts

 

Yn dilyn marwolaeth y Cyng Rob Triggs cymerodd y Cadeirydd y cyfle i gydymdeimlo gyda’i deulu. Nodwyd bod Rob yn aelod presennol o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a’i gyfraniad i’r Pwyllgor a’r Cyngor wedi bod yn un gwerthfawr.

 

Cymerodd y Cadeirydd hefyd y cyfle i gydymdeinlo a theulu y ddiweddar Sharon Warnes (cyn Aelod o’r Pwyllgor a chyn Swyddog o’r Cyngor) oedd yn ffrind, yn berson parchus a chydwybodolei chefndir i waith Awdurdod Lleol yn amhrisiadwy; bydd bwlch ar ei hôl.

 

Cydymdeimlwyd a’r Cyng. Angela Russell a’i theulu o golli ei gŵr yn ddiweddar a croesawyd hi yn ôl i’r Pwyllgor.

 

Adroddwyd, yn dilyn proses gyfweld a chymeradwyaeth gan y Cyngor Llawn ar y 3ydd o Orffennaf 2025, croesawyd tri Aelod Lleyg newydd i’r Pwyllgor - Mr Dewi Lewis, Dr Peter Barnes a Mr Paul Millar-Mills. 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 197 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22ain o Fai 2025 fel rhai cywir

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 22 Mai 2025 fel rhai cywir.

 

5.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR pdf eicon PDF 179 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD:  

 

  • Derbyn cynnwys yr adroddiad 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

6.

DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD AR GYFER 2024/25 pdf eicon PDF 207 KB

 

·       Ystyried y Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft sy’n ymddangos yn yr atodiad

·       Herio’r Pennaeth Cyllid am sgoriau risg sydd wedi eu nodi, a’r naratif sy’n egluro’r cyfiawnhad am y sgôr

·       Ystyried Cynllun Gweithredu’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol drafft

·       Cymeradwyo’r Datganiad, ac argymell fod Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn ei arwyddo

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

ENDERFYNIAD:  

  • Derbyn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol (drafft) 
  • Derbyn Cynllun Gweithredu’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol (drafft) 
  • Cymeradwyo’r Datganiad, ac argymell fod Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn ei arwyddo 

 

Nodyn:  

  • Cywiro sgôr cyfredol Risg Cyllid o 20 i 15 yn yr adroddiad Cymraeg, pwynt 4.2 
  • Bod cyd-destun risg ‘diwylliant’ yn cyfeirio at egwyddorion sylfaenol Ffordd Gwynedd 
  • Cais am fwy o wybodaeth i sicrhau bod trefniadau mewn lle i wella gwasanaethau 
  • Cais i’r adroddiad Cyfraddau Casglu Treth Cyngor amlygu premiwm tai 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y Datganiad gan y Pennaeth Cyllid. Eglurodd  bod y Datganiad, er nad yn rhan o’r cyfrifon, yn ddogfen statudol ac angen ei chyhoeddi gyda’r cyfrifon. Yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) a Chod ymarfer CIPFA mae’n rhaid i bob Awdurdod Lleol sicrhau bod datganiad o reolaeth fewnol yn ei le a bod y system reoli yn cael ei adolygu o leiaf unwaith mewn blwyddyn. Adroddwyd mai’r Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor sydd yn arwyddo’r datganiad er bod angen cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

Rhoddwyd ychydig o gefndir i’r datganiad sydd yn seiliedig ar Fframwaith CIPFA / SOLACE a gyhoeddwyd yn 2016, sydd yn adnabod 7 egwyddor craidd ar gyfer llywodraethu da sydd wedyn yn cael eu rhannu ymhellach i is-egwyddorion. Amlygwyd bod y Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu, o dan arweiniad y Prif Weithredwr, yn ystyried yr egwyddorion a’r is-egwyddorion ac yn llunio Cofrestr Risg Llywodraethu sydd yn rhan o Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor. Adnabuwyd risgiau mewn 24 o feysydd llywodraethu gwahanol, gan nodi’r rheolaethau sydd gan y Cyngor yn eu lle er mwyn lliniaru’r risgiau hynny.

 

Adroddwyd bod 4 math o risg a bod pob risg gyda pherchnogaeth adrannol; y Grŵp wedi dod i gasgliad bod 0 maes gyda risgiau uchel iawn, 6 maes risgiau uchel, 9 maes risgiau canolig a 9 maes risgiau isel. Derbyniwyd er bod 6 maes risg uchel, bod y Grŵp yn ymwybodol o’r gwaith sydd angen cael ei wneud i leihau’r risgiau hyn.

 

O ran addasiadau, mynegwyd bod sgôr risg cyfredol Cyllid wedi lleihau o 20 i 15. Ategwyd y byddai diweddariad ar gamau gweithredu blynyddoedd blaenorol yn cael eu hadrodd yn yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol a Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2024/25 yng nghyfarfod mis Hydref 2025.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Sylwadau gan Aelodau ac ymatebion gan Swyddogion:

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â diffyg manylder y risgiau, nodwyd y bydd adroddiad gwariant manylach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Hydref, ac mai ymgais i grynhoi materion oedd yma i gydymffurfio gyda gofynion Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio Cymru.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â nifer isel o staff (Arolwg Llais Staff) a thrigolion (Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol) oedd wedi ymateb i’r ddau arolwg yma a beth oedd yn cael ei wneud i annog mwy o ymatebion i’r dyfodol, nodwyd er bod nifer ymatebion i’r Arolwg Preswylwyr Cenedlaethol yn ymddangos yn isel iawn, ei fod yn cymharu yn dda gyda niferodd ymatebion y gorffennol. Ategwyd, gyda’r Arolwg hefyd yn un cenedlaethol, bod modd cymharu ymatebion fesul Awdurdod Lleol, ac o’r naw Awdurdod Lleol a gymerodd rhan yn yr arolwg (y cyntaf o’i fath yng Nghymru), yn ystod 2024/25 roedd cyfradd Gwynedd ymysg yr uchaf. Er hynny, derbyniwyd bod lle i wella a bod gwaith wedi ei wneud i gynnwys camau newydd yn y broses ymgysylltu i annog mwy o ymatebion. Un enghraifft o welliant oedd gofyn am gyd-destun neu naratif wrth ymateb yn hytrach na rhoi tic yn erbyn da iawn, da neu wael.  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

DATGANIAD O GYFRIFON 2024/25 (AMODOL AR ARCHWILIAD) pdf eicon PDF 253 KB

I dderbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2024/25.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

ENDERFYNIAD: 

 

Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2024/25 

 

Nodyn:  

Cais am fwy o wybodaeth am Gronfa Ymddiriedolaeth FMG Morgan 

 

 

Cofnod:

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau bod y cyfrifon wedi eu cwblhau a’u rhyddhau i’w harchwilio gan Archwilio Cymru, archwilwyr allanol y Cyngor, ers canol Mehefin. Nodwyd bod estyniad eto eleni yn yr amserlen statudol ar gyfer archwilio’r cyfrifon, gyda’r bwriad o gwblhau’r archwiliad a chymeradwyo’r cyfrifon ym Mhwyllgor Tachwedd 13eg 2025. 

  

Adroddwyd ar gynnwys yr adroddiad gan egluro bod chwe set o gyfrifon ar gyfer 2023/24, yn cael eu cwblhau 

1.       Cyngor Gwynedd  

2.       Cronfa Bensiwn Gwynedd  

3.       GwE (cydbwyllgor sylweddol ei faint ac felly Datganiadau Llawn wedi eu paratoi) 

4.       Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru (cydbwyllgor sylweddol ei faint ac felly Datganiadau Llawn wedi eu paratoi) 

5.       Harbyrau Gwynedd a  

6.       Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd 

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod sefyllfa ariannol diwedd flwyddyn ar gyfer 2024/25 wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar y 21ain o Fai ar ffurf alldro syml, ond bod y Datganiad o’r Cyfrifon, sydd i bwrpas allanol a llywodraethu, yn gorfod cael ei gwblhau ar ffurf safonol CIPFA. Ymddengys bellach yn ddogfen hirfaith a thechnegol gymhleth.

 

Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Naratif oedd yn rhoi gwybodaeth am y Cyfrifon ac am weledigaeth a blaenoriaethau Gwynedd, y Strategaeth Ariannol a’r mesuryddion perfformiad ariannol. Arweiniwyd yr Aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar rai o’r elfennau: 

·        Crynodeb o wariant cyfalaf. Bu gwariant o £85 miliwn yn ystod y flwyddyn o gymharu gyda £57 miliwn yn y flwyddyn flaenorol. 

·        Bod y prif ddatganiadau ariannol yn cynnwys Datganiad Incwm a Gwariant, Mantolen, Llif arian ayyb 

·       Datganiad Symudiad mewn Reserfau sydd yn ddatganiad pwysig ac yn crynhoi sefyllfa ariannol y Cyngor. Amlygwyd bod balansau cyffredinol y Cyngor yn £7.9 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2025, sef yr un lefel â Mawrth 2024 a Mawrth 2023.

·       Bod Reserfau yn amlygu cynnydd yn y cronfeydd £102 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2024 i £111 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2025 

·        Balansau Ysgolion lle gwelir lleihad cyson ym malansau ysgolion sydd wedi disgyn o £12 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2023, i £8.5 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2024 a £8 miliwn erbyn diwedd 2025 sydd bellach yn ddarlun sy’n agosach at lefel y balansau cyn Covid. Eglurwyd bod hyn yn ddarlun cyffredinol sydd yn cael ei weld yng Nghymru gan fod y balansau ysgolion wedi bod yn uchel yn dilyn nifer o grantiau yn sgil Covid. 

·        Reserfau a Glustnodwyd sy’n cynnwys dadansoddiad o’r £111 miliwn o gronfeydd wrth gefn – reserfau cyfalaf, cronfa Trawsffurfio / Cynllun y Cyngor, cronfa cefnogi’r strategaeth ariannol a chronfa Premiwm Treth y Cyngor

·        Cyfeiriwyd at Nodyn 15 – Eiddo, Offer a Chyfarpar sydd yn cyflwyno dadansoddiad fesul categori tir ac adeiladau, cerbydau, offer a chyfarpar ayyb. Ymrwymiadau Cyfalaf sydd yn cynnwys cynlluniau Gerddi Traphont Abermaw, a gwaith cyfalaf ar Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor ac Ysgol Bontnewydd a Thywyn. Hefyd, Datblygiad yng Nghoed Mawr Bangor. 

·        Nodyn 22 Darpariaethau sydd yn berthnasol i Safleoedd Gwastraff a hawliadau yswiriant a Nodyn 32 manylion am Incwm Grant sydd wedi ei dderbyn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2024-25 pdf eicon PDF 154 KB

I ystyried cynnwys yr adroddiad, cynnig sylwadau ac addasiadau, a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

      Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol 

 

Nodyn: Gosod Cyllideb. Dileu pwyntiau bwled pwynt 28 cyn cyflwyno adroddiad terfynol i’r Cyngor Llawn, Hydref 2il 2025 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Gadeirydd y Pwyllgor mewn ymateb i ganllawiau CIPFA sydd yn nodi, ‘y dylai’r pwyllgor baratoi adroddiad blynyddol sy’n rhoi sicrwydd i bawb sy’n gyfrifol am lywodraethu ei fod yn cyflawni ei bwrpas ac yn gallu dangos effaith’. Roedd yr adroddiad yn cwmpasu gwaith y Pwyllgor dros 2024/25 ac yn amlygu sut mae’r Pwyllgor wedi cyflawni ei ddyletswyddau statudol ac ychwanegu gwerth i drefniadau llywodraethu Cyngor Gwynedd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: 

·        Braf oedd gweld bod seddi gwag Aelodau Lleyg wedi cael eu llenwi

·        Awgrym cynnal cyfarfod wyneb yn wyneb yn y dyfodol fyddai’n rhoi cyfle i’r aelodau ddod i adnabod ei gilydd yn well - diwrnod hyfforddiant efallai

·        Awgrym i’r aelodau lleyg gyflwyno eu hunain yn y cyfarfod nesaf – cyflwyniad byr i’w cefndir

·        Bod cyfraniad a phresenoldeb yr Aelodau yn dda iawn

·        Awgrym i ddileu sylwadau gosod cyllideb 2025/26 – er yn amlygu trafodaeth mewn  cyfarfod, ystyriwyd y byddant efallai yn creu dryswch yng nghyd-destun yr adroddiad yma.

 

PENDERFYNWYD

Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol

 

Nodyn: Gosod Cyllideb. Dileu pwyntiau bwled pwynt 28 cyn cyflwyno adroddiad terfynol i’r Cyngor Llawn, Hydref 2il 2025

 

9.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2024/25 pdf eicon PDF 226 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor 2024/25, yn erbyn y strategaeth a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn 7fedd o Fawrth 2025. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn brysur a llewyrchus iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor wrth i’r gweithgaredd aros o fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw fethiant i ad-dalu gan y sefydliadau roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda nhw.

 

Adroddwyd bod £2.5m o log wedi ei dderbyn ar fuddsoddiadau sydd yn is na’r £2.7m a oedd yn y gyllideb a hynny oherwydd bod cyfradd Banc Lloegr wedi lleihau o 5.25% i 4.5% yn ystod y flwyddyn.

 

Ar y 31 Mawrth 2025 roedd y Cyngor mewn sefyllfa gref iawn gyda buddsoddiadau net a hynny oherwydd lefel uchel o fuddsoddiadau a chyfalaf gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys arian y Bwrdd Uchelgais a’r Gronfa Bensiwn. Ategwyd bod y gweithgaredd benthyca wedi bod yn ddistaw iawn yn y flwyddyn gyda dim ond ad-daliadau benthyg wedi digwydd.

 

Adroddwyd, yng nghyd-destun gweithgareddau buddsoddi, bod y Cyngor wedi parhau i fuddsoddi gyda Banciau a Chymdeithasau Adeiladu, Awdurdodau Lleol, Cronfeydd Marchnad Arian, Swyddfa Rheoli Dyledion a Chronfeydd wedi’i pwlio, sydd yn gyson gyda’r math o fuddsoddiadau sydd wedi eu gwneud ers nifer o flynyddoedd bellach. Nodwyd bod y cronfeydd wedi’i pwlio yn fuddsoddiadau tymor canolig/ tymor hir sydd yn dod a lefel incwm da iawn, a gyda lefelau arian y Cyngor yn iach.

 

Yng nghyd-destun adroddiad cydymffurfiad a dangosyddion adroddwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a strategaeth rheolaeth trysorlys y Cyngor -  hyn yn newyddion da, ac yn dangos bod rheolaeth gadarn dros yr arian.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

10.

ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU - Diweddariad CH1 ac Adroddiad Rheolaeth Strategol ar Falansau a Chronfeydd wrth Gefn pdf eicon PDF 95 KB

1.     I ystyried a derbyn Rhaglen Waith Archwilio Cymru Chwarter 1

 

2.     I ystyried Adroddiad Archwilio Cymru – Rheolaeth Strategol ar Falansau a Chronfeydd wrth Gefn

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

  • Derbyn Rhaglen Waith Archwilio Cymru Chwarter 1 
  • Derbyn Adroddiad Archwilio Cymru – Rheolaeth Strategol ar Falansau a Chronfeydd wrth gefn 

 

 

Cofnod:

Croesawyd Carwyn Rees, Lora Gwawr a Sioned Owen o Swyddfa Archwilio Cymru i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad

 

Cyflwynwyd diweddariad chwarterol (hyd at 30 Mehefin 2025) o raglen waith ac amserlen Archwilio Cymru. Trafodwyd y gwaith archwilio ariannol a'r gwaith archwilio perfformiad lleol gan amlygu y byddai’r Adroddiad Blynyddol i’w gyhoeddi diwedd Rhagfyr 2025.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut roedd Archwilio Cymru yn blaenoriaethu eu gwaith, nodwyd eu bod yn cwblhau’r gwaith ar gyfer Archwilydd Cyffredinol Cymru gan sicrhau bod gan y Cynghorau drefniadau yn eu lle i ddarparu gwasanethau sydd yn cynnig gwerth am arian.

 

ADRODDIAD RHEOLAETH STRATEGOL AR FALANSAU A CHRONFEYDD WRTH GEFN

 

Cyflwynwyd adroddiad ac argymhelliad archwiliad a gwblhawyd ar sut mae’r Cyngor yn rheoli cronfeydd wrth gefn gan ganolbwyntio ar drefniadau llywodraethu, rheoli risg, adrodd ariannol a sut mae’r cronfeydd hyn yn cael eu defnyddio’n strategol  a chefnogi sefydlogrwydd hirdymor.

 

Cwblhawyd y gwaith yn ystod mis Mai a Mehefin 2025 gan fanylu ar ffigyrau diwedd blwyddyn 2024/25. Diolchwyd i’r swyddogion am eu cefnogaeth gyda’r archwiliad a hynny mewn amser prysur yn cau’r cyfrifon.

 

Daethpwyd i’r canlyniad bod cronfeydd y Cyngor mewn lle iach a bod sicrwydd bod trefniadau yn eu lle i gael y budd gorau. Cyfeiriwyd at yr un argymhelliad a wnaethpwyd a hynny i gryfhau’r trefniadau presennol drwy fabwysiadu Strategaeth Cronfeydd Wrth Gefn.

 

Mewn ymateb i’r archwiliad nododd y Pennaeth Cyllid, bod ymateb rheolwyr wedi ei gwblhau yn dilyn trafodaethau mewnol a gydag Archwilio Cymru. Cytunodd gyda’r un argymhelliad

 

Diolchwyd am yr adroddiad. Nodwyd bod y cronfeydd wrth gefn wedi bod yn gymorth mawr dros y blynyddoedd diwethaf. Cytunwyd bod angen gosod cyfeiriad drwy fabwysiadau strategaeth i sicrhau bod defnydd yr arian wrth gefn yn glir.

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn Rhaglen Waith Archwilio Cymru Chwarter 1

·        Derbyn Adroddiad Archwilio Cymru – Rheolaeth Strategol ar Falansau a Chronfeydd wrth gefn

 

 

11.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION A GWELLA GWASANAETH pdf eicon PDF 168 KB

I dderbyn yr adroddiad gan gyflwyno unrhyw sylwadau neu argymhellion ar y drefn gwynion wrth wneud hynny.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth 

 

Nodyn: Gwirio os yw cwynion tai cymdeithasol yn rhan o’r broses cwynion

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Adran Gwasanaethau Corfforaethol yn cyflwyno sylwadau Ombwdsman Cymru ar drefniadau a pherfformiad y Cyngor yng nghyswllt ymdrin â chwynion a gwella gwasanaethau yn ystod 2024/25 gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a datblygiadau. Atgoffwyd yr Aelodau bod gofyn statudol ar y Pwyllgor i sicrhau bod gan y Cyngor drefniadau effeithiol ar gyfer ymdrin â chwynion. Ategwyd, ni fu unrhyw newid yn y drefn na’r Polisi Pryderon a Chwynion yn ystod 2024/2025 ac felly bod cynnwys llythyr yr Ombwdsman yn seiliedig ar y Polisi a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn 2021.

 

Yn ogystal, nodwyd bod yr adroddiad, mewn ymateb i gais gan y Pwyllgor,  yn cynnwys mwy o wybodaeth am y drefn gwynion corfforaethol sydd yn eithrio cwynion ym maes Gofal, Addysg, Cyflogaeth a Byw’n Iach. Tynnwyd sylw bod cynllun Gofal Cwsmer newydd wedi ei fabwysiadu ddechrau Haf 2025 fel rhan o waith Cynllun Ffordd Gwynedd a hynny wedi proses ymgynghorol drwyadl. Bydd y gwaith o hyfforddi a chodi ymwybyddiaeth o’r Cynllun Gofal Cwsmer newydd nid yn unig yn ffordd o atgoffa swyddogion am y drefn gwynion ar draws y Cyngor, ond yn gwella’r gwasanaeth i drigolion a lleihau'r nifer o gwynion.

 

Adroddwyd mai nod y drefn yw gwneud cyflwyno cwyn mor hawdd a phosib gan sicrhau trefn dryloyw, agored a hwylus. Bydd cam un yn gam anffurfiol fydd yn cael ei ddatrys yn syth, a cham 2 yn gam ffurfiol lle bydd trefn ac amser penodol i’r ymateb. Ategwyd bod derbyn cwynion yn fodd o ddysgu gwersi gyda swyddog yn caslgu’r holl wybodaeth ac yn cydweithio gyda’r gwasanethau priodol gyda’r bwriad o geisio gwelliant parhaus. Bydd adroddiad ar berfformiad y gwasanethau hyn yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet ddwy waith y flwyddyn.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a chanmolwyd y gwasanaeth am eu cydymffurfiaeth â gofynion y Ddeddf. Ystyriwyd bod y sefyllfa yn un boddhaol iawn

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion canlynol: 

·        A yw cwynion am dai cymdeithasol yn rhan o’r broses yma?

·        Mai pwysig yw dysgu gwersi o’r drefn cwynion

·        Bod cwynion yn arwain at ddysgu a datrys problemau

·        Bod yr adroddiad yn un positif - diolch i’r tîm casglu gwybodaeth

·        Y wybodaeth yn rhoi gwell dealltwriaeth o’r maes i’r Pwyllgor

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ystyr ‘cyfradd ymyrraeth’, nodwyd mai cyfeiriad at gwynion lle'r oedd ymyrraeth gan yr Ombwdsman oedd yma, oedd yn cynnwys archwiliadau pellach.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfradd cwynion maes Cynllunio (28% sydd llawer uwch na’r gwasanethau eraill) a pha wersi oedd yn cael eu dysgu yma?, nodwyd mai dyma’r cwynon oedd yn cyrraedd yr Ombwdsman. Derbyniwyd bod y gwasanaeth cynllunio yn derbyn nifer uchel o gwynion sydd efallai yn amlygu rhesymeg nad yw’r achwynydd yn fodlon gyda’r ymateb / penderfyniad. Mewn ymateb i gwestiwn ategol ynglŷn ag arafwch y drefn ynteu diffyg adnoddau, nodwyd bod amrediad gwahanol o resymau i’r cwynion hyn. Ategwyd y bydd y wybodaeth am wasanaethau penodol yn cael ei gyflwyno mewn adroddiad i’r Cabinet.

 

Mewn ymateb i sylw bod nifer  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

ADOLYGIAD O'R CYNLLUN DIRPRWYO pdf eicon PDF 155 KB

I ystyried a chefnogi diwygiadau arfaethedig i’r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion ynglŷn a chaffael gwaredu eiddo ac argymell y Cyngor Llawn i gymeradwyo y newidiadau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

Derbyn yr adroddiad yn cefnogi diwygiadau arfaethedig i’r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion ynglŷn a chaffael gwaredu eiddo ac argymell i’r Cyngor Llawn i gymeradwyo’r newidiadau. 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Monitro yn amlygu’r angen i ddiwygio’r Cynllun Dirprwyo oherwydd newidiadau sylweddol mewn gwerth eiddo a natur trafodaethau tir Cyngor Gwynedd. Ystyriwyd bod y ddarpariaeth bresennol hefyd wedi dyddio yn sylweddol a bod hwn yn gyfle i finiogi ystyr rhai agweddau cymhleth o’r maes.

 

Tynnwyd sylw at y bwriad o hwyluso proses o gaffael neu waredu tiroedd neu adeiladau ac at amodau a chyfyngiadau ar weithredu pwerau dirprwyedig.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad yn cefnogi diwygiadau arfaethedig i’r Cynllun Dirprwyo i Swyddogion ynglŷn â chaffael gwaredu eiddo ac argymell i’r Cyngor Llawn i gymeradwyo’r newidiadau.

 

 

13.

BLAENRAGLEN Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 118 KB

I ystyried y flaen raglen waith

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD: 

 

Derbyn y rhaglen waith ar gyfer Hydref 2025 – Medi 2026 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor hyd Medi 2026.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y rhaglen waith ar gyfer Hydref 2025 – Medi 2026