Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Dafydd Meurig,
Menna Baines, Elfed Wyn ap Elwyn a Wendy Cleaver |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
MATERION BRYS Cofnod: Dim i’w
nodi |
|
|
Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 9fed o Hydref 2025 fel rhai cywir. |
|
|
GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR I ystyried yr adroddiad a chynnig sywladau Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Nodyn:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r
Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel
bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd
bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda
bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau. Yn unol â chais a wnaed yng nghyfarfod mis Hydref 2025, tynnwyd sylw at
wybodaeth poblogaeth Siroedd a ddefnyddiwyd gan y Llywodraeth i osod y setliad. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD ·
Derbyn cynnwys yr
adroddiad Nodyn: ·
Cynnyrch Archwilio Mewnol cyfarfod 09-10-25 – cais i
adlewyrchu pryderon y Pwyllgor mewn ymateb i staff yn torri rheoliadau statudol
mewn Cartrefi Gofal yn well ·
cais i gynnwys dyddiad pendant ar gyfer ail gyflwyno
adroddiadau neu ddiweddariadau yn hytrach na nodi ‘yn amserol’ |
|
|
CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2025 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL Cyflwyno – · Datganiad o’r Cyfrifon ôl-archwiliad; · Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru · Llythyr Sylwadau (Atodiad 4 ISA260 Archwilio Cymru) Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad:
Cynrychiolaeth yn electroneg
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a
Phensiynau. Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfrifon amodol ar archwiliad Gwynedd ar
gyfer 2024/25 eisoes wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng nghyfarfod mis Medi lle
trafodwyd y Datganiad mewn manylder gan dynnu sylw at y prif faterion a’r
nodiadau perthnasol. Ategwyd bod
cyfrifon yr Harbyrau hefyd wedi eu cyflwyno i’r
Pwyllgor ym mis Mai a braf oedd adrodd nad oedd unrhyw addasiadau yn deillio
o’r Archwiliad, ac felly nid oedd angen eu hail gyflwyno. Adroddwyd bod y cyfrifon wedi bod yn destun archwiliad gan Archwilio
Cymru ers diwedd Mehefin ac mai barn ddiamod a roddwyd ar y cyfrifon gan yr
Archwilwyr gyda chyfuniad o addasiadau ac argymhellion yn dilyn archwiliad wedi
eu gweithredu. Cyfeiriwyd at y pedwar camddatganiad oedd heb eu cywiro, gan nodi nad
oeddynt yn cael eu hystyried fel rhai materol, ond ble’n
berthnasol, byddant yn cael eu cywiro fel rhan o gyfrifon 2025/26. ·
Nodyn 15: Eiddo Offer a
Chyfarpar : 1. Mater categoreiddio, sef bod eitem o wariant cyfalaf wedi ariannu o
Gronfa Ffyniant a Rennir y Deyrnas Unedig (UK Shared Prosperity Fund (UKSPF), wedi ei
gategoreiddio yn anghywir a’i drin fel ychwanegiad i’r fantolen yn hytrach na
fel gwariant refeniw a ariannwyd o gyfalaf trwy statud. Cadarnhawyd nad oedd yr
arian yn cael ei gwestiynu. 2. Yn ymwneud â mater technegol sydd yn ymwneud â thriniaeth cyfalaf 3. Bod gwall yn nhaflen waith prisiad Cyngor Gwynedd wedi arwain at
anghysondebau rhwng taflenni prisiad y Prisiwr a’r ffigyrau a ddefnyddiwyd i
ddiweddaru’r gofrestr. Bydd y rhain yn derbyn sylw priodol erbyn cyfrifon 2025-26. ·
Nodyn 21: Credydwyr - mater yn ymwneud a thriniaeth balans grant
ac yn cael ei gywiro ar gyfer cyfrifon 2025-26. ·
Nodyn 17a Offerynnau
Ariannol a Nodyn 35 Prydlesau SAARh 16 - materion
sy’n gysylltiedig â’i gilydd lle'r oedd gofyniad newydd ar gynghorau yn 2024/25
yn ymwneud â phrydlesu. Dyma’r flwyddyn gyntaf o ran triniaeth cyfrifo am
brydlesau, ac felly'r materion i gael sylw ar gyfer cyfrifon 2025-2026 Wrth drafod addasiadau i’r Datganiad o’r Cyfrifon sydd wedi eu newid,
tynnwyd sylw at, ·
Nodyn 19 - Arian a Chywerthoedd Arian a'r
categoreiddio ar 31 o Fawrth, sy’n ymwneud a chyfarwyddyd talu i’r banc ar
ddiwrnod olaf y flwyddyn a’i driniaeth. Fel y nodwyd yn adroddiad yr
Archwilwyr, mae canllawiau CIPFA yn gyfyngedig ar gyfer y senario penodol yma
a’r newid wedi effeithio’r fantolen a’r datganiad llif arian. ·
Nodyn 21 - Credydwyr.
Tynnwyd sylw at newid mewn categoreiddio credydwyr rhwng tymor hir a thymor byr
ar gyfer 2024/25 a’r flwyddyn flaenorol, ynghyd a chywiro cam-ddosbarthu
credydwyr o fewn Dyledwyr ac ychwanegiad geiriad yn Nodyn 18a Dyledwyr ·
Nodyn 35 Prydlesu SAARh 16 - oherwydd
gofynion newydd yn ymwneud â llesu, y fformat wedi ei addasu i gydymffurfio
gyda holl ofynion CIPFA ·
Nodyn 38 Costau Pensiwn
- nodyn wedi ei symleiddio ynghyd â gwella eglurder nodyn Partïon Cysylltiedig. Ategwyd nad oedd yr addasiadau yn effeithio’r Datganiad Incwm a Gwariant na’r datganiad o’r symudiadau mewn reserfau, ac yng nghyd-destun y ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
Cyflwyno –
Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn gofyn i’r
Pwyllgor ystyried a chymeradwyo’r Datganiad o’r Cyfrifon 2024/25
(ôl-archwiliad), adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru a’r Llythyr Cynrychiolaeth
cyn awdurdodi’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r llythyr yn
electroneg. Eglurodd Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau (Cyngor
Gwynedd), mai Cyngor Gwynedd, fel y Cyngor lletyol
oedd wedi bod yn gyfrifol am gyflawni cyfrifoldebau cyfrifo ac adrodd ar
faterion cyllidol Cydbwyllgor GwE. Daeth GwE i ben ar y 31 Mai 2025, a gan nad
oedd y Cydbwyllgor yn cyfarfod wedi’r dyddiad yma, y trefniant a benderfynwyd
oedd i gyfrifon 2024/25 gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio
eu cymeradwyo. Ategwyd y byddai cyfrifon
am Ebrill a Mai sydd yn berthnasol i 2025/26, hefyd yn cael ei gyflwyno maes o
law, wrth i’r sefyllfa am y flwyddyn gael ei derfynu. Nodwyd bod y cyfrifon
wedi bod yn destun archwiliad gan Archwilio Cymru ers diwedd mis Mehefin ac mai
barn ddiamod fydd wedi ei roi ar y cyfrifon gan Archwilwyr. Adroddwyd, na fu unrhyw newid i brif ddatganiadau ariannol yr adroddiad
a gyflwynwyd i’r Archwilwyr (y Fantolen,
Datganiad Incwm a Gwariant, Datganiad Llif Arian na’r Datganiad o’r Symudiadau
mewn Reserfau), ond bod ambell addasiad i’r nodiadau
sydd yn cefnogi’r Datganiad; ·
Nodyn 17b ‘Taliadau i
Swyddogion – bod addasiad i’r ffigyrau ar gyfer dau swyddog. ·
Nodyn 22 ‘Costau Pensiwn
y nodyn wedi ei symleiddio ac yn dangos y ffigyrau Pensiwn Net yn unig i
hwyluso’r darllenydd. ·
Nodyn 16 ‘Datganiad Lif Arian’ – tynnwyd sylw
at addasiad categori, er nad oedd newid i linell waelod y nodyn. Yn ychwanegol i hyn bod nifer fach o fân ddiwygiadau naratif i rai o’r
nodiadau. Ar ran Archwilio Cymru, nododd Siwan Glyn bod Archwilio Cymru yn bwriadu
cyhoeddi barn ddiamod ar gyfrifon 2024/25 gan ategu bod y cyfrifon yn rhoi
darlun gwir a theg o’r sefyllfa, yn cydymffurfio ag arferion priodol ac mai
gweithio i lefel o ‘berthnasedd’ roedd Archwilio Cymru. Adroddwyd bod y lefel o
berthnasedd yn cael ei bennu i geisio
adnabod a chywiro camddatganiadau allai beri fel arall i’r sawl sydd yn
defnyddio’r cyfrifon gael eu camarwain. Pennwyd y lefel perthnasedd o £199,000
ar gyfer archwiliad 2024/25 ac adroddwyd ar
gamddatganiadau trothwy uwchlaw £10,000, (a gyfrifir fel 5% o
berthnasedd). Tynnwyd sylw at restr risgiau'r archwilwyr oedd hefyd yn amlygu
sut yr aethpwyd i’r afael a hwy fel rhan o’r archwiliad. Adroddwyd na chanfuwyd
unrhyw risgiau archwilio Yng nghyd-destun cydymffurfio moesegol, nodwyd bod Archwilio Cymru wedi
parhau yn annibynnol a diolchwyd i Dîm Cyllid Cyngor Gwynedd am eu cefnogaeth. Croesawyd yr adroddiad a diolchwyd i bawb am eu gwaith. PENDERFYNWYD ·
Derbyn a chymeradwyo Adroddiad 'ISA260’ gan Archwilio
Cymru ar gyfer Cyngor Gwynedd ·
Derbyn a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon GwE 2024/25
(ôl-archwiliad) |
|
|
CYLLIDEB REFENIW 2025/26 – ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2025 I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet a sylwebu fel bo angen. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Nodyn: Cais am amserlen i drefniadau ail strwythuro Adran Priffyrdd
ac Adran Amgylchedd (erbyn cyfarfod Ionawr 2026) Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor
graffu’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i
adrannau. Eglurwyd bod yr adroddiad yn
manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2025/26, a’r
rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yn dilyn adolygiad diwedd Awst nodwyd bod y rhagolygon yn awgrymu
gorwariant o £6.3 miliwn gan adrannau’r Cyngor, gyda 75% ohono yn y maes gofal
oedolion a phlant. Eglurwyd, yn dilyn ymlaen o dueddiad mewn blynyddoedd
blaenorol, bod gorwariant sylweddol hefyd yn y maes gwastraff, priffyrdd a
bwrdeistrefol, ond tanwariant ar gyllidebau corfforaethol, sy’n golygu fod
hynny yn lleihau’r rhagolygon gorwariant yn ei gyfanrwydd i £2.5 miliwn. Tynnwyd sylw at y prif faterion: ·
Adran Oedolion, Iechyd a
Llesiant – rhagolygon diweddaraf yn
awgrymu os na fydd newid mewn gweithredu yn ystod y flwyddyn, bydd diffyg
cyllidebol o £3.1m erbyn diwedd y flwyddyn. Bu i werth £3 miliwn o arian
parhaol ei ddyrannu i’r maes ar gyfer 2025/26, ond bod gwerth miliwn o arbedion
a thoriadau, heb eu cyflawni hyd yma. Yng nghyd-destun gwasanaethau pobl hŷn, gwelwyd cynnydd yn y galw
am ofal preswyl pobl hŷn a hefyd cynnydd annisgwyl ac anarferol am ofal
preswyl oherwydd materion iechyd meddwl; y pwysau ar y ddarpariaeth gofal
cartref hefyd yn parhau. ·
Adran Plant a Theuluoedd
- yn rhagweld diffyg cyllidebol o £1.5 miliwn, a hynny yn dilyn rhoi dros £2
filiwn o fidiau i’r adran ar gyfer 2025/26. Y prif feysydd sydd yn wynebu
pwysau yw lleoliadau all-sirol, a’r ddarpariaeth plant gydag anableddau yn y gwasanaeth
Derwen a Hafan y Sêr. ·
Byw’n Iach – dros y
blynyddoedd diwethaf, Byw’n Iach wedi derbyn cefnogaeth ariannol flynyddol gan
y Cyngor uwchlaw taliad cytundebol y cytundeb darparu, i'w galluogi i gynnal eu
gwasanaethau. Adroddwyd bod y gefnogaeth ariannol yn parhau eleni a'r swm gofynnol
yn £219k ·
Adran Priffyrdd,
Peirianneg ac YGC - rhagwelir diffyg cyllidebol o £522k, gwelwyd lleihad yn y
gwaith sydd yn cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol sydd o ganlyniad yn
cael effaith negyddol ar incwm
gwasanaethau priffyrdd. Yn yr Uned Bwrdeistrefol, gwelir cyfuniad o
ffactorau, sy’n cynnwys pwysau ychwanegol ar gyllidebau staff glanhau strydoedd
a glanhau toiledau cyhoeddus; colledion incwm yn faterion cynnal tiroedd a
thoiledau cyhoeddus. ·
Adran Amgylchedd – bod diffyg cyllidebol o
£740k yn cael ei ragweld, gyda’r tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes
casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau ac yn gyfrifol am £662k o’r gorwariant.
Tynnwyd sylw at ystyriaethau ar sut i ariannu costau diogelu adeilad
Gwesty’r Corbett Arms yn
Nhywyn (adeilad rhestredig Gradd II), sydd wedi bod yn destun pryder i Gyngor
Gwynedd a'r gymuned leol ers blynyddoedd gan ei fod mewn cyflwr strwythurol
peryglus. Golygai hyn fod y Cyngor wedi gorfod gweithredu er mwyn amddiffyn a
diogelu'r cyhoedd a’r gost derfynol posib i fod rhywle rhwng £1m a £1.5m. Bydd
adroddiad i’w gyflwyno maes o law i ystyried opsiynau cyfarch y gost. · Tai ac Eiddo – tuedd o bwysau sylweddol ar y gwasanaeth llety argyfwng yn parhau, gyda ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8. |
|
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2025/26 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN I ystyried yr adroddiad fel gwybodaeth Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad
er gwybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan
y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor
2025/26 hyd 30 Medi 2025, yn erbyn Strategaeth Rheolaeth Trysorlys 2025/26 a
gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn Mawrth 2025. Nodwyd bod y strategaeth yn gofyn
i’r Rheolwr Buddsoddi adrodd ar ddangosyddion darbodus rheoli’r trysorlys yn
chwarterol i’r Pwyllgor Adroddwyd bod y cyfnod
wedi bod yn un prysur iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor a bod
sefyllfa ar 31 Mawrth 2025 yn gryf iawn gyda’r Cyngor mewn sefyllfa
buddsoddiadau net o £53m oherwydd y
lefel uchel o fuddsoddiadau a chyfalaf gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys arian
Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru. Amlygwyd, yn ystod y
cyfnod, bod newid i lefel benthyciadau’r Cyngor a hynny wedi ad-daliad
benthyciad hanesyddol. Eglurwyd bod gan y benthyciad o £16.2m gyda Barclays ddyddiad aeddfedu o 2074, ond bod cynnig wedi dod
i law i’w ad-dalu yn gynnar ar delerau ffafriol iawn, oedd yn arbed costau llog
yn y tymor hir i’r Cyngor. Cyfeiriwyd at fenthyciadau arall sydd gan y Cyngor
gyda’r Public Works Loan Board,
ond nid oes mantais o ad-dalu rhain yn gynnar ar hyn o bryd. Tynnwyd sylw at weithgaredd buddsoddi’r trysorlys gan nodi
bod y Cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn banciau a chymdeithasau adeiladau,
awdurdodau lleol, cronfeydd marchnad arian, swyddfa rheoli dyledion a
chronfeydd wedi’i pwlio, a rhain yn gyson gyda’r math
o fuddsoddiadau sydd wedi ei wneud gan y
Cyngor ers nifer o flynyddoedd bellach a bod y metrigau
risg ac enillion yn gyson gydag awdurdodau eraill. Nodwyd bod yr holl
weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a Rheolaeth
Trysorlys y Cyngor sydd yn newyddion da ac yn amlygu rheolaeth gadarn dros yr
arian. Yn y cyfnod dan sylw, buddsoddwyd ychydig yn uwch na’r lefel cymeradwy
ar gyfer y banciau a chronfeydd marchnad arian a hynny oherwydd bod gan y
Cyngor lefel uchel o arian, ac opsiynau yn brin. Ategwyd bod camau wedi eu
cymryd i sicrhau na fydd hyn yn digwydd yn y dyfodol drwy agor mwy o gyfrifon i
wasgaru’r arian. Tynnwyd sylw at y
Meincnod Ymrwymiadau (liability benchmark)
gan nodi ei fod yn arf pwysig i sefydlu os yw’r Cyngor yn debygol o fod yn
fenthyciwr allanol hirdymor ac felly yn siapio ffocws strategol a miniogi
penderfyniadau. Amlygwyd bod y Cyngor yn disgwyl parhau i fod uwchlaw ei
feincnod hyd at 2027 a hynny oherwydd bod y Cyngor yn dal cronfeydd wrth gefn,
a’r llif arian hyd yma wedi bod yn is na'r rhagdybiaethau a wnaed pan
fenthycwyd yr arian. Nodwyd hefyd nad oedd angen benthyca yn y tymor hira hynny
yn seiliedig ar y rhagamcanion cyfredol, er hynny, gwnaed sylw y bydd efallai
angen benthyca yn y tymor byr yn y dyfodol agos. Cyfeiriwyd yn olaf at y dangosyddion darbodus ac
adroddwyd bod cydymffurfiaeth lawn yma hefyd. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth |
|
|
CYFRADDAU CASGLU TRETH CYNGOR I dderbyn yr adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a chefnogi gweithrediadau sydd mewn lle gan yr adran. Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Nodyn:
Cofnod: Mewn ymateb i gais gan y Cadeirydd, cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y
Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Cynorthwyol Cyllid - Cynaliadwyedd a Datblygiadau,
yn amlinellu hyd a maint y ddyled o gasglu trethi a sut mae’r Cyngor yn
gweithredu i gyfarch y sefyllfa. Eglurwyd bod cyfraddau casglu Treth Cyngor (o
fewn y flwyddyn) yng Ngwynedd yr isaf yng Nghymru yn 2024/25, gyda 92.9% o’r
dyledion wedi eu casglu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol -hynny yn cyfateb i
£8.2miliwn o drethi yn ddyledus. Cyfeiriwyd at y cyfraddau casglu ar y mathau gwahanol o gyfrifon ar
gyfer 2024/25 ynghyd a gwerth y dyledion oedd heb eu casglu fesul categori.
Ymddengys o’r data bod premiwm ail gartrefi ac eiddo gwag yn effeithio
cyfraddau casglu cyffredinol, gyda’r dyledion ar gyfrifon sy’n cynnwys premiwm
yn ogystal â’r dreth sylfaenol yn £3.9m (£3.1m ar ail gartrefi a £0.8m eiddo
gwag) a'r dyledion ar gyfrifon Treth Cyngor sylfaenol yn unig, yn £4.3m. Nodwyd bod cyfradd casglu o 95.09% ar y
cyfrifon gyda Threth Cyngor sylfaenol yn unig, sydd yn 2.16% yn uwch na’r
cyfartaledd o 92.93% ar draws pob categori. Amlygwyd bod gweinyddu’r
Premiwm hefyd yn rhoi pwysau difrifol ar allu’r Gwasanaeth Trethi i gyflawni ei
waith gan gynrychioli cyfran enfawr o’r ymholiadau sydd rhaid i’r gwasanaeth
ddeilio â hwy ynghyd a gwendidau yn y Gwasanaeth sydd wedi cyfrannu at y
dirywiad yn y gyfradd casglu sy’n cynnwys:- ·
Ôl-groniad e-byst. ·
Oediad wrth anfon nodiadau
atgoffa yn ystod y flwyddyn. ·
Oediad cyn bod achosion yn cael
eu trosglwyddo i gwmni gorfodaeth. ·
Lefel yr adnoddau yn y Tîm
Adennill. Adroddwyd bod camau allweddol wedi eu cymryd ac yn parhau i’w cael eu
rhoi mewn lle i gryfhau’r trefniadau adennill. Nodwyd bod cynllun gweithredu
manwl wedi ei baratoi a staff
(trefniadau mewnol a thrwy asiantaeth trethi profiadol) wedi eu penodi i
gwblhau’r gwaith. Yn ogystal, rhoddwyd amserlen fanwl mewn lle ar gyfer anfon
nodiadau atgoffa yn 2025/26, adolygwyd trefniadau dirprwyo fel bod swyddogion
ar gael i weithredu yn ystod absenoldeb swyddogion allweddol ac fe adolygwyd
strwythurau adennill yr Adran Cyllid. Ategwyd bod newid yn y ddeddfwriaeth, lle mae gofyn i lety hunan-ddarpar yng Nghymru fod ar gael am 252 diwrnod a’i osod am 182 diwrnod y flwyddyn er mwyn cael eu cynnwys ar y rhestr ardrethi annomestig, wedi effeithio ar y cyfraddau casglu. Yn 2024/25, trosglwyddwyd 692 o eiddo yn ôl i Dreth Cyngor gyda 558 ohonynt wedi dychwelyd yn ystod ail hanner o’r flwyddyn. Nodwyd bod nifer ohonynt yn debygol o fod yn trosglwyddo o’r rhestr ardrethi annomestig lle nad oedd trethi yn daladwy, i fand Treth Cyngor lle'r oedd angen iddynt dalu'r dreth cyngor sylfaenol, a 150% o bremiwm treth cyngor; roeddent hefyd yn geisiadau oedd yn cael eu hôl-ddyddio (rhai ohonynt yn ôl i Ebrill 2023) ac o ganlyniad, roedd y biliau yn sylweddol ac felly’n parhau heb eu talu ar ddiwedd Mawrth 2025. Yn ychwanegol, erbyn diwedd Medi 2025, roedd 395 o eiddo pellach wedi trosglwyddo i fand Treth Cyngor o’i gymharu â 134 yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
|
MENTER TWYLL GENEDLAETHOL 2024-25: DIWEDDARIAD I nodi’r cynnwys, cynnig sylwadau a derbyn yr adroddiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn cynnwys yr
adroddiad er gwybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, ddiweddariad gan Carwyn
Rees (Archwilio Cymru) ar
ymarferiad diweddaraf Menter Twyll
Cenedlaethol 2024/25 ar lefel genedlaethol a lefel lleol (fel roedd y sefyllfa
31-07-25). Tynnwyd sylw at y nodyn briffio oedd yn cyflwyno gwybodaeth
gefndirol am yr asesiad, yn egluro bod yr ymarferiad yn cael ei gynnal pob dwy
flynedd ac yn fodd o atal a chanfod twyll drwy rannu a pharau data yn
electronig. Cwblhawyd yr asesiad ar y cyd gan Archwilio Cymru ac Archwilio
Mewnol Cyngor Gwynedd a bu’n gyfle da i rannu ymarfer da, a gwybodaeth fydd yn
bwydo i mewn i’r asesiad cenedlaethol. Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD Derbyn
cynnwys yr adroddiad er gwybodaeth |
|
|
BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR I ystyried yr adroddiad Penderfyniad: PENDERFYNIAD:
Cofnod: Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor hyd
Hydref 2026. Atgoffwyd yr Aelodau pe baent eisiau ychwanegu eitem arall i’r
flaenraglen i gynnig hynny drwy anfon e-bost at y Cadeirydd neu’r Pennaeth
Cyllid. PENDERFYNWYD: ·
Derbyn y rhaglen waith hyd
Tachwedd 2026 ·
Bod angen cyflwyno diweddariad ar
‘Adolygiad Ymarfer Plant’
Cyfiawnder trwy ein Dewrder,
i gyfarfod Ionawr 2026 |