Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Menna Baines, Cynghorydd Angela Russell, Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn a Carys Edwards

 

Cydymdeimlwyd gyda Carys Edwards oedd wedi colli ei mham yn ddiweddar

 

Diolchwyd i Clare Hitchcock am ei chyfraniad gwerthfawr a’i chefnogaeth i’r Pwyllgor dros y ddwy flynedd ddiwethaf a dymunwyd pob lwc iddi i’r dyfodol.

 

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 183 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 10fed o Hydref 2024 fel rhai cywir.

 

5.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 166 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

 

6.

ADRODDIAD PWYLLGOR GWELLA RHEOLAETHOL pdf eicon PDF 257 KB

I ystyried yr adroddiad

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·        Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn:

Cyfeirio argymhellion yr adroddiad at sylw’r Pwyllgor Craffu Gofal

Rhannu adroddiad ‘Llechen Lan’ gydag Aelodau’r Pwyllgor

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cadeirydd yn manylu ar brif ddarganfyddiadau cyfarfod diweddar o’r Gweithgor Gwella Rheolaethol wrth iddynt drafod archwiliadau Plas Pengwaith, Llys Cadfan a Plas Hafan. Adroddwyd bod yr archwiliadau wedi derbyn lefel sicrwydd ‘cyfyngedig’ a hynny oherwydd, “er bod rheolaethau mewn lle, bod angen gwella cydymffurfiaeth â’r rheolaethau a / neu gyflwyno rheolaethau newydd i leihau’r risgiau maer’ gwasanaetha yn agored iddynt”. Eglurwyd bod y Gweithgor Gwella yn gyfle i holi’r swyddogion perthnasol am ddarganfyddiadau’r archwiliadau gan fynd i’r afael a’r prif faterion / diffygion. Ategwyd mai materion rheolaethol oedd wedi derbyn sylw ac nad oedd yr archwiliadau yn adlewyrchu dim ar safon y gofal a roddir i’r preswylwyr sydd bob amser yn derbyn blaenoriaeth, ac yn eu hiaith ddewisol.

 

Nodwyd mai’r prif resymau dros y  gwendidau rheolaethol oedd diffyg adnoddau staffio a'r pwysau a roddi’r i’r Rheolwyr o ganlyniad i hynny. Trafodwyd diffyg recriwtio a chadw staff a dibyniaeth ar staff asiantaethau  yn dilyn newidiadau i’r strwythur tal yn dilyn colli hawl i chwydd-daliad.

 

Cytunwyd yn y Gweithgor y byddai’n fuddiol i’r Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant gynnal adolygiad ar y cyd gydag Archwilio Mewnol i edrych ar wariant staff asiantaeth a'r goblygiadau ariannol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Bod y cyfarfod wedi bod yn fuddiol - yn rhoi cyfle i swyddogion a rheolwyr y cartrefi ymateb yn onest i’r sefyllfa

·        Pryder am gostau staff asiantaethau - cytuno bod angen cynnal adolygiad i geisio cadw staff o dan reolaeth Cyngor Gwynedd - byddai hyn yn lleihau trosiant

·        Awgrym am grynodeb o’r materion sydd angen sylw i’w cynnwys ar ddiwedd yr adroddiad

·        Bod angen cyfeirio argymhellion yr adroddiad at sylw’r Pwyllgor Craffu Gofal

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â bwriad y Canghellor i osod yswiriant gwladol ar gyfraniadau pensiwn cyflogwyr ac o ganlyniadau y byddai asiantaethau gofal yn gorfod talu costau cyflogi uwch, a’r pryder y bydd hyn yn gwaethygu’r sefyllfa staffio, nodwyd er nad oedd manylion wedi eu cadarnhau, y bydd gweithwyr y sector cyhoeddus yn cael eu heithrio o’r newid, a hynny oherwydd byddai’n rhaid i adrannau’r llywodraeth wneud toriadau sylweddol i’w cyllidebau i ariannu’r newid. Ategwyd fod disgwyl bydd y Cyngor yn cael eu had-dalu am gostau yswiriant gwladol staff cartrefi’r Cyngor, ond nad oes disgwyl y bydd iawndal o’r fath yn daladwy ar gyfer staff sy’n cael eu cyflogi trwy asiantaethau.

 

Ategodd  Aelod Cabinet Cyllid ei fod wedi bod mewn trafodaethau gyda Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol Cabinet Cymru am y sefyllfa a bod disgwyl mwy o fanylion yn Ionawr 2025. Bydd y manylion yn rhoi darlun o’r effaith ar y gyllideb - swm sydd yn debygol o fod oddeutu £5 miliwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyflogau gweithwyr gofal, nododd y Rheolwr Archwilio, er bod codiad cyflog wedi ei gyflwyno yn y blynyddoedd diwethaf, nad oedd yn ddigonol;  bod y tal penwythnos (y chwydd - ddaliad) wedi bod yn ‘hanesyddol ddeniadol’ a bellach staff yn gadael oherwydd telerau gwell yn y maes iechyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CAU ALLAN Y WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff  Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972

 

Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol( yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig  mewn bod yn agored  ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi.  Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff  a’r Cyngor ac yn tanseilio hyder  i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn, mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD cau’r wasg a’r cyhoedd allan o’r cyfarfod yn ystod y drafodaeth ar yr eitemau canlynol gan ei fod yn debygol y datgelir gwybodaeth eithriedig fel y’i diffinnir ym mharagraff Paragraff 14 o Atodiad 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 Gwybodaeth ynglŷn â thrafodion ariannol neu fusnes unrhyw berson penodol (yn cynnwys yr awdurdod sydd yn dal y wybodaeth hynny). Mae budd cyhoeddus cydnabyddedig mewn bod yn agored ynglŷn â defnydd adnoddau cyhoeddus a materion ariannol cysylltiedig. Cydnabyddir fodd bynnag fod adegau, er gwarchod buddiannau ariannol a masnachol cyhoeddus fod angen trafod gwybodaeth o’r fath heb ei gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn benodol ynglŷn a materion ariannol a busnes ynghyd a thrafodaethau cysylltiedig Byddai cyhoeddi gwybodaeth fasnachol sensitif o’r math yma yn gallu bod yn niweidiol i fuddiannau’r cyrff a’r Cyngor ac yn tanseilio hyder i rannu gwybodaeth sensitif ar gyfer ystyriaeth. Byddai hyn yn groes i’r budd cyhoeddus ehangach o sicrhau yr allbwn cyfansawdd gorau. Am y rhesymau hyn, mae’r mater yn gaeedig er y budd cyhoeddus.

 

8.

ADRODDIAD ARCHWILIAD ARBENNIG - GOFAL CARTREF

Copi i’r Aelodau yn unig

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·        Derbyn cynnwys yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

·        Angen diweddariad pellach yn rhoi sicrwydd bod y sefyllfa yn gwella, gyda mewnbwn gan y Prif Weithredwr

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn manylu ar ddarganfyddiadau archwiliad arbennig a gomisiynwyd gan Gyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Prif Weithredwr i ofal cartref. Gosodwyd pedwar cwestiwn gan y comisiynwyr:

 

·        Oes gan yr adran reolaeth gyllidol ddigonol ar y ddarpariaeth gofal cartref preifat?

·        Oes rheolaeth weithredol ddigonol ar gomisiynu gofal cartref preifat?

·        Ydi trefniadau rheoli risgiau ar y ddarpariaeth gofal cartref preifat yn ddigonol?

·        Oes gan yr adran ddata rheolaethol effeithiol ar gyfer rheoli a chomisiynu gofal cartref preifat?

 

Pwysleisiwyd nad oedd yr archwiliad yn cwmpasu adolygiad o’r gofal.

 

Nodwyd er bod model comisiynu gofal cartref yn un uchelgeisiol, yr heriau gweithredu wedi methu a bellach elfen o ail-strwythuro wedi eu rhoi mewn lle a Grŵp Prosiect wedi ei sefydlu dan arweiniad y Pennaeth. Yn ogystal, amlygwyd bod rhaglen waith wedi ei llunio i gyfarch y gwendidau a’r blaenoriaethu ac y bydd Archwilio Mewnol yn derbyn gwahoddiad i fynychu’r Grŵp Prosiect.

 

Trafodwyd yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

 

·        Derbyn cynnwys yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

·        Angen diweddariad pellach yn rhoi sicrwydd bod y sefyllfa yn gwella, gyda mewnbwn gan y Prif Weithredwr

 

9.

AIL AGOR Y CYFARFOD I'R WASG A'R CYHOEDD

Bydd y Cadeirydd yn cynnig ail agor y cyfarfod i’r wasg a’r cyhoedd

Cofnod:

PENDERFYNWYD ail agor y cyfarfod i’r wasg a’r cyhoedd

 

 

 

10.

ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 96 KB

I ystyried diweddariad ar raglen waith Archwilio Cymru Chwarter 2

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn diweddariad ar waith Archwilio Cymru Chwarter 2

 

Cofnod:

Croesawyd Alan Hughes, Yvonne Thomas o Archwilio Cymru a Dewi Wyn Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor) i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd diweddariad chwarterol (hyd at 30 Medi 2024) o raglen waith ac amserlen Archwilio Cymru. Trafodwyd y gwaith archwilio ariannol a'r gwaith archwilio perfformiad lleol gan dynnu sylw at Adolygiad thematig - Cynaliadwyedd Ariannol, a Gwaith Prosiect - Ymateb i’r Galw Presennol am Ofal Cartref - y gobaith yw rhannu darganfyddiadau’r ddau archwiliad yn fuan.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag Astudiaeth Llety Dros Dro ac er yn astudiaeth genedlaethol, a fydd bwriad rhannu negeseuon ymarfer da, nodwyd bod y wybodaeth yn cael ei gasglu drwy edrych ar drefniadau sampl o gynghorau ar draw Cymru. Bydd canlyniadau'r wybodaeth a gasglwyd, fydd yn cynnwys ymarfer da a’r heriau fydd angen ymateb iddynt, yn cael ei rannu gyda’r holl Gynghorau.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn diweddariad ar waith Archwilio Cymru Chwarter 2

 

11.

CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2024 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 268 KB

Cyflwyno

·        Datganiad o’r Cyfrifon ôl-archwiliad

·        Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru

·        Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1)

 

I ystyried a chymeradwyo’r wybodaeth cyn awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn a chymeradwyo Adroddiad 'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Gwynedd

·       Derbyn a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon 2022/23 (ôl-archwiliad)

·       Is-gadeirydd y Pwyllgor ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth yn electroneg

·       Llongyfarch y swyddogion ar eu gwaith o dderbyn datganiad diamod

·       Diolch i Archwilio Cymru am gydweithio da

 

Cofnod:

Eglurodd y Pennaeth Cyllid bod cyfrifon 2023/24, amodol ar archwiliad, eisoes wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng nghyfarfod Medi 2024  lle bu i’r Datganiad gael ei egluro yn fanwl drwy dynnu sylw’r aelodau at y prif faterion a’r nodiadau perthnasol. Nododd bod y cyfrifon wedi bod yn destun archwiliad gan Archwilio Cymru ers yr 20fed o Fehefin ac mai’r Datganiad o’r Cyfrifon yn dilyn yr archwiliad oedd yn cael eu cyflwyno yma.

 

Ategodd Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau mai barn ddiamod a roddwyd ar y cyfrifon gan yr Archwilwyr ac ers y fersiwn a gyflwynwyd ym mis Medi, bod  addasiadau ac argymhellion yn dilyn yr archwiliad, wedi eu gweithredu ac ystyriaeth wedi ei roi i’r camddatganiadau. Cyfeiriwyd at y pedwar camddatganiad oedd heb eu cywiro, gan nodi bod tri ohonynt yn ymwneud â’r maes asedau ac un yn ymwneud â thriniaeth budd-daliadau i’r digartref. Ystyriwyd nad oedd y camddatganiadau hyn yn faterol ac felly bwriad y Cyngor oedd eu cywiro fel rhan o gyfrifon 2024/25.

 

Wrth drafod addasiadau i’r Datganiad o’r Cyfrifon sydd wedi eu newid, nodwyd, yng nghyd-destun yr addasiad disgwyliedig yn ymwneud â phensiynau (Ymrwymiad Pensiwn) mai’r flwyddyn ddiwethaf oedd y flwyddyn gyntaf i weld sefyllfa o ased pensiwn yn hytrach nag ymrwymiad, sefyllfa a ystyriwyd yn ddigynsail oherwydd amodau’r farchnad a chwyddiant uchel, ac felly nid oedd y sefyllfa yn unigryw i Wynedd. O ganlyniad, eglurwyd bu cryn drafodaeth o ran ei driniaeth yn y cyfrifon y llynedd, a cafwyd arweiniad gan CIPFA a Thim Technegol Archwilio Cymru. Eleni fodd bynnag, cafwyd mwy o arweiniad gan yr Actiwari, ac yn dilyn derbyn cadarnhad gan Archwilio Cymru mai dyma’r dull cyfrifo oedd yn cael ei ffafrio, newidwyd y cyfrifon i adlewyrchu’r fethodoleg newydd. Ategwyd bod yr newid wedi cael effaith ar y prif ddatganiadau a’r nodiadau cysylltiedig.

 

Cyfeiriwyd at addasiadau eraill oedd wedi eu newid i gydymffurfio gyda chod ymarfer CIPFA:

·        Ychwanegwyd geiriad i Nodyn 4 Safonau Cyfrifeg

·        Ychwanegiad i Nodyn 39 Ymrwymiadau Dibynnol ac yn gysylltiedig â hyn, i’r addasiad i’r risg yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol oherwydd addasiad amseriad.

·        Nodyn 18 Dyledwyr - gwelwyd bod ffigyrau dyledwyr hirdymor yn faterol eleni ac felly er wedi ei gynnwys yn y Nodyn ‘offerynnau ariannol’, roedd gofyn iddynt gael eu cynnwys yn y ffigyrau dyledwyr hefyd.

·        Nodyn 30 ‘Taliadau i Swyddogion’ ychwanegiad i sicrhau eglurder i’r darllenwyr a chydymffurfio gyda rheoliadau cyfrifon;

·        Nodyn 33 Partïon Cysylltiedig - nifer o addasiadau ac ychwanegiadau i’r nodyn yma, a gan fod lefel materol y nodyn yn is na gweddill y cyfrifon (£10k i gymharu gyda £285k). Er yn ymddangos yn gryno, nodwyd bod llawer o waith wedi ei wneud i gwblhau’r nodyn o fewn amser byr iawn gan fod angen edrych ar ddychweliadau holl gynghorwyr Gwynedd. I’r dyfodol, bydd y swyddogion yn annog Cynghorwyr i gwblhau eu dychweliadau yn amserol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Gwahoddwyd Yvonne Thomas, Sioned Owen a Siwan Glyn o Archwilio Cymru i rannu eu sylwadau. Adroddwyd y bwriad o gyhoeddi barn diamod ar y cyfrifon gyda’r  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 11.

12.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2024-25 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 267 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad er gwybodaeth.

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor 2024/25 hyd 30 Medi 2024, yn erbyn Strategaeth Rheolaeth Trysorlys 2024/25 a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn Mawrth 2024. Nodwyd bod y strategaeth yn gofyn i’r Rheolwr Buddsoddi adrodd ar ddangosyddion darbodus rheoli’r trysorlys yn chwarterol gydag adolygiad o’r flwyddyn ariannol llawn hefyd i’w gyflwyno i’r Pwyllgor pan yn amserol.

 

Adroddwyd bod cyfnod wedi bod yn prysur iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor gyda’r arian wedi cael ei gadw’n ddiogel. Er hynny, nodwyd bod cyfraddau llog wedi gostwng yn y cyfnod a hynny wrth i chwyddiant leihau.

 

Ar 30 Medi 2024, roedd y Cyngor mewn sefyllfa gref iawn gyda buddsoddiadau net a hynny oherwydd y lefel uchel o fuddsoddiadau a chyfalaf gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys arian y Bwrdd Uchelgais a’r Gronfa Bensiwn.  Nodwyd nad oedd unrhyw symud sylweddol wedi bod yn lefel y benthyciadau yn y 6 mis diwethaf; y Cyngor yn parhau gyda’r strategaeth o ddefnyddio adnoddau mewnol cyn benthyca’n allanol. Ategwyd bod y Cyngor yn buddsoddi mewn banciau a chymdeithasau adeiladau, awdurdodau lleol, cronfeydd marchnad arian, swyddfa rheoli dyledion a chronfeydd wedi’i pwlio, a rhain yn gyson gyda’r math o fuddsoddiadau sydd wedi ei  wneud gan y Cyngor ers nifer o flynyddoedd bellach a bod y metrigau risg ac enillion yn gyson gydag awdurdodau eraill.

Adroddwyd bod y gyfradd banc sylfaenol wedi bod yn 5.25% yn y cyfnod mae’r dychweliadau wedi bod yn safonol.

 

Nodwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a Rheolaeth Trysorlys y Cyngor sydd yn newyddion da ac yn amlygu rheolaeth gadarn dros yr arian. Tynnwyd sylw at y Meincnod Ymrwymiadau (liability benchmark) gan nodi ei fod yn arf pwysig i sefydlu os yw’r Cyngor yn debygol o fod yn fenthyciwr allanol hirdymor ac felly yn siapio ffocws strategol a miniogi penderfyniadau. Amlygwyd bod y Cyngor yn disgwyl parhau i fod uwchlaw ei feincnod hyd at 2025 a hynny oherwydd bod y Cyngor yn dal cronfeydd wrth gefn, a’r llif arian hyd yma wedi bod yn is na'r rhagdybiaethau a wnaed pan fenthycwyd yr arian.

 

Cyfeiriwyd yn olaf at y dangosyddion darbodus ac adroddwyd bod cydymffurfiaeth lawn yma hefyd. Tynnwyd sylw at berfformiad refeniw rheolaeth trysorlys a’r amcan incwm llog (yr incwm llog am fod yn is na’r gyllideb a hynny oherwydd bod y gyfradd llog wedi gostwng, gyda rhagolygon o ostyngiad pellach). 

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

13.

ADRODDIAD BLYNYDDOL CWYNION A GWELLA GWASANAETH 2023-24 pdf eicon PDF 114 KB

I ystyried y wybodaeth a gyflwynir, a chynnig unrhyw sylwadau neu awgrymiadau perthnasol.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn yr adroddiad

·       Derbyn cynnig Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol i gyflwyno adroddiad pellach fydd yn gosod cyd-destun i bolisïau a threfniadau gwella gwasanaeth

 

Nodyn:

Atodiad A : Cwynion a Gafwyd: Cyngor Gwynedd – angen gwirio canran poblogaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth yr Adran Gwasanaeth Corfforaethol yn cyflwyno sylwadau Ombwdsman Cymru ar drefniadau a pherfformiad y Cyngor yng nghyswllt ymdrin â chwynion a gwella gwasanaethau yn ystod 2023/24 gan amlygu llwyddiannau, sialensiau a datblygiadau. Atgoffwyd yr Aelodau bod gofyn statudol ar y Pwyllgor i sicrhau bod gan y Cyngor drefniadau effeithiol ar gyfer ymdrin â chwynion. Ategwyd, ni fu unrhyw newid yn y drefn na’r Polisi Pryderon a Chwynion yn ystod 2023/2024 ac felly bod cynnwys llythyr yr Ombwdsman yn seiliedig ar y Polisi a fabwysiadwyd gan y Cyngor yn 2021.

 

Adroddwyd bod y Llythyr Blynyddol wedi dod i law 9fed o Fedi 2024. Cyfeiriwyd at rai sylwadau ac argymhellion a wnaethpwyd gan yr Ombwdsmon oedd yn cynnwys, “Byddwn yn annog Cyngor Gwynedd, ac yn benodol, eich Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, i ddefnyddio'r data hwn i ddeall eich perfformiad o ran cwynion yn well ac ystyried pa mor dda y mae dulliau ymdrin â chwynion yn dda wedi'i wreiddio ledled yr Awdurdod”.

 

Yng nghyd-destun trefniadau Gwynedd, awgrymwyd cyflwyno adroddiad pellach i’r Pwyllgor fyddai’n gosod cyd-destun i bolisïau a threfniadau gwella gwasanaeth. Ystyriwyd y byddai gwybodaeth o’r fath yn fuddiol i’r Pwyllgor gan nad yw llythyr yr Ombwdsman yn cyfleu hynny.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Croesawu derbyn adroddia pellach – saith o’r cwynion yn ymwneud â threfn ac felly buddiol fyddai cael gwybodaeth ychwanegol o ystyried mai dyletswydd y Pwyllgor yw craffu’r drefn

·        Bod atodiad B yn cynnig nifer y cwynion a gafwyd fesul pwnc yn unig – angen mwy o wybodaeth ynglŷn â phatrwm cwynion a sut y gellir adnabod / ymateb i’r patrymau hynny

·        Yn croesawu bod nifer o’r cwynion yn cael eu dartys cyn cyrraedd yr Ombwdsman

·        A yw swyddogion yn trafod gydag awdurdodau eraill? A oes lle yma i ddysgu a rhannu profiadau? A oes cymariaethau fesul gwasanaethau awdurdodau eraill ar gael?

·        Bod camgymeriad yn y fersiwn Gymraeg o Atodiad 1 i lythyr yr Ombwdsmon – nid yw ffigyrau nifer y cwynion fesul 1,000 poblogaeth yn gwneud synnwyr gan fod nifer cwynion Gwynedd, Ynys Môn a Conwy mwy neu lai yr un peth (38, 38 a 36) a gan fod poblogaeth Gwynedd a Chonwy yn eithaf tebyg i’w gilydd ond poblogaeth Ynys Môn yn sylweddol llai, nid yw’n gwneud unrhyw synnwyr fod Gwynedd yn 0.55 ac Ynys Môn yn 0.2.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nodwyd bod Cyngor Gwynedd yn dueddol o fod yn fwy agored  am eu cwynion ac o ganlyniad y ffigyrau yn ymddangos yn uwch na ffigyrau Awdurdodau eraill (cwynion i’r Ombwdsman yn unig oedd yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad). Nodwyd bod newid yn niwylliant y Cyngor yn amlygu bod Gwasanaethau yn ymdrin â chwynion cyn iddynt gyrraedd y drefn cwynion a bod hyn i’w groesawu.

 

PENDERFYNWYD

·        Derbyn yr adroddiad

·        Derbyn cynnig Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol i gyflwyno adroddiad pellach fydd yn gosod cyd-destun i bolisïau a threfniadau gwella gwasanaeth

 

Nodyn:

Atodiad A : Cwynion a Gafwyd: Cyngor Gwynedd (Ferswin Gymraeg) – angen gwirio  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 13.

14.

ADOLYGIAD O DDOSBARTHIADAU A MANNAU PLEIDLEISIO pdf eicon PDF 116 KB

I ystyried  cynnwys yr adroddiad a nodi os yw’n barod i dderbyn  canlyniadau’r adolygiad, fel y nodir yn yr Atodiad, a hefyd os dymunir  cyflwyno unrhyw sylwadau ar ei gynnwys  i’w rhoi gerbron y Cyngor. 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn yr adroddiad

·       Cymeradwyo canlyniadau’r adolygiad i’w gyflwyno i'r Cyngor Llawn 05-12-24

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Priodoldeb ac Etholiadau yn amlygu’r angen i’r Pwyllgor gymeradwyo canlyniadau’r adolygiad o ddosbarthiadau pleidleisio a mannau pleidleisio etholaethau seneddol Dwyfor Meirionnydd a Bangor Aberconwy (i’r graddau y maent o fewn Gwynedd) o fewn Gwynedd, yn dilyn cyfnod ymgynghori, er mwyn ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn am benderfyniad.

 

Eglurwyd ei bod yn ofynnol i Awdurdodau Lleol rannu’u hardal i ddosbarthiadau pleidleisio ar gyfer etholiadau seneddol y DU, ac i ddynodi mannau pleidleisio ar gyfer y dosbarthiadau pleidleisio hyn. O dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Rheoliadau Arolwg Dosbarthiadau Pleidleisio a Mannau Pleidleisio (Etholiadau Seneddol) 2006 mae’n ofynnol i’r Cyngor adolygu pob dosbarth pleidleisio a mannau pleidleisio bob pum mlynedd.

 

Ategwyd bod adolygiad statudol wedi ei gynnal rhwng 23 Medi 2024 a 1 Tachwedd 2024. Cyhoeddwyd rhybudd cyhoeddus o’r adolygiad ynghyd â manylion am y dosbarthiadau a gorsafoedd pleidleisio presennol ac anfonwyd  copïau i bartïon allai fod â diddordeb, megis aelodau Cyngor Gwynedd, cynghorau tref a chymuned y sir a’r pleidiau gwleidyddol.  Gofynnwyd hefyd am sylwadau gan aelodau’r Grŵp Craidd Cydraddoldeb fel personau sydd ag arbenigedd penodol mewn perthynas â mynediad i adeiladau neu gyfleusterau i bobl â gwahanol fathau o anabledd.

 

Cyfeiriwyd at yr ymatebion a dderbyniwyd gan nodi bod y sefyllfa yn cael ei fonitro yn barhaus.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Bod angen edrych ar y nifer sydd yn pleidleisio mewn rhai safleoedd – a oes cyfiawnhad gwariant i rai sydd â nifer isel?

·        Mynediad anfoddhaol i rai safleoedd - e.e., Ysgol Santes Helen, Caernarfon

 

Mewn ymateb, nodwyd bod pob ymgais yn cael ei wneud i sicrhau balans a chael safle sydd yn hygyrch a chyfleus i bleidleiswyr

 

PENDERFYNWYD:

 

·        Derbyn yr adroddiad

·        Cymeradwyo canlyniadau’r adolygiad i’w gyflwyno i'r Cyngor Llawn

05-12-24

 

15.

BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 112 KB

I ystyried y flaenraglen

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn y Rhaglen waith ar gyfer Ionawr 2025 – Tachwedd  2025

 

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor hyd Hydref 2025.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn a materion a godwyd yn y cyfarfod, nododd y Pennaeth Cyllid y byddai’r eitemau hynny yn cael eu cynnwys yn y rhaglen waith – bod y rhaglen waith yn ddogfen fyw a hyblyg.

 

PENDERFYNWYD:                                                                                                         

 

Derbyn y Rhaglen waith ar gyfer Ionawr 2025 – Tachwedd  2025