Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol Cadeirydd ar gyfer 2020/21. Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd John Brynmor
Hughes yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd John Brynmor Hughes
yn Gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21. |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is Gadeirydd ar gyfer 2020/2021 Penderfyniad: Ethol y Cynghorydd John Pughe
Roberts yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21. Cofnod: PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd John Pughe Roberts
yn Is-gadeirydd y pwyllgor hwn am 2020/21. |
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriad gan y Cynghorydd Charles W. Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd
datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd
yn cynnig bod cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd 30 Gorffennaf
2020 yn rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Gorffennaf,
2020 fel rhai cywir. |
|
CYFRIFON TERFYNOL - CYNGOR GWYNEDD PDF 211 KB a) Cyflwyno’r datganiadau ariannol
statudol diwygiedig b) (i) Cyflwyno adroddiad ffurfiol “ISA
260” Cyngor Gwynedd b) (ii) Awdurdodi Cadeirydd
y Pwyllgor a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth” (y Cyngor) Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: (a) Cymeradwyo’r
Datganiad o’r Cyfrifon 2019/20 (ôl-archwiliad), yn ddarostyngedig i fân
addasiadau pellach, yn unol â’r hyn a adroddwyd ar lafar yn y cyfarfod, a
dirprwyo’r hawl i’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r
Is-gadeirydd a’r Aelod Cabinet Cyllid, i ardystio’r Datganiad o’r Cyfrifon
2019/20 a’r Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad Deloitte) ar ôl
gwneud y mân addasiadau i’r Cyfrifon. (b) Nodi a derbyn yr
adroddiad’ISA260’ gan Deloitte ar gyfrifon 2019/20 Cyngor Gwynedd. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a
chymeradwyo’r Datganiad o’r Cyfrifon 2019/20 (ôl-archwiliad), adroddiad
‘ISA260’ Deloitte a’r Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad Deloitte),
cyn awdurdodi’r Cadeirydd i ardystio’r llythyr. Nododd y Pennaeth Cyllid y bu i’r pwyllgor dderbyn y cyfrifon
cyn-archwiliad ar 23 Gorffennaf, ond bod Deloitte wedi tynnu sylw yn hwyr yn y
dydd at yr angen i wneud mân newid i ddau ffigur yn ymwneud ag ail-brisio
rhwymedigaethau’r gronfa bensiwn, sef newid o amcangyfrif i wirioneddol, ac
addasiad cymesur i’r reserfau anefnyddiadwy.
Gan hynny, gofynnid i’r pwyllgor gymeradwyo’r cyfrifon, gan ddirprwyo’r
hawl i’r Cadeirydd ac yntau, fel Pennaeth Cyllid, mewn ymgynghoriad gyda’r
Is-gadeirydd a’r Aelod Cabinet Cyllid, i ardystio’r Datganiad o’r Cyfrifon
2019/20 a’r Llythyr Cynrychiolaeth ar ôl gwneud y mân addasiadau angenrheidiol
i’r cyfrifon. Yna
gwahoddwyd Ian Howse i gyflwyno adroddiad ‘ISA260’ Deloitte ar ran Archwiliwr
Cyffredinol Cymru. Nodwyd bod yr archwilwyr
yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni, unwaith y
byddai’r Llythyr Cynrychiolaeth wedi ei arwyddo. Manylwyd ar:- ·
Effeithiau Covid-19 ar archwiliad eleni ·
Barn Archwilio Arfaethedig ·
Materion arwyddocaol yn codi o’r archwiliad, gan gynnwys
camddatganiadau nas cywirwyd a chamddatganiadau a gywirwyd a materion
arwyddocaol eraill ·
Argymhellion Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:- ·
Holwyd
a oedd y materion o brisio gwerth buddsoddiadau mewn cronfeydd eiddo a’r
effaith ar y Gronfa Bensiwn yn fater unigryw i Wynedd. Mewn ymateb, eglurwyd bod yr addasiad yn
gyffredin i brisio gwerth buddsoddiadau mewn cronfeydd eiddo holl awdurdodau
Cymru, gyda’r effaith ar werth asedau yn y cyfrifon yn ddibynnol ar lefel
materoldeb y buddsoddiadau mewn cronfeydd eiddo. ·
Gan gyfeirio at Ran 3 o Atodiad C i’r cyfrifon -
Trefniadau Llywodraethu a’u Heffeithiolrwydd - Rhanddeiliaid (tud 112 o’r
rhaglen), awgrymwyd y dylai’r berthynas wan gyda rhanddeiliaid sefydliadol fod
â sgôr risg llawer uwch na 9, yn enwedig o ystyried effaith Covid-19. Mewn ymateb, eglurwyd fod y pwyllgor wedi
cymeradwyo ac ymrwymo i’r rhan hwn o’r datganiad llywodraethu eisoes, ac felly
nid oedd modd addasu’r sgôr yn y cyfarfod hwn.
Gofynnwyd am ail-edrych ar hyn ar gyfer y flwyddyn nesaf. PENDERFYNWYD (a) Cymeradwyo’r Datganiad o’r Cyfrifon 2019/20 (ôl-archwiliad), yn
ddarostyngedig i fân addasiadau pellach yn unol â’r hyn a adroddwyd ar lafar yn
y cyfarfod, a dirprwyo’r hawl i’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid, mewn
ymgynghoriad gyda’r Is-gadeirydd a’r Aelod Cabinet Cyllid, i ardystio’r
Datganiad o’r Cyfrifon 2019/20 a’r Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i
adroddiad Deloitte) ar ôl gwneud y mân addasiadau i’r Cyfrifon. (b) Nodi a derbyn yr adroddiad ’ISA260’ gan Deloitte ar gyfrifon
2019/20 Cyngor Gwynedd. |
|
CYFRIFON TERFYNOL - CRONFA BENSIWN GWYNEDD PDF 201 KB a) Cyflwyno’r datganiadau
ariannol statudol diwygiedig b) (i) Cyflwyno adroddiad
ffurfiol “ISA 260” y Gronfa Bensiwn b) (ii)
Awdurdodi Cadeirydd y Pwyllgor a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth”
(y Gronfa Bensiwn) Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: (a) Cymeradwyo’r
Datganiad o Gyfrifon 2019/20 Cronfa Bensiwn Gwynedd (ôl-archwiliad) (b) Nodi a derbyn yr
Adroddiad ‘ISA260’ gan Deloitte ar gyfrifon 2019/20 Cronfa Bensiwn Gwynedd. (c) Awdurdodi’r
Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i
adroddiad Deloitte). Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor ystyried a
chymeradwyo’r Datganiad o Gyfrifon 2019/20 Cronfa Bensiwn Gwynedd
(ôl-archwiliad), nodi a derbyn adroddiad ‘ISA260’ Deloitte a’r Llythyr
Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad Deloitte), cyn awdurdodi’r Cadeirydd a’r
Pennaeth Cyllid i ardystio’r llythyr. Nododd
y Pennaeth Cyllid y bu i’r pwyllgor dderbyn y cyfrifon cyn-archwiliad ar 23
Gorffennaf, ac er y gwnaed rhai mân newidiadau i’r naratif yn dilyn archwiliad
gan Deloitte, nid oedd yna unrhyw newid i’r ffigurau. Hefyd roedd y Pwyllgor Pensiynau wedi trafod
y cyfrifon yn eu cyfarfod ar 14 Hydref, ac wedi cael rhagflas o adroddiad yr
archwilwyr. Yna
gwahoddwyd Ian Howse i gyflwyno adroddiad ‘ISA260’ Deloitte ar ran Archwiliwr
Cyffredinol Cymru. Nodwyd bod yr
archwilwyr yn bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon eleni, yn
cynnwys paragraff pwyslais mater ynghylch ansicrwydd prisio cronfeydd eiddo’r
DU ar y datganiadau ariannol. Manylwyd
ar:- ·
Effeithiau Covid-19 ar archwiliad eleni ·
Barn Archwilio Arfaethedig ·
Materion arwyddocaol yn codi o’r archwiliad, gan gynnwys
camddatganiadau nas cywirwyd, camddatganiadau a gywirwyd, risg arwyddocaol ac
ardaloedd eraill sy’n derbyn sylw archwilio a materion arwyddocaol eraill ·
Argymhellion Nodwyd bod yr aelodau’n ymhyfrydu yn y ffaith iddynt
dderbyn adroddiad mor wych gan yr archwilwyr eleni, a nodwyd bod llawer o’r
diolch am hyn i waith y Rheolwr Buddsoddi a’i thîm. Mewn
ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd nad oedd yn ofyniad ar hyn o bryd i ddatgelu
ffactorau amgylcheddol, cymdeithasol a llywodraethiant yn y cyfrifon swyddogol
statudol, ond y bwriedid cyfeirio at hynny yn yr adroddiad blynyddol fyddai’n
cael ei gyflwyno gyda’r cyfrifon i Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gronfa ar
19 Tachwedd. PENDERFYNWYD (a) Cymeradwyo’r Datganiad o Gyfrifon 2019/20 Cronfa Bensiwn Gwynedd
(ôl-archwiliad) (b) Nodi a derbyn yr Adroddiad ‘ISA260’ gan Deloitte ar gyfrifon
2019/20 Cronfa Bensiwn Gwynedd. (c) Awdurdodi’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr
Cynrychiolaeth (Atodiad 1 i adroddiad Deloitte). Diolchodd y
Pennaeth Cyllid i Ian Howse a Lauren Parsons am arwain y gwaith ar ran cwmni
Deloitte eto eleni. Ychwanegodd mai hwn
fyddai’r tro olaf i Ian Howse gyflwyno’r adroddiad ar y cyfrifon yn ei rôl
bresennol fel archwiliwr allanol i Wynedd yn y contract yma, gan y byddai’r
gwaith yn mynd yn fewnol o’r flwyddyn nesaf ymlaen, a diolchodd iddo am ei
waith dros y pum mlynedd ddiwethaf. |
|
TROSOLWG ARBEDION - ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 182 KB I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr wybodaeth, nodi’r
risgiau sy’n deillio o lithriadau gyda rhai o’r cynlluniau arbedion, a chefnogi
penderfyniadau perthnasol y Cabinet. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r
sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried
penderfyniadau’r Cabinet ar 13 Hydref, 2020 a sylwebu fel bo angen. Ar bwynt cyffredinol ar y cychwyn, nododd yr Aelod Cabinet Cyllid:- ·
Wrth
weithredu’r strategaeth arbedion ac arloesi, bod y Cyngor wedi bod yn hynod
ffodus, e.e. cyn y pandemig, roedd 138 o ddefnyddwyr
yn gallu gweithio o adref, ond erbyn mis Mawrth eleni, roedd 1,292 yn defnyddio
offer o adref. Diolchodd i bawb yn y
Gwasanaeth Technoleg Gwybodaeth am eu gwaith i sicrhau bod yr holl waith ar
gyfer yr eitemau dan ystyriaeth yn y cyfarfod hwn wedi gallu cael ei wneud. ·
Y dymunai ddiolch i’r holl
staff am y gwaith anhygoel oedd wedi’i gyflawni
o fewn amserlen dynn iawn. Yna gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun i’r adroddiad dan sylw
drwy nodi:- ·
Bod
yna arwyddion clir bod yna drafferthion o ran cyflawni’r arbedion, a bod pryder
ynghylch yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a’r Cynllun Dechrau i’r Diwedd yn
benodol. ·
Er
yn sylweddoli ein bod mewn cyfnod heriol, ei bod yn hanfodol ail-afael yn fuan
yn y drefn o gyflawni arbedion. Nodwyd y bu i’r Cabinet ystyried yr adroddiad yn eu cyfarfod ar 13 Hydref,
gan benderfynu fel a ganlyn:- ·
Derbyn
y wybodaeth yn yr adroddiad a nodi’r cynnydd tuag at wireddu cynlluniau
arbedion 2020/21, 2019/20 a blynyddoedd blaenorol. ·
Cymeradwyo’r
cynlluniau amgen a fanylir yn Rhan 6 ac Atodiad 5 i ddisodli cynlluniau
hanesyddol nad ydynt yn gwireddu. ·
Nodi
bod effaith Covid-19 wedi cyfrannu at lithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y
Cyngor wedi rhoi blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl
Gwynedd mewn ymateb i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r
trefniadau herio perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng. ·
Cefnogi
bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod
Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod sut bydd modd ail afael yn y drefn o
gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd modd i’r Cyngor symud ymlaen efo
cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr argyfwng. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:- ·
Nodwyd
ei bod yn anodd iawn gwireddu arbedion yr Adran Plant a Theuluoedd a’r Cynllun
Dechrau’n Deg, a holwyd a luniwyd amserlen ar gyfer yr adolygiad oedd yn cymryd
lle. Mewn ymateb, eglurwyd, er bod y
Tasglu Cyllideb Plant wedi cychwyn edrych ar yr arbedion, bu’n rhaid oedi’r
gwaith gan fod swyddogion wedi eu tynnu i flaenoriaethau eraill yn ystod yr
argyfwng. Fodd bynnag, roedd bwriad i
symud ymlaen a cheisio dod i ganlyniad ar hyn.
Nodwyd ymhellach bod y niferoedd a’r pwysau ar yr Adran Plant a
Theuluoedd wedi cynyddu, ac efallai bod rhagdybiaethau a wnaed ar y pryd wrth
bennu’r targed arbedion ar gyfer y gwasanaeth wedi newid erbyn hyn, ond byddai
adolygiad y tasglu yn cadarnhau’r sefyllfa. · Nodwyd bod y gyllideb gofal yn ei chyfanrwydd yn anodd iawn, a phryderid bod yna risg gwirioneddol ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
CYLLIDEB REFENIW 2019/20 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 183 KB I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr wybodaeth, nodi’r
risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chefnogi
penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r
sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau,
ystyried penderfyniadau’r Cabinet ar 13 Hydref, 2020 a sylwebu fel bo angen. Gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun i’r adroddiad drwy nodi:- ·
Bod yr adroddiad hwn eto’n
dangos effaith y pandemig a’r pwysau
ar yr adrannau. ·
Bod
Atodiad 1 i’r adroddiad yn bwysig, gan ei fod yn dangos y derbyniadau a
dderbyniwyd gan Lywodraeth Cymru fesul adran, ac yn cyfleu’r sefyllfa’n hollol
glir i’r aelodau. Nodwyd y bu i’r Cabinet ystyried yr adroddiad yn eu cyfarfod ar 13 Hydref,
gan benderfynu fel a ganlyn:- ·
Derbyn
yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2020 o’r Gyllideb Refeniw, ac ystyried y
sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth. ·
Nodi
effaith ariannol Covid-19, sydd yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion
incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion, gan fod y Cyngor wedi rhoi
blaenoriaeth ddilyffethair i ddiogelu iechyd a bywydau pobl Gwynedd mewn ymateb
i’r argyfwng, a hynny wedi golygu na fu modd parhau efo’r trefniadau herio
perfformiad ac arbedion dros gyfnod yr argyfwng. ·
Cefnogi
bwriad y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid i drefnu i gyfarfod pob Aelod
Cabinet gyda’u Penaethiaid Adran, i drafod sut bydd modd ail afael yn y drefn o
gyflawni’r arbedion arfaethedig, fel bydd modd i’r Cyngor symud ymlaen efo
cyfran o’r rhaglen arbedion er gwaethaf yr argyfwng. ·
Nodi
fod gorwariant sylweddol gan yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni, gan fod
angen egluro manylder cymhleth yn y darlun yma yng ngofal Oedolion, mae’r Prif
Weithredwr eisoes wedi comisiynu gwaith er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r
materion a rhaglen glir i ymateb, ·
Nodi
fod Tasglu Cyllideb Plant wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i roi sylw i
faterion ariannol dyrys yr Adran Plant a Theuluoedd fel bod modd mynd at wraidd
gorwariant yr Adran, gyda’r bwriad o gyflwyno adroddiad gerbron y Cabinet fydd
yn manylu ar y cynllun ymateb. ·
Cymeradwyo
yr argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd wedi’u hegluro yn
Atodiad 2). o Ar gyllidebau Corfforaethol,
fod: ¾ (£250k) yn ymwneud â chostau
cyfalaf yn cael ei drosglwyddo i gronfa ariannu’r rhaglen gyfalaf. ¾ tanwariant net o (£1,127k) ar
gyllidebau Corfforaethol yn mynd i falansau
cyffredinol y Cyngor i gynorthwyo i wynebu’r her ariannol sydd yn wynebu’r
Cyngor yn arbennig felly yn sgil argyfwng Covid-19. ·
Fod
derbyniadau grant ar gyfer digolledu gwariant ychwanegol a cholledion incwm
cysylltiedig â’r argyfwng Covid-19 gan y Llywodraeth yn cael ei ddyrannu i’r
adrannau perthnasol yn unol â’r hyn a nodir yn Atodiad 1. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:- · Gan gyfeirio at y tabl ar dudalen 221 o’r rhaglen, sylwyd bod yna £1m o wahaniaeth rhwng cyfanswm gwerth y cais am grant o Gronfa Caledi Llywodraeth Cymru a chyfanswm y grant a dderbyniwyd, a holwyd a oedd yna ragor o grant ar ei ffordd, neu a ddisgwylid i’r Cyngor ei ysgwyddo. Mewn ymateb, eglurwyd bod Llywodraeth Cymru ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
RHAGLEN GYFALAF 2019/20 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 184 KB I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr wybodaeth, nodi’r
risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor, a chefnogi penderfyniadau
perthnasol y Cabinet. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r
sefyllfa ac unrhyw risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor, craffu
penderfyniadau’r Cabinet ar 13 Hydref, 2020, a sylwebu fel bo angen. Gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun i’r adroddiad drwy nodi:- ·
Mai’r
prif bwynt yn yr adroddiad hwn eto oedd effaith Covid-19 ar gynlluniau, ond
pwysleisiodd, er bod yna ail-broffilio, nad oedd yna golled ariannu. ·
Bod
y tabl yn rhan 3 ar dudalen 224 o’r rhaglen gyfalaf yn dangos buddsoddiad o
dros £100m yng nghymunedau’r sir dros y tair blynedd nesaf. Nodwyd y bu i’r Cabinet ystyried yr adroddiad yn eu cyfarfod ar 13 Hydref,
gan benderfynu fel a ganlyn:- ¾ Derbyn yr adroddiad ar
adolygiad diwedd Awst (sefyllfa 31 Awst 2020) o’r rhaglen gyfalaf. ¾ Cymeradwyo ariannu addasiadau
a gyflwynir yn rhan 4 o’r adroddiad,
sef: ·
defnydd
o amryw ffynonellau i ariannu gwir lithriadau gwerth cyfanswm o £3,646,000 o
2019/20, ·
lleihad
o £558,000 mewn defnydd o fenthyca, ·
cynnydd
o £7,105,000 mewn defnydd o grantiau a chyfraniadau, ·
dim
newid mewn defnydd o dderbyniadau cyfalaf, ·
cynnydd
o £53,000 mewn defnydd o gyfraniadau refeniw, ·
dim
newid mewn defnydd o’r gronfa gyfalaf, a ·
cynnydd
o £283,000 mewn defnydd o gronfeydd adnewyddu ac eraill. ·
Llongyfarchwyd
yr adrannau ar ddenu grantiau sylweddol i Wynedd. ·
Mewn
ymateb i gwestiwn, eglurwyd bod cyfran helaeth o’r £11m o raglen cyfalaf tai ac
eiddo yn mynd tuag at y Cynllun Gweithredu Tai.
Roedd bwriad yn wreiddiol i’r cynllun fod yn weithredol erbyn hyn, ond
roedd y pandemig wedi dal y broses yn ôl. Byddai’r cynllun yn mynd gerbron y Cabinet yn
ystod mis Tachwedd. Yn amlwg, ni
fyddai’r holl swm yn cael ei wario eleni gan fod yr argyfwng wedi golygu
gohirio rhai o’r cynlluniau. ·
Nodwyd
bod y Cynllun Gweithredu Tai yn adroddiad calonogol ac uchelgeisiol, a mawr
obeithid y byddai’n dwyn ffrwyth. PENDERFYNWYD derbyn yr wybodaeth, nodi’r risgiau
yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor, a chefnogi penderfyniadau perthnasol y
Cabinet. |
|
STRATEGAETH CYLLIDEB 2021/22 PDF 3 KB I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn yr wybodaeth, nodi’r ansicrwydd yng nghyswllt cyllideb y Cyngor
ar gyfer 2021/22, a chefnogi’r strategaeth i fantoli’r gyllideb drwy ddefnyddio
cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru colledion adnoddau yn y tymor byr,
yn hytrach na rhoi ystyriaeth ddwys a diangen i restrau o arbedion a thoriadau
gwasanaeth dichonol yn ystod ail don tebygol o’r pandemig Covid-19. Cofnod: Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r
ansicrwydd yng nghyswllt cyllideb y Cyngor ar gyfer 2021/22, a sylwebu ar y
strategaeth. Gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun i’r adroddiad. Pwysleisiodd
bwysigrwydd y seminarau rhithiol ar y gyllideb i aelodau ym mis Ionawr, a
phwysodd ar bawb i bresenoli eu hunain yn y sesiynau. Nodwyd y bu i’r Cabinet ystyried yr adroddiad yn eu cyfarfod ar 13 Hydref,
gan benderfynu fel a ganlyn:- Cymeradwywyd y drefn
ac amserlen llunio Cyllideb 2021/22, wrth nodi fod cynllunio
ariannol yn hynod heriol, ac felly os bydd bwlch
cyllido i fantoli cyllideb 2021/22, bydd y Cyngor yn
defnyddio cyllidebau a chronfeydd wrth gefn i liniaru
colledion adnoddau yn y tymor byr,
yn hytrach na rhoi ystyriaeth
ddwys a diangen i restrau o arbedion
a thoriadau Gwasanaeth dichonol yn ystod
ail don tebygol o’r pandemig Covid-19. Nododd y Pennaeth Cyllid, ymhellach i’r hyn oedd wedi’i gynnwys yn yr
adroddiad, iddo erfyn ar Lywodraeth Cymru yn y dyddiau diwethaf i ymlynu at y
gyllideb ddrafft eleni, neu fel arall, byddai’n amhosib’ cynllunio ar gyfer
2021/22. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:- ·
Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â pholisi’r Cyngor o ran balansau,
eglurwyd bod cadw arian wrth gefn yn rhan o ddarlun ehangach. Roedd yn ddibynnol ar faint o risg sy’n cael
ei roi i mewn i gyllidebau yn nhermau pethau fel darpariaeth ar gyfer
chwyddiant a materion sydd ddim yn wybodus.
Roedd llawer o’r cronfeydd wrth gefn wedi’u hymrwymo i bwrpasau penodol,
ond roedd gan y Cyngor falansau cyffredinol o £8m,
oedd yn sylfaenol yn adlewyrchu’r risg o doriad posib’ yng ngrant y
Cyngor. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf,
roedd y Cyngor wedi cadw at y swm yma, rhag ofn bod mewn sefyllfa o orfod prynu
amser i ddelio â’r angen i ddarganfod arbedion a thoriadau. ·
Holwyd
a roddwyd ystyriaeth i fenthyg arian i lenwi’r bwlch yn y tymor byr, gan fod
cyfraddau llog mor isel ar hyn o bryd.
Mewn ymateb, eglurwyd nad oedd y rheoliadau’n caniatáu benthyg i
bwrpasau refeniw, heblaw bod Llywodraeth Cymru’n caniatáu Gorchymyn Cyfalafu. Roedd ambell gyngor arall wedi bod yn galw am
hynny yng Nghymru, ond ni wnaed unrhyw ddatganiad ar hynny hyd yma. Hefyd, yn unol ag ysbryd Deddf Cenedlaethau’r
Dyfodol, ni ddymunid pasio problemau ymlaen i’r genhedlaeth i ddod, ac roedd yn
well ceisio cyfarch y broblem o’r reserfau sydd ar
gael. ·
Nodwyd,
os defnyddio’r arian wrth gefn, y dylid sicrhau bod y cronfeydd yn cael eu
hadfer yn y blynyddoedd wedyn, a phwysleisiwyd bod yr argyfwng presennol wedi
tanlinellu gwerth y cronfeydd wrth gefn. · Nodwyd bod Llywodraeth y DG wedi achosi anhawster o ran sefydlu cyllideb drwy ddileu’r Gyllideb Hydrefol, er y deellid eu rhesymau dros wneud hynny yn yr amgylchiadau. Fodd bynnag, roedd hynny wedi arwain at drosglwyddo’r broblem i Lywodraeth Cymru, oedd, yn eu tro, wedi trosglwyddo’r broblem i’r cynghorau. Cytunid nad oedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 12. |
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR ARCHWILIO A LLYWODRAETHU PDF 210 KB I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn y blaen raglen, gan
ofyn i swyddogion ystyried sylwadau a nodwyd yn ystod y cyfarfod fod rhaglen 11
Chwefror, 2021 yn rhy swmpus, fod angen sicrhau tystiolaeth cyn trafod
hunanasesiadau, ac y dylid ystyried y posibilrwydd o fenthyg yng nghyflwyniad
blynyddol yr Ymgynghorwyr Rheolaeth Trysorlys ar 27 Ionawr, 2021. Cofnod: Cyflwynwyd - adroddiad y Pennaeth Cynorthwyol (Refeniw a Risg) yn rhoi
amlinelliad o raglen waith y pwyllgor am y flwyddyn i ddod,
hyd at Orffennaf, 2021. Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:- ·
Sylwyd
bod Trosolwg Arbedion i lawr ddwywaith ar y blaen-raglen (cyfarfodydd Chwefror a
Mai) ·
Holwyd
a oedd bwriad i’r pwyllgor dderbyn adroddiad, maes o law, ar y cynlluniau
Tasglu Plant ac Oedolion yn benodol, yn ddibynnol ar amserlen y gwaith. Mewn ymateb, nodwyd y byddai’n rhaid gwirio
lle’n union roedd hyn yn disgyn rhwng y pwyllgor hwn a chraffu’r adran
berthnasol, ond rhoddwyd sicrwydd y byddai’n derbyn sylw. Pe na fyddai’n eitem ar ei phen ei hun,
byddai’n derbyn sylw teilwng yn yr adroddiad Trosolwg Arbedion. ·
Sylwyd
bod cyfarfod Chwefror yn hynod drwm.
Mewn ymateb, nodwyd bod y cyfarfod yn drwm oherwydd y drefn flynyddol,
ond gellid rhoi ystyriaeth i ail-raglennu’r hunanasesiadau. ·
Holwyd
a fyddai’n bosib’ i’r pwyllgor dderbyn tystiolaeth cyn trafod yr
hunanasesiadau. Mewn ymateb, cytunwyd i
roi ystyriaeth i hynny, a gofynnwyd i’r aelod a gododd y mater basio unrhyw
awgrymiadau ymlaen i’r swyddogion. ·
Awgrymwyd
nad oedd y pwyllgor yn trafod polisïau’n gyffredinol, e.e. polisi
benthyca. Mewn ymateb, eglurwyd bod
benthyca yn dod o dan Reolaeth Trysorlys, ac y byddai benthyca’n rhan o’r
cyflwyniad blynyddol gyda’r Ymgynghorwyr Rheolaeth Trysorlys ym mis Ionawr. PENDERFYNWYD derbyn y blaen raglen, gan ofyn i
swyddogion ystyried sylwadau a nodwyd yn ystod y cyfarfod fod rhaglen 11
Chwefror, 2021 yn rhy swmpus, fod angen sicrhau tystiolaeth cyn trafod
hunanasesiadau, ac y dylid ystyried y posibilrwydd o fenthyg yng nghyflwyniad
blynyddol yr Ymgynghorwyr Rheolaeth Trysorlys ar 27 Ionawr, 2021. |