Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Alwyn Gruffydd a’r Cynghorydd Gethin Glyn Williams |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan
unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater
brys ym marn
y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid
llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor
hwn a gynhaliwyd 30 Tachwedd 2020 fel rhai cywir Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd
gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 30 Tachwedd
2020 fel rhai cywir. |
|
CRYNODEB ARCHWILIAD BLYNYDDOL 2020 CYNGOR GWYNEDD PDF 211 KB I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan Swyddogion
Archwilio Cymru yn crynhoi’r gwaith
archwilio a wnaed yn y Cyngor gan Archwilio Cymru ers cyhoeddi’r adroddiad diwethaf ym mis Awst
2019. Amlygwyd bod fformat newydd i’r adroddiad
- yn crynhoi materion cyfarwydd yn gliriach a ffeithiol.
Gwnaed cais i’r Aelodau am adborth. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y materion a ganlyn gan Aelodau:- ·
Bod y fformat newydd i’w groesawu ·
Bod
yr adroddiad yn gryno ac yn hawdd i’w ddarllen PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad |
|
CYLLIDEB REFENIW 2020/21 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2020 PDF 277 KB I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r tafluniadau gwariant yn erbyn y gyllideb, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth Derbyn penderfyniad y
Cabinet (26/01/21) yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr
Uwch Reolwr Cyllid yn manylu
ar yr adolygiad
diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2020/21, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nodwyd bod effaith ariannol Covid19 yn sylweddol i’r
Cyngor - yn gyfuniad o gostau ychwanegol, colledion incwm a llithriad yn y rhaglen arbedion gan fod blaenoriaethau
eraill dros gyfnod yr argyfwng.
Ategwyd bod Llywodraeth Cymru wedi sefydlu
cronfa caledi tuag at ddigolledu costau a cholledion incwm Awdurdodau Lleol. Amlygwyd yng Ngwynedd bod ceisiadau misol gwerth dros £7.1 miliwn wedi eu
cyflwyno gan y Cyfrifwyr i Lywodraeth
Cymru, i ddigolledu’r Cyngor am y gwariant
ychwanegol am y cyfnod hyd at ddiwedd Tachwedd, gyda chyllid o bron i £6 miliwn eisoes
wedi ei dderbyn. Adroddwyd, o ran colledion incwm, roedd y ceisiadau am hanner cyntaf y flwyddyn ariannol dros £5.1 miliwn, gyda £4.8 miliwn eisoes wedi ei
dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Mae gwaith ar chwarter
3 wedi ei gwblhau gan y Cyfrifwyr
ac wedi ei gyflwyno i Lywodraeth
Cymru ganol Ionawr. Amlygwyd bod pwysau amlwg ar
yr adrannau eleni ac fel sydd wedi
ei rybuddio ym mhob adolygiad
ers diwedd Awst 2019, mae problemau gwireddu arbedion yn cynyddu
ac yn ffactor sydd yn cyfrannu
at orwariant yn y meysydd megis Plant, Oedolion a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol. Tynnwyd sylw at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau
gyda’r rhagolygon wedi eu datgan
gyda a heb y cymorth grant Covid19 gan y Llywodraeth, fel bod modd gweld yr
effaith ar y gwahanol adrannau. Amlygwyd y prif faterion canlynol: ·
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant - mae
effaith Covid19 wedi cael ardrawiad sylweddol ar yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant eleni sydd werth
dros £3 miliwn erbyn diwedd Tachwedd.
Heb ystyried ardrawiad Covid19, rhagwelir gorwariant o £3.3 miliwn eleni gyda methiant
i gyflawni arbedion gwerth £1.8 miliwn yn cyfrannu
at y sefyllfa. ·
Adran Plant a Theuluoedd - rhagwelir
gorwariant o £2.5 miliwn ar gyfer yr
Adran. Mae methiant i wireddu £688k o arbedion yn cyfrannu
at y sefyllfa. Mae’r ystadegau diweddaraf yn cadarnhau y bu cynnydd pellach
yn y galw am wasanaethau, yn arbennig felly yn y maes lleoliadau
ac Ôl-16. Mae’r sefyllfa o gynnydd yn y gwariant
yn y maes
plant yn bryderus. ·
Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol
- problemau gorwariant yn y maes
casglu a gwaredu gwastraff yn parhau.
Trafferthion gwireddu arbedion mewn nifer
o feysydd gwerth £811k. Mae’r adran hefyd
wedi wynebu costau ychwanegol yn ymwneud â Covid19 i gydymffurfio efo’r rheolau, gyda Llywodraeth Cymru eisoes wedi
digolledu am fisoedd cychwynnol a disgwyliad y byddant yn parhau
i ddigolledu am weddill y flwyddyn. ·
Corfforaethol - rhagdybiaethau darbodus
wrth osod cyllideb 2020/21 yn gyfrifol am gynnyrch treth ychwanegol ar Dreth Cyngor a hefyd yn cyfrannu
at y tanwariant ar Ostyngiadau Treth Cyngor. Tanwariant net ar gyllidebau yn cynnwys
costau cyfalaf a dychwelyd bidiau. Cyfeiriwyd at benderfyniad, y Cabinet (26 ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
RHAGLEN GYFALAF 2020/21 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2020 PDF 247 KB I dderbyn
yr wybodaeth, ystyried y risgiau ynglŷn â’r Rhaglen Gyfalaf, a chraffu
penderfyniadau’r Cabinet Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth Derbyn penderfyniad y
Cabinet (26/01/21) yng nghyswllt rheoli cyllidebau’r Cyngor Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr
Uwch Reolwr Cyllid o raglen
gyfalaf diwygiedig (sefyllfa diwedd Tachwedd 2020). Tynnwyd sylw at effaith argyfwng Covid19 a’r cyfnod clo ar y rhaglen
gyfalaf gan amlygu mai dim ond 31% o’r gyllideb
oedd wedi ei wario hyd
at ddiwedd Tachwedd eleni o’i gymharu
â 51% dros yr un cyfnod y llynedd. Ategwyd bod dadansoddiad fesul Adran o’r
rhaglen gyfalaf £103.6 miliwn am y 3 blynedd 2020/21 - 2022/23 wedi ei
gynnwys yn yr adroddiad. Cyfeiriwyd at y ffynonellau i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £3.3 miliwn ers yr
adolygiad diwethaf ac ategwyd mai’r prif gasgliadau oedd bod y Cyngor gyda chynlluniau pendant mewn lle i
fuddsoddi tua £42.3 miliwn eleni, gyda
£18.9 miliwn ohono, sef 45%, wedi’i ariannu trwy ddenu
grantiau penodol. Rhagwelwyd y byddai £4.8 miliwn
ychwanegol yn llithro o eleni i’r flwyddyn ganlynol,
ond nad
oedd unrhyw golled ariannu. Tynnwyd sylw at y prif gynlluniau ynghyd a rhestr grantiau ychwanegol y llwyddodd y Cyngor eu
denu ers yr adolygiad diwethaf
(cyfanswm £3,060K) Ategwyd, yng nghyfarfod o’r Cabinet (26 Ionawr 2021) y penderfynwyd derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r ariannu addasedig gwerth £3.32 miliwn. Diolchwyd am yr adroddiad Amlygwyd llwyddiant yr
Adran Tai ac Eiddo i ddenu grantiau (sydd yn swm sylweddol fydd yn adlewyrchu’r
Strategaeth Tai mae’r Cyngor wedi ei fabwysiadu’n ddiweddar) - nododd y
Pennaeth Cyllid bod y swm hefyd yn cynnwys incwm treth ail eiddo. PENDERFYNWYD: ·
Derbyn y wybodaeth ·
Derbyn penderfyniad y Cabinet (26/01/21) yng nghyswllt
rheoli cyllidebau’r Cyngor |
|
Y SEFYLLFA ARBEDION PDF 264 KB I dderbyn y wybodaeth, ystyried risgiau cyffredinol sy’n
deillio o’r llithriadau, a chraffu penderfyniadau’r Cabinet yng nghyswllt y
sefyllfa arbedion Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth Derbyn penderfyniad y
Cabinet (26/01/21) yng nghyswllt y sefyllfa arbedion Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
yr Aelod Cabinet Cyllid gan nodi
fod dros £30miliwn o arbedion wedi’u gwireddu ers 2015/16 ond, bod pryderon wedi eu hamlygu
ym mis Hydref
2020 am risgiau i gynlluniau gwerth £3.4miliwn eleni o ganlyniad i Covid-19. Adroddwyd bod y Prif Weithredwr a’r Pennaeth Cyllid
wedi trafod yr arbedion adrannol
gyda’r Penaethiaid ac
Aelodau Cabinet. Pwysleisiwyd fod cyfyngiadau Covid-19 wedi amharu ar y cyfle i adrannau roi
sylw i nifer o’r cynlluniau arbedion. Er gwaethaf y sefyllfa, nododd y Prif
Weithredwr na fyddai’n afresymol bod gwerth £1,735,960 o gynlluniau arbedion yn
cael eu cyflawni erbyn neu yn ystod 2021/22. Yn ychwanegol, bydd gwerth £1m o gynlluniau
(a fydd angen mwy o amser i’w gwireddu), yn cael eu hail broffilio ynghyd a
dileu gwerth £850k o /gynlluniau o’r gyllideb (lle mae’r sefyllfa wedi newid
cymaint na ellid gwireddu’r arbedion). Nodwyd, wrth baratoi cyllideb
2020/21 yn Chwefror 2020, cydnabuwyd £1.6m mewn ymateb i’r tebygolrwydd
o fethu cyflawni rhai arbedion. Amlygwyd y byddai ail broffilio a dileu rhai arbedion yn
cael ardrawiad o £1.86m ar y gyllideb, ond drwy ddefnyddio’r
ddarpariaeth o £1.6m, byddai
ond angen darparu £260k ychwanegol. O weithredu hyn, byddai’r gyllideb yn agosach i
realiti sefyllfa’r Cyngor. Tynnwyd sylw at Atodiad 2 o’r adroddiad a
oedd yn nodi
arbedion oedd wedi eu cynllunio
ar gyfer 2021/22. Mynegwyd o’r £1.9m oedd wedi ei
gynllunio, y byddai cynlluniau gwerth £511k yn cymryd mwy
o amser i’r cyflawni gydag amheuaeth am wireddu gwerth £595k o arbedion. O ganlyniad, argymhellwyd i’r Cabinet i ail broffilio £511k a dileu £595k o arbedion gan dderbyn
mai dim ond dros £700k o arbedion net fydd ar gael i gefnogi
cyllideb 2021/22. Eglurodd y Prif Weithredwr y rhesymeg tu ôl i’r argymhellion a gyflwynwyd
i’r Cabinet gan bwysleisio fod rhai cynlluniau am gymryd mwy o amser i’w
gwireddu o ganlyniad i argyfwng Covid-19 tra bod eraill angen eu dileu yn gyfan
gwbl. PENDERFYNWYD ·
Derbyn y wybodaeth ·
Derbyn penderfyniad y Cabinet (26/01/21) yng nghyswllt y
sefyllfa arbedion |
|
Craffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet argymell cyllideb 2021/22 i’r Cyngor
llawn Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth a
chymeradwyo’r gyllideb y bwriedi’r ei argymell gan y Cabinet (16/02/21) i’r
Cyngor Llawn Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan yr
Aelod Cabinet Cyllid yn nodi fod y Cyngor eleni wedi derbyn
cynnydd grant oedd yn cyfarch chwyddiant ac yn setliad tecach na fu yn y blynyddoedd diwethaf. Tynnwyd sylw at y
penderfyniad a geisir gan y Cabinet yn ei gyfarfod (16/02/21) ar angen i’r
Pwyllgor graffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet ei argymell i’r Cyngor Llawn ym mis
Mawrth 2021. Ategwyd bod y penderfyniadau a geisir yn rhai fyddai’n caniatáu
ariannu cynnydd anorfod mewn costau rhai gwasanaethau craidd ynghyd a chodi’r
Dreth 3.7%. Pwysleisiwyd fod codi’r dreth yn angenrheidiol er mwyn amddiffyn
gwasanaethau hanfodol i drigolion Gwynedd gan y bydd yn anymarferol i weithredu
cynlluniau arbedion ychwanegol eleni. Adroddwyd bod mwyafrif o aelodau’r Cyngor wedi mynychu cyfres
o weithdai ymgynghori. Nodwyd erbyn 2021/22 y bydd angen cynyddu gwariant
i £10.6m er mwyn ‘sefyll yn
llonydd’, gan gynnwys £3.6m i gwrdd â phwysau gyllidebau’r gwasanaethau. Esboniwyd i gyfarch
y bwlch ariannol, y gellid cynaeafu £725k yn 2021/22 o’r cynlluniau arbedion ond y bydd angen
cynyddu’r dreth Cyngor
3.7%. Ategwyd fod ffigyrau swyddogol
Llywodraeth Cymru yn dangos fod
y Cyngor yn derbyn cynnydd grant o £6.4m erbyn y flwyddyn nesaf sy’n gynnydd o 3.4% ac y bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r
setliad grant terfynol ar yr 2il Mawrth
2021, ynghyd a chyllideb derfynol Llywodraeth Cymru. Amlygwyd y gwariant refeniw gan dynnu sylw
bod chwyddiant cyflogau
staff yn £3.5m, ynghyd a darparu cynnydd tal i
staff ar gyflogau £24,000 neu is, a chynnydd tal o 3.1% i athrawon
ysgolion Gwynedd am y cyfnod
Ebrill - Awst 2021. Mynegwyd fod chwyddiant arall yn £2.6m yn cynnwys darpariaeth
ar gyfer effaith y ‘cyflog byw’ ynghyd a chynnydd
chwyddiant ar gyllidebau tanwydd ac ynni a chynnydd mewn prisio yn
dilyn ail-dendro. Amlygwyd bod bidiau wedi ei derbyn
gan adrannau’r Cyngor o
£3.6m am adnoddau parhaol ychwanegol i gwrdd
â phwysau anorfod ar wasanaethau. Tynnwyd sylw at y cynllun arbedion gan egluro y bydd cyfanswm net o £725k o arbedion i’w defnyddio i leihau bwlch ariannu cyllideb 2020/21. Golygai hyn byddai bwlch gweddilliol o £77m, ac argymhellwyd cyfarch y bwlch hwnnw drwy’r Dreth Cyngor. Bydd angen codi’r Dreth 3.7% er mwyn cynhyrchu incwm digonol gan osod cyllideb net o £271,751,360. Adroddwyd y byddai’r dreth a godir gan yr Awdurdod Heddlu (cynnydd o 5.14% ar gyfer 2021/22) a’r cynghorau cymuned (% amrywiol) yn ychwanegol i hyn. Mynegwyd, pe bai aelodau’r Cyngor awydd cynnydd llai na 3.7% yn lefel y Dreth, yna byddai rhaid gwario llai ar wasanaethau. Atgoffwyd yr Aelodau o’r opsiwn a drafodwyd yn y gweithdai aelodau lle mynegwyd peidio ariannu rhai o’r bidiau refeniw parhaol ‘Categori 2’ (oedd wedi ei rhestru yn yr adroddiad). Derbyniwyd bod y dewis rhwng cynnal gwasanaethau a threthu o hyd yn un anodd, ond o ran cymhariaeth, ar gyfer 2021/22 nodwyd bod cyfartaledd o gynnydd treth yr awdurdodau lleol eraill ledled Cymru yn debygol o fod tua 4.1%, gyda’r cynnig gerbron i godi’r dreth ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
STRATEGAETH CYFALAF 2021/22 (YN CYNNWYS STRATEGAETHAU BUDDSODDI A BENTHYG) PDF 464 KB Mae rheoliadau cenedlaethol perthnasol yn mynnu penderfyniad gan y Cyngor
llawn ar y Strategaeth Cyfalaf blynyddol. Ymhellach i’r cyflwyniad gan
swyddogion o gwmni Arlingclose, Ymgynghorwyr Rheolaeth Trysorlys y Cyngor,
gofynnir i aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu dderbyn yr adroddiad,
nodi’r wybodaeth a’r risgiau perthnasol, a chefnogi bwriad yr Aelod Cabinet
Cyllid i gyflwyno’r strategaeth i'r Cyngor llawn am gymeradwyaeth. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn y wybodaeth Cefnogi bwriad yr Aelod
Cabinet Cyllid i gyflwyno’r strategaeth i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn rhoi trosolwg
ar weithgareddau Cyfalaf a rheolaeth trysorlys y Cyngor. Atgoffwyd yr Aelodau eu bod wedi derbyn cyflwyniad
gan yr ymgynghorwyr
ariannol, Arlingclose a oedd yn
egluro’r manylder tu ôl i’r
strategaeth. Cyfeiriwyd ar y gweithgareddau cyfalaf a thynnwyd sylw bod y Cyngor yn bwriadu gwneud gwariant cyfalaf o £47.1miliwn yn 21/22 gyda'r prif gynlluniau wedi ei rhestru
yn yr adroddiad
ynghyd a’r ffynonellau ariannu. Nodwyd mai’r adnoddau
allanol yn bennaf yw Llywodraeth
Cymru ac adnoddau ein hunain yw’r
cronfeydd. Daw gweddill o’r ariannu trwy
fenthyciad fydd yn cael ei
dalu nôl dros nifer o flynyddoedd,
fel arfer o adnoddau refeniw neu o incwm gwerthiant
asedau sydd yn gyson gyda
gweithred y blynyddoedd blaenorol. Golygai hyn y bydd y dangosydd
- Gofyn Cyllido Cyfalaf y Cyngor, yn £176.6 miliwn erbyn diwedd
blwyddyn ariannol 21/22, sef y lefel y dylai
benthyg tymor hir y cyngor aros
odd itano. Yng nghyd-destun y Strategaeth Fenthyca, amlygwyd yn ddiweddar nad oes gofyn
benthyca tymor hir wedi bod, dim ond tymor byr
ar gost isel
dros ddiwedd y flwyddyn ariannol. Ategwyd y bydd hyn am barhau gyda
dim benthyca tymor hir yn cael
ei rhagweld ar
gyfer gweithgareddau Cyngor
Gwynedd, a bod dyled y Cyngor yn
aros o dan y Gofyn Cyllido Cyfalaf. Cyfeiriwyd at un newid i’r meincnod
ymrwymiad sef cyflwyno effaith benthyca Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru lle bydd
grant blynyddol o £16m yn cael ei dderbyn
am 15 mlynedd, ond bod gwariant helaeth am ddigwydd o’r ail flwyddyn ymlaen. O ganlyniad bydd gofyn benthyca dim yn 21/22, ond o 22/23 ymlaen gyda’r terfyn
benthyg fforddiadwy wedi ei ddiwygio
i adlewyrchu hyn. Bydd swyddogion
yn paratoi ar gyfer strategaeth
22/23 ac yn asesu’r ffynonellau posib i’r benthyciad
yma. Adroddwyd yng nghyd-destun strategaeth buddsoddi mai polisi'r
Cyngor yw blaenoriaethu diogelwch a hylifedd dros gynnyrch i
sicrhau bod arian ar gael i
dalu am wasanaethau’r
Cyngor. Nodwyd bod £10m yn cael ei gadw
i sicrhau hylifedd parhaus ac o ystyried y cyfnod ansicr a’r dychweliadau
isel presennol, ystyriwyd bod cadw hylifedd a diogelwch yn flaenoriaeth. Cyfeiriwyd at y rheolaeth risg a llywodraethu, a manylder ymrwymiadau tymor hir sydd gan
y Cyngor. Cadarnhawyd hefyd
mai Arlingclose fydd yn darparu
gwasanaeth ymgynghorwyr ariannol i’r Cyngor am o leiaf y 5 mlynedd nesaf oherwydd eu llwyddiant diweddar
yn y broses tendro. Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y materion a ganlyn gan Aelodau: ·
Bod cyflwyniad Arlingslose wedi bod yn ddealladwy - awgrym i holl
aelodau’r Cyngor dderbyn gwahoddiad / neu i dderbyn y wybodaeth. ·
Bod adroddiad Arlingclose yn galonogol o ystyried y sefyllfa Diolchwyd i’r staff am eu gwaith caled. PENDERFYNWYD ·
Derbyn y wybodaeth ·
Cefnogi bwriad yr Aelod Cabinet Cyllid i gyflwyno’r
strategaeth i’r Cyngor Llawn am gymeradwyaeth |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL PDF 385 KB I
dderbyn yr adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a chefnogi’r gweithrediadau sydd
eisoes wedi’u cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad hwn ar
waith Archwilio Mewnol am y cyfnod hyd at 31 Ionawr 2021 a chefnogi’r
gweithrediadau sydd eisoes wedi’u cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol. Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar waith
archwilio mewnol am y cyfnod o 1 Tachwedd 2020 hyd 31 Ionawr 2021. Amlygwyd bod 3 o archwiliadau’r cynllun wedi eu
cwblhau a hynny o few cyfnod heriol o ystyried bod yr Adran wedi ei
chwalu i gefnogi gwaith mewn adrannau eraill
yn ystod yr argyfwng. Ategwyd
mai anodd oedd cyflawni’r gwaith oedd wedi
ei raglennu yn y cynllun gwaith.
Tynnwyd sylw at Archwiliad Talu Cinio am Ddim
sydd wedi ei gynnwys o fewn
yr Adran Plant a Theuluoedd gan nodi bod y Gwasanaeth Cyllid wedi chwarae
rôl allweddol yn yr archwiliad
gan mai’r Gwasanaeth Refeniw oedd yn
cydlynu’r ceisiadau. Diolchwyd am
yr adroddiad PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr adroddiad hwn ar waith Archwilio Mewnol am y
cyfnod hyd at 31 Ionawr 2021 a chefnogi’r gweithrediadau sydd eisoes wedi’u
cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2020/21 PDF 455 KB Diweddaru’r Pwyllgor ar y
cynnydd yn erbyn Cynllun Archwilio Mewnol 2020/21 Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad Derbyn diweddariad ar
gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2020 - 2021 ynghyd a threfniant arfaethedig
ar gyfer rhaglen waith 2021 /2022 Cofnod: Cyflwynwyd, er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad
ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau Cynllun Archwilio Mewnol 2020 /21. Nodwyd yn yr adroddiad
mai gwir gyrhaeddiad Archwilio Mewnol hyd at Ionawr
21ain 2021 oedd 39.29% - allan
o’r 28 archwiliad unigol roedd 11 wedi eu rhyddhau yn
derfynol. Ategwyd ei bod yn anochel
na ellid
cynnal rhai archwiliadau gan fod adnoddau o’r
adran wedi eu harall gyfeirio
at gynorthwyo gyda meysydd blaenoriaeth o ganlyniad i’r argyfwng
covid. O ganlyniad, penderfynwyd addasu neu ganslo archwiliadau
gan drosglwyddo’r dyddiau ar gyfer
ymgymryd â gwaith y Rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu. Adroddwyd y byddai’n arferol llunio Cynllun 2021/22 fyddai’n adlewyrchu risgiau a sialensiau'r flwyddyn gyfredol, ond gan mai
defnydd cyfyngedig sydd i wneud
hynny eleni byddai’n anorfod cynllunio ymlaen drwy ystyried newidiadau
a ragwelir dros y 12 mis nesaf. Awgrymwyd
y bydd ystyriaeth yn cael ei
roi i gynlluniau
chwarterol fyddai yn rhoi hyblygrwydd
i’r gwasanaeth. Yn ogystal, bydd
trafodaethau yn cael eu cynnal
gydag Adrannau i geisio'r ffordd
ymlaen. Ategodd y Pennaeth Cyllid ei ddiolch i’r
Rheolwr Archwilio am hyblygrwydd yr Uned i gefnogi
gwasanaethau blaenoriaeth
ac y byddai arian
yn cael ei
neilltuo i ariannu adnodd ychwanegol i’r Uned weithredu archwiliadau pan fydd cyfangiadau’r argyfwng yn llacio. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr adroddiad ·
Derbyn diweddariad ar gynnydd yn erbyn cynllun archwilio
2020 - 2021 ynghyd a threfniant arfaethedig ar gyfer rhaglen waith 2021 /2022 |