Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
ETHOL CADEIRYDD I ethol
Cadeirydd ar gyfer 2024/25 Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ETHOL CARYS
EDWARDS YN GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2024/25 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol Carys Edwards yn gadeirydd y
Pwyllgor hwn ar gyfer 2024 /25 |
|
ETHOL IS-GADEIRYDD I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024/25 Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ETHOL ELWYN
RHYS PARRY YN DDIRPRWY GADEIRYDD Y PWYLLGOR HWN AR GYFER 2024-25 Cofnod: PENDERFYNWYD ethol Rhys Parry yn ddirprwy gadeirydd
y Pwyllgor hwn ar gyfer 2024 / 25 Diolchodd Sharon Warnes
i’r aelodau a’r swyddogion am eu cefnogaeth dros ei chyfnod fel Cadeirydd y
Pwyllgor. Llongyfarchwyd y Cyng. Paul Rowlinson ar ei
benodiad i’r Cabinet fel yr Aelod Cabinet dros Cyllid. |
|
YMDDIHEURIADAU Cofnod: Derbyniwyd
ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Rob
Triggs, Menna Baines ac Arwyn Herald Roberts; y Cynghorydd Dyfrig Siencyn (ar
gyfer eitem 15) |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Cofnod: ·
Cynghorydd Richard Glyn
Roberts - Eitem 9 - Cefnogaeth Ariannol i Gwmni Byw’n Iach. Nododd ei fod ar
Fwrdd Byw’n Iach. Yn dilyn arweiniad gan y Swyddog Monitro, nid oedd yn
fuddiant a oedd yn rhagfarnu gan fod y pwnc yn rhan o adroddiad ehangach. Nid
oedd rhaid iddo adael y cyfarfod ·
Carys Edwards - Aelod
Lleyg Eitem 13 - Manddaliadau.
Nododd ei bod yn denant ar un o fanddaliadau’r
Cyngor. Yn dilyn arweiniad gan y Swyddog Monitro, nid oedd yn fuddiant a oedd
yn rhagfarnu gan fod y pwnc yn rhan o adroddiad ehangach. Nid oedd rhaid iddi
adael y cyfarfod |
|
MATERION BRYS Cofnod: Derbyniwyd cais i drafod cylch gorchwyl gweithdrefnau mewnol yr Adran
Addysg yn dilyn achos llys cyn-bennaeth Ysgol Friars
ym Mangor, a herio canlyniad arolygiad Estyn (Mehefin 2023) o wasanaethau
Addysg Cyngor Gwynedd. Mewn ymateb i’r cais nododd y Swyddog Monitro bod y
mater yn destun ymchwiliad ffurfiol allanol ar hyn o bryd ac mai rôl y Pwyllgor
Craffu Addysg ac Economi fyddai craffu trefniadau mewnol yr Adran Addysg. Er yn
gynamserol, nododd bod gan y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio rôl o roi
trosolwg ar wybodaeth, data a chadernid prosesau ac felly bydd modd ystyried y
mater wedi i ganfyddiadau’r ymchwiliad gael ei gwblhau. |
|
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol
o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 18 Ionawr 2024 a 8fed o Chwefror 2024 fel rhai
cywir. Mewn ymateb i sylw nad oedd eitem Gweithredu
Penderfyniadau'r Pwyllgor ar yr agenda a
phryder y byddai’r eitem yma yn cael ei golli, nodwyd gyda’r nifer uchel
o eitemau ar y rhaglen, bod rhaid torri eitemau ar gyfer y cyfarfod hwn. Bydd
yr eitem i’w gynnwys, gyda diweddariad llawn i’r aelodau yn y cyfarfodydd
nesaf. |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO 2023/24 PDF 155 KB I ystyried cynnwys yr adroddiad, cynnig sylwadau ac addasiadau, a
chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Derbyn
a chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2023/24 gan argymell i’r
Cyngor Llawn ei dderbyn yn derfynnol Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad blynyddol gan
Gadeirydd y Pwyllgor. Amlygwyd bod yr adroddiad yn cael ei gyflwyno a hynny
mewn ymateb i argymhelliad cryf gan CIPFA oedd yn nodi y dylai’r Pwyllgor
baratoi adroddiad blynyddol sydd yn rhoi sicrwydd i bawb sy’n gyfrifol am
lywodraethu ei fod yn cyflawni ei bwrpas ac yn gallu dangos effaith. Pwrpas yr
adroddiad yw cwmpasu gwaith y Pwyllgor dros y flwyddyn 2023-24 ac amlygu sut
mae’r Pwyllgor wedi cyflawni ei ddyletswyddau statudol ynghyd ag ychwanegu
gwerth i drefniadau llywodraethu Cyngor Gwynedd. Roedd y Cadeirydd
yn croesawu sylwadau gan yr Aelodau cyn cyflwyno am gymeradwyaeth y Cyngor
Llawn. Diolchwyd i’r Pennaeth Cyllid am ei waith o baratoi’r adroddiad ac i Mr
Hywel Eifion Jones (cyn ddirprwy gadeirydd y Pwyllgor) am ei gefnogaeth
werthfawr. Ategodd y
Pennaeth Cyllid bod yr adroddiad yn ymateb i ofynion statudol Llywodraeth Cymru
ac wedi ei osod allan yn unol â swyddogaethau’r Pwyllgor (rhai yn swyddogaethau
mandadol ac eraill yn swyddogaethau sydd wedi eu pennu gan Cyfansoddiad Cyngor
Gwynedd). Tynnwyd sylw at effeithiolrwydd y Pwyllgor a’r nifer eitemau a
drafodwyd yn adlewyrchu gwaith y pwyllgor ynghyd ag adborth ynglŷn â
threfniadau’r Cyngor. Yn dilyn cynnal gweithdy hunan-arfarniad, amlygwyd bwriad
o gynnwys allbwn y gweithdy hwnnw fel atodiad i’r adroddiad terfynol. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y
sylwadau canlynol: ·
Bod yr adroddiad yn un da – yn croesawu’r adroddiad gan ychwanegu
diolchiadau i’r Cadeirydd am ei gwaith a’i harweiniad dros y flwyddyn ·
Bod y frawddeg ynglŷn â newidiadau i
gyfansoddiad y Pwyllgor ac o ganlyniad mwy o aelodau dibrofiad yn aelodau ar y
pwyllgor ‘wedi cymryd dwy flynedd i setlo’, yn ymddangos yn nawddoglyd. Aelodau
wedi datblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf ac wedi cynnig sylwadau newydd. Mewn ymateb i
sylw bod adroddiad Estyn (Mehefin 2023) yn annigonol a diffygiol a bod hyn yn
fater difrifol, a sut felly byddai derbyn gwybodaeth ychwanegol yn newid y
sefyllfa, nodwyd mai rôl y Pwyllgor yw derbyn adroddiadau, ac mai adlewyrchiad
/ argraff gafodd ei gyflwyno i’r Pwyllgor ynghyd ag ymateb yr Adran. Mewn
ymateb, nodwyd, i’r dyfodol bod angen ystyried trefn sydd yn herio gwybodaeth
yn hytrach na derbyn yn unig. PENDERFYNWYD: Derbyn a
chymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol drafft ar gyfer 2023/24 gan argymell i’r
Cyngor Llawn ei dderbyn yn derfynol |
|
HUNANASESIAD O YMARFER DA Y PWYLLGOR PDF 348 KB I dderbyn
a chymeradwyo cynnwys yr hunan-asesiad o ymarfer da a chymeradwyo a chefnogi’r
camau gweithredu. Penderfyniad: ·
Derbyn
yr adroddiad ·
Cymeradwyo
cynnwys yr hunanasesiad ·
Cefnogi’r
camau gweithredu Nodyn; Angen adnabod cyfleoedd i
atgyfnerthu perthynas rheoleiddwyr allanol ac Archwilio Mewnol Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio
yn cyflwyno canlyniadau a chynllun gweithredu gweithdy hunanasesiad o ymarfer
da. Fel Pwyllgor sydd wedi ei ddynodi
fel ‘y rhai sy’n gyfrifol am
lywodraethu,’ mae’n ofynnol i gynnal hunanasesiad cyfnodol o’i effeithiolrwydd,
penderfynodd y Pwyllgor, yng nghyfarfod Rhagfyr 2023, gynnal gweithdy i fynd
i’r afael â chynnal ymarferiad hunanasesiad wyneb yn wyneb gyda holl aelodau’r
Pwyllgor o dan arweiniad hwylusydd allanol. Wrth gyflwyno
gwybodaeth am yr angen i gynnal hunanasesiad, amlygwyd yng Nghanllawiau
Statudol Llywodraeth Cymru a wnaed o dan Fesur Llywodraeth Leol 2011 (Mehefin
2012), fod y Llywodraeth eisoes wedi cymeradwyo cyhoeddiad CIPFA, “Audit Committees: Practical Guidance for Local Authorities”, ac yn
cynghori awdurdodau lleol i fwrw golwg ar y dogfennau hyn fel rhai atodol i’r
canllawiau statudol. Amlygwyd bod canllawiau
CIPFA yn cynnwys arfau er mwyn cynorthwyo aelodau pwyllgorau archwilio i gynnal
hunanasesiad ac y byddai canlyniad yr asesiad yma yn dystiolaeth ar gyfer
cofrestr risg y Cyngor (risg L18, Trefniadau rheolaeth fewnol anaddas, sy'n
golygu un ai nad ydym yn gwarchod rhag risgiau, neu yn gwastraffu adnoddau ar or-reoli)
ac i’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol. Amlygwyd bod y
gweithdy wedi bod yn gyfle i’r aelodau ddod i adnabod ei gilydd a thrafod
disgwyliadau’r pwyllgor. Ategwyd bod y cynllun gweithredu yn gosod cyfeiriad
i’r pwyllgor ac yn adnabod materion i’w hystyried i’r dyfodol. Diolchwyd am yr
adroddiad ac i’r Rheolwr Archwilio am drefnu’r diwrnod. Amlygodd bod fformat y
gweithdy yn broffesiynol a’r gwaith sydd angen ei gyflawni yn rhoi hyder i
ddyfodol y pwyllgor. Materion yn codi
o’r drafodaeth ddilynol; ·
Bod angen trefnu i’r Pwyllgor gwrdd gydag
archwilio mewnol ac archwilio allanol ar wahân fel bo modd atgyfnerthu’r
berthynas - byddai hefyd yn gyfle i adolygu’r drefn a derbyn adborth. ·
Bod rôl y pwyllgor yn un ‘cynghorol’ - dylid
ystyried i’r dyfodol bod angen hawl i gynnig sylwadau ac nid derbyn y wybodaeth
yn unig. Awgrym i ailymweld â disgwyliadau a chynnig sylwadau yn hytrach na
phenderfyniadau. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut y gellir gwella trefniadau mewn
perthynas ag adroddiadau gan reoleiddwyr allanol,
nodwyd yr angen i’r pwyllgor dderbyn diweddariad gan y rheoleiddwyr ar gynnydd
yn y gwelliannau a argymhellwyd. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr adroddiad ·
Cymeradwyo cynnwys yr hunanasesiad ·
Cefnogi’r camau gweithredu Nodyn; Angen adnabod cyfleoedd i atgyfnerthu
perthynas rheoleiddwyr allanol ac Archwilio Mewnol |
|
CYFRIFON TERFYNOL 2023/24 – ALLDRO REFENIW PDF 180 KB I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau a sylwebu fel bo angen. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Nodi’r
risgiau perthnasol ·
Cefnogi
penderfyniadau’r Cabinet (14 Mai 2024) i gymeradwyo’r symiau i’w cario ’mlaen; i
gymeradwyo’r holl argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol Nodyn: Darparu
gwybodaeth am yr ysgolion hynny oedd efo diffyg ar ddiwedd y flwyddyn ariannol
a’r symiau perthnasol. Cofnod: Amlygodd yr Aelod Cabinet Cyllid bod yr
adroddiad wedi cael ei gyflwyno i’r Cabinet 14 Mai 2024 lle cymeradwywyd y
trosglwyddiadau. Gofynnwyd i’r Pwyllgor graffu a chynnig sylwadau ar y
penderfyniad. Nodwyd bod yr adroddiad yn manylu ar wariant
y Cyngor yn 2023/24, sefyllfa alldro tanwariant neu orwariant yr adrannau
unigol, a’r rhesymau am hynny. Cyfeiriwyd at dalfyriad o sefyllfa derfynol yr
holl adrannau sy’n amlygu’r symiau i’w parhau ar ddiwedd y flwyddyn ariannol
ynghyd â’r prif faterion a meysydd ble fu gwahaniaethau sylweddol. Amlygwyd, ·
Adran Oedolion Iechyd a Llesiant: Gwelwyd lleihad yn y gorwariant i £3.9
miliwn o’i gymharu ag adolygiad diwedd Tachwedd gan i’r adran dderbyn grantiau
ac incwm ers yr adolygiad diwethaf, sydd wedi cynorthwyo’r sefyllfa. Nodwyd bod
£1.8 miliwn o orwariant oherwydd pwysau cynyddol a chostus llety cefnogol yn y
Gwasanaeth Anabledd Dysgu. Yn y maes Gofal Cartref, mae costau staffio uwch a
lefelau salwch a chyfraddau oriau digyswllt yn uchel, tra bod pwysau ar y
gyllideb darparwyr gofal cartref preifat. Nodwyd bod bid o £1.6miliwn i
gynyddu’r gyllideb i ddelio â Gwasanaethau Anabledd Dysgu wedi ei wneud ynghyd
a bod gwaith ar y gweill i geisio gwell rheolaeth ar y cyllidebau – y
gorwariant yn ormodol ac felly rhaid mynd i’r afael a hyn. ·
Adran Plant: Ers adolygiad Tachwedd, gorwariant yr Adran wedi cynyddu o
£1.3 miliwn i £2.6 miliwn, oherwydd cynnydd yng nghostau lleoliadau all-sirol o
ganlyniad i gymhlethdodau pecynnau a defnydd cynyddol ddiweddar o leoliadau heb
eu cofrestru, sy’n fwy costus. Bod gobaith i geisio trefn i fewnoli’r
gwasanaeth fel bod modd mynd i’r afael â’r gorwariant. Pwysau hefyd i’w weld ar
gyllideb y Gwasanaeth Derwen. ·
Adran Addysg: Tuedd o bwysau cynyddol ar y
gyllideb tacsis a bysus ysgolion yn parhau gyda gorwariant o £1.5 miliwn ar
ddiwedd y flwyddyn. Bod adolygiad strategol i’r sefyllfa gyda swyddog neilltuol
wedi ei benodi i ddelio â hyn. Trosiant staff, derbyniad incwm a grantiau, a
llai o bwysau ar gyllidebau eraill yn lleihau’r gorwariant i £95 mil. Yr adran
yn defnyddio £95 mil o'u cronfa tanwariant adrannol i ddiddymu'r gorwariant. ·
Adran Economi / Byw’n Iach. Yn 2022/23 rhoddodd y Cyngor £550 mil o
gefnogaeth ariannol i Gwmni Byw'n Iach uwchlaw taliad cytundebol y contract
ddarparu, er mwyn iddynt gynnal eu gwasanaethau a pharhau’n hyfyw fel cwmni. Y
gefnogaeth ariannol yn parhau eleni, a’r swm gofynnol wedi lleihau i £308 mil.
Rhagweld na fydd angen cefnogaeth i’r dyfodol. ·
Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol; Gorwariant o £687 mil, oherwydd pwysau
ar y gyllideb cynnal ffyrdd a goleuo a lleihad yn y gwaith sydd yn cael ei
gomisiynu gan asiantaethau allanol. Yn y maes bwrdeistrefol, gwelir pwysau
ychwanegol ar gyllidebau staff, a cholled incwm. Er hynny, Ymgynghoriaeth
Gwynedd yn rhagori ar y gyllideb. ·
Adran Amgylchedd: Tuedd o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac
ailgylchu yn parhau ac yn £1.2 miliwn erbyn diwedd y flwyddyn. Yr Adran yn
gweithredu argymhellion WRAP Cymru i geisio mynd i’r afael a’r gorwario. Diffyg
hefyd o £601 mil ar incwm parcio. · Adran Tai ac ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 9. |
|
RHAGLEN GYFALAF 2022-23 – ADOLYGIAD DIWEDD BLWYDDYN (SEFYLLFA 31 MAWRTH 2024) PDF 174 KB I dderbyn y wybodaeth, ac ystyried y risgiau yn ymwneud â’r rhaglen gyfalaf Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: ·
Nodi’r risgiau perthnasol ·
Cefnogi penderfyniadau’r
Cabinet (14 Mai 2024) i gymeradwyo’r
ariannu addasedig Cofnod: Amlygodd yr Aelod Cabinet mai prif ddiben yr
adroddiad oedd cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig ar ddiwedd y flwyddyn
ariannol (sefyllfa 31 Mawrth 2024), a chymeradwyo’r ffynonellau ariannu
perthnasol. Cyflwynwyd yr adroddiad i’r Cabinet 14 Mai 2024 lle cymeradwywyd yr
holl argymhellion. Gofynnwyd i’r Pwyllgor dderbyn y wybodaeth ac ystyried y
risgiau oedd yn ymwneud a’r rhaglen gyfalaf. Cyfeiriwyd
at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £189 miliwn am y 3 blynedd
2023/24 - 2025/26 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar gael i ariannu’r cynnydd net
sydd oddeutu £3 miliwn ers yr adolygiad diwethaf. Prif
gasgliadau’r adolygiad oedd bod y Cyngor wedi llwyddo i wario £57 miliwn yn
2023/24 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £33 miliwn (58%) ohono wedi’i ariannu trwy
grantiau penodol. Eglurwyd
bod effaith heriau ariannol diweddar yn parhau ar y rhaglen gyfalaf. Nodwyd bod
£34 miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2023/24 i
2024/25 a 2025/26 a’r prif gynlluniau sydd wedi llithro ers y gyllideb
wreiddiol yn cynnwys: ·
£16 miliwn Cynlluniau Strategaeth Tai ·
£14.6 miliwn Cynlluniau
Ysgolion (Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill) ·
£6.4 miliwn Cynlluniau Cronfa Ffyniant Gyffredin ·
£5.7 miliwn Adnewyddu Cerbydau ac Offer ·
£4.1 miliwn Cynlluniau Rheoli Carbon a Phaneli Solar ·
£3.8 miliwn Cynlluniau Cronfa Ffyniant Bro Yn
ogystal, llwyddodd y Cyngor i ddenu grantiau ychwanegol ers yr adolygiad
diwethaf, oedd yn cynnwys y grantiau canlynol: ·
£1.755 miliwn – Grant tuag at y cynllun i
Ddatgarboneiddio Gwres o fewn y Cyngor. ·
£1.1 miliwn – Grant cyfalaf Dechrau’n Deg a Gofal Plant
gan Lywodraeth Cymru. ·
£659 mil – Grant Llywodraeth Cymru tuag at bryniant eiddo
i gwrdd â gofynion yn y maes Digartrefedd. ·
£392 mil - Grant Isadeiledd
Sbwriel gan Lywodraeth Cymru ·
£358 mil – Grant Cynnal a Chadw Ysgolion 2023/24 gan
Lywodraeth Cymru. Cyfeiriwyd at y wybodaeth am Ddangosyddion Darbodus Cyfalaf y Cyngor
sy’n ofyn adrodd newydd yn 2023-24 ac amlygwyd bod y Cyngor wedi cydymffurfio
efo’r polisi ar fenthyca at ddibenion cyfalaf. Diolchwyd
am yr adroddiad PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr adroddiad ·
Nodi’r risgiau perthnasol ·
Cefnogi penderfyniadau’r Cabinet (14
Mai 2024) i gymeradwyo’r ariannu addasedig |
|
CYFRIFON TERFYNOL HARBYRAU GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2024 PDF 104 KB Cyflwyno: · Adroddiad Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw 2022/23, a · Ffurflen Swyddogol Flynyddol o’r Cyfrifon, wedi’i ardystio, ond cyn Archwiliad I dderbyn a chymeradwyo’r cyfrifon Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau. Eglurwyd, yn unol â’r gofynion statudol o dan
Ddeddf Harbyrau 1964 bod rhaid i Cyngor Gwynedd, fel
awdurdod harbyrau, ddarparu datganiad cyfrifon
blynyddol sy’n ymwneud â gweithgareddau harbyrau
Abermaw, Aberdyfi, Pwllheli a Porthmadog. Gyda throsiant yr harbyrau
yn is na £2.5m, fe’i hystyriwyd yn gorff llywodraeth leol llai o faint ac felly
bod gofyn cwblhau ffurflen datganiadau cyfrifon a ddarparwyd gan Archwilio
Cymru i gwrdd â’r gofynion statudol. Cyfeiriwyd
at y cyfrif incwm a gwariant, ac amlygwyd bod £31mil o danwariant ar ddiwedd y
flwyddyn. O’r swm yma, adroddwyd bod tanwariant ar staffio a chynnal adeiladau yn tanwario £4 mil yr un, tra bod
gorwariant o £35 mil ar gyflenwadau a gwasanaethau ac yn benodol ar offer yn
cynnwys offer diogelwch, ond sydd yn cael ei gyllido o gronfa. O ran yr incwm,
adroddwyd bod y lefelau ffioedd £9 mil uwchlaw’r
targed incwm. Tynnwyd sylw at
ffurflen safonol yr archwilwyr allanol ynghyd a’r Datganiad Llywodraethu
Blynyddol, sydd yn sicrhau system rheolaeth fewnol gadarn. Amlygwyd bod y
cyfrifon eisoes wedi bod yn destun archwiliad mewnol a bellach wedi eu hanfon
at yr Archwiliwr allanol, Archwilio Cymru i’w harchwilio. Ategwyd mai dim ond
os bydd angen gweithredu newidiadau yn dilyn archwiliad y bydd fersiwn
ddiwygiedig yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Tachwedd. Gofynnwyd
i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio dderbyn a chymeradwyo’r Cyfrifon am
2023/24 ac i’r Cadeirydd arwyddo’r ffurflen yn electroneg ar dudalen 104. Diolchwyd
am yr adroddiad. PENDERFYNWYD Derbyn
yr adroddiad a chymeradwyo: ·
Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw
2023/24 ·
Ffurflen Flynyddol ar gyfer y Flwyddyn
a ddaeth i ben 31 Mawrth 2024, yn amodol ar archwiliad gan Archwilio Cymru ·
Cadeirydd i arwyddo’r ffurflen yn
electroneg |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL PDF 418 KB I ystyried a derbyn yr adroddiad hwn ar waith Archwilio
Mewnol Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd,
er gwybodaeth, adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn diweddaru’r Pwyllgor ar
waith archwilio mewnol am y cyfnod hyd 31 Mawrth 2024. Amlygwyd bod 12 o
archwiliadau’r cynllun gweithredol wedi eu cwblhau ac wedi ei gosod ar lefel
sicrwydd uchel; digonol neu gyfyngedig. Cyfeiriwyd
at bob archwiliad yn ei dro. Materion
yn codi o’r drafodaeth ddilynol Incwm Masnachol ·
Pryder ynglŷn â busnesau
sydd gyda symiau yn ddyledus yn parhau i dderbyn gwasanaeth - angen sicrwydd
nad ydy hyn yn digwydd eto yn dilyn archwiliad mewnol. ·
Cais am gydnabyddiaeth /
ffigwr fyddai’n gosod swm ar y dyledion i geisio darlun llawn. Yr Adran yn gorwario,
ond eto nid ydynt yn dilyn trefn adfer dyledion. Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Rheolwr Archwilio
bod yr archwiliad wedi derbyn lefel sicrwydd cyfyngedig oherwydd sefyllfa'r
ôl-ddyledion a bod y Rheolwr Gwastraff ac Ailgylchu wedi ymrwymo i weithredu
camau i liniaru’r risgiau a amlygwyd. Bydd adolygiad dilynol yn cael ei weithredu ynghyd ag ail
ymweld â’r camau gweithredu. Ategodd bod rhai sefyllfaoedd lle gwelwyd busnesau
yn symud o eiddo treth Cyngor i dreth busnes a bod posibilrwydd o incwm yn cael
ei golli yma - yn sicr angen gweld gwell trefn. Trefniadau
Diogelu – Sefydliadau Pryder
bod hanfod cyfrifoldeb yn cael ei golli yn y swmp o wybodaeth sydd yn cael ei
gyflwyno i godi ymwybyddiaeth. Mewn ymateb i’r sylw pwysleisiodd y Rheolwr
Archwilio bod gan bob aelod o staff gyfrifoldeb i gwblhau modiwl hyfforddiant
statudol ym maes diogelu - y mater yn cael ei drafod fel maes blaenoriaeth yn y
panel diogelu trawsadrannol. Cartref
Cefn Rodyn Mewn ymateb i gwestiwn ar ba ffurf fydd tystiolaeth
o gyflawni’r camau gweithredu yn cael ei adrodd yn ôl i’r Gwasanaeth /
Pwyllgor, nodwyd y bydd Archwilio Mewnol yn cynnal archwiliad dilynol lle bydd
gofyn cyflwyno tystiolaeth - os nad fydd ymateb, yna bydd adroddiad yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor. Gyda’r archwiliad wedi derbyn lefel sicrwydd ‘digonol’,
nid oedd y mater i weld yn risg uchel iawn, ond bydd adroddiad ar y camau yn
cael ei gynnwys yn yr Adroddiad Blynyddol. Dilyniant
Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid - Lefel sicrwydd cyfyngedig Pryder bod y Cyngor yn cael eu cosbi oherwydd diffyg cydymffurfiaeth â
Deddfau Cyfreithiol yn ymwneud â DoLS (Trefniadau Diogelu
rhag Colli Rhyddid). Cais am wybodaeth am y niferoedd sydd ar y rhestr yng
Ngwynedd ynghyd â sesiwn hyfforddiant am y sefyllfa. Diolchwyd
am yr adroddiad PENDERFYNWYD: ·
Derbyn yr adroddiad ·
Cefnogi gweithrediadau sydd eisoes
wedi eu cytuno gyda’r gwasanaethau perthnasol Nodyn: Yng nghyd-destun Dilyniant Diogeliadau Amddiffyn Rhyddid - amlygu
hwn fel risg |
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL PENNAETH ARCHWILIO MEWNOL 2023/2024 PDF 384 KB I ystyried yr adroddiad Penderfyniad: PENDERFYNIAD
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Archwilio yn mynegi barn Archwilio
Mewnol ar amgylchedd rheolaethol
gyffredinol o fewn yr Awdurdod yn ystod 2023/24 gan ddarparu cyfryw farn
archwilio mewnol blynyddol i’r Awdurdod. Nodwyd na all sicrwydd fyth fod yn
llwyr ac y mwyaf y gall gwasanaeth archwilio mewnol ei ddarparu i’r Cyngor ydi
cyngor rhesymol nad oes gwendidau mawr yn y system gyfan o reolaeth fewnol.
Eglurwyd bod barn flynyddol y Pennaeth Archwilio Mewnol yn seiliedig ar dair
agwedd o drefniadau’r Awdurdod - Llywodraethu, Rheoli Risg a Rheolaeth Fewnol. Ar sail gwaith Archwilio Mewnol a gwblhawyd yn
ystod 2023/2024, ystyriwyd bod
fframwaith rheolaeth fewnol Cyngor Gwynedd yn ystod y flwyddyn ariannol
2023/2024 yn gweithredu ar lefel sicrwydd rhesymol ar ddigonolrwydd ac
effeithiolrwydd cyffredinol fframwaith llywodraethu’r Awdurdod, rheoli risg a
rheolaeth fewnol. Roedd 30 darn o waith wedi eu cynnwys yng nghynllun
archwilio addasedig terfynol 2023/2024. Cafodd 29 o aseiniadau eu cwblhau erbyn
31 Mawrth 2024, sy’n cynrychioli 96.67% o’r cynllun. O’r adroddiadau perthnasol
o gynllun archwilio 2023/2024 a dderbyniodd lefel sicrwydd, derbyniodd 88.46%
ohonynt lefel sicrwydd “Digonol” neu “Uchel”. Derbyniodd 3 archwiliad ‘lefel
cyfyngedig’ ac ni dderbyniodd unrhyw archwiliad lefel ‘dim sicrwydd’. Yng nghyd-destun gwaith dilyniant, adroddwyd allan
o 104 gweithrediad cytunedig a wnaethpwyd yn 2022/23 bod 3 bellach yn
amherthnasol. Ar gyfer y 101 oedd yn weddill, roedd gweithrediad derbyniol ar
95% ohonynt erbyn 31 Mawrth 2024. Yng nghyd-destun Rhaglen Sicrwydd Ansawdd a
Gwelliant, nodwyd bod canlyniadau’r hunanasesiad o gydymffurfiaeth â Safonau
Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus (PSIAS) ynghyd â Rhaglen Sicrwydd Ansawdd a
Gwelliant wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor
yng Ngorffennaf 2017. Bydd canlyniadau’r hunanasesiad
yn erbyn y safonau a Nodyn diwygiedig i Lywodraeth Leol (2019) yn cael ei
gyflwyno i’r Pwyllgor yn ystod 2024/25 yn ogystal â chanlyniadau’r asesiad
allanol. Diolchwyd am yr adroddiad eglur a chalonogol. Materion yn codi o’r
drafodaeth ddilynol ·
Angen ail sefydlu’r Gweithgor
Gwella Rheolaethau ·
Tri maes cyfyngedig wedi eu
hadnabod Cynllunio - Trefniadau Cyfathrebu, Mesurau Diogelu Amddiffyn Rhyddid a
Manddaliadau. Amserlen wedi llithro felly ac angen ail ymweld â hwy neu alw’r mater
gerbron y Gweithgor Gwella. ·
Ble digwyddodd gwendidau
arwyddocaol mewn rheolaeth fewnol, nodwyd yn y Gymraeg bod y materion hyn wedi
cael sylw gan y Pwyllgor - yn y fersiwn Saesneg mae’n adrodd bod y materion
wedi cael eu datrys (resolve) gan y Pwyllgor -
dylai’r frawddeg nodi ‘drawn attention’ Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â lleihad mewn nifer dyddiau
cynhyrchiol ac os oedd hyn wedi arwain at ganslo archwiliadau, ac os bydd
gwelliant i’r dyfodol, nodwyd bod y lleihad yn y dyddiau oherwydd salwch tymor
hir, mamolaeth, salwch ac estyniad secondiad mewn sefydliad arall (oedd yn dod
a ffynhonnell incwm i’r gwasanaeth), ond angen bod yn wyliadwrus o’r sefyllfa
i’r dyfodol. Ategodd bod pwysau i gynyddu’r incwm gyda tharged arbedion o £42
mil yn sylweddol mewn tîm bychan. PENDERFYNWYD ·
Derbyn yr
adroddiad yn unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus am y
flwyddyn ariannol 2023/24 |
|
CYNLLUN ARIANNOL TYMOR CANOLIG PDF 86 KB I dderbyn yr wybodaeth, ystyried risgiau sy’n deillio o’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig, a chraffu’r penderfyniadau’r Cabinet Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Derbyn yr adroddiad ·
Nodi’r risgiau perthnasol
sy’n deillio o’r Cynllun Arainnol Tymor Canolig ·
Cefnogi penderfyniadau’r
Cabinet (14 Mai 2024) Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Cyllid mewn ymateb i’r
heriau ariannol sy’n wynebu’r Cyngor. Pwrpas y cynllun yw gosod allan y
rhagolygon am sefyllfa’r Cyngor dros y dair blynedd ariannol nesaf gan gynnig
rhagdybiaethau yn ogystal a chynigion i fynd i’r afael â’r bwlch ariannol mae’r
Cyngor yn ei wynebu. Amlygwyd bod y cynllun wedi cael ei gymeradwyo gan y
Cabinet (14 Mai 2024) Eglurodd y Prif Weithredwr nad yw canfod toriadau ar gyllideb a
gwasanaethau’r Cyngor yn broses newydd gan fod toriadau wedi cael ei gyflwyno
yn flynyddol ers 18 mlynedd. Ymfalchïwyd bod y Cyngor wedi llwyddo i gynnal
gwasanaethau er lleihad yng nghyllidebau adrannau ond cydnabuwyd yr angen i ddod
a rhai gwasanaethau i ben yn y dyfodol. Cadarnhawyd bod y gyllideb ar gyfer eleni wedi ei gosod a rhagwelir
diffyg sylweddol yn incwm y Cyngor erbyn 2027/28 ac felly mae gwaith yn mynd
rhagddo i ymdrechu i lenwi’r bwlch drwy gynllun ffeithiol. Pwysleisiwyd bod y
rhagdybiaethau yn seiliedig ar sail gwybodaeth y blynyddoedd diwethaf a'i fod
yn gynllun cychwynnol i fynd i’r afael â chyllideb y tymor canolig. Cyfeiriwyd ar grynodeb o’r cynllun gan nodi ei fod yn manylu ar ffactorau
hysbys sy’n effeithio ar sefyllfa ariannol y Cyngor yn ystod y tymor canolig
(rhwng 2025/26 hyd at ddiwedd 2027/28). Manylwyd y rhagwelir chwyddiant ar
gyflogau staff y Cyngor yn ogystal â phrisiau nwyddau, yn ogystal â chynnydd
ardollau yn cael effaith ar gyllideb y Cyngor o fewn y cyfnod hwn. Er hyn,
pwysleisiwyd nad oes cytundeb i gynyddu cyflogau gyda’r undebau ar hyn o bryd.
Pwysleisiwyd hefyd nad oedd ystyriaeth fanwl wedi ei roi i addasu lefelau treth
Cyngor, a byddai unrhyw addasiad angen cymeradwyaeth y Cyngor Llawn. Esboniwyd fod y gyfradd chwyddiant a ddefnyddir yn y Cynllun yn
seiliedig ar ragolwg Banc Lloegr a chyngor gan gwmni Arlingclose,
sef ymgynghorwyr trysorlys y Cyngor. Nodwyd bod swyddogion wedi selio cyfradd
chwyddiant rhagdybiaethol i 2% ar gyfer nifer o flynyddoedd y tymor canol er
mwyn cynllunio i gyfarch y bwlch hwnnw. Cydnabuwyd bod galw blynyddol am
gyllideb ychwanegol uwchlaw chwyddiant mewn rhai meysydd a rhagwelir bydd angen
£3 miliwn y flwyddyn er mwyn ymdrin â’r galw hwn. Pwysleisiwyd mai darpariaeth
ddarbodus yw hyn, nid targed gwariant a bydd unrhyw fid ariannol yn derbyn
ystyriaeth ofalus. Adroddwyd bod y Cynllun yn amcangyfrif bwlch ariannol o £36,200mil (cyn
ystyried unrhyw gynnydd Treth Cyngor ac arbedion sydd eisoes wedi eu hadnabod)
yn ystod y tymor canol yn seiliedig ar ragdybiaethau ac amcanion. Cadarnhawyd y
gobeithir cyflwyno amrywiol opsiynau ar gamau nesaf i’r dyfodol a nodwyd yr angen
i ganfod cydbwysedd rhwng cynnal gwasanaethau ac addasu lefelau treth Cyngor. Penderfynodd y Cabinet gomisiynu’r Prif Weithredwr i sefydlu ac arwain ar ystod o fesurau a phecynnau gwaith, i ragbaratoi ar gyfer cyfarch y bwlch sylweddol yn y gyllideb dros y tair blynedd nesaf. Bydd y gwaith hefyd yn ystyried dulliau enwyd o ariannu gwasanaethau, yn rhoi darlun clir o gynaliadwyedd y Cyngor dros y tair blynedd nesaf ac yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 14. |
|
CYNLLUN RHEOLI ASEDAU 2024-2034 PDF 137 KB I graffu’r wybodaeth cyn i’r Cabinet ystyried y Cynllun Rheoli Asedau yn
ei gyfarfod ar Mehefin 11eg 2024 Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Derbyn yr adroddiad ·
Cymeradwyo priodoldeb y
broses o sefydlu blaenoriaethau y Cynllun ·
Cefnogi’r argymhelliad i’r
Cabinet (11 Mehefin 2024) i gymeradwyo’r Cynllun Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Prif Weithredwr yn gofyn
i’r aelodau graffu’r wybodaeth a chynnig sylwadau bod y ffeithiau sydd yn cael
eu cyflwyno yn seiliedig ar wybodaeth gadarn a bod priodoldeb y broses o
sefydlu’r blaenoriaethau wedi eu hystyried yn llawn, cyn i’r Cabinet ystyried y
Cynllun yn ei gyfarfod Mehefin 11eg 2024. Eglurwyd
bod y Cyngor yn derbyn grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru yn flynyddol i’w
ddefnyddio ar gyfer blaenoriaethau rheoli asedau. Pan fabwysiadwyd y Cynllun
Rheoli Asedau yn 2019, adroddwyd bryd hynny bod y Cyngor yn derbyn £6.6miliwn o
adnodd cyfalaf bob blwyddyn, ac nid yw wedi cynyddu ers sefydlu Cynllun
blaenorol yn 2009. Rhwng 2018 a 2023, derbyniwyd symiau uwchlaw hynny( oddeutu
£2miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd), ar ffurf grantiau i bwrpas penodol. Fodd bynnag, amlygwyd pryder y bydd y grantiau
ychwanegol yn dod i ben, a’r grant cyfalaf craidd yn parhau ar yr un lefel -
£6.6miliwn y flwyddyn. Bydd hyn yn golygu na fydd modd cyflawni cymaint gyda’r
adnodd craidd - o ystyried lefelau chwyddiant dros y 5 mlynedd diwethaf y mae
gwerth £6.6miliwn yn 2009 gyfwerth â £4.3miliwn heddiw, sy’n lleihad o 34%. Wrth
osod y cynllun 10 mlynedd newydd, rhagdybiwyd fod £47.7miliwn o arian cyfalaf
ar gael i ymestyn y cynllun am 5 mlynedd ychwanegol. Daethpwyd i’r casgliad yma
drwy ystyried swm grant cyfalaf blynyddol ynghyd â chyfalaf a chronfeydd sydd
heb eu dyrannu yn y Cynllun Rheoli Asedau presennol. Ategwyd, er mwyn ymateb i
gynlluniau newydd sy’n codi lle nad oes modd eu rhagweld wrth osod y cynllun
hwn, y bwriad yw parhau i gynnal darpariaeth o £0.5miliwn y flwyddyn er mwyn
cyfarch y gofynion hynny. Nodwyd y byddai hyn yn dod â’r swm ychwanegol sydd ar
gael i ymestyn y Cynllun Rheoli Asedau hyd at 2034 i £45.2miliwn. Wrth sefydlu’r Cynllun 10 mlynedd, adroddwyd bod
gwahoddiadau am geisiadau wedi eu gwneud i'r Adrannau i nodi eu hanghenion
cyfalaf dros y 10 mlynedd nesaf - derbyniwyd 70 o geisiadau gyda chyfanswm
gwariant o £129.3 miliwn. Aseswyd yr holl gynlluniau gan y Prif Weithredwr gan
osod mewn categori risg uchel, risg cymedrol a risg isel. Cyflwynwyd y
wybodaeth i Aelodau Etholedig i gasglu barn ar yr asesiad risg ar bob un o’r
cynlluniau. Diolchwyd
am yr adroddiad Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn ag astudiaethau dichonoldeb ac os bydd unrhyw
welliant yn ddibynnol ar astudiaeth dichonoldeb, nodwyd mai rhan helaeth o’r
broses fydd ymgeisio am grantiau drwy ffynonellau eraill a’r angen i ystyried
bod cwtogi ddim yn amharu yn ormodol. Materion yn codi o’r drafodaeth ddilynol: ·
Yn diolch am y gwahoddiad i’r sesiwn briffio ·
Croesawu trefn i gyfarch y bwlch ·
Croesawu cyfraniad premiwm tai i ariannu buddsoddiad brys i
ddelio gyda risgiau iechyd a diogelach mân ddaliadau ·
Ystyried cyfalaf ychwanegol
drwy werthu eiddo - a yw pob adeilad yn cael defnydd llawn? A oes adolygiad
wedi ei wneud ers covid i adolygu defnydd adeiladau?
A yw adeiladau yn cael eu defnyddio yn rhesymol? Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gwerthu adeiladau i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 15. |
|
SIARTER ARCHWILIO MEWNOL PDF 352 KB I ystyried a chymeradwyo’r Siarter Penderfyniad: Cofnod: Yn
unol â gofynion Safonau Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus 2013
(diwygiedig 2017) rhaid llunio Siarter Archwilio
Mewnol gyda chynnwys y Siarter yn cyfarch Nodyn Gweithredu Llywodraeth Leol
(2019) a gyhoeddwyd gan CIPFA.
Cyflwynwyd Siarter Archwilio Mewnol Gwynedd gan y Rheolwr Archwilio gan
nodi mai cyfrifoldeb y Pwyllgor yw cymeradwyo’r siarter yn flynyddol. Tynnwyd sylw at yr angen yn y flwyddyn nesaf i
ddiweddaru’r Siarter Archwilio i adlewyrchu gofynion newydd “Safonau Archwilio
Mewnol Byd-eang” (Global Internal
Audit Standards) fel y
cyhoeddwyd gan yr Institute of Internal Auditors (IIA). Bydd angen i’r addasiadau fod yn weithredol
erbyn 2025. Cyfeiriwyd hefyd at un newid arall ers cymeradwyo
siarter 2023/24 sef bod pwrpas y Gwasanaeth Archwilio Mewnol wedi ei ehangu. Diolchwyd
am yr adroddiad PENDERFYNWYD
Derbyn
yr adroddiad a chymeradwyo’r Siarter Archwilio Mewnol |
|
STRATEGAETH ARCHWILIO MEWNOL A'R CYNLLUN ARCHWILIO BLYNYDDOL 2024/25 PDF 336 KB I ystyried cynnwys y Strategaeth Archwilio Mewnol a'r Cynllun Archwilio Mewnol 2024/2025, ei gymeradwyo, a chefnogi Archwilio Mewnol i gyflawni ei rôl. Penderfyniad: Cofnod: Cyflwynwyd, yn unol â gofynion Safonau
Archwilio Mewnol y Sector Gyhoeddus, gynllun yn seiliedig ar risg i bennu
blaenoriaethau’r gweithgarwch Archwilio Mewnol sydd yn gyson ag amcanion y
Cyngor. Eglurwyd bod y cynllun gyda hyblygrwydd i sicrhau rhydd sylw i unrhyw
faterion a ddaw i’r amlwg, ac y bydd unrhyw addasiadau / newidiadau i’w
cymeradwyo gan y Pwyllgor. Cyfeiriwyd at ddefnydd methodoleg AGILE sydd yn
darparu modd hyblyg a dynamig i Gynllun Archwilio Mewnol o ganlyniad i fonitro
risg yn barhaus. Rhagwelir y bydd
oddeutu 660 diwrnod o adnoddau archwilio ar gael i gwblhau cynllun archwilio
2024/25. Bydd hyn ar sail dadansoddi’r
adnoddau staffio sydd ar gael, gan gynnwys cyllidebau rhesymol ar gyfer
gweithgareddau “di-gynnyrch” megis gwyliau, salwch, hyfforddiant, rheolaeth a
chyfarfodydd a darpariaeth resymol ar gyfer gwaith ymatebol a dilyniant. Tynnwyd sylw at
waith sydd yn cael ei wneud gyda Polisi Canu’r Gloch y Cyngor gan nodi pryder
mai ychydig iawn o faterion ffurfiol sydd yn cael eu cyfeirio - nodwyd bod
holiadur adborth yn cael ei ystyried. Cyfeiriwyd at yr archwiliadau unigol gan
dynnu sylw at archwiliad Rheoli Absenoldebau a Threfniadau Cyfeirio i wirio
rheolaethau priodol y modiwl salwch newydd ynghyd â sicrhau sicrwydd bod
cefnogaeth addas i reolwyr gefnogi eu timau: Archwiliad Clybiau Brecwast fydd
yn sicrhau trefniadau Iechyd a Diogelwch megis alergedd bwyd a bod trefniadau
priodol i gofnodi hynny; Trefniadau Dosbarthu Biniau - cais yma gan Bennaeth yr
Adran i adnabod arbedion posib. Archwiliad dilynol i faes Manddaliadau
i sicrhau bod cynnydd digonol wedi ei wneud ers cynnal archwiliad yn 2022/23 Diolchwyd am yr adroddiad PENDERFYNWYD Derbyn yr adroddiad a chymeradwyo’r
Strategaeth Archwilio Mewnol a’r Cynllun Archwilio Blynyddol |
|
ARCHWILIO CYMRU - Diweddariad Chwarter 4 PDF 95 KB I ystyried a derbyn yr adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad Cofnod: Croesawyd
Alan Hughes (Swyddfa Archwilio Cymru) i’r cyfarfod i gyflwyno’r adroddiad Cyflwynwyd
diweddariad ar raglen waith ac amserlen Archwilio Cymru hyd ddiwedd Mawrth 2024. Amlygodd bod gwaith ar ddarparu barn ynglŷn â
chywirdeb a thegwch y datganiadau ariannol ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben
Mawrth 2024 yn dechrau yn fuan gydag archwiliad terfynol i’w gwblhau rhwng Medi
a Thachwedd 2024. Nodwyd hefyd bod
Ardystio Ffurflenni Grantiau Cymhorthdal Budd-dal Tai 2022/23 hefyd wedi ei
ardystio yn Mai 2024. Yng nghyd-destun Adolygiad Thematig Digidol (cyflwynwyd
i’r Pwyllgor Rhagfyr 2023), adroddwyd bod bwriad rhannu negeseuon o’r adolygiad
a gwblhawyd ar draws awdurdodau Cymru, ddiwedd yr Haf. PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad |
|
I ystyried a
derbyn yr adroddiad Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Derbyn
yr adroddiad, er gwybodaeth ·
Croesawu
ymateb y Rheolwyr Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad cenedlaethol gan Archwilio Cymru yn cyfeirio at archwiliad a wnaed
Ionawr 2024, i ganfod os yw awdurdodau lleol yn gwneud popeth o fewn eu
gallu i roi cefnogaeth ac anogaeth i ail-bwrpasu
eiddo gwag, annomestig a safleoedd tir llwyd gwag yn gartrefi neu ar gyfer
defnyddiau eraill. Nodwyd bod
Llywodraeth Cymru yn hybu’r arfer o ddefnyddio tir a ddatblygwyd o’r blaen ac
ail-bwrpasu adeiladau gwag, lle bynnag bydd hyn yn bosib. Gofynnwyd
i’r Cyngor ystyried canfyddiadau a thri argymhelliad Archwilio Cymru.
Cyflwynwyd ymateb y sefydliad i’r argymhellion ac i’r Pwyllgor eu hystyried,
gan Gareth Jones (Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd). Amlygodd, y bydd adnabod ac
asesu safleoedd posib yn rhan o’r broses o greu Cynllun Datblygu Lleol newydd i
Ardal Awdurdod Cynllunio Lleol Gwynedd. Bydd y broses yn galw am dystiolaeth
drwyadl o adnabod safleoedd allai fod ar gael er mwyn diwallu anghenion
datblygu ar gyfer defnydd tai a chyflogaeth. Bydd y broses hefyd yn cynnwys
ymgysylltu ac ymgynghori i sicrhau cyfraniad rhanddeiliaid a’r cyhoedd. Ategwyd
bod y Cyngor wedi datblygu Fframwaith Adfywio ar gyfer y Sir sydd yn cynnwys 13
o gynlluniau adfywio ar gyfer dalgylchoedd lleol oedd wedi eu llywio gan
anghenion cymunedau lleol. Bydd y gwaith o wreiddio’r cynlluniau hyn yn digwydd
yn y misoedd nesaf. Diolchwyd
am yr adroddiad ac am yr ymateb. Materion yn codi
o’r drafodaeth ddilynol: ·
Y ddogfen wreiddiol yn rhagdybio’r angen am
ddatblygiadau ar raddfa fawr - dim yn argyhoeddedig y byddai trwch trigolion y
Sir yn cyfarch hyn. ·
Tuedd o ddefnyddio tir glas. Os defnyddio tir
llwyd a thir glas a fydd hyn yn ymylu ar orddatblygu? ·
Bod prinder tai yn y Sir - angen defnyddio
pob adnodd, pob adeilad a phob tŷ
gwag i gyfarch yr angen - gweld defnydd i’r adroddiad ·
Stryd fawr yn dirywio - siopau gwag - rhaid
ystyried defnydd gwahanol ·
Ystyried cynyddu premiwm tai gwag ·
Bod enghreifftiau da o sut mae’r system
cynllunio yn cydweithio gyda threftadaeth a diwylliant drwy ddod ag adeiladu
rhestredig yn nol i ddefnydd Mewn ymateb i’r sylwadau nodwyd bod adfywio canol trefi / dinasoedd yn
her genedlaethol ond yn lleol bod y newid yn rhywbeth sydd angen ei gyfarch yn
y Cynllun Datblygu Lleol newydd ac yn y Strategaeth Economaidd. Ategodd bod
Premiwm Tai Gwag, cyfarwyddyd Erthygl 4 a gosod amodau llety gwyliau i gyd yn
ymyraethau all fynd i’r afael i ddiwallu anghenion tai Gwynedd. Yng
nghyd-destun trosi adeiladu rhestredig, nodwyd yr angen i fod yn ofalus peidio
tanseilio cymeriad hanesyddol unrhyw eiddo, ond cefnogaeth ar gael i hwyluso’r
broses. PENDERFYNWYD: • Derbyn yr adroddiad, er gwybodaeth • Croesawu ymateb y Rheolwyr |
|
ARCHWILIO CYMRU - Gosod Amcanion Llesiant – Cyngor Gwynedd PDF 102 KB I ystyried
a derbyn yr adroddiad Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: PENDERFYNIAD ·
Derbyn
yr adroddiad, er gwybodaeth ·
Croesawu ymateb y Rheolwyr Cofnod: Cyflwynwyd
adroddiad gan Archwilio Cymru yn cyfeirio at archwiliad a wnaed yng Nghyngor
Gwynedd i sefydlu sut wnaeth y Cyngor gymhwyso’r egwyddor datblygu gynaliadwy
drwy gydol y broses o osod ei amcanion llesiant. Amlygwyd bod Cyngor Gwynedd
wedi dechrau’r gwaith o osod amcanion llesiant newydd yn ystod 2022 gan
gyhoeddi saith amcan newydd ym Mawrth 2023 fel rhan o Gynllun y Cyngor ar gyfer
2023 - 2028. Gofynnwyd
i’r Cyngor ystyried canfyddiadau a phedwar argymhelliad Archwilio Cymru.
Cyflwynwyd ymateb y sefydliad i’r argymhellion ac i’r Pwyllgor eu hystyried,
gan Dewi Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor) Nodwyd bod bwriad
adnabod mesurau addas i fesur cynnydd yn
erbyn yr amcanion llesiant fel rhan o’r adolygiad o’r trefniadau adrodd ar
berfformiad. Ategodd gwaith mapio amcanion llesiant amcanion partneriaid wedi
ei gwblhau i sicrhau bod yr amcanion yn plethu ac yn ychwanegu gwerth. Ategodd
bod gwaith hefyd yn cael ei wneud i ymestyn rhwydweithiau rhanddeiliaid wrth
geisio cynnwys pobl i adlewyrchu amrywiaeth lawn y Sir - enghraifft o hyn yw
ceisio mwy o aelodau cynrychioladol o boblogaeth y Sir ar y Panel Trigolion. PENDERFYNIAD ·
Derbyn yr adroddiad, er gwybodaeth ·
Croesawu ymateb y Rheolwyr |
|
DEDDF LLYWODRAETH LEOL AC ETHOLIADAU (CYMRU) 2021 - ASESIAD PERFFORMIAD PANEL PDF 241 KB I ystyried yr adroddiad a
gyflwynir gan gynnig unrhyw sylwadau ac argymhellion gan ganolbwyntio yn benodol ar y meysydd posibl i’r Panel
edrych arnynt. Penderfyniad: PENDERFYNIAD: ·
Derbyn
yr adroddiad a diweddariad ar y gwaith o gynnal Asesiad Perfformaid Panel o
fewn y Cyngor Nodyn: I ystyried cynllunio’r gweithlu,
cynllunio olyniaeth a dilyniant rheolaethol fel meysydd posib i’r Panel edrych
arnynt Cofnod: Cyflwynwyd diweddariad ar y gwaith o gynnal Asesiad
Perfformiad Panel o fewn y Cyngor gan roi cyfle i’r Pwyllgor roi mewnbwn i’r
ddogfen cwmpasu ynghyd ag adnabod meysydd posibl i’r Panel edrych arnynt.
Bwriad yr asesiad yw edrych yn benodol ar y graddau mae'r Cyngor yn gweithredu
ei swyddogaethau’n effeithiol, yn defnyddio ei adnoddau yn ddarbodus,
effeithlon ac effeithiol a bod trefniadau llywodraethu effeithiol i sicrhau
hyn. Atgoffwyd yr Aelodau bod Deddf Llywodraeth Leol ac
Etholiadau Cymru (2021) yn gosod cyfrifoldeb ar y Cynghorau i gynnal Asesiad
Perfformiad Panel unwaith o fewn cylch etholiadau. Yng nghyfarfod o’r Cyngor
Llawn Medi 2023, gosodwyd y swyddogaeth o drefnu a phenodi panel gyda’r Cabinet
ond fod yr ymateb i’r adroddiad ar argymhellion yn cael eu cadw i’r Cyngor
Llawn. Y Cabinet fydd hefyd yn gyfrifol am sefydlu’r cylch gorchwyl ar gyfer yr asesiad a phenderfynu ar yr
enwebiadau ar gyfer y Panel. Adroddwyd bod Grŵp Llywodraethu’r Cyngor
eisoes wedi adnabod meysydd lle byddai ystyriaeth y Panel yn cael ei groesawu
ac y byddai unrhyw sylwadau / awgrymiadau gan y Pwyllgor ynghylch meysydd posib
i'r Panel edrych arnynt yn cael eu hystyried gan y Cabinet cyn cytuno ar
ddogfen gwmpasu derfynol. Ategwyd bod bwriad cwblhau’r ddogfen cwmpasu yn derfynol
yn ystod mis Gorffennaf ac yn dilyn hynny, adnabod a chadarnhau aelodau’r Panel
dros yr Haf cyn cynnal yr adolygiad yn yr Hydref. Yn dilyn hynny, bydd disgwyl
adroddiad gydag argymhellion mis Rhagfyr gydag adroddiad i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio yn 2025. Diolchwyd am yr adroddiad Materion yn codi
o’r drafodaeth ddilynol: ·
Bod cynnal yr asesiad yn ofyn statudol felly
angen sicrhau derbyn yr arbenigaeth sydd ar gael ·
Bod diffygion dilyniant rheolaethol o fewn
adrannau ar draws y Cyngor ·
Bod angen sicrhau bod y sgiliau iawn yn y lle
iawn o fewn y Cyngor - angen gwell cynllunio PENDERFYNWYD: ·
Derbyn yr adroddiad a diweddariad ar y gwaith
o gynnal Asesiad Perfformiad Panel o fewn y Cyngor Nodyn: I ystyried cynllunio’r gweithlu, cynllunio
olyniaeth a dilyniant rheolaethol fel meysydd posib i’r Panel edrych arno |
|
DIWEDDARIAD CHWARTEROL RHEOLAETH TRYSORLYS PDF 138 KB I dderbyn yr adroddiad er gwybodaeth Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn
adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor 2023/24 hyd Rhagfyr
2023, yn erbyn Strategaeth Rheolaeth Trysorlys 2023/24 a gymeradwywyd gan y
Cyngor Llawn Mawrth 2023. Nodwyd bod y strategaeth yn gofyn i’r Rheolwr
Buddsoddi adrodd ar ddangosyddion darbodus rheoli’r trysorlys yn chwarterol
gydag adolygiad o’r flwyddyn ariannol llawn hefyd i’w gyflwyno i’r Pwyllgor pan
yn amserol. Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn
brysur a llewyrchus iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor wrth i’r
gweithgaredd aros o fewn y cyfyngiadau a osodwyd. Cadarnhawyd nad oedd unrhyw
fethiant i ad-dalu gan y sefydliadau roedd y Cyngor wedi buddsoddi arian gyda
nhw a bod y cyfraddau llog wedi bod yn uchel ac wedi cynhyrchu incwm llog
sylweddol. Ar 31ain Rhagfyr 2023, roedd y Cyngor mewn sefyllfa
gref iawn gyda buddsoddiadau net a hynny oherwydd y lefel uchel o fuddsoddiadau
a chyfalaf gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys arian y Bwrdd Uchelgais a’r Gronfa
Bensiwn. Cyfeiriwyd at y Dangosyddion Darbodus gan dynnu
sylw penodol at y Meincnod Ymrwymiadau gan nodi ei fod yn arf pwysig i ystyried
os yw’r Cyngor yn debygol o fod yn
fenthyciwr hirdymor neu'n fuddsoddwr hirdymor yn y dyfodol, ac felly yn siapio
ffocws strategol a miniogi penderfyniadau. Eglurwyd
bod y Cyngor yn disgwyl parhau i fenthyca uwchlaw ei feincnod atebolrwydd hyd
at 2027 a hyn oherwydd bod y Cyngor yn dal cronfeydd wrth gefn gyda’r llif
arian hyd yma, wedi bod yn is na'r rhagdybiaethau a wnaed pan fenthycwyd yr
arian. Nodwyd bod yr holl weithgareddau wedi
cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA ar wahân i un dangosydd (Datguddiad
Cyfraddau llog). Eglurwyd bod y dangosydd yma wedi ei osod yn amodau llog isel
Chwefror 2023 ac felly’n rhesymol bod y symiau mor wahanol. Ategwyd bod hyn
wedi ei drafod yn y Pwyllgor diwethaf a’r mater i’w drafod ymhellach gydag Arlingclose i osod dangosydd gwahanol ar gyfer 2024/25. Diolchwyd am yr adroddiad. Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau
canlynol gan aelodau: ·
Bod Gwynedd yn ffodus iawn bod
arian digonol wrth gefn a bod y sefyllfa yn cael ei fonitro yn rheolaidd ·
Pryderon Adran 114 yn cynyddu
o fewn Cynghorau - angen cadw llygad ar y sefyllfa PENDERFYNWYD: Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth |
|
BLAENRAGLEN Y PWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO HYD CHWEFROR 2025 PDF 111 KB I ystyried y rhaglen
a chynnig sylwadau Penderfyniad: PENDERFYNIAD: Derbyn y
blaen raglen ar gyfer 2024/25 Cofnod: Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer
cyfarfodydd y Pwyllgor hyd Chwefror 2025. PENDERFYNWYD: Derbyn y blaen raglen ar gyfer 2024/25 |