Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

COFNODION:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorydd Dafydd Meurig

 

Mewn ymateb i sylw bod dwy sedd wag gan Aelodau Lleyg ar y Pwyllgor, nodwyd bod y gwaith o hysbysebu’r seddi yn mynd yn ei flaen gyda hysbyseb barhaus ar wefan y Cyngor. Nodwyd mai anodd yw cael pobl i ddangos diddordeb a bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r Swyddog Monitro a’r Gwasanaeth Democratiaeth i geisio syniadau am ysgogiad diddordeb. Derbyniwyd bod y sefyllfa yn un pryderus ac yn creu diffyg balans yn aelodaeth y Pwyllgor.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

COFNODION:

Dim i’w nodi

 

3.

MATERION BRYS

COFNODION:

Dim i’w nodi

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 166 KB

COFNODION:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 28 Tachwedd 2024 fel rhai cywir

 

5.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 172 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig sylwadau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn cynnwys yr adroddiad

·       Archwiliad Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth - cais am adroddiad  yn nodi Trefniadau’r Cyngor i ymdrin â materion Rhyddid Gwybodaeth

 

Nodyn:

Gwastraff ac Ailgylchu – adolygiad WRAP i’w rannu gyda’r Aelodau

 

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn cynnwys yr adroddiad

·        Archwiliad Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth - cais am adroddiad  yn nodi Trefniadau’r Cyngor i ymdrin â materion Rhyddid Gwybodaeth

 

Nodyn:

Gwastraff ac Ailgylchu – adolygiad WRAP i’w rannu gyda’r Aelodau

 

 

6.

CYLLIDEB REFENIW 2024/25 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2024 pdf eicon PDF 182 KB

I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet a sylwebu fel bo angen.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau

·       Cytuno gyda’r argymhellion i’r Cabinet:

 

Nodyn:

·       Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i gael gwell dealltwriaeth o orwariant gan yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant - cais i’r Cabinet herio beth yw amserlen y gwaith yma – angen sicrwydd bod y gwaith yma yn ei le i osod cyllideb

·       Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i egluro manylder y darlun yng ngofal Plant, er mwyn cael gwell dealltwriaeth o’r materion a rhaglen glir i ymateb.

 – angen cyflwyno dadansoddiad manylach o’r gwaith i’r Pwyllgor

·       Cais am wybodaeth ar sut mae rhagolygon ariannol Gwynedd yn cymharu gyda Chynghorau eraill

·       Gwybodaeth am incwm uwch gan y gwasanaeth profedigaeth marwolaethau, diffyg incwm parcio a manylion ‘pres y pen’ i’w rannu’n uniongyrchol gyda’r Cyng. Angela Russell

 

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2024/25, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol.  Gofynnwyd i’r Pwyllgor graffu’r wybodaeth a chynnig sylwadau cyn cyflwyno am gymeradwyaeth y Cabinet  21 Ionawr 2025.

 

Cyfeiriwyd ar dalfyriad o sefyllfa derfynol yr holl adrannau gan adrodd, yn dilyn adolygiad

ddiwedd Tachwedd ar orwariant bod  83% ohono yn y maes gofal oedolion a phlant, ond  y rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd pump o’r adrannau yn gorwario erbyn diwedd y flwyddyn, gyda gorwariant sylweddol ar gyfer yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, Adran Plant a Theuluoedd, Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC a’r Adran Amgylchedd.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·        Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i gael gwell dealltwriaeth o orwariant gan yr Adran Oedolion Iechyd a Llesiant - beth yw amserlen y gwaith a pryd fydd y wybodaeth yn cael ei rannu?

·        Gwaith sydd wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i egluro manylder y darlun ym maes gofal plant - angen cyflwyno’r wybodaeth i’r Pwyllgor

·        Bod mwy o alw am wasanaethau - a’i buddsoddiad annigonol sydd yma ynteu orwariant? Bod Cynghorau ar draws Cymru yn yr un sefyllfa. Sut mae Gwynedd yn cymharu gyda Chynghorau eraill?

·        Er yn ffodus o gronfeydd wrth gefn y Cyngor, nid yw hyn yn gallu cynnal y sefyllfa - cyfrifoldeb ar Benaethiaid i ‘fyw o fewn’ y gyllideb

·        Gwendidau gweinyddiaeth i ofal cartref – a yw’r sefyllfa wedi gwella?

·        Cyfeiriad at seibiant gwario canol blwyddyn - a yw hyn yn annheg os byddai rhywun angen gwasanaeth?

·        A oes cynlluniau tymor hir i feysydd incwm y Cyngor yn hytrach na thymor byr / canolig? A yw’r trothwy incwm yn rhy uchel ac o ganlyniad yn amlygu bod y gwasanaeth yn aneffeithiol ar bapur? Faint yn llai e.e., yw incwm parcio yng Ngwynedd?

·        Prinder gweithwyr - a yw cytundebau 16 awr yn cronni’r sefyllfa? Wrth ystyried amodau gwaith gofalwyr yn gyffredinol a oes ystyriaeth i ail gyflwyno tâl chwyddedig?

·        Ffigyrau sensws Gwynedd – nifer marwolaethau yn uchel – beth yw effaith hyn?cais am fanylion pres y pen ac incwm uwch y gwasanaeth profedigaeth marwolaethau

·        A oes mewnbwn i leoliadau all sirol i blant gan y Bwrdd Iechyd?

 

Er bod gwaith eisoes wedi ei gomisiynu gan y Prif Weithredwr i edrych ar sefyllfa ariannol yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, gwahoddwyd Dylan Owen (Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol) ac Aled Davies (Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant) i’r cyfarfod i roi cyd-destun ac eglurhad llawnach ar benawdau cyllideb yr Adran gan fanylu ar sefyllfa gyllidol heriol yr Adran.

 

Wrth ymateb i sylw ynglŷn â mewnbwn y gwasanaeth iechyd i leoliadau allsirol, nodwyd nad mater iechyd oedd yma, ond diffyg darpariaeth cartrefi / llety i blant mewn angen. Eglurwyd nad oes darpariaeth ddigonol yng Ngwynedd ac felly bod rhaid chwilio am lety diogel tu allan i’r Sir. Ategwyd bod y galw am leoliadau preswyl yn genedlaethol yn uchel  ...  view the full COFNODION text for item 6.

7.

RHAGLEN GYFALAF 2024/25 – ADOLYGIAD DIWEDD TACHWEDD 2024 pdf eicon PDF 183 KB

I nodi’r sefyllfa ac unrhyw risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor, craffu penderfyniadau i’r Cabinet, a sylwebu fel bo’ angen.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor

 

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid. Prif ddiben yr adroddiad oedd cyflwyno’r rhaglen gyfalaf diwygiedig (sefyllfa diwedd Tachwedd 2024) a gofyn i’r Pwyllgor ystyried y ffynonellau ariannu perthnasol a chraffu argymhellion i’r Cabinet (21-01-25).

 

Cyfeiriwyd at ddadansoddiad fesul Adran o’r rhaglen gyfalaf £175.1 miliwn am y 3 blynedd 2024/25 – 2026/27 ynghyd a’r ffynonellau sydd ar gael i ariannu’r cynnydd net sydd oddeutu £5.4 miliwn ers y gyllideb wreiddiol.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol,

·        Bod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi £102.7miliwn yn 2024/25 ar gynlluniau cyfalaf, gyda £51.1miliwn (50%) ohono wedi’i ariannu trwy grantiau penodol.

·        Bod £19.7 miliwn ychwanegol o wariant arfaethedig wedi’i ail-broffilio o 2024/25 i 2025/26 a 2026/27. Y prif gynlluniau sydd wedi llithro ers y gyllideb wreiddiol yn cynnwys £9.7 miliwn Cynlluniau Cronfa Ffyniant Bro, £7.9 miliwn Cynlluniau Ysgolion (Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ac Eraill), £5.8 miliwn Adnewyddu Cerbydau ac Offer, £2.7 miliwn Cynlluniau Ysgogi’r Economi ac Unedau Diwydiannol, £2.5 miliwn Cynlluniau Rheoli Carbon a Phaneli Solar a £2.4 miliwn Cynllun Hwb Iechyd a Gofal Penygroes

 

Tynnwyd sylw’r Aelodau at y rhestr grantiau ychwanegol y llwyddodd y Cyngor eu denu ers yr adolygiad diwethaf oedd yn cynnwys £1,626 mil – Addasiad Grant Cronfa Ffyniant Bro, £725 mil – Grant gan Lywodraeth Cymru tuag at Cynllun Prom y Gogledd, Abermaw, £710 mil – Grant Cyfalaf Gofal Plant gan Lywodraeth Cymru  a £406 mil – Grant gan Sefydliad Pêl Droed Cymru tuag at ddau gynllun Caeau Pêl Droed

 

Cyfeiriwyd at y Dangosyddion Darbodus Cyfalaf y Cyngor gan nodi bod gofyn newydd ar y Cyngor i adrodd ar y Cod Darbodus gan GIGFA. Nodwyd bod y Cyngor wedi cydymffurfio gyda’r polisi ar fenthyca at ddibenion cyfalaf.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag ail broffilio a chostau cynyddol debygol i brosiectau ac os yw’r Cyngor yn ail ystyried y prosiect ynteu holi am gynnydd yn y grant, nodwyd mai swm penodol yw grant fel arfer ac felly bydd y costau yn cael eu hystyried wrth ail broffilio.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor

 

8.

TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION pdf eicon PDF 708 KB

Derbyn yr wybodaeth ac ystyried y risgiau cyffredinol sy’n deillio o lithriadau yn yr arbedion

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn y wybodaeth gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau cyffredinol sydd yn deillio o lithriadau yn yr arbedion

·       Cefnogi fod y Cabinet yn cymeradwyo dileu un cynllun arbedion gwerth £146,910 perthnasol i 2025/26 yn y maes gwastraff yn yr Adran Amgylchedd, gan ddefnyddio’r ddarpariaeth a osodwyd o’r neilltu yn y gyllideb er mwyn gwneud hynny.

·       Diolch i bawb oedd yn gysylltiedig â’r adroddiad - gwaith heriol iawn wedi ei gyflwyno mewn modd dealladwy

 

COFNODION:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y Trosolwg Arbedion, ystyried argymhellion i’r Cabinet (22-01-2025) a sylwebu fel bo’ angen. Eglurwyd, bod £42 miliwn o arbedion wedi eu gwireddu, sef 90% o’r £46.6 miliwn gofynnol dros y cyfnod a gwerthfawrogwyd y gwaith gan staff y Cyngor i wireddu hyn. Nododd, er mwyn cau'r bwlch ariannol, roedd rhaid gweithredu gwerth £5.6 miliwn o arbedion yn ystod 2024/25 oedd yn gyfuniad o £3.6 miliwn oedd wedi ei gymeradwyo yn Chwefror 2023 ac arbedion newydd gwerth £2 filiwn a gymeradwywyd yn Chwefror 2024.

 

Cyfeiriwyd at grynhoad cyrhaeddiad arbedion pob Adran yn seiliedig ar adolygiad Tachwedd 2024 (cyfanswm o £12miliwn) a chyhoeddwyd bod dros £8 miliwn (67%) o’r cynlluniau hyn eisoes wedi eu gwiredd gyda 6% ar drac i gyflawni’n llawn ac amserol. Ategwyd bod risgiau i wireddu’r arbedion yn amlwg mewn rhai meysydd gyda’r prif rai yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Amgylchedd.

 

Adroddwyd, yn dilyn adolygiad diweddar gan y Prif Weithredwr o gynlluniau arbedion yn y maes gwastraff gan yr Adran Amgylchedd, daethpwyd i’r canlyniad fod angen uno tri cynllun arbedion yn y maes gwastraff masnachol, dileu un cynllun casglu clytiau gwerth £147 mil a bod cynlluniau amgen yn cael eu cynnig ar gyfer gwerth £300k o gynllun gwastraff £400k.  Bydd hyn yn cael ei argymell i’r Cabinet i’w gymeradwyo.

 

Ategodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol, ym Mhwyllgor mis Hydref, gwnaed cais i lunio tabl oedd yn gwahaniaethu rhwng y sefyllfa hanesyddol a’r sefyllfa ddiweddaraf fel bod bodd adnabod risgiau i’r sefyllfa gyfredol. Nodwyd bod y cais wedi ei weithredu gyda gwybodaeth am gynlluniau hanesyddol sydd wedi eu gwireddu mewn un tabl a thabl arall yn rhoi sylw i’r arbedion hanesyddol sydd eto i’w gwireddu

 

Tynnwyd sylw at gynlluniau arbedion newydd fesul  Adran ar gyfer 2025/26 ymlaen – gan nodi bod y cynlluniau hyn eisoes dan ystyriaeth y Cyngor yn destun adroddiad pellach i’r Pwyllgor.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau:

·        Yn croesawu bod y cynnig o gyflwyno gwybodaeth am y arbedion hanesyddol wedi ei weithredu – trosolwg o’r sefyllfa yn gliriach

·        Croesawu bod 67% o gynlluniau arbedion effeithlonrwydd 2024/25 wedi eu gwireddu

·        Bod yr arbedion ‘hawsaf’ wedi eu gwireddu – yr arbedion sydd angen eu gwireddu yn y dyfodol agos yn anodd ac felly angen sicrhau bod ystyriaeth yn cael ei roi i osod amserlen briodol ar gyfer gweithredu a rhoi cyfle i adrannau gynllunio’n well i’r tymor hir

·        Diolch i bawb a fu’n gysylltiedig ar adroddiad – gwaith heriol iawn wedi ei gyflwyno mewn modd dealladwy

 

PENDERFYNWYD:

·        Derbyn y wybodaeth gan nodi’r sefyllfa a’r risgiau cyffredinol sydd yn deillio o lithriadau yn yr arbedion

·        Cefnogi fod y Cabinet yn cymeradwyo dileu un cynllun arbedion gwerth £146,910 perthnasol i 2025/26 yn y maes gwastraff yn yr Adran Amgylchedd, gan ddefnyddio’r ddarpariaeth a osodwyd o’r neilltu yn y gyllideb er mwyn gwneud hynny.

·        Diolch i bawb oedd yn gysylltiedig â’r adroddiad  ...  view the full COFNODION text for item 8.

9.

ADRODDIADAU ARCHWILIO CYMRU pdf eicon PDF 103 KB

Rhoi diweddariad i’r Pwyllgor ar adroddiad(au) sydd wedi eu cyhoeddi yn ddiweddar gan Archwilio Cymru – ‘Cynaliadwyedd ariannol llywodraeth leol’ ac ‘Adolygiad o Gynaliadwyedd Ariannol – Cyngor Gwynedd’

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

·       Derbyn yr adroddiad Cenedlaethol a Lleol

·       Derbyn ymateb y Cyngor i’r argymhellion

 

Nodyn:

·       Yn dilyn derbyn cefnogaeth a chanllawiau CIPFA, Rhaglen Waith yr ymateb i’w chyflwyno i’r Pwyllgor erbyn Mawrth 2026

·       Adroddiadau Perfformiad fydd yn cael eu cyflwyno i Bwyllgorau Craffu i arddangos bod y gofynion statudol yn cael eu cyfarch

 

COFNODION:

Croesawyd Alan Hughes a Dewi Wyn Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor) i’r cyfarfod

 

Nodwyd bod yr adroddiadau ‘Cynaliadwyedd  Ariannol Llywodraeth Leol’ (Adroddiad Cenedlaethol ac Adroddiad Lleol - Cyngor Gwynedd) yn ymateb i ddatganiad ‘bod sefyllfa ariannol llywodraeth leol yn anghyliadwy dros y tymor canolig oni chymerir camau gweithredu’. Dros Haf 2024, bu i Archwilio Cymru fwrw golwg ar gynaliadwyedd pob Cyngor yng Nghymru gan ganolbwyntio ar y strategaethau i ategu cynaliadwyedd ariannol hirdymor cynghorau, ystyried dealltwriaeth Cynghorau am eu sefyllfa ariannol ac edrych ar drefniadau adrodd Cynghorau i ategu goruchwyliaeth reolaidd ar eu cynaliadwyedd ariannol.

 

Eglurwyd bod yr adroddiad cenedlaethol yn darparu peth cyd-destun ar gyfer yr heriau ariannol a wynebir gan Gynghorau ac yn crynhoi canfyddiadau allweddol y gwaith yn genedlaethol ac yn lleol.

 

Wrth gyfeirio at brif negeseuon yr adroddiad lleol nodwyd cynnydd sylweddol yn nifer o Adrannau Cyngor Gwynedd sydd yn gorwario, ac er bod y Cyngor wedi dechrau datblygu dull strategol i sefydlu trefniadau i asesu effaith gwasanaethau ar drigolion y Sir, nid yw wedi gweithredu strategaeth hirdymor i gefnogi cynaliadwyedd ariannol. Ategwyd bod defnydd cronfeydd wrth gefn y Cyngor yn sylweddol a bod angen ystyried os yw’r sefyllfa sefydlog gyda chyllidebau dan bwysau.

 

Tynnwyd sylw at yr argymhelliad i fynd i’r afael a’r weithredu strategaeth ariannol hirdymor ac at ffurflen ymateb y Cyngor i’r adolygiad.

 

Nododd y Pennaeth Cyllid, bod y Cyngor yn ystyried y modd gorau o wario o fewn y gyllideb drwy geisio sicrhau parhad gwasanaeth i drigolion y Sir. Cyfeiriwyd at amcanion Cynllun Llechen Lân fel enghraifft, sydd yn gynllun tymor hir ac yn fodd o ddarganfod beth yw gwir gost ac ymarferoldeb darparu gwasanaethau. Derbyniwyd bod bwriad ystyried ymarferiadau tebyg, ymateb i gyfleoedd a gwella effeithlonrwydd. Ategodd, er bod cronfeydd ariannol y Cyngor yn edrych yn iach, derbyniodd efallai nad oedd golwg digon strategol ar eu defnydd gyda gwaith adolygu angen ei wneud i ystyried os yw’r cronfeydd yn ymateb i’r galw ynteu yn bodoli oherwydd materion hanesyddol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â chyflawni gwasanaethau statudol gyda llwyddiant / methiant o fewn y gyllideb yn cael ei amlygu drwy ffigyrau, ac na fyddai llwyddiant / methiant cyflawni cyfrifoldebau statudol yn dod i’r amlwg hyd nes bydd y gwasanaeth yn wynebu her o fethu cyflawni, a fyddai modd rhestru holl gyfrifoldebau statudol y Cyngor wrth osod cyllideb, nodwyd bod y gyllideb yn cael ei gosod drwy flaenoriaethu'r hyn sydd angen ei wario ar ddarparu gwasanaethau statudol. Ategwyd, yng nghyd-destun yr her o fethu cyflawni, bydd adroddiadau perfformiad pob adran yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgorau Craffu perthnasol ac y byddai modd arddangos bod y gofynion statudol yn cael eu cyfarch yn yr adroddiad hwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â dyddiad cwblhau camau gweithredu i weithredu strategaeth ariannol hirdymor ac os yw Mawrth 2025 yn ddyddiad rhesymol, nodwyd, yn dilyn cefnogaeth a chanllawiau gan CIPFA, bydd gwaith o ddechrau llunio rhaglen waith ar gyfer y strategaeth yn dechrau canol Mawrth 2025, gyda bwriad  ...  view the full COFNODION text for item 9.

10.

BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 111 KB

I ystyried y flaenraglen

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn y Rhaglen waith ar gyfer Chwefror 2025 – Ionawr 2026

 

Cais i ychwanegu:

·       Rhaglen Datblygu'r Pwyllgor

·       Blaenraglen Archwilio Mewnol

·       Blaenoriaethau Archwiliadau – dilyniant i argymhellion

·       Mwy o wybodaeth am Ffordd Gwynedd

·       Dilyniant i wybodaeth ar sefyllfa ariannol Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd

·       Angen cynnal sgwrs rhwng yr adrannau perthnasol i drafod effaith gwrthod cynlluniau tai fforddiadwy ar ysgolion Gwynedd i’r dyfodol

 

COFNODION:

Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor hyd Ionawr 2026

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y Rhaglen waith ar gyfer Chwefror 2025 – Ionawr 2026

 

Cais i ychwanegu:

·        Rhaglen Datblygu'r Pwyllgor

·        Blaenraglen Archwilio Mewnol

·        Blaenoriaethau Archwiliadau – dilyniant i argymhellion

·        Mwy o wybodaeth am Ffordd Gwynedd

·        Dilyniant i wybodaeth ar sefyllfa ariannol Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd

·        Angen cynnal sgwrs rhwng yr adrannau perthnasol i drafod effaith gwrthod cynlluniau tai fforddiadwy ar ysgolion Gwynedd i’r dyfodol