Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Dafydd Meurig, Menna Baines, Elfed Wyn ap Elwyn a Wendy Cleaver

 

 

 

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 192 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 9fed o Hydref 2025 fel rhai cywir.

 

5.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR pdf eicon PDF 201 KB

I ystyried yr adroddiad a chynnig sywladau

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn:

  • Cynnyrch Archwilio Mewnol cyfarfod 9-10-25 – cais i adlewyrchu pryderon y Pwyllgor mewn ymateb i staff yn torri rheoliadau statudol mewn Cartrefi Gofal  yn well
  • Cais i gynnwys dyddiad pendant ar gyfer ail gyflwyno adroddiadau neu ddiweddariadau yn hytrach na nodi ‘yn amserol’

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o ddileu’r eitem / penderfyniad pan fydd y weithred wedi cwblhau.

 

Yn unol â chais a wnaed yng nghyfarfod mis Hydref 2025, tynnwyd sylw at wybodaeth poblogaeth Siroedd a ddefnyddiwyd gan y Llywodraeth i osod y setliad.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn:

·        Cynnyrch Archwilio Mewnol cyfarfod 09-10-25 – cais i adlewyrchu pryderon y Pwyllgor mewn ymateb i staff yn torri rheoliadau statudol mewn Cartrefi Gofal yn well

·        cais i gynnwys dyddiad pendant ar gyfer ail gyflwyno adroddiadau neu ddiweddariadau yn hytrach na nodi ‘yn amserol’

 

 

6.

CYFRIFON TERFYNOL AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2025 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 271 KB

Cyflwyno –

 

·        Datganiad o’r Cyfrifon ôl-archwiliad;

·        Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru

·        Llythyr Sylwadau (Atodiad 4 ISA260 Archwilio Cymru)

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn a chymeradwyo Adroddiad 'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Gwynedd
  • Derbyn a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon 2024/25 (ôl-archwiliad)
  • Cadeirydd y Pwyllgor ynghyd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r Llythyr

Cynrychiolaeth yn electroneg

  • Llongyfarch y swyddogion ar eu gwaith o dderbyn datganiad diamod
  • Diolch i Archwilio Cymru am gydweithio da

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau. Atgoffwyd yr Aelodau bod cyfrifon amodol ar archwiliad Gwynedd ar gyfer 2024/25 eisoes wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor yng nghyfarfod mis Medi lle trafodwyd y Datganiad mewn manylder gan dynnu sylw at y prif faterion a’r nodiadau perthnasol. Ategwyd  bod cyfrifon yr Harbyrau hefyd wedi eu cyflwyno i’r Pwyllgor ym mis Mai a braf oedd adrodd nad oedd unrhyw addasiadau yn deillio o’r Archwiliad, ac felly nid oedd angen eu hail gyflwyno.

 

Adroddwyd bod y cyfrifon wedi bod yn destun archwiliad gan Archwilio Cymru ers diwedd Mehefin ac mai barn ddiamod a roddwyd ar y cyfrifon gan yr Archwilwyr gyda chyfuniad o addasiadau ac argymhellion yn dilyn archwiliad wedi eu gweithredu.

 

Cyfeiriwyd at y pedwar camddatganiad oedd heb eu cywiro, gan nodi nad oeddynt yn cael eu hystyried fel rhai materol, ond ble’n berthnasol, byddant yn cael eu cywiro fel rhan o gyfrifon 2025/26.

 

·        Nodyn 15: Eiddo Offer a Chyfarpar :

1.     Mater categoreiddio, sef bod eitem o wariant cyfalaf wedi ariannu o Gronfa Ffyniant a Rennir y Deyrnas Unedig (UK Shared Prosperity Fund (UKSPF), wedi ei gategoreiddio yn anghywir a’i drin fel ychwanegiad i’r fantolen yn hytrach na fel gwariant refeniw a ariannwyd o gyfalaf trwy statud. Cadarnhawyd nad oedd yr arian yn cael ei gwestiynu.

 

2.     Yn ymwneud â mater technegol sydd yn ymwneud â thriniaeth cyfalaf

3.     Bod gwall yn nhaflen waith prisiad Cyngor Gwynedd wedi arwain at anghysondebau rhwng taflenni prisiad y Prisiwr a’r ffigyrau a ddefnyddiwyd i ddiweddaru’r gofrestr.

Bydd y rhain yn derbyn sylw priodol erbyn cyfrifon 2025-26.

 

·        Nodyn 21: Credydwyr  - mater yn ymwneud a thriniaeth balans grant ac yn cael ei gywiro ar gyfer cyfrifon 2025-26.

·        Nodyn 17a Offerynnau Ariannol a Nodyn 35 Prydlesau SAARh 16 - materion sy’n gysylltiedig â’i gilydd lle'r oedd gofyniad newydd ar gynghorau yn 2024/25 yn ymwneud â phrydlesu. Dyma’r flwyddyn gyntaf o ran triniaeth cyfrifo am brydlesau, ac felly'r materion i gael sylw ar gyfer cyfrifon 2025-2026

 

Wrth drafod addasiadau i’r Datganiad o’r Cyfrifon sydd wedi eu newid, tynnwyd sylw at,

 

·        Nodyn 19  - Arian a Chywerthoedd Arian a'r categoreiddio ar 31 o Fawrth, sy’n ymwneud a chyfarwyddyd talu i’r banc ar ddiwrnod olaf y flwyddyn a’i driniaeth. Fel y nodwyd yn adroddiad yr Archwilwyr, mae canllawiau CIPFA yn gyfyngedig ar gyfer y senario penodol yma a’r newid wedi effeithio’r fantolen a’r datganiad llif arian.

·        Nodyn 21 - Credydwyr. Tynnwyd sylw at newid mewn categoreiddio credydwyr rhwng tymor hir a thymor byr ar gyfer 2024/25 a’r flwyddyn flaenorol, ynghyd a chywiro cam-ddosbarthu credydwyr o fewn Dyledwyr ac ychwanegiad geiriad yn Nodyn 18a Dyledwyr

·        Nodyn 35 Prydlesu SAARh 16  - oherwydd gofynion newydd yn ymwneud â llesu, y fformat wedi ei addasu i gydymffurfio gyda holl ofynion CIPFA

·        Nodyn 38 Costau Pensiwn - nodyn wedi ei symleiddio ynghyd â gwella eglurder nodyn Partïon Cysylltiedig.

 

Ategwyd nad oedd yr addasiadau yn effeithio’r Datganiad Incwm a Gwariant na’r datganiad o’r symudiadau mewn reserfau, ac yng nghyd-destun y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

CYFRIFON TERFYNOL Y CYD-BWYLLGOR GWE AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2025 AC ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 140 KB

Cyflwyno –

  • Datganiad o’r Cyfrifon GwE ôl-archwiliad;
  • Adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru;
  • Llythyr Sylwadau

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

  • Derbyn a chymeradwyo Adroddiad 'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Gwynedd
  • Derbyn a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon GwE 2024/25 (ôl-archwiliad)

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Pennaeth Cyllid Cyngor Gwynedd yn gofyn i’r Pwyllgor ystyried a chymeradwyo’r Datganiad o’r Cyfrifon 2024/25 (ôl-archwiliad), adroddiad ‘ISA260’ Archwilio Cymru a’r Llythyr Cynrychiolaeth cyn awdurdodi’r Cadeirydd a’r Pennaeth Cyllid i ardystio’r llythyr yn electroneg.

 

Eglurodd Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau (Cyngor Gwynedd), mai Cyngor Gwynedd, fel y Cyngor lletyol oedd wedi bod yn gyfrifol am gyflawni cyfrifoldebau cyfrifo ac adrodd ar faterion cyllidol Cydbwyllgor GwE. Daeth GwE i ben ar y 31 Mai 2025, a gan nad oedd y Cydbwyllgor yn cyfarfod wedi’r dyddiad yma, y trefniant a benderfynwyd oedd i gyfrifon 2024/25 gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio eu  cymeradwyo. Ategwyd y byddai cyfrifon am Ebrill a Mai sydd yn berthnasol i 2025/26, hefyd yn cael ei gyflwyno maes o law, wrth i’r sefyllfa am y flwyddyn gael ei derfynu. Nodwyd bod y cyfrifon wedi bod yn destun archwiliad gan Archwilio Cymru ers diwedd mis Mehefin ac mai barn ddiamod fydd wedi ei roi ar y cyfrifon gan Archwilwyr.

 

Adroddwyd, na fu unrhyw newid i brif ddatganiadau ariannol yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Archwilwyr  (y Fantolen, Datganiad Incwm a Gwariant, Datganiad Llif Arian na’r Datganiad o’r Symudiadau mewn Reserfau), ond bod ambell addasiad i’r nodiadau sydd yn cefnogi’r  Datganiad;

 

·        Nodyn 17b ‘Taliadau i Swyddogion – bod addasiad i’r ffigyrau ar gyfer dau swyddog.

·        Nodyn 22 ‘Costau Pensiwn y nodyn wedi ei symleiddio ac yn dangos y ffigyrau Pensiwn Net yn unig i hwyluso’r darllenydd.

·         Nodyn 16 ‘Datganiad Lif Arian’ – tynnwyd sylw at addasiad categori, er nad oedd newid i linell waelod y nodyn.

 

Yn ychwanegol i hyn bod nifer fach o fân ddiwygiadau naratif i rai o’r nodiadau.

 

Ar ran Archwilio Cymru, nododd Siwan Glyn bod Archwilio Cymru yn bwriadu cyhoeddi barn ddiamod ar gyfrifon 2024/25 gan ategu bod y cyfrifon yn rhoi darlun gwir a theg o’r sefyllfa, yn cydymffurfio ag arferion priodol ac mai gweithio i lefel o ‘berthnasedd’ roedd Archwilio Cymru. Adroddwyd bod y lefel o berthnasedd yn cael ei  bennu i geisio adnabod a chywiro camddatganiadau allai beri fel arall i’r sawl sydd yn defnyddio’r cyfrifon gael eu camarwain. Pennwyd y lefel perthnasedd o £199,000 ar gyfer archwiliad 2024/25 ac adroddwyd ar  gamddatganiadau trothwy uwchlaw £10,000, (a gyfrifir fel 5% o berthnasedd). Tynnwyd sylw at restr risgiau'r archwilwyr oedd hefyd yn amlygu sut yr aethpwyd i’r afael a hwy fel rhan o’r archwiliad. Adroddwyd na chanfuwyd unrhyw risgiau archwilio

 

Yng nghyd-destun cydymffurfio moesegol, nodwyd bod Archwilio Cymru wedi parhau yn annibynnol a diolchwyd i Dîm Cyllid Cyngor Gwynedd am eu cefnogaeth.

 

Croesawyd yr adroddiad a diolchwyd i bawb am eu gwaith.

 

PENDERFYNWYD

 

·        Derbyn a chymeradwyo Adroddiad 'ISA260’ gan Archwilio Cymru ar gyfer Cyngor Gwynedd

·        Derbyn a chymeradwyo Datganiad o’r Cyfrifon GwE 2024/25 (ôl-archwiliad)

 

 

8.

CYLLIDEB REFENIW 2025/26 – ADOLYGIAD DIWEDD AWST 2025 pdf eicon PDF 185 KB

I nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau, ystyried penderfyniadau i’r Cabinet a sylwebu fel bo angen.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad ar adolygiad diwedd Awst 2025 o’r Gyllideb Refeniw
  • Nodi sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth. 

 

Nodyn:

Cais am amserlen i drefniadau ail strwythuro Adran Priffyrdd ac Adran Amgylchedd (erbyn cyfarfod Ionawr 2026)

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Cyllid yn gofyn i’r pwyllgor graffu’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.  Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar yr adolygiad diweddaraf o gyllideb refeniw’r Cyngor am 2025/26, a’r rhagolygon tuag at ddiwedd y flwyddyn ariannol.

 

Yn dilyn adolygiad diwedd Awst nodwyd bod y rhagolygon yn awgrymu gorwariant o £6.3 miliwn gan adrannau’r Cyngor, gyda 75% ohono yn y maes gofal oedolion a phlant. Eglurwyd, yn dilyn ymlaen o dueddiad mewn blynyddoedd blaenorol, bod gorwariant sylweddol hefyd yn y maes gwastraff, priffyrdd a bwrdeistrefol, ond tanwariant ar gyllidebau corfforaethol, sy’n golygu fod hynny yn lleihau’r rhagolygon gorwariant yn ei gyfanrwydd i £2.5 miliwn.

 

Tynnwyd sylw at y prif faterion:

 

·        Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant – rhagolygon diweddaraf  yn awgrymu os na fydd newid mewn gweithredu yn ystod y flwyddyn, bydd diffyg cyllidebol o £3.1m erbyn diwedd y flwyddyn. Bu i werth £3 miliwn o arian parhaol ei ddyrannu i’r maes ar gyfer 2025/26, ond bod gwerth miliwn o arbedion a thoriadau,  heb eu cyflawni hyd yma.

 

Yng nghyd-destun gwasanaethau pobl hŷn, gwelwyd cynnydd yn y galw am ofal preswyl pobl hŷn a hefyd cynnydd annisgwyl ac anarferol am ofal preswyl oherwydd materion iechyd meddwl; y pwysau ar y ddarpariaeth gofal cartref hefyd yn parhau.

 

·        Adran Plant a Theuluoedd - yn rhagweld diffyg cyllidebol o £1.5 miliwn, a hynny yn dilyn rhoi dros £2 filiwn o fidiau i’r adran ar gyfer 2025/26. Y prif feysydd sydd yn wynebu pwysau yw lleoliadau all-sirol, a’r ddarpariaeth plant gydag anableddau yn y gwasanaeth Derwen a Hafan y Sêr.

 

·        Byw’n Iach – dros y blynyddoedd diwethaf, Byw’n Iach wedi derbyn cefnogaeth ariannol flynyddol gan y Cyngor uwchlaw taliad cytundebol y cytundeb darparu, i'w galluogi i gynnal eu gwasanaethau. Adroddwyd bod y gefnogaeth ariannol yn parhau eleni a'r swm gofynnol yn £219k

 

·        Adran Priffyrdd, Peirianneg ac YGC - rhagwelir diffyg cyllidebol o £522k, gwelwyd lleihad yn y gwaith sydd yn cael ei gomisiynu gan asiantaethau allanol sydd o ganlyniad yn cael effaith negyddol ar incwm  gwasanaethau priffyrdd. Yn yr Uned Bwrdeistrefol, gwelir cyfuniad o ffactorau, sy’n cynnwys pwysau ychwanegol ar gyllidebau staff glanhau strydoedd a glanhau toiledau cyhoeddus; colledion incwm yn faterion cynnal tiroedd a thoiledau cyhoeddus.

 

·        Adran Amgylchedd – bod diffyg cyllidebol o £740k yn cael ei ragweld, gyda’r tueddiad blynyddol o orwariant yn y maes casglu gwastraff ac ailgylchu yn parhau ac yn gyfrifol am £662k o’r gorwariant.

 

Tynnwyd sylw at ystyriaethau ar sut i ariannu costau diogelu adeilad Gwesty’r Corbett Arms yn Nhywyn (adeilad rhestredig Gradd II), sydd wedi bod yn destun pryder i Gyngor Gwynedd a'r gymuned leol ers blynyddoedd gan ei fod mewn cyflwr strwythurol peryglus. Golygai hyn fod y Cyngor wedi gorfod gweithredu er mwyn amddiffyn a diogelu'r cyhoedd a’r gost derfynol posib i fod rhywle rhwng £1m a £1.5m. Bydd adroddiad i’w gyflwyno maes o law i ystyried opsiynau cyfarch y gost.

 

·        Tai ac Eiddo – tuedd o bwysau sylweddol ar y gwasanaeth llety argyfwng yn parhau, gyda  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2025/26 ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN pdf eicon PDF 398 KB

I ystyried yr adroddiad fel gwybodaeth

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar wir ganlyniadau rheolaeth trysorlys y Cyngor 2025/26 hyd 30 Medi 2025, yn erbyn Strategaeth Rheolaeth Trysorlys 2025/26 a gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn Mawrth 2025. Nodwyd bod y strategaeth yn gofyn i’r Rheolwr Buddsoddi adrodd ar ddangosyddion darbodus rheoli’r trysorlys yn chwarterol i’r Pwyllgor

Adroddwyd bod y cyfnod wedi bod yn un prysur iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor a bod sefyllfa ar 31 Mawrth 2025 yn gryf iawn gyda’r Cyngor mewn sefyllfa buddsoddiadau net  o £53m oherwydd y lefel uchel o fuddsoddiadau a chyfalaf gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys arian Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru.

Amlygwyd, yn ystod y cyfnod, bod newid i lefel benthyciadau’r Cyngor a hynny wedi ad-daliad benthyciad hanesyddol. Eglurwyd bod gan y benthyciad o £16.2m gyda Barclays ddyddiad aeddfedu o 2074, ond bod cynnig wedi dod i law i’w ad-dalu yn gynnar ar delerau ffafriol iawn, oedd yn arbed costau llog yn y tymor hir i’r Cyngor. Cyfeiriwyd at fenthyciadau arall sydd gan y Cyngor gyda’r Public Works Loan Board, ond nid oes mantais o ad-dalu rhain yn gynnar ar hyn o bryd.  

Tynnwyd sylw at  weithgaredd buddsoddi’r trysorlys gan nodi bod y Cyngor yn parhau i fuddsoddi mewn banciau a chymdeithasau adeiladau, awdurdodau lleol, cronfeydd marchnad arian, swyddfa rheoli dyledion a chronfeydd wedi’i pwlio, a rhain yn gyson gyda’r math o fuddsoddiadau sydd wedi ei  wneud gan y Cyngor ers nifer o flynyddoedd bellach a bod y metrigau risg ac enillion yn gyson gydag awdurdodau eraill.

Nodwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio’n llawn gyda chod ymarfer CIPFA a Rheolaeth Trysorlys y Cyngor sydd yn newyddion da ac yn amlygu rheolaeth gadarn dros yr arian. Yn y cyfnod dan sylw, buddsoddwyd ychydig yn uwch na’r lefel cymeradwy ar gyfer y banciau a chronfeydd marchnad arian a hynny oherwydd bod gan y Cyngor lefel uchel o arian, ac opsiynau yn brin. Ategwyd bod camau wedi eu cymryd i sicrhau na fydd hyn yn digwydd yn y dyfodol drwy agor mwy o gyfrifon i wasgaru’r arian.  

 

Tynnwyd sylw at y Meincnod Ymrwymiadau (liability benchmark) gan nodi ei fod yn arf pwysig i sefydlu os yw’r Cyngor yn debygol o fod yn fenthyciwr allanol hirdymor ac felly yn siapio ffocws strategol a miniogi penderfyniadau. Amlygwyd bod y Cyngor yn disgwyl parhau i fod uwchlaw ei feincnod hyd at 2027 a hynny oherwydd bod y Cyngor yn dal cronfeydd wrth gefn, a’r llif arian hyd yma wedi bod yn is na'r rhagdybiaethau a wnaed pan fenthycwyd yr arian. Nodwyd hefyd nad oedd angen benthyca yn y tymor hira hynny yn seiliedig ar y rhagamcanion cyfredol, er hynny, gwnaed sylw y bydd efallai angen benthyca yn y tymor byr yn y dyfodol agos.

Cyfeiriwyd yn olaf at y dangosyddion darbodus ac adroddwyd bod cydymffurfiaeth lawn yma hefyd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn yr adroddiad er gwybodaeth 

 

 

 

10.

CYFRADDAU CASGLU TRETH CYNGOR pdf eicon PDF 601 KB

I dderbyn yr adroddiad, sylwebu ar y cynnwys a chefnogi gweithrediadau sydd mewn lle gan yr adran.

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad
  • Cefnogi'r gwaith a chroesawu'r gwelliannau sydd wedi ei gwneud mewn ymateb i gyhoeddiad bod cyfraddau Casglu Treth Cyngor Gwynedd yr isaf yng Nghymru 2024/25
  • Derbyn bod trothwy gosod 182 diwrnod wedi cynyddu gwaith yr Uned yn sylweddol
  • Derbyn bod cymeradwyo Polisi Lleihau Treth Cyngor o dan Adran 13A(1)(c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 gan y Cabinet 11-11-25 yn ymateb i sefyllfaoedd sydd yn cynnig cymorth i drigolion sy’n wynebu caledi ariannol eithriadol neu amgylchiadau anarferol, ond gofynnwyd am ystyriaeth bellach os oedd y Polisi yn cyfarch sefyllfa perchnogion unedau gwyliau sydd wedi gweld cynnydd sylweddol yn eu biliau treth yn sgil cynyddu’r trothwy gosod.

 

Nodyn:

  • Ystyried sgil effeithiau’r sefyllfa ar dwristiaeth gynaliadwy ac adfywio canol trefi
  • Modelu effaith polisi eithrio posib ar berfformiad cyffredinol yr Adran Gyllid
  • Awgrym i ystyried defnyddio premiwm eiddo gwag a phremiwm ail gartrefi i dalu cyflogau staff sy’n gweinyddu’r premiwm, yn hytrach nag o gyllideb yr Adran Gyllid
  • Diweddariad Polisi Lleihau Treth Cyngor o dan Adran 13A(1)(c) i’w gyflwyno i’r Pwyllgor Ionawr 2026

 

Cofnod:

Mewn ymateb i gais gan y Cadeirydd, cyflwynwyd adroddiad ar y cyd gan y Pennaeth Cyllid a’r Pennaeth Cynorthwyol Cyllid - Cynaliadwyedd a Datblygiadau, yn amlinellu hyd a maint y ddyled o gasglu trethi a sut mae’r Cyngor yn gweithredu i gyfarch y sefyllfa. Eglurwyd bod cyfraddau casglu Treth Cyngor (o fewn y flwyddyn) yng Ngwynedd yr isaf yng Nghymru yn 2024/25, gyda 92.9% o’r dyledion wedi eu casglu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol -hynny yn cyfateb i £8.2miliwn o drethi yn ddyledus.

 

Cyfeiriwyd at y cyfraddau casglu ar y mathau gwahanol o gyfrifon ar gyfer 2024/25 ynghyd a gwerth y dyledion oedd heb eu casglu fesul categori. Ymddengys o’r data bod premiwm ail gartrefi ac eiddo gwag yn effeithio cyfraddau casglu cyffredinol, gyda’r dyledion ar gyfrifon sy’n cynnwys premiwm yn ogystal â’r dreth sylfaenol yn £3.9m (£3.1m ar ail gartrefi a £0.8m eiddo gwag) a'r dyledion ar gyfrifon Treth Cyngor sylfaenol yn unig, yn £4.3m.  Nodwyd bod cyfradd casglu o 95.09% ar y cyfrifon gyda Threth Cyngor sylfaenol yn unig, sydd yn 2.16% yn uwch na’r cyfartaledd o 92.93% ar draws pob categori.

 

Amlygwyd bod gweinyddu’r Premiwm hefyd yn rhoi pwysau difrifol ar allu’r Gwasanaeth Trethi i gyflawni ei waith gan gynrychioli cyfran enfawr o’r ymholiadau sydd rhaid i’r gwasanaeth ddeilio â hwy ynghyd a gwendidau yn y Gwasanaeth sydd wedi cyfrannu at y dirywiad yn y gyfradd casglu sy’n cynnwys:-

·        Ôl-groniad e-byst.

·        Oediad wrth anfon nodiadau atgoffa yn ystod y flwyddyn.

·        Oediad cyn bod achosion yn cael eu trosglwyddo i gwmni gorfodaeth.

·        Lefel yr adnoddau yn y Tîm Adennill.

 

Adroddwyd bod camau allweddol wedi eu cymryd ac yn parhau i’w cael eu rhoi mewn lle i gryfhau’r trefniadau adennill. Nodwyd bod cynllun gweithredu manwl wedi ei baratoi a staff  (trefniadau mewnol a thrwy asiantaeth trethi profiadol) wedi eu penodi i gwblhau’r gwaith. Yn ogystal, rhoddwyd amserlen fanwl mewn lle ar gyfer anfon nodiadau atgoffa yn 2025/26, adolygwyd trefniadau dirprwyo fel bod swyddogion ar gael i weithredu yn ystod absenoldeb swyddogion allweddol ac fe adolygwyd strwythurau adennill yr Adran Cyllid.

 

Ategwyd bod newid yn y ddeddfwriaeth, lle mae gofyn i lety hunan-ddarpar yng Nghymru fod ar gael am 252 diwrnod a’i osod am 182 diwrnod y flwyddyn er mwyn cael eu cynnwys ar y rhestr ardrethi annomestig, wedi effeithio ar y cyfraddau casglu.  Yn 2024/25,  trosglwyddwyd 692 o eiddo yn ôl i Dreth Cyngor gyda 558 ohonynt wedi dychwelyd yn ystod  ail hanner o’r flwyddyn.  Nodwyd bod nifer ohonynt yn debygol o fod yn trosglwyddo o’r rhestr ardrethi annomestig lle nad oedd trethi yn daladwy, i fand Treth Cyngor lle'r oedd angen iddynt dalu'r dreth cyngor sylfaenol, a 150% o bremiwm treth cyngor;  roeddent hefyd yn geisiadau oedd yn cael eu hôl-ddyddio (rhai ohonynt yn ôl i Ebrill 2023) ac o ganlyniad, roedd y biliau yn sylweddol ac felly’n parhau heb eu talu ar ddiwedd Mawrth 2025. Yn ychwanegol, erbyn diwedd Medi 2025, roedd 395 o eiddo pellach wedi trosglwyddo i fand Treth Cyngor o’i gymharu â 134 yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10.

11.

MENTER TWYLL GENEDLAETHOL 2024-25: DIWEDDARIAD pdf eicon PDF 100 KB

I nodi’r cynnwys, cynnig sylwadau a derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn cynnwys yr adroddiad er gwybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd, er gwybodaeth, ddiweddariad gan Carwyn Rees (Archwilio Cymru)  ar ymarferiad  diweddaraf Menter Twyll Cenedlaethol 2024/25 ar lefel genedlaethol a lefel lleol (fel roedd y sefyllfa 31-07-25). Tynnwyd sylw at y nodyn briffio oedd yn cyflwyno gwybodaeth gefndirol am yr asesiad, yn egluro bod yr ymarferiad yn cael ei gynnal pob dwy flynedd ac yn fodd o atal a chanfod twyll drwy rannu a pharau data yn electronig. Cwblhawyd yr asesiad ar y cyd gan Archwilio Cymru ac Archwilio Mewnol Cyngor Gwynedd a bu’n gyfle da i rannu ymarfer da, a gwybodaeth fydd yn bwydo i mewn i’r asesiad cenedlaethol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

PENDERFYNWYD

 

Derbyn cynnwys yr adroddiad er gwybodaeth

 

12.

BLAEN RAGLEN Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 115 KB

I ystyried yr adroddiad

 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn y rhaglen waith hyd Tachwedd  2026
  • Cyflwyno diweddariad ar ‘Adolygiad Ymarfer Plant’ Cyfiawnder trwy ein Dewrder, i gyfarfod Ionawr 2026

 

Cofnod:

Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor hyd Hydref 2026. Atgoffwyd yr Aelodau pe baent eisiau ychwanegu eitem arall i’r flaenraglen i gynnig hynny drwy anfon e-bost at y Cadeirydd neu’r Pennaeth Cyllid.

 

PENDERFYNWYD:

 

·        Derbyn y rhaglen waith hyd Tachwedd  2026

·        Bod angen cyflwyno diweddariad ar ‘Adolygiad Ymarfer Plant’ Cyfiawnder trwy ein Dewrder, i gyfarfod Ionawr 2026