Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

 

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cadeirydd Rhys Parry a’r Cynghorwyr Edgar Wyn Owen, Huw Rowlands, Meryl Roberts ac Angela Russell

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Cofnod:

Dim i’w nodi

4.

COFNODION pdf eicon PDF 227 KB

Cofnod:

Derbyniodd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfodydd blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd 21ain o Fai 2026 fel rhai cywir.

 

5.

GWEITHREDU PENDERFYNIADAU'R PWYLLGOR pdf eicon PDF 210 KB

·        I ystyried cynnwys y daflen weithredu uchod a chynnig sylwadau

·        Cytuno i dynnu o’r taflenni y materion hynny a nodir fod modd eu dileu.

 

Penderfyniad:

 

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn: Bidiau cyfalaf (cynllun ymestyn maes Parcio Ysgol y Faenol) – gwybodaeth lawn i’w gyflwyno cyfarfod Medi 2026

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad oedd yn rhoi amlinelliad o sut mae adrannau’r Cyngor wedi ymateb i benderfyniadau’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio fel bod modd i’r Aelodau gael sicrwydd bod eu penderfyniadau yn cael sylw. Nodwyd bod yr adroddiad yn rhoi cyfle i’r Aelodau ystyried y penderfyniad a wnaed gyda bwriad o dynnu’r eitem o’r Daflen Weithredu pan fydd y weithred wedi cwblhau. Amlygwyd bod cais y Pwyllgor yn eu cyfarfod diwethaf i addasu geiriad yr adroddiad i ‘wedi ei weithredu’ yn hytrach na defnyddio’r gair ‘dileu’ wedi ei weithredu i amlygu sefyllfa fwy calonogol.

 

Cyfeiriwyd at bryder y Pwyllgor i gapasiti annigonol yr Uned Archwilio Mewnol i gwrdd â disgwyliadau’r Cyngor a’r cais a wnaed am adroddiad gan y Pennaeth Cyllid i amlygu’r sefyllfa a’r risgiau. Mewn ymateb i hynny, nododd y Pennaeth Cyllid bod data cymharol am yr Uned Archwilio Mewnol bellach wedi dod i law ac y bydd y sefyllfa yn cael ei ystyried ym mis Medi. Cymerodd y cyfle i gyhoeddi bod yr Uned wedi bod yn llwyddiannus yn penodi prentis fydd yn dechrau ym mis Gorffennaf am gyfnod o ddwy flynedd, a bod Gwawr Owen, Uwch Archwiliwr yn yr Uned wedi cymhwyso fel cyfrifydd CIPFA llawn.

 

Diolchwyd am y diweddariad a llongyfarchwyd yr Uned ar recriwtio prentis ac i Gwawr Owen ar ei llwyddiant.

 

PENDERFYNWYD

·        Derbyn cynnwys yr adroddiad

 

Nodyn: Bidiau cyfalaf (cynllun ymestyn maes Parcio Ysgol y Faenol) – gwybodaeth lawn i’w gyflwyno cyfarfod Medi 2026

 

6.

DATGANIAD LLYWODRAETHU BLYNYDDOL CYNGOR GWYNEDD AR GYFER 2025/26 pdf eicon PDF 208 KB

       Ystyried y Datganiad Llywodraethu Blynyddol Drafft

       Cymeradwyo’r Datganiad, ac argymell fod Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn ei arwyddo.

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

 

 

PENDERFYNIAD:

·        Derbyn addasiad i gynnydd sgôr tebygolrwydd ( o 3 i 4) yn y risg Ymgysylltu

·        Derbyn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol (drafft)

·        Cymeradwyo’r Datganiad, ac argymell fod Arweinydd y Cyngor a’r Prif Weithredwr yn ei arwyddo

 

Nodyn:

·        Cynnwys yn y rhaglen waith bod Cadeirydd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yn cael gwahoddiad i fynychu’r Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu pan yn berthnasol

·        I ystyried ail sgorio maes Cyfreithlondeb yn dilyn achos llys diweddar. Angen ychwanegu cymal at achos Erthygl 4 yn y datganiad

·        I ystyried rhannu risgiau maes Cyllid yn ddau gategori ar wahân ‘Gorwariant yn sgil tan gyllido neu diffyg rheolaeth ariannol’ i a) Gorwariant yn sgil tan gyllido b) diffyg rheolaeth ariannol’

·        Cyfeiriad at adolygiad mewnol i wella trefniadau casglu Treth Cyngor – cais am ddiweddariad i’r Pwyllgor

·        Cynllun Prentisiaethau - cais am adroddiad fyddai yn cynnwys gwybodaeth am lwyddiant y cynllun. Angen sicrwydd bod y cynllun yn cyfrannu at gynlluniau’r gweithlu i’r dyfodol.

·        Cais i’r Swyddog Monitro fynychu’r cyfarfodydd

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y Datganiad gan y Pennaeth Cyllid. Eglurodd  bod y Datganiad, er nad yn rhan o’r cyfrifon, yn ddogfen statudol ac angen ei chyhoeddi gyda’r cyfrifon. Yn unol â Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) a Chod ymarfer CIPFA mae’n rhaid i bob Awdurdod Lleol sicrhau bod datganiad o reolaeth fewnol yn ei le a bod y system reoli yn cael ei adolygu o leiaf unwaith mewn blwyddyn. Adroddwyd mai’r Prif Weithredwr ac Arweinydd y Cyngor sydd yn arwyddo’r datganiad er bod angen cymeradwyaeth gan y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu.

 

Rhoddwyd ychydig o gefndir i’r datganiad sydd yn seiliedig ar Fframwaith CIPFA / SOLACE a gyhoeddwyd yn 2016, sydd yn adnabod 7 egwyddor craidd ar gyfer llywodraethu da sydd wedyn yn cael eu rhannu ymhellach i is-egwyddorion. Amlygwyd bod y Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu, o dan arweiniad y Prif Weithredwr, yn ystyried yr egwyddorion a’r is-egwyddorion ac yn llunio Cofrestr Risg Llywodraethu sydd yn rhan o Gofrestr Risg Corfforaethol y Cyngor. Adnabuwyd risgiau mewn 24 o feysydd llywodraethu gwahanol, gan nodi’r rheolaethau sydd gan y Cyngor yn eu lle er mwyn lliniaru’r risgiau hynny.

 

Adroddwyd bod 4 math o risg a bod pob risg gyda pherchnogaeth adrannol; y Grŵp wedi dod i gasgliad bod 0 maes gyda risgiau uchel iawn, 7 maes risgiau uchel, 8 maes risgiau canolig a 9 maes risgiau isel. Er yn cydnabod bod y sgôr risg presennol yn parhau’n uwch nag y maer’ Cyngor yn fodlon ei dderbyn, bod camau gweithredu pellach wedi eu hadnabod i leihau’r risgiau hyn.

 

O ran addasiadau, mynegwyd bod sgôr tebygolrwydd risg Ymgysylltu wedi cynyddu o 3 i 4 a hynny oherwydd bod y gwaith o baratoi a chynnal ymgynghoriadau ac ymarferion ymgysylltu’n parhau i fod yn heriol iawn.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau a’r ymatebion canlynol:

 

·          Bod y Pwyllgor yn derbyn y datganiad yn hwyr yn y broses. A ddylai’r Cadeirydd fynychu’r Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu?

 

Nododd y Pennaeth Cyllid bod lle i wella’r broses ac i’r Pwyllgor dderbyn diweddariad yn ystod y flwyddyn. Ategodd bod gwaith yn cael ei wneud i gryfhau’r trefniadau risg a’i fod yn derbyn y sylw i wahodd Cadeirydd y Pwyllgor i’r Grŵp Asesu Trefniadau Llywodraethu pan yn berthnasol.

 

·          Awgrym y dylid ail asesu sgôr maes cyfreithlondeb o’r risg o ‘anwybyddu rheol y gyfraith, sy’n golygu bod y Cyngor yn agored i heriau gan y llysoedd’ o ystyried achos llys diweddar, Cyfarwyddyd Erthygl 4. Cais hefyd i gyfeirio at Gyfarwyddyd Erthygl 4 yn y datganiad.

·          Bod angen olrhain trefn y penderfyniad a arweiniodd at golli’r arian yn achos Cyfarwyddyd Erthygl 4. Awgrym bod anghysondeb sefydliadol yn y parodrwydd i fynd i gyfraith, e.e., swyddogion yn amlygu i'r Pwyllgor Cynllunio'r risg o fynd i apêl a chael costau os bydd penderfyniad yn groes i bolisi.

·          Cais i’r Swyddog Monitro fynychu’r cyfarfodydd

 

Nododd y Pennaeth Cyllid bod y risg yn cael ei osod ar sail, a yw’r Cyngor yn mynd ati yn fwriadol i anwybyddu’r gyfraith ac  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

HUNANASESIAD CYNGOR GWYNEDD 2025/26 pdf eicon PDF 216 KB

I ystyried y materion a gyflwynir ar gyfer 2025/26 gan gynnig unrhyw sylwadau ac argymhellion ynghyd ac unrhyw faterion ychwanegol y dylid eu cynnwys.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn adroddiad drafft 2025 / 2026 o HUNANASESIAD CYNGOR GWYNEDD

 

Sylwadau:

  • Bod cynnwys yr hunanasesiad yn dda, ond bod lle i wella
  • Angen gosod cyfeiriad at heriau cyfreithiol y mae’r Cyngor yn agored iddynt
  • Datblygiad Polisi Cludiant Addysg yn ‘cael ei ddatblygu’: risg y bydd yr oediad yn cael effaith ar bresenoldeb disgyblion ynghyd a gwendidau ymarferol problemau llwybrau bysus ysgol
  • Cyfeiriad at Ardoll Ymwelwyr yn amlygu bod y penderfyniad wedi ei wneud er nad yw’r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben
  • Angen gwirio’r datganiadau hynny sydd wedi dyddio, e.e., Polisi Iaith wedi ei gymeradwyo ac nid ‘allan i ymgynghoriad’
  • Angen amlygu bod ariannu’r Unedau Trochi Disgyblion yn heriol - angen lobio i sicrhau bod y Llywodraeth yn ariannu’r Unedau yn llawn
  • Isadeiledd ardaloedd gwledig Dwyfor a Meirionnydd - nodi her o geisio denu arian i wella’r isadeiledd
  • Cyflwyno premiwm treth cyngor - nodi her o ymdopi gyda'r gwaith ychwanegol o gasglu a gweithredu’r premiwm.
  • Gwella trefniadau casglu Treth Cyngor - her o wella perfformiad o gymharu â Chynghorau eraill
  • Angen cloriannu llwyddiannau addysg ym maes llythrennedd a rhifedd. Beth yw’r her sydd wedi ei osod i gyflawni hyn?
  • Cynllun Prentisiaethau - angen sicrwydd bod y cynllun yn cyfrannu at gynlluniau’r gweithlu i’r dyfodol.

 

Cofnod:

Croesawyd y Cyng. Nia Jeffreys (Arweinydd y Cyngor), a Dewi Jones (Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor) i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd drafft o’r prif faterion i’w cyfarch o fewn dogfen Hunanasesiad Cyngor Gwynedd 2025/26 ar gyfer ystyriaeth y Pwyllgor gan ofyn iddynt gynnig unrhyw sylwadau ac argymhellion ynghyd ac unrhyw faterion ychwanegol y dylid eu cynnwys yn yr adroddiad. Adroddwyd bod yr Hunanasesiad yn ofyn statudol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 sydd hefyd yn nodi bod angen cynnwys y Pwyllgor yn y broses hunanasesu.

 

Tynnwyd sylw at y ffaith bod y Cyngor eisoes yn casglu llawer o dystiolaeth ac yn cyhoeddi dogfennau sy’n cynnwys y math o wybodaeth sy’n ddisgwyliedig i’w gynnwys o fewn yr hunanasesiad - dogfennau megis (ond ddim yn gyfyngedig i) adroddiadau blynyddol Perfformiad, Cydraddoldeb, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a’r Datganiad Cyfrifon Blynyddol. Nodwyd hefyd bod cyswllt agos rhwng yr Hunanasesiad a’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol ac oherwydd hynny bod ymgais wedi ei wneud i gadw’r hunanasesiad yn gymharol gryno i geisio osgoi dyblygu gwaith / gwybodaeth.

 

Adroddwyd ym mis Mawrth 2026 derbyniodd y Cyngor Asesiad Perfformiad gan Banel oedd yn cynnwys aelodau annibynnol. Amlygwyd bod angen cynnal Asesiad Panel oleiaf unwaith o fewn cylch etholiadol a’i fod yn gysylltiedig â’r dyletswydd i fod yn cynnal hunanasesiadau blynyddol ar berfformiad gyda’r dogfennau hynny’n ffurfio sail tystiolaeth yr asesiad. Nodwyd bod y Cyngor yn gweithio drwy’r ymateb a dderbyniwyd gan y Panel a bod bwriad cyflwyno cynllun gweithredu mewn ymateb i’r argymhellion hynny i’r Pwyllgor ym mis Medi / Hydref.

 

Amlygwyd bod cyflwyno’r prif faterion ar ddechrau’r broses yn ymateb i ddymuniad y Pwyllgor o gael cyfle i roi mewnbwn yn gynt i gynnwys yr adroddiad hunanasesiad. Bydd y Pwyllgor hefyd yn cael  cynnig sylwadau / argymhellion i’r adroddiad drafft terfynol ym mis Medi / Hydref  cyn cyflwyno i’r Cabinet  yn mis Hydref / Tachwedd ac i’r Cyngor Llawn yn mis Rhagfyr 2026.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol:

 

  • Bod cynnwys yr hunanasesiad yn dda, ond bod lle i wella
  • Angen gosod cyfeiriad at heriau cyfreithiol y mae’r Cyngor yn agored iddynt
  • Datblygiad Polisi Cludiant Addysg yn ‘cael ei ddatblygu’: risg y bydd yr oediad yn cael effaith ar bresenoldeb disgyblion ynghyd a gwendidau ymarferol problemau llwybrau bysus ysgol
  • Cyfeiriad at Ardoll Ymwelwyr yn amlygu bod y penderfyniad wedi ei wneud er nad yw’r cyfnod ymgynghori wedi dod i ben
  • Angen gwirio’r datganiadau hynny sydd wedi dyddio, e.e., Polisi Iaith wedi ei gymeradwyo ac nid ‘allan i ymgynghoriad’
  • Angen amlygu bod ariannu’r Unedau Trochi Disgyblion yn heriol - angen lobio i sicrhau bod y Llywodraeth yn ariannu’r Unedau yn llawn
  • Isadeiledd ardaloedd gwledig Dwyfor a Meirionnydd - nodi her o geisio denu arian i wella’r isadeiledd
  • Cyflwyno premiwm treth cyngor - nodi her o ymdopi gyda'r gwaith ychwanegol o gasglu a gweithredu’r premiwm.
  • Gwella trefniadau casglu Treth Cyngor - her o wella perfformiad o gymharu â Chynghorau eraill
  • Angen cloriannu llwyddiannau addysg ym maes llythrennedd a rhifedd. Beth yw’r her  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

DATGANIAD O GYFRIFON CYNGOR GWYNEDD AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2026 (AMODOL AR ARCHWILIAD) pdf eicon PDF 253 KB

I dderbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) am 2025/26.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad)

           

Cofnod:

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau bod y cyfrifon wedi eu cwblhau a’u rhyddhau i’w harchwilio gan Archwilio Cymru, archwilwyr allanol y Cyngor, ers diwedd mis Mehefin. Nodwyd mai’r amserlen statudol ar gyfer archwilio’r cyfrifon yw diwedd Medi, felly bwriad Archwilio Cymru yw cwblhau’r archwiliadau fel bod modd cymeradwyo’r cyfrifon terfynol ym Mhwyllgor 29ain Medi 2026.

  

Adroddwyd ar gynnwys yr adroddiad gan egluro bod pum set o gyfrifon ar gyfer 2025/26, yn cael eu cwblhau 

1.       Cyngor Gwynedd  

2.       Cronfa Bensiwn Gwynedd  

3.       GwE (cydbwyllgor sylweddol ei faint ac felly Datganiadau Llawn wedi eu paratoi) 

4.       Harbyrau Gwynedd (oedd eisoes wedi eu cyflwyno I Bwyllgor 21ain Mai 2026)  

5.       Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd 

 

Atgoffwyd yr Aelodau bod sefyllfa ariannol diwedd flwyddyn ar gyfer 2025/26 wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar y 21ain o Fai 2026 ar ffurf alldro syml, ond bod y Datganiad o’r Cyfrifon, sydd i bwrpas allanol a llywodraethu, yn gorfod cael ei gwblhau ar ffurf safonol CIPFA. Ymddengys bellach yn ddogfen hirfaith a thechnegol gymhleth.

 

Cyfeiriwyd at yr Adroddiad Naratif oedd yn rhoi gwybodaeth am y Cyfrifon ac am weledigaeth a blaenoriaethau Gwynedd, y Strategaeth Ariannol a’r mesuryddion perfformiad ariannol. Arweiniwyd yr Aelodau drwy’r adroddiad gan fanylu ar rai o’r elfennau: 

·        Crynodeb o wariant cyfalaf. Bu gwariant o £84 miliwn yn ystod y flwyddyn o gymharu gyda £85 miliwn yn y flwyddyn flaenorol. 

·        Bod y prif ddatganiadau ariannol yn cynnwys Datganiad Incwm a Gwariant, Mantolen, Llif arian ayyb 

·       Datganiad Symudiad mewn Reserfau sydd yn ddatganiad pwysig ac yn crynhoi sefyllfa ariannol y Cyngor. Amlygwyd bod balansau cyffredinol y Cyngor yn £14.5 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2026 - wedi codi £6.6 miliwn o £7.9 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2025 oherwydd barn y Swyddog Cyllid Statudol oedd bod angen cynyddu Balansau Cyffredinol y Cyngor fel ei fod yn cynrychioli 2.5% o wariant refeniw gros yr awdurdod, gan drosglwyddo swm o’r Gronfa Strategaeth Ariannol.

·       Bod Reserfau yn amlygu cynnydd yn y cronfeydd o £111 miliwn ar ddiwedd Mawrth 2025 i £112 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2026

·        Balansau Ysgolion lle gwelir lleihad cyson yn y balansau hyn sydd wedi disgyn o £8.5 miliwn ddiwedd Mawrth 2024, i £8.3 miliwn ddiwedd Mawrth 2025 i £7.1 miliwn erbyn diwedd Mawrth 2026, sydd bellach yn ddarlun sy’n agosach at lefel y balansau cyn Covid. Eglurwyd bod hyn yn ddarlun cyffredinol sydd yn cael ei weld yng Nghymru gan fod y balansau ysgolion wedi bod yn uchel yn dilyn nifer o grantiau yn sgil Covid. 

·        Reserfau a Glustnodwyd sy’n cynnwys dadansoddiad o’r £112 miliwn o gronfeydd wrth gefn – reserfau cyfalaf, cronfa Trawsffurfio / Cynllun y Cyngor, cronfa cefnogi’r strategaeth ariannol a chronfa Premiwm Treth y Cyngor

·        Cyfeiriwyd at Nodyn 15 - Eiddo, Offer a Chyfarpar sydd yn cyflwyno dadansoddiad fesul categori tir ac adeiladau, cerbydau, offer a chyfarpar ayyb. Ymrwymiadau Cyfalaf oedd yn cynnwys cynlluniau megis ar y gwaith ar Ysgol Ein Harglwyddes, Bangor, Canolfan Dolfeurig a gwaith cyfalaf ar ddatblygiad yng Nghoed Mawr Bangor ac ar Unedau Diwydiannol/  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

CYFRIFON TERFYNOL GWE AM Y FLWYDDYN A DDAETH I BEN 31 MAWRTH 2026 A'R ARCHWILIAD PERTHNASOL pdf eicon PDF 361 KB

Cyflwyno

·        Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw GwE am 2025/26 (ar ffurf adroddiad alldro);

·        Datganiad o’r Cyfrifon GwE 2025/26 (amodol ar archwiliad);

·        Datganiad Llywodraethu Blynyddol GwE 2025/26.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Nodi a derbyn yr adroddiad “alldro” Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw GwE 2025/26 am y cyfnod o ddau fis hyd at 31 Mai 2025.
  • Nodi a derbyn Datganiad o Gyfrifon GwE 2025/26 (yn amodol ar archwiliad) am y ddau fis hyd at 31 Mai 2025.
  • Cymeradwyo ymestyn cyfnod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2024/25 am ddau fis cyntaf y flwyddyn ariannol 2025/26 hyd at 31 Mai 2025, er mwyn cydymffurfio â’r gofynion statudol.

 

Cofnod:

Eglurodd y Pennaeth Cyllid Cynorthwyol - Cyfrifeg a Phensiynau mai Cyngor Gwynedd fel y Cyngor lletyol oedd yn gyfrifol am gyflawni cyfrifoldebau cyfrifo ac adrodd ar faterion cyllidol Cydbwyllgor GwE. Daeth GwE i ben ar 31 Mai 2025, a gan na fu i’r Cydbwyllgor gyfarfod wedi’r dyddiad yma, y penderfyniad a wnaed oedd cyflwyno’r cyfrifon am y cyfnod o ddau fis 2025/26 i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.

 

Adroddwyd bod Archwilio Cymru wedi derbyn y cyfrifon ers dechrau Ebrill a’r cyfrifon wedi bod yn destun archwiliad ers hynny. Fel cyfrifon Gwynedd, bwriad Archwilio Cymru yw cwblhau’r archwiliad cyn diwedd mis Medi 2026 fel bod modd eu cymeradwyo’n derfynol yng nghyfarfod y Pwyllgor ar y 29ain o Fedi 2026.

 

Cyfeiriwyd at y sefyllfa alldro, sydd â thalfyriad o’r sefyllfa derfynol. Nodwyd bod gwariant o £1.1 miliwn yn ystod y ddau fis a tynnwyd sylw bod y cyfraniadau perthnasol i gyllido’r costau wedi eu casglu gan Gynghorau Gogledd Cymru ac o’r ffynonellau perthnasol eraill.

 

Yng nghyd-destun y Datganiad o’r Cyfrifon amlygwyd bod Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio yn mynnu bod pob Cydbwyllgor yn paratoi cyfrifon blynyddol, a gan fod trosiant GwE mewn blwyddyn arferol wedi bod yn fwy na £2.5 miliwn, rhaid oedd paratoi datganiad o’r cyfrifon yn unol â chod CIPFA.

 

Nodwyd hefyd fel rhan o broses llywodraethu GwE, yng nghyfarfod olaf Cydbwyllgor GwE ar yr 21ain o Fai 2025, cyflwynwyd a derbyniwyd Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2024/25, ddeg diwrnod cyn i Gydbwyllgor GwE ddod i ben. Ni fu newid yng ngweithrediad GwE yn ystod y ddau fis olaf o’i fodolaeth, ac felly gwnaed cais i’r Pwyllgor gymeradwyo i ymestyn cyfnod Datganiad Llywodraethu Blynyddol 2024/25 am ddau fis cyntaf y flwyddyn ariannol 2025/26 hyd at 31 Mai 2025, er mwyn cydymffurfio â’r gofynion statudol.

 

Yn unol â dilyn trefniadau terfynu GwE ar 31 Mai o 2025, ac i gydymffurfio gyda’r rheoliadau wrth i endid orffen bod yn aelod gweithredol o’r gronfa bensiwn, eglurwyd ei bod yn ofynnol i'r Gronfa Bensiwn gynnal prisiad terfynu (gyda chymorth gan Actiwari’r Gronfa) a phenderfynu a oes taliad ymadael cysylltiedig yn berthnasol. Adnabuwyd gwerth y gwarged ar y dyddiad terfynu GwE i fod bron yn £9.4 miliwn. Gyda gwerth cyfraniadau'r cyflogwr yn 55% o'r gwarged cyffredinol, cyfwerth â £5.1 miliwn, bu i’r swm yma gael ei ddosbarthu i’r awdurdodau ar sail eu cyfraniadau tuag at gyllideb GwE ers ei sefydlu. Cyfeiriwyd at y symiau oedd wedi eu dosbarthu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol i Gynghorau'r Gogledd gyda ffigwr ar gyfer Cyngor Gwynedd yn £908 o filoedd.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD:

·        Nodi a derbyn yr adroddiad “alldro” Cyfrif Incwm a Gwariant Refeniw GwE 2025/26 am y cyfnod o ddau fis hyd at 31 Mai 2025.

·        Nodi a derbyn Datganiad o Gyfrifon GwE 2025/26 (yn amodol ar archwiliad) am y ddau fis hyd at 31 Mai 2025.

·        Cymeradwyo ymestyn cyfnod y Datganiad Llywodraethu Blynyddol ar gyfer 2024/25 am ddau fis cyntaf y flwyddyn ariannol 2025/26 hyd at 31 Mai 2025, er mwyn cydymffurfio â’r gofynion statudol

 

10.

RHEOLAETH TRYSORLYS 2025/26 pdf eicon PDF 202 KB

I dderbyn yr adroddiad fel gwybodaeth

 

Mae’n ofynnol dan Gòd Ymarfer CIPFA i adrodd ar ganlyniadau gwir weithgaredd Rheolaeth Trysorlys y Cyngor                 

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd yng nghyfarfod y Cyngor Llawn ym Mawrth 2025 cymeradwywyd y Strategaeth Rheolaeth Trysorlys ar gyfer y flwyddyn 2025/26. Eglurwyd bod yr adroddiad gerbron yn crynhoi gweithgareddau’r flwyddyn oedd yn diweddu 31 Mawrth 2026.

 

Adroddwyd bod y flwyddyn wedi bod yn flwyddyn brysur iawn i weithgaredd rheolaeth trysorlys y Cyngor wrth i’r gweithgaredd aros o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol a derbyniwyd £1.7m o log ar fuddsoddiadau oedd ychydig yn uwch na’r £1.6m a oedd wedi ei nodi yn y gyllideb.

 

Ar 31ain Mawrth 2026, roedd y Cyngor mewn sefyllfa gref iawn gyda buddsoddiadau net a hynny oherwydd y lefel uchel o fuddsoddiadau a chyfalaf gweithredol. Roedd hyn yn cynnwys arian y Gronfa Bensiwn a’r lefel wedi gostwng oherwydd bod arian Cyd Bwyllgor Corfforedig y Gogledd wedi trosglwyddo ar ddechrau’r flwyddyn ariannol.

 

Cyfeiriwyd at y gweithgaredd fenthyca gan nodi’r penderfyniad o ad-dalu benthyciad hanesyddol o £16.2m gan y banc oherwydd telerau ffafriol. Nodwyd bod y strategaeth wedi galluogi lleihau costau benthyca net (er gwaethaf yr incwm buddsoddi a gollwyd) a lleihau risg trysorlys cyffredinol y Cyngor.

 

Eglurwyd bod y Cyngor, fel sydd yn gyson gyda’r math o fuddsoddiadau sydd wedi eu gwneud ers nifer o flynyddoedd bellach yn parhau i fuddsoddi arian mewn banciau a chymdeithasau adeiladau, awdurdodau lleol, cronfeydd marchnad arian, swyddfa rheoli dyledion a chronfeydd wedi’i pwlio. Ategwyd bod y cronfeydd wedi’i pwlio yn fuddsoddiadau tymor canolig/ tymor hir sydd yn dod a lefel o incwm da iawn, gyda lefelau arian y Cyngor yn iach.

Nodwyd bod yr holl weithgareddau wedi cydymffurfio gyda chod ymarfer CIPFA. A rheolaeth trysorlys y Cyngor, ar wahân i  ddau achlysur o fewn cyfyngiadau buddsoddiadau a hynny oherwydd bod terfynau hanesyddol wedi eu dilyn am gyfnod byr iawn - mesurau mewn lle bellach i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto. Ategwyd bod  dangosyddion rheolaeth trysorlys wedi cydymffurfio yn llawn a nhw sydd yn newyddion da, ac yn dangos rheolaeth gadarn dros yr arian.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac am y sicrwydd bod rheolaeth gadarn dros yr arian

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r berthynas rhwng Rheolaeth Trysorlys a phwysau cynyddol ar gostau gwasanaethau’r Cyngor a  pha mor gynaliadwy yw’r sefyllfa, nodwyd bod cyflwyniad blynyddol gan Arlingclose yn edrych ar y cynlluniau cyfalaf fel bod modd cadw o fewn adnoddau mewnol (er yr angen i fenthyca ar ddiwedd 2027 am gyfnod byr). Ategwyd bod ystyriaeth yn cael ei roi ar sut i ariannu cyllidebau refeniw a chyfalaf cyn gwario.

 

PENDERFYNWYD

·        Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

11.

ADRODDIAD AROLYGAETHAU ESTYN A AROLYGAETH GOFAL CYMRU pdf eicon PDF 129 KB

I ystyried a derbyn yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth
  • Croesawu bod y gwelliannau yn mynd i’r cyfeiriad cywir

 

Nodyn:

Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad ar waith y cynllun ymateb i Adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder; i gynnwys diweddariadau ar faterion disgyblu a’r effaith ychwanegol ar staff o ganlyniad i’r ansicrwydd sydd wedi bod ynghylch a’r mater

 

Cofnod:

Yn dilyn Archwiliad ar y Cyd gan Arolygaeth Gofal Cymru ac Estyn ym mis Tachwedd 2025, ac adroddiad yn amlygu canfyddiadau’r arolwg hwnnw i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ym mis Chwefror 2026,  cyflwynwyd diweddariad ar y cynnydd yn erbyn y pedwar argymhelliad gan Gyfarwyddwr Corfforaethol  Gwasanaethau Cymdeithasol.  Atgoffwyd yr Aelodau bod nifer o’r argymhellion eisoes yn cael sylw drwy’r Cynllun Gweithredu a ddatblygwyd mewn ymateb i adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder.

 

Diolchwyd am yr adroddiad a braf oedd gweld bod y gwelliannau yn mynd i’r cyfeiriad cywir

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

 

·        Angen diweddariad ar faterion disgyblu. Er derbyn bod y mater yn un cyfrinachol,  mae angen i’r cyhoedd gael y wybodaeth

·        Pryder o’r amser sydd yn cael ei gymryd i glirio’r mater. Angen bod yn fwy tryloyw ac agored

·        Angen darlun clir o’r effaith a’r ansicrwydd ar y staff hynny sydd wedi cymryd baich ychwanegol

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd y Cyfarwyddwr Corfforaethol  bod y Bwrdd Ymateb, sydd yn arwain ar y Cynllun Ymateb Ehangach, yn cyfarfod ym mis Medi 2026 lle bydd diweddariad ac ymateb ehangach i’w ddisgwyl. Nodwyd bod ymchwiliadau yn parhau a bod y Cyngor yn dilyn trefn benodol i ymdrin â’r mater.

 

PENDERFYNWYD

·        Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

·        Croesawu bod y gwelliannau yn mynd i’r cyfeiriad cywir

 

Nodyn:

Bod y Pwyllgor yn derbyn diweddariad ar waith y cynllun ymateb i Adroddiad Cyfiawnder Trwy ein Dewrder; i gynnwys diweddariadau ar faterion disgyblu a’r effaith ychwanegol ar staff o ganlyniad i’r ansicrwydd sydd wedi bod ynghylch a’r mater

 

 

12.

ARGYMHELLION A CHYNIGION GWELLA ADRODDIADAU ARCHWILIO ALLANOL pdf eicon PDF 55 KB

I ystyried yr adroddiad a bod yn fodlon bod trefniadau priodol yn eu lle er mwyn sicrhau bod cynigion gwella sy’n codi o adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu.

 

 

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Gwasanaeth Cefnogi Busnes y Cyngor yn amlygu’r angen i’r Pwyllgor fodloni ei hun bod trefniadau priodol yn eu lle i sicrhau bod cynigion gwella sydd yn codi o adroddiadau archwilio allanol yn cael eu gwireddu; bod angen ystyried adroddiadau archwilio allanol cenedlaethol a lleol i Wynedd, yr argymhellion, y goblygiadau i lywodraethu, rheoli risg neu reolaeth. Atgoffwyd yr Aelodau eu bod wedi gwneud penderfyniad yng nghyfarfod Chwefror 2025 i ddiwygio trefn adrodd ar yr argymhellion a chynigion gwella fel bod modd cryfhau’r sicrwydd i ymateb yn gynt i’r argymhellion drwy gyflwyno ymateb y Cyngor i’r Pwyllgor ac yna cael 12 mis i weithredu cyn dychwelyd i’r Pwyllgor i adrodd ar y weithred.

 

Tynnwyd sylw at y rhestr o’r arolygiadau a gynhaliwyd gan archwilwyr allanol rhwng 2025 a 2026 ynghyd a’u cynigion ar gyfer gwella, y gweithrediadau a nodwyd yn yr ymateb sefydliadol a’r dyddiad y disgwyli’r iddynt gael eu cwblhau.

 

PENDERFYNWYD

·        Derbyn yr adroddiad a nodi’r wybodaeth

·        Bod angen cadw llygad ar y gweithredu a sicrhau bod y weithred yn symud i’r cyfeiriad cywir.

 

13.

CYD BWYLLGOR CORFFOREDIG Y GOGLEDD - ENWEBU AELOD LLEYG AR GYFER IS BWYLLGOR LLYWODRAETHU AC ARCHWILIO pdf eicon PDF 122 KB

I ystyried yr adroddiad

 

I enwebu un Aelod Lleyg i Is Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

Enwebu Dewi Lewis fel Aelod Lleyg Ar Gyfer Is-bwyllgor Llywodraethu Ac Archwilio, Cydbwyllgor Corfforedig Y Gogledd

 

Nodyn:

Cais i’r Cydbwyllgor Corfforedig ystyried trefniant dirprwyo i Aelodau Lleyg fel sydd wedi ei drefnu ar gyfer Aelodau Etholedig

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Reolwr Democratiaeth ac Iaith yn nodi, yn unol â darpariaethau Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (‘Deddf 2021’) bod angen i Gydbwyllgor Corfforedig y Gogledd 2021 sefydlu Pwyllgor Llywodraethu Archwilio ei hun. Yn mis Rhagfyr 2025, sefydlwyd yr Is-bwyllgor Llywodraethu gyda’r aelodaeth i gynnwys chwe Cynghorydd (un o bob un o'r Cynghorau Cyfansoddol) a thri aelod lleyg.

 

Ategwyd mai dymuniad yr Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio oedd penodi aelodau o Bwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio presennol y Cynghorau Cyfansoddol ac i bob un o’r Cynghorau Cyfansoddol enwebu Cynghorydd o’i Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ei hun fel ei brif enwebai ynghyd ag ail Gynghorydd i weithredu fel dirprwy (i sicrhau cworwm pan nad yw’r prif enwebai ar gael). Roedd gofyn i’r Cynghorau Cyfansoddol hynny os oeddynt yn dymuno, hefyd enwebu aelod lleyg i’w hystyried i wasanaethu ar  Is-bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Corfforedig y Gogledd.

 

Eglurwyd, yn y misoedd diwethaf, bod sedd wedi dod yn wag ar yr Is-bwyllgor a bod angen enwebu aelod lleyg i wasanaethu arno. Yn unol â’r drefn, bydd enwebiadau yn cael eu rhoi ymlaen gan y cynghorau cyfansoddol ac os bydd mwy o enwebiadau na’r hyn sydd yn ofynnol yn cael eu cynnig, bydd Cydbwyllgor Corfforedig y Gogledd yn dewis aelod lleyg drwy ystyried y disgrifiad rôl, manylion y person ac unrhyw wybodaeth gefndirol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Mewn ymateb i gais i’r Cydbwyllgor Corfforedig ystyried trefniant dirprwyo i Aelodau Lleyg fel sydd wedi ei drefnu ar gyfer yr Aelodau Etholedig, nododd y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith nad oedd trefniant mewn lle ar hyn o bryd, ond y byddai yn cyfeirio'r awgrym i’r Cydbwyllgor i’w ystyried.

 

PENDERFYNWYD

·        Enwebu Dewi Lewis fel Aelod Lleyg Ar Gyfer Is-bwyllgor Llywodraethu Ac Archwilio, Cydbwyllgor Corfforedig Y Gogledd

 

Nodyn:

Cais i’r Cydbwyllgor Corfforedig ystyried trefniant dirprwyo i Aelodau Lleyg fel sydd wedi ei drefnu ar gyfer Aelodau Etholedig

 

14.

BLAENRAGLEN Y PWYLLGOR pdf eicon PDF 142 KB

I ystyried a derbyn y flaen raglen

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD:

 

  • Derbyn y rhaglen waith ar gyfer Gorffennaf 2026 – Gorffennaf 2027

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd blaen raglen o eitemau ar gyfer cyfarfodydd y Pwyllgor hyd Gorffennaf 2027.

 

PENDERFYNWYD:

 

Derbyn y rhaglen waith ar gyfer Gorffennaf 2026 – Gorffennaf 2027