Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfa'r Cyngor, Caernarfon LL55 1SH
Cyswllt: Bethan Adams 01286 679020
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorwyr John Pughe Roberts a Gethin Glyn Williams. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Derbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r
pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Medi 2018, fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 27 Medi 2018, fel rhai cywir. |
|
TWYLL A LLYGREDD: EXPRESS MOTORS PDF 62 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg. Cofnod: Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan yr Uwch Reolwr Refeniw
a Risg. Adroddwyd y cafwyd pedwar o ddiffynyddion yn euog yn Llys y Goron,
Caernarfon ar 2 Hydref 2018 o gyhuddiadau o dwyll yn ymwneud â hawliadau am
gymorthdaliadau gan Express Motors i redeg y cynllun tocynnau teithio rhad yng
Ngwynedd. Roedd pumed diffynnydd wedi pledio’n euog mewn gwrandawiad cynharach.
Nodwyd ar 31 Hydref 2018, cafodd yr holl ddiffynyddion eu dedfrydu yn Llys y
Goron yr Wyddgrug i'r carchar, am gyfnodau o rhwng 12 mis a saith mlynedd a
hanner. Nodwyd gan fod y mater yn destun achos llys, nid oedd modd i’r Pwyllgor
drafod y mater mewn cyfarfod cyhoeddus cyn nawr. Nodwyd y cyfeiriwyd y
mater i Archwilio Mewnol gan yr Adran Rheoleiddio yn 2014, o fewn ychydig
wythnosau o ddarganfod twyll yng nghwmni Bws Padarn. Eglurwyd bod y mater wedi
ei gyfeirio oherwydd pryderon yr Adran, ac ymhellach roeddynt wedi derbyn
cwynion gan gwsmeriaid fod y cardiau teithio bws yn cael eu taro fwy nag
unwaith (wrth gamu ar y bws ac fel yr oeddent yn gadael) ar gyfer teithiau
wnaed gydag Express Motors. Eglurodd yr Uwch Reolwr mai system Wayfarer gan gwmni
Parkeon oedd y system a ddefnyddiwyd i gofnodi data tocynnau teithio rhatach ar
gyfer gweithredwyr bysiau. Nodwyd ei fod yn anodd cael y data perthnasol allan
o’r system er mwyn casglu tystiolaeth y gellid ei drafod gyda’r Swyddog Monitro
i weld os oedd sail i gyfeirio'r mater at yr heddlu. Nodwyd nad oedd modd ar y
pryd i gynhyrchu adroddiad eithriadau o’r system, ond erbyn hyn roedd hyn yn
bosib. Nodwyd bod risgiau yn parhau gyda llawer o arian dan sylw a’r Cyngor yn
defnyddio’r system genedlaethol. Nododd yr Aelod Cabinet
Amgylchedd nad oedd yn y rôl ar adeg y twyll ond ei fod pan oedd y mater
gerbron y llys. Pwysleisiodd mai’r hyn oedd yn bwysig oedd beth a wneir o hyn
ymlaen. Awgrymodd efallai bod y sefyllfa yn amlygu bod gorddibyniaeth ar
grantiau a bod Llywodraeth Cymru yn deall hyn ac yn gwneud gwaith i fynd i’r
afael â’r mater. Eglurodd y Pennaeth
Amgylchedd yn dilyn y twyll a ddarganfuwyd yng nghwmni Bws Padarn ei fod yn
ymddangos bod gor-hawlio o ran tocynnau gostyngiad gan gwmni Express Motors.
Nododd bod Archwilio Mewnol wedi edrych i mewn i gwmni Express Motors, cyn y
darganfuwyd y twyll yng nghwmni Bws Padarn, ond nid oedd tystiolaeth. Roedd y
twyll yng nghwmni Bws Padarn wedi amlygu’r gor-hawlio yng nghwmni Express
Motors, oherwydd y disgwyliad y byddai lefel sybsidi’r ddau gwmni yn gymharol
debyg. Eglurodd ei bod yn anodd echdynnu’r data o’r system genedlaethol ac o’r
herwydd roedd rhaid i’r Cyngor dalu i gwmni chwilio am y data. Nododd y rhoddir
pwysau ar Lywodraeth Cymru i wella’r system, gyda rhai gwelliannau wedi eu
gwneud, ond roedd yr anawsterau o ran echdynnu data o’r system yn rhwydd yn
parhau. Nododd y Pennaeth Amgylchedd bod Llywodraeth Cymru drwy gytundeb newydd o ran y cynllun tocynnau teithio rhatach yn ceisio ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
CYLLIDEB REFENIW 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 213 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad
gan yr Uwch Reolwr Cyllid, gosododd y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr
adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 16 Hydref 2018. Nododd bod adolygiad
ddiwedd Awst o’r cyllidebau yn dangos darlun cymysg, ond fod angen camau
gweithredu pendant i’r Adran Addysg, Adran Plant a Theuluoedd ynghyd a’r Adran
Priffyrdd a Bwrdeistrefol, i sicrhau rheolaeth o’u cyllidebau erbyn 31 Mawrth
2019. Tynnodd sylw at benderfyniad y Cabinet: “Derbyn yr adroddiad ar
adolygiad diwedd Awst 2018 o’r Gyllideb
Refeniw, ac ystyried y sefyllfa ariannol ddiweddaraf parthed cyllidebau pob adran / gwasanaeth. ·
Gofyn i’r Aelodau
Cabinet ar gyfer gwasanaethau Plant, Addysg a Phriffyrdd a Bwrdeistrefol sicrhau fod yna
gynllun gweithredu clir gan yr
adrannau i gymryd camau i
leihau’r diffyg ariannol ac i drafod
y cynlluniau hynny gyda mi er mwyn
cael hyder eu bod yn rhesymol.
·
Digolledu’r Adran Economi a Chymuned £40k sef y golled incwm yn
dilyn cau pwll nofio Arfon
dros yr haf. ·
Cynaeafu (£1,904) o’r tanwariant net ar gyllidebau Corfforaethol,
gyda (£40k) i’w defnyddio i ddigolledu’r
Adran Economi a Chymuned am y golled incwm tra bu
Pwll Nofio Arfon ar gau.
Gyda’r gweddill sef (£1,864) i’w drosglwyddo i Gronfa
Cynorthwyo’r Strategaeth Ariannol i gynorthwyo
gyda phwysau anochel un tro
ar gyllidebau’r Cyngor.” Yn ystod y drafodaeth ddilynol ymatebodd y swyddogion a’r Aelod Cabinet Cyllid i ymholiadau’r aelodau fel a ganlyn: ·
Bod pwll nofio Arfon wedi
cau am ddeg wythnos dros yr
haf er mwyn
galluogi gwaith addasu. Er tegwch
i gwmni Byw’n
Iach Cyf, a fyddai’n gyfrifol am y canolfannau byw’n iach o Ebrill 2019 ymlaen, fe ddigolledir
yr Adran Economi a Chymuned am y golled incwm; ·
Cytuno efo sylwadau aelodau, nid oedd y sefyllfa
gorwariant o ran cludiant yn yr Adran
Addysg yn dderbyniol. Cynhaliwyd cyfarfod efo’r swyddogion perthnasol ynghyd â’r Prif
Weithredwr i drafod y mater ac fe
dderbyniodd sylw yng nghyfarfod y Cabinet ar 16 Hydref 2018. Y gorwariant yn yr
adrannau yng nghysylltiedig â gwasanaethau ynghlwm â’r bobl
fwyaf bregus ac yn yr achos
yma roedd y gorwariant o ran cludo disgyblion i Ysgol
Hafod Lôn. Gofynnwyd i’r adran
ystyried ffyrdd amgen o gludo disgyblion
drwy efallai dalu i rieni
yn hytrach na defnyddio tacsi
gyda’r gofyniad bod hebryngwr yn bresennol; ·
Bod y Cabinet yn ystyried y gorwariant o ran cludiant yn yr
Adran Addysg ac yn herio’r Aelod
Cabinet Addysg a swyddogion.
Roedd angen newid y drefn gan
y byddai’n anodd iawn i ddatrys
y gorwariant o gynnal y drefn bresennol; ·
Annog yr aelodau i fynychu
un o’r pedwar gweithdy a gynhelir yn dechrau Mis
Rhagfyr o ran arbedion a’r sefyllfa gyllidebol; · Amcangyfrifir y byddai £2.9 miliwn o incwm o ran Cynllun Premiwm Treth y Cyngor ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, roedd £200,000 wedi ei ymrwymo yn y gyllideb ar gyfer gorfodi’r drefn. Gyda chanran o weddill yr arian wedi ei ymrwymo ar gyfer gwella’r sefyllfa o ran tai ar gyfer pobl ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
RHAGLEN GYFALAF 2018/19 - ADOLYGIAD DIWEDD AWST PDF 211 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid, a oedd yn nodi yn
unol â gofynion Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, y disgwylir i’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu craffu rhai materion
ariannol gan gynnwys adroddiadau monitro cyllideb, lle’n briodol. Gosododd yr Uwch Reolwr Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr
adroddiad a gyflwynwyd i’r
Cabinet ar 16 Hydref 2018. Nododd bod cynnydd o £25.227 miliwn yn y gyllideb
ar gyfer y rhaglen gyfalaf tair blynedd ers
sefyllfa’r gyllideb agoriadol. Eglurwyd bod cynlluniau pendant mewn lle i fuddsoddi
tua £28.6m yn 2018/19 gyda £6.9m (24%) ohono wedi ei ariannu
trwy ddenu grantiau penodol. Tynnwyd sylw at benderfyniad y Cabinet. PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt rhaglen gyfalaf y Cyngor. |
|
TROSOLWG ARBEDION: ADRODDIAD CYNNYDD AR WIREDDU CYNLLUNIAU ARBEDION PDF 195 KB Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid a oedd yn
adrodd ar sefyllfa ddiweddaraf gwireddu cynlluniau arbedion. Gosododd yr Uwch Reolwr Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr
adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 16 Hydref 2018. Nododd ei fod yn
galonogol adrodd bod £23m o’r cyfanswm o dros £24m o gynlluniau arbedion yn y
cyfnod 2015/16 – 2017/18, sef 95%, wedi eu gwireddu gyda dim ond ychydig o
lithriad gyda’r gweddill. Tynnodd sylw bod 11 o 26 o gynlluniau arbedion 2018/19 wedi eu gwireddu’n
llawn neu’n rhannol, ac yn galonogol, dim ond dau gynllun y rhagwelwyd
llithriad mewn gwireddu. Cadarnhaodd yn nhermau ariannol bod y rhagolygon yn
dangos y byddai dros 80% o’r arbedion wedi’u gwireddu. Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed gohirio trosglwyddo darpariaeth
cyfleusterau hamdden i Byw’n Iach Cyf, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg bod
yr amserlen trosglwyddo wreiddiol yn or-uchelgeisiol o ystyried y gwaith
paratoi cyfreithiol manwl angenrheidiol. Cadarnhaodd y bwriad i drosglwyddo’r ddarpariaeth
i Byw’n Iach Cyf ar 1 Ebrill 2019 yn unol â’r amserlen. PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y trosolwg arbedion. |
|
RHEOLAETH TRYSORLYS 2018/19 – ADOLYGIAD CANOL BLWYDDYN PDF 622 KB Cyflwyno, er gwybodaeth, adroddiad y Pennaeth Cyllid ar wir weithgarwch benthyg a buddsoddi’r Cyngor hyd yma yn y flwyddyn ariannol gyfredol. Cofnod: Gosodwyd cefndir a chyd-destun i’r adroddiad gan y Pennaeth Cyllid ar weithgaredd rheolaeth trysorlys y flwyddyn gyfredol. Cadarnhaodd yn ystod y cyfnod
chwe mis rhwng 1 Ebrill a 30 Medi 2018, arhosodd gweithgarwch benthyca’r Cyngor o fewn y cyfyngiadau a osodwyd yn wreiddiol
ac nid oedd unrhyw fanciau lle'r oedd y Cyngor
wedi adnau arian wedi methu
ad-dalu. Tynnodd sylw bod y benthyciadau llog cymharol uchel
cymerwyd yn yr 1980au yn dod
i ddiwedd eu cyfnod. Nodwyd
fod y Cyngor ers cryn amser
yn hunan-fenthyca yn hytrach na
benthyg gan eraill, a bod angen edrych pa fenthyciadau i gymryd yn
y tymor canolig neu’r tymor hwy,
ond bwriedir cymryd benthyciadau am gyfnodau byr hyd
ddechrau Ebrill 2019. Nododd y cynhelir sesiwn hyfforddiant ar gyfer aelodau'r Pwyllgor ar 16 Ionawr 2019, lle ceir arweiniad
gan gwmni Arlingclose, ymgynghorwyr rheolaeth trysorlys y Cyngor. Nodwyd byddai’n gyfle euraidd er mwyn
trafod ac egluro’r sail i strategaeth rheolaeth
trysorlys
2019/20, cyn i’r
Pwyllgor argymell i’r Cyngor llawn gymeradwyo’r
strategaeth. Nododd aelod bod Cyngor Manceinion yn buddsoddi
yn y gymuned, yn hytrach na
thu allan i’r ardal. Ychwanegodd
gyda thri phrif afon yng
Ngwynedd bod cyfle i fuddsoddi mewn
cynlluniau cynhyrchu trydan, felly pam na fyddai’r Cyngor yn buddsoddi mewn
cynlluniau o’r fath. Mewn ymateb,
eglurodd y Pennaeth Cyllid bod Cronfa Bensiwn Cyngor Manceinion wedi buddsoddi yn y farchnad dai, tra
rheolaeth trysorlys oedd dan sylw
yma, ac roedd sefyllfa’r Cyngor yn fwy cyfyng.
Ymhelaethodd roedd rheoliadau yn Lloegr
wedi rhoi mwy o ryddid, ond
bu llacio diweddar ar reoliadau
cyffelyb Llywodraeth Cymru. Ychwanegodd bod buddsoddi mewn isadeiledd yn fwy
addas i’r Gronfa Bensiwn. Nododd bod cyfleoedd diogel i fuddsoddi
yng Ngwynedd yn fwy cyfyng. Mewn ymateb i sylw
gan aelod parthed y tabl ‘Prif Symiau a Fuddsoddir
am Gyfnodau sy’n hwy na 364 diwrnod’
ar dudalen 57 y rhaglen, eglurodd y Rheolwr Buddsoddi bod y tabl yn dangos
yr uchafsymiau y gellir eu buddsoddi.
Ymhelaethodd bod yr uchafsymiau o ran buddsoddi am gyfnod o ddwy neu
dair blynedd yn llai, o’u
cymharu â buddsoddiadau am gyfnod o flwyddyn. PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth. |
|
CYNNYRCH ARCHWILIO MEWNOL 17/9/18 - 16/11/18 PDF 158 KB Cyflwyno adroddiad y Rheolwr Archwilio. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad
y Rheolwr Archwilio yn amlinellu gwaith
Archwilio Mewnol am y cyfnod. Nodwyd bod 8 adroddiad am archwiliadau o’r cynllun gweithredol wedi eu cwblhau.
Tynnwyd sylw o ran archwiliadau dilyniant, bod gweithrediad derbyniol ar 58.28% o’r camau
cytunedig, sef 95 allan o 163. Rhoddwyd ystyriaeth i’r adroddiadau yn unigol ac yn
ystod y drafodaeth cyfeiriwyd at y prif faterion canlynol – Ad-Daliadau Treth Cyngor Mewn ymateb i ymholiad gan
aelod o ran y risg uwch o dwyll o dan y trefniadau newydd i dalu
ad-daliadau drwy BACS, nododd y Rheolwr Archwilio bod yr archwiliad wedi derbyn lefel sicrwydd
uchel a bod swyddogion yn ymchwilio i
gynhyrchu adroddiadau pwrpasol ar gyfer
cynnal gwiriadau a bod rheolaethau cydadfer wedi eu sefydlu. Canolfannau Hamdden Holodd aelod os byddai Archwilio
Mewnol yn parhau i gynnal
archwiliadau o ganolfannau hamdden ar ôl
trosglwyddo’r ddarpariaeth cyfleusterau hamdden i Byw’n Iach
Cyf. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr
Refeniw a Risg bod y cytundeb trosglwyddo, oedd heb ei
arwyddo eto,
yn nodi y byddai Archwilio Mewnol yn darparu’r
gwasanaeth i’r cwmni. Mewn ymateb i sylw
gan aelod, eglurodd y Rheolwr Archwilio y cyflwynir cynllun gweithredu gydag amserlen i’r gwasanaeth perthnasol, gyda gwaith dilyniant yn cael ei
gwblhau i ystyried y cynnydd. Ymhelaethodd bod gwelliant clir wedi ei
weld yn nhrefniadau canolfannau hamdden. Tan yn ddiweddar, byddai
archwiliadau o’r canolfannau yn derbyn barn C (dan y drefn flaenorol), gyda nifer
fawr o gamau gweithredu. Nododd bod y camau gweithredu erbyn hyn yn
oddeutu 2 neu 3 mewn nifer gyda
Chanolfan Hamdden Plas Silyn wedi
derbyn barn A yn 2017. Mewn ymateb i gwestiwn
gan aelod os oedd hi’n
bosib i’r cwmni ddethol pwy
fyddai’n cynnal archwiliadau, eglurodd yr Uwch Reolwr
Refeniw a Risg bod cymal torri pe
byddai’r cwmni o’r farn nad oedd y gwasanaeth a ddarperir gan Archwilio Mewnol
i’r safon ddisgwyliedig. Nododd mai Bwrdd Cyfarwyddwyr
y cwmni fyddai’n derbyn adroddiadau archwilio gan Archwilio
Mewnol o Ebrill 2019 ymlaen, a gan mai
cwmni hyd braich y Cyngor oedd Byw’n Iach
Cyf byddai’r Cyngor dal angen sicrwydd am drefniadau llywodraethu’r cwmni, ond mai’r Pennaeth
Economi a Chymuned fyddai’r prif gyswllt.
Ymhelaethodd bod Archwilio Mewnol yn ceisio
sicrhau bod y cwmni yn cychwyn ar
sylfaen gadarn ac fe fyddai’n
fuddiol cwblhau’r gwaith dilyniant ar ganolfannau hamdden cyn diwedd
mis Mawrth 2019. Nododd aelod bod archwiliadau canolfannau hamdden yn amlygu
diffyg meddylfryd masnachol, er mwyn
i’r cwmni newydd fod yn
llwyddiannus byddai rhaid arfogi staff i’w galluogi i
weithredu yn fasnachol. Holodd aelod os fyddai modd i’r archwiliadau i barhau i gael eu cyflwyno i’r Pwyllgor ar ôl y trosglwyddiad i Byw’n Iach Cyf. Mewn ymateb, nododd aelod ei fod yn Gadeirydd y Bwrdd Cysgodol a bod cynllun busnes yn cael ei baratoi. Ymhelaethodd y byddai gofyniad i’r cwmni gyflwyno adroddiad blynyddol i’r Cyngor a bod trafodaethau yn parhau ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 10. |
|
CYNLLUN ARCHWILIO MEWNOL 2018/19 PDF 118 KB Cyflwyno adroddiad
y Rheolwr Archwilio ar y cynnydd ar Gynllun Archwilio Mewnol 2018/19. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad y
Rheolwr Archwilio yn rhoi diweddariad ar y sefyllfa gyfredol o ran cwblhau
cynllun archwilio mewnol 2018/19. Adroddwyd bod y
Gwasanaeth Archwilio Mewnol hyd at 16 Tachwedd 2018 wedi cwblhau 37.29% o’r
cynllun, gyda 22 o’r 59 archwiliad yng nghynllun 2018/19 wedi eu rhyddhau yn derfynol.
Tynnwyd sylw at yr addasiadau i’r Cynllun. PENDERFYNWYD derbyn a nodi cynnwys yr adroddiad fel diweddariad o gynnydd yn erbyn cynllun archwilio 2018/19. |
|
HUNANASESIAD O EFFEITHIOLRWYDD Y PWYLLGOR ARCHWILIO A LLYWODRAETHU PDF 98 KB Cyflwyno adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg. Cofnod: Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg a oedd yn nodi
canlyniadau’r Hunanasesiad o Ymarfer Da gan ddefnyddio canllawiau asesu CIPFA,
a gynhaliwyd mewn gweithdy ar 5 Tachwedd 2018, ynghyd â chynllun gweithredu er
mwyn gwella cydymffurfiaeth efo’r gofynion statudol ac ymarfer gorau'r cyrff
proffesiynol. Gofynnwyd i’r aelodau a oedd yn bresennol yn y gweithdy i gadarnhau bod yr
adroddiad yn adlewyrchiad teg o’r drafodaeth a gafwyd yno. Mewn ymateb i sylw gan aelod o ran y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad
blynyddol ffurfiol i’r Cyngor Llawn yn hytrach nag adroddiad eithriad yn unig,
eglurodd y Pennaeth Cyllid, daethpwyd i’r casgliad yn y gweithdy y byddai
gwaith y Pwyllgor yn cael ei gynnwys yn Adroddiad Blynyddol Craffu ac mai
adroddiad eithriad a gyflwynir gan y Pwyllgor i’r Cyngor Llawn, pe cyfyd yr
angen. Cyfeiriodd aelod at y Datganiad Llywodraethu Blynyddol gan nodi y dylai bod
cyfeiriad at waith y Pwyllgor a’i rôl o ran llywodraethu. Mewn ymateb, nododd
yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y bwriedir cryfhau’r cyswllt efo’r Grŵp
Asesu Trefniadau Llywodraethu gan gyflwyno adroddiadau mwy rheolaidd ar waith y
Grŵp i’r Pwyllgor. PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad fel sail i gynllun gweithredu ar gyfer datblygiad pellach y Pwyllgor a gofyn am ddiweddariad i gyfarfodydd dilynol ar y cynnydd yn erbyn y camau gweithredu. |