Lleoliad: Ystafell Glaslyn, Y Ganolfan, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9LU. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Eirian Roberts 01286 679018
Rhif | eitem |
---|---|
CADEIRYDD I ethol Cadeirydd
am 2019/20. Cofnod: PENDERFYNWYD
ail-ethol y Cynghorydd Alwyn Gruffydd yn gadeirydd y Pwyllgor hwn am y flwyddyn
2019/20. |
|
IS-GADEIRYDD I ethol
Is-gadeirydd am 2019/20. Cofnod: PENDERFYNWYD
ail-ethol y Cynghorydd Nia Jeffreys yn is-gadeirydd y Pwyllgor hwn am y
flwyddyn 2019/20. |
|
YMDDIHEURIADAU Derbyn unrhyw
ymddiheuriadau am absenoldeb. Cofnod: Y Cynghorydd Gareth Thomas (Aelod Cabinet
Datblygu’r Economi), Llyr B.Jones (Uwch Reolwr Economi a Chymuned) a Malcolm
Humphreys (Harbwrfeistr Porthmadog) (oedd newydd golli ei fam-yng-nghyfraith). |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Nodi unrhyw ddatganiadau
o fuddiant personol. Cofnod: Ni dderbyniwyd datganiad o fuddiant personol
gan unrhyw aelod oedd yn bresennol. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Cofnod: Grisiau’r Môr Nododd
Cynrychiolydd Cyngor Tref Porthmadog y dymunai godi mater ynglŷn â
Grisiau’r Môr ar gais unfrydol y Cyngor Tref yn eu cyfarfod y noson cynt, gan
adrodd yn ôl i’r Cyngor Tref ar y mater yn eu cyfarfod nesaf. Nododd y Cadeirydd nad oedd gwrthwynebiad i
drafod hyn. Eglurodd
Cynrychiolydd y Cyngor Tref fod llythyru wedi bod ers cryn amser rhwng y Cyngor
Tref a’r Uned Forwrol a Pharciau Gwledig a Chlwb Hwylio Porthmadog ynglŷn
â mynediad i’r cyhoedd i Risiau’r Môr.
Pwysleisiodd fod y grisiau hyn yn rhan o etifeddiaeth a hanes tref
Porthmadog a bod y Cyngor Tref yn gryf o’r farn bod angen gwarchod traddodiad
oes o hawl pobl leol i fwynhau Grisiau’r Môr.
Cyfeiriodd at y gwaith o adeiladu mynediad i pontwns i lawr Grisiau’r
Môr rhwng 2002 a 2004, gan bwysleisio fod llythyr a dderbyniodd y Cyngor Tref
gan y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig dyddiedig 16 Medi, 2019 yn nodi “pan
ddatblygwyd y cynllun gosod pontŵn gwreiddiol gan glwb hwylio, bu i’r
Gwasanaeth Morwrol a Pharciau Gwledig sicrhau na fyddai’r datblygiad yn cyfyngu
mynediad at y dŵr ger safle’r Grisiau Llechi [Grisiau’r Môr]”. Roedd y llythyr hefyd yn nodi “gwerthwyd
hyn i’r Clwb Hwylio, ac mae’n bosib’ bod hyn wedi’i gofnodi mewn cyfarfod o
Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog”.
Nododd ymhellach
fod y giât fetel gydag arwydd ‘Dim mynediad heibio’r pwynt yma’ arni yn
gwrthddweud cyfarwyddyd yr Uned Forwrol a Pharciau Gwledig, ar adeg cynllun
gosod y pontŵn gwreiddiol, bod mynediad i’r cyhoedd yn parhau. Yn wir, roedd bellach yn amhosib’ cael
mynediad i’r grisiau hanesyddol gwreiddiol eu hunain oherwydd bod Pont Mynediad
y pontŵn wedi ei adeiladu ar eu pennau, ac roedd angen cywiro hyn. Nododd y
Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden fod y Clwb Hwylio wedi ysgrifennu at y Cyngor
Tref dair gwaith yn egluro’n union beth yw’r sefyllfa, a bod yr arwydd yn
nodi’n glir bod gan unrhyw un sy’n defnyddio’r harbwr hawl i gael mynediad i’r
dŵr i lwytho / dadlwytho cychod, ayb. Nododd
Cynrychiolydd y Cyngor Tref fod yr arwydd yn dweud “Arwydd diogelwch -
mynediad preifat - Pontŵn at ddefnydd defnyddwyr yr Harbwr yn unig - dim
pysgota na chrabio”. Nid oedd
y geiriau ‘mynediad preifat’ na’r giât haearn yn gwahodd mynediad i’r
pontŵn, hyd yn oed i ddefnyddwyr cychod, ac roedd yn gwneud i bobl deimlo
fel eu bod yn tresbasu ar eiddo preifat.
Mewn ymateb,
eglurodd y Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden fod yr arwydd yn dweud ‘mynediad
preifat’ oherwydd bod y ramp ym mherchnogaeth y Clwb Hwylio, a hwy hefyd
oedd yn gyfrifol am ei archwilio, ei gynnal a’i gadw a’i yswirio. Gan hynny, roedd yn ofynnol gosod rhyw fath o
gyfyngiad ar bwy fyddai’n cael mynd yno, ond ategodd y ffaith bod gan unrhyw un
sy’n defnyddio’r harbwr hawl i fynd i lawr i’r dŵr. Esboniodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig fod yr Uned wedi cydweithio gyda’r Clwb Hwylio, y pwyllgor hwn a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Mawrth, 2019 fel rhai cywir. Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 6 Mawrth,
2019, fel rhai cywir. Materion yn codi
o’r cofnodion Eitem 2 – Materion
Brys Mewn ymateb i
ymholiad, eglurodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig y cafwyd trafodaeth
bellach gyda Chwmni Wynnes ac y rhoddwyd neges glir iawn iddynt na fyddai’n
ymarferol gwagio Harbwr Porthmadog o gychod ym Mehefin / Gorffennaf 2020 er
mwyn i long oedd ynghlwm â gwaith trawsnewidyddion yn Nhrawsfynydd a Ffestiniog
dramwyo’r harbwr. Awgrymwyd i’r cwmni
edrych ar leoliadau eraill ac roeddent yn y broses o asesu’r posibiliadau ar
draeth Morfa Bychan, fyddai’n golygu dod â’r llong i mewn ar lanw uchel, glanio
a sychu allan. Byddai’r lori yn gadael y
llong ac yn gwneud ei ffordd ar hyd y ffordd gyhoeddus at gyfeiriad
Trawsfynydd. Cadarnhawyd bod y ffordd yn
ddigon llydan i gymryd y llwyth a chafwyd trafodaethau cychwynnol gydag Adran
Briffyrdd y Cyngor ynglŷn ag ansawdd / cryfder y ffordd i dderbyn y
llwyth. Mater i’r cwmni fyddai gwneud
asesiad o’r hyn fyddai ei angen a’r costau, ond gan na chlywyd dim pellach
ganddynt ers hynny, roedd yn annhebygol iawn y byddai’r llong yn dod i’r ardal
ym mis Mehefin wedi’r cyfan, ond rhoddid gwybod i aelodau’r pwyllgor petai yna
unrhyw ddatblygiadau yn y cyfamser. |
|
DIWEDDARIAD AR FATERION RHEOLAETH YR HARBWR PDF 71 KB Cyflwyno
adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau. Dogfennau ychwanegol:
Cofnod: Cyflwynodd y
Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau yn
diweddaru’r pwyllgor ar faterion yr Harbwr ar gyfer y cyfnod rhwng mis Mawrth
2019 a mis Hydref 2019. Gwahoddwyd
adborth gan yr aelodau ar faterion diogelwch a materion gweithredol yr Harbwr. Dosbarthwyd y
canlynol yn y cyfarfod:- ·
Crynodeb o gyllideb yr Harbwr a’r sefyllfa
ariannol bresennol hyd at ddiwedd Medi, 2019. ·
Drafft o’r ffioedd a’r taliadau arfaethedig ar
gyfer Harbwr Porthmadog yn 2020/21 (yn cynnwys a heb TAW). Nodwyd y byddai’r drafft yn cael ei gyflwyno
i’r Aelod Cabinet ym mis Rhagfyr. Nodwyd
bod y ffigurau cofrestriadau cychod pŵer a chychod dŵr personol yng
Ngwynedd ym mharagraffau 2.4 a 2.6 o’r adroddiad yn wahanol i’r hyn a nodwyd yn
y tablau yn yr atodiadau i’r adroddiad.
Eglurwyd na pharatowyd y ddau set o wybodaeth ar yr un adeg, ond y
byddai’r ffigurau’n cael eu cysoni erbyn y cyfarfod nesaf. Nododd
y Rheolwr Morwrol a Pharciau Gwledig bod aelod wedi holi sut roedd y Cyngor am
ddelio gyda phroblem y cynnydd yn y mwd / tywod sy’n casglu ochr y trên bach
o’r Harbwr. Eglurwyd, er bod gan Gyngor
Gwynedd, fel yr Awdurdod Harbwr, yr hawl i garthu’r Harbwr, nad oedd gorfodaeth
arno i wneud hynny. Roedd y gwaith o
garthu unrhyw harbwr yn hynod gymhleth a chostus. Bu rhywfaint o waith carthu’r Harbwr yn 1994,
gan gludo’r mwd oddi yno i safle gwaredu cyfagos, ond gan fod hynny bellach yn
groes i reoliadau Ewrop, byddai’n rhaid cludo’r deunydd i safle tua 15 milltir
i’r Gogledd o Gaergybi. Er bod y
trefniadau, y lefelau incwm a’r hawliau mewn lle i garthu harbyrau Pwllheli a
Chaernarfon, ni ragwelid y byddai’n bosib’ gwneud y math yma o waith ym
Mhorthmadog, Abermaw nac Aberdyfi. Mewn
ymateb i gwestiwn pellach gan yr aelod, eglurodd y Rheolwr Morwrol a Pharciau
Gwledig nad oedd y cynnydd yn y mwd / tywod yn yr Harbwr yn arwain at golli
llefydd i angori mwy o gychod gan fod yna lawer o gapasiti yn yr Harbwr ar hyn
o bryd i gymryd angorfeydd. Holwyd ai
perchnogion y tai ar ochr bela’r Harbwr oedd â hawl ar yr angorfeydd yno. Mewn ymateb, nodwyd bod sedd y Cynrychiolydd
Buddiannau Perchnogion Tir ar y pwyllgor hwn yn wag ar hyn o bryd a bod
ganddynt hawl i enwebu cynrychiolydd i ddod i’r cyfarfodydd. Cyflwynodd yr Uwch
Swyddog Harbyrau adroddiad yr Harbwrfeistr yn crynhoi’r materion Mordwyo a
Gweithredol a wnaed ac a brofwyd yn y cyfnod rhwng mis Mawrth 2019 a mis
Hydref, 2019, gan gynnwys materion cynnal a chadw. Dosbarthwyd y
canlynol yn y cyfarfod:- ·
Drafft o’r Is-ddeddfau Harbwr a gofynnwyd i
aelodau’r pwyllgor gyflwyno unrhyw sylwadau fyddai ganddynt ar yr is-ddeddfau
drafft cyn 31 Rhagfyr, 2019. Nodwyd bod
copi electroneg o’r ddogfen ar gael petai’r aelodau’n dymuno hynny. ·
Rhaglen waith cynnal a chadw Harbwr Porthmadog
yn ystod y cyfnod Hydref 2019 –Chwefror 2020. Ymhellach i
gynnwys yr adroddiad, codwyd y materion a ganlyn:- · Nodwyd y byddai adroddiad ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
DYDDIAD Y CYFARFOD NESAF Nodi y cynhelir
cyfarfod nesaf Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog ar 11 Mawrth, 2020. Cofnod: Nodwyd y cynhelir y cyfarfod nesaf ar 11 Mawrth,
2020. |