Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

ETHOL IS-GADEIRYDD

I ethol Is-gadeirydd ar gyfer 2024-25.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2024/25.

 

Cofnod:

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorydd Delyth Lloyd Griffiths yn Is-gadeirydd y Pwyllgor ar gyfer y flwyddyn 2024/25.

 

2.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ymddiheuriadau.

 

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

4.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

5.

COFNODION pdf eicon PDF 137 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 07 Tachwedd 2024 fel rhai cywir. 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 07 Tachwedd 2024, fel rhai cywir.

 

6.

DIWEDDARIAD BLYNYDDOL GAN BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL GWYNEDD A MÔN pdf eicon PDF 437 KB

I roi trosolwg i Aelodau o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.    Cefnogi’r blaenoriaethau a chyfeiriad y gwaith i’r dyfodol.

3.    Argymell bod y Bartneriaeth yn ychwanegu gwaith ataliol mewn cyswllt â throseddau rhywiol yn flaenoriaeth benodol ar gyfer y dyfodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant, Uwch Reolwr Diogelu, Sicrwydd Ansawdd a Iechyd Meddwl, Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn, Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol a Phrif  Arolygydd Heddlu Gogledd Cymru.

 

Atgoffwyd bod cyflwyno diweddariad blynyddol ar weithrediad y Bartneriaeth Diogelwch yn ofyniad statudol ar Awdurdodau Lleol yn unol â Deddf Heddlu a Chyfiawnder Troseddol 2002 a 2006.

 

Eglurwyd bod Partneriaethau Diogelu Cymunedol wedi cael eu ffurfio yn 1988 er mwyn sicrhau bod trosedd ac anrhefn yn cael ei gysidro i fod yn broblem i bawb o fewn y gymdeithas, nid i’r heddlu yn unig. Ychwanegwyd bod gan y Bartneriaeth gyfrifoldeb i lunio a gweithredu strategaeth i atal a lleihau trais difrifol a bod hynny yn cael ei wneud yn rhanbarthol ar draws gogledd Cymru.

 

Pwysleisiwyd nad oes unrhyw arian yn cael ei ddyrannu yn barhaol ar gyfer diogelwch cymunedol ac mae’r Bartneriaeth yn ddibynnol ar gyfleoedd ariannu ad-hoc yn dilyn cyflwyno ceisiadau manwl. Nodwyd mai’r unig wasanaeth sydd yn cael ei gomisiynu yn uniongyrchol gan y Bartneriaeth yw’r Adolygiadau Dynladdiad Domestig (DHR). Eglurwyd bod yr Adolygiadau Dynladdiad Domestig yn ddyletswydd statudol yn sgil Deddf Trais Domestig, Trosedd a Dioddefwyr 2024. Cadarnhawyd bod dau adolygiad wedi cael eu cyflwyno i’r Swyddfa Gartref a’i gymeradwyo. Diweddarwyd bod y Bartneriaeth wedi gwneud cais i’r Gronfa Atal Hunan-niwed a Hunanladdiad er mwyn cyflwyno prosiect ar y cyd gydag Uned Diogelwch Cam-drin Domestig, Heddlu Gogledd Cymru, a’r llinell gymorth ‘Byw Heb Ofn’ i ddarparu cefnogaeth i ddioddefwyr o gam drin domestig. Mynegwyd balchder bod y cais hwn wedi cael ei gymeradwyo a bydd y prosiect yn cael ei ddatblygu yn ystod 2025.

 

Tynnwyd sylw at nifer o faterion sydd yn flaenoriaeth i’r bartneriaeth yn ystod 2024-25, yn seiliedig ar flaenoriaethau rhanbarthol Strategaeth Bwrdd Gogledd Cymru Mwy Diogel. Eglurwyd bod y rhain yn cynnwys:

·       Atal troseddau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol

·       Mynd i’r afael â throseddau treisgar

·       Mynd i’r afael â throseddau cyfundrefnol difrifol

·       Diogelu ac adeiladu cymunedau gwydn a chynnal diogelwch y cyhoedd.

 

Rhannwyd data ar nifer o wahanol fathau o droseddau gan gymharu ystadegau data 2023/24 gan edrych i weld os oedd cyfraddau ystadegau Gwynedd yn debyg i’r hyn a welir ar draws gogledd Cymru. Cydnabuwyd bod cynnydd sylweddol i weld yn nhroseddau ystelcian ac aflonyddu (+11.5%) a throseddau rhyw (+27.9%) o’i gymharu â chyfraddau 2023/24. Ystyriwyd bod y cynnydd hwn yn deillio o’r ffaith bod mwy o achosion yn cael eu hadrodd gan fod dioddefwyr yn fwy hyderus i wneud hynny yn dilyn ymgyrchoedd diweddar. Ychwanegwyd bod cynnydd i’w weld yn nifer o droseddau sydd yn cael eu hadrodd wedi i fwy na 12 mis fynd heibio ers y drosedd. Cyfeiriwyd hefyd at gyfraddau troseddau casineb gan nodi bod y rhain 16.3% yn uwch yng Ngwynedd o’i gymharu â 2023/24. Pwysleisiwyd bod cynnydd o 10.9% o’r math yma o droseddau i’w gweld yn rhanbarthol. Fodd bynnag, sicrhawyd nad yw cyfraddau’r holl fathau o droseddau ar gynnydd, megis digwyddiadau domestig (-1.3% o’i gymharu â 2023/24) a chyfraddau  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

ADRODDIAD BLYNYDDOL 2023/24 CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR pdf eicon PDF 181 KB

I graffu Adroddiad Blynyddol 2023/24 Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2023-29 – Gwynedd Werdd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.    Argymell y dylid cynnwys mwy o wybodaeth yn yr Adroddiad Blynyddol am yr hyn sy’n gyfrifol am y canrannau allyriadau carbon.

3.    Bod y pwyllgor yn craffu casgliadau adolygiad o’r Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur cyn i’r Cabinet ei ystyried.

4.    Gofyn i Arweinydd y Cyngor lobïo Llywodraeth Cymru yng nghyswllt adolygu’r fethodoleg o fesur allyriadau carbon sy’n deillio o brosesau caffael.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor, Y Prif Weithredwr a Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd.

 

Atgoffwyd bod Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur wedi cael ei fabwysiadu gan y Cabinet ar 8 Mawrth 2022 gyda’r uchelgais y ‘Bydd Cyngor Gwynedd yn garbon sero net ac yn ecolegol gadarnhaol erbyn 2030’. Ychwanegwyd bod y mater o ymateb i argyfwng newid hinsawdd yn un o flaenoriaethau ‘Gwella'r Cyngor’ o fewn Cynllun Cyngor Gwynedd 2023-28.

 

Eglurwyd bod allyriadau carbon y Cyngor wedi gostwng 16% o’i gymharu â’r waelodlin a sefydlwyd yn 2019/20, gan gynnwys caffael. Cydnabuwyd bod allyriadau carbon o brosesau caffael yn cyflwyno her i gyflawni’r uchelgais hwn gan ei fod yn seiliedig ar wariant yn unig a ddim yn cymryd i ystyriaeth lleoliadau mae’r Cyngor yn prynu nwyddau. Nodwyd bod hyn yn creu darlun camarweiniol o wir effaith gwariant ar yr hinsawdd.

 

Nodwyd bod £3miliwn wedi cael ei glustnodi ar gyfer creu cronfa Cynllun Hinsawdd drwy’r broses bidiau refeniw un-tro. Darparwyd diweddariad bod £792,015 yn weddill yn y gronfa hon ar ddiwedd Rhagfyr 2024 gan fod £2,207,984 wedi cael ei wario neu ei glustnodi ar gyfer gwariant. Eglurwyd bod y gwariant hwn yn cynnwys £500,000 ar bwyntiau gwefru ceir trydan a £2.1miliwn ar gynllun gwres carbon isel.

 

Esboniwyd bod materion sydd yn berthnasol i’r Cynllun yn datblygu’n gyflym a'i fod yn amserol i ystyried adolygu’r Cynllun. Anogwyd yr Aelodau i rannu unrhyw syniadau a datblygiadau priodol er mwyn eu hystyried wrth adolygu’r Cynllun.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Cyfeiriwyd at y bwriad i adolygu’r Cynllun. Cynigiwyd ac eiliwyd bod casgliadau o adolygiad y Cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor hwn pan yn amserol er mwyn i’r Pwyllgor gallu rhoi mewnbwn iddo cyn cyflwyno’r adolygiad i’r Cabinet.

 

Gofynnwyd a yw’r Bwrdd yn gwireddu anghenion amcanion y Cynllun yn effeithiol, neu a oes angen ystyried opsiynau eraill er mwyn sicrhau bod yr uchelgais yn cael ei gyfarch. Nododd y Prif Weithredwr bod yr adolygiad ar y Cynllun hwn yn mynd i asesu os yw’r prosiectau sydd mewn lle yn ddigonol i gyrraedd yr uchelgais, neu oes angen datblygu cynlluniau newydd. Ychwanegwyd bydd agweddau eraill o’r Cynllun yn cael ei asesu er mwyn ystyried ei fod yn addas i bwrpas, arbed arian ac yn gwarchod gwasanaethau. Hefyd, cadarnhawyd bydd ystyriaeth yn cael ei roi er mwyn gweld os mai’r Bwrdd yw’r cerbyd gorau i yrru’r Cynllun yn ei flaen neu oes angen ail-ystyried y strwythur.

 

Nodwyd bod buddsoddi mewn cynlluniau i leihau allyriadau carbon wedi arbed llawer o arian i’r Cyngor. Anogwyd y Cyngor i barhau i fuddsoddi yn y cynlluniau hyn i’r dyfodol.

 

Holwyd sut all y Pwyllgor hwn neu Aelodau Etholedig fod o gymorth i lobio’r  Llywodraeth yng nghyswllt heriau’r prosesau Caffael er mwyn galw am newid i sut mae caffael yn cael ei gofnodi wrth geisio lleihau allyriadau carbon. Mewn ymateb i’r sylwadau, cadarnhaodd y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd bod gwaith yn cael ei wneud er mwyn lleihau allyriadau carbon yn y maes caffael er bod heriau’n  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.

8.

ADRODDIAD CYNNYDD BWRDD GWASANAETHAU CYHOEDDUS GWYNEDD AC YNYS MÔN pdf eicon PDF 520 KB

I graffu Adroddiad Cynnydd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

1.    Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.    Gofyn bod adroddiadau i’r dyfodol yn cynnwys gwybodaeth/data ar gynnydd o ran cyflawni.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Arweinydd y Cyngor, Rheolwr Rhaglen Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwynedd ac Ynys Môn a’r Cyfarwyddwr Corfforaethol.

 

Atgoffwyd bod Cyngor Gwynedd yn un o 5 aelod statudol y Bwrdd, gan nodi bod cyfanswm o 15 sefydliad yn aelodau ohono. Manylwyd bod y rhain yn cynnwys Prif Weithredwyr ac Uwch Swyddogion y Gwasanaeth Tân, Cyfoeth Naturiol Cymru, Mantell Gwynedd, Coleg Llandrillo Menai, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Chyngor Sir Ynys Môn.

 

Nodwyd y cyhoeddwyd Cynllun Llesiant 2023-28 Gwynedd a Môn ym mis Mai 2023. Ymhelaethwyd bod y Cynllun hwn yn nodi tri amcan ble fydd Aelodau’r Bwrdd yn cydweithio i’w cyflawni, sef:

 

·       Lliniaru effaith tlodi ar lesiant cymunedau.

·       Gwella lles a llwyddiant plant a phobl ifanc er mwyn gwireddu eu llawn botensial.

·       Cefnogi gwasanaethau a chymunedau i symud tuag at sero net carbon.

 

Cyhoeddwyd bod trefniadau cyflawni’r Bwrdd wedi cael eu haddasu yn dilyn sylwadau a dderbyniwyd gan Bwyllgorau Craffu Cyngor Gwynedd a Chyngor Sir Ynys Môn. Ymhelaethwyd mai’r unig Is-grŵp sydd yn atebol i’r Bwrdd yw’r Is-grŵp Cymraeg. Eglurwyd fod yr Is-grŵp parhaol hwn wedi bod yn cydweithio’n agos gyda Chomisiynydd yr Iaith a phrosiect ARFOR er mwyn datrys heriau cynllunio gweithlu dwyieithog, gan ddatblygu rhestr wirio ymarfer da i gyflogwyr eu dilyn. Ychwanegwyd bod yr Is-grŵp wedi cyflwyno syniadau ar gyfer prosiect i ‘chwalu mythau’ yn y dyfodol agos er mwyn parhau i fynd i’r afael â heriau cynllunio’r gweithlu.

 

Cadarnhawyd bod y Bwrdd wedi ymrwymo i gynllun Pwysau Iach. Manylwyd bod y Bwrdd yn cydweithio ar lefel ranbarthol er mwyn sicrhau bod y cynllun yn ychwanegu gwerth a bod gweithdrefnau mewn lle er mwyn asesu effaith y cynllun i’r dyfodol.

 

Mynegwyd balchder bod y Bwrdd yn arwain ar Siarter Teithio Llesol, gan nodi bod digwyddiad wedi cael ei drefnu ar gyfer mis Mawrth ble fydd Aelodau’r Bwrdd yn ymrwymo yn swyddogol i’r Cynllun ym mhresenoldeb Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru. Ychwanegwyd bod Grŵp Tasg a Gorffen gweithredol mewn lle ar gyfer gweithredu’r Siarter hon, gan sicrhau bod arferion da ac adnoddau yn cael eu rhannu gyda’r holl Aelodau.

 

Adroddwyd bod cynllun cyflawni wedi cael ei ddatblygu gan y Bwrdd, gan nodi bod adroddiadau ar gynnydd Amcanion y Bwrdd yn cael eu derbyn yn rheolaidd. Eglurwyd bod y wybodaeth hon yn galluogi’r Bwrdd i adnabod os oes unrhyw amserlen i gwblhau unrhyw Amcan yn llithro, a’r rhesymau dros hynny.

 

Tynnwyd sylw at waith ymgysylltu mae’r Bwrdd yn ei wneud gyda chymunedau. Eglurwyd bod hyn yn cynnwys ymweliadau i bedair ysgol uwchradd yng Ngwynedd er mwyn trafod oblygiadau Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r Cynllun Llesiant. Ychwanegwyd bod gwaith wedi cael ei wneud yn Hafod y Gest, Porthmadog er mwyn canfod faint o ‘oed-gyfeillgar’ yw’r ardal, ar gais yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant Cyngor Gwynedd. Cadarnhawyd y bwriedir cynnal mwy o weithgareddau ymgysylltu yn y dyfodol wrth baratoi at ddatblygu asesiadau llesiant newydd yn 2025/26.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- 

Diolchwyd i’r Bwrdd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 8.

9.

BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU pdf eicon PDF 211 KB

Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2024/25.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer 2024/25.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu.

 

Atgoffwyd bod Blaenraglen ddiwygiedig ar gyfer 2024/25 wedi ei gymeradwyo yng nghyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 07 Tachwedd 2024.

 

Eglurwyd bod yr eitem ‘Cynllun Datblygu Lleol Newydd – Dewisiadau Strategol, Gweledigaeth ag Amcanion’ wedi llithro o’r cyfarfod hwn ac i’w raglennu yn ystod 2025/26. Nodwyd y byddai’n fwy amserol i’w graffu bryd hynny yn dilyn cwblhau gwaith ymchwil manwl ac ystyried data a oedd i’w gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

 

Penderfynwyd, yn dilyn ymgynghori gyda’r Cadeirydd, y byddai rhaglennu’r eitem hon yn ystod 2025/26 yn sicrhau bod craffu yn digwydd yn amserol ac yn gallu ychwanegu gwerth. Ychwanegwyd bod hyn yn golygu bod yr eitem ‘Cynllun Datblygu Lleol Newydd – Hoff Strategaeth’ yn llithro o gyfarfod 20 Mawrth 2025 ac i’w raglennu i’w graffu yn ystod 2025/26.

 

Mewn ymateb i sylwadau yng nghyswllt effaith gwrthod ceisiadau cynllunio am dai fforddiadwy ar niferoedd dysgwyr yn ysgolion Gwynedd yn y dyfodol, nododd yr Ymgynghorydd Craffu bod y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi wedi adnabod yr angen i graffu’r Strategaeth Addysg. Ychwanegodd bod Strategaeth ddrafft yn cael ei ddatblygu a bod niferoedd dysgwyr yn fater oedd yn cael sylw wrth ddatblygu’r Strategaeth.

 

PENDERFYNWYD

 

Mabwysiadu rhaglen waith diwygiedig y Pwyllgor Craffu Cymunedau ar gyfer   2024/25.

 

10.

CYFARFOD HERIO PERFFORMAD AMGYLCHEDD pdf eicon PDF 98 KB

I enwebu cynrychiolwr i fynychu cyfarfod herio perfformiad yr Adran Amgylchedd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Ethol y Cynghorwyr Beca Roberts a Berwyn Parry Jones i gynrychioli’r Pwyllgor yng nghyfarfod Herio Perfformiad yr Adran Amgylchedd ar 26 Mawrth 2025.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu.

 

Eglurwyd nad yw’r Aelodau a oedd yn cynrychioli’r Pwyllgor yng nghyfarfodydd Herio Perfformiad yr Adran Amgylchedd yn Aelodau o’r Pwyllgor bellach. Nodwyd yr angen i enwebu aelodau i gynrychioli’r Pwyllgor yn y cyfarfod Herio Perfformiad nesaf a gynhelir am 9:30yb ar Ddydd Mercher, 26 Mawrth 2025 dros Microsoft Teams. Pwysleisiwyd y disgwylir i’r Aelodau adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn ar unrhyw faterion Herio Perfformiad sydd yn berthnasol i waith y Pwyllgor hwn.

 

Adroddwyd mai’r cyfarfod hwn byddai’r cyfarfod Herio Perfformiad olaf y byddai cynrychiolwyr o’r Pwyllgor yn mynychu, cyn i drefniadau Herio Perfformiad yng nghyfarfodydd ffurfiol y Pwyllgorau Craffu ddod yn weithredol yn 2025/26.

 

PENDERFYNWYD ethol y Cynghorwyr Beca Roberts a Berwyn Parry Jones i gynrychioli’r Pwyllgor yng nghyfarfod Herio Perfformiad yr Adran Amgylchedd ar 26 Mawrth 2025.