Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriadau gan y Cynghorwyr Arwyn Herald
Roberts, Berwyn Parry Jones, Elfed Powell Roberts ac Elin Hywel. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd datganiad o fuddiant personol gan y Cynghorydd
Stephen Churchman, gan ei fod yn Gadeirydd Pwyllgor Neuadd Bentref
Garndolbenmaen sy’n derbyn grant o dan y Cynllun Grant Cymunedol. Nodwyd nad
oedd yn fuddiant sy’n rhagfarnu ac ni adawodd y cyfarfod ar gyfer y drafodaeth. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 23 Ionawr 2025 fel rhai cywir. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 23
Ionawr 2025, fel rhai cywir. |
|
CYFLWYNO PWYNTIAU GWEFRU CYHOEDDUS AR GYFER CERBYDAU TRYDAN I graffu trefniadau cyflwyno pwyntiau gwefru cyhoeddus ar gyfer cerbydau tryfan fel rhan
o Gynllun y Cyngor 2023-28 – Gwynedd Werdd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr
Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Amgylchedd (Trafnidiaeth) a
Rheolwr Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau. Adroddwyd bod y maes hwn yn dod
yn fwy amlwg ac yn ennill proffil uwch, gyda mwy o gerbydau trydan ar y ffyrdd,
gan adlewyrchu’r targed ar gyfer 2030 i leihau ac yna atal cynhyrchu cerbydau
petrol a disel. Nodwyd bod yr adran yn arwain ar ddarparu mannau gwefru
cyhoeddus a oedd yn brosiect blaenoriaeth o dan yr amcan Gwynedd Werdd yng Nghynllun y Cyngor
2023-28 , gan fod teimlad mewn rhai ardaloedd o Wynedd nad yw’r sector preifat
yn diwallu’r angen fel mewn mannau eraill. Esboniwyd mai’r bwriad ydy llenwi’r
bylchau lle nad oes darpariaeth gan sectorau eraill. Tynnwyd sylw at natur ddeinamig
y maes, gyda datblygiadau’n digwydd yn aml ac yn sydyn. Eglurwyd nad oedd yn
glir ble y byddai’r dechnoleg yn mynd nesaf, ond yr uchelgais fyddai cael
argaeledd darpariaeth a fyddai’n golygu bod yr amser gwefru cerbyd trydan yr un
fath â’r amser i lenwi car petrol neu ddisel. Nodwyd bod gwaith eisoes wedi’i
wneud i osod y pwyntiau gwefru, a bod cyfeiriad yn yr adroddiad at wefan ‘Zapmap’, sy’n dangos nifer fawr o bwyntiau gwefru newydd yn
ymddangos ledled y wlad. Nodwyd y byddai hyn yn dylanwadu ar rôl y Cyngor wrth
symud ymlaen, gan y byddai’n gynyddol anodd cydlynu a chael trosolwg o’r
lleoliadau. Eglurwyd bod y peiriannau’n cael
eu gosod bellach mewn mannau gwaith, siopau, datblygiadau eraill ac mewn
meysydd parcio sy’n eiddo i’r Cyngor ger canolfannau Byw’n Iach. Cadarnhawyd
bod gwaith ar y gweill i gyflwyno mwy o bwyntiau gwefru chwim. Esboniwyd y
byddai’r ffocws dros amser yn symud o argaeledd daearyddol tuag at faint o
bwyntiau fydd ar gael, gan dybio y bydd y galw’n cynyddu’n gyson. Nodwyd bod Strategaeth
Isadeiledd Cerbydau Trydan Gwynedd yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd, gan
gofio nad y mannau gwefru cyhoeddus yn unig sydd angen sylw, ond hefyd y cyfle
i bobl allu gwefru gartref. Eglurwyd bod gwaith ar y gweill i archwilio sut i
alluogi pobl i wefru ar y stryd, er bod hyn yn gymhleth oherwydd ystyriaethau
iechyd a diogelwch ac egwyddorion Deddf Priffyrdd. Yn
ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Diolchwyd am yr adroddiad, gan nodi bod
cynnydd da yn cael ei wneud tuag at greu rhwydwaith gwefru trydan a bod y
safleoedd newydd a’r rhai arfaethedig yn cael eu croesawu, yn enwedig y
pwyntiau gwefru chwim. Mynegwyd pryder bod gormod o ddibyniaeth ar beiriannau
gwefru araf 7kW. Ymhelaethwyd eu bod yn addas ar gyfer gwefru dros nos ond nid
ar gyfer gwefru cyflym mewn lleoliadau fel meysydd parcio. Croesawyd yr opsiwn o ddefnyddio cerdyn banc er mwyn talu yn hytrach na cherdyn neu apiau ar gyfer cwmnïau penodol megis GRIDSERVE neu Tesla. Credwyd bod defnyddio cerdyn banc yn ffordd symlach a bod hyn bellach yn ofyniad deddfwriaethol. Tynnwyd sylw at fylchau yn y rhwydwaith, megis Aberdaron lle’r mae’r pwynt gwefru chwim agosaf dros 50 milltir i ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
I ystyried
adroddiad cynnydd ar Strategaeth Toiledau Lleol Gwynedd. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Penderfynwyd: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn
ystod y drafodaeth. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod
Cabinet Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac
YGC a Rheolwr Asedau Bwrdeistrefol. Nodwyd bod gan Wynedd ar hyn o bryd 61
o doiledau cyhoeddus a 39 o doiledau mewn busnesau sy’n cymryd rhan yn y
Cynllun Grant Cyfleusterau Cyhoeddus. Pwysleisiwyd bod rhan fawr o Wynedd yn
gorwedd o fewn Parc Cenedlaethol Eryri, ac felly fod gan y Parc Cenedlaethol ac
Ymddiriedolaeth Genedlaethol doiledau cyhoeddus hefyd. Nodwyd felly bod nifer
dda o gyfleusterau ar gael ar hyd a lled y sir. Eglurwyd bod yr adroddiad yn
rhoi diweddariad ar weithrediad y Strategaeth Toiledau Cyhoeddus ers 2019, ac
yn cynnwys cynllun gweithredu sy’n nodi’r camau nesaf a’r camau sydd eisoes
wedi’u cyflawni i wella delwedd y toiledau cyhoeddus a chyfarch disgwyliadau
defnyddwyr, yn ogystal ag egluro pa ffynonellau ariannu sydd ar gael i wella’r
ddarpariaeth, beth yw’r amserlen ddiweddaraf o ran cyflwyno technoleg talu
di-gyffwrdd, a beth yw’r sefyllfa o ran incwm. Nodwyd bod grantiau amrywiol
wedi’u denu drwy amryw o ffyrdd dros y flwyddyn ddiwethaf, gan gynnwys y Gronfa
Ffyniant Gyffredin. Pwysleisiwyd bod ymdrechion wedi parhau i gael mynediad at
grantiau, gyda chais wedi’i gyflwyno ar gyfer y rownd nesaf o arian gan y
Gronfa Ffyniant Gyffredin. Nodwyd bod cyllideb refeniw’r
gwasanaeth yn gyfyngedig a’i bod wedi bod dan bwysau sylweddol oherwydd cyflwr
yr adeiladau a fandaliaeth. Nodwyd bod y rhan fwyaf o’r gyllideb wedi’i
defnyddio i gynnal a chadw’r cyfleusterau presennol, gan adael ychydig iawn ar
gyfer adnewyddu neu wella. Cyfeiriwyd at gynllun grant gan
Llywodraeth Cymru sydd yn darparu cyllid i fusnesau sy’n fodlon agor eu
cyfleusterau i’r cyhoedd. Nodwyd ei bod yn ofynnol i’r busnesau sicrhau
arwyddion priodol, a bod swyddogion yn monitro bod hynny’n digwydd. Cadarnhawyd
nad oes unrhyw fusnesau ar y rhestr aros ar hyn o bryd, felly mae modd cynnwys
busnesau newydd pe byddent yn ymddangos. Eglurwyd bod gwefan y Cyngor yn nodi’r
busnesau sy’n cymryd rhan yn y cynllun a bod y rhestr honno ar gael i’r
cyhoedd. Nodwyd bod gwaith wedi mynd rhagddo i adolygu’r trefniadau glanhau, ac
er bod y safonau’n gyffredinol yn foddhaol, credwyd fod lle i wella. Atgoffwyd bod pwysau ar y Cyngor rai
blynyddoedd yn ôl i arbed arian drwy gau toiledau cyhoeddus, ond yn hytrach na
gwneud hynny, sefydlwyd cynllun partneriaeth gyda chynghorau tref a chymuned.
Nodwyd y bydd angen adolygu’r cyfraniad hwn eleni, gan nad oes chwyddiant
wedi’i godi ar y cyfraniad ers cyflwyno’r cynllun. Nodwyd
bod pum toiled gyda threfn codi tâl am eu defnydd. Nodwyd bod bid i adnewyddu a
gosod drysau talu modern wedi bod yn llwyddiannus, ond y bu llithriad yn y
rhaglen waith. Disgwyliwyd y byddai’r ddarpariaeth newydd ar gael cyn bo hir,
ond nid oedd modd adrodd ar ei heffeithiolrwydd eto. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Diolchwyd am y cyflwyniad. Cyfeiriwyd at brif amcanion y strategaeth wrth fynegi pryder ynghylch y diffyg dull clir o’u mesur, sydd yn hollbwysig. Er enghraifft, er bod yr amcanion yn sôn am annog ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
TORRI GWAIR A CHYNNAL YMYLON FFYRDD SIROL Dilyniant
yn dilyn Craffu yng nghyfarfod 22 Chwefror 2024. Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Penderfynwyd:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod
Cabinet Priffyrdd, Peirianneg ac YGC, Pennaeth Adran Priffyrdd, Peirianneg ac
YGC a’r Pennaeth Cynorthwyol. Eglurwyd bod dyletswyddau statudol ar
awdurdodau lleol i gynnal a gwella bioamrywiaeth, ond bod dyletswydd foesol
hefyd ar y Cyngor i weithredu yn gadarnhaol. Nodwyd bod gan y Cyngor
gyfrifoldeb fel tirfeddiannwr sylweddol i osod esiampl a chryfhau gwytnwch
ecosystemau’r ardal. Mynegwyd bod y gwaith a wnaed hyd yma yn gam cyntaf
cadarnhaol ac yn gam ar y ffordd tuag at wireddu’r uchelgeisiau hyn. Cadarnhawyd bod y ffigurau
presennol yn yr adroddiad yn dangos sut y mae’r gwasanaeth wedi addasu’r
trefniadau torri glaswellt, gan greu mwy o arwynebedd ar gyfer blodau gwyllt i
dyfu ac annog pryfed peillio. Eglurwyd y gobaith yw, wedi cwblhau’r treialon, y
gellir eithrio ardaloedd sylweddol o ymylon ffyrdd o’r contract presennol a’u
cynnwys mewn trefniant newydd o dorri a chasglu glaswellt. Fodd bynnag, nodwyd y bydd angen
ystyried sawl ffactor cyn gweithredu hyn, gan gynnwys hyfywedd ariannol, gan
fod y Cyngor dan bwysau ariannol sylweddol a methu fforddio cynyddu costau wrth
weithredu trefniadau newydd. Nodwyd bod angen penderfynu pwy fydd yn cyflawni’r
gwaith, ai gweithlu mewnol y Cyngor sydd â’r arbenigedd angenrheidiol, neu
gontractwyr allanol. Tynnwyd sylw at ymateb y cyhoedd
i’r trefniadau newydd, gan gyfeirio at yr ymgyrch ‘Nature
is not neat’ ac at y ffaith bod gan unigolion farn
wahanol am daclusrwydd. Nodwyd yr angen i sicrhau nad yw’r newidiadau’n arwain
at gwynion gan y cyhoedd. Eglurwyd bod torri ymylon ffyrdd
trefol hefyd yn rhan o’r gwaith, nid yn unig am resymau diogelwch ond hefyd i
wella delwedd cymunedau. Yn y mannau hyn, caiff glaswellt ei dorri rhwng tair a
phum gwaith y flwyddyn, a hynny’n is i’r ddaear. Nodwyd bod rhai cynghorau tref a
chymuned yn talu’r Cyngor i dorri glaswellt yn amlach, ond bod eraill yn
awyddus i neilltuo tir ar gyfer blodau gwyllt, gan gydweithio â’r Cyngor neu’n
gofyn iddynt wneud y gwaith ar eu rhan. Cyfeiriwyd at y treialon yn Nwyfor a’r gwaith yn Meirionnydd, lle derbyniwyd adroddiad
gan ecolegydd lleol cyn dechrau’r gwaith gyda’r tîm yn gweithredu yn unol â’r
adroddiad. Eglurwyd bod y profiad yn gyffredinol yn gadarnhaol, ond bod
problemau wedi codi, megis pan dorrodd contractwr safle ar gam gan adael
glaswellt ar wyneb y tir, neu pan fu i Dŵr Cymru
dyrchu dros waith oedd eisoes wedi’i gwblhau cyn i arwyddion allu cael eu
gosod. Nodwyd bod camau wedi'u cymryd i unioni’r sefyllfa ac y caiff gwersi eu
dysgu. Edrychwyd ymlaen at gamau nesaf
y cynllun, gan gynnwys archwiliadau i safleoedd yn Arfon ac ehangu’r treialon y
flwyddyn ganlynol, os bydd cyllid ar gael. Nodwyd bod gwaith cydweithredol yn
digwydd rhwng yr Adran Amgylchedd a’r Tîm Bioamrywiaeth, gan obeithio derbyn
cyllid i ychwanegu mwy o safleoedd. Eglurwyd bod Gwasanaeth Cynnal Tiroedd wedi cychwyn cynnal treialon torri a chasglu eu hunain ar rai o’r tiroedd maent yn gyfrifol am eu cynnal, fel Cerrig yr Orsedd yng Nghaernarfon. Nodwyd bod grant gan Bartneriaeth Natur Gwynedd ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |