Rhaglen, penderfyniadau a chofnodion drafft

Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Rhodri Jones  01286 679556

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

I dderbyn ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorwyr Beca Roberts, Arwyn Herald Roberts a Robert Glyn Daniels.

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

 

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Dim i’w nodi.

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 201 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2026 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 22 Ionawr 2026, fel rhai cywir.

 

5.

DIWEDDARIAD BLYNYDDOL GAN BARTNERIAETH DIOGELWCH CYMUNEDOL GWYNEDD A MÔN pdf eicon PDF 998 KB

I roi trosolwg i Aelodau o weithgareddau Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

  1. Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.
  2. Gofyn bod Adroddiadau Blynyddol yn y dyfodol yn cynnwys data am fesurau perfformiad gan gynnwys mesurau yng nghyswllt troseddu, a map sy’n amlygu lleoliad troseddau.
  3. Gofyn i dderbyn data a gwybodaeth bellach am y sesiynau ‘Peidiwch â Dwyn fy nyfodol’, cynhaliwyd gan RASASC Cymru (Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol).
  4. Gofyn am ddata am y nifer o sesiynau a’r nifer o unigolion sydd wedi cyflawni hyfforddiant VAWDASV (Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol), a bod y data hwn yn cael ei gynnwys o fewn yr Adroddiad Blynyddol yn y dyfodol.
  5. Annog Cyngor Gwynedd i symud ymlaen i dderbyn achrediad ‘Cyngor Trawma Wybodus’.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant ac yr Uwch Swyddog Gweithredol Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Gwynedd a Môn.

 

Cadarnhawyd bod yr adroddiad yn darparu diweddariad cynhwysfawr ar waith y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol gan ddangos sut mae’n cydweithio er mwyn mynd i’r afael â throsedd ac anrhefn ar draws Gwynedd a Môn ac i wella diogelwch i’n cymunedau.

 

Eglurwyd bod y Bartneriaeth yn gweithio i gynllun blynyddol sydd yn seiliedig ar flaenoriaethau Strategaeth Bwrdd Gogledd Cymru Fwy Diogel. Ymhelaethwyd bod y Bartneriaeth yn derbyn data chwarterol gan yr heddlu er mwyn nodi tueddiadau, llywio trafodaethau,  cefnogi ymyrraeth gynnar a datrys problemau lleol o fewn cymunedau.

 

Pwysleisiwyd nad oes gan y Bartneriaeth gyllid craidd parhaol a nodwyd nad yw’n comisiynu gwasanaethau yn uniongyrchol oni bai am Adolygiadau Dynladdiad Domestig (DHR). Eglurwyd bod y bartneriaeth yn ddibynnol yn bennaf ar gyfleoedd grant tymor byr neu gystadleuol i gefnogi ei waith ehangach.

 

Manylwyd ar weithgaredd y Bartneriaeth gan gadarnhau ei fod yn parhau i ddarparu Cynllun Diogelwch Cymunedol a ffurfio adroddiadau chwarterol ohono i Fwrdd Partneriaeth Gogledd Cymru Fwy Diogel. Nodwyd hefyd bod y Bartneriaeth yn darparu cyfraniad gweithredol i Strategaeth Trais Difrifol Gogledd Cymru gan egluro ei fod yn ddyletswydd genedlaethol newydd.

 

Mynegwyd balchder bod £65,000 wedi cael ei ddyrannu  ar gyfer saith prosiect ataliol yng Ngwynedd a Môn. Manylwyd bod y prosiectau yng Ngwynedd yn cynnwys:

 

·       Sesiynau ‘Peidiwch â Dwyn fy Nyfodol’ a gynhaliwyd gan RASASC Cymru (Canolfan Gefnogi Trais a Cham-drin Rhywiol) er mwyn codi ymwybyddiaeth o drais rhywiol ymhlith disgyblion ac i ddylanwadu ar agweddau ac ymddygiadau.

·       Ymgyrch ymwybyddiaeth ynghylch gwerthu ‘vapes’ anghyfreithlon a cham-fanteisio plant, gan rannu deallusrwydd.

·       Darpariaeth ieuenctid ychwanegol dros wyliau ysgol i bobl ifanc 11-25 mewn ardaloedd sydd â risg uchel o droseddu, trais ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

·       Prosiect ar y cyd gydag Adran Addysg y Cyngor i leihau eithriadau ac atal trais difrifol drwy hyfforddiant, mentora a gwaith grŵp, gyda’r nod o gadw disgyblion mewn ysgol ac yn ddiogel.

 

Cyfeiriwyd at brosiectau eraill a gyflawnwyd gan y Bartneriaeth megis uwchraddio camerâu cylch cyfyng yng Nghaernarfon, Bangor a Pwllheli; datblygu a peilota pecyn ymwybyddiaeth Troseddau Cyfundrefnol Difrifol ar gyfer staff awdurdodau lleol a bod yn Aelod parhaus o Banel Strategol Diogelu a Grŵp Gweithredol Diogelu’r Cyngor.

 

Tynnwyd sylw bod y bartneriaeth yn cydweithio’n agos gydag Arweinydd Rhanbarthol ar Hunanladdiad a Hunan-niwed yn y Gwasanaeth Iechyd gan nodi bod gweithdy aml-asiantaeth wedi cael ei ddarparu gan y Bartneriaeth i fanylu ar y cysylltiad rhwng cam-drin domestig a hunanladdiad. Cyfeiriwyd hefyd at waith parhaus yn Bartneriaeth gyda Strategaeth Lleihau Niwed Alcohol rhanbarthol sydd yn mynd i’r afael â lleihau niwed sydd yn gysylltiedig ag alcohol.

 

Eglurwyd bod y Bartneriaeth wedi cyflwyno hyfforddiant proffesiynol ar themâu rhywiaeth, gwrywdod a thrais. Cadarnhawyd bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cais grant cyfalaf VAWDASV (Trais yn Erbyn Menywod, Cam-Drin Domestig a Thrais Rhywiol) er mwyn prynu 100 camera diogelwch i oroeswyr cam-driniaeth ddomestig a chyfrannu at waith rhanbarthol ar safoni ‘target hardening’ drwy wneud cartrefi dioddefwyr a goroeswyr yn  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5.

6.

GWASANAETHAU CASGLU GWASTRAFF AC AILGYLCHU pdf eicon PDF 495 KB

I graffu materion sy’n gysylltiedig â Gwasanaethau Casglu Gwastraff ac Ailgylchu, sy’n rhan o Gynllun y Cyngor 2023-28 – Gwynedd Werdd.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd:

1.     Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

2.     Argymell i’r Aelod Cabinet Amgylchedd:

·       dylid ystyried dwysáu hyfforddiant/ymgyrchoedd i addysgu ar bwysigrwydd ailgylchu.

·       dylid ystyried cyflwyno cosbau am fethu ag ailgylchu’n briodol.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Aelod Cabinet Amgylchedd a Phennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd. Tynnwyd sylw at y prif bwyntiau canlynol.

 

Adroddwyd bod yr Adran yn gweithio i ddatblygu Strategaeth Gwastraff ar hyn o bryd gan ymgymryd ag agwedd uchelgeisiol er mwyn datrys problemau. Cydnabuwyd bod targedau Llywodraethau megis y targed o ailgylchu 70% o holl wastraff y sir, yn heriol iawn i’w cyfarch.

 

Cadarnhawyd bod yr Adran wedi addasu strwythur gweithredol trefniadau casglu gwastraff i ddwy ran er mwyn gwella perfformiad. Eglurwyd bod ardal y De yn gweithredu ar gyfer Dwyfor a Meirionnydd gyda’r Gogledd yn gwasanaethu Arfon. Adroddwyd bod addasu’r strwythur gweithredol wedi gwella perfformiad y gwasanaeth. Yn debyg, atgoffwyd bod system Bartec yn cael ei ddefnyddio gan yr Adran er mwyn addasu cylchdeithiau yn ddynamig ac yn unol ag anghenion gweithredol y gwasanaeth. Tynnwyd sylw y bydd aelodau yn derbyn cyflwyniad ar sut mae’r systemau yma yn cynorthwyo’r adran yn Fforymau Ardal y Cyngor yn hwyrach ymlaen eleni. Yn yr un modd, adroddwyd bod gosod system camerâu ar y cerbydau casglu hefyd wedi cynorthwyo i wella gwelededd i waith y staff, gwella iechyd a diogelwch a cyflwyno’r gallu i ymateb i gwynion gyda tystiolaeth gadarn.

 

Eglurwyd y cynhaliwyd ymgynghoriad yn ddiweddar fel rhan o ddatblygu’r Strategaeth Gwastraff. Nodwyd y derbyniwyd 1,245 o ymatebion i’r ymgynghoriad. Adroddwyd bod 62% o’r ymatebwyr yn nodi bod eu bin gwastraff gweddilliol dim ond tua thri chwarter llawn neu lai ar ddiwedd y cyfnod o 3 wythnos. Ymhelaethwyd bod 15% o ymatebwyr yn nodi nad oeddent yn gallu ymdopi gyda capasiti presennol y bin a’r amserlen casglu gan ei fod yn llawn cyn y diwrnod casglu. Tynnwyd sylw bod ail-asesu amlder casglu a maint y biniau gweddilliol yn gallu bod yn ddiwygiad a all ei gyflawni er mwyn cefnogi’r Cyngor i gyrraedd y targed o ailgylchu 70% o wastraff. Pwysleisiwyd bod yr Adran yn cydweithio gyda WRAP Cymru (Waste and Resources Action Programme) er mwyn ymchwilio i’r gwahaniaeth gwirioneddol byddai addasu hyn yn ei wneud .

 

Atgoffwyd bod yr Adran wedi cychwyn treialu defnyddio sachau hessian yn hytrach na’r cart-gylchu, gan adrodd bod canlyniadau’r treial hwnnw yn gymharol lwyddiannus. Nodwyd bod bwriad i gynnal treialon mewn ardaloedd eraill o’r sir cyn yr haf. Esboniwyd bod y sachau yn rhatach na’r cartgylchu ac y byddent yn caniatáu mwy o gapasiti ailgylchu i drigolion petai’r Cyngor yn penderfynu ailgylchu mwy o nwyddau fel plastigion meddal.

 

Cadarnhawyd bod gwaith yn parhau i wella ymddygiadau trigolion tuag at ailgylchu gan nodi bydd llythyr yn cael ei  yrru i bob cartref yn y Sir dros yr wythnos nesaf er mwyn gwella ailgylchu yng Ngwynedd. Wrth ystyried materion gorfodaeth o fewn y gwasanaethu gwastraff, cadarnhawyd nad oes modd cynnal gwasanaethau gorfodaeth os yw aneddleoedd yn gor-gynhyrchu gwastraff oni bai ei fod yn arwain at faterion megis tipio slei bach.

 

Mynegwyd balchder bod sefyllfa gorwariant y gwasanaeth wedi gwella ond cydnabuwyd bod lle i wella er mwyn bod mewn sefyllfa ble mae cyllideb gytbwys. Ymfalchïwyd bod perfformiad y gwasanaeth y  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6.

7.

LLWYBRAU pdf eicon PDF 1 MB

I graffu materion sy’n gysylltiedig â llwybrau er mwyn darparu sicrwydd o ran gweithrediad.

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

Penderfynwyd derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd, Pennaeth Cynorthwyol Adran Amgylchedd, Rheolwr Gwasanaeth Traffig a Phrosiectau ac Arweinydd Tîm Llwybrau. Tynnwyd sylw’n fras at y prif bwyntiau canlynol:

 

Adroddwyd bod llwybrau hawliau tramwy cyhoeddus yn adnodd gwerthfawr sydd yn cyfarch nifer o amcanion strategol y Cyngor, tra bod eu defnyddwyr yn cael mwynhau tirwedd amrywiol y Sir. Ymhelaethwyd eu bod yn ddull o sicrhau mynediad i awyr iach ar gyfer ei ddefnyddwyr, yn ddull da o gadw’n iawn ac yn heini tra hefyd yn adlewyrchu hanes a diwylliant y cymunedau. Mynegwyd bod rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus Gwynedd yn hirfaith, gyda chymaint o filltiroedd o lwybrau i’w troedio, ei fod yn gyfystyr â cherdded o Gaernarfon i Cairo (2,418 milltir).

 

Eglurwyd bod y llwybrau hawliau tramwy cyhoeddus yn cynnwys Llwybr Arfordir Cymru, rhwydwaith Lonydd Glas yng Ngwynedd a nifer o lwybrau teithiau llesol sydd yn cael eu datblygu gan y Cyngor, ynghyd â llwybrau eraill.

 

Cyfeiriwyd at rai o heriau’r gwasanaeth yn deillio o doriadau yng nghyllidebau, tra bod disgwyliad deddfwriaethol parhaus ar y Cyngor i sicrhau bod rhai o’r llwybrau yn aros ar agor ar gyfer defnydd.

 

Cyfeiriwyd at raglen waith y Tim Llwybrau gan egluro bod eu prif weithgareddau yn cynnwys:

 

·       Torri tyfiant tymhorol

·       Adnewyddu seilwaith (pontydd, waliau, gatiau, camfeydd, cylfats)

·       Gosod seilwaith newydd

·       Gweithredu cynllun arwyddo

·       Ymateb i ymholiadau, cwynion a cheisiadau rhyddid gwybodaeth

·       Ymdrin a holl faterion cyfreithiol y maes:

o   Cynnal y map/cofnod swyddogol o ran tramwy cyhoeddus yn y Sir

o   Ymdrin â cheisiadau am hawliadau, newidiadau a gwyriadau i’r rhwydwaith a’r map swyddogol sydd yn ddarostyngedig i brosesau cyfreithiol.

 

Cadarnhawyd bod gwaith yn mynd rhagddo er mwyn sicrhau bod y llwybrau hyn mor hygyrch a phosib, gan gyfnewid camfeydd am giatiau ble’n bosib fel bod modd i fwy o ddefnyddwyr ddilyn y llwybrau.

 

Ychwanegwyd bod effeithiau newid hinsawdd a thywydd cythryblus yn gallu gorfodi swyddogion i newid trywydd llwybrau, os nad oes modd ei ddefnyddio mwyach megis os oes tirlithriadau wedi bod ger unrhyw lwybr. Nodwyd bod costau ychwanegol er mwyn gwneud hyn sydd yn cael effaith ar gyllidebau’r gwasanaeth.

 

Nodwyd bod gwaith ar droed i addasu polisi hawliau tramwy a’r Cynllun Gwella Hawliau Tramwy gan gadarnhau bydd y gwasanaeth yn cynnal ymgynghoriad ar y mater. Gobeithiwyd bydd trawstoriad o wahanol gymunedau o wahanol ardaloedd o’r Sir yn cyfrannu sylwadau ac adborth o fewn yr ymgynghoriad hwnnw.

 

Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan yr Aelodau:-

 

Tynnwyd sylw ni ellir defnyddio nifer o lwybrau o fewn y sir oherwydd gordyfiant. Mewn ymateb, eglurodd Arweinydd y Tîm Llwybrau bod diffyg adnoddau wedi gorfodi’r Tîm i gategoreiddio llwybrau yn unol â’r defnydd ohonynt gan nodi nad oes cyllidebau nac adnoddau ar gael i gynnal a chadw pob un llwybr o fewn y Sir. Ymhelaethwyd bod y Tîm yn ddibynnol ar adborth gan Gynghorau Cymuned ac Aelodau Lleol i nodi pa lwybrau sydd yn cael y mwyaf o ddefnydd o fewn eu hardaloedd, a chynnal trafodaethau gyda’r Tîm. Mewn ymateb i ymholiad pellach, eglurwyd  ...  gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7.