Lleoliad: Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor Caernarfon ac yn rhithiol drwy Zoom. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Rhodri Jones 01286 679556
| Rhif | eitem |
|---|---|
|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn
ymddiheuriadau am absenoldeb. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd Dafydd Davies. |
|
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol. |
|
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw
eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried. Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Dim i’w nodi. |
|
|
Bydd y
Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a
gynhaliwyd ar 11 Mehefin 2026 fel rhai cywir.
Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Llofnododd y
Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 11
Mehefin 2026 fel rhai cywir. |
|
|
ADRODDIAD BLYNYDDOL CYNLLUN ARGYFWNG HINSAWDD A NATUR 2025/26 I graffu Adroddiad Blynyddol Cynllun Argyfwng Hinsawdd a Natur
2025/26. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: 1.
Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau a
gyflwynwyd yn ystod y drafodaeth. 2.
Croesawyd y bwriad i drafod gyda Gweinidogion
Llywodraeth Cymru o ran methodoleg
cyfrifo allyriadau carbon yn y maes Caffael, ynghyd a dilyniant i’r
cynllun EC04 sydd yn dirwyn i ben. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Rheolwr Rhaglen Newid Hinsawdd
gan nodi ei fod yn adrodd ar waith a wnaethpwyd yn 2025/26 ac o dan y cynllun
Argyfwng Hinsawdd a Natur gwreiddiol, sydd bellach wedi ei ddiweddaru a’i
fabwysiadu gan y Cabinet yn haf 2026. Mynegwyd fod y Cyngor yn adrodd ar allyriadau Carbon i
Lywodraeth Cymru ers pedair blynedd bellach. Esboniwyd fod hyn yn rhoi sail
gadarn i weld os yw’r cynnydd yn mynd i’r cyfeiriad cywir. Nodwyd yn ogystal
fod ffigyrau yn cael ei gyflwyno gan gynnwys mesuriadau caffael a hebddynt, gan
nad yw’r fethodoleg yn hollol gywir gyda chaffael am ei fod yn seiliedig ar
wariant. Eglurwyd o edrych ar y ddau ddarlun ei fod yn dangos eu bod ar y trywydd cywir. Manylwyd fod allyriadau carbon
yn gostwng a bod lefelau amsugno carbon yn aros yn gyfartal oherwydd eu bod
wedi defnyddio ystadegau 2024/25, ond fod y bwlch yn cau. Ychwanegwyd fod
esboniadau dros hyn yn yr adroddiad, ond eu bod yn cynnwys buddsoddiad gwaith
ar leihau allyriadau o ddefnydd ynni adeiladau, gosod pwyntiau gwefru fflyd a
bod y strategaeth wastraff bellach yn weithredol. Pwysleisiwyd fod y darlun yn
eang a chymhleth ond eu bod ar y trywydd cywir. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y
sylwadau a ganlyn:- Diolchwyd am yr
adroddiad a thynnwyd sylw at gyfrifo allyriadau carbon o’r drefn caffael, gan
nodi os yw’n cael ei fesur ar wariant yn unig sut mae modd cyrraedd sero net.
Gyda chynnydd mewn costau ni fydd modd ei gyrraedd gan ei fod yn darged sydd yn
symud yn gyson. Ychwanegwyd gyda chynnydd mewn costau tanwydd mae’r allyriadau
am godi drwy’r mesurydd hwn. Nodwyd ei fod yn wallgof cyfri ôl troed carbon
drwy gaffael gan nad oes modd i neb gyrraedd sero net. Pwysleisiodd ei fod yn
ymwybodol mae mesurydd Llywodraeth Cymru yw hwn ond nad yw’n adlewyrchu’r
sefyllfa a bod gwir angen ei gwestiynu. Ymatebwyd gan nodi eu bod yn cytuno yn
llwyr gyda’r sylwadau ond fod y Cyngor wedi gwneud un cam positif wrth edrych
ar brosesau caffael. Esboniwyd fod llawer o amser wedi ei dreulio i gefnogi
cyflenwyr ac i’w cynorthwyo i ddatblygu cynlluniau rheoli carbon eu hunain.
Drwy wneud hyn, eglurwyd ei fod wedi arwain at leihau lefelau carbon o fewn y
cwmnïau a'u galluogi i roi data carbon cywir sydd yn cael ei fwydo yn ôl i
Lywodraeth Cymru. Ymhelaethwyd drwy nodi fod canran uwch o’r data yn gywir o ganlyniad
i’r gefnogaeth sydd wedi’i gynnig, ond os am weld y math yma o brosiect ar
draws Cymru mae am fod angen llawer mwy
o adnoddau. Ychwanegwyd fod yr Aelod Cabinet wedi holi’r Llywodraeth
newydd am drafodaeth bellach am y mesur hwn. Tynnwyd sylw at y siart Amsugno Carbon o asedau tir y Cyngor gan holi pam fod gostyngiad mawr wedi bod yn ddwy flynedd gyntaf y cynllun ac yna cynnydd graddol i’w gweld yn dilyn hynny, gyda niferoedd 2025/26 yn uwch na beth oeddent yn 2021/22. Ymatebwyd drwy nodi fod y fethodoleg a ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 5. |
|
|
CYNNAL PRIFFYRDD - GOSOD MARCIAU FFORDD I adolygu trefniadau
presennol. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi fod yr adran ar hyn o bryd yn edrych ar gamau i wella’r
gwasanaeth. Nodwyd y trefniadau presennol sef fod contractwr allanol yn gwneud
y gwaith o farcio ffyrdd, oni bai am un cyfarpar marciau ffyrdd a llaw yn ne'r
Sir. Pwysleisiwyd mai dim ond dau gontractwr sydd yn gweithio ar draws y
Gogledd, ac felly fod yr amser aros i wneud y gwaith yn gallu bod yn hir.
Tynnwyd sylw at y camau i wella’r gwasanaeth sydd i’w weld yn yr adroddiad.
Nodwyd mai cam dau yw buddsoddi mewn cyfarpar marciau ffyrdd a llaw ychwanegol,
ynghyd a hyfforddi staff i’w ddefnyddio, ar gyfer ei weithredu yng Ngogledd y
sir. Eglurwyd fod cam 3
ar gyfer datblygu cynllun busnes i fuddsoddi mewn cerbyd pwrpasol gosod marciau
ffordd, gan gyflwyno bid buddsoddi i arbed. Ychwanegwyd y buasai hyn yn sicrhau
fod gwaith yn cael ei gwneud yn gynt ac y buasai cyfle i gynnig gwaith i siroedd
cyfagos a chodi incwm. Ychwanegwyd y buasai ei weithredu yn fewnol yn ei gwneud
yn llawer haws i reoli’r sefyllfa. Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:- Nodwyd fod y
ffaith mai dim ond dau gontractwr sydd ar gael i wneud y gwaith, yn amlygu’r
angen i gefnogi’r achos yma. Er hynny, mynegwyd y buasai yn ddefnyddiol gweld
yr achos ariannol dros hynny yn ogystal, efallai wrth gyflwyno i’r Cabinet i
weld y darlun dros y 5-10 mlynedd o ran cost staffio, cynnal a chadw ynghyd a’r
incwm ychwanegol. Ymatebwyd drwy nodi fod cael y ffigyrau yn hanfodol i
gyflwyno’r bid, ond heb gyrraedd y pwynt hwn eto. Mynegwyd o ran costau y
buasai cost o oddeutu £200k o ran buddsoddiad i brynu’r peiriant. Eglurwyd fod
sgyrsiau cychwynnol wedi cychwyn gyda’r Asiantaeth Cefnffyrdd, sydd wedi nodi
cefnogaeth a gwaith os yn mynd lawr y trywydd buddsoddi. Ymhelaethwyd bod
trafodaeth gychwynnol wedi bod â siroedd cyfagos. Mynegwyd fod yr elfen
ariannol yn allweddol ond fod enw da’r Cyngor yn ogystal, hynny yw ymateb yn amserol
a chyflym. Nodwyd fod buddsoddiad wedi ei wneud ar gyfer cam 2, a’i fod yn gam
i’r cyfeiriad cywir. Holwyd sut mae
modd diffinio llwyddiant y gwasanaeth, oherwydd mae marciau ffyrdd yn bwysig o
ran traffig a diogelwch ond mae’n angenrheidiol ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn
ogystal. Gofynnwyd sut mae’r drefn yn ystyried gwahanol ddefnyddwyr wrth
flaenoriaethu marciau ffordd, a sut mae mesurau perfformiad yn ein galluogi i
weld faint o waith, ynghyd a ble mae gwaith yn digwydd, a pha anghenion sydd yn
cael eu diwallu. Ymatebwyd drwy nodi fod blaenoriaethu yn dod lawr i asesiad
risg a bod diogelwch ffyrdd yn rhan o waith yr arolygwr ffordd, gan ystyried y
ffordd i gyd gan gynnwys y marciau ffordd. Eglurwyd fod mesurau yn dod i mewn
i’r drefn herio perfformiad ac y bydd enghreifftiau yn cael ei ystyried wrth
adrodd. Tynnwyd sylw at farciau ffordd yn dilyn ail wynebu, esboniwyd fod weithiau cyfnod o 6 wythnos neu fwy cyn maent yn ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. |
|
|
CAU FFYRDD MEWN ARGYFWNG I sicrhau
bod trefniadau priodol ar waith ar gyfer rheoli a chydlynu cau ffyrdd mewn
amgylchiadau brys ac argyfwng. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod cau ffyrdd mewn
argyfwng yn un rhan o waith yr uned Gwaith Stryd ar ffyrdd sirol. Mynegwyd eu
bod yn gyfrifol yn unol â’r ddeddfwriaeth i alluogi ymgymerwyr statudol i wneud
gwaith ar y ffyrdd. Ychwanegwyd fod prosesau gwahanol i’w dilyn pan mae gwaith
argyfwng yn codi o’i gymharu â gwaith wedi’i gynllunio. Nodwyd pan fo argyfwng
nad oes modd ymgysylltu gan nad oes modd rhagweld ymhle a pryd gall godi ar draws
rhwydwaith sir mor eang. Eglurwyd mai gwaith cyd-lynu sydd gan yr uned yn y
maes, ond eu bod a’r bwriad o liniaru cymaint â bo modd yr effaith ar gymunedau
ond fod angen cadw mewn cof yr angen i waith brys neu argyfwng gael ei wneud
gan ymgymerwyr statudol. Mynegwyd mewn oes o gyfathrebu ei bod yn hawdd cael
gwybodaeth allan pan mae argyfwng yn codi sydd yn gallu bod o gymorth ond ei
bod yn gallu gweithio yn eu herbyn pan fod nifer uchel o wybodaeth yn cael ei
rannu neu os yw’r cyfnod amser yn fyr sydd yn gallu creu dryswch sydd yn anodd
ei dynnu yn ôl. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
ganlyn:- Tynnwyd sylw at faterion penodol mewn ardal gyda chau ffyrdd
gan nodi diffyg cyfathrebu rhwng y Chyngor a’r rhai sydd yn gwneud y gwaith.
Eglurwyd fod llawer o achlysuron ble mae’r Cynghorydd wedi cysylltu â’r Cyngor
i nodi fod y lon wedi cau gan nad oedd y Cyngor yn ymwybodol o’r gwaith, yn benodol
gan Dŵr Cymru. Holwyd os oes modd cael gwell cydweithrediad gyda’r cwmnïau
cau ffyrdd. Eglurwyd fod Dŵr Cymru wedi comisiynu cwmni o Sir Gaer i gau
ffyrdd, ond nad oedd y gwaith wedi digwydd ac o ganlyniad fod y trigolion wedi
ail agor y ffordd eu hunain o ganlyniad. Ychwanegwyd fod y lon wedi cau yn
dilyn hyn ond nad oedd neb yn ymwybodol ac felly fod hynny wedi arwain at
broblemau trafnidiaeth gyhoeddus. Ymatebwyd drwy nodi eu bod yn cydymdeimlo yn llwyr ac yn
deall y rhwystredigaeth a'u bod yn ymgeisio i gael perthynas iach gyda’r
ymgymerwyr statudol a bod disgwyliadau iddynt rannu gwybodaeth. Er nad oedd
ganddo fanylder am yr achos dan sylw, mynegwyd fod achosion yn gallu newid yn
dilyn ymchwiliad a gweld hyd a lled y gwaith. Mynegwyd nad yw’r system yn
berffaith ond eu bod yn awyddus i gydweithio i’w wella. Pwysleisiwyd ei fod yn
hanfodol derbyn enghreifftiau, a'u bod yn cael cyfarfodydd rheolaidd gyda’r
ymgymerwyr er mwyn gweld gwelliant. Nodwyd fod anawsterau wedi bod gan Dŵr
Cymru yn dilyn penodi cwmni rheoli traffig newydd ond fod gwelliant wedi ei
weld bellach. Ychwanegwyd eu bod yn dirwyo os yn cau ffordd heb rybudd. Holwyd o ran trefniadau traffig, gofynnwyd pwy oedd yn anfon y mapiau ar gyfer dargyfeirio traffig. Mynegwyd fod y rhain yn ddefnyddiol iawn er mwyn ei rhannu a thrigolion. Tynnwyd sylw at enghraifft o ddargyfeiriad yn dilyn cau ffordd gan Dwr Cymru a aeth yn llawer pellach ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 7. |
|
|
BLAENRAGLEN PWYLLGOR CRAFFU CYMUNEDAU 2026/27 Cyflwyno
rhaglen waith ddrafft y Pwyllgor ar gyfer 2026/27 i’w mabwysiadu. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer 2026/27. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu. Esboniwyd fod gweithdy blynyddol y Pwyllgor wedi’i gynnal ar
19 Mai, ble ystyriwyd yr eitemau posib i’w craffu yn ystod 2026/27.
Blaenoriaethwyd eitemau yn y gweithdy gan gadw pwrpas craffu yng Ngwynedd mewn
cof, sef “Cyfrannu at yrru gwelliant mewn gwasanaethau i Bobl Gwynedd”. Eglurwyd yn dilyn y gweithdy, codwyd rhai materion a
phenderfynwyd rhoi ystyriaeth iddynt. Penderfynwyd symud rhai eitemau ar y
rhaglen waith ddrafft ac i nodi “Gwasanaeth Profedigaeth” fel eitem wrth gefn.
Pwysleisiwyd fod y blaen raglen yn rhaglen fyw sydd yn cael ei adolygu yn gyson
i sicrhau fod y materion cywir yn cael sylw. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a
ganlyn:- Awgrymwyd y dylid derbyn adroddiad yn ôl ar y peilot
defnyddio bagiau hesian i ailgylchu mewn rhai ardaloedd. Esboniwyd y bydd y
diweddariad yma i’w gweld a’i godi wrth drafod adroddiad Herio Perfformiad yr
Adran Amgylchedd. Mynegwyd fod llystyfiant ochor ffordd yn broblem gyson o ran
lonydd gwledig. Nodwyd ei fod yn fater i’w drafod wrth graffu perfformiad ac o
bosib i gadw mewn cof ar gyfer ei graffu yn y dyfodol. PENDERFYNWYD Mabwysiadu’r rhaglen waith ar gyfer 2026/27. |
|
|
CYFARFODYDD HERIO PERFFORMIAD I enwebu
cynrychiolwyr I fynychu cyfarfodydd herio perfformiad. Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Enwebu’r aelodau canlynol i gynrychioli’r pwyllgor yng
nghyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Amgylchedd:
Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan yr Ymgynghorydd Craffu. Mynegwyd yn dilyn trafodaeth yn y Fforwm Craffu a galwad gan
aelodau’r pwyllgor craffu mae bwriad i dreialu gwadd dau gynrychiolydd o bob
pwyllgor craffu i fynychu cyfarfodydd herio perfformiad mewnol un adran.
Eglurwyd fod y Fforwm Craffu wedi argymell i gynrychiolydd o’r pwyllgor hwn
fynychu cyfarfod herio perfformiad yr Adran Amgylchedd. Gofynnwyd i’r rhai sydd
yn cael ei henwebu i fynychu, gadw mewn cof fod ffurflen i’w llenwi yn dilyn y
cyfarfod er mwyn gallu adrodd yn ôl i’r pwyllgor. Cynigwyd ac eiliwyd, y Cynghorydd Stephen Churchman ac Arwyn
Herald Roberts i gynrychioli’r Pwyllgor, gyda Chynghorydd Beca Roberts wrth
gefn pe bai angen yn codi. PENDERFYNWYD Enwebu’r aelodau canlynol i gynrychioli’r pwyllgor yng
nghyfarfodydd herio perfformiad yr Adran Amgylchedd: ·
Y Cynghorwyr Stephen Churchman ac Arwyn
Herald Roberts (gyda’r Cynghorydd Beca Roberts wrth gefn) |