Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau
Cyswllt: Lowri Haf Evans 01286 679878
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU I dderbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb COFNODION: Derbyniwyd ymddiheuriadau
gan y Cynghorydd Linda
Morgan |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL I dderbyn unrhyw ddatganiad o fuddiant personol COFNODION: Cynghorwyr Aled W Jones,
Annwen Hughes, Kevin M Jones, Angela Russell, Gethin G Williams ac Elwyn Jones yn eitem 7 ar
y rhaglen gan eu bod yn berchen
neu yn perthyn
i rywun agos
sydd yn berchen
tŷ gwyliau Roedd yr aelodau o’r
farn eu bod yn fuddiannau a
oedd yn rhagfarnu
a gadawsant y cyfarfod yn ystod y drafodaeth
ar yr eitem. |
|
MATERION BRYS Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried. COFNODION: Dim i’w nodi |
|
Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd Hydref 22ain 2020 fel rhai cywir COFNODION: Llofnododd y Cadeirydd gofnodion y cyfarfod blaenorol o’r pwyllgor hwn
a gynhaliwyd ar y 22ain o Hydref 2020, fel rhai cywir. |
|
AELOD CABINET: Cynghorydd Dyfrig Siencyn I ystyried yr
adroddiad Penderfyniad: Derbyn yr adroddiad gan nodi’r sylwadau. COFNODION: Cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu
trefniadau llywodraethu'r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (BGC). Ymhelaethwyd ar gynnwys yr
adroddiad a rhoddwyd diweddariad byr ar y datblygiadau o fewn y meysydd blaenoriaeth ynghyd a gwaith yr is-grwpiau
sydd yn gyfrifol
am y meysydd hynny. Ers mis Mawrth
2020, yn wyneb pandemig covid-19, eglurwyd bod cyrff cyhoeddus wedi gorfod addasu
i ymateb i’r argyfwng iechyd
drwy newid eu ffordd o weithio
a chysylltu gydag eraill. Cyfeiriwyd at weithdy a gynhaliwyd ym mis Medi
2020 i drafod rôl y Bwrdd yn
eu gwaith o adfer cymunedau o’r pandemig. O ganlyniad i ganfyddiadau’r gweithdy addaswyd ffrydiau gwaith yr is-grwpiau presennol
ynghyd a’u rhaglenni gwaith a chytuno ar gerrig
milltir. Cytunwyd hefyd i wneud
gwaith ymchwil pellach mewn rhai
meysydd (tlodi ariannol a diweithdra ymhlith pobl ifanc)
er mwyn canfod
y sefyllfa ddiweddaraf. Bydd canfyddiadau’r gwaith ymchwil hynny yn cael
eu cyflwyno i’r Bwrdd Gwasanaethau
Cyhoeddus ar 16eg Rhagfyr 2020. Canfyddiad arall y gweithdy oedd bod nifer o’r partneriaid yn ymateb i
anghenion llesiant ein cymunedau fel
sefydliadau unigol. Eglurwyd bod y BGC yn gadarn eu bod am osgoi dyblygu gwaith,
a'u bod yn ymchwilio i sut
y gallent weithredu heb ddyblygu’r gwaith a wneir gan bartneriaid unigol er mwyn
ychwanegu gwerth at gynlluniau presennol. Un modd o osgoi
dyblygu gwaith yw bod y Bwrdd o bryd i’w gilydd
yn gwahodd partneriaid eraill i roi cyflwyniadau
am eu gwaith fel y Bartneriaeth Sgiliau a Phartneriaeth Diogelwch Cymunedol. Diolchwyd am yr adroddiad Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:- ·
Os am graffu gwaith y Bwrdd, bod angen gwybodaeth am fesuriadau, targedau, data, llwyddiannau ·
Pam nad yw’r Heddlu yn rhan
o’r Bwrdd? ·
Bod diffyg
tai ar gael i brynu yn
lleol ·
Cefn gwlad yn dioddef gyda
gwasanaethau yn symud neu cau
mewn cymunedau ·
Ethos Cymdeithasau Tai oedd prynu tai yn lleol yn
hytrach nag adeiladau i bobl leol
- angen canolbwyntio ar yr elfen
o ail adeiladu i warchod yr iaith
a sicrhau bod unrhyw arian sydd yn
cael ei dderbyn e.e., Premiwm Treth Cyngor ar gyfer ail gartrefi
yn cael ei
fuddsoddi yn yr ardaloedd hynny
sydd yn dioddef
o’r effaith Mewn ymateb i sylw
nad oedd
Llywodraeth Cymru wedi rhagweld yr
angen i gyfrannu
at gostau cynnal a chadw'r arfordir mewn ymateb i
gynnydd mewn defnydd / ymwelwyr o ganlyniad i’r pandemig,
awgrymwyd bod angen addasu meddylfryd y Llywodraeth i ddeall
bod rhai materion arfordirol tu hwnt
i strategaethau Awdurdodau Lleol. Amlygwyd bod Gwynedd eisoes wedi gorfod ymdrin
gyda chostau ychwanegol o gynnal a chadw'r isadeiledd o gwmpas y cynnydd mewn defnydd. Ategwyd bod Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru yn nodi bod rhaid i gyrff cyhoeddus ganolbwyntio ar sut mae eu penderfyniadau yn mynd i gael effaith hirdymor, gan gydweithio i atal problemau rhag digwydd a chydnabod na all unrhyw gorff cyhoeddus unigol ymateb i’r heriau mawr. Cytunwyd yr angen i drafod ... view the full COFNODION text for item 5. |
|
DIWEDDARIAD ADOLYGIAD PARCIO PDF 432 KB AELOD CABINET: Cynghorydd Gareth Griffith I ystyried yr adroddiad Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyn y diweddariad a chefnogi argymhelliad y
Grŵp Tasg y dylid cynyddu ffioedd talu ac arddangos 10%. COFNODION: Cyflwynwyd adroddiad gan Pennaeth
Adran Amgylchedd a rhoddwyd trosolwg ar ei gynnwys.
Nodwyd prif ddiben yr adroddiad
sef bod y strategaeth bresennol, y mabwysiadwyd yn 2015, yn dod i derfyn
yn 2021. Atgoffwyd y pwyllgor bod tasglu parcio wedi ei
sefydlu i ystyried yr angen
i gynyddu incwm ynghyd a’r
heriau a chyfleoedd newydd sydd wedi
codi ers y strategaeth parcio ddiwethaf gael
ei sefydlu ym mis Chwefror
2015. Adroddwyd bod dau brif her gan
y grŵp tasg sef i gynyddu
incwm i’r nod o £400,000 ag yn ail i
gyflawni hynny heb effeithio’n ormodol ar drigolion
Gwynedd. Eglurwyd bod sawl newid wedi bod yn arferion parcio
dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys; ·
Mwy o dwristiaid ac o
ganlyniad mwy o alw ar lefydd
parcio. ·
Mwy o geir trydan yn cael
eu prynu ac felly cyfle i osod
mannau gwefru ceir. ·
Cynnydd yn y defnydd o daliadau di gyffwrdd, amlygu’r angen i uwchraddio’r
peiriannau talu yn y meysydd parcio. ·
Cynnydd mewn cartrefi modur yn parcio mewn
mannau amhriodol. Ymhelaethwyd ar y pwyntiau uchod
gan nodi'r angen i gynnig
darpariaeth talu a cherdyn yn gyfochrog
a thaliadau arian.
Nodwyd bod darpariaeth talu dros y ffôn
wedi ei sefydlu,
ond ei fod
yn ddibynnol ar ffon symudol
a signal digonol i wneud y taliadau. Fodd bynnag, dengys
bod cynnig y ddau opsiwn yn mynd
i hwyluso codi mwy o incwm
yn y dyfodol gan fod modd
i bobl sydd
heb arian
ddefnyddio’r meysydd parcio. Adnabuwyd y pryderon sydd wedi
eu hamlygu’n ddiweddar ynghylch cerbydau gwyliau a’r cynnydd a fu
wrth i gyfyngiadau
rhwystro teithiau tramor. Eglurwyd nad oedd
hwn yn fater
hawdd i’w ddatrys a bod y broblem wedi bodoli ers
rhai blynyddoedd bellach. Nodwyd bod datrysiadau megis, creu is-ddeddfau, cynyddu swyddogion gorfodaeth a hefyd addasu’r meysydd i hwyluso’r parcio
cerbydau gwyliau ond gan godi
ffioedd derbyniol arnynt am y gwasanaeth. Cyfeiriwyd at argymhelliad y grŵp tasg parcio o godi
ffioedd 10% o fewn y meysydd parcio fel dull o gynyddu incwm. Ategwyd at hyn bod y grŵp tasg wedi adnabod na ddylid codi ffioedd ar
barcio mewn mannau anabl ac felly byddai'r rhain yn parhau am ddim. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau:- ·
Mynegwyd pryder ynghylch cerbydau gwyliau yn parcio mewn
mannau heb gyfleusterau ac mewn mannau gwyddonol ac Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE). Nodwyd bod tystiolaeth o ddefnyddwyr yn gwaredu a gwastraff carthffosiaeth mewn mannau cyhoeddus. ·
Cododd yr awgrym y dylid pwyso am greu is-ddeddfau er mwyn
gwarchod mannau aros rhag i
bobl parcio eu cerbydau gwyliau
yna. ·
Nodwyd bod angen cefnogi busnesau carafanau lleol ac felly ni ddylid
y Cyngor buddsoddi mewn cynnig gwasanaethau ym meysydd parcio
ar eu cyfer. · Teimlai rhai aelodau bod y tocyn blynyddol am £140 yn swm uchel i rai talu ar unwaith, gan nad oes modd talu’n fisol ... view the full COFNODION text for item 6. |
|
PAPUR YMCHWIL: RHEOLI’R DEFNYDD O DAI FEL TAI GWYLIAU PDF 224 KB AELODAU CABINET: Cynghorydd Gareth Griffith (Amgylchedd) Cynghorydd Craig ab Iago (Tai) I ystyried yr
adroddiad Dogfennau ychwanegol: Penderfyniad: Derbyn cynnwys yr
adroddiad Diolch i’r
swyddogion am gyflwyno tystiolaeth a gwybodaeth fanwl a defnyddiol a ellid ei
ddefnyddio i geisio dwyn perswâd ar Lywodraeth Cymru i newid eu polisïau
cynllunio. COFNODION: Cyflwynwyd gwaith ymchwil a gomisiynwyd gan y Cabinet ym mis Gorffennaf
2019 oedd yn ymwneud a cheisio cyfarch sut y byddai
modd cyfyngu ar faint o dai y gellid eu defnyddio
at ddibenion gwyliau, gan edrych ar
fesurau gweithredol mewn llefydd eraill
a sut byddai modd newid y ddeddfwriaeth
gynllunio er mwyn gweithredu yng Nghymru. Gofynnwyd
hefyd am sylwadau’r Pwyllgor ar y gwaith
cyn adrodd i’r Cabinet ar y 15fed o Ragfyr 2020. Tynnwyd sylw, er pwrpas
y gwaith, y diffiniwyd ‘cartrefi gwyliau’ fel; • Unedau gwyliau a
osodir yn y tymor byr: Tŷ
preswyl (dosbarth defnydd C3) sydd ddim yn cael
ei feddiannu’n rheolaidd ac yn cael ei ddefnyddio’n
achlysurol drwy ei osod ar
gyfer defnydd gwyliau ar sail fasnachol. • Ail gartref: Tŷ preswyl (dosbarth defnydd C3) sydd yn cael ei
ddefnyddio’n achlysurol gan y perchennog (ond ddim yn
brif gartref) yn ogystal ag
ymwelwyr eraill ar gyfer pwrpas
gwyliau. Cafwyd cyflwyniad manwl, ystyrlon i’r gwaith ac fe drafodwyd y chwe argymhelliad. Nodwyd bod yr argymhellion
yn rhoi opsiynau
o ran y mecanwaith posib a ellid ei
gweithredu er mwyn cael rheolaeth
a lleihau effaith llety gwyliau ar
gymunedau. Eglurwyd y byddai rhai argymhellion
yn cael eu
trafod ar y cyd ac yn faterion
i Lywodraeth Cymru eu gweithredu,
tra bod modd gweithredu eraill ar lefel lleol
e.e., gweithredu polisïau cynllunio lleol yn effeithiol
– gellid rhoi ystyriaeth bellach i’r argymhelliad yma yn y tymor
byr ac wrth adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd. Diolchwyd am yr adroddiad Amlygodd Aelod Cabinet Amgylchedd ei siom
mai Dinas Caerdydd oedd yr
unig Awdurdod arall oedd wedi
cyfrannu i’r gwaith ymchwil, ond bod siroedd eraill wedi dangos
diddordeb ers i’r adroddiad gael ei ryddhau
yn gyhoeddus. Ategodd bod un Sir eisoes wedi cyflwyno
rhybuddion o gynnig o flaen eu Cyngor. Derbyniodd bod her yn wynebu’r Cyngor gan nad oedd
llawer o ddiddordeb gan y Llywodraeth yn y sefyllfa ar
yn o bryd, ond gyda dogfen
weithredol yn cael ei chefnogi
gan dystiolaeth bod modd dechrau gweithredu
ac ymateb i’r her. Nododd Pennaeth Tai ac Eiddo ei fod yn
llongyfarch y tîm ar eu gwaith
gan ategu bod y dystiolaeth a gasglwyd yn lladd esgusodion
Llywodraeth Cymru o weithredu. O ystyried cyflwyniad Premiwm Tai, Cynllun Gweithredu Tai Gwynedd ynghyd a'r gwaith
ymchwil, amlygodd bod tystiolaeth bendant i osod cyfeiriad
i reoli’r defnydd. Ategodd Aelod Cabinet Tai ac Eiddo bod y papur ymchwil yn cyflwyno
ffeithiau sydd bellach yn arf
i herio Llywodraeth
Cymru – rhaid rheoli’r defnydd. Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:- ·
Croesawu’r adroddiad – yn sylfaen dda i
ddechrau lobio ac yn gyfle euraidd
i newid y drefn a chymryd cyfrifoldeb a rheolaeth dros y sefyllfa · Bod yr adroddiad yn cyfarch materion megis AirBnb, ond dim digon yn cael ei wneud i newid y Ddeddf ... view the full COFNODION text for item 7. |